Strategaeth Dai

Blaenoriaeth 5 - Lleihau Allyriadau Carbon A Mynd I'r Afael  Thlodi Tanwydd

Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud

‘Bydd mynd i'r afael ag effeithlonrwydd ynni stoc dai'r sector preifat yn hanfodol i gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer lleihau allyriadau carbon…..’

‘…..mae cyfran sylweddol o'r tai wedi'u hadeiladu cyn 1919, ac mae cyflawni targedau a osodwyd yn genedlaethol ar gyfer datgarboneiddio yn fwy heriol oherwydd y lefelau tebygol o effeithlonrwydd ynni gwael….’

‘….Gyda 32% o'r stoc dai yng Nghymru wedi'i hadeiladu cyn 1919, mae effeithlonrwydd thermol y stoc dai yng Nghymru ymhlith yr isaf yn y DU ac Ewrop.’

‘……mae diffyg data yn adlewyrchu diffyg ehangach o wybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni tai sector preifat ar lefel leol …’

‘. ..…..angen i'r cyngor ymateb i'r her sylweddol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i'r holl dai cymdeithasol gyrraedd safonau effeithlonrwydd thermol EPC A erbyn 2033…..’

‘……rydym eisoes yn gweithio i dargedu safonau ar gyfer anheddau newydd o dan Ofyniad Ansawdd Datblygu Cymru …..’

‘……her tlodi tanwydd sy'n gysylltiedig ag effeithlonrwydd ynni gwael a chostau gwresogi sy'n effeithio fwyaf ar iechyd a llesiant ein trigolion….’

‘…..rhagwelodd astudiaeth y gallai hyd at 45% (614,000) o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap pris ym mis Ebrill 2022…..’

‘……mae’r her o fynd i’r afael ag allyriadau carbon a lleihau tlodi tanwydd yn Sir Benfro yn un angenrheidiol, ond mae’n sylweddol ac amlochrog’

‘mae'r wybodaeth yn anghyflawn ac ar hyn o bryd yn annigonol i nodi llwybr clir wedi'i gostio i gyflawni targedau datgarboneiddio drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio’

‘…..anawsterau gyda gallu'r sector adeiladu yn lleol i ymateb i brosesau caffael a thendro……’

‘…….felly mae'r her o ran lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Sir Benfro yn bodoli ar sawl lefel……’

 

Dadansoddiad cryno

Mae’r ystyriaethau strategol ar gyfer y strategaeth dai o dan y flaenoriaeth hon yn ddeublyg yn yr ystyr eu bod yn ceisio ymateb i’r her a gyflwynir i’r sector tai wrth gyfrannu at leihau allyriadau carbon tra hefyd yn ceisio mynd i’r afael ag effaith tlodi tanwydd ar drigolion lleol ar draws stoc eiddo'r cyngor a'r sector preifat fel ei gilydd.

Adlewyrchir arwyddocâd newid yn yr hinsawdd mewn dulliau polisi rhyngwladol a chenedlaethol, yn enwedig yn dilyn y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd, gyda llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymrwymiad i gyflawni gostyngiad o 78% mewn allyriadau carbon erbyn 2035 a Llywodraeth Cymru yn targedu cyflawni 89% erbyn 2040 ac allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Roedd deddfwriaeth benodol yn targedu rhwymedigaethau effeithlonrwydd ynni yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n adeiladu ar Ddeddf Arbed Ynni yn y Cartref 1995 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar eu cynnydd o ran gwella effeithlonrwydd ynni llety preswyl yn eu hardaloedd a nodi mesurau pellach y gellid eu cymryd. Mae'n gosod dyletswydd ar y Llywodraeth i leihau allyriadau carbon.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro Argyfwng Hinsawdd ym mis Mai 2019 yn dilyn yr enghraifft a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ac ymrwymodd i gefnogi taith Sir Benfro i garbon sero net erbyn 2050 drwy ddatblygu’r ‘Cynllun Gweithredu tuag at ddod yn Awdurdod Carbon Sero-net erbyn 2030’. Mae tai yn faes allweddol o ran cyfrannu at gyrraedd y targed.

Mae ein Cynllun Llesiant 2023-2028 yn cynnwys yr amcanion canlynol sy’n cysylltu’n uniongyrchol â newid yn yr hinsawdd ac effeithiau tlodi tanwydd ar drigolion lleol.

  • A3 Byddwn yn galluogi'r gwaith o ddarparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
  • A5 Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i’r afael â’r argyfwng natur.

