Strategaeth Cyfranogiad 2022 – 27
Strategaeth Cyfranogiad 2022 – 27
Pam bod angen Strategaeth Cyfranogiad ar Gyngor Sir Penfro?
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn nodi bod dyletswydd ar y Cynghorau i annog pobl i gymryd rhan mewn llywodraeth leol:
▪ Dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan yn y penderfyniadau gan y prif gynghorau
(1) Rhaid i brif gyngor annog pobl leol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau gan y cyngor (gan gynnwys gwneud penderfyniadau mewn partneriaeth neu ar y cyd ag unrhyw berson arall)*
(2) (2) Yn isadran (1), mae cyfeiriad at wneud penderfyniadau yn cynnwys cyfeiriad at wneud penderfyniadau gan berson mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a ddirprwywyd i'r person hwnnw gan brif gyngor
▪ Strategaeth ar annog cyfranogiad
(1) Rhaid i brif gyngor baratoi a chyhoeddi strategaeth ("strategaeth cyfranogiad y cyhoedd") sy'n nodi sut y mae'n bwriadu cydymffurfio â'r ddyletswydd uchod i annog cyfranogiad.
(2) Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, yn benodol, fynd i'r afael â —
(a) ffyrdd o hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o swyddogaethau'r prif gyngor;
(b) ffyrdd o hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o sut i ddod yn aelod o'r prif gyngor, a beth mae aelodaeth yn ei olygu;
(c) ffyrdd o hwyluso mynediad i bobl leol i wybodaeth am benderfyniadau a wnaed, neu i'w gwneud, gan y prif gyngor;
(d) ffyrdd o hyrwyddo a hwyluso prosesau y gall pobl leol wneud sylwadau i'r prif gyngor am y penderfyniad cyn iddo gael ei wneud, ac ar ôl iddo gael ei wneud;
(e) trefniadau a wnaed, neu i'w gwneud, at ddiben dyletswydd y cyngor yn adran 62 o Fesur 2011 (gan ddod â barn y cyhoedd i sylw pwyllgorau trosolwg a chraffu);
(f) ffyrdd o hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith aelodau’r prif gyngor o fanteision defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol