Strategaeth Dai

Blaenoriaeth 4 - Cefnogi Pobl I Fyw'n Annibynnol Am Fwy O Amser Yn Eu Cartrefi Eu Hunain

Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud

 

‘……mae gan dai â chymorth a thai arbenigol rôl hollbwysig i'w chwarae wrth helpu aelwydydd sy'n agored i niwed i fyw'n annibynnol yn Sir Benfro…..’

 

‘Gall cymorth sy'n ymwneud â thai fod ar sawl ffurf yn ei ystyr ehangaf…..’

 

‘….mae elfen fawr o gymorth sy'n ymwneud â thai yn Sir Benfro wedi'i chyfeirio at fynd i'r afael â'r risg o ddigartrefedd a'i atal drwy ee ymyriadau mewn argyfwng….’

 

‘Yn Sir Benfro rydym yn ymgymryd â rhaglen sylweddol o ailfodelu ein cynlluniau tai gwarchod i'w codi i safonau mwy modern…’

 

‘….rydym yn dibynnu ar ein comisiynwyr yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i nodi'r anghenion llety……’

 

‘Efallai y bydd gan lawer o'r rhai sy'n cael cymorth o'r fath anghenion lluosog a gall y graddau a'r math o gymorth sydd ei angen amrywio.’

 

‘….mae angen i'r Strategaeth GCT a'r Cynllun Datblygu Lleol sydd ar y gweill gael eu halinio'n strategol’

 

‘mae pobl wedi oedi cyn ceisio cymorth yn ystod y pandemig a bellach mae ganddynt broblemau iechyd llawer mwy cymhleth’

 

‘……..galw cynyddol am addasiadau o ganlyniad i ddileu'r prawf modd ar gyfer addasiadau ar raddfa fach a chanolig….’

 

‘…….capasiti yn y sector adeiladu wedi achosi oedi pellach i'r broses ar gyfer cael amcangyfrifon a chwblhau gwaith….’

 

‘…..mae'n bwysig cydnabod goblygiadau cyllidebol ychwanegol poblogaeth hŷn Sir Benfro sy'n tyfu.’

 

‘……mae pwysau'n i'w deimlo o ran y galw am addasiadau i bobl anabl sy'n denantiaid cyngor….’

 

‘…….mae angen inni barhau i archwilio cyfleoedd ar gyfer defnyddio cyllidebau ar draws ein partneriaethau iechyd a gofal mewn ffordd greadigol …..’

 

Dadansoddiad cryno

Mae gan wasanaethau cymorth tai rôl hollbwysig i'w chwarae wrth alluogi mynediad i dai, atal colli tai a chefnogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol oherwydd bregusrwydd newydd neu fregusrwydd sy'n bodoli eisoes. Gan gydnabod y gall ein hanghenion tai newid yn ystod ein hoes, mae gwasanaethau cymorth tai yn agwedd hollbwysig ar ymdrechion i atal digartrefedd, atal allgau cymdeithasol neu unigedd yn ogystal â chefnogi pobl i fyw'n annibynnol ac yn iach am gyfnod hwy. Felly mae gan wasanaethau cymorth tai rôl i’w chwarae o ran ymyriadau a all helpu i gynnal annibyniaeth ac atal yr angen am ymyriadau iechyd a gofal costus, yn ogystal â galluogi pobl i gael mynediad at dai na fyddent o bosibl yn gallu cadw eu hannibyniaeth heb y gefnogaeth honno. 

Gall cymorth cysylltiedig â thai yn ei ystyr ehangaf fodoli ar sawl ffurf, gan gynnwys gwasanaethau a all atal neu gefnogi pobl trwy argyfwng megis digartrefedd hyd at ddarparu addasiadau i gefnogi annibyniaeth. Er bod y llwybrau ariannu ar gyfer addasiadau a’r Grant Cymorth Tai yn amrywio, mae’r ddau ymyriad yn chwarae rhan wrth helpu i gynnal neu adennill tai addas.

Mae Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RCT) yn nodi’n benodol ein dull o sicrhau y darperir ystod o wasanaethau a gomisiynir ar y cyd, gan gynnwys ymyriadau tymor byr sy’n helpu i atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth mwy cyffredinol sy’n ymwneud â thai sy’n cefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Felly, mewn rhai achosion mae’r cymorth fel y bo’r angen a ariennir gan y rhaglen cymorth tai yn ategu gwasanaethau cymorth statudol drwy gynnal annibyniaeth pobl ag anghenion arbenigol a allai fod angen rhyw fath o ofal preswyl fel arall, tra mewn achosion eraill gallai’r cymorth fod yn fyrdymor i atal digartrefedd. Yn y pen draw, dylai’r gwasanaethau leihau’r angen am ymyrraeth gostus gan wasanaethau cyhoeddus eraill gan gynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a chânt eu hadolygu’n gyfnodol i sicrhau, er enghraifft, ansawdd a gwerth am arian. Mae strategaeth y rhaglen cymorth tai yn cyd-fynd â'n cynllunio corfforaethol ehangach i sicrhau bod y rhaglen cymorth tai yn ein cefnogi i gyflawni ein huchelgeisiau cyffredinol ar gyfer ein sir, yn enwedig trwy ein cynllun corfforaethol. Mae Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022–26 yn ceisio adeiladu ar y strategaeth ddigartrefedd a’i hategu ac mae’n ystyried ei chwe amcan allweddol.

