Strategaeth Cyfranogiad 2022 – 27

Beth wnaethon nhw ddweud nhw wrthym?

Canlyniadau ymgysylltu cam un

Roedd canlyniadau trafodaethau cam un yn nodi y dylem:

  • Datblygu ffocws o weledigaeth ar y cyd, blaenoriaethau strategol allweddol, nodau hirdymor ac effeithiau cadarnhaol
  • Symud i ffwrdd o fod angen cymryd rhan mewn ymarferion diddiwedd ar raddfa fach, sy’n golygu bod y manylion lleiaf yn eu llethu.
  • Cydnabod cymhlethdod yr hyn mae’r Cyngor yn ymwneud ag o er mwyn cyflawni:
    • gweithgareddau sy’n aml yn gofyn am wasanaethau lluosog / meysydd polisi, yn ogystal ag asiantaethau partner
    • gweithgareddau yn aml yn ddibynnol ar benderfyniadau lluosog a wneir gan wahanol rannau o'r Cyngor ar wahanol adegau o dan wahanol fframweithiau deddfwriaethol (e.e. rhaglen gyfalaf, cynllunio, tendro, ymwybyddiaeth o gontract, gorchmynion amrywio meysydd parcio, ystyriaethau Adnoddau Dynol ac Undeb ac ati)
  • Hyrwyddo adnoddau, sy'n helpu i wella dealltwriaeth sylfaenol o:
    • rôl gyffredinol y Cyngor a rôl y Cynghorydd ynddi
    • strwythur a gweithrediad y Cyngor
    • pa bwyllgorau sy'n gyfrifol am beth
    • llwybrau ar gyfer mewnbynnu gwybodaeth / dylanwadu ar yr agenda, a chanlyniadau posibl
  • Cydnabod bod Cynghorau Tref a Chymuned yn gyrff  lle mae llawer o ymgeiswyr ar gyfer y Cyngor Sir yn deillio ohonynt, a bod eu profiadau nhw fel cynghorwyr tref a chymuned yn cyfrannu at osod eu disgwyliadau o Gyngor Sir.
  • Uwchsgilio Cynghorwyr Sir fel eu bod yn gallu gweithredu fel seinfwrdd gwell ac effeithiol o lif gwybodaeth a syniadau i / o'u cymunedau a chynghorau tref a chymuned
  • Roedd aelodau etholedig yn gwerthfawrogi cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth, syniadau ar draws partïon, ac ati rhwng y Cynghorwyr hŷn a’r rhai iau, ac y byddent yn croesawu sesiynau ychwanegol ar y cyfryngau cymdeithasol, e-gylchlythyrau (gan gynnwys diogelu data), siarad cyhoeddus / hwyluso ac ati
  • Annog Cynghorwyr Sir i ddarparu cyfleoedd i gyfarfod wyneb yn wyneb a gwrando’n astud ar y rhai y maent yn eu cynrychioli mewn cymorthfeydd / sesiynau trafod grŵp rheolaidd o fewn eu cymunedau
  • Hybu gwell dealltwriaeth / gwerthfawrogiad o'r asedau a'r amrywiaeth o fewn ein cymunedau, fel bo gwell cynrychiolaeth gan Gynghorwyr Sir
  • Datblygu ymhellach y cysylltiadau sydd eisoes wedi’u sefydlu (e.e. tanysgrifwyr Fy Nghyfrif) a grwpiau cyswllt, ynghyd â'r nifer o grwpiau / gweithgareddau cymunedol presennol
  • Bod yn deg gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chyfranogwyr (h.y. peidio anwybyddu adborth)
  • Sicrhau bod gwybodaeth gymhleth yn fwy hygyrch drwy gynhyrchu mewn fformat byr a hygyrch, a thrwy ddarparu cyfleoedd i bobl drafod pynciau o ddiddordeb / cynigion ac ati
  • Addasu dulliau i gwrdd ag anghenion unigolion a grwpiau gwahanol, megis ystyriaethau hygyrchedd a chefnogaeth i gyfranogwyr (yn enwedig pobl fregus a phobl ifanc)
