Strategaeth Dai
Atodiad 2
Egluro'r Cefndir – Blaenoriaethau Polisïau Cenedlaethol, Fframweithiau Statudol a Deddfwriaethol
Rhaglen Lywodraethu 2021-2026
Mae diweddariad Rhaglen Lywodraethu (yn agor mewn tab newydd) Llywodraeth Cymru yn ddogfen sy’n amlinellu ymrwymiadau a blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Cyhoeddwyd y ddogfen gyntaf ym mis Mehefin 2021 ac fe'i diweddarwyd ym mis Rhagfyr 2021 i adlewyrchu'r Cytundeb Cydweithio y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru
Mae'r diweddariad yn cwmpasu pedwar prif faes ffocws: iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a sgiliau, yr economi a'r amgylchedd, a chymunedau a diwylliant. Mae’n nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb, yn unol â’i hamcanion llesiant a’r nodau datblygu cynaliadwy.
Mae rhai o’r ymrwymiadau nodedig yn y diweddariad yn cynnwys:
- Adeiladu mwy o dai fforddiadwy, mynd i'r afael â digartrefedd a chryfhau'r iaith Gymraeg a'i diwylliant
- Mae’r diweddariad hefyd yn pwysleisio’r angen am gydweithredu ac integreiddio ar draws pob maes o lywodraeth a chymdeithas, yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y pandemig, Brexit, newid yn yr hinsawdd a thrawsnewid digidol
Deddf Tai (Cymru) 2014
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn nodi deddfwriaeth at ddiben gwella cyflenwad, ansawdd a safonau tai yng Nghymru. Mae’n cynnwys:-
- Rheoleiddio tai rhent preifat, gan ei gwneud yn ofynnol i bob landlord ac asiant gosod eiddo gofrestru a chael trwydded gan awdurdod trwyddedu dynodedig a chydymffurfio â Chod Ymarfer.
- Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu digartrefedd yn eu hardal a datblygu strategaeth i atal digartrefedd.
- Diwygio’r gyfraith ar ddigartrefedd, gan gyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau tai lleol i atal a lleddfu digartrefedd i unrhyw un sy’n gymwys ac o dan fygythiad o ddigartrefedd neu sy’n profi digartrefedd, a chaniatáu iddynt gyflawni eu dyletswydd drwy lety addas yn y sector rhentu preifat.
- Darparu safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gynnal asesiadau o lety sipsiwn a theithwyr a darparu safleoedd lle mae'r angen wedi’i nodi. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru eu gorfodi i wneud hynny os byddant yn methu.
- Safonau ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol, sy’n pennu terfyn amser ar gyfer awdurdodau tai lleol sydd wedi cadw eu stoc i sicrhau bod pob eiddo presennol yn bodloni ac yn cynnal safon ansawdd tai Cymru.
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Mae hwn yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth tai sy'n effeithio ar y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rheoli ei eiddo. Mae’r Ddeddf yn mynd i’r afael â materion allweddol sy’n gysylltiedig â rhentu, rheoli a meddiannu cartrefi ar rent yng Nghymru ac mae’n effeithio nid yn unig landlordiaid preifat ond hefyd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a landlordiaid awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Sir Penfro fel landlord 5,700 o gartrefi sy’n eiddo i’r Cyngor.
Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021
Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yn newid y ffordd y mae landlordiaid a thenantiaid yn rhentu eu heiddo yng Nghymru o 1 Rhagfyr 2022. Mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf yn cynnwys:
- Cynnydd yn y cyfnod rhybudd lleiaf ar gyfer troi allan heb fai o ddau fis i chwe mis o dan gontract safonol cyfnodol neu gymal terfynu’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol
- Cyfyngu ar y defnydd o hysbysiad landlord neu gymal terfynu’r landlord o dan rai amgylchiadau, megis torri rhwymedigaethau statudol, hawliadau meddiant dialgar neu dynnu hysbysiadau blaenorol yn ôl
Deddf Tai 2004
Cyflwynodd y Ddeddf nifer o ddarpariaethau sy’n ymwneud â chyfrifoldebau awdurdodau lleol wrth fynd i’r afael â chyflwr tai yn eu hardal a chyflwynodd rai pwerau i helpu i wella a chynnal safonau gan gynnwys:-
- Darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol barhau i adolygu cyflwr tai yn eu hardal gyda golwg ar nodi unrhyw gamau y gallai fod angen eu cymryd.