Er mwyn deall yr angen am wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai, rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiad cynhwysfawr o anghenion bob pedair blynedd a chynnal adolygiad llai manwl bob dwy flynedd. Cyhoeddwyd yr asesiad diweddaraf o anghenion y rhaglen cymorth tai, a gynhaliwyd gan Hugh Irwin Associates, ym mis Ionawr 2022 a llywiodd y gwaith o ddatblygu a llunio blaenoriaethau strategol Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai  2022-2026. Yn ogystal ag ymgysylltu ag adrannau'r cyngor, roedd yr asesiad o anghenion yn cynnwys ymgynghori ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys partneriaid statudol megis iechyd a'r gwasanaeth prawf, partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y cyngor yn ogystal â darparwyr cymorth a ariennir gan y grant cymorth tai. Cafodd yr asesiad ei lywio hefyd gan ystod eang o ddata gan gynnwys o asesiad llesiant yr awdurdod lleol, ystadegau digartrefedd a rhestrau aros, data anghenion gan ddarparwyr yn ogystal â data asesiad anghenion cynhwysfawr a gynhyrchwyd ar lefel ranbarthol gan gynnwys drwy Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ac mewn perthynas â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Nododd strategaeth y rhaglen cymorth tai bedwar blaenoriaeth allweddol:

  • Blaenoriaeth Strategol 1 - Cryfhau gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal a chymorth arbenigol i atal digartrefedd
  • Blaenoriaeth Strategol 2 - Sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael mynediad i’r cartref cywir ar yr amser cywir ac yn y lle cywir, fel rhan o’n dull ailgartrefu cyflym
  • Blaenoriaeth Strategol 3 - Cryfhau gwasanaethau cymorth tai ymhellach
  • Blaenoriaeth Strategol 4 - Cydweithio i ddarparu cymorth cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag ymyriadau arbenigol effeithiol lle bo angen

Mae'r gwaith o weithredu strategaeth y grant cymorth tai yn cael ei oruchwylio gan y Bwrdd Cynllunio Cymorth Tai sy'n cyfarfod bob chwarter ac sy'n gyfrifol am gyflawni'r amcanion strategol yn ogystal â bod yn gyfrifol am yr adnoddau cysylltiedig a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru o dan y rhaglen cymorth tai. O ran cyllid ar gyfer y rhaglen cymorth grant tai yn Sir Benfro, darparodd Llywodraeth Cymru ddyraniad dangosol o £3,738,664.79 ym mhob un o’r tair blynedd 2022-23, 2023-24 a 2024 – 2025.

Daw’r tabl isod o’r asesiad o anghenion ac mae’n nodi’r ystod eang o lety â chymorth a gwasanaethau cymorth fel y bo’r angen a’u darparwyr ar adeg yr asesiad:

 

ATEB

  • Categori'r cleient: Gwasanaeth larwm gan gynnwys llety gwarchod/gofal ychwanegol
    • Math o gymorth: Gwasanaethau larwm sefydlog
  • Categori'r cleient: Pobl dros 55 oed
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

 

 CAIS

  • Categori'r cleient: Camdefnyddio sylewddau
    • Math o gymorth: Llety â sylweddau
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

 

Care in Hand

  • Categori'r cleient: Iechyd meddwl/anableddau dysgu
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

 

Celtic Care

  • Categori'r cleient: Iechyd meddwl/anableddau dysgu
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

Elliots Hill

  • Categori'r cleient: Iechyd meddwl/anableddau dysgu
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

Cymdeithas Tai Teulu

  • Categori'r cleient: Pobl dros 55 oed
    • Math o gymorth: Llety â chymorth

 

Goleudy

  • Categori'r cleient: Pobl â hanes o droseddu
    • Math o gymorth: Llety â chymorth

 

Hafal

  • Categori'r cleient: Pobl â phroblemau iechyd meddwl
    • Math o gymorth: Llety â chymorth
  • Categori'r cleient: Iechyd meddwl/anableddau dysgu
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

Hafan Cymru

  • Categori'r cleient: Merched sy'n cael eu cam-drin yn ddomestig
    • Math o gymorth: Lloches i fenywod a gwasanaeth symud ymlaen
  • Categori'r cleient: Teuluoedd
    • Math o gymorth: Llety â chymorth

