Strategaeth Dai

Blaenoriaeth 2 Gweithio I Sicrhau Bod Digartrefedd Yn Cael Ei Atal, Ei Fod Yn Brin, Yn Fyrhoedlog Ac Nad Yw'n Digwydd Eto

Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud

 

effaith ddiweddar Covid-19 ac argyfwng costau byw wedi gwaethygu'r pwysau a wynebir gan aelwydydd lleol’

 

‘……mae aelwydydd lleol yn methu â chael tai fforddiadwy…’

 

‘…..risg o lefelau cynyddol o ddigartrefedd yn y sir, gyda phwysau sylweddol yn ymestyn i wasanaethau digartrefedd’

 

‘….yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran yr aelwydydd sydd ag 'angen' brys am dai wedi cynyddu’

 

‘…cyfran uwch o eiddo ar osod gan Gyngor Sir Penfro a'i bartneriaid cymdeithasol cofrestredig yn mynd i gartrefi sydd yn y bandiau uchaf o ran angen ….’

 

‘…….cynnydd sylweddol yn y defnydd o lety gwely a brecwast a hosteli’

 

‘…mae’r angen am lety dros dro………yn rhoi pwysau ar y cyngor o ran staffio ac arian’

 

‘…cynnydd yn nifer yr aelwydydd y mae dyletswydd derfynol a75 i ddarparu llety dros dro yn ddyledus iddynt…’

 

‘…er bod 76 o bobl yn cael eu cartrefu dros dro ym mis Mawrth 2019 roedd y nifer wedi cynyddu i 654 erbyn mis Mai 2023…’

 

‘……newid sylweddol yng nghyfran y cynigion sy'n mynd i aelwydydd y mae'r ddyletswydd ddigartrefedd lawn yn ddyledus iddynt…’

 

‘…….mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r dull polisi 'neb heb help' sy'n cyd-fynd â'r strategaeth ailgartrefu cyflym’

Dadansoddiad cryno

Mae'r dystiolaeth a amlinellwyd yn dangos yr heriau sylweddol iawn sydd wedi wynebu gwasanaethau digartrefedd a chynghori tai rheng flaen yn Sir Benfro dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys delio â lefelau cynyddol o ddigartrefedd a galw digynsail am lety dros dro. Ochr yn ochr â hyn, mae’r galw am dai cymdeithasol wedi gweld twf sylweddol yn y gofrestr eiddo ar osod ar sail dewis, ynghyd â gostyngiad yn nifer yr eiddo ar osod sydd ar gael. Mae Sir Benfro wedi ymateb yn rhagweithiol i'r gwrthdaro yn Wcráin gyda 400 o bobl wedi'u gwasgaru i deuluoedd sy'n cynnig llety i'r ffoaduriaid a llety arall gyda chymorth gan dîm cymorth ymroddedig. Ar yr un pryd mae ymdrechion ar y gweill i nodi llety addas i gartrefu dyraniad disgwyliedig o geiswyr lloches gan Lywodraeth Cymru erbyn Rhagfyr 2023.

Er bod maint yr her wedi'i chwyddo'n sylweddol gan effeithiau Covid-19, mae'r dystiolaeth yn dangos bod pwysau ar y gwasanaethau hyn eisoes yn cynyddu cyn y pandemig. Mae newidiadau yn y farchnad dai sy'n gysylltiedig â'r ffactorau a ddisgrifir yn y strategaeth hon wedi cyfrannu at farchnad dai sydd wedi dod yn fwyfwy anfforddiadwy ac anhygyrch i gyfran sylweddol o boblogaeth Sir Benfro. Mae pwysau ychwanegol gwrthdaro yn Wcráin, newidiadau i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ac argyfwng costau byw ymhlith nifer o ffactorau sydd wedi ymhelaethu ar effeithiau sylweddol Covid-19. At hynny, mae'r cynnydd yn y cyfraddau llog o fewn y 12 mis diwethaf wedi cynyddu costau tai yn uniongyrchol i lawer o aelwydydd sydd ar yr ymylon o ran cynnal eu llety.

