Sir Benfro Ddiogelach

Cam-drin Domestig

Mae cam-drin domestig yn gallu digwydd i unrhyw berson.  Yn ôl yr ystadegau presennol bydd cam-drin domestig yn effeithio ar gymaint ag 1 menyw mewn 4 ac 1 dyn mewn 6 ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

Dyma'r diffiniad traws-lywodraethol o drais a cham-drin domestig: "Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag ymddygiad rheolaethol, cymhellol neu fygythiol neu drais neu gam-drin rhwng yr unigolion hynny sy'n 16 oed neu drosodd sydd, neu sydd wedi bod, yn gymheiriaid mynwesol neu sy'n perthyn i deulu, ni waeth beth yw eu rhywedd na'u rhywioldeb. Gall y cam-drin gwmpasu, ond nid yw'n cael ei gyfyngu i'r math canlynol o drais: 

  • seicolegol
  • corfforol
  • rhywiol
  • ariannol
  • emosiynol

Mae hyn yn cynnwys materion pryder i gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) fel 'trais wedi'i seilio ar anrhydedd', llurgunio organau cenhedlu menywod (FGM) a phriodas orfod. 

Y diffiniad o oedolyn yw unrhyw berson sy'n 18 oed neu hŷn; a'r diffiniad o aelodau'r teulu yw mam, tad, mab, merch, brawd, chwaer a mam-guod a thad-cuod, pa un ai perthnasau uniongyrchol, teulu yng nghyfraith neu lysdeulu ydynt.

Mae cam-drin domestig yn digwydd ledled cymdeithas, ni waeth beth fo'r oedran, rhywedd, hil, rhywioldeb, cyfoeth na'r ddaearyddiaeth chwaith. Yn aml bydd cam-drin domestig yn ymwneud â phatrwm o ymddygiad difrïol a rheolaethol sy'n tueddu i waethygu gydag amser.

Os ydych chi'n credu bod hyn, o bosibl, yn digwydd i chi ac yr hoffech gael gair hollol gydgyfrinachol â rhywun amdano, mae croeso ichi ffonio: 0808 8010 800 neu am ragor o wybodaeth ewch at; Cymorth i Ferched Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Os ydych chi mewn perygl enbyd cofiwch ffonio 999.

Sir Benfro Ddiogelach

Grŵp amlasiantaeth yw Fforwm Cam-drin Domestig Sir Benfro ac mae e'n gyfrifol am rannu gwybodaeth ac arfer da mewn perthynas â gwasanaethau cam-drin domestig. Mae'r fforwm yn gweithredu yn ôl y Cylch Gorchwyl canlynol:

  • Meithrin grŵp amlasiantaeth cadarn ac ymroddedig sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r holl faterion sy'n ymwneud â cham-drin domestig.
  • Cynyddu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o faterion cam-drin domestig a hybu gwaith y fforwm o fewn y bartneriaeth, a thynnu sylw sefydliadau eraill a'r cyhoedd hefyd at waith y fforwm.
  • Rhannu gwybodaeth ac adnoddau mewn perthynas â phopeth sy'n ymwneud â cham-drin domestig.
  • Rhestru a lledaenu arfer da, gweithdrefnau a hyfforddiant yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol.
  • Cynorthwyo a llywio gwaith y grŵp cyflawni mewn perthynas â Cham-drin Domestig, pan mae cynllun busnes Cam-drin Domestig yn cael ei lunio.
  • Cefnogi gwaith yr amryw is-grwpiau a rhoi gorchwylion i'r grwpiau sy'n gysylltiedig â'r fforwm.
  • Rhestru'r cyfleoedd posibl i sicrhau arian.
  • Cael cyflwyniadau rheolaidd ar amrywiaeth o bynciau er mwyn cynorthwyo i lywio gwaith y fforwm.

Mae'r Grŵp Cyflawni ynghylch Cam-drin Domestig yn goruchwylio'r cynllun busnes dwy flynedd ynghylch Cam-drin Domestig.

Bydd dau grŵp arall yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn canolbwyntio ar faterion a gyfyd o'r Llys Cam-drin Domestig Arbenigol (gwasanaeth llys arbenigol sy'n cael ei gynnull er mwyn cynorthwyo dioddefwyr i erlyn y troseddwyr) a chanolbwyntio ar wasanaethau i Blant a Phobl Ifanc.

Gwasanaethau

Mae nifer o raglenni ar gael i gynorthwyo pobl ifanc I ddod i ddeall beth yw perthnasoedd iach ac afiach yn ogystal â sylweddoli beth yw cam-drin domestig. Mae'r pecyn sbectrwm yn cael ei gynnig ar hyn o bryd gan Hafan Cymru mewn nifer o ysgolion uwchradd ledled Sir Benfro a chaiff rhaglen Diogelwch, Ymddiried a Pharch ei chynnal gan Gymorth i Fenywod Cymru. 

Caiff Criw Craff ei gynnig i holl blant Blwyddyn 6 (10 - 11 oed) ac un o'r sesiynau a gynigir yw bwlian yn y cartref.

Siop Un Alwad

Mae'r Ganolfan ar gyfer Adnoddau Trais Domestig (CEDAR) yn cynnig cyswllt canolog i bawb sy'n pryderu am gamdriniaeth deuluol pa un ai fel dioddefwr, cyfaill, perthynas neu blentyn. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o grwpiau a chynlluniau presennol sy'n cael eu rhedeg gan asiantaethau proffesiynol eraill er mwyn i'n cleientiaid ddod i amgylchedd cysurus a chyfarwydd. Mae'r gwasanaeth, sy'n cynnwys cyngor, cwnsela a hyfforddiant, ar gael i ddynion, merched a phlant sy'n chwilio am gefnogaeth ynghylch materion camdriniaeth deuluol.

Cymorth i Ferched Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cymorth i Ddioddefwyr (yn agor mewn tab newydd)

 

 

ID: 2873, adolygwyd 07/11/2024