 

MIND

  • Categori'r cleient: Pobl â phroblemau iechyd meddwl
    • Math o gymorth: Llety â chymorth
  • Categori'r cleient: Iechyd meddwl/anableddau dysgu
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

Ymwelwyr cymunedol - Cyngor Sir Penfro

  • Categori'r cleient: Cymorth cyffredinol
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

Cymdeithas Gofal Sir Benfro

  • Categori'r cleient: Cymorth cyffredinol
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen

 

Cyngor Sir Penfro

  • Categori'r cleient: Iechyd meddwl/anableddau dysgu
    • Math o gymorth: Llety cymorth

 

Pobl yn Gyntaf Sir Benfro

  • Categori'r cleient: Pobl ag anableddau dysgu
    • Math o gymorth: Cwrs symud ymlaen

 

Ieuenctid Sir Benfro

  • Categori'r cleient: Pobl ifanc
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen
    • Math o gymorth: Llety â chymorth

 

Gofal a chymorth pobl

  • Categori'r cleient: Teuluoedd
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen
  • Categori'r cleient: Pobl sy'n cael eu cam-drin yn ddomestig
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen
  • Categori'r cleient: Pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref
    • Math o gymorth: Llety argyfwng

 

Cymdeithas Tai Wales and West

  • Categori'r cleient: Pobl dros 55 oed
    • Math o gymorth: Cymorth lle bo'r angen 

 

Gwneir atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau cymorth fel y bo'r angen a llety â chymorth drwy wasanaeth porth y grant cymorth tai a ddatblygwyd i ddarparu modd o reoli atgyfeiriadau unigolion i wasanaethau priodol ond hefyd i sicrhau bod y broses yn effeithlon ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau.

Mae strategaeth y rhaglen cymorth tai yn amlygu bod Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn defnyddio cyllid grant cymorth tai yn Sir Benfro i ddarparu’r cymorth canlynol sy’n ymwneud â thai i gleientiaid gwasanaeth:

  • Cymorth llety i bobl ag anabledd dysgu lle mae tîm gwaith cymdeithasol anableddau dysgu yn cynnal adolygiad blynyddol o'u cefnogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y cydbwysedd cywir rhwng cymorth grant tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ar waith.
  • Cymorth fel y bo'r angen ym maes iechyd meddwl arbenigol.  Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu prosesau cam-i-lawr a gynlluniwyd i sicrhau bod y cymorth yn mynd i'r afael ag anghenion diffiniedig a'i fod yn gyfyngedig o ran amser. At hynny, mae gwasanaeth galw heibio yn cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion y rhai sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol.

Er bod llawer o'r cymorth dwysaf a ddarperir drwy'r grant cymorth tai yn canolbwyntio ar ddigartrefedd, mae'r grant cymorth tai hefyd yn cefnogi unigolion sydd ag anghenion cymorth sy'n gysylltiedig â thai ond nad yw'r anghenion hynny'n canolbwyntio ar ddigartrefedd ond yn hytrach yn ymwneud yn fwy â chynnal annibyniaeth. Tai gwarchod yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o dai cymorth lle gall preswylwyr gael cymorth gwasanaethau warden sy’n darparu cymorth lefel isel i’w helpu i barhau i fyw’n annibynnol. Yn Sir Benfro rydym yn cynnal rhaglen sylweddol o ailfodelu ein cynlluniau tai gwarchod i'w codi i safonau mwy modern wrth i ni gydnabod pwysigrwydd y math arbennig hwn o lety â chymorth wrth gefnogi anghenion ein poblogaeth sy'n heneiddio. Mae tai gofal ychwanegol yn enghraifft arall o fyw â chymorth i bobl hŷn sy’n darparu lefel fwy dwys o gymorth y gellir ei datblygu i ddiwallu anghenion amrywiol pobl hŷn wrth iddynt heneiddio. Mae hwn yn faes, wedi'i ategu gan dystiolaeth o'r asesiad o'r angen am dai arbenigol a llety ar gyfer pobl hŷn yng ngorllewin Cymru, a gynhaliwyd ar gyfer Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, y byddwn yn edrych i'w ehangu yn Sir Benfro.