Mae blaenoriaethau strategol Cyngor Sir Penfro yn cyd-fynd â'r cynllun llesiant trosfwaol ar gyfer Sir Benfro ac yn cyfrannu ato. Mae Amcanion Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, yn cynnwys ymrwymiadau allweddol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd:

  • Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi newid i economi gwyrddach a mwy cynaliadwy
  • Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant
  • Hyrwyddo a chefnogi mentrau i gyflawni datgarboneiddio, rheoli ymaddasu i’r newid hinsawdd a mynd i’r afael â’r argyfwng ym myd natur

Mae Rhaglen Weinyddu'r Cabinet yn cynnwys ymrwymiad i uchelgeisiau sero net Sir Benfro ac mae'n cynnwys blaenoriaeth tai sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio ein stoc dai ein hunain yn ogystal â chefnogi deiliaid tai preifat i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. Mae hyn yn adlewyrchu'r angen i'r cyngor ymateb i'r her sylweddol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i'r holl dai cymdeithasol gyrraedd safonau effeithlonrwydd thermol EPC C erbyn 2029 a chael llwybrau ynni targed a chynllun cynhesrwydd fforddiadwy erbyn 2026 tra hefyd yn tynnu sylw at yr angen i ystyried y dull o fynd i'r afael â safonau effeithlonrwydd ynni yn y sector preifat lle nad oes targedau penodol wedi'u pennu. Fel yr amlygwyd yn ein cynllun corfforaethol, ni fyddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau o ran newid yn yr hinsawdd oni bai ein bod yn gwella effeithlonrwydd ynni tai yn gyffredinol, gan fod 38% o'r trydan a ddefnyddir yn y DU gan ddefnyddwyr domestig.

Ochr yn ochr ag ymdrechion i wella effeithlonrwydd ynni tai ledled Sir Benfro felly, mae angen inni hefyd fynd i’r afael ag ôl troed carbon yr holl dai yn Sir Benfro. Un o amcanion allweddol SATC 2 diwygiedig yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau fforddiadwyedd a lleihau tlodi tanwydd, yn ogystal â gwella perfformiad amgylcheddol cartrefi. Drwy amrywiaeth o fesurau technoleg carbon isel, ôl-ffitio a gwelliannau, mae'r safon yn cynnig y dylai pob cartref cymdeithasol gyrraedd y sgôr tystysgrif perfformiad ynni uchaf. Ochr yn ochr â mwy o effeithlonrwydd ynni, un o elfennau allweddol y safon arfaethedig yw lleihau allyriadau carbon o gartrefi. Er bod y safonau hyn yn canolbwyntio ar y dull o ymdrin â’r stoc bresennol o dai cymdeithasol, rydym eisoes yn gweithio i dargedu safonau ar gyfer anheddau newydd o dan ofyniad ansawdd datblygu Cymru sy’n berthnasol i dai cymdeithasol a ddatblygwyd gyda grant tai cymdeithasol gan y cyngor a’n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae'r holl dai cymdeithasol newydd a fforddiadwy, sy'n cael eu hadeiladu trwy ein cynlluniau datblygu rhaglen gan ddefnyddio'r grant tai cymdeithasol, yn cael eu hadeiladu i safonau diweddaraf gofynion ansawdd datblygu Cymru ac nid ydynt yn cynnwys systemau gwresogi tanwydd ffosil. Bydd yn bwysig bod y gwaith o ddysgu o weithrediad, cynnal a chadw ac effeithlonrwydd systemau gwresogi newydd yn cael ei gynnwys yn natblygiad ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. 

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi sefydlu prosiect gyda’r nod o ddatblygu dull ‘Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer’ gyda’r nod o ymchwilio i integreiddio dylunio ynni effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy mewn adeiladau newydd a’r stoc dai bresennol ar draws yr holl ddeiliadaethau tai. Mae Cyngor Sir Penfro yn bartner ar y rhaglen Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a’r gobaith yw y bydd adnoddau ychwanegol a chapasiti’r gadwyn gyflenwi yn cael eu defnyddio. Mae’r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes prosiect, gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Nod prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yw profi’r cysyniad yn y sector cyhoeddus ar raddfa gymharol fach gyda’r bwriad wedyn o gynyddu gweithgarwch mewn sectorau eraill ar draws Dinas-ranbarth eang Bae Abertawe. Bydd y prosiect yn cael ei gysylltu â rhaglenni gwella tai eraill i optimeiddio effeithlonrwydd y ddarpariaeth gan gynnwys Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, sy’n rhan o’r Rhaglen Tai Arloesol, a fydd yn lleihau ôl troed carbon tai cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Mae hefyd yn bwysig cyfeirio at Gynllun Ynni Lleol Sir Benfro, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022, sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer sut y gallai system ynni di-garbon edrych yn 2050, ac sy'n disgrifio camau gweithredu allweddol ar unwaith i'r cyngor gefnogi ein taith. Er nad yw’n strategaeth allyriadau carbon yn benodol ar gyfer y sector tai, mae’n gosod gweledigaeth ar gyfer system ynni Sir Benfro yn y dyfodol i gyflawni system ynni sero-net erbyn 2050. Mae hefyd yn nodi nifer o feysydd lle gall cydweithrediad rhwng y cyngor, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac asiantaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r cynllun ynni lleol helpu i gyflawni amcanion y cynllun ar gyfer Sir Benfro. Yn bwysig, mae’n amlygu y bydd angen ymyriadau carbon isel ar raddfa fawr ar draws y sector tai, yn ogystal â chludiant a chyflenwad ynni, er mwyn trawsnewid system ynni Sir Benfro yn llwyr erbyn 2050.

