Strategaeth Drafnidiaeth
Llandudloch Teithio Llesol a Gwelliannau i Gysylltedd
Diweddariad Tachwedd 2024:
Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn ystod y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 21ain Hydref 2024. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law yn cadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynnig Llandudloch Teithio Llesol a Gwelliannau i Gysylltedd
Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:
- Creu llwybr cyd-ddefnyddio tua 645 metr ar hyd ar hyd y Stryd Fawr, Feidr Fawr a Stryd y Peilot (B4546). Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cerddwyr ynghyd â beicwyr. (Llwybr porffor).
- Creu llwybr cyd-ddefnyddio tua 460 metr sy’n cysylltu troedffordd Feidr Fach â llwybr cyd-ddefnyddio newydd a llwybr pren cantilifrog i Stryd y Peilot. (Llwybr coch)
Gwelliannau Llandudoch Cam 1: canol y pentref a llwybr pren
Gwelliannau Llandudoch Cam 2: llwybrau amgen
Gwelliannau rhwng Llandudoch a thraeth Poppit
Gwelliannau o Landudoch i Draeth Poppit 2
Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?
Mae Llandudoch yn un o'r cyrchfannau twristiaeth mwyaf poblogaidd yn Sir Benfro ymhlith pobl leol ac ymwelwyr sy’n ymweld â Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae pentref Llandudoch wedi tyfu o gwmpas ei lwybrau hanesyddol sy’n golygu bod y ffyrdd yn gul, ac yn aml mae lle yn gyfyng i gerddwyr. Mae parcio yn her, gyda'r rhan fwyaf o drigolion yn parcio ar y stryd neu mewn mannau parcio cyfyngedig drwy'r pentref. Gall hyn arwain at bwysau ychwanegol ar lif traffig gan greu mannau cyfyng yn y rhwydwaith ffyrdd. Mae diffyg seilwaith digonol hefyd yn cyfyngu ar allu cerddwyr i symud ledled y pentref.
Nod y cynnig yw:
- Creu cyswllt teithio llesol diogel rhwng Llandudoch a thraeth Poppit
- Gwella diogelwch ffyrdd i gerddwyr a beicwyr
- Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau gan gynnwys twristiaeth a hamdden
- Lleihau lefelau dibyniaeth ar geir, lleihau ôl troed carbon, llygredd a thagfeydd
- Gwella amgylchedd, iechyd a lles cymdeithasol y gymuned
Ymgynghoriad cyhoeddus
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 21 Hydref 2024, rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a 6.30pm a 8pm yn Neuadd Goffa Llandudoch.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud
Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am bedair wythnos, ac yn cau ar 18 Tachwedd 2024 am hanner nos.
Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn Neuadd y Sir. Bydd gan eich cynghorydd sir lleol gopi o'r cynlluniau hefyd. Gallwch ofyn i gael copi trwy’r post trwy gysylltu â’r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif cyswllt uchod.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir ei benderfynu’n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455.
Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau ar 18 Tachwedd 2024 am hanner nos.