Strategaeth Drafnidiaeth

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau

Beth yw pwrpas y cynllun?

Mae cynllun Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau yn cynnwys gwaith i wella’r orsaf drenau bresennol yn Aberdaugleddau i greu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd. Mae hyn yn gofyn am adleoli’r platfform rheilffordd presennol i ganiatáu ar gyfer darparu cyfnewidfa fysiau newydd, safle tacsis, maes parcio ffurfiol, mannau cyhoeddus, a gwell cysylltiadau teithio llesol. Bydd adleoli’r platfform hefyd yn galluogi gwasanaethau rhyngddinas i Lundain ac oddi yno i ddefnyddio’r orsaf, yn unol ag uchelgais hirdymor y cyngor a Thrafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaethau rheilffordd mwy rheolaidd a gwell cysylltedd i fwy o gyrchfannau.

Beth mae'r cynllun yn mynd i'w gyflawni?

Bydd y gyfnewidfa arfaethedig yn hwyluso integreiddio’r holl ddulliau trafnidiaeth yn well gyda’r nod o wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo trafnidiaeth lesol, gan wella cysylltedd a hygyrchedd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r ardal. Ymhellach, bydd y cyfleusterau o ansawdd uchel a’r gwelliannau i fannau cyhoeddus a gyflwynir fel rhan o’r cynllun hwn yn annog ymwelwyr a thrigolion lleol i fwynhau’r ardal ac ysgogi twf economaidd lleol drwy wneud Aberdaugleddau yn lle bywiog, deniadol a diogel i fod ynddo.

Pam fod angen y cynllun?

Dangosodd cyfrifiad 2021 nad oes gan tua 42% o’r holl gartrefi fynediad i gerbyd neu nad ydynt yn gyrru, sy’n golygu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn symudedd a chysylltedd y sir. Yn benodol, nid yw 15% o'r holl gartrefi yn berchen ar gar neu fan. Bydd y cynllun hwn yn mynd i’r afael â’r angen i wella’r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ac integreiddio a chysylltedd yn Aberdaugleddau a’r cyffiniau er mwyn gwella opsiynau trafnidiaeth i bawb.

Beth yw prif amcanion y cynllun?

  • Darparu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys canolbwynt i fysiau a man codi / gollwng i goetsis sy'n gysylltiedig â'r orsaf
  • Darparu gwell gorsaf reilffordd
  • Gwella amwynderau, cyfleusterau a diogelwch i deithwyr yn yr orsaf
  • Darparu maes parcio newydd gyda chyfleuster gwefru cerbydau trydan / hydrogen a safle tacsis
  • Gwella amgylchedd adeiledig yr orsaf o safbwynt gweledol a thirwedd
  • Gwella hygyrchedd i gyfleusterau trafnidiaeth ac ardaloedd craidd y dref
  • Gwella cysylltedd teithio llesol i'r gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus
  • Creu cysylltiadau mynediad cynaliadwy o fewn a rhwng ardaloedd craidd y dref
  • Diogelu’r rheilffordd at y dyfodol trwy gynyddu defnydd a chefnogi gwell gwasanaeth rheilffordd i Aberdaugleddau (h.y. y gwasanaeth rheilffordd i Lundain)
  • Cysylltu cymunedau lleol
  • Cyfyngu ar swm y difrod amgylcheddol ac allyriadau o ddefnyddio cerbydau preifat, gan greu dull gwyrddach o deithio

Sut bydd y cynllun yn cael ei ariannu?

Mae'r awdurdod hwn wedi cyflwyno adroddiad cynnig o dan y Gronfa Grantiau Cyfalaf Trafnidiaeth Leol i Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026. Mae hyn yn cael arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro o hyd at 11%.

Pryd bydd y gwaith yn dechrau a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i'w gwblhau?

Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Hydref 2025 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Hydref 2026.

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Bydd ein gwefan yn cael ei diweddaru wrth i'r cynllun hwn fynd rhagddo.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i majorschemes@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551

 

ID: 12618, adolygwyd 28/01/2025