Er bod lleihau carbon yn darged yn bennaf ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, her tlodi tanwydd sy'n gysylltiedig ag effeithlonrwydd ynni gwael a chostau gwresogi sy'n effeithio fwyaf ar iechyd a llesiant ein trigolion. Mae tlodi tanwydd yn codi pan nad yw aelwyd yn gallu fforddio gwresogi ei gartref i safon ddigonol neu’n byw mewn cartref ag inswleiddio neu wres annigonol. Gall yr effeithiau fod yn bellgyrhaeddol a hirhoedlog gan gynnwys cynnydd mewn afiechydon anadlol a mathau eraill o salwch, yn enwedig ymhlith plant a’r henoed gyda phwysau cysylltiedig ar y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol i ymateb i’r problemau meddygol. Mae tlodi tanwydd yn cyfrannu at lefelau uwch o ddyled, pryder cymdeithasol ac unigedd a straen seicolegol ac amcangyfrifir ei fod yn cyfrannu at 27,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf bob blwyddyn ledled Cymru a Lloegr.  Roedd yr Amcangyfrifon Tlodi Tanwydd wedi’u Modelu ar gyfer Cymru, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2021, yn amcangyfrif bod 196,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy’n cyfateb i 14% o aelwydydd. Amcangyfrifwyd bod 153,000 o aelwydydd eraill mewn perygl o dlodi tanwydd, sy’n cyfateb i 11% o aelwydydd. Gan gymryd amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer 2021, a’u hadolygu gan ddefnyddio prisiau tanwydd (trydan, nwy o’r prif gyflenwad, ac olew gwresogi) o 1 Ebrill 2022, a chan gymryd bod pob cartref ar y cap pris, rhagwelodd yr astudiaeth y gallai hyd at 45% (614,000) o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap pris ym mis Ebrill 2022.

Mae’n amlwg, felly, fod yr her o fynd i’r afael ag allyriadau carbon a lleihau tlodi tanwydd yn sir Benfro yn un angenrheidiol, ond yn un sylweddol ac amlochrog. Mae gennym heriau penodol i fynd i’r afael â hwy o ran ein stoc o 5,700 o gartrefi ond gallwn fuddsoddi’n uniongyrchol mewn gwelliannau o fewn cyfyngiadau ein rhaglen gyfalaf flynyddol tra bod ein cyrhaeddiad a’n gallu i sicrhau newid yn llai sicr o fewn y sector preifat. Mae'n amlwg, fodd bynnag, y bydd cyflawni dyheadau heriol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ar draws yr holl dai yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol y tu hwnt i'r lefelau presennol ar draws y ddau sector.

O ran ein stoc dai ein hunain, rydym yn elwa o gael data o ansawdd gwell ar y lefelau presennol o effeithlonrwydd ynni ond mae'r wybodaeth yn anghyflawn ac ar hyn o bryd yn annigonol i nodi llwybr clir wedi'i gostio i gyflawni targedau datgarboneiddio drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Yn yr un modd, mae llawer o’r dechnoleg sy’n gysylltiedig â systemau newydd a fyddai’n rhan o unrhyw raglen ôl-osod yn gymharol newydd a heb ei phrofi ac mae hynny’n creu risgiau o ran rhaglennu cynnal a chadw parhaus ac mae angen inni ddeall yr effeithiau ar denantiaid. At hynny, disgwylir i gostau Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio fod yn sylweddol ac mae angen i ni ddeall effeithiau posibl unrhyw Raglen Datgarboneiddio ar ein huchelgeisiau cyffredinol yng nghyswllt cynllun busnes y cyfrif refeniw tai. Mae gennym hefyd nifer sylweddol o eiddo anodd eu trin sy'n cynnwys mathau o adeiladu ansafonol sy'n aneffeithlon o ran ynni ond sydd hefyd yn cyflwyno heriau penodol o ran dod â lefelau effeithlonrwydd ynni i fyny i safonau'r targed. Er bod ein stoc dai bresennol yn bodloni SATC presennol mae'n rhaid i ni gynllunio ar gyfer buddsoddiad sylweddol i gynnal y safon honno tra'n aros am y disgwyliadau ychwanegol a ddaw i'r amlwg o gyhoeddi SATC2. Mae angen inni gofio’r ffaith bod pwysau chwyddiant yn y sector adeiladu yn parhau i gael effaith amlwg ar adeiladu a chostau cynnal a chadw adeiladau ac felly’n lleihau cyrhaeddiad cyllidebau gwella cyfalaf. Yn yr un modd, rydym wedi cael anawsterau o ran capasiti'r sector adeiladu lleol i ymateb i brosesau caffael a thendro sy’n effeithio ar ein rhaglenni presennol ond a fydd sicr yn effeithio ar unrhyw fuddsoddiad ychwanegol sylweddol drwy raglenni ôl-osod yn y dyfodol.

