Strategaeth Dai
Blaenoriaeth 1 Cynyddu'r Cyflenwad o dai Fforddiadwy er Nwyn Cwrdd ag Anghenion Lleol
Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud
‘……mae marchnad dai gyffredinol Sir Benfro yn anfforddiadwy i gyfran sylweddol o’r boblogaeth leol’
‘…..allfudo (pobl leol) oherwydd fforddiadwyedd tai’
‘…aelwydydd sengl….yn debygol o dyfu ledled Cymru hyd at 2043 a fydd yn creu galw cysylltiedig am dai newydd’
‘…pwysau ar brisiau eiddo lleol yn enwedig pan fo aelwydydd yn symud i mewn o ardaloedd mwy cefnog yn y DU’
‘….tuedd poblogaeth sy'n heneiddio’
‘heriau o fewn y farchnad dai ar gyfer trigolion iau sy’n byw yn lleol, sy’n chwilio am opsiynau tai fforddiadwy’
‘..costau tai yn cael mwy o effaith ar dlodi yn Sir Benfro’
‘..diffyg dewisiadau eraill yn lle perchentyaeth i drigolion lleol….’
‘….pris tŷ ar gyfartaledd oedd £248,315 o’i gymharu â £212,752 ym mis Medi 2021, sy’n cynrychioli cynnydd o 16.7% dros 12 mis’
‘..ail gartrefi yng Nghymru, Sir Benfro oedd yr ail safle uchaf o ran awdurdod lleol ar 16%’
‘…yng nghanol 2020, nid oedd tua 9.2% o’r stoc dai ar gael i’w defnyddio, sef yr ail ffigur uchaf a gofnodwyd ar draws Cymru gyfan.
‘…..effaith ar ardaloedd Cymraeg eu hiaith lle mae teuluoedd lleol yn brwydro i gadw troedle yn eu cymuned, gan roi pwysau ar gynaladwyedd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg y sir’
‘….. cynnydd sylweddol yn y defnydd o lety gwely a brecwast….‘
‘…cyfle a gollwyd a gynrychiolir gan eiddo gwag hirdymor’
‘…..twf sylweddol yn y rhestr aros am dai’
Dadansoddiad cryno
Mae’r dystiolaeth a gyflwynir yn y strategaeth hon yn dangos yn glir mai un o’r heriau tai allweddol sy’n wynebu Sir Benfro yw’r diffyg tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion trigolion lleol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Wrth gydnabod hyn mae'r cyngor wedi sicrhau bod darparu tai fforddiadwy newydd yn flaenoriaeth allweddol ar draws ei strategaethau arweiniol allweddol gan gynnwys o fewn ei amcanion llesiant, ei strategaeth gorfforaethol a'r rhaglen weinyddu. Ystyrir hefyd fod cyswllt anorfod rhwng y diffyg cyffredinol o gyflenwad tai yn y sir â'r cyfleoedd a gyflwynir ar gyfer twf economaidd y sir. Gyda'r cyfleoedd a gyflwynir gan brosiectau pellgyrhaeddol megis porthladd rhydd, mae'n hollbwysig bod cyflenwad parod o dai o ansawdd da o bob deiliadaeth yn bodoli yn y sir.
Mae apêl ddiamheuol Sir Benfro fel cyrchfan i dwristiaid yn golygu bod nifer sylweddol o eiddo preswyl yn cael eu prynu fel ail gartrefi neu'n cefnogi'r fasnach dwristiaeth, sy'n golygu nad ydynt ar gael at ddibenion meddiannaeth breswyl gan drigolion lleol. At hynny, mae’r sir wedi gweld mewnfudo sylweddol o aelwydydd cefnog, hŷn o rannau eraill o’r DU, sydd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar brisiau tai i'r pwynt lle nad ydynt yn fforddiadwy i’r mwyafrif helaeth o drigolion lleol. Nid yw’r sector rhentu preifat yn gallu bodloni’r galw lleol gan fod landlordiaid preifat wedi symud i ffwrdd o osod tai preswyl oherwydd cynnydd yn y rheoleiddio a orfodir gan y llywodraeth a’r elw ariannol mwy ffafriol a gynigir wrth symud tuag at osod drwy AirBnB a’r farchnad llety gwyliau tymor byr. Felly mae llety'r sector preifat yn brin ac nid yw llety preifat bellach yn fforddiadwy i drigolion lleol, sy'n golygu bod nifer cynyddol o drigolion a fyddai fel arfer wedi ceisio prynu neu rentu yn y sector preifat bellach yn gwneud cais am dai cymdeithasol.
Mae hyn wedi achosi cynnydd sylweddol yn y rhestr aros am dai cymdeithasol a chyda chyflenwad annigonol o gartrefi gwag ar gael i'w hailosod, mae'r brys o ran yr angen am dai ar gyfer llawer o drigolion bellach wedi cyrraedd pwynt o argyfwng. Mae’r effaith ar ein cymunedau yn sylweddol, gan gynnwys o fewn ein cymunedau Cymraeg eu hiaith, lle mae perchnogaeth ail gartrefi yn arwain at eithrio trigolion lleol o rai aneddiadau, gan arwain at ddirywiad yr iaith Gymraeg a’i diwylliant. Yn yr un modd, mae colli gweithwyr allweddol i'r sir yn risg i gynnal gwasanaethau lleol gan gynnwys o fewn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod Sir Benfro wedi profi allfudiad o aelwydydd lleol a chynnydd sylweddol iawn yn lefelau digartrefedd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae canlyniadau pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw wedi cynyddu’r pwysau ar wasanaethau digartrefedd ac mae'r galw am lety dros dro wedi cynyddu’n sylweddol. Yn ogystal, mae cyflawni polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chysgu allan a blaenoriaethu ailgartrefu wedi golygu bod angen caffael llety dros dro ychwanegol gan gynnwys, tan yn ddiweddar, drwy ddefnyddio unedau tai cymdeithasol gwag a fyddai fel arall wedi bod ar gael i’r rhestr aros. O ganlyniad i’r gostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael i’w hailosod, mae nifer yr aelwydydd ar y rhestr aros wedi parhau i godi ac mae’r galw cystadleuol am eiddo sydd ar gael wedi cynyddu gyda lefelau cynyddol sylweddol o alw cystadleuol am bob eiddo a hysbysebir drwy Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro. Mae canlyniadau ffactorau lluosog bellach yn amlygu eu hunain ym mhen mwyaf eithafol yr argyfwng tai gyda lefelau cynyddol o ddigartrefedd a nifer cynyddol o geisiadau am dai cymdeithasol ar y gofrestr tai. Mae'r cyngor yn benderfynol o sicrhau bod y farchnad dai yn cael ei hail-gydbwyso er mwyn sicrhau bod digon o fynediad at dai fforddiadwy teilwng ar gyfer anghenion ei drigolion yn awr ac yn y dyfodol.
Mae Asesiad drafft o’r Farchnad Dai Leol 2023, a ddefnyddiodd fformiwlâu a chanllawiau a adolygwyd yn ddiweddar ac a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi nodi lefel uchel o angen heb ei ddiwallu am dai fforddiadwy yn y sir yn seiliedig ar ddadansoddiad ystadegol o amrywiaeth o ffynonellau (manylion pellach yn Atodiad 1). Mae prif amcanestyniad yr asesiad wedi nodi angen crynswth o 1,070 o unedau fforddiadwy y flwyddyn sy'n lleihau i'r angen sy'n weddill am 475 o dai fforddiadwy newydd y flwyddyn dros y pum mlynedd gyntaf wrth ddidynnu cyflenwad cynlluniedig a throsiant stoc. O fewn y ffigur hwn mae angen newydd blynyddol am 154 o gartrefi ar gyfer y farchnad fesul blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y ffigurau a ddarparwyd ar gyfer yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol o gofrestr tai Cartrefi Dewisedig. Nodir mai dim ond un corff o dystiolaeth yw’r Asesiad o'r Farchnad Dai a ddefnyddir i lywio’r Cynllun Datblygu Lleol sydd yn y broses o gael ei adolygu. Mae gan Strategaeth a Ffefrir CDLl newydd y cyngor (CDLl 2) darged cyflenwi tai o 425 o gartrefi a ddygir ymlaen fesul blwyddyn ar gyfer cyfnod y Cynllun (2017 i 2033) gyda’r dosraniad a ragwelir yn 60% yn yr aneddiadau trefol (Hwlffordd, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Penfro, Abergwaun, Wdig a Neyland) a'r gweddill yn yr aneddiadau gwledig (y mwyaf ohonynt yw Arberth). Adlewyrchwyd y dull hwnnw yn CDLl Adneuo 2 2020 (drafft ymgynghori cyhoeddus llawn o'r Cynllun newydd). Roedd CDLl Adneuo 2 2020 hefyd yn cynnwys targed cyflawni o 125 o aneddiadau fforddiadwy fesul blwyddyn (fel elfen o’r targed cyflenwi tai cyffredinol o 425 fesul blwyddyn). Ym mis Rhagfyr 2021, penderfynodd y cyngor i ailadrodd cam adneuo proses y cynllun, ond yn seiliedig ar gynllun diwygiedig, a rhagwelir y bydd ymgynghoriad y cynllun ail-adneuo yn cael ei gynnal yn 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori y dylai Cyngor Sir Penfro ystyried y rhagamcanion poblogaeth ac aelwydydd diwygiedig (rhai ar gyfer 2018) yn yr ail Gynllun Adnau, a allai olygu y bydd angen pennu targed cyflenwi tai blynyddol diwygiedig (ychydig yn is). Rhwng y cyfnod 10 mlynedd 2013/14 i 2022/23 cwblhawyd 383 o anheddau fesul blwyddyn.
Mae newidiadau polisi a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd pellach i gydnabod bod ail gartrefi a llety tymor byr yn cael effeithiau cymhleth ar ein marchnadoedd tai a’n cymunedau. Mae'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys rhoi'r gallu i awdurdodau lleol godi 300% ar y dreth gyngor am ail gartrefi; cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety gwyliau tymor byr (mae ymgynghoriad ar hyn yn mynd rhagddo); a newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio. O ystyried yr angen dybryd am dai fforddiadwy ynghyd â'r niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau yn y sir, mae'n glir bod angen craffu ac ystyried bob un o'r ysgogiadau polisi a deddfwriaethol hyn ar gyfer y sir yn fanwl.
