Strategaeth Drafnidiaeth

Gwelliannau Teithio Llesol Arberth

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Prif Themâu (Fe ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Fe ddywedon ni)

Parcio Nid yw’r cynnig yn helpu pobl anabl neu bobl â phroblemau symudedd. Mae angen rhagor o fannau parcio ar y stryd er mwyn imi allu defnyddio fy nghar i siopa.  Gall llwybrau cyd-ddefnyddio helpu pobl anabl i deithio’n annibynnol ar deithiau bob dydd, gweithgareddau hamdden, a chael mynediad i adnoddau cymunedol, gan hybu cynhwysiant cymdeithasol a lleihau unigedd. Mae gan y llwybrau hyn arwyneb da, maent yn ddi-dor, ac wedi’u hamddiffyn rhag traffig moduron. Mae hyn yn eu gwneud yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, gan gynnwys y bobl hynny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, cymhorthion symudedd, neu sydd ag amhariad ar y golwg neu’r clyw. Mae cael digon o fannau parcio ar y stryd yn hanfodol i lawer o bobl, yn enwedig i’r bobl hynny sy’n dibynnu ar eu cerbydau i siopa. Nid yw’r cynnig presennol yn cyflwyno unrhyw fannau parcio ychwanegol yn y dref. Fodd bynnag, pe bai’r cynnig i ddargyfeirio cerbydau nwyddau trwm yn mynd yn ei flaen bydd hwn yn lliniaru’r tagfeydd gan wella hygyrchedd.
Parcio Mae angen mesurau gorfodi parcio ar waith ar gyfer gyrwyr sy’n parcio ar y llinellau melyn dwbl ar waelod St James Street, gan eu bod yn rhwystro cerbydau mawr.  Mae swyddogion gorfodi ar ddyletswydd yn Arberth yn rheolaidd, a chaiff eich pryderon eu hatgyfeirio i’r adran berthnasol i weld a oes angen gwella gorfodi yn yr ardal honno. 
Tagfeydd Bydd y mannau parcio i breswylwyr ar hyd y ffordd yn Nhredemel hefyd yn achosi tagfeydd, ynghyd â’r lefel uchel o draffig ar adegau prysur yn ystod gwyliau.  Gall mannau parcio i breswylwyr achosi mwy o dagfeydd. Yn anffodus, mae hwn yn fater sy’n gyffredin ledled Sir Benfro. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol ynghylch dargyfeirio cerbydau nwyddau trwm yn cynnwys asesiad o reoli traffig.
Tagfeydd Mae nifer gynyddol o dagfeydd yn Arberth, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr. Yn ogystal, mae’r nifer cynyddol o ddatblygiadau tai newydd yn cyfrannu at y cynnydd mewn cerbydau yn y dref. Nid oedd Arberth, tref a gafodd ei hadeiladu gannoedd o flynyddoedd yn ôl, wedi’i chynllunio i ymdopi â nifer y ceir sy’n ei hwynebu heddiw. Mae nifer o gerddwyr yn croesi ar Y Stryd Fawr, gan achosi tagfeydd traffig. Er bod poblogrwydd y dref yn arwydd cadarnhaol o’i hapêl, mae’n cyflwyno heriau sylweddol o ran llif y traffig a chapasiti’r seilwaith, yn enwedig yn ystod cyfnodau brig. Mae’r cyfuniad o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr, a’r datblygiad parhaus o dai, yn rhoi pwysau ychwanegol ar rwydwaith ffyrdd na fwriadwyd erioed i gynnal cymaint o draffig. Mae’n bwysig ein bod yn dechrau archwilio datrysiadau cynaliadwy sy’n cydbwyso anghenion trigolion, busnesau ac ymwelwyr, wrth gadw cymeriad unigryw’r dref.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Byddai’r llwybrau newydd yn gyfleusterau hamdden yn bennaf, yn hytrach na llwybrau cymudo neu lwybrau i blant ysgol. Mae’r tywydd anrhagweladwy a’r ffaith nad yw’r llwybrau yn addas iawn ar gyfer beicio i’r gwaith yn eu gwneud yn anaddas ar gyfer cymudo dyddiol. Mae arolygon wedi’u cynnal yn yr ysgol i hyrwyddo teithio llesol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud dewisiadau cludiant cynaliadwy, boed at ddibenion hamdden neu gymudo. Mae creu amgylchedd diogel a chefnogol yn hollbwysig i annog newid ymddygiad ar gyfer pob defnyddiwr. 