Er bod cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn flaenoriaeth allweddol yn y strategaeth dai hon, nid oes gan yr amserlenni tebygol ar gyfer ail-gydbwyso'r farchnad dai obaith o ysgafnhau'r pwysau ar wasanaethau cynghori ar dai a digartrefedd na’r costau sy’n gysylltiedig â bodloni rhwymedigaethau statudol y cyngor ynghylch darparu llety dros dro. Nid yw’r costau sylweddol yr eir iddynt wrth ddarparu llety dros dro yn gynaliadwy yn y tymor hir ac er eu bod yn cael eu cefnogi gan grantiau sylweddol gan Lywodraeth Cymru nid oes unrhyw sicrwydd am ba mor hir y bydd y rhain yn parhau.  Yn yr un modd, mae maint neu amseriad unrhyw adfywiad economaidd neu ostyngiad mewn cyfraddau llog yn cynrychioli ansicrwydd pellach yn y tymor byrrach sy'n awgrymu pwysau parhaus ar aelwydydd sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Felly, mae mynd i'r afael â her sylweddol lefelau uchel o ddigartrefedd yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor.

At hynny, yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd, lansiwyd Papur Gwyn ym mis Hydref 2023.

Ein dull gweithredu

Bydd ein hymagwedd yn unol â dull strategol Llywodraeth Cymru o roi terfyn ar ddigartrefedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ddatganiadau polisi allweddol sydd wedi disgrifio’r uchelgais i atal a mynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru ac wedi nodi’r cyfeiriad y dymunant weld gwasanaethau digartrefedd awdurdodau lleol yn ei gymryd i gyflawni’r uchelgais hwnnw. Roedd y Strategaeth ar gyfer Atal a Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019 yn rhagddyddio pandemig Covid-19 ond cafodd ei negeseuon allweddol a’i hegwyddorion polisi eu nodi a’u datblygu ymhellach o fewn Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd yng Nghymru - Cynllun Gweithredu Lefel Uchel 2021-26 gan ystyried yr hyn a ddysgwyd o'r pandemig ac argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol ar ddigartrefedd.

Mae'r cynllun gweithredu lefel uchel yn amlygu ymrwymiad y Llywodraeth i ddau gam gweithredu allweddol a fydd yn hanfodol i ddod â digartrefedd i ben. Yn gyntaf, drwy ymrwymiad i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn y bôn i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym, ac adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu. Mae strategaeth dai Sir Benfro yn cynnwys ymrwymiad i raglen uchelgeisiol o ddatblygu tai fforddiadwy, ochr yn ochr â thrawsnewid ein gwasanaethau digartrefedd er mwyn atal digartrefedd a dilyn egwyddorion ailgartrefu cyflym.

Mae ailgartrefu cyflym yn ddull gweithredu a arweinir gan dai ar gyfer digartrefedd sy’n cydnabod effaith negyddol digartrefedd ar deuluoedd ac unigolion ac yn benodol mae’n ceisio mynd i’r afael ag effeithiau gwthio pobl i'r ymylon a'u hansefydlogi pan fyddant yn ddigartref ac yn aros am gyfnodau hir mewn trefniadau llety brys a/neu dros dro.

Mae cynllun gweithredu lefel uchel Llywodraeth Cymru yn nodi newidiadau sylfaenol i’r systemau a’r prosesau sy’n atal digartrefedd, gan ganolbwyntio ar gamau ataliol cynnar ar draws gwasanaethau cyhoeddus a chadarnhau’r newid trawsnewidiol a ddisgwylir gan awdurdodau lleol tuag at ailgartrefu cyflym. Mae’n cynnig newid radical fel bod y rhan fwyaf o achosion o ddigartrefedd yn cael eu hatal gyda’r disgwyl y bydd unrhyw un sy'n profi digartrefedd yn cael seibiant cyflym iawn, gan wneud y profiad hwnnw’n fyr, ac y bydd cymorth ar gael sy’n galluogi pobl i gael mynediad i gartrefi addas, hirdymor a sefydlog fel nad yw digartrefedd yn cael ei ailadrodd bellach. Mae’r strategaeth yn glir bod atal digartrefedd yn flaenoriaeth draws-sector sy’n berthnasol i iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cymunedol a’n heconomi ehangach ac mae’n nodi disgwyliad y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio i atal digartrefedd. Mae’r strategaeth yn ailadrodd nifer o egwyddorion o strategaeth 2019 sy’n sail i ddull Llywodraeth Cymru o atal digartrefedd y disgwylir iddynt arwain gwaith yr holl wasanaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau digartrefedd: 