Ein dull gweithredu
Nid mater o ddarparu tai newydd yn unig yw'r ateb i fynd i'r afael â'r heriau hyn gan fod y sylfaen dystiolaeth wedi disgrifio'n glir yr heriau amlochrog yn y sir o ran y sector tai yn gyffredinol, fel y mae'r pum blaenoriaeth a nodir yn y strategaeth dai hon yn eu dangos. Ni ellir ychwaith ddatrys y sefyllfa yn gyflym. Bydd yn cymryd amser i gyflawni agweddau ar newid, yn enwedig o ran darparu tai fforddiadwy sydd, oherwydd eu natur, yn cymryd amser ac adnoddau sylweddol i'r cyngor a’i bartneriaid cyflenwi eu cynllunio a'u darparu. Mae'n amlwg o gasgliad dadansoddiad yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol a throshaenu hyn gyda'r ffigurau cyfredol o fewn Strategaeth a Ffefrir CDLl 2 y cyngor a'r cynllun adneuo dilynol ar gyfer 2020, bod angen rhoi ystyriaeth ehangach i sut y gellir cynyddu nifer yr unedau tai fforddiadwy y tu hwnt i'r rhaglenni adeiladu newydd ar gyfer unedau tai cymdeithasol a thai fforddiadwy. Mae’r ystyriaethau ehangach hyn yn cynnwys defnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael trwy newidiadau polisi a deddfwriaethol gyda’r nod o gynyddu’r cyflenwad o gartrefi parhaol (yn hytrach na llety gwyliau/ail gartrefi), dyrannu cyllid ar gyfer cynhyrchu premiwm ail gartrefi ar gyfer trosi adeiladau gwag yn dai fforddiadwy, tai gwag unigol yn cael eu defnyddio eto, gwneud y mwyaf o gaffaeliadau yn ôl i’n stoc dai, defnyddio datblygiadau parod gan ddatblygwyr preifat a safleoedd tai a arweinir gan y gymuned a (lle bo tystiolaeth yn cyfiawnhau hynny) ar safleoedd eithriedig wrth ymyl ffiniau aneddiadau.
Cydnabyddir y bydd hyn yn anoddach oherwydd yr amgylchiadau economaidd ansicr yn genedlaethol, gan gynnwys pwysau chwyddiant, cyfraddau llog cynyddol a’r cyfyngiadau lleol o ran capasiti yn y sector adeiladu. Mae’r cyngor yn gwneud llawer iawn eisoes i roi newid ar waith ac mae wedi datblygu amrywiaeth o ymatebion polisi i fynd i’r afael â’r methiant yn y farchnad dai gan gynnwys, er enghraifft, defnyddio'i bwerau i godi tâl ar ail gartrefi, ariannu a lansio ystod o fentrau cyflawni tai gan gynnwys cymorth arian cyfatebol ar gyfer cynllun grant cartrefi gwag Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer 25 o gartrefi newydd sbon a chymorth ariannol i Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen gwneud llawer iawn mwy i wella’r cyflenwad o dai fforddiadwy gan gynnwys cyflwyno opsiynau tai fforddiadwy pellach megis rhent canolradd, rhanberchenogaeth ac opsiynau Rhentu i Berchnogi, ac mae defnyddio’r premiwm ail gartrefi ar gyfer hyn yn rhoi'r cyfle i ddatblygu hyn ymhellach.
Fel rhan o'n hymrwymiad i gynyddu rôl y sector rhentu preifat rydym wedi nodi arian cyfatebol ar gyfer Cynllun Lesio Cymru Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gael hyd at 80 o eiddo ar brydles erbyn diwedd 2026/27. Ar y cyd â'n partneriaid cymdeithasau tai, rydym hefyd wedi datblygu rhaglen uchelgeisiol sydd wedi'i hariannu ar gyfer darparu tai fforddiadwy newydd dros oes y strategaeth dai hon a thu hwnt gan gynnwys rhaglen i brynu'n cartrefi yn ôl, gan gynnwys tai cyngor blaenorol. Rydym hefyd wedi dechrau adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Sir Benfro a fydd yn gyfle i adolygu nifer y cartrefi y mae angen eu darparu a rhoi'r dulliau polisi cynllunio ar waith i sicrhau y cânt eu cyflawni. Rydym hefyd yn cydnabod yr her arbennig sy’n ein hwynebu o ran fforddiadwyedd ardal Parc Cenedlaethol Sir Benfro yng ngoleuni’r dystiolaeth a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol fod fforddiadwyedd ar gyfer aelwydydd mewn angen yn sylweddol waeth yn rhan Parc Cenedlaethol Sir Benfro nag yng ngweddill y sir.
Bydd y rhaglen gynlluniedig hon yn gweithio ar y cyd ochr yn ochr â'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau bod datblygiadau tai yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol ac effeithiol ac yn yr ardaloedd mwyaf anghenus a sicrhau bod y grant tai cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf yn Sir Benfro.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag effaith negyddol perchnogaeth ail gartrefi ar gymunedau Cymraeg eu hiaith a’n diwylliant drwy gefnogi polisïau gosod lleol a thrwy gefnogi Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol lle bo hynny’n ymarferol. Byddwn hefyd yn ceisio denu a chadw gweithwyr allweddol sy'n hanfodol i'n gwasanaethau allweddol drwy ein polisïau tai. Ymhellach, byddwn yn parhau i gymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â nifer y cartrefi gwag yn y sir drwy nodi cyllid ac adnoddau staff i ddod ag eiddo o'r fath yn ôl i ddefnydd. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun grant eiddo gwag ar gyfer landlordiaid preifat gydag amodau grant sy’n sicrhau rhenti fforddiadwy a hawliau enwebu o’r gofrestr Cartrefi Dewisedig.
Yn unol â hynny, mae'r Cyngor yn cydnabod na fydd un dull sy'n addas i bawb mewn perthynas â thai fforddiadwy newydd yn mynd i'r afael ag anghenion amrywiol poblogaeth Sir Benfro. Mae angen dewis o opsiynau deiliadaeth tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion a disgwyliadau gwahanol aelwydydd, yn ogystal ag atebion i dai â chymorth a thai sy'n diwallu anghenion ei phoblogaeth hŷn sy'n tyfu. I gyflawni hyn yn llwyddiannus bydd angen goresgyn rhwystrau, gan gynnwys costau chwyddiant yn y farchnad adeiladu yn ogystal â phrinder contractwyr sydd â’r gallu i gyflawni am werth am arian, fodd bynnag, rydym wedi adolygu ein methodoleg a’n fframweithiau caffael ac wedi buddsoddi mewn capasiti er mwyn cefnogi'r gwaith cyflenwi.
Roedd y Cynllun Datblygu Lleol sydd ar y gweill yn gyfle i ddiweddaru ein hasesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr er bod yr asesiad, a gynhaliwyd yn 2019, yn aros i gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru cyn ei gyhoeddi. Yn amodol ar ei gymeradwyo, mae'r asesiad yn nodi angen heb ei ddiwallu am 11 o leiniau ar draws y cyfnod o bum mlynedd, ac mae'n darparu amcangyfrif o'r angen yn y dyfodol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol 2 (hyd at 2033). Ers nodi’r angen hwnnw sydd heb ei ddiwallu, mae chwe llain arall wedi’u caniatáu, gan adael angen gweddilliol am bum llain, i’w ddiwallu erbyn diwedd 2024. Gellir diwallu'r angen drwy ddyrannu safleoedd a thrwy'r potensial i roi caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd preifat neu gynlluniau a arweinir gan y gymuned. Os bydd y cyngor yn ceisio datblygu lleiniau neu safleoedd ychwanegol gall wneud cais am Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn darparu £3.5 miliwn y flwyddyn at ddibenion adnewyddu a datblygu safleoedd ledled Cymru. Byddai’r gofyniad i ddarparu lleiniau ychwanegol wedyn yn sail i flaenraglen ddatblygu.
Bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau a nodir yn y strategaeth dai hon ac mae'r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol ei bartneriaethau gyda'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wrth fynd i'r afael â'r her tai fforddiadwy ac wrth ddarparu gwasanaethau pwysig eraill sy'n ymwneud â thai. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i ymgysylltu â landlordiaid sector preifat i geisio atal dirywiad y sector a chynyddu ei rôl wrth ddiwallu anghenion tai ein cymunedau lleol. Mae'r strategaeth hon yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu ymhellach y berthynas waith agos gyda'r partneriaid tai hyn gan gynnwys ymateb i'r her gynyddol i'r cyngor a'i bartneriaid o ran diwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol poblogaeth sy'n heneiddio.
Cyflawniadau allweddol
- Rydym wedi datblygu blaenraglen o safleoedd ar gyfer 458 o gartrefi hyd at 2028/29 am gost amcangyfrifedig o tua £122 miliwn gan gynnwys £71 miliwn o gyllid allanol (pan fydd ar gael).
- Yn ystod 2022/23 fe wnaethom brynu 21 o gartrefi yn ôl i'w hychwanegu at stoc dai'r cyngor.
- Yn ystod 2021/22 prynwyd 57 eiddo, yr oedd 46 ohonynt yn rhan o swmp-bryniant ar ystâd Cashfields. Rydym wedi cytuno ar hyn o bryd i brynu 43 eiddo yn 2023/24 ac mae trafodaethau yn mynd rhagddynt i swmp-brynu chwe fflat newydd un ystafell wely. Mae yna 15 eiddo arall gyda'n hadran eiddo i'w cynnig hefyd.
- Rydym ar y trywydd i ddarparu 44 eiddo newydd yn 2023/24
- Mae ein partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Sir Benfro wedi darparu 250 o gartrefi ers 2020/21.
- Rydym wedi cyflogi swyddog eiddo gwag newydd i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gan ddefnyddio cyllid a dderbyniwyd drwy drefniadau gordal y dreth gyngor.