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae’r llwybr troed sy’n dod i mewn i Kiln Park Road yn rhy gul.  Nid yw’r llwybrau troed presennol yn cyrraedd safonau’r Canllawiau Teithio Llesol. Tra byddai’r droedffordd bresennol yn aros, byddai’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig i ffwrdd o’r gerbytffordd ar ochr mewnol y gwrych.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Pe bai llwybr beicio o Princes Gate i Arberth, byddwn i’n cerdded/beicio mwy, ond mae’r ffyrdd yn rhy beryglus i hynny. Mae Arberth eisoes yn dref brysur felly dydw i ddim yn meddwl bod angen inni annog rhagor o feicwyr iddi. Gellid archwilio cynlluniau gwella pellach ar gyfer teithio llesol i annog rhagor o bobl i ddewis dulliau teithio cynaliadwy, megis cerdded, teithio ar olwynion, neu feicio, yn hytrach na gyrru. Byddai’r newid hwn nid yn unig yn hybu ffyrdd iachach o fyw, ond hefyd yn helpu i leihau tagfeydd yn y dref, gan arwain at lai o draffig ac amgylchedd mwy cynaliadwy a hygyrch i bawb.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  A fydd y llwybr aml-ddefnyddwyr hwn yn caniatáu mynediad i bobl yn marchogaeth ceffylau? Bydd, mae llwybr aml-ddefnyddwyr wedi’i gynllunio i ddarparu ar gyfer gwahanol ddulliau o deithio heb fodur, gan gynnwys cerddwyr, teithio ar olwynion, beicwyr a marchogion, gan gynnig lle a rennir ar gyfer teithio llesol. 
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Nid oes llawer o blant yn beicio i’r ysgol, ac mae gan y plant hynny sy’n defnyddio sgwteri ddigon o le eisoes ar y palmant presennol. Mae arolygon wedi’u cynnal yn yr ysgol i hyrwyddo teithio llesol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud dewisiadau cludiant cynaliadwy, mae creu amgylchedd diogel a chefnogol yn allweddol i annog newid ymddygiad ymhlith disgyblion a rhieni. Er y gallai fod gan y llwybr presennol ddigon o le ar gyfer sgwteri a beiciau, byddai ei ddynodi’n llwybr cyd-ddefnyddio swyddogol yn caniatáu beicio yn gyfreithlon. Byddai’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon yn cynnig cyfarwyddyd cliriach i ddefnyddwyr, gan sicrhau bod beicwyr a cherddwyr yn gallu defnyddio’r llwybr mewn ffordd fwy diogel ac effeithlon.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  O ran llwybr aml-ddefnyddwyr Arberth i Hwlffordd, a ydych chi wedi ystyried dynodi rhannau’r llwybr sydd ar y ffordd yn lonydd tawel yn unol â rheol 218 o Reolau’r Ffordd Fawr? Mae rhannau llwybr arfaethedig y llwybr aml-ddefnyddwyr sydd ar ffordd Hwlffordd yn cael eu hasesu ar hyn o bryd i weld a ydynt yn bodloni’r dynodiad ar gyfer lonydd tawel (rheol 218 o Reolau’r Ffordd Fawr). Mae Sustrans yn cynnal yr asesiad hwn ar ran yr awdurdod ar hyn o bryd. 
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Byddai mynd ar drywydd tirfeddianwyr Parc Slebets i ganiatáu i’w ffordd fynediad gael ei defnyddio fel llwybr beicio yn ffordd dda o wahanu traffig beicio o’r A40 rhwng Pont Canaston. (Sylwer bod eisoes ganddynt lwybr troed a ganiateir sy’n mynd ar hyd rhan o’r ffordd fynediad hon.) Fy nghynnig i yw cysylltu’r llwybr ceffylau presennol rhwng Parc Slebets a Melin Blackpool (sy’n drac graean gwastad a llydan) â’r rhodfa hon yng nghyfeirnod grid OS SN 032141 (ger hen eglwys Slebets). Bydd y llwybr beicio newydd yn mynd ar hyd y rhodfa darmac hyd nes iddo adael yr ystad yng nghyfeirnod grid OS SN 016144. Gallai’r llwybr wedyn ddilyn y ffyrdd dosbarth C i Hwlffordd drwy’r Rhos, Creamston gan fynd i mewn i Hwlffordd yn y pen draw ar hyd Heol Uzmaston. Y gost gychwynnol fwyaf fydd y gost neu’r telerau sy’n ymwneud â defnyddio’r rhodfa. Rydym wedi cynnal trafodaethau ag Ystad Slebets ac ar hyn o bryd, nid oes ganddynt ddiddordeb mewn sefydlu llwybr aml-ddefnyddwyr drwy eu hystad. Rydym wedi sicrhau’r defnydd o dir ger Coedwig Canaston sy’n rhan o eiddo Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi cytuno y gall y cynllun ddefnyddio’r llwybrau torri a thrin coed ar gyfer y llwybr aml-ddefnyddwyr.  Bydd rhan fer o’r llwybr yn mynd ar hyd ymyl ffordd yr A40, ac mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i hyn. Yna mae’r llwybr yn ymuno’n ôl â’r ffyrdd dosbarth C trwy’r Rhos a Creamston i Hwlffordd.  