  • Yr ataliadau cynharaf sydd fwyaf effeithiol a mwyaf cost effeithiol a dyma ddylai fod y dewis cyntaf bob amser.
  • Mae mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal yn broblem i'r gwasanaethau cyhoeddus, yn hytrach nag yn 'broblem tai'.
  • Dylai pob gwasanaeth roi’r unigolyn wrth ei wraidd a chydweithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar drawma.
  • Dylai’r dyletswyddau yn Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 fod y llinell amddiffyn olaf – nid y gyntaf – a dylai pob gwasanaeth weithredu yn ysbryd y ddeddf ac nid yn ôl llythyren y gyfraith yn unig.
  • Dylai polisïau, darparu gwasanaethau ac ymarfer gael eu llywio a'u siapio mewn modd cyd-gynhyrchiol a chan y rhai sydd â phrofiad byw.

Wrth osod y cynllun at gyflawni’r newid trawsnewidiol yn y dull o ailgartrefu’n gyflym, mae’r cynllun gweithredu lefel uchel yn nodi cyfres o gamau gweithredu y bydd angen i’r holl asiantaethau sy’n gysylltiedig â digartrefedd eu cymryd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae rhai o’r camau gweithredu yn benodol i Lywodraeth Cymru ond mae llawer yn benodol i awdurdodau lleol a’u partneriaid. Bydd y camau gweithredu hynny, ynghyd â'n blaenoriaethau ein hunain ar gyfer gweithredu, megis y rhai a nodir yng Nghynllun Ailgartrefu Cyflym Sir Benfro 2022-2027 a Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026 yn sail i'n dull o gyflawni uchelgais y cyngor, sef bod 'digartrefedd yn cael ei atal, ei fod yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd eto', blaenoriaeth sy’n adlewyrchu’r ymrwymiad a nodir yn y rhaglen weinyddu a chynllun gweithredu lefel uchel Llywodraeth Cymru 2021-26.  Bydd angen cryn ymdrech ac adnoddau i gyflawni’r trawsnewid a nodir yn ein cynllun pontio ailgartrefu cyflym, y mae llawer ohonynt heb eu cwmpasu’n fanwl eto, ac mae’n glir y bydd gweithredu'r cynllun yn llawn yn brosiect tymor hwy er bod hyd a lled y cynllun yn sylfeini ar gyfer ailgartrefu cyflym.

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal adolygiad o ddigartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd. Mae strategaeth ddigartrefedd, o dan adran 50 o’r Ddeddf, yn strategaeth ar gyfer cyflawni’r amcanion canlynol yn ardal yr awdurdod tai lleol:

  • Atal digartrefedd
  • Sicrhau bod llety addas ar gael, ac y bydd ar gael, i'r rhai sy'n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref
  • Sicrhau bod cefnogaeth foddhaol ar gael i'r rhai sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref.

Cyflawniadau allweddol 

  • Rydym wedi datblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2022-2027 i nodi ein cynlluniau i ddarparu dull a arweinir gan dai i fynd i’r afael â digartrefedd
  • Rydym bron â chwblhau’r adolygiad o Bolisi Dyrannu Cartrefi Dewisedig i sicrhau bod ein polisïau ar gyfer cyrchu cymorth tai cymdeithasol yn deg ac yn briodol yng nghyd-destun anghenion tai lleol.

Ein camau gweithredu â blaenoriaeth

B2.1    Cyflawni’r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Cyngor Sir Penfro 2022-2027 

  • B2.2    Sicrhau bod Sir Benfro'n parhau i fanteisio i'r eithaf ar gyllid brys a throsiannol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o symud tuag at ailgartrefu cyflym
  • B2.3    Datblygu cynllun hyfforddi'r gweithlu ar gyfer staffio digartrefedd a chyngor ar dai a galluogi mynediad i hyfforddiant a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o bontio tuag at ailgartrefu cyflym
  • B2.4    Gweithredu'r blaenoriaethau strategol a nodir yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26 sy'n cryfhau capasiti a gallu'r gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud â thai i gyflawni canlyniadau i gefnogi ailgartrefu cyflym
  • B2.5    Datblygu systemau gwell ar gyfer cydweithredu aml-asiantaeth yn enwedig o ran nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref
  • B2.6    Datblygu dull o fonitro a gwerthuso'r trawsnewid tuag at ailgartrefu cyflym ac ar gyfer gwneud argymhellion ar gyfer gwella.