- Yn ystod 2022/23 cytunodd Cyngor Sir Penfro i ymuno â’r Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol ac felly bydd gan y sir fynediad at £2,985,546 i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn y sir yn ystod y ddwy flynedd nesaf rhwng 2023 a 2025.
- Rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu Cartrefi Gwag 2021-2025 i helpu i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd a gwella cyflwr ffisegol yr amgylchedd adeiledig presennol.
- Rydym wedi cynyddu gordal y dreth gyngor ar ail gartrefi i 100% o fis Ebrill 2022 er mwyn ariannu gweithgarwch grant eiddo gwag, datblygu modelau tai fforddiadwy/rhanberchnogaeth newydd, cefnogi'r gwaith o ddatblygu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a chaffael eiddo fel llety dros dro i leddfu pwysau digartrefedd.
Ein camau gweithredu â blaenoriaeth:
- B1.1 Sicrhau’r cyflenwad mwyaf o gartrefi fforddiadwy newydd yn Sir Benfro drwy ein partneriaethau, gan gynnwys datblygu cymunedau cynaliadwy a chytbwys sy'n adlewyrchu anghenion ein poblogaeth.
- B1.2 Sicrhau bod ein darpariaeth tai fforddiadwy yn ystyried yr angen am dai â chymorth a thai arbenigol gan gynnwys tai pobl hŷn i ddiwallu anghenion ein poblogaeth sy’n heneiddio yn ogystal â thai â chymorth.
- B1.3 Sicrhau cymysgedd priodol o ddeiliadaethau tai a mathau o dai ar draws ein cynlluniau tai i gefnogi anghenion tai amrywiol ein poblogaeth ac i ddarparu cymunedau cynaliadwy. Cymysgu cartrefi un stafell wely gyda mathau/meintiau eraill.
- B1.4 Cefnogi'r gwaith o adfywio ardaloedd lleol lle gall datblygu tai gefnogi adfywiad economaidd trwy ymyriadau a buddsoddiad ar sail ardal. (gweler hefyd y cynllun gweithredu eiddo gwag)
- B1.5 Dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a gweithio gyda landlordiaid preifat i annog twf y sector rhentu preifat yn Sir Benfro (cynllun gweithredu eiddo gwag)
- B1.6 Darparu cartrefi sydd wedi'u dylunio'n dda a chwrdd â'r safonau uchaf o ran Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru.
Yng nghyd-destun y blaenoriaethau allweddol hyn, byddwn yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi'r dyraniad mwyaf posibl o'r Grant Tai Cymdeithasol i Sir Benfro i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy newydd a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid landlord cymdeithasol cofrestredig i sicrhau bod y grant tai cymdeithasol yn cael ei ddyrannu yn y ffordd orau wrth ddarparu cartrefi newydd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn ddigon ar ei ben ei hun i ddiwallu'r angen am gartrefi newydd yn y sir. Er mwyn mynd i'r afael â maint yr her sy'n wynebu Sir Benfro bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth i ddatblygu dulliau polisi a chyllido newydd ac arloesol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy yn ogystal â chynyddu rôl y sector rhentu preifat. Mae'n anochel bod hyn yn cynnwys y cyfle a gyflwynir drwy'r premiwm ail gartrefi a gasglwyd ac a fwriedir i gefnogi'r gwaith o gynhyrchu tai fforddiadwy yn y sir, ynghyd â'r newidiadau polisi a deddfwriaethol ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Bydd ein hymdrechion i ddarparu cymysgedd o dai i gefnogi anghenion amrywiol ein trigolion yn gofyn am weithio'n agos gyda chomisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod tai newydd yn cefnogi pobl ag anghenion arbenigol yn y ffordd orau er mwyn iddynt fyw gartref yn annibynnol am gyhyd â phosibl. Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, ystyried argymhellion Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wrth ddatblygu tai sy'n addas ar gyfer anghenion pobl hŷn neu bobl ag anableddau dysgu. Yn bwysig ddigon, bydd angen i’n hymagwedd gynnwys ymgysylltu â chomisiynwyr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau tai ar gyfer grwpiau anghenion arbenigol lle mae bylchau yn ein gwybodaeth gyffredin ar hyn o bryd.
Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â'n cydweithwyr ym maes polisi cynllunio i ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol 2 Sir Benfro i sicrhau bod polisïau cynllunio sy'n dod i'r amlwg yn cefnogi dulliau o ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd i ddiwallu anghenion poblogaeth Sir Benfro yn y dyfodol, gan gynnwys modelau arloesol ar gyfer cynyddu tai fforddiadwy megis modelau perchentyaeth cost isel gan gynnwys rhanberchenogaeth a chymorth prynu.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn gwneud y defnydd gorau o'i asedau ei hun wrth ddarparu tai fforddiadwy newydd a bydd yn parhau i adolygu a nodi cyfleoedd i ddarparu tai ar dir neu adeiladau dros ben sy'n eiddo i'r cyngor drwy'r Bwrdd Rheoli Asedau Corfforaethol.
Mae nifer sylweddol o heriau i'w hwynebu wrth gyflawni ein rhaglenni datblygu a galluogi uchelgeisiol:
Heriau wrth gyflenwi
- Mae diffyg safleoedd mwy o faint yn y sir yn golygu bod yna ddibyniaeth ar safleoedd cymhleth, llai o faint sydd heb yr un manteision o ran arbedion maint.
- Costau uchel sy'n gysylltiedig â datgloi safleoedd i'w datblygu, yn enwedig lle mae costau dymchwel, adfer neu seilwaith sylweddol i'w talu.
- Costau chwyddiant sylweddol ar gyfer deunyddiau adeiladu a llafur, gan arwain at oedi tra bod costau cynllun neu waith tendro yn cael eu hail-ystyried neu eu hail-dendro.
- Diffyg capasiti contractwyr/gweithlu yn y sir yn arwain at oedi yn y broses dendro ac anhawster i sicrhau tendrau cystadleuol.
- Y costau uwch sy'n gysylltiedig â darparu tai i fodloni safonau uwch o ran cynaliadwyedd.
- Diffyg adeiladwyr tai mwy yn gweithredu yn y sir yn lleihau'r gallu cyffredinol i ddarparu tai a lleihau'r tai fforddiadwy sydd ar gael trwy gytundebau a.106.
- Datblygwyr yn ceisio lleihau'r angen am dai fforddiadwy ar safleoedd oherwydd ymarferoldeb
- Landlordiaid preifat yn gadael y farchnad dai oherwydd rheoliadau a chostau cynyddol ac yn trosi cartrefi yn llety gwyliau.
- Argaeledd cyfyngedig Grant Tai Cymdeithasol i gefnogi'r angen sylweddol am dai fforddiadwy newydd.
- Capasiti o fewn y tîm darparu tai strategol i reoli'r newid sylweddol yn y ddarpariaeth
Manylion y camau gweithredu
B1.1 Sicrhau'r cyflenwad mwyaf o gartrefi fforddiadwy newydd yn Sir Benfro drwy ein partneriaethau, gan gynnwys datblygu cartrefi pobl hŷn i ddiwallu anghenion ein poblogaeth sy'n heneiddio yn ogystal â'r ddarpariaeth byw â chymorth.
Mae darparu ystod o gartrefi fforddiadwy newydd i ddiwallu anghenion ein trigolion yn un o flaenoriaethau allweddol y strategaeth dai hon ac mae ewyllys wleidyddol gryf i fuddsoddi’r adnoddau sydd eu hangen i gyrraedd y targed uchelgeisiol o ddarparu 300 o eiddo newydd erbyn 2027/28 gyda rhaglen flynyddol yr un mor uchelgeisiol o ddarparu tai newydd wedi hynny. Mae ein rhaglen ddatblygu bresennol yn dangos y potensial i ddarparu 458 o unedau erbyn 2028/29. Mae'r Asesiad Ardal o'r Farchnad Dai lleol diwygiedig ar gyfer 2023 fel yr eglurir uchod yn nodi bod angen 475 o unedau fforddiadwy ychwanegol fesul blwyddyn am bum mlynedd gyntaf yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (sy'n cynnwys 375 o unedau cymdeithasol a 100 o unedau Perchentyaeth Cost Isel/Rhent Canolradd). Yn Sir Benfro, mae'r angen presennol nas diwallwyd yn sylweddol fwy o ran maint na'r angen sy'n codi o'r newydd (o fewn y prif amcanestyniadau, yr angen presennol nas diwallwyd yw 1,070 y flwyddyn o gymharu ag angen newydd o 57 y flwyddyn). Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y ffigurau wedi'u gwyrdroi'n sylweddol tuag at y sector fforddiadwy yn y pum mlynedd gyntaf pan ragdybir y bydd yr angen presennol sydd heb ei ddiwallu yn cael ei ddiwallu. Mae 87.3% o'r angen gros blynyddol am dai yn y pum mlynedd gyntaf ar gyfer tai fforddiadwy (1,070/1,225).
Mae rhagor o fanylion am y ffigurau hyn wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 o'r Strategaeth hon. Mae Cyngor Sir Penfro ynghyd â’n partneriaid Cymdeithas Tai Ateb, Cymdeithas Tai Wales & West, Cymdeithas Tai Pobl a Chymdeithas Tai Barcud wedi cydweithio i ddatblygu dros 700 o gartrefi newydd erbyn 2028/29, yn amodol ar gynllunio a dyraniadau grant tai cymdeithasol. Mae'r tabl isod yn manylu ar y proffil hwn o adeiladau newydd sy'n rhan o Gynllun Datblygu'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.