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Nid yw’r palmant gorllewinol ar Kiln Park Road “yn gul, ac yn aml, â gormod o lystyfiant”. Mae’n ardderchog a bu trigolion yn brwydro amdano ers degawdau, ac mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan drigolion a chan bobl sy’n cerdded ’triongl’ Kiln Park Road, Heol yr Orsaf a Heol Jesse wrth wneud ymarfer corff. Ni fydd yr un o’r bobl hyn am rannu’r palmant hwn â beicwyr. Nid yw’r cynnig yn ymwneud â rhannu’r llwybr troed presennol â beicwyr, ond yn hytrach darparu llwybr cyd-ddefnyddio arall sy’n cysylltu â’r orsaf reilffordd a Heol Jesse. Nid oes unrhyw fwriad i gael gwared ar y llwybr troed presennol.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Rwy’n meddwl bod digon o lwybrau beicio o amgylch Arberth a thu hwnt y gellid eu gwella, ond mae’r mwyafrif ohonynt yn iawn yn barod. Fodd bynnag, rydw i o blaid gwella hygyrchedd i bobl ag anghenion symudedd. Rydw i’n amau y bydd llawer o bobl am feicio o Arberth i Hwlffordd ac yn ôl pan fydd modd gwneud hynny’n llawer cyflymach mewn car neu ar fws. Bydd y gwelliannau hyn yn annog ychydig mwy o feicwyr, ond dim digon i gyfiawnhau’r gwaith sy’n cael ei wneud. Efallai nad buddion teithio llesol yw’r opsiwn cyflymaf bob amser, ond mae annog newid i gerdded, teithio ar olwynion a beicio yn un o’r ffyrdd mwyaf costeffeithiol o leihau allyriadau trafnidiaeth, lleihau tagfeydd, a lleihau llygredd aer a sŵn. Byddai’r llwybr aml-ddefnyddwyr hefyd yn darparu rhywfaint o seilwaith ychwanegol y mae mawr ei angen ar gyfer marchogion. Er mwyn asesu effaith y mentrau hyn, byddai gwaith monitro’n cael ei wneud ar ôl eu cwblhau er mwyn casglu data am nifer y defnyddwyr, gan helpu i lywio gwelliannau yn y dyfodol a sicrhau llwyddiant y cynllun.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Byddai gosod y llwybr troed newydd y tu ôl i’r gwrych yn golygu na fyddai trigolion Kiln Park Road yn gallu cael mynediad iddo. Ble byddai disgwyl iddynt ymuno ag ef? Byddai angen pwyntiau mynediad rheolaidd gyferbyn â phob tŷ ar y ffordd, fel y gallent gael mynediad diogel iddo. Byddai lleoliadau’r pwyntiau mynediad i’r llwybr cyd-ddefnyddio yn cael eu pennu’n fanwl wrth ddylunio’r llwybr. Fodd bynnag, mae’n gyffredin cael pwyntiau mynediad ar naill ben y llwybr a’r llall, ac un pwynt mynediad yn y canol i’r mwyafrif o bobl ddefnyddio’r pwynt agosaf. Ni fyddem yn darparu mynedfa benodol i bob eiddo preswyl.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae’r ffyrdd o amgylch Arberth eisoes yn llawn beicwyr, loncwyr ac ati. Mae pobl wedi ymdopi heb y llwybrau hyn, a byddant yn parhau i ymdopi hebddynt. Nod creu llwybr cyd-ddefnyddio a llwybr aml-ddefnyddwyr yw darparu llwybrau diogel i gyrchfannau allweddol, gan sicrhau bod gan bobl opsiynau teithio cyfleus a hygyrch. Mae’r fenter hon yn galluogi unigolion i deithio’n fwy diogel a chynaliadwy, gan gynnig dewis amgen mwy gwyrdd yn lle trafnidiaeth draddodiadol.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae’r llwybrau troed presennol yn ddigonol, nid oes angen eu troi’n llwybrau cyd-ddefnyddio.  