Sir Benfro Ddiogelach

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Ar hyn o bryd mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn bwnc llosg.  Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau y rhoddir gwybod amdanynt, yn ymwneud ag ymddygiad stwrllyd neu niwsans, yn aml gan gymdogion.  Gall yr ymddygiad hwn effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd a chydlyniad ein cymunedau. Byddwn yn gweithio'n galed i fynd i'r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar sail amlasiantaethol, gan ymateb yn effeithiol a chydgysylltiedig ar sail atal ac ymyriad cynnar. Fe all yr amgyffred cyffredinol o bobl ifanc yn arbennig fod yn negyddol iawn. Mae addysg a gwaith atal yn helpu rhoi sylw i'r teimladau hyn.

Mae Cyngor Sir Penfro a Heddlu Dyfed Powys yn sefydliadau arweiniol yn Sir Benfro Ddiogelach. Ffurfiwyd y Bartneriaeth o sefydliadau amrywiol er mwyn dod ag arbenigedd at ei gilydd i helpu nid yn unig y rheiny yr effeithir arnynt gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond yn aml y rheiny sy'n achosi'r broblem hefyd.

Trwy gymryd ymagwedd ar y cyd ledled y Sir, rydym ni'n gallu rhannu gwybodaeth ar draws asiantaethau o dan Adran 115 y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a'r Ddeddf Diogelu Data 1998, sy'n caniatáu i ni gofnodi, canfod ac atal digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw unrhyw ymddygiad sy'n achosi aflonyddwch, ofn a thrallod i unrhyw unigolyn. Nid yw'n bosibl creu rhestr yn hawdd o'r pethau hynny a allai cael eu galw'n Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, fodd bynnag, canllaw bras fyddai ystyried a yw'r ymddygiad sy'n achosi'r aflonyddwch, ofn neu drallod yn arferol.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n dioddef effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Cofiwch bob amser nad oes yn rhaid i chi ei ddioddef.

  • Gallwch siarad â'r unigolyn neu bobl sy'n gyfrifol. Gall hyn ddatrys y broblem, ond gwnewch hyn yn unig os ydych chi'n teimlo ei fod yn ddiogel i'w wneud.
  • Gallwch gael help o'r tu allan, gan ddibynnu ar y broblem, gallwch ffonio'r Cyngor, yr Heddlu, neu'r ddau.
  • Cadwch gofnod o bob gweithred o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd hyn yn help i adeiladu darlun manwl o'r broblem rydych chi'n ei phrofi.

Pwy i gysylltu â nhw os ydych chi'n ddioddefwr, neu'n dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol

Yr Heddlu

Os ydych chi'n cael profiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n cynnwys rhywun yn ymddwyn yn dreisgar tuag atoch, neu'n eich bygwth chi â thrais, yn difrodi neu'n bygwth i ddifrodi eich eiddo, neu'n bod yn ymosodol yn hiliol, cysylltwch yr heddlu bob amser ar rif nad yw'n frys, tri digid newydd yr heddlu, 101.

Mewn achos brys, ffoniwch 999 bob amser 

Y Cyngor Sir

Ar gyfer niwsans sŵn, cerbydau wedi'u gadael, cŵn peryglus, baeddu cŵn a thipio anghyfreithlon, cysylltwch â 01437 764551.

Ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gan ddibynnu ar y math o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n cael ei hysbysu, ac i bwy, efallai y bydd modd datrys y mater yn gyflym neu fe all fod angen ymchwiliad pellach i roi sylw effeithiol i'r sefyllfa. Fe all yr achos gael ei gyfeirio at Wasanaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed Powys (sy'n cael ei ddarparu gan Gwalia) fydd yn gweithio gydag asiantaethau partner ar ymateb ar y cyd i'r broblem.

Mae amryw ffyrdd o roi sylw i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn aml mae angen dweud wrth bobl sy'n ei achosi eu bod yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol; gall hyn ddigwydd trwy rybuddion ysgrifenedig neu drwy eu cyfarfod. Os bydd y broblem yn parhau efallai y bydd gofyn iddynt lofnodi Contract Ymddygiad Derbyniol (ABC) neu Gontract Magu Plant ac, mewn achosion eithafol, mae modd gwneud cais am orchmynion mwy ffurfiol. Gall achosion eraill arwain at droi allan o'u tŷ neu arestio am aflonyddu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch materion tai yr awdurdod lleol, ewch at Swn a Niwsans Cymdogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch rheoli cŵn, ewch at Gwasanaeth Rheoli Cŵn

Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol ('Sbardun Cymunedol') 