Crynodeb o dyddiadau cwblhau ar gyfer datblygiadau arfaethedig yn Sir Benfro fesul sefydliad partner gyda wedi'i ddyrannu yn y brif raglen grant tai cymdeithasol
Blwyddyn |
Cyngor Sir Penfro |
Ateb |
Wales&West |
Barcud |
Pobl |
Cyfanswm |
2022/23 |
- |
55 |
11 |
- | - |
66 |
2023/24 |
44 |
47 |
60 |
- | - |
151 |
2024/25 |
7 |
37 |
- |
41 |
- |
85 |
2025/26 |
79 |
23 |
76 |
- |
42 |
220 |
2026/27 |
125 |
100 |
- | - | - |
225 |
2027/28 |
- | - | - | - | - | - |
2028/29 |
- | - | - | - | - | - |
Cyfanswm nifer yr eiddo |
255 |
262 |
147 |
41 |
42 |
747 |
Mae'r tabl canlynol yn cynnwys y cynlluniau hynny yn y gronfa wrth gefn a rhestr bosibl y cynllun datblygu rhaglenni sy'n aros am grant tai cymdeithasol. Mae ein dyraniad grant presennol yn cyfateb i tua £13-14 miliwn y flwyddyn, ond nid yw hyn wedi'i warantu gan ei fod yn dibynnu ar argaeledd cyllid Llywodraeth Cymru.
Crynodeb o ddatblygiadau posibl yn Sir Benfro fesul sefydliad partner sy'n aros am ddyraniad grant tai cymdeithasol
Blwyddyn |
Cyngor Sir Penfro |
Ateb |
Wales&West |
Barcud |
Pobl |
Cyfanswm |
2023/24 |
- |
- |
- |
- |
- |
- |
2024/25 |
- | - | - | - | - | - |
2025/26 |
18 |
- |
57 |
- | - |
75 |
2026/27 |
131 |
99 |
72 |
- | - |
302 |
2027/28 |
54 |
63 |
22 |
- |
55 |
194 |
2028/29 |
- |
269 |
- | - | - |
269 |
Cyfanswm nifer yr eiddo |
203 |
431 |
151 |
- |
55 |
840 |
Er mwyn ariannu ein buddsoddiad ein hunain mewn cartrefi newydd, rydym wedi adolygu ein meini prawf benthyca o fewn ein Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai gan ddefnyddio’r rhyddid a grëwyd wrth i Lywodraeth Cymru godi’r cap benthyca yn 2019. Mae hyn wedi ein galluogi i gynyddu ein benthyca o £226 miliwn yn y cynllun blaenorol i £271 miliwn ar gyfer 2023-2053, sef cynnydd o £45 miliwn dros 30 mlynedd. Bydd hyn yn galluogi rhaglen hyd yn oed yn fwy sylweddol o ddatblygiadau adeiladau newydd a phrynu eiddo i ddarparu tai fforddiadwy newydd i drigolion Sir Benfro ar draws ystod eang o anghenion, gan gynnwys tai anghenion cyffredinol, tai â chymorth a chynlluniau tai gwarchod. Rydym hefyd wedi defnyddio’r incwm o bremiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi i ariannu rhaglen uchelgeisiol a rhagweithiol o fuddsoddi a meithrin capasiti i gaffael cartrefi newydd a chefnogi gweithgarwch galluogi gwerth cyfanswm o dros £16 miliwn hyd at 2027/28. Rydym hefyd wedi cyflogi Swyddog Galluogi Tai Gwledig i gefnogi cymunedau gwledig i ddarparu tai fforddiadwy newydd i ddiwallu anghenion lleol.
Mae ein partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ddarparwyr hanfodol bwysig o dai fforddiadwy newydd yn y sir a byddwn yn gweithio’n agos gyda nhw i gefnogi eu rhaglenni cyflawni, gan gynnwys eu cefnogi i gael mynediad at gyllid ar gyfer tai fforddiadwy o raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru y mae ein dyraniad dangosol ar gyfer eleni yn £13.12 miliwn. Fel rhan o'n hymagwedd byddwn yn ceisio perthynas waith agosach fyth gyda'n partneriaid cyflawni er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a rennir gan gynnwys tir, capasiti, cyllid a dylanwad. Yn yr un modd, byddwn yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer datblygiadau cymysg a all draws-gymorthdalu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy, gan geisio cynnwys cynlluniau rhanberchnogaeth ochr yn ochr â thai cymdeithasol ar rent a thai am bris gostyngol ar werth. Ar hyn o bryd rydym yn ceisio nodi modelau o dai am bris is y gellir eu cadw am bris is am byth er mwyn osgoi colli tai â chymhorthdal i'r farchnad dai fforddiadwy gyffredinol.
Wrth wneud y mwyaf o ddarpariaeth ochr yn ochr â buddsoddiad uniongyrchol mewn cartrefi newydd gan y cyngor a'n partneriaid, byddwn hefyd yn ceisio cefnogi ymdrechion i sicrhau'r cyflenwad mwyaf posibl trwy orfodi rhwymedigaethau a.106 ar ddarparu tai fforddiadwy fel cyfran o ddatblygiadau newydd.
Mae rhaglen ddangosol y cyngor fel y mae ar hyn o bryd wedi'i nodi yn y tabl isod, fodd bynnag, bydd yn datblygu dros amser wrth i gynlluniau newydd ddod i'r amlwg ac wrth i gynlluniau arfaethedig gael eu diwygio.
Cynllun |
Cyfanswm y gyllideb |
Cyfanswm cyllid allanol amc-angyfrifedig |
Cost net amcangyfrifedig i'r cyfrif tai refeniw |
23/24 |
24/25 |
25/26 |
26/27 |
27/28 |
28/29 |
Nifer yr unedau |
Sylwadau |
Charles Street, Aberdaugleddau |
- |
- |
- |
- | - |
23 |
- | - | - |
23 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Parc Cranham, Johnston |
- |
- |
- |
33 |
- | - | - | - | - |
33 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Brynhir, Dinbych-y-pysgod |
- |
- |
- |
- | - | - |
125 |
- | - |
125 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Tudor Place, Tiers Cross |
- |
- |
- |
11 |
- | - | - | - | - |
11 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Maes Ingli, Trefdraeth |
- |
- |
- |
- | - |
19 |
- | - | - |
19 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Tŷ Haverfordia, Hwlffordd |
- |
- |
- |
- | - |
37 |
- | - | - |
37 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Glasfryn, Tyddewi |
- |
- |
- |
- |
7 |
- | - | - | - |
7 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Mae dyddiadau dechrau a chwblhau’r datblygiadau isod yn dibynnu ar argaeledd cymorth grant (gan gynnwys y premiwm ail gartrefi)
Cynllun |
Cyfanswm y gyllideb |
Cyfanswm cyllid allanol amcangyfrifedig |
Cost net amcangyfrifedig i'r cyfrif tai refeniw |
23/24 |
24/25 |
25/26 |
26/27 |
27/28 |
28/29 |
Nifer yr unedau |
Sylwadau |
Charles Street, Aberdaugleddau |
- |
- |
- |
- | - |
23 |
- | - | - |
23 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Parc Cranham, Johnston |
- |
- |
- |
33 |
- | - | - | - | - |
33 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Brynhir, Dinbych-y-pysgod |
- |
- |
- |
- | - | - |
125 |
- | - |
125 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Tudor Place, Tiers Cross |
- |
- |
- |
11 |
- | - | - | - | - |
11 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Maes Ingli, Trefdraeth |
- |
- |
- |
- | - |
19 |
- | - | - |
19 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Tŷ Haverfordia, Hwlffordd |
- |
- |
- |
- | - |
37 |
- | - | - |
37 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Glasfryn, Tyddewi |
- |
- |
- |
- |
7 |
- | - | - |
7 |
Grant Tai Cymdeithasol wedi'i neilltuo |
Cynllun |
Cyfanswm y gyllideb |
Cyfanswm cyllid allanol amcangyfrifedig |
Cost net amcangyfrifedig i'r cyfrif tai refeniw |
23/24 |
24/25 |
25/26 |
26/27 |
27/28 |
28/29 |
Nifer yr unedau |
sylwadau |
Safle hen Ysgol Iau Hakin * |
- |
- |
- |
- | - | - |
48 |
- | - |
48 |
Dim grant tai cymdeithasol wedi'i neilltuo, adolygu'r dyddiad dechrau a chwblhau'r gwaith adeiladu |
Safle hen Ysgol Fabanod Hakin * |
- |
- |
- |
- | - | - | - |
19 |
- |
19 |
Dim grant tai cymdeithasol wedi'i neilltuo, adolygu'r dyddiad dechrau a chwblhau'r gwaith adeiladu. Potensial i werthu'r safle i OM |
Safle hen Ysgol Hubbertson * |
- |
- |
- |
- | - | - |
32 |
- | - |
32 |
Dim grant tai cymdeithasol wedi'i neilltuo, adolygu'r dyddiad dechrau a chwblhau'r gwaith adeiladu |
Hen safle Ysgol Haycastle * |
- |
- |
- |
- | - | - |
19 |
- | - |
19 |
Dim grant tai cymdeithasol wedi'i neilltuo, adolygu'r dyddiad dechrau a chwblhau'r gwaith adeiladu |
Gerddi Windsor, Neyland * |
- |
- |
- |
- | - | - |
32 |
- | - |
32 |
Dim grant cymorth tai wedi'i neilltuo, adolygu dyddiad cwblhau'r gwaith adeiladu |
Glasfryn, Tyddewi Cam 2* |
- |
- |
- |
- | - |
11 |
- | - | - |
11 |
Dim grant tai cymdeithasol wedi'i neilltuo. Premiwm ail gartrefi wedi'i neilltuo'n flaenorol. Dyddiadau adolygu |
Cyn glwb Johnston Country Club* |
- |
- |
- |
- | - |
7 |
- | - | - |
7 |
Dim grant tai cymdeithasol wedi'i neilltuo. Premiwm ail gartrefi wedi'i neilltuo'n flaenorol. Dyddiadau adolygu |
Tai Glan yr Afon, Penfro * |
- |
- |
- |
- | - | - | - |
35 |
- |
37 |
Dim grant tai cymdeithasol wedi'i neilltuo. Opsiwn ar gyfer cyllid grant Cronfa Tai â Gofal |
Cyfanswm yr unedau fesul blwyddyn ariannol |
- |
- |
- |
44 |
7 |
97 |
256 |
54 |
458 |
- | |
Cyfanswm y Gost |
c. £122 miliwn |
c. £71 miliwn |
c. £51 miliwn |
- | - | - | - | - | - | - | - |
*Ar hyn o bryd dim ond gwerthoedd grant tai cymdeithasol dangosol sydd gan y cynlluniau hyn ac nid ydynt o fewn y prif gategori cynllun datblygu rhaglenni tra eu bod yn disgwyl am gyllid pellach.
Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio’r ffynonellau ariannu canlynol (grant tai cymdeithasol, premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, symiau cymudedig adran 106, grant y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro Llywodraeth Cymru) i wneud y canlynol:
- B1.1.1 Adolygu a diwygio ein dealltwriaeth o'r gofyniad tai fforddiadwy cyffredinol i ystyried y diweddariad i'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol gyda golwg ar sefydlu targedau cyflawni blynyddol wedi'u diweddaru ar gyfer cyfnod y strategaeth hon. (Blwyddyn 1 a 2)
- B1.1.2 Sicrhau bod y Cynllun Datblygu Lleol sydd ar y gweill yn adlewyrchu’r angen am dai fforddiadwy a’i fod yn cynnwys polisïau sy’n cefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy drwy amrywiaeth o ddaliadaethau fforddiadwy i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol Sir Benfro (Blwyddyn 2)
- B1.1.3 O fewn yr adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol, sicrhau ein bod yn cynnwys newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth gynllunio sy'n caniatáu datgymhwyso hawliau datblygu a ganiateir ar draws gorchmynion dosbarth defnydd o fewn ardaloedd cymunedol penodol (hy i reoli nifer yr ail gartrefi ychwanegol a'r llety tymor byr mewn ardal). Lle byddai hyn yn cael ei orfodi byddai'n caniatáu i'r awdurdod cynllunio ystyried a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth defnydd i'r llall ac i reoli nifer yr ail gartrefi ychwanegol a'r llety tymor byr mewn ardal.
- B1.1.4 Defnyddio’r cyllid ychwanegol a sicrhawyd drwy osod premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi fel y cytunwyd gan y Cabinet ar 13 Chwefror 2023 i wneud y mwyaf o’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy gan gynnwys addasu eiddo gwag, sicrhau datblygiadau newydd sbon drwy gytundebau gyda datblygwyr, cyflwyno cynnyrch perchentyaeth cost isel ar gyfer Sir Benfro. (Blwyddyn 1-5)
- B1.1.5 Adolygu'n flynyddol ein gofyniad benthyca 30 mlynedd i ariannu datblygiad newydd trwy gynllun busnes y cyfrif refeniw tai i ariannu'r flaenraglen o ddatblygu tai fforddiadwy newydd gan gynnwys tai ar gyfer rhent cymdeithasol a pherchentyaeth cost isel. (Blwyddyn 1-5)
- B1.1.6 Byddwn yn parhau i weithio'n rhagweithiol gyda'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ein datblygwyr a Llywodraeth Cymru i ddarparu gymaint o dai fforddiadwy newydd yn Sir Benfro â phosibl a gwneud y gorau o ddyraniad y grant tai cymdeithasol, adran 106 a phremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i gefnogi uchelgeisiau tai fforddiadwy sir Benfro. (Blwyddyn 1-5)
- B1.1.7 Datblygu cynllun cyflenwi tai fforddiadwy sy’n nodi’n glir y flaenraglen o ddatblygiadau tai fforddiadwy i’w cyflawni dros gyfnod y strategaeth a thu hwnt lle bo’n briodol, gan ddefnyddio argaeledd y grant tai cymdeithasol, adran 106 a phremiwm y dreth gyngor cartrefi ar gyfer ail gartrefi i gefnogi uchelgeisiau tai fforddiadwy sir Benfro. Mae'r cynllun cyflenwi tai fforddiadwy wedi'i gynllunio i nodi ymrwymiad y cyngor i ddarparu tai fforddiadwy ac mae'n arwain partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a datblygwyr preifat ar y gofynion cyflenwi a bydd yn cynnwys yr elfennau canlynol:-
- Crynodeb o asesiad o'r angen lleol am dai, gan gynnwys disgrifiad o'r angen am dai fforddiadwy, wedi'i fireinio lle bo'n briodol, yn ôl maint ystafelloedd gwely a chymysgedd deiliadaeth gan gynnwys ar lefel gymunedol i arwain datblygwyr.
- Data rhestrau aros gan gynnwys anghenion yn ôl maint ystafelloedd gwely
- Trosolwg o brisiau tai a lefelau rhent y sector preifat mewn ardaloedd parciau cenedlaethol ac ardaloedd nad ydynt yn barciau cenedlaethol
- Trosolwg o’r modelau tai fforddiadwy a ffefrir gan y cyngor gan gynnwys diffiniadau o fathau o ddeiliadaeth a gwybodaeth am fodelau perchentyaeth cost isel a gefnogir gan y cyngor gan gynnwys rhanberchnogaeth, Cymorth Prynu Cymru ac opsiynau perchentyaeth cost isel eraill sy’n deillio o waith gwerthusol ar fodelau perchentyaeth cost isel sy’n addas ar gyfer Sir Benfro. Crynodeb i gynnwys gwybodaeth ariannol am derfynau costau ac unrhyw ofynion am byth.
- Crynodeb o anghenion tai â chymorth ar draws Sir Benfro i arwain y dulliau cyflenwi a gymerwyd o gynlluniau tai arbenigol cyfredol neu gynlluniau sydd ar y gweill
- Cynllun gweithredu tai yn nodi manylion blaenraglenni cyflawni unigol i ddiwallu anghenion cyffredinol ac arbenigol.
- Dadansoddiad lefel uchel o stoc a ddelir gan Gyngor Sir Penfro a'i bartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan gynnwys tai gwarchod a thai â chymorth
- Canllawiau ar y safonau datblygu a ffefrir gan gynnwys datblygu ein dulliau o gyflawni Dulliau Adeiladu Modern a safonau Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru.
- Tabl cryno lefel uchel yn nodi’r flaenraglen dros y pum mlynedd (Blwyddyn 1-2)
- B1.1.7 Byddwn yn ymchwilio i sefydlu Bwrdd Partneriaeth Tai Strategol a fydd yn cynnwys swyddogion arweiniol o Gyngor Sir Penfro, Aelodau Cabinet Tai a Chyflenwi, a Phrif Weithredwr/uwch gynrychiolwyr y Partneriaid Landlord Cymdeithasol Cofrestredig mwyaf sy'n gweithredu yn Sir Benfro. Rôl y bwrdd fydd cael trosolwg strategol o'r Cynllun Cyflenwi Tai, gan sicrhau bod y bartneriaeth gyflenwi yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau, y capasiti a'r arbenigedd sydd ar gael i ddarparu tai fforddiadwy newydd yn Sir Benfro. (Blwyddyn 1)
- B1.1.8 Adolygu strwythurau'r tîm Cyflenwi Tai Fforddiadwy y Gwasanaethau Tai i sicrhau ein bod yn alinio adnoddau priodol a digonol â phob ffrwd waith er mwyn darparu’r rhaglen garlam yn effeithlon. (Blwyddyn 1)
- B1.1.9 Cynnal rhaglen gaffael weithredol i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy newydd tra’n dod â’r holl eiddo a gafaelwyd i Safon Ansawdd Tai Cymru. (Blwyddyn 1-3)
- B1.1.10 Parhau i ddefnyddio'r Bwrdd Rheoli Asedau Corfforaethol i adolygu tir ac adeiladau dros ben sy'n eiddo i'r cyngor ac ystyried eu haddasrwydd a'u hymarferoldeb ar gyfer cynlluniau tai newydd. Cefnogir hyn gan ofyniad i bob gwasanaeth adolygu eu hanghenion llety fel rhan o'r gwaith cyfnodol o Gynllunio Rheoli Asedau Gwasanaeth. (Blwyddyn 1-5)
- B1.1.11Ymgysylltu â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus i sefydlu Cyd-weithgor Asedau i werthuso’r ystâd a rennir er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu tai a/neu ddefnyddio’r ystâd gyhoeddus a rennir yn fwy effeithlon. (Blwyddyn 1, 2)
- B1.1.12 Rhoi trefniadau ar waith i gynnal 'Digwyddiad Datblygwyr' ar gam priodol o'r cynllun datblygu lleol gan wahodd adeiladwyr tai a chontractwyr mawr i Sir Benfro i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer datblygu yn y sir. (Blwyddyn 1-2).
B1.2 Sicrhau bod ein darpariaeth tai fforddiadwy yn ystyried yr angen am dai â chymorth a thai arbenigol gan gynnwys tai pobl hŷn i ddiwallu anghenion ein poblogaeth sy’n heneiddio yn ogystal â thai â chymorth.
Mae gan dai â chymorth ac arbenigol rôl hollbwysig i'w chwarae wrth helpu aelwydydd sy'n agored i niwed i fyw'n annibynnol yn Sir Benfro, gan wella ansawdd eu bywyd a gwella eu hiechyd a'u lles yn gyffredinol. Mae'n bwysig, felly, bod y cyngor yn gweithio'n agos gyda chomisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol lleol a'n darparwyr tai partner i gynllunio i ddarparu tai priodol sy'n diwallu'r anghenion hynny o fewn y cymunedau cymysg o dai fforddiadwy a thai'r farchnad agored. At hynny, trwy gysylltu tai newydd â lefelau priodol o gymorth, mae’r effeithiau tymor hwy nid yn unig o fudd i’r unigolyn ond hefyd yn helpu i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd ac adferiad a gynlluniwyd a ddarperir gan wasanaethau iechyd sydd dan bwysau ariannol.