Mae’n bosibl y bydd gan lawer o bobl sy’n cael cymorth tai anghenion lluosog a gall y graddau a’r math o gymorth sydd ei angen amrywio gyda grant cymorth tai yn ariannu amrywiaeth o gymorth fel y bo’r angen, lloches llety â chymorth a gwasanaethau larwm. Mae’r asesiad o anghenion yn amlygu y derbyniwyd y nifer uchaf o atgyfeiriadau ar gyfer y grwpiau canlynol:

  • Cefnogaeth generig / fel bo'r angen / peripatetig (gwasanaethau cymorth tenantiaeth sy'n cwmpasu ystod o anghenion defnyddwyr)
  • Pobl â phroblemau iechyd meddwl
  • Pobl dros 55 oed heb wasanaeth larwm
  • Pobl â hanes o droseddu

Wrth ddangos yr ystod eang o anghenion a gefnogir drwy'r grant cymorth tai, mae’r tabl isod yn disgrifio’r math o anghenion a’r niferoedd a gyfeiriwyd rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2020:

math o anghenion

niferoedd a gyfeiriwyd rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2020

Cefnogaeth generig / fel bo'r angen / peripatetig (gwasanaethau cymorth tenantiaeth sy'n cwmpasu ystod o anghenion defnyddwyr)

979

Pobl â phroblemau iechyd meddwl

593

Pobl dros 55 oed
(rhaid peidio â chynnwys gwasanaeth larwm)

216

Pobl â hanes o droseddu                           

160

Pobl ag anableddau corfforol a/neu synhwyraidd

134

Merched sy’n cael eu cam-drin yn ddomestig

95

Gwasanaethau larwm (gan gynnwys gwarchod / gofal ychwanegol)

86

Pobl ifanc ag anghenion cymorth (16-24)

82

Pobl â phroblemau alcohol                                                

74

Pobl ag anableddau dysgu

62

Teuluoedd ag anghenion cymorth                                            

58

Pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau

54

Pobl â salwch cronig (gan gynnwys HIV/Aids)

46

Teuluoedd rhiant sengl ag anghenion cymorth                    

36

Dynion sy’n cael eu cam-drin yn ddomestig

10

Pobl ag anhwylderau datblygiadol (hy awtistiaeth)

6

Pobl sengl ag anghenion cymorth nad ydynt wedi’u rhestru uchod (25-54)

3

Pobl ifanc sy'n gadael gofal

3

Pobl â statws ffoadur                                               

1

 

Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod y gall cymorth i helpu pobl i aros yn annibynnol fod ar sawl ffurf ac er bod elfen sylweddol o gymorth yn cael ei darparu drwy'r grant cymorth tai, mae trefniadau cymorth eraill ar waith drwy wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol neu, er enghraifft, drwy ofalwyr, sy'n hanfodol i helpu pobl i barhau i fyw gartref.

Ein dull gweithredu

At ddibenion y strategaeth dai felly, y flaenoriaeth allweddol o ran dull Sir Benfro o ymdrin â'r grant cymorth tai yw drwy gyflawni'r pedair blaenoriaeth a'r 12 cam gweithredu yn Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-26. Mae'n bwysig cydnabod bod nifer o'r camau gweithredu a'r gweithgareddau cysylltiedig yn canolbwyntio ar themâu sy'n ymwneud â chydweithio gwell â phartneriaid gan gynnwys Gofal Cymdeithasol i Oedolion a gwasanaethau'r GIG, er enghraifft, yn ymwneud â rhannu gwybodaeth a gwella mynediad at gymorth tîm iechyd meddwl.

Mae'r strategaeth yn amlygu'r angen am aliniad strategol rhwng strategaeth y grant cymorth tai a'r cynllun datblygu lleol sydd ar y gweill er mwyn sicrhau bod datblygiadau tai yn y dyfodol yn cynnwys digon o lety un ystafell wely i ddiwallu anghenion llety cleientiaid sydd angen cymorth cysylltiedig â thai ac sy'n ei dderbyn. Mae angen adlewyrchu hyn yn rhaglenni datblygu tai fforddiadwy'r cyngor a'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar draws anghenion llety tymor byr a llety tymor hir. Mae enghreifftiau'n amrywio o ddarparu llety i gefnogi anghenion tai hirdymor pobl ag anabledd dysgu i gefnogi anghenion llety mwy tymor byr i gefnogi dulliau atal digartrefedd. Yn yr un modd, mae angen inni ystyried yr anghenion tai a nodwyd yn yr asesiadau o'r angen am dai a gynhaliwyd, er enghraifft, drwy Bartneriaethau Gofal Gorllewin Cymru lle mae'n bosibl bod llawer o gleientiaid yn cael cymorth unigol gan ddarparwyr gofal cymdeithasol ond nad ydynt yn cael grant cymorth tai. Byddwn yn ystyried yr asesiadau allweddol hyn wrth gynllunio a chyflawni ein rhaglen tai fforddiadwy ar gyfer adeiladau newydd a chaffaeliadau er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn cefnogi anghenion iechyd a gofal ein cymunedau lleol ac yn cefnogi’r economi iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Felly bydd angen llywio'r rhaglen datblygu tai fforddiadwy drwy ymgysylltu â'r Bwrdd Cynllunio Cymorth Tai yn ogystal â'r Grŵp Llety Gofal Cymdeithasol i ddiwallu anghenion amrywiol pobl sy'n cael cymorth gan y grant cymorth tai a dulliau ariannu eraill. Nid yw’r Fforwm Darparwyr, a fu’n gweithredu fel llwyfan pwysig ar gyfer ymgysylltu rhwng comisiynwyr a darparwyr, wedi cyfarfod ers pandemig Covid-19 a’n nod yw ail-lansio cyfarfodydd fel llwybr pwysig i ddatblygu gwasanaethau o safon i ddiwallu ein hanghenion yn Sir Benfro.