Mae'r Adolygiad Achos yn grymuso’r rhai sydd wedi  dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml i ofyn am adolygiad o'r camau mae asiantaethau partner wedi'u cymryd i ddatrys eu pryderon. I fod yn gymwys, mae angen ichi:

  • tri digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y chwe mis diwethaf i’r Cyngor, yr heddlu neu landlord lle nad oes camau effeithiol wedi’u cymryd

  • un digwyddiad o drosedd neu ddigwyddiad casineb lle na chymerwyd camau effeithiol

  • Mae person sy’n ddigon uchel o fewn awdurdod cyfrifol yn adolygu’r dystiolaeth a gyflwynir gan bob parti ac yn credu bod digon o dystiolaeth i gychwyn adolygiad achos waeth beth fo rôl ceisydd y Sbardun Cymunedol

Mae angen i bob un o’r digwyddiadau fod wedi cael eu riportio o fewn un mis iddynt ddigwydd a rhaid i chi wneud cais am Sbardun Cymunedol o fewn chwe mis i’r digwyddiad diwethaf. Gall y dioddefwr fod yn fusnes, unigolyn neu’n grŵp cymunedol.

Sut allaf ddefnyddio'r Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Ar draws rhanbarth Dyfed-Powys, Heddlu Dyfed-Powys yw'r pwynt cyswllt unigol ar gyfer y Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir gwneud cais ar-lein, trwy e-bost, trwy ffonio 101 neu ofyn am ffurflen gais yn ysgrifenedig - Am ragor o fanylion, ewch i wefan Heddlu Dyfed Powys. Nid yn unig y dioddefwr ei hun sy'n gallu defnyddio'r Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mae'n rhaid gofyn am eu caniatâd gan yr unigolyn sy'n defnyddio'r Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol ar eu rhan cyn gwneud cais. Ar ôl cael caniatâd, gall unrhyw un ddefnyddio'r Sbardun Cymunedol megis aelod o'r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, Aelod y Cynulliad, Aelod Seneddol neu unrhyw unigolyn proffesiynol arall ar ran y dioddefwr. Gall unrhyw un o unrhyw oedran ddefnyddio'r Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl derbyn cais i ddefnyddio proses adolygu achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd yr ymgeisydd yn derbyn llythyr yn cydnabod ei dderbyn o fewn pum diwrnod gwaith. Bydd asiantaethau'n ystyried y cais ac yn ail-gysylltu â'r dioddefwr o fewn 15 diwrnod gwaith er mwyn ei hysbysu a yw wedi bodloni'r trothwy. Os bodlonir y trothwy, bydd adolygiad achos aml-asiantaeth yn cael ei gynnal a fydd yn cynnwys asiantaethau amrywiol (e.e. yr Heddlu, Awdurdod Lleol, Cymdeithas Tai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda). Yn ystod y broses hon bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â'r achos, gan gynnwys unrhyw gamau blaenorol a gymerwyd, yn cael ei hystyried, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud p'un a oes modd cymryd camau ychwanegol neu beidio. Rhaid rhoi ystyriaeth hefyd fel eich bod chi, y dioddefwr, yn cael y cyfle i fynychu rhan gyntaf y gwrandawiad i egluro'r niwed y mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei achosi i chi a/neu eich teulu ac i fynegi eich dymuniadau o ran yr hyn yr hoffech ei weld yn digwydd o ganlyniad i'r gwrandawiad. Gallwch hefyd ddarparu datganiad ysgrifenedig neu gall eiriolwr fynychu ar eich rhan os nad ydych yn dymuno bod yn bresennol. Caiff yr ymgeisydd ei hysbysu o ganlyniad adolygiad y panel. Gellir gwneud apêl i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu lle bodlonir un o'r mesurau canlynol;

  • Mae'r penderfyniad a ddarparwyd sy'n amlinellu pam na chyrhaeddodd yr achos y trothwy ar gyfer Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi methu â darparu digon o fanylion i ddeall pam na chynhaliwyd adolygiad.

  • Mae'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi methu ag ystyried proses, polisi neu brotocol perthnasol;

  • Mae'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi methu ag ystyried gwybodaeth ffeithiol berthnasol.

Mae'n rhaid gwneud apeliadau i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu o fewn 28 diwrnod. Bydd y 28 diwrnod yn dechrau o naill ai dyddiad;

  • y llythyr sy'n hysbysebu'r ymgeisydd nad yw ei gais wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer adolygiad achos;

  • y llythyr sy'n ei hysbysu o ganlyniad adolygiad achos.

 

 

ID: 2869, adolygwyd 08/06/2023