Ni ellir gorbwysleisio maint yr her o drawsnewid gwasanaethau digartrefedd o’r sefyllfa bresennol o ystyried y dylanwadau allanol eang sy’n effeithio ar yr economi genedlaethol a'r economi leol, graddfa'r llety dros dro a ddefnyddir ar hyn o bryd ynghyd â chyfyngiadau capasiti’r cyngor a'i bartneriaid.

Heriau wrth gyflenwi

  • Mae'r argyfwng costau byw parhaus a'r cyfraddau llog uchel yn creu risgiau o ran gallu aelwydydd i dalu costau tai gan gynyddu’r risg o ddigartrefedd
  • Mae amserlenni ar gyfer datblygu tai fforddiadwy newydd ar raddfa fawr a chyfraddau trosiant isel mewn tai cymdeithasol yn creu anawsterau i symud aelwydydd i lety sefydlog.
  • Mae prisiau tai uwch parhaus yn parhau i atal aelwydydd newydd y mae angen eu hailgartrefu i fynd i mewn i'r farchnad dai a thrwy hynny mae'n cynyddu'r risgiau ynghylch digartrefedd
  • Bydd ôl-groniad o alw am dai ar y gofrestr tai yn cymryd amser i'w glirio ac ar gyfer rhai aelwydydd mewn angen mae'n golygu mai prin iawn fydd y siawns o gael llety, os o gwbl.
  • Y gallu cyfyngedig yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd i gefnogi ymdrechion i ailgartrefu aelwydydd mewn llety dros dro oherwydd bod landlordiaid yn gadael y sector rhentu preifat
  • Capasiti o fewn y timau cyngor ar dai i reoli'r galw tra'n cyflawni newid trawsnewidiol sylweddol
  • Capasiti'r grant tai cymdeithasol i dalu'r costau cymorth sy'n gysylltiedig â chymorth mwy pendant a dwys ar gyfer atal digartrefedd ochr yn ochr â'r angen am gymorth tai lefel isel cyffredinol.
  • Effaith barhaus Covid-19 a gynyddodd  raddfa’r her y mae’n rhaid i ni ei hwynebu yn sylweddol o ran ailgartrefu cyflym ac sydd wedi effeithio'n andwyol ar fregusrwydd llawer o drigolion am gyfnodau hir pan oedd y cyfyngiadau symud ar waith.

Manylion y camu gweithredu

B2.1    Cyflawni’r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Cyngor Sir Penfro 2022-2027 

Mae Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Cyngor Sir Penfro yn cynnwys gweledigaeth a chwe blaenoriaeth allweddol sydd wedi'u pennu i sicrhau bod modd gweithredu'r cynllun ailgartrefu cyflym yn llwyddiannus. Gellir crynhoi’r blaenoriaethau i’r pedair blaenoriaeth a ganlyn a nodir yn Adran 7 y cynllun o dan Cynllunio Adnoddau: 

Blaenoriaeth 1 Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy

Mae'r elfen hon o'r cynllun hefyd yn un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Dai 2024-29 ac mae'r cyngor wedi nodi blaenraglen ddatblygu uchelgeisiol ar gyfer tai fforddiadwy ochr yn ochr â phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y cyngor gan arwain at raglen ddangosol o tua 700 o anheddau newydd hyd at 2028/29. Rydym hefyd wedi nodi trefniadau ariannu i gefnogi'r gwaith o gaffael eiddo newydd, datblygiadau newydd sbon, buddsoddi mewn cartrefi gwag a chyllid i gefnogi'r broses o lesio tai rhent preifat drwy Gynllun Lesio Cymru. Wrth ddarparu tai newydd bydd angen i ni gadw mewn cof yr angen am ddulliau sy'n cefnogi ein strategaeth i leihau nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro a lleihau ein dibyniaeth ar lety gwely a brecwast anaddas.

Blaenoriaeth 2   Atal digartrefedd

Mae'r cynllun yn nodi'r angen i gyfeirio'r rhai sydd angen cymorth cysylltiedig â thai i'r broses asesu symlach, y Porth Asesu, a fydd yn cael ei chyflwyno fesul cam i bob darparwr cymorth tai. Bydd mynediad i system Northgate yn cael ei alluogi ar gyfer y tîm grant cefnogi tai a byddwn yn codi ymwybyddiaeth i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ar draws y gwasanaethau cymorth sy'n cael eu comisiynu a'r gwasanaethau cymorth nad ydynt yn cael eu comisiynu.