Yng ngoleuni'r twf a ragwelir ym mhoblogaeth hŷn Sir Benfro mae angen cysylltiedig i gynllunio ar gyfer cymysgedd priodol o dai newydd a fforddiadwy a'i ddarparu, i ateb proffil newidiol y boblogaeth. Mae gan y ddarpariaeth o dai arbenigol, gan gynnwys tai gwarchod a adeiladwyd i safon ansawdd tai Cymru, ran bwysig i'w chwarae o ran lleihau anghydraddoldebau iechyd a chefnogi ein poblogaeth sy'n heneiddio i fyw'n dda yn hirach. Mae’r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol diwygiedig yn nodi’r angen am 550 uned llety gwarchod, 141 uned o lety gofal ychwanegol a 690 uned o lety arbenigol ar gyfer aelwydydd pobl hŷn rhwng nawr a 2036. Mae gofal cofrestredig i bobl hŷn yn ychwanegol at y ffigur a bydd angen 579 o unedau ychwanegol yn y cyfnod hwn tan 2039. Mae hyn yn cynnwys llety i'r farchnad a llety fforddiadwy. Mae tabl manwl wedi'i gynnwys yn atodiad 1 o'r strategaeth hon. Gyda chefnogaeth gwasanaethau cymorth tai lefel isel wedi'u targedu a'u comisiynu ar y cyd, gallwn helpu i sicrhau bod pobl yn heneiddio'n dda a gallwn leihau'r costau hirdymor posibl i wasanaethau iechyd a lles y sir. Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd â nifer o ddatblygiadau sy'n cynnwys dymchwel ac ailddatblygu ein cynlluniau tai gwarchod hen ffasiwn fel rhan o raglen i wneud ein stoc tai gwarchod yn fwy addas i ddiwallu anghenion newidiol ein poblogaeth sy'n heneiddio. Bydd angen i'r ddarpariaeth ehangach o dai gwarchod a thai gofal ychwanegol ar draws Sir Benfro hefyd ystyried y ddemograffeg sy'n heneiddio yn Sir Benfro, wedi'i llywio gan yr asesiad o'r angen am dai arbenigol a llety ar gyfer pobl hŷn yng ngorllewin Cymru.
Mae'r pwysau amlwg ar wasanaethau digartrefedd yn y sir yn cael effeithiau cysylltiedig ar y galw am lety dros dro a'r angen am wasanaethau cymorth arbenigol i gefnogi ein trigolion mwyaf bregus. Drwy ein Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai rydym wedi nodi ein dull partneriaeth o sicrhau y darperir ystod o wasanaethau a gomisiynir ar y cyd sy'n helpu i atal digartrefedd a chefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Mae blaenoriaeth 2 y Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai yn canolbwyntio ar 'sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael mynediad i’r cartref cywir ar yr amser cywir ac yn y lle cywir, fel rhan o’n dull Ailgartrefu Cyflym’. I'r perwyl hwnnw, mae'n bwysig felly bod datblygu a chaffael tai newydd yn ystyried yr anghenion a nodwyd a nodir yn y Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid comisiynu i ganfod datrysiadau llety sy'n addas ar gyfer anghenion eu grwpiau cleientiaid. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys nodi llety i gefnogi ymyrraeth mewn argyfwng gan wasanaethau prawf.
Er bod yr asesiad o'r farchnad dai leol yn ystyried yr angen am dai ar gyfer rhai grwpiau sydd ag anghenion arbenigol, gan gynnwys pobl hŷn, rydym yn dibynnu ar ein comisiynwyr o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i nodi’r anghenion llety ar gyfer sbectrwm llawer ehangach gan gynnwys, pobl ifanc sy’n gadael gofal, anableddau corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Mae cynllunio ymlaen llaw ar gyfer anghenion o'r fath yn hollbwysig.
Mae’r rhwydwaith dysgu a gwella tai ar ran partneriaeth gofal gorllewin Cymru wedi cyhoeddi’r Asesiad o'r Angen am Dai a Llety ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu yng ngorllewin Cymru hyd at 2037 ac mae hefyd wedi cyhoeddi Asesiad o'r Angen am Dai a Llety Arbenigol ar gyfer Pobl Hŷn yng ngorllewin Cymru (2018). Mae'r ddau asesiad yn cynnig dadansoddiad o'r anghenion llety ar lefel sirol ar gyfer Sir Benfro ac yn darparu sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol ar gyfer ymgysylltu â chyfleoedd i ddatblygu tai trwy gymysgedd o fodelau ariannu/ partneriaethau, i gefnogi'r anghenion a nodwyd. Cynrychiolir Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Penfro ar y Grŵp Llety Gofal Cymdeithasol sy’n cynnwys cynrychiolaeth o blith comisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r grŵp yn darparu fforwm defnyddiol ar gyfer trafod yr angen am lety arbenigol neu dai â chymorth a’i gyflwyno i’w gynnwys yn y flaenraglen waith ar gyfer datblygu. Wrth adeiladu ar y gwaith a gomisiynwyd gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a chan ystyried ei asesiad poblogaeth yn 2022, byddai datblygu cynlluniau tai ar gyfer y grwpiau anghenion allweddol yn cefnogi’r cyngor i weithio gyda’i bartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddatblygu blaenraglen o dai newydd â chymorth i ddiwallu'r anghenion a nodwyd. Mae'r wybodaeth hon hefyd yn cael ei bwydo i Raglen Gyfalaf Strategol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y mae ei Strategaeth Gyfalaf yn cyfeirio'r blaenoriaethau a'r fframwaith ar gyfer dyrannu'r Gronfa Tai â Gofal (HCF) a'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (ICRF).
Fel rhan o’n cynlluniau sy’n dod i’r amlwg byddwn yn ystyried canfyddiadau’r Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr wrth nodi lleiniau ychwanegol addas i ddiwallu anghenion a nodwyd.
Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio cyfuniad o gyllid gan gynnwys y Gronfa Tai â Gofal, y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grant Tai Cymdeithasol, y Cyfrif Refeniw Tai i wneud y canlynol:
- B1.2.1 Ymgysylltu â'r Grŵp Comisiynu Llety Gofal Cymdeithasol i gytuno ar ddull gweithredu ar gyfer sicrhau bod ystod o gynlluniau tai yn cael eu diweddaru a/neu eu datblygu sy'n nodi anghenion llety grwpiau cleientiaid sy'n agored i niwed i lywio rhaglenni datblygu tai'r cyngor a'i bartneriaid landlord cymdeithasol cofrestredig. (Blwyddyn 1)
- B1.2.2 Ymgysylltu â'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau bod datblygiadau tai newydd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r anghenion a nodwyd ar gyfer tai a aseswyd trwy'r Grŵp Comisiynu Llety Gofal Cymdeithasol. (Blwyddyn 1)
- B1.2.3 Cynnal adolygiad newydd o dai gwarchod er mwyn sicrhau bod proffil a dyluniad ein hystâd yn diwallu anghenion newidiol ein poblogaeth sy’n heneiddio. Dylai’r adolygiad ystyried y dadansoddiad newydd o anghenion ac ystyried y galw am lefelau gwahanol o dai â chymorth i bobl hŷn gan gynnwys tai gwarchod a thai gofal ychwanegol. (Blwyddyn 1 a 2)
- B1.2.4 Cyflawni’r Cynllun Gweithredu a nodir yn ein Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-26 sy’n ymwneud â darparu datrysiadau llety (Blaenoriaeth Strategol 2).
- B1.2.5 Cynnal adolygiad o’r ystod o fodelau ariannu sydd ar gael ar gyfer darparu llety â chymorth gan gynnwys, er enghraifft, modelau partneriaeth breifat/landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer anableddau dysgu, er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer modelau cymysg. (Blwyddyn 1 a 2)
- B1.2.6 Nodi eiddo addas i letya unigolion a theuluoedd sydd wedi dod i Sir Benfro fel rhan o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ddarparu llety i geiswyr lloches a/neu Raglenni Adsefydlu Ffoaduriaid (Blwyddyn 1)
- B1.2.7 Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr wedi’i ddiweddaru, byddwn yn nodi opsiynau addas ar gyfer darparu lleiniau ychwanegol drwy ddarpariaeth safleoedd awdurdodau lleol a/neu'r sector preifat. (Blwyddyn 2)
B1.3 Sicrhau cymysgedd priodol o ddeiliadaethau tai a mathau o dai ar draws ein cynlluniau tai i gefnogi anghenion tai amrywiol ein poblogaeth ac i ddarparu cymunedau cynaliadwy.
Wrth ymateb i'r angen cyffredinol i ail-gydbwyso'r farchnad dai drwy gynyddu mynediad at dai fforddiadwy, mae'n bwysig i ni sicrhau ein bod yn creu cymunedau cymysg a chynaliadwy fel ei gilydd. Er bod galw ac angen amlwg am dai rhent cymdeithasol, mae angen i ni ddatblygu ystod o fodelau tai fforddiadwy, gan gynnwys rhenti canolradd ac opsiynau perchentyaeth cost isel sy'n diwallu anghenion amrywiol ein preswylwyr. Wrth greu cymunedau cynaliadwy a chymysg byddwn yn ceisio osgoi cynlluniau un ddeiliadaeth, gan gymysgu daliadaeth tai lle bo hynny’n ymarferol a chymysgu meintiau tai i sicrhau ein bod yn osgoi datblygiadau â ffocws o dai un ystafell wely mewn un lle. Bydd hyn yn heriol yng nghyd-destun y lefel uchel o alw am lety person sengl, fodd bynnag, yr amcan trosfwaol fydd creu cymunedau cymysg a gallwn ddibynnu ar brofiad ac arbenigedd ein partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i helpu i sicrhau bod ein hymdrechion ar y cyd yn cyflawni cynlluniau o dai fforddiadwy newydd sy'n gytbwys ac wedi'u rheoli'n dda.
Er mwyn creu marchnad dai fwy amrywiol a chynyddu’r cyflenwad tai i gefnogi cynaliadwyedd ein cymunedau rydym yn cydnabod rôl bwysig bosibl Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, yn enwedig wrth gefnogi anghenion cymunedau gwledig a chymunedau sy'n siarad Cymraeg lle mae fforddiadwyedd y farchnad dai yn atal mynediad i dai lleol. Mae'r heriau hyn yn aml yn fwyaf amlwg o fewn ardal y Parc Cenedlaethol felly byddwn yn gweithio gydag Awdurdod Parciau Cenedlaethol Sir Benfro i annog gwaith Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a hunan-adeiladu fel rhan o'r ateb i ddarparu cymunedau cynaliadwy. Gall cyflwyno cynlluniau hunan-adeiladu sy'n gysylltiedig â sgiliau a chymwysterau adeiladu hefyd helpu i fynd i'r afael â'r diffyg sgiliau a chapasiti sy'n bodoli yn y sir.
