Strategaeth Dai
Blaenoriaethau’r Strategaeth Dai
Blaenoriaeth 1
- Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy er mwyn cwrdd ag anghenion lleol
Blaenoriaeth 2
- Gweithio i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal, ei fod yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd eto
Blaenoriaeth 3
- Gwella ansawdd cyffredinol tai yn Sir Benfro
Blaenoriaeth 4
- Cefnogi pobl i fyw'n annibynnol am fwy o amser yn eu cartrefi eu hunain
Blaenoriaeth 5
- Lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd
Trwy ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn greadigol a defnyddio’n pwerau dewisol a'n pwerau disgresiwn yn ystyriol, bydd Cyngor Sir Penfro’n gweithio gyda’n partneriaid lleol a rhanbarthol i fynd i’r afael â’r pum blaenoriaeth allweddol drwy gyflawni’r camau gweithredu a’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun gweithredu sydd ynghlwm wrth y strategaeth hon.
ID: 11642, adolygwyd 07/01/2025