Strategaeth Drafnidiaeth
Rhwydwaith Bysiau De-orllewin Cymru
Mae Awdurdodau Lleol yn Ne-orllewin Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn cydweithio i gynnig gwneud gwelliannau i'r rhwydwaith bysiau, wrth baratoi ar gyfer diwygio bysiau yn ehangach.
Rydym am glywed gennych i helpu i fireinio ein rhwydwaith bysiau lleol arfaethedig cyn ei gyflwyno yn 2027.
Diwygio Bysiau
Golyga Masnachfreinio Bysiau y bydd penderfyniadau am wasanaethau bysiau yng Nghymru (gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth) yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig (CJC). Gall gweithredwyr bysiau ymgeisio am gontractau o amryw faint i redeg gwasanaethau i'r manylebau y cytunir arnynt.
Fel rhan o ddiwygio bysiau, bydd awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gweithredwyr bysiau, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru oll yn cydweithio i ddylunio rhwydweithiau a gwasanaethau bysiau gwell a ddarperir yn bennaf trwy fasnachfreinio. Gyda’r cyllid sydd ar gael, byddwn yn blaenoriaethu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau orau. Mae masnachfreinio yn dwyn ynghyd cryfderau gweithredwyr preifat, trefol a chymunedol wrth ddarparu gwasanaethau'n effeithlon o fewn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i chydlynu a’i chynllunio’n effeithiol. Bydd y newid hwn o fudd i bobl Cymru wrth ddarparu ar gyfer anghenion a gwahaniaethau lleol a rhanbarthol.
Arolwg
Bydd yr arolwg ar-lein yn ceisio casglu barn, a fydd yn helpu i fireinio ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig. Fodd bynnag, mae cyfleoedd 'testun rhydd' fel y gellir darparu gwybodaeth am unrhyw beth sy'n bwysig i bobl am fysiau. Bydd yr arolwg yn cynnwys y map rhyngweithiol eto i chi gyfeirio ato.
Lenwi`r arolwg ar-lein nawr (yn agor mewn tab newydd)
Sesiynau galw heibio:
- 21ain Gorffennaf 09:00 - 17:00 HaverHub, Hwlffordd
- 5ed Medi 09:00 - 17:00 HaverHub, Hwlffordd