Blaenoriaeth 3   Cynnal tenantiaeth

Bydd hyrwyddo a hwyluso cymorth tenantiaeth yn cael ei flaenoriaethu i bobl mewn angen drwy'r Porth i sicrhau bod y cymorth cywir yn ei le cyn ac yn ystod eu tenantiaeth lle bo'r angen. Byddwn hefyd yn ceisio canfod ffordd o gael pecynnau ar gyfer tenantiaethau parod i oresgyn y problemau sydd fel arfer yn gysylltiedig â symud pobl i lety heb ddodrefn yn y sector rhentu preifat

Blaenoriaeth 4   Lleihau'r nifer mewn llety dros dro

Wrth nodi’r flaenoriaeth hon mae’r cynllun yn cydnabod y bydd yn debygol o gymryd mwy o amser na'r amserlen pum mlynedd a nodir yn y cynllun pontio i leihau nifer y bobl mewn llety dros dro yn sylweddol. Ymhellach, mae'r cynllun yn nodi'r baich ariannol ychwanegol sylweddol y byddai Cyngor Sir Penfro yn ei wynebu wrth gwrdd â chostau llety gwely a brecwast pe bai'r lefelau cyllid presennol gan Lywodraeth Cymru drwy  gronfa caledi COVID, er enghraifft, yn cael ei leihau neu'n dirwyn i ben. Mae'r cynllun hefyd yn nodi'r lefelau cymharol isel o arian grant cymorth tai a dderbyniwyd gan y cyngor o gymharu ag awdurdodau cyfagos. Gyda'i gilydd bydd angen rheoli'r risgiau hyn yn ystod y cynllun pontio, fodd bynnag, mae cynllun gweithredu lefel uchel Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd cefnogaeth barhaus ar gael ar gyfer trefniadau brys yn ystod y cyfnod pontio.

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio cyllid o’r gronfa gyffredinol, rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol Llywodraeth Cymru a’r grant tai cymdeithasol i wneud y canlynol: 
  • B2.1.1  Cwblhau'r adolygiad o'r Polisi Dyraniadau ar Sail Dewis Cartrefi Dewisedig gan sicrhau bod y cynllun dyrannu yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcanion ailgartrefu cyflym gan gynnwys cyflawni dyletswyddau ailgartrefu statudol a galluogi aelwydydd i gael eu hailgartrefu mewn llety dros dro. (Blwyddyn 1)
  • B2.1.2 Wrth gynllunio unedau tai newydd a ddarperir drwy ein blaenraglen ddatblygu gyfunol a'n rhaglen galluogi tai ehangach, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried yr angen am well darpariaeth o lety dros dro i gefnogi gostyngiad cyflym yn y defnydd o lety gwely a brecwast. (Blwyddyn 1-3)
  • B2.1.3  Sicrhau bod atal digartrefedd yn agwedd graidd o'n gwasanaeth digartrefedd gan gynnwys sicrhau bod Gateway yn cael ei gyflwyno i bob darparwr cymorth tai a bod gan dîm grantiau cymorth tai fynediad at system Northgate. (Blwyddyn 1-2)
  • B2.1.4  Sicrhau bod cynnal tenantiaethau yn agwedd graidd o’n gwasanaeth digartrefedd drwy sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ar yr amser iawn i’r rhai sydd ei angen. Byddwn hefyd yn mynd ar drywydd trefniadau addas ar gyfer cefnogi aelwydydd i gael llety heb ddodrefn trwy ddefnyddio pecynnau tenantiaethau parod a mentrau eraill. (Blwyddyn 1-2)
  • B2.1.5  Cynnal adolygiad o'r holl lety dros dro i sicrhau bod unrhyw leihad graddol yn gadael stoc weddilliol sy'n diwallu ein hanghenion gweithredol ac sy'n cefnogi'r gwaith o roi'r gorau i ddefnyddio llety gwely a brecwast yn raddol. (Blwyddyn 1-2)
  • B2.1.6  Ymgysylltu â phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i bennu’r cwmpas ar gyfer cynyddu eu rôl o ran darparu cyflenwad addas o lety dros dro. (Blwyddyn 1-2)