  • Parhau’r ymdrech i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn democratiaeth leol, cynyddu'r nifer sy'n cofrestru i bleidleisio ac i gymryd rhan mewn etholiadau
  • Gwella adborth ôl-benderfyniad i'r rhai sydd wedi rhoi mewnbwn i’r penderfyniad (ac yn ehangach os yw'n briodol)

Yn eich geiriau eich hun:

  • "Fel person ifanc gydag anabledd yn byw yn Sir Benfro, roeddwn wrth fy modd pan oedd cyfle i ofyn cwestiynau ar bynciau fyddai’n effeithio arnon ni. Os oedd mater oedd yn effeithio ar bobl, yn enwedig pobl gydag anabledd neu bobl ifanc, roedden ni yno yna ac fe gawson ni gyfle cyffrous i ddweud ein dweud. Aethom draw i’r Cynulliad, oedd yn gyffrous i blentyn o Sir Benfro! Ac mae’n teimlo mor cŵl. Cawsom gyfle i gyfarfod gwahanol bobl. Rwy’n cofio eistedd wrth ymyl Rhodri Morgan, wedi gwirioni’n llwyr. Ac rydych chi'n gwybod mai'r sgiliau yma rydyn ni'n eu rhoi i bobl ifanc yw'r rhai maen nhw'n mynd i dyfu i fyny â nhw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn ar draws y bwrdd i ddweud ein bod yn gwrando ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud ac rydym yn ymgymryd â'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud."
  • "Dyw pobl ddim yn gwybod beth mae CSP yn ei wneud – nid yw 80% yn ymwybodol o beth yw ei rôl - beth yw rôl pob sefydliad o San Steffan i lawr. Nid oes llawer o bobl yn ymwybodol bod cynghorwyr yn cael taliad."
  • "Ar hyn o bryd mae bwlch yn nealltwriaeth pobl o'r ffordd mae'r Cyngor yn gweithredu -  ac felly mae angen hyrwyddo gwybodaeth i helpu llenwi'r bwlch ac i adeiladu ymddiriedaeth."
  • "Profiad o ymddangos mewn Pwyllgor Cynllunio. Roeddwn wedi gobeithio cael cyfle i drafod y mater dan sylw, ond yn hytrach cefais 5 munud i siarad, ac ni chafwyd ymateb / adborth / nag unrhyw drafodaeth o gwbl - roedd yn brofiad rhwystredig iawn. Cytuno gyda’r syniad o gymorthfeydd cymunedol gyda thrafodaethau mwy agored, a mwy o amser i siarad.”
  • "Mae ceisio cael pobl ifanc i gymryd rhan yn heriol - maent yn dibynnu ar ffynonellau megis You Tube ac Instagram i gael newyddion, ac mae’n anodd asesu beth sy'n werthfawr ac yn ddibynadwy (e.e. brechiadau). Mae angen addysg wleidyddol - ac asesu ffynonellau gwahanol. Angen cymryd rhan mewn trafodaeth - deall bod yna ffyrdd gwahanol o wneud pethau.”
  • “Diddordeb mewn cyfleoedd mwy anffurfiol i fwydo i mewn i brosesau - cyfleoedd i drafod. Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad ar ôl  ymgynghoriad, yn aml gyda thomen o waith papur/gwybodaeth i’w  dreulio cyn medru ymateb - ac yn syml, nid oes amser i wneud hynny.”
  • “Gall peth o’r adborth fod yn gwbl amhriodol a digyswllt. Ar y llaw arall, fodd bynnag, cawsom awgrym cadarnhaol ynghylch newid lleoliad darpariaeth toiledau o fewn prosiect Glan Cei'r Gorllewin - rhywbeth nad oeddem wedi ei ystyried yn flaenorol, ond sydd bellach o ganlyniad i’r ymgynghoriad wedi’i gynnwys o fewn y cynllun.”