Yn absenoldeb data ar lefel sirol ar gyflwr ac effeithlonrwydd ynni stoc dai'r sector preifat, prin yw'r wybodaeth sydd gennym ar gyfer datblygu cyngor a strategaethau buddsoddi ar gyfer y mwyafrif o gartrefi yn Sir Benfro. Mae’n wir i ddweud, fodd bynnag, bod nifer fawr o gartrefi yn Sir Benfro wedi’u hadeiladu cyn 1919 ac mae'n debygol iawn eu bod wedi’u hinswleiddio’n wael. Mae eiddo o’r fath yn cael effaith negyddol ddeuol gan eu bod yn fwy tebygol o gynnwys aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd ond maent yn cael mwy o effaith ar newid yn yr hinsawdd gan fod angen mwy o wres arnynt i’w cadw’n gynnes gan ddefnyddio mwy o danwydd sy’n cynhyrchu carbon.

Ochr yn ochr â thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni'r stoc rhent cymdeithasol, mae wedi pennu targedau penodol ar gyfer mynd i’r afael â phroblem ehangach aelwydydd mewn tlodi tanwydd drwy osod targedau heriol ychwanegol i’w cyflawni erbyn 2035.

  • Nid amcangyfrifir bod unrhyw aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol;  
  • Amcangyfrifir nad yw mwy na 5% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ar unrhyw un adeg cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol; 
  • Bydd nifer yr holl aelwydydd sydd “mewn perygl” o ddisgyn i dlodi tanwydd yn fwy na haneru yn seiliedig ar amcangyfrif 2018.

Yn amlwg, cam cyntaf pwysig wrth fynd i’r afael â’r targed fydd nodi aelwydydd sy’n debygol o fod mewn tlodi tanwydd ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o feini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i nodi aelwydydd mewn perygl, blaenoriaethu ymyriadau a mynd i’r afael â’r achos. Mae'r ymagwedd yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i dylanwad i sicrhau bod Llywodraeth y DU, y Rheoleiddiwr Ynni a chwmnïau ynni yn ystyried ac yn diwallu anghenion pobl sy’n byw yng Nghymru. 

Er mai cyfyngedig fu'r cyllid gan y llywodraeth a gyfeiriwyd at awdurdodau lleol yng Nghymru i fynd i'r afael â her tlodi tanwydd, yr ymagwedd fu dibynnu ar rwymedigaethau a roddir ar y cwmnïau ynni i ariannu a gweithredu mentrau arbed ynni ar gyfer aelwydydd incwm isel a diamddiffyn.  Mae cynllun cymhwysedd hyblyg ECO (ECO4 Flex) yn rhan o gynllun effeithlonrwydd ynni'r llywodraeth, Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni 4 (ECO4). Gall awdurdodau lleol wirfoddoli i gymryd rhan yn ECO4 Flex i nodi aelwydydd cymwys (cartrefi perchen-feddianwyr a chartrefi rhentu preifat) nad ydynt yn cael budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, ond sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Mae Sir Benfro yn awdurdod lleol sy'n cymryd rhan yn y cynllun ac mae'n nodi ac yn dilysu aelwydydd a allai fod yn gymwys a all wedyn dderbyn mesurau effeithlonrwydd ynni a gwresogi. Mae'r mesurau effeithlonrwydd ynni y caniateir eu gosod mewn cartref cymwys yn cael eu pennu gan y cwmni gosod neu gynhyrchydd arweiniol a rhaid iddynt fod o fewn cylch gorchwyl y cynllun cyffredinol.  Mae enghreifftiau o'r mesurau y gellir eu gosod yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar ffotofoltäig, a'r gwahanol fathau o inswleiddio (e.e., llofft, wal allanol, wal fewnol, a llawr).

