Strategaeth Dai

Egluro'r cefndir blaenoriaethau strategol Sir Benfro

Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028 ac Amcanion Llesiant Cyngor Sir Penfro

 

Mae'r strategaeth gorfforaethol, y cytunwyd arni gan y cyngor, yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu cyflawni ei flaenoriaethau allweddol ar gyfer y sir dros y tymor byr a'r tymor canolig.  Bydd y strategaeth dreigl 5 mlynedd yn cael ei hadolygu a'i diwygio'n flynyddol i ystyried materion sy'n dod i'r amlwg ac i ymateb i heriau wrth iddynt godi. 

Yn bwysig ddigon, mae'r strategaeth gorfforaethol wedi'i chlymu'n gryf â Rhaglen Weinyddu'r Cabinet ar gyfer 2023 ac yn cael ei harwain ganddi, ac mae'r rhaglen yn nodi'r nodau a'r dyheadau gwleidyddol ar gyfer tymor gweinyddu'r cyngor.

Gweledigaeth y cyngor yw gweithio gyda'n gilydd, gwella bywydau sy’n nodi’r uchelgais o ran gweithlu a phartneriaethau ar gyfer Cyngor Sir Penfro ac sy'n disgrifio ein diben craidd fel sefydliad.

Mae'r strategaeth gorfforaethol yn darparu'r fframwaith trosfwaol ar gyfer datblygu cynlluniau gwasanaeth tymor canolig manwl, cynlluniau uned (lle bo'n briodol) a chynlluniau perfformiad a llesiant unigol yn y pen draw. Wrth wneud hynny, mae'r cyngor yn sefydlu cyswllt clir rhwng blaenoriaethau strategol sefydliadol a chyflawni, ac mae'n cefnogi ac yn gwella dealltwriaeth o sut mae pawb sy'n gweithio i'r cyngor yn gwneud cyfraniad hanfodol i waith y sefydliad yn ei gyfanrwydd.

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n ofynnol i’r cyngor lunio amcanion llesiant i ddangos y cyfraniad y bydd y cyngor yn ei wneud tuag at nodau llesiant cenedlaethol Cymru. Ein strategaeth gorfforaethol yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan y cyngor i osod a mynegi ein hamcanion llesiant.  Mae’r rhain yn bwysig yn yr ystyr eu bod yn darparu fframwaith ar gyfer yr holl waith a wnawn.

Caiff y gwaith o gyflawni rhaglen y cyngor ei fonitro drwy Fframwaith Rheoli Perfformiad y cyngor sy'n cynnwys adroddiadau rheolaidd ar gyflawniad yn erbyn amcanion blaenoriaeth a dangosyddion perfformiad, yn ogystal â monitro ariannol a chyllidebol.

Fel rhan o’r strategaeth gorfforaethol mae’r cyngor hefyd wedi datblygu 12 amcan llesiant ar gyfer y cyfnod 2023 – 2028. Mae naw amcan yn canolbwyntio ar Sir Benfro gyfan gan fynd i'r afael â sut y bydd y cyngor yn gwella llesiant pobl a chymunedau Sir Benfro a ffurfio'r cyfraniad y bydd y cyngor yn ei wneud tuag at nodau llesiant cenedlaethol Cymru. Mae'r tri amcan arall yn canolbwyntio ar welliant sefydliadol.

Er bod tai yn cyffwrdd â’r rhan fwyaf o’r amcanion llesiant corfforaethol eang mae’r rhestr yn cynnwys amcan tai allweddol gyda chyfres o feysydd blaenoriaeth i roi sylw iddynt:-

 

Tai

A3: Byddwn yn galluogi'r gwaith o ddarparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
Rhesymeg

Mae tystiolaeth yn dangos bod tai o ansawdd da yn un o brif bileri llesiant.

Mae Sir Benfro, fel llawer o siroedd eraill, yn profi prinder dybryd o dai fforddiadwy sy'n arwain at gynnydd serth mewn digartrefedd.

Ni fyddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau ynghylch newid yn yr hinsawdd oni bai ein bod yn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi gan fod 38% o'r trydan yn y DU yn cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr domestig.  Mae hyn yn golygu bod angen inni fynd i’r afael ag ôl troed carbon yr holl dai yn Sir Benfro, gan gynnwys dyletswyddau penodol i wneud ein stoc ein hunain yn garbon niwtral erbyn 2033.

Rydym yn llunio strategaeth dai newydd i gwrdd â heriau’r agenda hon.