  • "Un o’r pethau yr wyf yn ymwybodol ohono wrth fynd allan i ymgysylltu â chymuned fel sefydliad , rydych hefyd angen adnoddau o fewn y sefydliad i allu rhoi gwybodaeth i’r gymuned honno. Dwi’n gwybod. Drwy roi gwybodaeth, nid dweud wrthyn nhw beth rydych chi am ei wneud a olygir, ond rhoi'r wybodaeth gefndirol iddyn nhw, dehongli ffynonellau data sydd ar gael yn gyhoeddus fel data llifogydd neu ddata ansawdd dŵr sy'n benodol i'w hardal leol. Os ydych chi eisiau cyd-gynhyrchu pethau gyda chymunedau lleol mae angen i chi eu hysbysu yn iawn, a'u harfogi â'r wybodaeth gefndirol er mwyn iddyn nhw ymgysylltu'n llawn."
  • "Dydw i ddim yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac rwy'n poeni bod y rhan fwyaf o gyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n iawn i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ond bod angen defnyddio mecanweithiau eraill yn ogystal. Yn aml, er eich bod wedi bwydo i mewn i ymgynghoriad, dyw’r hyn a benderfynir o ganlyniad ddim yn cael ei
  • "Sut ydych yn troi sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth mwy ystyrlon a chyfranogol - symud o siarad i weithredu, o gŵyn i gyfraniad?"
  • "Dewis ymgysylltu'n ddigidol er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r amser cymudo. Angen chwilio am y wybodaeth - nid yw'n amlwg ble i’w gael. Mae diweddariadau e-bost yn ddefnyddiol. Mae prosiectau sy'n rhoi cyfleoedd i flaenoriaethu opsiynau yn creu argraff dda - gall hyn fod yn ffordd eithaf defnyddiol o ennyn sylw pobl heb iddynt orfod darllen llawer o ddeunydd o reidrwydd."
  • "Mae darparu opsiynau wyneb yn wyneb yn bwysig, mae'n bendant yn darparu cyfleoedd i bobl na fyddai eu lleisiau fel arall yn cael eu clywed."
  • "Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni wedi gweld ymateb anhygoel gan rai cynghorau tref a chymuned ond ychydig iawn gan eraill - mae'n ddarlun eithaf anwastad ar draws y sir. Mae yna lawer o waith da yn digwydd. Ond dydyn ni ddim bob amser yn dda iawn am ddweud wrth bobl am y gwaith da hwnnw.”
  • "Rwy'n aelod o Gyngor Tref - rydyn ni'n dosbarthu taflenni’n rheolaidd, mae gennym wefan, rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd ac ati - mae'n anodd cael pobl iau i ymddiddori. Wir yn teimlo ei fod yn chwarae mwy o swyddogaeth gymdeithasol. Angen cysylltiadau mwy effeithiol â lefelau uwch o lywodraeth."
  • "Angen symud ffocws o atebion tymor byr i feddwl mwy cyd gysylltiedig tymor hir."
  • "Byddwn i'n mynd ymhellach fyth a dweud bod angen rhyw fath o newid diwylliant fel nad yw'r cyhoedd yn edrych ar wasanaethau fel yr ateb i bob drwg ond eu bod yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb hefyd am eu lles eu hunain."
  • Mae angen i bobl gael darlun gwell o fywyd cyhoeddus. Mae angen modelau rôl positif."
  • "Rwy'n credu bod cael y berthynas rhwng cynghorwyr sir, cynghorwyr tref a chymuned a chymdeithasau neu fforymau cymunedol eraill ac ati a'r gymuned yn ehangach yn allweddol i bethau weithio’n dda. Fel arfer oherwydd,  yn gyffredinol yr un bobl a’r lle maent yn gweithio, ac mae’n gweithio’n ardderchog, oherwydd bod cryfderau pawb yn dod at ei gilydd, heb yr angen i gystadlu. Fodd bynnag, yn anffodus, ceir nifer o enghreifftiau o ble nad yw'r berthynas yn dda. Mae’r berthynas honno yn hollbwysig, ac yn aml iawn dyna le mae’n torri i lawr.”
  • "Mae rhai aelodau'n gweithio'n hynod o galed ac rydyn ni wedi gweld rhai enghreifftiau o ymgysylltu cadarnhaol iawn gydag aelodau, lle maen nhw wedi ein helpu i ddod o hyd i atebion yn eu cymunedau oherwydd eu bod yn adnabod eu cymunedau'n well na ni."