Cynllun ynni arall sydd ar gael i drigolion Sir Benfro ac a weithredir o dan raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw cynllun Nyth sy’n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd incwm isel a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru. Mae’n cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i leihau’r newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a hybu datblygiad economaidd ac adfywio yng Nghymru. Mae'r cynllun yn ystyried ymagwedd tŷ cyfan at welliannau effeithlonrwydd ynni cartref. Mae hyn yn helpu i fynd i'r afael â chartrefi anos eu trin lle mae effaith tlodi tanwydd yn dueddol o fod yn fwyaf difrifol. Mae cynllun Nyth yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim ac, yn amodol ar gymhwysedd, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog, inswleiddio, paneli solar neu bwmp gwres. Mae'r cynllun ar gael i berchnogion tai a thenantiaid y sector preifat ac mae ar gael i aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau prawf modd neu lle mae rhywun yn y cartref yn bodloni'r meini prawf iechyd.

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad polisi newydd ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar ei huchelgais hirdymor i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru a sbarduno datgarboneiddio. Disgwylir i’r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd barhau i weithredu fel prif fecanwaith Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd tra’n cyfrannu at gyflawni targedau ar gyfer Cymru sero-net erbyn 2050. Mae’r datganiad polisi yn gweld cyfle yn sgil creu’r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd i ddatblygu dull integredig sy’n ymateb i’r argyfwng costau byw presennol, yn hyrwyddo deunyddiau cynaliadwy o Gymru ac yn darparu cyngor dibynadwy ar effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Nod y cynllun yw cefnogi sgiliau a swyddi Cymreig a dysgu o'r profiad a gafwyd drwy gyflawni Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru ar dai cymdeithasol. Mae’n nodi ymrwymiad i ddwyn ymlaen y gwaith o gaffael gwasanaeth newydd sy’n ymateb i’r galw, gan ddarparu parhad i gynorthwyo’r rhai lleiaf abl i dalu a darparu trosglwyddiad fforddiadwy i gartrefi carbon isel. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y dull integredig yn datblygu o brofiadau'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a mentrau tai eraill yng Nghymru. O dan y cynlluniau, bydd pob cartref yng Nghymru, waeth beth fo’i ddeiliadaeth neu a yw mewn tlodi tanwydd ai peidio, yn parhau i fod yn gymwys i gael mynediad i’r Rhaglen Cartrefi Clyd i gael cyngor a chymorth ar y ffordd orau o wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a sut y gellir ariannu mesurau. Mewn perthynas â gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai’r rhaglen ffocysu ymdrech, a lle bo angen, buddsoddiad, ar wella effeithlonrwydd ynni i’r aelwydydd hynny sydd leiaf abl i dalu am welliannau eu hunain (h.y. aelwydydd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd a’r aelwydydd hynny sydd mewn tlodi tanwydd difrifol) yn y sector perchen-feddianwyr, y sector rhentu preifat a’r sector tai cydweithredol. Mae'n ymddangos felly mai'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd fydd y prif fecanwaith cyflawni ar gyfer cyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y dyfodol a mesurau lleihau carbon yn y sector preifat.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe - felly mae'r her o ran lleihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn Sir Benfro, yn bodoli ar sawl lefel. Mae angen gwella ein gwybodaeth am lefelau effeithlonrwydd ynni ar draws pob deiliadaeth er mwyn cwmpasu'n llawn faint o her a wynebir a lefel y buddsoddiad sydd ei angen i fodloni'r gwaith o wella safonau. Mae ansicrwydd ariannol o ran cyflawni lefel y gwelliant sydd ei angen er ei bod yn debygol y bydd angen cyllid sylweddol drwy raglen gyfalaf y gronfa refeniw tai er mwyn ymyrryd yn uniongyrchol yn ein stoc dai ein hunain drwy ddulliau Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. At hynny, mae defnyddio technolegau newydd heb eu profi mewn systemau gwresogi/ôl-ffitio newydd a phryderon ynghylch cyfyngiadau capasiti a chostau cynyddol o fewn y sector adeiladu yn creu ansicrwydd o ran rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Er bod safonau ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd wedi codi ac yn debygol o godi ar gyfer tai cymdeithasol yn benodol, tai presennol y sector preifat yw’r her fwyaf sylweddol o hyd o ran cyflawni ein hamcanion blaenoriaeth, gyda chyllid ar gyfer rhoi cyngor a gwneud gwelliannau’n cael eu darparu yn y dyfodol drwy’r llywodraeth a chynlluniau a arweinir gan gyflenwyr ynni ac mai prin fydd yr ymyrryd ar lefel leol.

