Strategaeth Dai
Strategaeth Dai 2024-2029
Rhagair gan Aelodau'r Cabinet
Mae Strategaeth Dai Sir Benfro 2023-2028 wedi’i datblygu yng nghyd-destun heriau niferus i’r sector tai gan gynnwys effeithiau etifeddol pandemig Covid-19, pwysau amlwg ar y farchnad dai leol a phwysau chwyddiant sy’n cyfrannu at argyfwng costau byw. Mae’r dylanwadau allanol hyn wedi’u gosod o fewn heriau cyllidebol parhaus i awdurdodau lleol ar adeg pan fo targedau a osodir gan y llywodraeth yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau i fynd i’r afael â thargedau uchelgeisiol yn ymwneud â blaenoriaethau polisi gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a digartrefedd.
Mae Sir Benfro yn sir arfordirol hardd sy'n brolio arfordir golygfaol, parc cenedlaethol, a safleoedd hanesyddol byd-enwog. Mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, sy'n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn. Fodd bynnag, y tu ôl i’w delwedd hardd, mae Sir Benfro’n wynebu heriau tai difrifol, gan gynnwys prinder amlwg o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol a lefelau uchel o ddigartrefedd sy’n gysylltiedig â phrisiau tai uchel o fewn economi cyflog gymharol isel. Mae harddwch naturiol Sir Benfro yn golygu bod gan y sir lefelau uchel o berchnogaeth ail gartrefi ac, ynghyd â'r nifer sylweddol o lety gwyliau mewn trefi arfordirol, mae hyn wedi gostwng nifer y tai sydd ar gael i bobl leol. O ganlyniad mae rhestrau aros am dai wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed gyda niferoedd uchel o aelwydydd mewn llety dros dro a phrin yw'r siawns, os o gwbl, y bydd anghenion tai y rhan fwyaf o aelwydydd yn cael eu diwallu. Ar yr un pryd mae'r boblogaeth hŷn sy'n cynyddu yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau tai â chymorth gyda lefelau uchel o alw am grantiau cyfleusterau i'r anabl a chyflenwad annigonol o lety â chymorth i ddiwallu anghenion sy'n dod i'r amlwg.
Yn erbyn yr her hon mae Cyngor Sir Penfro wedi datblygu Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028 sy'n seiliedig ar Raglen Weinyddu'r Cabinet. Mae'r dogfennau hyn yn cydnabod y rôl arweiniol bwysig sydd gan y cyngor wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn a llunio dyfodol y sir. Wedi’i datblygu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n amlygu tai fel mater o flaenoriaeth i’r cyngor ac mae datblygu’r strategaeth dai hon yn gam pwysig wrth nodi’r heriau allweddol a disgrifio’r camau manwl sydd eu hangen i gyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau ar gyfer deiliadaeth tai o bob math yn Sir Benfro.
Nid yw Strategaeth Dai 2023-2028 yn nodi’n fanwl bob agwedd ar ein hymateb i’r heriau tai sy’n wynebu’r sir. Yn hytrach, mae’n rhan o gyfres o gynlluniau, y mae rhai ohonynt yn canolbwyntio’n fanylach ar feysydd polisi penodol. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2022-2027 sy'n nodi'r dull a arweinir gan dai o leihau digartrefedd a Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026 sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Yn yr un modd, mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn mynd i'r afael yn benodol ag ymagwedd y cyngor at reoli, cynnal a chadw a datblygu stoc dai'r cyngor ei hun ymhellach. Fodd bynnag, mae'r strategaeth dai yn darparu gweledigaeth a chyfeiriad cyffredinol clir ar gyfer ein polisi tai a'n dull cyflenwi, yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymgynghori â'n rhanddeiliaid a'n cymunedau. Mae'r cynllun gweithredu yn helpu i ddyrannu adnoddau a monitro cynnydd a chanlyniadau.
Yn bwysig ddigon, mae'r strategaeth dai yn helpu i alinio nodau a blaenoriaethau ein partneriaid cyflawni allweddol ar draws y sector statudol, preifat a gwirfoddol, na fyddai modd i ni gyflawni newid cadarnhaol i bobl Sir Benfro hebddynt.
Mae'r blaenoriaethau yn y strategaeth wedi'u cynnwys yn yr Asesiad Anghenion Tai manwl yn Atodiad 1 a cheir dolenni i'r cyd-destun strategol yn Atodiad 2.
Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol – Y Cynghorydd Michelle Bateman
Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai – Y Cynghorydd Jon Harvey