Byddwn yn parhau i hyrwyddo mynediad i gynlluniau Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru sy'n darparu ystod o fecanweithiau cymorth i helpu preswylwyr o ran perchentyaeth tra'n datblygu ymhellach y gwaith a wneir gan Arc4 i nodi ystod o gynhyrchion perchentyaeth cost isel ar gyfer Sir Benfro. Bydd hyn yn arbennig o bwysig fel rhan o'n dull o fynd i'r afael â'r angen i ddenu a chadw gweithwyr allweddol yn y sir.
Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio cyllid o bremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a grant tai cymdeithasol i wneud y canlynol:
- B1.3.1 Gan ddysgu o arferion gorau, byddwn yn cwblhau'r astudiaeth i gynhyrchion perchentyaeth cost isel sy'n addas ar gyfer Sir Benfro ac yn adrodd ar y canfyddiadau i'r Cabinet gyda'r bwriad o ddatblygu a mabwysiadu cyfres o opsiynau perchentyaeth cost isel sy'n cefnogi aelwydydd i ddilyn llwybr at berchentyaeth. Byddwn hefyd yn ceisio nodi, drwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol eraill, pa opsiynau sydd ar gael i ddiogelu modelau tai cost isel am byth. Targedu 375 o gartrefi fforddiadwy newydd wedi’u hariannu gan £6.5 miliwn dros bum mlynedd hyd at 2027/28.
- B1.3.2 Byddwn yn ymgysylltu ag Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol lleol sy'n dymuno datblygu cynlluniau tai fforddiadwy, gan gynnwys trwy ein gwaith partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Bydd Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol hefyd yn cael eu cyfeirio at Cwmpas lle gall cymorth ac arweiniad helpu i werthuso, sefydlu a datblygu prosiectau tai a arweinir gan Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol. Ar hyn o bryd, mae £3 miliwn wedi'i ddyrannu i Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach dros dair blynedd, £100,000 i Ymddiriedaeth Tir Cymunedol Nolton Roch a £250,000 pellach i ddatblygu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol newydd hyd at 2027/28. Yn dibynnu ar sefydlu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, gallai'r ffigur hwn gynyddu wrth i gynlluniau newydd ddod i'r amlwg. (Blwyddyn 1-5)
- B1.3.3 Yn amodol ar ganfyddiadau’r asesiad o'r farchnad dai leol, byddwn yn gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ymateb i’r angen am bolisïau gosod lleol i gefnogi ein cymunedau lleol, gan gynnwys gweithwyr allweddol a chymunedau Cymraeg eu hiaith, er mwyn iddynt gael mynediad at dai fforddiadwy. Bydd hyn yn cael ei ymgorffori yn yr adolygiad o bolisi gosod Cartrefi Dewisedig (Blwyddyn 1)
- B1.3.4 Ochr yn ochr â’r newidiadau i bolisi trethiant a chynllunio lleol a gyflwynwyd eisoes, byddwn yn ystyried gweithredu mesurau pellach sy’n dod i’r amlwg o dan y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg wrth ddiwallu anghenion tai ein cymunedau Cymraeg eu hiaith. (Blwyddyn 2)
- B1.3.5 Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i nodi cyfleoedd i gefnogi mentrau hunan-adeiladu a all gefnogi datblygiadau tai newydd, yn enwedig lle mae'n cefnogi caffael sgiliau a chymwysterau adeiladu. (Blwyddyn 2-5)
- B1.3.6 Byddwn yn adolygu ein hasedau tir gyda’r bwriad o nodi lleiniau tai llai o faint a allai fod yn addas ar gyfer y rhai sy’n ceisio cyfleoedd hunanadeiladu. (Blwyddyn 2-5)
- B1.3.7 Byddwn yn ymchwilio i gyfleoedd i gymryd rhan ym mhrosiect Hunanadeiladu Cymru a hyrwyddo lleiniau a nodwyd i ymgeiswyr cymwys. (Blwyddyn 1-2)
- B1.3.8 Byddwn yn datblygu dull polisi trwy ein polisi dyrannu sy'n cefnogi ac yn annog tenantiaid sy'n dymuno symud i gartref llai o faint a thrwy hynny ryddhau llety mwy o faint i deuluoedd er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r stoc sydd ar gael. (Blwyddyn 1)
- B1.3.9 Byddwn yn ystyried gweithredu dulliau polisi cynllunio a nodir gan Lywodraeth Cymru sy’n pennu ac yn rheoleiddio dosbarthiad anheddau i gefnogi cynaliadwyedd cymunedau lleol. (Blwyddyn 1-2)
B1.4 Cefnogi'r gwaith o adfywio ardaloedd lleol lle gall datblygu tai gefnogi adfywiad economaidd drwy ymyriadau a buddsoddiad ar sail ardal.
Mae gan dai rôl bwysig o bosibl i’w chwarae wrth adfywio cymunedau a lleoedd lle mae tueddiadau economaidd neu ddemograffig wedi effeithio’n negyddol ar gydlyniant cymunedol neu ansawdd yr amgylchedd lleol. Yn Sir Benfro rydym yn ymwybodol bod pocedi o amddifadedd yn rhai o’n trefi a’n cymunedau gwledig mwy o faint sy’n arwain at lai o ganlyniadau economaidd, iechyd a chanlyniadau eraill i drigolion lleol. At hynny, er bod rhai o’r dangosyddion amddifadedd yn fwy amlwg yn ein haneddiadau mwy o faint fel Doc Penfro ac Aberdaugleddau, yn aml gallant gael eu cuddio mewn ardaloedd mwy gwledig lle mae materion fel mynediad gwael at wasanaethau a thrafnidiaeth yn cyflwyno heriau amlwg i’r gymuned leol.
Mae dirywiad y diwydiant manwerthu blaen siopau wedi cyfrannu at wagio hen ardaloedd masnachol rhai o’n trefi, gan arwain at arwyddion gweledol mwy amlwg o ddadfeiliad yn yr amgylchedd adeiledig gyda siopau gwag yn cyfrannu at ddirywiad yn y parth cyhoeddus cyffredinol. Rydym yn cydnabod y gall buddsoddi mewn tai gael effaith gadarnhaol ar ansawdd ffisegol canol trefi, yn enwedig pan gaiff ei gyflawni ochr yn ochr â buddsoddiad adfywio economaidd, gan gyfrannu at adfywio’r amgylchedd lleol a’r ymdeimlad cyffredinol o le.
Felly byddwn yn nodi cyfleoedd i ddefnyddio ein gwybodaeth am bocedi o amddifadedd lleol i nodi ardaloedd lle gall ymyrraeth wedi'i thargedu helpu i gefnogi cymunedau lleol i ffynnu ond hefyd gefnogi'r gwaith o adfywio ein trefi. Bydd hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth â'n partneriaid cyflenwi, gan gynnwys ein partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, adfywio economaidd, cynllunio, a landlordiaid y sector preifat, a bydd yn cynnwys defnyddio buddsoddiad wedi'i dargedu a defnyddio ein pwerau gorfodi lle bo'n briodol i wella cyflwr eiddo. Mae'n bosibl y bydd datblygu'r chwe chynllun creu lleoedd a ariennir drwy raglen gyllido Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn gyfle i gydweithio a nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn tai helpu i adfywio canol trefi. Ymhellach, drwy weithio'n rhagweithiol gyda landlordiaid preifat gallwn ddefnyddio polisi cynllunio diwygiedig i ail-ddefnyddio mannau gwag mewn ardaloedd manwerthu eilaidd at ddefnydd unedau tai newydd.
At hynny, mae ein rhaglen datblygu tai yn rhoi’r cyfle i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn cymunedau lleol yr effeithir arnynt gan faterion fforddiadwyedd tai sy’n gysylltiedig â pherchnogaeth ail gartrefi a ffactorau eraill a ddisgrifir yn y strategaeth hon. Gall buddsoddiad wedi’i dargedu mewn cynlluniau tai fforddiadwy newydd, sy’n gysylltiedig â pholisïau gosod lleol sy’n blaenoriaethu aelwydydd â chysylltiad lleol helpu i ail-gydbwyso cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a helpu i atal aelwydydd lleol iau rhag allfudo. Byddwn yn defnyddio data amddifadedd a data arall i nodi parthau ar gyfer buddsoddiad ac ymyrraeth ar sail ardal.
Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio cyllid o’r grant tai cymdeithasol, cyfrif refeniw tai, grantiau trawsnewid trefi, premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi / tai gwag, grant cartrefi gwag er mwyn:
- B1.4.1 Datblygu ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth at ddatblygiadau tai newydd ar gyfer cymunedau lle canfyddwn dystiolaeth o lefelau uwch o amddifadedd neu ddirywiad mewn cydlyniant cymunedol sy'n gysylltiedig â fforddiadwyedd tai. Byddwn yn defnyddio polisïau gosod lleol i roi blaenoriaeth i ddyrannu cartrefi newydd i aelwydydd sydd â chysylltiad lleol. (Blwyddyn 1-5)
- B1.4.2 Byddwn yn datblygu cyfres o ddangosyddion y gallwn eu defnyddio i fesur ein heffaith wrth dargedu buddsoddiad tai tuag at gymunedau o amddifadedd a nodwyd. (Blwyddyn 1)
- B1.4.3 Byddwn yn gweithio gydag Adfywio Economaidd i nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad mewn tai sydd wedi’i dargedu sy’n dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gan gynnwys troi mannau gwag uwchben siopau yn llety preswyl a/neu drawsnewid hen adeiladau manwerthu yn barthau manwerthu eilaidd. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i geisio cynyddu’r capasiti a’r cyllid ar gyfer cyflawni newid. (Blwyddyn 1-3)
- B1.4.4 Byddwn yn llunio cofrestr ar gyfer landlordiaid eiddo masnachol sy’n dymuno trosi’r cyfan neu ran o’u heiddo yn eiddo preswyl, yn amodol ar bolisi/caniatâd cynllunio, i ganfod y cwmpas posibl ar gyfer cynyddu’r cyflenwad tai fforddiadwy, gan gynnwys drwy bartneriaethau â’r cyngor a/neu ein partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. (Blwyddyn 1-2)
B1.5 Dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a gweithio gyda landlordiaid preifat i annog twf y sector rhentu preifat yn Sir Benfro.