Ein dull gweithredu

Mae'r strategaeth dai wedi'i fframio o fewn cyd-destun ymrwymiad eang y cyngor i gymryd camau cadarnhaol i gefnogi'r gwaith o leihau allyriadau carbon yn ogystal â mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Byddwn yn cymryd camau cadarnhaol i fuddsoddi yn y gwaith o ddatgarboneiddio ein stoc dai ein hunain er mwyn cyrraedd targedau SATC wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol ond byddwn yn ceisio cwmpasu’r buddsoddiad sydd ei angen drwy wella ein dealltwriaeth o’n stoc dai ein hunain drwy gynnal asesiad o'r stoc gyfan. Bydd hyn yn llywio'r gwaith o ddatblygu Llwybrau Ynni Targed ar gyfer ein cartrefi fel rhan o ddull y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Rydym yn aros i'r SATC diwygiedig gael ei gyhoeddi a disgwylir iddo gadarnhau targedau ar gyfer gwelliannau EPC i safon EPC C ar gyfer holl wneuthuriad ein stoc dai erbyn 2029. O fewn tair blynedd bydd disgwyl i ni fod wedi datblygu cynlluniau cynhesrwydd fforddiadwy a datgarboneiddio ar gyfer ein stoc a fydd hefyd yn cynnwys Llwybrau Ynni Targed fel bod ein stoc yn cyflawni EPC A. Mae ymagwedd y strategaeth dai at yr amcanion ar gyfer datgarboneiddio stoc dai'r cyngor fel y'i hamlinellir yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai.

Mae ein Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2023 – 2053 yn nodi ein cynlluniau i fuddsoddi bron i £10 miliwn yn ein stoc dai dros y 5 mlynedd nesaf i wella lefelau effeithlonrwydd ynni drwy ddyrannu cyllid a gweithio tuag at y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Rydym wedi buddsoddi mewn capasiti i ddeall y technolegau sydd ar gael i gefnogi buddsoddiad datgarboneiddio a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu'r ymagwedd briodol ar gyfer tai cymdeithasol yn Sir Benfro a, thrwy hynny, yn cefnogi uchelgeisiau Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Benfro. Mae lefel y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn ein stoc dai yn debygol o fod yn sylweddol, felly byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru o ran y gofynion ariannu ac yn adolygu rhaglen buddsoddi cyfalaf Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn rheolaidd. Ar gyfer 2022/23 hyd at 2025 mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ar gyfer gwaith y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio ar sail pro-rata yn unol â lefel y stoc dai gymdeithasol.

Rydym hefyd yn cydnabod y cyfyngiadau capasiti posibl o fewn y sector adeiladu wrth gyflwyno rhaglen sylweddol o waith ôl-osod ar draws y tai cymdeithasol yn Sir Benfro a bydd angen i ni nodi dulliau comisiynu a chadwyn gyflenwi, mewn partneriaeth â’n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r sector adeiladu, i gynyddu’r capasiti ar gyfer cyflawni yn y sir. Mae datganiadau o ddiddordeb cynnar mewn fframweithiau wedi nodi diffyg ymgynghorwyr arbenigol yng Nghymru sydd â’r arbenigedd, yr wybodaeth a’r achrediad cywir i wneud y gwaith gofynnol a bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a Llywodraeth Cymru i sicrhau dull o ddatblygu capasiti digonol i gyflawni gwaith datgarboneiddio ar raddfa.

Rydym yn croesawu’r ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r Rhaglen Cartrefi Clyd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn enwedig ar draws y sector preifat, a byddwn yn mynd ati i hyrwyddo’r rhaglen ar draws ein cymunedau lle mae lefelau bregusrwydd neu lefelau incwm yn dynodi’r risg o dlodi tanwydd a chymhwysedd posibl ar gyfer y cymorth sydd ar gael. O ystyried yr argyfwng costau byw a’r effeithiau cysylltiedig ar filiau ynni, mae’n debygol bod cyfran uwch o drigolion lleol yn profi, neu mewn perygl o brofi, tlodi tanwydd. Byddwn yn targedu cymorth a chyngor i'r aelwydydd hynny ar draws ein stoc dai ein hunain ac ar draws y sector preifat, gan gynnwys drwy ymgysylltu â landlordiaid yn y sector preifat. Wrth gefnogi’r amcan hwnnw byddwn yn parhau i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n data lleol i nodi meysydd lle mae tlodi tanwydd yn debygol o fod yn gyffredin a lle bydd rhoi cyngor neu ôl-osod systemau gwresogi carbon isel a mesurau arbed ynni yn cael yr effaith fwyaf. Bydd llawer o’r dulliau hyn yn cefnogi Cynllun Gweithredu Ynni Ardal Leol Sir Benfro a bydd yn bwysig sicrhau ein bod yn monitro effaith ymyriadau ardal leol i fesur llwyddiant, llywio dysgu ac arwain buddsoddiad yn y dyfodol er enghraifft, ym mentrau'r Rhaglen Cartrefi Clyd.