Mae Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru (Mehefin 2022) yn darparu’r dadansoddiad strategol lefel uchel diweddaraf o anghenion gofal a chymorth preswylwyr ac anghenion cymorth gofalwyr ledled gorllewin Cymru ac mae’n dilyn yr asesiad blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017. Mae’n asesu i ba raddau y mae’r anghenion hynny’n cael eu diwallu ar hyn o bryd ac yn nodi lle mae angen gwelliant a datblygiad pellach i sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth cywir ac yn gallu byw bywyd bodlon. Cynhaliwyd yr asesiad i fodloni gofynion newydd o dan Ran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant). Mae adran 14A o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol (ALlau) a Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) gynnal asesiad ar y cyd o’r anghenion am ofal a chymorth, ac anghenion cymorth gofalwyr, yn ardal yr ALl.

Yn bwysig, at ddibenion y strategaeth dai, mae'r asesiad yn ffynhonnell bwysig ar gyfer nodi meysydd allweddol lle mae tai wedi'u nodi fel problem i drigolion a gofalwyr ag anghenion cymorth o dan bob maes o angen. Hefyd, at ddibenion asesu anghenion cymorth cyfoes sy’n ymwneud â thai, mae’r asesiad yn darparu dadansoddiad pwysig o effeithiau Covid-19 ac i ba raddau y mae hynny arwain at arwahanrwydd cymdeithasol eang, gyda goblygiadau parhaol ar iechyd meddwl pobl hŷn. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu bod pobl wedi oedi cyn ceisio cymorth yn ystod y pandemig a bellach mae ganddynt broblemau iechyd llawer mwy cymhleth.

Er ei bod yn amlwg bod elfen fawr o gymorth sy'n ymwneud â thai yn Sir Benfro wedi'i chyfeirio at fynd i'r afael â'r risg o ddigartrefedd a'i atal drwy ymyriadau mewn argyfwng, er enghraifft, mae hefyd yn dod ar ffurf amrywiaeth o gymorth arall sydd wedi'i gynllunio i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol gartref yn hirach. Mae gwasanaeth larwm cymunedol Sir Benfro yn wasanaeth ffôn brys a chanddo nodweddion arbennig i weddu i bobl â nam ar eu golwg, pobl sy'n drwm eu clyw a phobl ag anableddau symudedd ac anableddau eraill. Mae'n galluogi unigolion i gael sylw cyflym mewn argyfwng. Gall Gwasanaethau Teleofal gynnwys synwyryddion amgylcheddol a diogelwch ychwanegol a all gefnogi pobl â rhai mathau o namau gwybyddol i aros gartref yn ddiogel, a gall gwasanaeth achubiaeth a theleofal ychwanegol ddarparu gwasanaethau tawelu meddwl gan gynnwys gwiriadau lles, neu fynediad at dîm ymateb rhag ofn y bydd argyfwng.

Mae Gwasanaeth Offer Cymunedol Sir Benfro, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn darparu ystod o offer gan gynnwys comodau, codwyr dodrefn a theclynnau codi i alluogi pobl i gynnal annibyniaeth gartref ac mae'r cyfarpar yn cael ei ddarparu am ddim am gyhyd ag y bo’n briodol.

Mae darparu addasiadau sy'n cefnogi unigolion i reoli neu dderbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain yn fath arall pwysig o gymorth ar gyfer byw'n annibynnol. Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yw'r brif ffynhonnell cymorth i bobl anabl sy'n berchen-feddianwyr neu sy'n byw mewn llety rhent preifat sy'n darparu cyllid tuag at addasiadau bach, canolig neu fawr. Er y gall addasiadau llai gynnwys eitemau fel rheiliau gafael a rampiau, gall addasiadau mwy gynnwys gwaith mwy sylweddol gan gynnwys newidiadau i gynllun eiddo ac estyniadau. Yn gyffredinol, mae addasiadau ar raddfa ganolig yn cynnwys darparu lifftiau grisiau a chyfleusterau cawodydd cerdded i mewn.