Yn gyffredinol, ni chaniateir beicio ar lwybrau troed; byddai ei ddynodi’n llwybr cyd-ddefnyddio yn swyddogol yn caniatáu beicio yn gyfreithlon. Byddai’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon yn cynnig cyfarwyddyd cliriach i ddefnyddwyr, gan sicrhau bod beicwyr a cherddwyr yn gallu defnyddio’r llwybr mewn ffordd fwy diogel ac effeithlon.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Nid oes llawer o feicwyr yn defnyddio Kiln Park Road.  Pe bai llwybr cyd-ddefnyddio diogel ar waith, gallai annog rhagor o bobl i feicio yn yr ardal. Ar hyn o bryd, nid oes darpariaeth ar gyfer beicio oddi ar y lôn gerbydau, ac mae’n bosibl bod hyn yn atal unigolion rhag dewis beicio fel opsiwn ymarferol.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae ’troedffordd ysbeidiol’ ar ochr ddwyreiniol Kiln Park Road, ac mae’r rhan fwyaf o’r tir y cyfeirir ato yn y cynnig hwn yn eiddo preifat y perchnogion tai. Er ei fod yn ymddangos yn dir cyhoeddus, mae’r tir y tu mewn i ffiniau cyfreithiol eu heiddo, felly dim ond darn bach iawn o balmant sy’n bodoli gyferbyn â’r safle bws ger y troad i gyfeiriad yr orsaf. Felly, mae’r unig balmant addas ar ochr orllewinol Kiln Park Road.  Nid oes unrhyw fwriad i wneud unrhyw waith ar ochr ddwyreiniol Kiln Park Road. Bwriedir gwneud y gwaith ar yr ochr orllewinol, y tu ôl i’r gwrych.
Cerddwyr Peidiwch â gwneud y ffyrdd o amgylch Arberth yn fwy cul a hyrwyddo gwaith sy’n canolbwyntio ar gerddwyr. Defnyddir ffyrdd ar gyfer busnes a theithio, ac ni ddylid eu hisraddio i ganiatáu prosiectau sy’n cael eu cyfiawnhau drwy “deithio llesol”, cyrraedd targedau “sero net” neu “ddiogelwch”. Nid oes unrhyw fwriad i gulhau’r ffyrdd o amgylch Arberth fel rhan o’r cynnig hwn. Mae’r gwelliannau ar hyd Heol Jesse wedi darparu llwybrau cerdded ychwanegol, ac wedi ailalinio’r lôn gerbydau, heb gulhau’r lôn gerbydau sy’n parhau i gael ei defnyddio.  
Cerddwyr Rwy’n defnyddio’r llwybrau cerdded presennol bob dydd efallai y gellid gwella’r system ddraenio a’r goleuadau. Nodwyd, gellir ymchwilio i’r mater hwn. 
Cerddwyr Mae maes parcio Townsmoor yn beryglus iawn i gerddwyr ar hyn o bryd, yn enwedig ar ddiwrnodau prysur. Mae angen llwybr diogel pwrpasol arno. Gellir ymchwilio i osod llwybr cerddwyr ar gyfer maes parcio Townsmoor. Byddwn yn atgyfeirio’r mater hwn i’r tîm priodol.
Cerddwyr Hoffwn gael rhagor o lwybrau troed cefn gwlad yn ardal Princes Gate/Tafarn-sbeit. Mae’r ffordd eisoes yn rhy beryglus i gerdded arni oherwydd y cerbydau nwyddau trwm / tractorau, ac felly byddai ychwanegu mwy o drafnidiaeth at yr ardal hon yn fwy peryglus fyth. Byddai’n wych cael llwybr troed sy’n cysylltu â’r rhwydwaith llwybrau troed presennol er mwyn galluogi’r bobl hynny sy’n byw rhwng Princes Gate a Thafarn-sbeit i gerdded i Arberth. I ni, mae gallu cyrraedd ein tref leol, sef Arberth, yn llawer mwy buddiol na llwybr beiciau i Hwlffordd. Nodwyd, gellir ymchwilio i hyn fel cynllun ar wahân yn y dyfodol yn amodol ar gyllid. 