- System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai, a ddisodlodd yr hen safon ffitrwydd ar gyfer amodau tai gydag asesiad yn seiliedig ar risg. Gall cynghorau gymryd amrywiaeth o gamau gorfodi i fynd i'r afael â phroblemau a nodwyd.
- Trwyddedu tai amlfeddiannaeth, sy'n ei gwneud yn ofynnol i rai tai amlfeddiannaeth gael eu trwyddedu gan awdurdodau lleol ac sy'n ceisio sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn bodloni safonau gofynnol o ran rheolaeth, diogelwch ac amwynderau.
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd 2018 a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru: Cynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026
Mae Strategaeth Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru yn nodi egwyddorion allweddol sy'n sail i'w hymagwedd at atal digartrefedd. Roedd y cynllun ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddatblygu a chyflwyno Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym erbyn Medi 2022 a chyflawni'r cynllun hwn fel rhan o'i Strategaethau Rhaglen Cymorth Tai.
Mae polisïau cenedlaethol sy’n berthnasol i bolisïau adnewyddu tai yn cynnwys:
Strategaeth Dai Genedlaethol 'Gwella Bywydau a Chymunedau – Cartrefi yng Nghymru
Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd 2010
Targedau lleihau carbon Cymru a'r DU
Cynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017-2020
Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
Nod y Ddeddf hon yw gwella ymateb y sector cyhoeddus yng Nghymru i gam-drin a thrais drwy wella trefniadau i hybu ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'u hatal, ac amddiffyn a chefnogi dioddefwyr. Mae dioddefwyr cam-drin a thrais o'r fath yn grŵp cleient arwyddocaol ar gyfer gwasanaethau tai yn Sir Benfro ac yn un o brif achosion digartrefedd. Mae’r Ddeddf yn pwysleisio’r ffocws ar atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a dulliau o weithio mewn partneriaeth i wneud hynny.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae’r Ddeddf yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth (a’u gofalwyr) i gyflawni canlyniadau llesiant gwell. Mae pobl yn cael dweud eu dweud o ran cymorth y maent yn ei dderbyn a chaiff gwasanaethau eu darparu mewn partneriaeth neu drwy gydweithredu ar draws meysydd gwasanaeth i atal anghenion rhag gwaethygu. Mae’r Ddeddf yn cydnabod yr angen am fwy o wasanaethau ymyrraeth gynnar a chymorth dwys cynhwysfawr. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal a gwella llesiant pobl mewn meysydd fel addysg, hyfforddiant a hamdden, llesiant cymdeithasol ac economaidd a llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru (HSG)
Daeth y grant cymorth tai i rym ym mis Ebrill 2020. Gan ddisodli'r Rhaglen Cefnogi Pobl flaenorol mae'r grant hwn yn dod â thri grant presennol ynghyd; Rhaglen Cefnogi Pobl, Grant Atal Digartrefedd a Gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Mae'r grant wedi'i gynllunio i ariannu gwasanaethau sy'n cefnogi pobl agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth o bosibl er mwyn iddynt barhau i fyw'n annibynnol yn ogystal â chefnogi ystod eang o wasanaethau ymyrraeth gynnar sydd wedi'u cynllunio i atal digartrefedd.
Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr Llywodraeth Cymru (Mehefin 2018) Mae hwn yn disodli Fframwaith 'Teithio at Ddyfodol Gwell' 2014 ac yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnwys y cymunedau hyn yng nghymdeithas Cymru.
Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd sipsiwn a theithwyr newydd. Daeth yr asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr, a’r ddyletswydd i gynnig darpariaeth ar gyfer safleoedd lle mae’r asesiad yn nodi angen, yn ofynion statudol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, tra y bydd grant cyfalaf safle Llywodraeth Cymru yn helpu i fuddsoddi yn safleoedd y cyngor.