Cyflawniadau allweddol

  • Cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro Argyfwng Hinsawdd ym mis Mai 2019
  • Rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu Ardal Leol Sir Benfro sy’n ymgorffori camau gweithredu sy’n ymwneud â thai tuag at gyflawni carbon sero-net erbyn 2050
  • Rydym wedi cyflogi Rheolwr Datgarboneiddio sy'n gyfrifol am reoli'r gwaith datgarboneiddio ar gyfer ein stoc tai cyngor.
  • Mae'r holl dai cymdeithasol newydd a fforddiadwy, sy'n cael eu hadeiladu trwy ein cynlluniau datblygu rhaglen gan ddefnyddio'r grant tai cymdeithasol, yn cael eu hadeiladu i safonau diweddaraf gofynion ansawdd datblygu Cymru ac nid ydynt yn cynnwys systemau gwresogi tanwydd ffosil.
  • Fe wnaethom atgyfeirio dros xxxxx o gartrefi at y cynllun ECO-Flex am gyngor a gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn ystod 2022/23
  • Rydym wedi cyflwyno rhaglen o hyfforddiant staff i ddatblygu sgiliau staff mewn meysydd cysylltiedig gan gynnwys asesu ynni domestig ac ôl-osod
  • Yn 2021/22 fe wnaethom sicrhau £387,500 o gyllid Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gan Lywodraeth Cymru tuag at raglen gyfalaf o £750,000 gan gynnwys systemau ffotofoltäig a systemau storio batris mewn 25 eiddo.
  • Mae ymgysylltiad tenantiaid wedi cynyddu yn sgil sefydlu Panel Tenantiaid a chynhelir sesiynau rheolaidd.

Ein camau gweithredu â blaenoriaeth

  • B5.1    Cyflawni blaengynllun arfaethedig pum mlynedd y rhaglen fuddsoddi Cynllun Busnes Cronfa Refeniw Tai 2023-2053 sy'n berthnasol i leihau tlodi tanwydd, torri carbon a gwella canlyniadau iechyd yn ein stoc o dai cyngor.
  • B5.2    Cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion sy'n ymwneud â thai mewn cynlluniau a phartneriaethau datgarboneiddio lleol a rhanbarthol gan gynnwys Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Benfro a phrosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
  • B5.3    Gwella ein dealltwriaeth o effeithlonrwydd ynni stoc dai'r sector preifat yn Sir Benfro gan gynnwys lefelau tlodi tanwydd
  • B5.4    Cefnogi a hyrwyddo argaeledd cynlluniau cyngor ynni a chymorth ariannol a ariennir gan gynnwys ECO-Flex, NYTH a chynlluniau yn y dyfodol sy'n deillio o raglen Cartrefi Clyd Cymru.
  • B5.5    Datblygu rhaglen o hyfforddiant ymwybyddiaeth tlodi tanwydd ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol a gwasanaethau eraill sy'n wynebu'r cyhoedd wrth ddatblygu system llwybr atgyfeirio i aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd gael mynediad at gyngor a gwelliannau ynni

Heriau wrth gyflenwi

  • Mae ein dealltwriaeth o effeithlonrwydd ynni tai ar draws y sector preifat yn gyfyngedig.
  • Mae angen i ni gynnal asesiad stoc gyfan cyn y gallwn ddatblygu llwybrau manwl o ran ynni ar gyfer stoc sy'n eiddo i'r cyngor.
  • Nid oes fframwaith datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy pwrpasol ar waith i gaffael gwasanaethau ymgynghori a chontractwyr gosod
  • Mae’n amlwg bod diffyg capasiti ac arbenigedd o fewn y sectorau ymgynghori ac adeiladu yn y rhanbarth i gefnogi graddfa debygol datgarboneiddio a'r gwaith cysylltiedig yn y dyfodol ar draws y sector tai cymdeithasol
  • Mae diffyg cyllid i gefnogi buddsoddiad sylweddol uniongyrchol gan Gyngor Sir Powys i wella effeithlonrwydd ynni tai'r sector preifat gan greu dibyniaeth ar gynlluniau ynni cenedlaethol a chynlluniau ynni a ariennir gan gyfleustodau
  • Mae maint y cyllid sydd ei angen i gyflawni rhaglen sylweddol ôl-osod er mwyn optimeiddio yn Sir Benfro i gwrdd â thargedau SATC yn debygol o fod yn sylweddol ac mae lefel y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen yn ansicr. Felly mae'r effaith ar gynlluniau gwariant Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn y dyfodol yn ansicr.
  • Mae chwyddiant o fewn y sector adeiladu yn parhau i effeithio ar gost rhaglenni ôl-osod
  • Bydd cyfyngiadau parhaus i godi'r rhent yn cyfyngu ar raddfa'r buddsoddiad sy'n bosibl trwy Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai.