Cerddwyr Fel preswylydd oedrannus sydd wedi ymddeol yn Kiln Park Road, rydw i’n bryderus iawn ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd i’r llwybr troed presennol rydw i’n ei ddefnyddio’n rheolaidd. Sut fydda i’n cael mynediad i lwybr y tu ôl i’r gwrych? Mae’r llwybr troed yn angenrheidiol er mwyn cerdded i mewn i’r dref ac i gael mynediad i’r safle bws (ar gyfer bysiau gwasanaeth a bysiau ysgol) a’r orsaf reilffordd. Gall cuddio’r llwybr beiciau/ llwybr troed o’r golwg y tu ôl i’r gwrych fod yn niweidiol i ddiogelwch a hyder y defnyddwyr. Byddai lleoliadau’r pwyntiau mynediad i’r llwybr cyd-ddefnyddio yn cael eu pennu’n fanwl wrth ddylunio’r llwybr. Fodd bynnag, mae’n gyffredin cael pwyntiau mynediad ar naill ben y llwybr a’r llall, ac un pwynt mynediad yn y canol i’r mwyafrif o bobl ddefnyddio’r pwynt agosaf. Mae gwahanu’r llwybr oddi wrth y lôn gerbydau byw yn galluogi beicwyr sy’n llai hyderus i gael lle diogel i feicio. 
Cerddwyr Os bydd y llwybr troed yn cael ei dynnu, bydd angen i blant gerdded ar hyd y ffordd (sy’n rhan o ffordd dargyfeirio cerbydau nwyddau trwm) i ddal eu bws ysgol. Mae hyn yn gwbl anniogel, a dyna oedd un o’r rhesymau pam y gosodwyd y llwybr troed ar hyd y ffordd hon yn y lle cyntaf. Os yw am gael ei osod ar ochr arall y gwrych yn lle, sut bydd cerddwyr yn cael mynediad ato heb gerdded ar hyd y ffordd fawr?  Nid oes unrhyw fwriad i gael gwared ar y llwybr troed presennol, ond i ddarparu llwybr cyd-ddefnyddio ychwanegol ar ochr fewnol y gwrych presennol.  Byddai lleoliadau’r pwyntiau mynediad i’r llwybr cyd-ddefnyddio yn cael eu pennu’n fanwl wrth ddylunio’r llwybr. Fodd bynnag, mae’n gyffredin cael pwyntiau mynediad ar naill ben y llwybr a’r llall, ac un pwynt mynediad yn y canol i’r mwyafrif o bobl ddefnyddio’r pwynt agosaf. Mae gwahanu’r llwybr oddi wrth y lôn gerbydau byw yn galluogi beicwyr sy’n llai hyderus i gael lle diogel i feicio. 
Cerddwyr Os bydd Kiln Park Road yn cael ei lledu, yna bydd rhaid cadw llwybr troed gweladwy iawn. Bydd cerddwyr mewn perygl os ydynt yn cael eu cuddio y tu ôl i wrych. Os bydd y ffordd yn cael ei lledu, yna bydd rhaid cael gwared ar y gwrych. Mae plant a phobl ifanc, a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn defnyddio’r llwybr hwnnw i fynd yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, yr orsaf, y parc ac ati, a rhaid peidio â’u cuddio y tu ôl i wrych, yn enwedig yn y tywyllwch, neu gyda’r nos. Yn aml, mae llwybrau cyd-ddefnyddio wedi’u lleoli y tu ôl i wrychoedd presennol â phwyntiau mynediad sy’n weladwy i ddefnyddwyr y ffordd trwy arwyddion a goleuadau digonol (os oes angen). Mae hyn wedi’i wneud mewn ardaloedd eraill yn Sir Benfro heb unrhyw ddigwyddiadau ac yn unol â chanllawiau teithio llesol a chanllawiau diogelwch ar y ffyrdd.
Cerddwyr A fydd y llwybr troed presennol ar ochr orllewinol Kiln Park Road (ochr ddwyreiniol y grwych), a hefyd y gwrych ei hun, yn cael eu cadw? Y bwriad yw cadw’r llwybr troed presennol, y gwrych presennol a gosod llwybr cyd-ddefnyddio newydd ar ochr fewnol y gwrych presennol.
Cerddwyr Ar hyn o bryd nid oes croesfan sebra er mwyn sicrhau bod plant sy’n cerdded i’r ysgol, neu gerddwyr sy’n cyrraedd o’r orsaf drenau, yn gallu croesi’r ffordd yn ddiogel. Dylid ystyried hyn cyn cynyddu traffig ar Kiln Park Road. Nid yw dyluniadau terfynol wedi’u llunio eto. Pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo byddwn yn edrych i weld pa gynlluniau rheoli traffig ychwanegol y mae eu hangen er mwyn sicrhau diogelwch cerddwyr wrth groesi Kiln Park Road.