Mae awdurdodau lleol o dan ddyletswydd statudol i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a darperir cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy ddyraniad cyfalaf ac, yn y blynyddoedd diwethaf, y dyraniad Hwyluso ychwanegol i fodloni’r galw cynyddol am addasiadau yn sgil dileu’r prawf modd ar gyfer addasiadau ar raddfa fach a chanolig. Yn Sir Benfro rydym yn darparu grantiau a benthyciadau i gefnogi annibyniaeth drwy'r Gwasanaeth Grantiau a Benthyciadau Tai. Mae'r gwasanaeth yn delio ag ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd ac arbenigwyr iechyd a gofal ac yn gweinyddu ystod o grantiau a benthyciadau gorfodol a dewisol trwy Bolisi Cymorth Ariannol y cyngor.

Y gyllideb ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn 2022/23 yw £750,000 gyda grant Hwyluso ychwanegol o £241,000 ac mae’r galw am y grant yn sylweddol uwch na’r gyllideb a ddyrannwyd. Roedd effaith Covid-19 ar gyflenwi Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn sylweddol gydag ôl-groniad yn y galw a achoswyd gan effeithiau’r cyfyngiadau symud a gafodd effaith ddifrifol ar lwyth gwaith a chapasiti’r tîm grantiau sy’n gweinyddu’r system a therapyddion galwedigaethol yn cynnal asesiadau o’r addasiadau gofynnol. Yn yr un modd, roedd capasiti yn y sector adeiladu wedi oedi pellach i'r broses o gael amcangyfrifon a chwblhau gwaith. Ym mis Ebrill 2023, dileodd Llywodraeth Cymru y gofyniad prawf modd ar gyfer addasiadau bach a chanolig o lai na £10,000 ac er bod dyraniad cynyddol o gyllid Hwyluso i awdurdodau lleol helpu i fynd i’r afael â'r effaith, mae'r cynnydd yn y galw am grantiau bach a chanolig drwy Gymorth Dewisol i’r Anabl, er enghraifft, wedi bod yn sylweddol ac wedi rhagori ar y grant ychwanegol gyda gorwariant wedi’i nodi ar gyfer 2022/23 a phwysau ariannu disgwyliedig ar gyfer y dyfodol.

 

 Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn 2022/23

  • Cariwyd ymlaen o 21/22: £581,503
  • Cymeradwywyd 2022/23: £1,167,259
  • Talwyd 2022/23: £1,117,252
  • Blaen ym rwymiad 2023/24: £1,231,490
  • Gorwariant: -£126,076
Grant
Cyllideb 22/23
Grant LIC £750,000
Hwyluso £241,176
Cyfanswm £991,176

 

Wrth ystyried effeithiau Covid-19 a chael gwared ar y prawf modd, mae hefyd yn bwysig cydnabod goblygiadau cyllidebol ychwanegol poblogaeth hŷn Sir Benfro sy'n tyfu, sy'n debygol o gyfrif am ran sylweddol o'r pwysau cynyddol ar gyllidebau o ran y Grant Cyfleusterau i'r Anabl gorfodol a dewisol yn y sir. Mae'r cyngor yn ystyried y goblygiadau cyllidebol ar gyfer y blynyddoedd i ddod ond nid yw'n glir ar hyn o bryd a fydd cyllid ychwanegol yn dod drwy ddyraniad cyllid Hwyluso Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Ar yr un pryd, teimlir pwysau tebyg o ran y galw am addasiadau i'r anabl ar gyfer ein tenantiaid cyngor. Yn ystod 2022/23 gwnaethom 211 o addasiadau ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn cartrefi sy’n eiddo i’r cyngor gan wario cyfanswm o £900,000. Roedd y gwaith a wnaed yn amrywio o ddarparu canllawiau cydio i wneud addasiadau mwy i wneuthuriad yr eiddo. Mae’r un problemau o ran diffyg argaeledd contractwyr ynghyd â chapasiti mewnol wedi achosi oedi i’r amseroedd aros ar gyfer addasiadau i’n tenantiaid ein hunain gydag amseroedd aros cyfartalog ar gyfer addasiadau bach yn cynyddu o 127 diwrnod i 171 diwrnod yn 2022/23. Byddwn yn adolygu ac yn monitro'r amserlenni cyflawni ar gyfer addasiadau i'n tenantiaid a byddwn yn datblygu trefniadau caffael newydd a fframweithiau cytundebol gyda chontractwyr i sicrhau y gallwn gynyddu'r capasiti i wneud addasiadau yn gynt.