Beth rydyn ni'n mynd i'w wneud

  • Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ddiwallu'r angen a nodwyd
  • Cyflymu’r broses o ddarparu tai yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynyddu’r amrywiaeth o brosiectau tai fforddiadwy gan gynnwys datblygu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a sicrhau bod lleiniau llai o dir y cyngor ar gael i’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd hunanadeiladu
  • Datblygu hyd at 300 o unedau tai newydd yn uniongyrchol erbyn 2027 ynghyd â bwrw ymlaen â datblygu ein darpariaeth o dai gwarchod i bobl hŷn a’n darpariaeth byw â chymorth
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran adfywio i wneud canol ein trefi yn lleoedd gwych i fyw ynddynt unwaith eto drwy fynd i’r afael â’r pla o eiddo gwag hirdymor
  • Mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal
  • Gweithio i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal, ei fod yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd eto
  • Gweithio gyda landlordiaid yn y sector rhentu preifat a’u cefnogi yn wyneb gostyngiad yn y cyflenwad
  • Bod yn ymatebol i raddfa a chyflymder y newid ym maes rheoleiddio rhentu preifat a deddfwriaeth ail gartrefi / llety gwyliau heb golli golwg ar ein nod i sicrhau bod Sir Benfro yn parhau i fod yn lle gwych i fyw ynddo ac ymweld ag ef.
  • Gwella ansawdd a chynaliadwyedd ein tai
  • Darparu gwasanaeth landlordiaid o ansawdd uchel sy'n gwrando ac yn ymateb i anghenion ein tenantiaid.
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer adfywio ein stadau presennol tra'n datblygu ein stoc dai a gwella'r amgylchedd.
  • Cefnogi pobl i fyw'n annibynnol
  • Parhau i wella ein stoc tai gwarchod (gan gynnwys adeiladu stoc newydd fel tŷ Haverfordia)
  • Gwella hygyrchedd tai trwy ddarparu addasiadau i bobl anabl ar gyfer pob deiliadaeth tai
  • Lleihau ôl troed carbon stoc dai Sir Benfro erbyn 2033
  • Gweithio tuag at ddatgarboneiddio ein stoc dai ein hunain yn ogystal â chefnogi deiliaid tai preifat i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi

 

Mae’r strategaeth dai felly wedi’i gwreiddio'n gadarn yng nghyd-destun dull ystyriol Cyngor Sir Penfro o gyflawni ei nodau llesiant a chyflawni’r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 

Cyflawni Rhaglen Weinyddu 2022–2027

Mae'r Rhaglen Weinyddu yn nodi'r blaenoriaethau cyffredinol ar gyfer canolbwyntio adnoddau dros y cyfnod a gwmpesir gan y strategaeth dai. Mae'r rhaglen wedi'i gosod yng nghyd-destun y pwysau cenedlaethol a lleol y mae Cyngor Sir Penfro yn ei wynebu wrth ddarparu'r gwasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt. Mae’r rhain yn cynnwys cefndir o doriadau hanesyddol a pharhaus mewn cyllid i awdurdodau lleol a chynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau ar draws meysydd allweddol gan gynnwys gofal cymdeithasol a thai lle mae poblogaeth hŷn sy’n tyfu a phrinder tai fforddiadwy yn ddwy enghraifft yn unig o'r pwysau sydd ar adnoddau'r cyngor. Mae hyn yn cyfrannu at amgylchedd heriol i'r cyngor o ran darparu'r gwasanaethau tai strategol a gwasanaethau landlordiaid y mae'n gyfrifol amdanynt. Ar yr un pryd, yn dilyn ymlaen o’r heriau sylweddol a wynebwyd oherwydd pandemig Covid-19, erys pwysau allanol sylweddol sy'n gysylltiedig ag effeithiau chwyddiant cynyddol a’r argyfwng costau byw ynghyd â goblygiadau ymateb i’r pwysau mudo a achosir gan y gwrthdaro yn Wcráin.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r weledigaeth a nodir yn y Rhaglen Weinyddu yn canolbwyntio ar y dyheadau allweddol fel a ganlyn:-

  • Mae Sir Benfro yn lle gwych i fyw,  gweithio, ac ymweld ag ef
  • Mae ein pobl ifanc a’n dysgwyr yn derbyn addysg o ansawdd uchel
  • Mae pobl agored i niwed yn cael gofal a chymorth drwy gydol eu hoes
  • Mae tai priodol ar gael, sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy
  • Mae Sir Benfro yn sir sero net, sy'n arwain y ffordd o ran ynni adnewyddadwy gwyrdd a glas
  • Mae llai o deuluoedd ac aelwydydd yn profi tlodi ac anghydraddoldeb
  • Mae ein cymunedau yn weithgar ac yn ffynnu
  • Rydyn ni'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i genedlaethau'r dyfodol drwy'r pethau rydyn ni'n eu gwneud heddiw

