Strategaeth Drafnidiaeth

Cyllid Sylweddol

Cyllid Sylweddol ar gyfer Priffyrdd a Chludiant

Mae ein Tîm Trafnidiaeth wedi ymrwymo i wneud teithio o amgylch Sir Benfro yn hygyrch, yn ddiogel ac yn hawdd i bob defnyddiwr er mwyn cael budd gwirioneddol o'r hyn sydd gan ein sir hardd i'w chynnig. P'un a yw teithio'n cynnwys cymudo i'r gwaith, siopa, twristiaeth, neu ymweld â ffrindiau a theulu, rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth o ansawdd da sy'n gweithio i bawb. Dyma pam mae eich adborth yn bwysig i ni fel y gallwn gynllunio a chyflawni mewn ffordd gynaliadwy.

Sut mae cynlluniau trafnidiaeth mawr yn cael eu hariannu?

Mae Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am nifer o gynlluniau gwella trafnidiaeth ledled y Sir. Dyrennir cyllid gan Senedd Cymru i helpu i gyflawni'r amcanion trafnidiaeth a nodir ac i fodloni blaenoriaethau a nodwyd yn lleol, gallai hyn gynnwys cynlluniau cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed a gwelliannau trafnidiaeth ac amgylcheddol.

Mae’n rhaid i bob prosiect trafnidiaeth mawr fynd drwy broses WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) lle caiff opsiynau eu trafod a’u hasesu ar sail eu cwmpas, eu budd, eu cost a’u hamser. Yn dilyn hyn, mae achos busnes yn cael ei lunio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru sy’n pwyso a mesur holl agweddau’r cynnig gan sicrhau bod y costau’n unol â buddion y prosiect.  Fel arfer mae angen buddsoddiad o 10% gan Gyngor Sir Penfro mewn arian cyfatebol ar bob prosiect; mewn rhai achosion prin, gall y prosiect cyfan gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Sut alla i ddarganfod mwy?

Cyhoeddir ein cynlluniau parhaus isod:

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Doc Penfro

Cam 6 ULEV a Parc Y Shwt

Cynlluniau Teithio Llesol Saundersfoot

Aberdaugleddau – Llwybr a Rennir Steynton i Studdolph

Dinbych-y-pysgod – The Croft i Orsaf Reilffordd Dinbych-y-pysgod

Porthgain i Baeb

Cysylltwch â ni

Gallwch anfon e-bost at y tîm cynlluniau mawr ar majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

 

 

 

ID: 10839, adolygwyd 14/11/2023