Rydym hefyd yn cydnabod y rôl ataliol bwysig y gall benthyciadau a grantiau gwella cartrefi ei chael drwy wneud gwaith sy’n goresgyn risg i iechyd neu ddiogelwch neu sy'n galluogi gwelliannau yn y cartref a all helpu i gynnal annibyniaeth am gyfnod hwy. Mae ein cynllun Benthyciad Gwella Cartrefi yn cael ei flaenoriaethu i berchnogion tai a landlordiaid a gall ddarparu benthyciadau o hyd at £35,000 i'w had-dalu dros hyd at 10 mlynedd ac mae wedi'i gynllunio i wneud yr eiddo'n gynnes, yn ddiogel ac yn saff. Yn yr un modd, gall y cynllun Benthyciadau Gydol Oes Dewisol gefnogi perchnogion tai sydd angen unioni peryglon Categori 1 ond na allant fodloni’r meini prawf cymhwyster ariannol ar gyfer Benthyciad Gwella Cartrefi. Mae’r cynllun Cymorth Ategol Iechyd a Thai yn fath o gymorth ariannol a all helpu i wneud y gwaith i dawelu pryderon iechyd y cyhoedd neu wneud gwaith brys arall sy’n diogelu iechyd a diogelwch y preswylydd. Mae pob un o'r mathau hyn o gymorth wedi'u cynllunio i alluogi ymyriadau sy'n helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn hirach ac maent yn arfau ychwanegol pwysig sydd gan y cyngor i gefnogi'r flaenoriaeth allweddol hon. Yn anochel ddigon, cyllid yw'r her, ac yn absenoldeb grantiau a ariennir yn ganolog mae'r nifer sy'n manteisio ar gymorth benthyciad yn isel. Mae cymorth ariannol drwy’r cynllun Cymorth Ategol Iechyd a Thai yn dibynnu ar argaeledd cyllid priodol megis cyllid gofal integredig ac mae angen inni barhau i archwilio cyfleoedd ar gyfer defnyddio cyllidebau mewn ffordd greadigol ar draws ein partneriaethau iechyd a gofal, i gefnogi mentrau sy’n galluogi ein preswylwyr i fyw yn annibynnol yn hirach. Gan ystyried ein poblogaeth hŷn sy'n tyfu, mae'r potensial i ddatblygu gwasanaethau tasgmon y codir tâl amdanynt yn gyfle i drigolion hŷn helpu eu hunain drwy drefnu mân atgyweiriadau ac addasiadau gyda'r hyder o wybod bod y gwasanaeth yn cael ei gymeradwyo a'i gefnogi gan y cyngor.

Cyflawniadau allweddol

  • Rydym wedi datblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-26 i nodi ein dull o helpu pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned.
  • Sefydlwyd hwb cymunedol mewn ymateb i bandemig ym mis Mawrth 2020 i roi cyngor a chymorth i aelwydydd agored i niwed yr oedd angen cymorth a chyngor arnynt yn ystod y cyfyngiadau symud.
  • Sefydlwyd gwasanaeth porth fel un pwynt atgyfeirio ar gyfer rheoli atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau cymorth a ariennir gan y grant cymorth tai i wella effeithlonrwydd y system a sicrhau bod y broses atgyfeirio yn canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth.
  • Ymdriniwyd â 2,698 o atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau cymorth a ariennir gan y grant tai cymdeithasol rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2020
  • Cymeradwywyd gwerth dros £1.1 miliwn o Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn ystod 2022/23
  • Gwnaed 211 o addasiadau yng nghartrefi ein tenantiaid yn 2022/23, gwerth cyfanswm o £900,000
  • Rydym wedi dechrau adolygiad o'n cynllun warden tai gwarchod

Ein camau gweithredu â blaenoriaeth

  • B4.1  Cyflenwi cynllun gweithredu (12 cam gweithredu a 50 o weithgareddau a nodir o dan y pedair blaenoriaeth) Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-26
  • B4.2    Rhoi cymorth i bobl gynnal ac addasu eu cartrefi er mwyn eu helpu i barhau i fyw'n annibynnol        
  • B4.3    Gwneud y mwyaf o fynediad i gartrefi sydd wedi'u haddasu'n briodol ar gyfer pobl ag anghenion arbenigol

Heriau wrth gyflenwi

  • Mae dyraniad y grant tai â chymorth i Gyngor Sir Penfro yn isel o gymharu ag awdurdodau cyfagos sy’n effeithio ar allu gwasanaethau cymorth i fynd i’r afael â’r anghenion a nodwyd
  • Lefelau uchel parhaus o ddigartrefedd a diffyg llety symud ymlaen, yn enwedig ar gyfer pobl sengl, gan greu galw parhaus sylweddol am wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai
  • Prinder staffio yn effeithio ar wasanaethau a ariennir gan y grant cymorth tai
  • Effaith Covid-19 yn arwain at alw cynyddol am addasiadau yn ogystal â mwy o angen am gymorth cysylltiedig â thai.
  • Gallu asiantaethau partner i ymgysylltu'n llawn â chleientiaid sy'n derbyn gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai
  • Yn sgil dileu'r prawf modd ar gyfer addasiadau bach i ganolig bu cynnydd sylweddol yn y galw am Grant Cyfleusterau i’r Anabl ac mae hynny wedi rhoi mwy o bwysau ar y gyllideb
  • Lefelau staffio yn effeithio ar amserlenni ar gyfer asesiadau therapi galwedigaethol a darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
  • Chwyddiant costau adeiladu yn effeithio ar gostau cyfartalog gwneud gwaith i gefnogi byw'n annibynnol trwy Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.