Ochr yn ochr â her perchnogaeth ail gartrefi mae'r cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag eiddo gwag a mynd i'r afael â'r dirywiad yn y sector rhentu preifat yn Sir Benfro. Drwy ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chefnogi mentrau sy'n cymell landlordiaid preifat i aros yn y farchnad dai preswyl, mae'r cyngor yn anelu at gynyddu argaeledd eiddo preswyl a helpu i ail-gydbwyso'r farchnad dai.
Mae’r cyngor wedi datblygu Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag 2021-2025 ac wedi cyflogi Swyddog Eiddo Gwag i ystyried capasiti wrth gyflawni’r cynllun gweithredu a chydlynu ymgysylltiad â landlordiaid a pherchnogion eiddo i nodi a chefnogi cyfleoedd i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd preswyl. Ochr yn ochr â hyn mae'r cyngor wedi nodi pecyn o arian cyfatebol ariannol ar gyfer y cynllun Grantiau Tai Gwag a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru. Gan ddefnyddio derbyniadau premiwm y dreth gyngor bydd y grant yn galluogi cefnogaeth ragweithiol i berchnogion tai i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd. Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi Cynllun Lesio Cymru, sef cynllun peilot sy'n cynnig grantiau i landlordiaid wella eu heiddo ynghyd â'r cyfle i lesio'u heiddo i'r awdurdod lleol am rent gwarantedig a rheolaeth lawn o'r eiddo am gyfnod rhwng 5 ac 20 mlynedd. Gyda chwe les yn weithredol ar hyn o bryd a rhestr aros o ddiddordeb mae gan y cynllun y potensial i ddenu mwy o landlordiaid y mae goblygiadau rheoleiddio, risgiau incwm rhent a gofynion rheoli wedi achosi iddynt adael y farchnad gosod tai preswyl. Bydd monitro llwyddiant y ddau gynllun yn barhaus yn llywio'r potensial ar gyfer buddsoddiad pellach yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael. Yn yr un modd, bydd angen monitro, adolygu a diweddaru'r Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag i sicrhau ein bod yn mesur ein cynnydd ac yn diweddaru ein cynlluniau i ystyried cyfleoedd a syniadau newydd ar gyfer dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd i gefnogi anghenion tai Sir Benfro.
Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio cyllid o gynllun grantiau cartrefi gwag Llywodraeth Cymru, incwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi/ cartrefi gwag Cyngor Sir Penfro, trawsnewid trefi Llywodraeth Cymru, cynllun lesio'r sector rhentu preifat Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- B1.5.1 Hyrwyddo a darparu arian cyfatebol tuag at gynllun lesio'r sector rhentu preifat lle mae landlordiaid y sector preifat yn cael cynnig y cyfle i lesio'u heiddo i’r awdurdod lleol am incwm rhent misol gwarantedig a bydd yr awdurdod yn rheoli'r eiddo'n llwyr am gyfnod rhwng 5 ac 20 mlynedd. Arian cyfatebol i gefnogi capasiti ychwanegol i weinyddu'r cynllun yn lleol. Targed o 80 eiddo wedi cytuno i'r cynllun erbyn diwedd 2026/27.
- B1.5.2 Gwerthuso effaith Cynllun Lesio Cymru i'r sector rhentu preifat ar ddiwedd blwyddyn un ac ystyried datblygu cynllun a ariennir yn lleol gan ddefnyddio premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi/cartrefi gwag, heb gynnwys yr elfen grant ond gan gynnwys darpariaethau gwarant rhent a gwarant difrod i gefnogi'r broses o symud ymlaen o lety dros dro. (Blwyddyn 2)
- B1.5.2 Cyflawni’r cynllun grant cartrefi gwag cenedlaethol (ar gyfer perchen-feddianwyr) ac o ganlyniad bydd gan y sir grant o £2,985,546 i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn y sir yn ystod 2023 - 2025. (Blwyddyn 1-3)
- B1.5.3 Cyflwyno cynllun grant tai gwag lleol ar gyfer landlordiaid preifat gan ddefnyddio premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi/cartrefi gwag, gydag amodau grant yn mynnu rhent fforddiadwy a hawliau enwebu. (Blwyddyn 1-2)
- B1.5.4 Cyflawni ac adolygu’r camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Gweithredu Eiddo Gwag 2021/25, sicrhau bod trefniadau monitro ac adrodd perfformiad priodol ar waith a sicrhau ymrwymiad gan ein partneriaid cyflenwi strategol a fydd yn helpu i gyfeirio gwaith y Swyddog Eiddo Gwag. (Blwyddyn 1-3)
- B1.5.4 Datblygu gweithdrefn gwerthu gorfodol y cytunwyd arni gan y cabinet a fydd yn cynorthwyo gyda gorfodi mewn perthynas ag eiddo gwag problemus. (Blwyddyn 2)
B1.6 Darparu cartrefi sydd wedi'u dylunio'n dda ac sy'n cwrdd â'r safonau uchaf o ran Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru.
Mae datganiad y cyngor o argyfwng hinsawdd ym mis Mai 2019 ynghyd ag ymrwymiad y cyngor i fod yn gyngor sero net erbyn 2030 yn adlewyrchu ymrwymiad corfforaethol i gyflawni safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni. Er nad yw ein huchelgais corfforaethol yn cynnwys ein stoc tai cyngor, mae’r uchelgais i ddatgarboneiddio stoc tai cymdeithasol yn cysylltu â thargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl dai fforddiadwy newydd i fodloni gofynion ansawdd datblygu Cymru sy’n cynnwys bodloni safonau ynni a datgarboneiddio hyd at safon EPC A neu gyfwerth. Mae'r safon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi newydd gael eu dylunio a'u hadeiladu mewn ffordd sy'n ymateb i anghenion newidiol aelwydydd dros amser ac sy'n ddiogel. Mae'r holl gartrefi sydd newydd eu datblygu ac a ddarperir gan y cyngor a'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cydymffurfio â'r safonau hynny. Rydym hefyd yn sicrhau bod unrhyw eiddo a gawn drwy ein cynllun prynu’n ôl yn cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru a thrwy hynny’n cyfateb i’r safonau ar draws ein stoc bresennol o dai cymdeithasol. Mae ein gwaith cynllunio busnes cyfrif refeniw tai yn ceisio sicrhau ein bod yn cynnal ein stoc bresennol i ateb Safonau Ansawdd Tai Cymru o leiaf. Mae’r adolygiad o Safonau Ansawdd Tai Cymru yn golygu bod gennym tan 2029 i gyflawni EPC C ar gyfer adeiladwaith ein stoc dai, ynghyd â thair blynedd i ddatblygu Cynllun Datgarboneiddio a Chynhesrwydd Fforddiadwy. Yn ystod y cyfnod hwn mae'n rhaid i bob landlord cymdeithasol hefyd fod wedi ymgymryd ag asesiad stoc cyfan i lywio datblygiad y cynllun.
Ar gyfer datblygiadau newydd rydym eisoes wedi datblygu ein canllawiau ein hunain ar gyfer cynlluniau mewnol safonol mewn cartrefi newydd sy'n cyflawni gofynion ansawdd datblygu Cymru. At hynny, mae cynlluniau mewnol yn cynnwys canllawiau sy'n ystyriol o ddementia a chanllawiau 'arferion gorau' RNIB. Ymhellach, bydd cynlluniau tai fforddiadwy newydd yn anelu at gyrraedd safon aur Diogelu Drwy Ddylunio i sicrhau bod datblygiadau yn lleoedd diogel i fyw ynddynt. Wrth gyrraedd safonau gofynion ansawdd datblygu Cymru, bydd ein cartrefi hefyd yn cyflawni EPC A yn ogystal â dyluniad carbon isel.
Mae'r cyngor wedi ymrwymo i osod safonau uchel i'n hunain o ran dyluniad, gosodiad a pherfformiad ynni ein datblygiadau newydd yn ogystal â sicrhau, o leiaf, ein bod yn cydymffurfio â safonau a bennir yn genedlaethol a byddwn yn gweithio gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i rannu arferion gorau sy'n gallu gwella ansawdd cartrefi newydd ymhellach ar draws y sir.
Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio cyllid o’n cyfrif refeniw tai ein hunain, ynghyd â grant tai cymdeithasol i wneud y canlynol:
- B1.6.1 Trwy ein grŵp gweithredol tai fforddiadwy presennol, cwblhau adolygiad o'n safonau datblygu tai fforddiadwy mewn partneriaeth â'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i nodi cyfleoedd ar gyfer rhannu arferion gorau a chyflawni safonau a rennir ar draws datblygiadau fforddiadwy newydd. (Blwyddyn 2-3)
- B1.6.2 Gan ddefnyddio grŵp partneriaeth dulliau adeiladu modern /technolegau newydd Cymru gyfan mewn partneriaeth â'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol, gwerthuso modelau gwahanol o ddulliau adeiladu modern er mwyn nodi modelau addas a chost effeithiol ar gyfer adeiladu'n gyflym yn Sir Benfro.(Blwyddyn 2-4)
Un o'r heriau a wynebir wrth ddatblygu tai newydd mewn cymunedau gwledig yw'r angen i sicrhau bod datblygiadau gwledig yn cael eu cyflwyno fesul cam ac nad yw'r prosesau gosod cysylltiedig yn eithrio aelwydydd lleol Cymraeg eu hiaith yn ddamweiniol nad ydynt efallai ar restrau aros tai lleol. I fynd i'r afael â hyn mae'r cyngor wedi datblygu Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer ardaloedd â > 25% o siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod datblygiadau a phrosesau gosod fesul cam yn caniatáu amser i aelwydydd cymwys lleol ddod ymlaen.