B2.2    Sicrhau bod Sir Benfro yn parhau i fanteisio i'r eithaf ar gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o symud tuag at ailgartrefu cyflym

Mae Cyngor Sir Penfro yn cael cyllid grant ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi llety digartrefedd a chostau eraill, y mae llawer ohono mewn ymateb i’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ymateb i bandemig Covid-19. Erbyn diwedd trydydd chwarter 2022/23 roeddem wedi cael dros £1.6 miliwn gan gynnwys cyllid caledi COVID a grant cymorth tai ychwanegol. Er mai'r gobaith yw y bydd trefniadau ariannu yn parhau, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o unrhyw arian ychwanegol a roddir tuag at drosglwyddo i ailgartrefu cyflym, gan gynnwys gwneud y mwyaf o'r grant cymorth tai.

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio grant neb heb help Llywodraeth Cymru, grant atal digartrefedd Llywodraeth Cymru, cronfa gyffredinol Cyngor Sir Penfro, taliad disgresiwn at gostau tai, a rhaglen gyfalaf llety drosiannol Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

B2.2.1    Sicrhau bod cynllun wedi’i gostio’n cael ei ddatblygu ar gyfer pontio tuag at ailgartrefu cyflym i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ceisiadau am gyllid ar sail tystiolaeth i gronfeydd cyllid disgresiwn posibl a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys mentrau Gwario i Arbed a allai fod yn sail i gyfleoedd cyllid corfforaethol mewnol. (Blwyddyn 1-2)

B2.3    Datblygu cynllun hyfforddi'r gweithlu ar gyfer staffio digartrefedd a chyngor ar dai a galluogi mynediad i hyfforddiant a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o bontio tuag at ailgartrefu cyflym

Mae’r cynllun gweithredu lefel uchel yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith gyda phartneriaid i ddatblygu fframwaith recriwtio, hyfforddi a datblygu’r gweithlu ar gyfer staff digartrefedd a chymorth tai. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod timau tai awdurdodau lleol yn meddu ar y sgiliau cywir i ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar atal a'r dull ailgartrefu cyflym. 

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio grant atal digartrefedd Llywodraeth Cymru, cronfa gyffredinol Cyngor Sir Penfro i wneud y canlynol: 
  • B2.3.1 Sicrhau bod prosesau adolygu a datblygu blynyddol ar gyfer staff yn cynnwys asesiad o’u hanghenion hyfforddi ynghyd ag ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer cyrsiau hyfforddi a sefydlwyd i gefnogi ailgartrefu cyflym ac atal digartrefedd. (Blwyddyn 1)
  • B2.3.1 Gweithredu’r argymhellion o asesiad anghenion y rhaglen cymorth tai sy’n ymwneud â’r angen am hyfforddiant gorfodol i’r holl staff mewn gofal cymdeithasol, yn benodol ar Ddeddf Tai 2014, i sicrhau ymwybyddiaeth o ddyletswyddau’r awdurdod lleol mewn perthynas ag anghenion tai unigolyn. (Blwyddyn 1-2)

B2.4 Gweithredu'r blaenoriaethau strategol a nodir yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26 sy'n cryfhau capasiti a gallu'r gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud â thai i gyflawni canlyniadau i gefnogi ailgartrefu cyflym

Mae Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-26 yn nodi nifer o flaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer gweithredu a fydd yn cefnogi effeithiolrwydd gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud â thai wrth fynd i'r afael â'r her drawsnewidiol sy'n wynebu gwasanaethau digartrefedd yn Sir Benfro. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, cymorth arbenigol i atal digartrefedd a sicrhau mynediad at y llety mwyaf priodol fel rhan o'r dull ailgartrefu cyflym. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau sy’n cefnogi grwpiau allweddol sydd mewn angen gan gynnwys iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, pobl ifanc, a mynd i’r afael â’r galw mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol. Yn bwysig, maent hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r argymhellion allweddol a nodir yng nghynllun gweithredu lefel uchel Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â sicrhau bod gwasanaethau cymorth tai mor effeithiol â phosibl. Mae gan bob un o'r blaenoriaethau strategol nifer o gamau gweithredu a nodir yn Rhaglen Cymorth Tai 2022-26.