Asesiadau o lety sipsiwn a theithwyr
Cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan a.106 o Ddeddf 2014 i gynorthwyo awdurdodau lleol i lunio asesiad cadarn o anghenion llety sipsiwn a theithwyr yn eu hardal. Mae'r asesiad hwn wedi'i gynhyrchu yn unol â'r canllawiau. Rhaid cynnal asesiad newydd o leiaf bob 5 mlynedd. Bydd yr asesiad hwn yn diweddaru canfyddiadau’r asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr a wnaed yn 2015, ac mae’n cael ei gynnal yn 2019 i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer adolygiad o'r cynllun datblygu lleol.
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Arbed Ynni yn y Cartref 1995
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn adeiladu ar Ddeddf Arbed Ynni yn y Cartref 1995 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar eu cynnydd o ran gwella effeithlonrwydd ynni llety preswyl yn eu hardaloedd a nodi mesurau pellach y gellid eu cymryd. Mae'n gosod dyletswydd ar y Llywodraeth i leihau allyriadau carbon, sydd i fod o leiaf 80% erbyn 2050, er bod Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei huchelgais ar gyfer Cymru sero net erbyn 2050.
Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru - Strategaeth Dulliau Modern o Adeiladu ar gyfer Cymru Chwefror 2020
Mae’r strategaeth wedi’i hanelu at landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae’n eu hannog i ddefnyddio dulliau adeiladu modern i adeiladu cartrefi gwell, cyflymach a gwyrddach. Mae’r strategaeth yn agwedd bwysig ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn adeiladu tai cymdeithasol i’w rhentu. Mae’n nodi’r safonau ansawdd a ddisgwylir ar gyfer cartrefi sy’n derbyn cymhorthdal cyhoeddus ac yn cyflwyno dulliau craffu technegol newydd i fonitro dyluniad, perfformiad a gwerth am arian. Mae'r strategaeth hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu datrysiadau dulliau adeiladu modern, gan ffafrio datblygu cadwyni cyflenwi a sgiliau cysylltiedig yng Nghymru.
Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC)
Mae SATC yn safon ansawdd tai a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2002. Ei nod yw sicrhau bod yr holl anheddau tai cymdeithasol o ansawdd da ac yn addas ar gyfer anghenion trigolion y presennol a'r dyfodol. Mae'r SATC yn cwmpasu saith categori: mewn cyflwr da, yn ddiogel, wedi'i wresogi'n ddigonol, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi'i inswleiddio'n dda, yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes, wedi'i reoli'n dda, wedi'i leoli mewn amgylchedd deniadol a diogel. Y dyddiad cau a osodwyd i dai cymdeithasol gyrraedd SATC oedd diwedd Rhagfyr 2020.
Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
Mae'r Ddeddf yn nodi darpariaethau ar gyfer dyfarnu grantiau cyfleusterau anabl gorfodol er mwyn darparu addasiadau i bobl anabl yn eu cartrefi.
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002
Mae’r Gorchymyn yn galluogi awdurdodau lleol i sefydlu eu blaenoriaethau a’u polisïau eu hunain at ddiben cynorthwyo aelwydydd i gynnal ac addasu eu cartrefi i sicrhau eu bod yn ddiogel i fyw ynddynt. Mae’r prif ddarpariaethau’n cynnwys:-
- Disodlir system orfodol o grantiau adnewyddu, grantiau cymorth atgyweirio cartrefi a grantiau rhannau cyffredin â phŵer dewisol i awdurdodau tai lleol ddarparu unrhyw fath o gymorth y maent yn ei ystyried yn briodol at unrhyw ddiben syn ymwneud ag atgyweirio neu wella llety byw
- Diwygio pŵer presennol awdurdodau tai lleol i roi arian ymlaen llaw ar gyfer gwella cartrefi drwy ei ymestyn i gynnwys cychod preswyl a chartrefi mewn parciau, a thrwy ddileu rhai cyfyngiadau ar delerau ac amodau blaensymiau o’r fath
Nod y Gorchymyn yw galluogi awdurdodau tai lleol i fabwysiadu dull mwy strategol a hyblyg o wella cyflwr tai yn eu hardaloedd, a thargedu eu hadnoddau’n fwy effeithiol yn unol ag anghenion a blaenoriaethau lleol.
Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai bob pedair blynedd. Mae'r ddogfen yn nodi cyfeiriad strategol yr awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud â thai a ariennir drwy'r grant cymorth tai ac mae'n darparu un dull strategol ar gyfer gwasanaethau cymorth tai ac atal digartrefedd.
Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai
Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn gynllun rheoli asedau 30 mlynedd a gynhyrchwyd gan awdurdodau lleol sy'n cadw eu stoc dai eu hunain. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol feddu ar Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 30 mlynedd yn unol ag adrannau 87 ac 88 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod Cynlluniau Busnes Cyfrif Refeniw Tai yn cael eu diweddaru'n flynyddol a'u cyflwyno iddynt ar y cyd â'r cais am grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr. Mae Cyngor Sir Penfro yn cadw stoc dai o tua 5,700 o gartrefi ac felly mae'n ofynnol iddo gynhyrchu a diweddaru Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai.
Mae'r Cyfrif Refeniw Tai yn gweithredu o fewn fframwaith rheoleiddio a deddfwriaethol diffiniedig sydd wedi'i ddatblygu a'i fireinio dros nifer o flynyddoedd ac sy'n cael ei gefnogi gan ganllawiau sy'n ymwneud â rheoli cartrefi cyngor a gweinyddu'r Cyfrif Refeniw Tai. Yn bwysig ddigon, mae egwyddorion sefydledig o ran gwasanaethau 'craidd' a 'di-graidd' sy'n diffinio pa gostau y gellir eu codi a pha rai na ellir eu codi ar y Cyfrif Refeniw Tai. At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu nifer o egwyddorion gweithredu allweddol ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai y mae’n disgwyl i awdurdodau tai lleol weithredu oddi mewn iddynt.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae’r Ddeddf hon yn darparu amddiffyniad i bobl y gwahaniaethir yn eu herbyn oherwydd canfyddir bod ganddynt, neu eu bod yn gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig, ac mae’r amddiffyniad yn berthnasol i ddarpariaeth gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus. Yn 2020 cyflwynwyd Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gallant helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol megis penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion.
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Diwygiodd Rheoliadau 2022 adrannau 12A ac 12B o Ddeddf 1992 gan gynyddu swm uwch y dreth gyngor y gall awdurdod bilio (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) yng Nghymru ei gymhwyso i anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol i 300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-2024 ac ar gyfer blynyddoedd dilynol
Mae'r strategaeth dai felly wedi'i fframio o fewn cyd-destun fframwaith cymhleth, deinamig a chynhwysfawr o ddeddfwriaeth, strategaeth a pholisi cenedlaethol. Mae'r fframwaith eang hwn yn darparu ar gyfer dulliau polisi gorfodol a dewisol ar lefel leol ynghyd â gofynion i gwrdd â thargedau a osodwyd yn genedlaethol sy'n gysylltiedig â blaenoriaethau polisi allweddol a osodwyd gan lywodraeth genedlaethol. O ganlyniad, ochr yn ochr â strategaeth dai gyffredinol Sir Benfro, erys gofyniad cysylltiedig i Sir Benfro ddatblygu strategaethau a chynlluniau unigol i fynd i’r afael â meysydd polisi tai penodol yn amrywio o Atal Digartrefedd i Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, o ran cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol ac wrth sicrhau cyllid hanfodol gan y Llywodraeth Genedlaethol. Bydd angen adolygu'r cynlluniau manwl hyn yn rheolaidd nid yn unig i ymateb i newidiadau mewn amgylchiadau lleol ond hefyd i addasu i'r amgylchedd polisi cenedlaethol sy'n datblygu'n barhaus.