Manylion y camau gweithredu 

B5.1  Cyflawni blaengynllun arfaethedig pum mlynedd y rhaglen fuddsoddi Cynllun Busnes Cronfa Refeniw Tai 2023-2053 sy'n berthnasol i leihau tlodi tanwydd, torri carbon a gwella canlyniadau iechyd yn ein stoc o dai cyngor.

  • B5.1.1  Cynnal adolygiad o fuddsoddiad cynlluniedig Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai i ystyried unrhyw newidiadau i dargedau a safonau a nodir o dan SATC 2023. (Blwyddyn 1-5)
  • B5.1.2 Cynnal asesiad cyfan o'r stoc er mwyn datblygu Llwybrau Asesu Targed. (Blwyddyn 1-3)
  • B5.1.3  Gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau tai lleol cyfagos a phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol/rhanbarthol i ddatblygu capasiti, sgiliau ac arbenigedd yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer gwasanaethau ymgynghori a chontractwyr gosod. (Blwyddyn 1-3)

B5.2    Cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion sy'n ymwneud â thai mewn cynlluniau a phartneriaethau datgarboneiddio lleol a rhanbarthol gan gynnwys Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Benfro a phrosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

B5.3    Gwella ein dealltwriaeth o effeithlonrwydd ynni stoc dai'r sector preifat yn Sir Benfro gan gynnwys lefelau tlodi tanwydd 

  • B5.3.1 Cynnal Asesiad Stoc Gyfan o dai cymdeithasol ac ymestyn i'r sector preifat lle bo hynny'n ymarferol. (Blwyddyn 3)
  • B5.3.2 Defnyddio’r data sydd ar gael i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dull wedi’i dargedu o ddarparu cyngor effeithlonrwydd ynni a chymorth ariannol drwy gynlluniau grant a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyfleustodau (Blwyddyn 1-5)

B5.4    Cefnogi a hyrwyddo argaeledd cynlluniau cyngor ynni a chymorth ariannol a ariennir gan gynnwys ECO-Flex, NYTH a chynlluniau yn y dyfodol sy'n deillio o raglen Cartrefi Clyd Cymru.

  • B5.4.1  Datblygu rhaglen o hyfforddiant ymwybyddiaeth tlodi tanwydd ar draws gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, y sector gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ddatblygu system llwybr atgyfeirio ar gyfer aelwydydd tlawd o ran tanwydd i gael mynediad at gyngor a gwelliannau ynni. (Blwyddyn 2-3)
  • B5.4.2  Datblygu strategaeth gyfathrebu ar gyfer hyrwyddo cynlluniau effeithlonrwydd ynni i dargedu cartrefi. (Blwyddyn 1-2)
  • B5.4.3  Ymgysylltu â Cartrefi Clyd Cymru a darparwyr ynni i sicrhau bod mecanweithiau'n cael eu sefydlu i gofnodi effeithiau unigol a chyffredinol cynlluniau effeithlonrwydd ynni a ddarperir yn Sir Benfro. (Blwyddyn 1-3)

Adborth o'r ymgynghoriad

Cynhaliwyd dwy seminar i aelodau a chyfarfodydd rhanddeiliaid i lywio datblygiad y strategaeth. Daeth nifer dda i'r sesiynau hyn a chafwyd llawer o gyfraniadau gwerthfawr sydd wedi cael eu bwydo i'r strategaeth.

Nododd canlyniadau ymgysylltu eang a gynhaliwyd wrth ddatblygu Asesiad Llesiant Sir Benfro 2022 nifer o bryderon allweddol yn ymwneud â thai sy’n bwysig i’w hystyried wrth osod y cefndir ar gyfer y strategaeth dai. Mae'r pryderon a nodwyd yn amlwg yn parhau'n berthnasol.

Teimlir bod argaeledd a fforddiadwyedd tai yn Sir Benfro yn rhwystr i bobl ifanc rhag aros yn y sir.

Mae nifer sylweddol o ail gartrefi yn y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae diffyg tai fforddiadwy yn y sir.

Rhagwelir y bydd yr angen am dai fforddiadwy yn cynyddu.

Rydym yn gweld nifer cynyddol o deuluoedd yn bellach yn ddigartref yn y sir.

Mae'r boblogaeth gynyddol sy'n heneiddio yn rhoi pwysau ar y galw am lety arbenigol a bydd yn parhau i wneud hynny.

 

Cynllun gweithredu

Ar ôl cytuno ar y blaenoriaethau sydd yn y strategaeth dai, bydd cynllun gweithredu manwl yn cael ei ddatblygu gan gynnwys dangosyddion a mesurau perfformiad mesuradwy.

 

ID: 11692, adolygwyd 07/01/2025