  • "Mae Cynghorwyr Sir yn ystyried eu hunain yn borthorion i'w cymunedau. Canfu llawer o gynghorau tref fod cael uwch swyddogion yn mynychu eu cyfarfodydd i fod yn hynod ddefnyddiol. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sicrhau bod gennym nifer o fecanweithiau i leisiau pobl gael eu clywed ond bod pob llais yn cael ei glywed yn gyfartal."
  • "Dwi wedi ymwneud llawer â'r aelodau etholedig ar brosiectau, ac ar y cyfan mae wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond dim ond cyn belled â'ch bod yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth dda allan i'r aelodau etholedig yn gyntaf.  Rydw i'n gweithio mewn maes technegol iawn . . . ac nid yw pawb o reidrwydd yn ei ddeall, ond os ydych chi'n cymryd yr amser i egluro pethau i'r aelodau etholedig a'u darbwyllo, yna eu defnyddio fel cyfrwng ymgysylltu â ward ac yn y blaen - gall brofi’n gadarnhaol iawn."
  • "Ar yr ochr dai, rydyn ni wedi cael yr aelodau etholedig sy'n rhan o'r digwyddiadau cyhoeddus. Mae'n amlwg mai nhw yw wyneb y Cyngor yn y gymuned, rydych chi'n gwybod bod y math o berson yn wyneb y cyhoedd yn y cyfarfodydd hynny. Felly yn aml,  maen nhw'n gwybod am brofiadau pobl eraill o fewn yr etholaeth honno, ac o ganlyniad maen nhw'n eithaf ymarferol pan mae'n dod at y digwyddiadau cyhoeddus o’r fath."
  • "Rwy'n credu y gall y byd rhithwir ein helpu ni hefyd. Rwy'n teimlo y bydd pobl yn barod i wrando a chymryd rhan. Does dim angen iddyn nhw deithio i rywle er mwyn cymryd rhan. Es i i ddigwyddiad cwrdd â Chynghorydd ac fe ges i fy nharo'n fawr a meddwl, 'mae'r bobl yma wir eisiau gwneud gwahaniaeth'. Mae aelodau yn bencampwyr cymunedol mewn gwirionedd yn dydyn? Mae’n gallu teimlo ar adegau efallai mai ond y pwyntiau negyddol maent yn ei glywed - nad ydynt yn clywed am y pwyntiau cadarnhaol fel yr ymwneud â datblygiad Fy Nghyfrif - gan ofyn i bobl ‘beth hoffech chi ei gael? ‘ beth fyddai’n eich helpu chi?; ydych chi’n meddwl ei fod yn syniad da ai peidio? - felly maent yn helpu i siapio rhywbeth.’
  • "Rôl cynghorydd lleol yw cynrychioli barn y rhai sydd yn eu wardiau - ond, ar ôl eu hethol, does dim atebolrwydd yn ystod cyfnod y swydd. Maent yn tybio bod etholwyr wedi rhoi cefnogaeth i'w holl weithredoedd / penderfyniadau heb fod angen iddynt gyfeirio atyn nhw  parthed: y mater. Os ydych chi'n Gynghorydd Sir ac rydych chi'n llywodraethu ar ran eraill siawns y byddech chi eisiau gwybod beth mae'r rhai rydych chi'n eu cynrychioli yn eu meddwl mewn gwirionedd?"
  • "Byddai'n ddiddorol iawn gwybod faint mae ein haelodau yn ei ddeall am gymryd rhan ac am ymgysylltu. Rydym yn gweithredu o fewn safonau penodol (y safonau cyfranogiad cenedlaethol). Oes yna safonau penodol ar gyfer awdurdod lleol neu oes cyfle i wneud rhywfaint o hyfforddiant gydag aelodau ar gymryd rhan? Mae’n sicr bod angen ei wella.’
  • "Ymwybyddiaeth gyfyngedig gan y cyhoedd o bwy oedd eu cynghorwyr, sut i fwydo i brosesau ac ati. Teimlo mai cyfrifoldeb cynghorwyr yw mynd allan i’w cymunedau a gwneud eu hunain yn hysbys."
  • "Byddai'n ddefnyddiol i Gynghorwyr gael 'negeseuon allweddol' y gallent ei rannu gyda thrigolion."
ID: 11003, adolygwyd 26/10/2023