Strategaeth Cyfranogiad 2022 – 27
Amcanion Strategol
Byddwn yn:
- Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o swyddogaethau'r Cyngor
- Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o sut i ddod yn aelod o'r Cyngor, a beth mae aelodaeth yn ei olygu;
- Gwella mynediad pobl leol i wybodaeth am benderfyniadau a wnaed, neu i'w gwneud, gan y Cyngor
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r prosesau y gall pobl leol wneud sylwadau i'r Cyngor am benderfyniad cyn iddo gael ei wneud, ac ar ôl iddo gael ei wneud.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r prosesau lle mae barn y cyhoedd yn cael ei drosglwyddo i’r pwyllgorau trosolwg a chraffu
- Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith aelodau etholedig o fanteision defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol
ID: 11004, adolygwyd 26/10/2023