Strategaeth Drafnidiaeth

Trafnidiaeth gymunedol seiliedig ar alw a gwasanaethau tacsi yn ne-orllewin Cymru - dweud eich dweud

Mae Metro Rhanbarthol De-orllewin Cymru, ar y cyd â'r ymgynghorwyr WSP, yn cynnal dadansoddiad manwl o wasanaethau bws a thacsi 'ar alw' yn Rhanbarth De-orllewin Cymru (Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).

Nod yr astudiaeth hon yw nodi set o argymhellion ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sydd ar y gweill, er mwyn darparu trafnidiaeth seiliedig ar alw mewn modd mwy integredig a gwell i breswylwyr ac ymwelwyr ac annog gweithredwyr tacsis i barhau i wasanaethu'r ardaloedd mwyaf gwledig, y tu allan i oriau brig. 

Beth yw trafnidiaeth 'ar alw'?

Gellir diffinio trafnidiaeth 'ar alw' fel gwasanaeth hyblyg sy'n caniatáu i deithwyr drefnu eu taith ar amser cyfleus, o fan casglu dynodedig i gyrchfan gollwng o'u dewis. Gall hyn gynnwys gwasanaethau trafnidiaeth seiliedig ar alw a thrafnidiaeth gymunedol, yn ôl y diffiniad canlynol: 

  • Mae trafnidiaeth seiliedig ar alw'n wasanaeth trafnidiaeth a rennir sy'n gweithredu mewn dalgylch penodol. Mae'r gwasanaethau hyn yn addasu eu llwybrau a'u hamserlenni i ymateb i alw teithwyr. Ar hyn o bryd yn y rhanbarth, mae Fflecsi a Dial-a-Ride yn cynnig gwasanaeth o'r fath.
  • Mae trafnidiaeth gymunedol yn fath o drafnidiaeth seiliedig ar alw, ond mae'n cynnig atebion a arweinir yn fwy gan y gymuned. Gall trafnidiaeth gymunedol gynnwys rhannu car, gwasanaethau tacsi yn ogystal â hurio cerbydau a darparu trafnidiaeth seiliedig ar alw.

Sut i ddweud eich dweud

Sesiynau galw heibio

  • Dydd Mawrth 15 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Neuadd Goffa Treletert, Heol yr Orsaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 5RY
  • Dydd Iau 17 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Tafarn y Crymych Arms, Crymych, Sir Benfro SA41 3RJ

Lenwi'r arolwg ar-lein nawr (yn agor mewn tab newydd)

Dyddiad cau: 11.59pm, Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025

ID: 13678, adolygwyd 04/07/2025