Heol Jesse (Cwblhawyd)

Mae lledu llwybrau troed, a gosod llwybrau troed ychwanegol, wedi achosi i ffyrdd gael eu culhau gan eu gwneud yn fwy peryglus. Yn enwedig llwybr troed dynodedig newydd ar hyd gorsaf betrol Eastgate lle mae ceir yn mynd i mewn ac allan yn gyson. Os bwriedir gosod llwybrau troed newydd, neu ledu’r rhai presennol, ni ddylid culhau ffyrdd i wneud hyn, yn enwedig pan fo cerbydau yn ymddangos fel petaent yn mynd yn fwy. Nid yw llawer o’r pentrefi hanesyddol yn Sir Benfro wedi’u cynllunio ar gyfer nifer y cerbydau, na maint y cerbydau, heddiw. Mae’r gwelliannau i’r rhwydwaith teithio llesol yn Arberth yn cefnogi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r hierarchaeth drafnidiaeth sy’n rhoi blaenoriaeth i gerddwyr, olwynwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw’r cynigion yn bwriadu culhau’r lôn gerbydau bresennol o amgylch Arberth, ond yn hytrach yn darparu seilwaith ychwanegol i annog pobl i ddewis eu dull teithio.
Heol Jesse (Cwblhawyd) Mae’r gylchfan yn erchyll, mae’n rhwystro traffig os rhywbeth. Os ydych chi’n teithio o Princes Gate i Benblewin ar hyd Kiln Park Road ac mae tractor â threlar, er enghraifft, neu lori yn gyrru o gwmpas y gylchfan honno mae’n hunllef llwyr. Mae hi bron â bod yn anochel y bydd cerbyd yn rowlio rhyw ddydd oherwydd y tro erchyll o sydyn. Rydw i fy hun wedi gyrru ar draws y gylchfan pan fydd y ffordd yn glir oherwydd mae’n llawer mwy diogel gwneud hynny. Mae’r gylchfan wedi’i gosod i arafu’r traffig sy’n dynesu at Arberth ac, yn arbennig, sy’n agos at yr ysgol.  Mae modd i gerbydau mwy symud drwy’r rhwystrau ar y cyflymder priodol. Mae adran 188 o Reolau’r Ffordd Fawr yn nodi bod yn rhaid i bob cerbyd fynd o amgylch y marciau canolog wrth ddynesu at gylchfannau (neu fân gylchfannau) a mynd o’u hamgylch, oni bai eu bod yn rhy fawr i wneud hynny. 
Heol Jesse (Cwblhawyd) Mae pobl yn dal i barcio ar y ffordd a’r palmant oherwydd diffyg mannau parcio yn yr ysgol. Gellir trafod hyn â’r ysgol, a bydd ein tîm gorfodi parcio yn cael eu hysbysu.
Heol Jesse (Cwblhawyd) Dylai Heol Jesse fod yn ffordd ar gyfer un car yn unig â llinellau melyn dwbl i atal ceir rhag parcio yno! Byddai hyn gymaint yn fwy diogel i blant sy’n cerdded i’r ysgol ac adref. Wedi’i nodi a’i hatgyfeirio i’n hadran traffig. 
Trafnidiaeth gyhoeddus  Dylech ddarparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, rhagor o drenau/bysiau sy’n rhedeg yn hwyrach yn y dydd, datblygu’r llwybrau presennol yn hytrach nag adeiladu rhagor. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft wedi’i baratoi gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru (CBC), corff sydd newydd ei sefydlu ar gyfer llywodraeth leol yn y rhanbarth. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu rheolaeth strategol a’r gwelliant i’r rhwydwaith trafnidiaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y cyfnod 2025 i 2030. Ar y cyd â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio a masnachfreinio bysiau sydd ar y gweill, y nod yw gwella pa mor aml mae’r bysiau yn rhedeg, ehangu’r ardal sy’n cael ei gwasanaethu, a gwella cysylltedd pob dull trafnidiaeth gyhoeddus.
Traffig Yr hyn sydd ei angen arnom yw arwyddion ar gyfer cerddwyr a mesurau i reoli cyflymder, yn enwedig ar Kiln Park Road, lle nad yw traffig yn mynd yn arafach na 30 mya yn aml, ac, yn eithaf rheolaidd, yn teithio mwy na 40 mya. Mae angen rhagor o arwyddion 20 mya a gorfodi. Wedi’i nodi a’i hatgyfeirio i’n hadran traffig. 
