Strategaeth Dai
Cyflwyniad
Mae Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Penfro yn swyddogaeth hollbwysig o fewn y sir. Mae ganddynt rôl ac effaith sy'n ganolog i'r gwaith o lunio lleoedd lleol a chreu cymunedau iach a chynaliadwy. Mae tai yn ganolog i rôl arweinyddiaeth ehangach y cyngor yn Sir Benfro, gan ddarparu gwasanaethau tai rheng flaen pwysig i'r gymuned leol ond hefyd yn cynllunio'n strategol ac yn darparu agweddau allweddol ar weledigaeth gyfunol y cyngor ar gyfer y sir.
Mae llywodraeth genedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd rôl tai strategol awdurdodau lleol ac yn dirprwyo ystod o ddyletswyddau a chyfrifoldebau sy’n cydnabod mai cynghorau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion tai lleol a datblygu’r ymatebion strategol i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae'r fframweithiau deddfwriaethol ac ariannu sy'n berthnasol i rôl a dyletswyddau tai'r cyngor yn arwain ac yn rhwymo'r cyngor o ran ei gyfrifoldebau tai eang a gall pwysau lleol, fel digartrefedd, fod yn faich ariannol sylweddol yn erbyn adnoddau'r cyngor. Ar gyfer Sir Benfro, mae'r rôl tai hefyd yn ymestyn i reoli a chynnal niferoedd sylweddol o gartrefi rhent cymdeithasol, dan arweiniad cyfarwyddebau polisi cenedlaethol a mecanweithiau ariannu cymhleth neu reoledig nad ydynt o reidrwydd yn darparu ar gyfer pwysau neu flaenoriaethau lleol. Mae ein lefelau rhent cymharol isel, er enghraifft, yn cael eu cyfyngu gan fformiwlâu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n rhwystro ein gallu i fuddsoddi i gyrraedd y targedau datgarboneiddio heriol, sydd hefyd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru.
Mae cyfrifoldebau tai strategol Sir Benfro yn gofyn am lefelau sylweddol o ryngweithio a chydweithredu â gwasanaethau cyhoeddus mewnol ac allanol a'r sector gwirfoddol a phreifat er mwyn darparu atebion tai effeithiol ar draws anghenion a themâu tai allweddol. Mae angen arweiniad gan yr awdurdod lleol ar y partneriaid hynny, boed yn bartneriaid statudol neu fel arall, o ran yr heriau tai a wynebir, y blaenoriaethau y mae angen mynd i'r afael â hwy a'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni newid. Yn fras, dyna rôl y strategaeth dai ac er ei bod yn cael ei chefnogi gan nifer o strategaethau thematig a chynlluniau gweithredu mae’r strategaeth dai hon yn ceisio nodi’r heriau allweddol a wynebir yn Sir Benfro, y blaenoriaethau y mae angen mynd i’r afael â hwy a’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni'r canlyniadau gofynnol.
Mae datblygu'r strategaeth dai hon wedi ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Penfro ddeall y farchnad dai leol, yr amodau tai lleol a deall y gofynion tai lleol ar draws y sir sy'n amrywiol iawn o ran eu hanghenion. Mae’r anghenion hynny’n aml yn cael eu mynegi ar bwynt argyfwng digartrefedd, ond yn aml maent yn cael eu cuddio o’r golwg ac yn gysylltiedig â bregusrwydd neu anabledd, felly mae angen i ddulliau darparu gwasanaethau roi cyfrif am y ffaith bod pob cwsmer yn unigryw ac mae'n bosibl y bydd angen atebion unigol wedi’u teilwra i'w hanghenion. Yn bwysig ddigon, ategir y strategaeth dai gan strategaethau manwl penodol, er enghraifft ynghylch digartrefedd, sy'n archwilio'n fanylach y sylfaen dystiolaeth ac yn nodi'r cynlluniau gweithredu manwl i fynd i'r afael â'r anghenion a'r heriau a nodwyd. Lle mae bylchau mewn perthynas â’r sylfaen dystiolaeth, neu fylchau o ran cynlluniau manwl, mae’r strategaeth dai yn ceisio nodi sut a phryd yr eir i’r afael â’r bylchau hynny er mwyn cael dealltwriaeth lawn o anghenion tai’r sir a’r camau gweithredu angenrheidiol i fynd i’r afael â’r anghenion hynny.
Gan mai Sir Benfro yw’r landlord ar gyfer ei stoc dai ei hun, a reolir drwy Gyfrif Refeniw Tai wedi’i neilltuo, mae yna hefyd gymuned amrywiol o gwsmeriaid i ddarparu gwasanaethau uniongyrchol ar ei chyfer. Mae heriau ychwanegol ynghlwm wrth hyn sy'n gysylltiedig ag ystyriaethau cyllidebol a deddfwriaethol cymhleth a thargedau a osodir yn allanol. Yn bwysig, o ran rôl landlord y cyngor, mae cynllun strategol y cyngor wedi'i nodi yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai. Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu blaenoriaethu a rheoli ei adnoddau sydd wedi'u neilltuo i gefnogi'r gwaith o reoli, cynnal a chadw a gwella'r stoc dai y mae'n berchen arno. Mae hefyd yn nodi cynlluniau a strategaethau ariannu ar gyfer datblygu cartrefi newydd i ddiwallu anghenion dros y 30 mlynedd nesaf. Felly, er bod y strategaeth dai yn rhoi trosolwg strategol o sut y bydd Sir Benfro yn mynd i'r afael â'i heriau tai allweddol ac yn amlinellu blaenoriaethau sy'n torri ar draws swyddogaeth y landlord, mae Cynllun Busnes y CRT wedi'i neilltuo i gyfrifoldebau landlord y cyngor.
Mae'r strategaeth dai hon felly'n cynnwys trosolwg o heriau ac anghenion tai lleol ac yna'n ceisio nodi dulliau o fynd i'r afael â'r anghenion hynny o fewn cyd-destun blaenoriaethau'r cyngor. Yn bwysig ddigon, mae'r strategaeth a'r cynllun gweithredu yn anochel wedi'u fframio o fewn cyd-destun deddfwriaethol a pholisi cenedlaethol a lleol ac adnoddau'r cyngor.
Mae'r fframweithiau deddfwriaethol a pholisi cenedlaethol y mae Gwasanaethau Tai Sir Benfro yn gweithredu ynddynt yn gymhleth. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer fawr o uchelgeisiau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chyfrifoldebau tai ehangach cynghorau lleol ac o ran eu gwasanaethau landlord. Yng nghyd-destun pwysau cyllidebol cynyddol a thoriadau cyllid i awdurdodau lleol mae hyn yn gwneud rôl y gwasanaethau tai hyd yn oed yn fwy heriol ar draws cyllidebau refeniw a chyfalaf. Mae'r ymrwymiadau polisi a'r targedau hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar gapasiti ac adnoddau Sir Benfro.
Fodd bynnag, wrth ddatblygu'r strategaeth dai leol hon mae gan Sir Benfro ddulliau a allai fod yn bwerus o ran llunio lleoedd lle y gallwn weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r heriau tai sy'n wynebu'r sir.