Yn yr un modd, wrth ddarparu trosolwg strategol o sefyllfa tai Sir Benfro, mae'r strategaeth dai hon wedi'i gosod dros gyfnod o bum mlynedd i ganiatáu ar gyfer yr amgylchedd deddfwriaethol a pholisi newidiol gyda'r disgwyl y bydd angen cynnal adolygiad blynyddol o gynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu.
Cynlluniau a phartneriaethau rhanbarthol
Y cyd-destun cynllunio ehangach – gweithio rhanbarthol a chydweithredol
Mae'r Strategaeth Gorfforaethol yn eistedd o fewn cyd-destun set ehangach o gynlluniau sydd o bwys yng nghyd-destun y strategaeth dai. Yn benodol, maent yn berthnasol ar gyfer llunio lle, a meysydd polisi megis datblygu economaidd, trafnidiaeth a defnydd tir lle mae angen inni gydweithio ag awdurdodau lleol eraill. De-orllewin Cymru yw'r ôl troed diofyn ar gyfer cyflawni hyn. Mae’r cynllun Cymru gyfan Dyfodol Cymru - Cynllun Cenedlaethol 2040 (sydd ar frig yr hierarchaeth o gynlluniau a ddefnyddir ar gyfer cynllunio defnydd tir) yn cynnwys diagram strategol rhanbarthol sy’n nodi’r cyfleoedd allweddol ar gyfer rhanbarth de-orllewin Cymru.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn bodoli i symleiddio a gwella gwaith cynllunio a chydweithio rhanbarthol ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae Cyngor Sir Penfro yn rhan o'i aelodaeth. Mae wedi cytuno ar ei Gynllun Corfforaethol yn ddiweddar.
Mae’n ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru lunio ystod o gynlluniau eraill fel yr amlinellir isod:
- Cyflawni'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Ranbarthol ar y cyd, a thrwy hynny wella llesiant economaidd (wedi'i ddatgarboneiddio) de-orllewin Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Cynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru sy’n seiliedig ar gydweithio ac sy’n galluogi darparu system drafnidiaeth sy’n dda i’n cenedlaethau o bobl a chymunedau yn y dyfodol, yn dda i’n hamgylchedd, ac yn dda i’n heconomi a’n lleoedd. Mae’r cynllun hwn yn disodli cynlluniau trafnidiaeth lleol a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol gydag adolygiad cynhwysfawr tua 2028.
- Cynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol cadarn, cyflawnadwy, cydgysylltiedig ac unigryw lleol ar gyfer de-orllewin Cymru, sy'n nodi'n glir raddfa a lleoliad twf y dyfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Unwaith y cytunir arno, bydd y cynllun hwn yn eistedd rhwng fframweithiau cynllunio cenedlaethol Cymru gyfan a chynlluniau datblygu lleol y Cyngor Sir/Parc Cenedlaethol. Bydd y broses o'i gymeradwyo yn adlewyrchu proses y cynlluniau datblygu lleol a rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei fabwysiadu erbyn 2030.
Yn ogystal â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, mae cyrff rhanbarthol eraill yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn cydweithio ag awdurdodau cyfagos. Gall y cyrff hyn ddefnyddio olion traed rhanbarthol ychydig yn wahanol.
Gan gwmpasu'r un ardal ddaearyddol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn goruchwylio'r gwaith parhaus o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol; ac yn dod â phartneriaid o lywodraeth leol, y GIG, y trydydd sector a'r sector annibynnol ynghyd â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Ei nod yw trawsnewid gwasanaethau gofal a chymorth yng ngorllewin Cymru gyda’r rhanbarth yn cwmpasu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae wedi cyhoeddi Strategaeth Gyfalaf Gorllewin Cymru yn ddiweddar sy’n cyflwyno golwg 10 mlynedd o’n hanghenion buddsoddi cyfalaf yn y rhanbarth. O fewn y fframwaith hwn y daw'r cyllid o dan y Gronfa Tai â Gofal a’r Gronfa Integreiddio ac Ail-gydbwyso Gofal i ddatblygu tai â chymorth a hybiau iechyd a gofal cymunedol integredig.