Traffig Fel perchennog busnes sy’n contractio offer amaethyddol yn lleol, mae’r gwaith diweddar hwn wedi culhau’r lôn gerbydau ac wedi’i gwneud yn anoddach i gerbydau mawr ei llywio. Mae’r addasiad i’r cwrbyn i’r gorllewin o garej Eastgate yn berygl amlwg i gerbydau modur, a bydd yn achosi damwain. Mae’r rhan o’r lôn gerbydau sydd wedi’i chulhau ger garej Eastgate tua 40 metr o hyd. Mae digon o welededd i gerbydau allu gweld traffig a cherddwyr sy’n dod tuag atynt yn yr ardal hon, ac mae’n cydymffurfio â chanllawiau. Mae’n ddyletswydd ar yrwyr cerbydau o bob maint i gymryd gofal wrth lywio mannau cul o’r lôn gerbydau, ar ba bynnag ffordd yn Sir Benfro.
Traffig Mae’r ffordd drwy Cold Blow yn ffordd 20 mya, mae’r mwyafrif o’r cerbydau’n teithio llawer yn gyflymach na hyn (gan gynnwys bysiau, loriau gwastraff a faniau priffyrdd). Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw fonitro cyflymder yn y pentref. Wedi’i nodi a’i hatgyfeirio i’n hadran traffig. 
Traffig Mae’n dda gweld dechreuad, ond mae angen inni gydgysylltu pob ardal i ddarparu opsiynau teithio heblaw ceir. Nid oes palmentydd ar y ffyrdd hanesyddol yn ein hardal, ac mae angen inni ystyried sut y gallwn ddarparu llwybrau diogel i gerddwyr yn yr ardaloedd hyn. Efallai mai un syniad fyddai ehangu’r system unffordd gan ganiatáu i rai ffyrdd ddod yn ffyrdd unffordd i gerbydau modur a chreu mwy o le ar gyfer arwynebau a rennir. Gallai cynllun Arberth, a’i llu o ffyrdd cysylltu, fod yn addas ar gyfer hyn. Mae Arberth yn un o’r aneddiadau dynodedig yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, ac mae wedi mynd drwy sawl cam allweddol i wella’r seilwaith ar gyfer cerdded, olwynio a beicio.  Mae’r system unffordd yn y dref yn cyflwyno ei phroblemau ei hun, ond trwy annog rhagor o bobl i ddefnyddio dulliau teithio amgen ar gyfer teithiau byr, bydd tagfeydd a llif traffig yn lleihau. Mae cynllun posibl i ddargyfeirio traffig trwodd, a cherbydau nwyddau trwm, nad ydynt yn aros yn Arberth ar hyd llwybrau gwahanol hefyd yn cael ei ystyried.
Traffig A fyddech chi’n ystyried gosod twmpathau cyflymder ar hyd Kiln Park Road i arafu cerbydau nwyddau trwm? Nid yw manylion unrhyw gynllun terfynol wedi’u cwblhau eto. Fodd bynnag, bydd unrhyw fesurau rheoli traffig y mae eu hangen i reoli cyflymder a chynnal diogelwch ffyrdd yn cael eu hystyried yn ystod y cyfnod dylunio. 
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Bydd cynllun i wyro cerbydau nwyddau trwm o ganol y dref yn cael ei groesawu, ond ni fydd yn datrys y problemau traffig. Mae’r problemau yn codi pan fydd cerbydau sy’n agosáu at y system unffordd yn Stryd y Farchnad a Heol Jesse yn methu hidlo’n gywir, gan arwain at dagfeydd yn ystod cyfnodau o gryn draffig twristiaid. Pe bai’r system unffordd yn un gylchfan fawr, i bob pwrpas, lle mae’r holl draffig sy’n dod i mewn yn gorfod ildio i’r dde (fel sydd eisoes yn wir yn Heol Moorfield), yna yn lle’r tagfeydd presennol byddai traffig trwm yn arwain at giwiau i ymuno â system unffordd sy’n llifo’n barhaus, yn hytrach na’r tagfeydd sy’n digwydd ar hyn o bryd, sy’n anfantais i holl ddefnyddwyr y ffordd. Mae nifer o gerbydau yn teithio drwy Arberth heb aros yn y dref. Byddai’r llwybr gwyro cerbydau nwyddau trwm hefyd yn annog traffig trwodd i ddefnyddio’r ffordd amgen, gan leihau nifer y cerbydau sy’n mynd trwy’r dref a thagfeydd. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol ynghylch gwyro cerbydau nwyddau trwm yn cynnwys asesiad o reoli traffig.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Yn ddiweddar, mae Gan Bwyll Cymru wedi dynodi Kiln Park Road fel y ffordd gyflymaf yn Arberth. Dylai fod yn ffordd 20 mya, ond mae wedi dod yn llwybr byr i osgoi tagfeydd. Nid oes bron unrhyw yrwyr yn cadw at 20 mya. Ychydig iawn o yrrwyr sy’n cadw at 30 mya neu 40 mya, ac mae llawer o yrwyr yn gyrru yn gyflymach na hynny. Felly byddai angen camera cyflymder sefydlog, ac mae’n debyg tri man croesi a reolir, gan ei bod yn ffordd hir lle mae llawer o drigolion oedrannus a/neu blant yn byw. Nid yw manylion unrhyw gynllun terfynol wedi’u cwblhau eto. Fodd bynnag, bydd unrhyw fesurau rheoli traffig y mae eu hangen i reoli cyflymder a chynnal diogelwch ffyrdd yn cael eu hystyried yn ystod y cyfnod dylunio. 