Manylion y camau gweithredu

B4.1    Cyflenwi Cynllun Gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26

Mae strategaeth y rhaglen cymorth tai wedi'i fframio dros gyfnod o 4 blynedd a bydd y gwaith o'i weithredu'n llwyddiannus yn gofyn am gydweithrediad ac ymrwymiad ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid i'w chyflenwi, ond hefyd i'w monitro ac adolygu ei chynnydd. Mae 12 o gamau gweithredu a 50 o weithgareddau wedi'u nodi o fewn y pedair blaenoriaeth a ddisgrifir yn y cynllun gweithredu, a bydd y Bwrdd Cynllunio Cymorth Tai yn goruchwylio'r broses o'u rhoi ar waith. Ochr yn ochr â chyflawni’r cynllun gweithredu byddwn yn parhau i geisio sicrhau cydraddoldeb ag awdurdodau lleol cyfagos mewn perthynas â dyraniad Grant Tai â Chymorth i Sir Benfro.

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn:
  • B4.1.1 Cyflwyno cynllun gweithredu strategaeth y rhaglen cymorth tai a sicrhau ei bod yn cael ei monitro'n barhaus drwy gyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Cynllunio Cymorth Tai.
  • B4.1.2 Cynnal adolygiad canolbwynt ffurfiol o strategaeth y rhaglen cymorth tai yn ystod 2024.
  • B4.1.3 Sicrhau bod aliniad strategol rhwng strategaeth y rhaglen cymorth tai a'r polisïau tai sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun datblygu lleol sy'n cael ei ddatblygu 

B.4.2    Cefnogi pobl i gynnal ac addasu eu cartrefi er mwyn eu helpu i barhau i fyw'n annibynnol

 Byddwn yn parhau i ddatblygu, darparu a hyrwyddo gwasanaethau sy'n cefnogi pobl i barhau i fyw gartref cyhyd â phosibl trwy ddarparu addasiadau a hefyd trwy ddarparu cymorth ariannol ataliol.

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn:
  • B4.2.1 Sicrhau bod addasiadau i’r anabl yn cael eu darparu’n effeithlon ac yn effeithiol ar draws pob deiliadaeth.
  • B4.2.2  Pennu targedau ar gyfer gwella'r amserlenni ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl o'r ymchwiliad cyntaf hyd at gyflawni addasiadau ar draws pob deiliadaeth.
  • B4.2.3 Ymgysylltu â phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i archwilio’r opsiynau ar gyfer sicrhau cyfraniadau cyllidebol i gefnogi grantiau ataliol a benthyciadau a ddarperir drwy’r polisi cymorth ariannol.
  • B4.2.4 Cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar ehangu gwasanaethau tasgmon y codir tâl amdanynt yn Sir Benfro gan ystyried potensial darpariaeth fewnol a rôl bosibl partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol/gwasanaeth gofal a thrwsio.
  • B4.2.5 Ymgysylltu ag awdurdodau eraill yng Nghymru i ganfod effaith cael gwared ar y prawf modd ar gyfer addasiadau bach a chanolig er mwyn llywio trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar lefelau cyllid ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl.

B4.3   Gwneud y mwyaf o fynediad i gartrefi addas ar gyfer pobl ag anghenion arbenigol gan gynnwys pobl hŷn

Er mwyn cyflawni yn erbyn y cam hwn byddwn yn:
  • B4.3.1  Datblygu cofrestr o gartrefi hygyrch i integreiddio â Chofrestr Tai Cartrefi Dewisedig i sicrhau bod cartrefi sydd wedi'u haddasu yn cael eu rhoi i'r aelwydydd sydd â'r angen mwyaf am yr addasiadau. (Blwyddyn 1)
  • B4.3.2  Cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar greu Tŷ Arddangos sy'n ymgorffori ystod o addasiadau a systemau teleofal i hyrwyddo'r opsiynau sydd ar gael i bobl ag anghenion arbenigol gan gynnwys pobl hŷn. (Blwyddyn 1-2)
  • B4.3.3  Adolygu a diweddaru cyngor ac arweiniad yn rheolaidd ar wefan y cyngor i sicrhau ei fod yn helpu pobl i gael mynediad at gymorth priodol i barhau i fyw'n annibynnol. (Blwyddyn 1-3)
  • B4.3.4  Gan ystyried y boblogaeth sy'n heneiddio yn Sir Benfro, sicrhau bod yr angen am lety gwarchod ychwanegol a gofal ychwanegol yn cael ei ddeall a'i gyfrif yn y flaenraglen ddatblygu (Blwyddyn 1-2)
ID: 11690, adolygwyd 08/01/2025