Gan ystyried amlygrwydd yr heriau tai a wynebir yn Sir Benfro, mae'r Rhaglen Weinyddu yn nodi gweledigaeth benodol ar gyfer tai y mae gweledigaeth y strategaeth dai yn seiliedig arni:

Cenhadaeth tai

Byddwn yn flaengar wrth ymdrin â'r heriau tai a wynebwn drwy sicrhau bod gan bobl Sir Benfro fynediad i gartref addas sydd o safon uchel, yn fforddiadwy ac yn gwella ansawdd eu bywyd

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu fframwaith a gweledigaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghymru eu hystyried wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau tai sydd â’r nod o wella llesiant pobl a chymunedau yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn cyfarwyddo cyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, i feddwl mwy am y tymor hir, ymgysylltu â phobl, cymunedau a’i gilydd er mwyn rhagweld ac atal problemau a mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o gynllunio a chyflawni popeth a wnânt.

Uchelgais cyffredinol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yw 'creu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol’. I wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith.

Y nodau llesiant

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang                               

Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus gyhoeddi datganiad wrth osod eu hamcanion llesiant yn egluro sut y bydd pob amcan yn eu helpu i gyflawni’r nodau a sut y mae wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodedig i weithredu ar y cyd a sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus statudol. Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ym mis Ebrill 2016 a’i dasg yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro drwy gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant drwy gyflawni Cynllun Llesiant.

 

Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro

Mae’r Cynllun Llesiant yn nodi sut y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant pobl a chymunedau Sir Benfro, nawr ac yn y dyfodol. Mae gwaith y cyngor wedi'i alinio â'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Llesiant trosfwaol ar gyfer Sir Benfro ac mae'n cyfrannu tuag ato. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ym mis Mai 2023. 

Yn dilyn ei asesiad llesiant a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022, nododd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bedwar amcan llesiant i weithredu fel y fframwaith a ddefnyddir ganddo i flaenoriaethu meysydd ffocws allweddol yn ei gynllun llesiant. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi newid i economi gwyrddach a mwy cynaliadwy
  • Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant
  • Hyrwyddo a chefnogi mentrau i gyflawni datgarboneiddio, rheoli ymaddasu i’r newid hinsawdd a mynd i’r afael â’r argyfwng ym myd natur
  • Sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol

Gweledigaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro yw 'datgloi grym a photensial pobl a chymunedau Sir Benfro fel eu bod yn hapus, yn iach ac yn byw yn dda, bod ein cymunedau’n garedig, yn ddiogel, yn ddyfeisgar ac yn fywiog, bod ein heconomi’n wyrdd ac yn ffynnu, a bod ein hamgylchedd yn cael ei ddiogelu a’i wella’.

Mae tai yn hanfodol i lesiant unigolion a chymunedau ac mae ganddo rôl i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r nodau llesiant a nodir yn y Ddeddf yn ogystal â’r amcanion a sefydlwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro.

 

Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro 2020-2030

Mae’r strategaeth yn cyfuno ein cynlluniau ar gyfer ailddechrau ac adfer yr economi mewn ymateb i bandemig Covid-19 gyda’n dull adnewyddu ac adfywio tymor hwy ac yn amlinellu ein cynlluniau dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd ein llwyfan cyn y pandemig a symud y tu hwnt iddo. Mae'r strategaeth yn amlygu rôl tai wrth gyflawni'r amcanion allweddol gan gynnwys cefnogi adfywio canolfannau trefol ac ymateb i'r twf mewn gweithio gartref.

 Yn bwysig ddigon, rhaid i’r strategaeth hefyd roi sylw i fframweithiau polisi tai cenedlaethol eang ac uchelgeisiol Llywodraeth Cymru. Ar ben hynny, amlinellir yn Atodiad 1 rai o'r fframweithiau deddfwriaethol a pholisi allweddol y mae'r strategaeth dai hefyd wedi'i fframio ynddynt, ac mae ehangder y cysylltiadau hyn yn dangos ystod eang y dylanwadau a'r effeithiau a gaiff tai ar ein cymunedau a'n trigolion.

 

ID: 11639, adolygwyd 07/01/2025