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn defnyddio cyllid grant cymorth tai i wneud y canlynol:
  • B2.4.1  Cryfhau gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal a chymorth arbenigol i atal digartrefedd a ddarperir drwy'r Rhaglen Cymorth Tai. (Blwyddyn 1-3)
  • B2.4.2  Sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael mynediad i’r cartref iawn ar yr amser iawn ac yn y lle iawn fel rhan o’n dull ymateb cyflym, er enghraifft, trwy ddatblygu model Tai yn Gyntaf ar gyfer mwy o bobl ag anghenion cymhleth fel y nodir yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai. (Blwyddyn 1-3)
  • B2.4.3 Cydweithio ar draws yr holl asiantaethau i ddarparu cymorth cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag ymyriadau arbenigol effeithiol lle bo angen. (Blwyddyn 1-3)
  • B2.4.4 Gweithredu'r argymhellion o dudalen 25 o'r Asesiad o Anghenion y Rhaglen Cymorth Tai sy'n hyrwyddo arferion da ac yn gwella canlyniadau i unigolion a theuluoedd sy'n profi anawsterau tai. (Blwyddyn 1)

B2.5    Datblygu systemau gwell ar gyfer cydweithredu aml-asiantaeth, yn enwedig o ran nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd

Mae’r ddogfen Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd yng Nghymru – cynllun gweithredu lefel uchel 2021-26 yn amlygu’r angen i awdurdodau lleol gryfhau systemau ar gyfer nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn llawer cynharach. Er y bydd rôl rhianta corfforaethol awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol yn aml yn sicrhau bod adnoddau atal digartrefedd yn cael eu canolbwyntio ar y rhai sy'n gadael gofal, mae effeithiau dadsefydlogi ac effeithiau hirdymor digartrefedd yn arwyddocaol i bob person ifanc. Bydd sicrhau bod cymorth addas yn cael ei roi ar waith ar gyfer y rhai a nodir yn golygu adeiladu llwybrau atgyfeirio ar draws nifer o asiantaethau gan gynnwys addysg, llesiant a’r sector gwirfoddol i sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael eu hadnabod a’u cefnogi’n briodol.

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn gwneud y canlynol:
  • B2.5.1 Ymgysylltu â phartneriaid perthnasol sydd mewn cysylltiad â phobl ifanc gan gynnwys sefydliadau trydydd sector i godi ymwybyddiaeth a datblygu llwybrau atgyfeirio sy’n cefnogi’r gwaith o adnabod, ymyrryd a thargedu mesurau atal digartrefedd yn gynnar ar gyfer pobl ifanc

B2.6    Datblygu dull o fonitro a gwerthuso ein cynnydd wrth drawsnewid ein gwasanaethau tuag at ailgartrefu cyflym a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.

Mae cynllun pontio ailgartrefu cyflym Sir Benfro yn ogystal â chynllun gweithredu lefel uchel Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir y bydd trawsnewid gwasanaethau digartrefedd yn Sir Benfro i'r model ailgartrefu cyflym yn her sylweddol a fydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w chyflawni. Mae'r niferoedd uchel mewn llety dros dro sy'n cyd-fynd â'r heriau ym marchnad dai Sir Benfro a ffactorau economaidd parhaus yn anochel yn golygu y bydd angen i wasanaethau barhau i ymateb i lefelau uchel o alw am wasanaethau cynghori ar ddigartrefedd ochr yn ochr â gwneud y newid trawsnewidiol sydd ei angen. Mae'n bwysig felly ein bod yn cytuno ar ddull o fonitro'r cynllun ailgartrefu cyflym i sicrhau goruchwyliaeth sefydliadol a gwleidyddol a sicrhau bod argymhellion yn cael eu gwneud o ran mynd i'r afael â'r heriau a gwneud gwelliannau.

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn:
  • B2.6.1  Sefydlu cynllun cyflawni prosiect lefel uchel gyda thargedau sy’n adlewyrchu cynnydd tuag at agweddau trawsnewidiol allweddol y cynllun pontio ailgartrefu cyflym, gan gynnwys lleihau costau llety dros dro a'r defnydd a wneir ohono a sefydlu gweithgor, gan gynnwys cynrychiolaeth o aelodau i gefnogi'r gwaith o weithredu cynllun y prosiect, monitro cynnydd a gwneud argymhellion i gyflawni'r cynllun yn llwyddiannus.
ID: 11686, adolygwyd 07/01/2025