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Byddai angen uwchraddio’r llwybrau awgrymedig yn sylweddol i allu darparu ar gyfer y traffig. Mae’r groesffordd groesgam wrth ymyl ’Canaston Bowl’ gynt eisoes wedi profi nifer o ddamweiniau, felly byddai angen gwella hyn. Byddai angen gwelliannau hefyd i’r ffordd o’r Eglwys Lwyd i Dredemel. Ar hyn o bryd mae pont reilffordd nad yw’n addas ar y llwybr porffor. Nodwyd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Mae’r gylchfan fach newydd yng nghornel Kiln Park Road wedi dinistrio cymeriad y dref. Mae’r gylchfan wedi’i gosod i arafu’r traffig sy’n dynesu at Arberth ac, yn arbennig, sy’n agos at yr ysgol. Mae’r seilwaith rheoli traffig yn ddigon pell o ganol y dref fel nad yw’n cael unrhyw effaith ar gymeriad y dref.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Os bydd y ffordd yn cael ei chulhau bydd yn beryglus.  Bydd y ffordd yn cael ei dylunio yn unol â safonau’r Llawlyfr Strydoedd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Nid ydym yn siŵr bod y ffyrdd ar y llwybr yn addas ar gyfer cerbydau nwyddau trwm. Mae’r llwybrau arfaethedig yn rhy gul, ac nid ydynt yn addas.  Nodwyd bod angen gwneud gwaith pellach ar y cynllun, gan gynnwys gwaith i wella llif y traffig a dylunio rhagarweiniol. Bwriad yr ymgynghoriad cyhoeddus oedd casglu barn y cyhoedd i weld a fyddai’r gwyriad cerbydau nwyddau trwm yn cael ei gefnogi mewn egwyddor gan drigolion.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Mae gan Princes Gate a Cold Blow ffyrdd a chroesffyrdd sy’n gul iawn, lle mae tai yn agos at y ffordd, a gallai’r rhain gael eu difrodi gan gerbydau nwyddau trwm. A ellid ystyried y ffyrdd lletach tuag at Canaston a Bluestone? Nodwyd, byddwn yn ystyried hyn i gyd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Yn Cold Blow mae dau bwynt ar y ffordd sydd â chylch troi cul iawn, ac mae’n rhaid i gerbydau nwyddau trwm fynd dros lôn y traffig sy’n dod tuag atoch wrth fynd o amgylch tro. Y pwyntiau hyn yw Pont Princes Gate a’r tro / cyffordd yn Cold Blow. Byddai dadansoddiad o symudiadau cerbydau yn cael ei gynnal i asesu symudiad cerbydau trwy ofod penodol, gan sicrhau y gall dyluniadau ddarparu ar gyfer anghenion cerbydau wrth symud, yn enwedig wrth droi. 
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Byddai’r llwybr cerbydau nwyddau trwm arfaethedig yn dod â mwy o gerbydau a cherbydau trymach ar hyd ffyrdd y mae angen i ddefnyddwyr y llwybr cyd-ddefnyddio, neu ddefnyddwyr y llwybrau ceffyl presennol eu croesi mewn sawl lleoliad. Er mwyn gwella diogelwch, mae’n bosibl y gellid gwneud y croesfannau hyn yn fwy diogel trwy osod croesfannau ‘Pegasws’. Nid yw’r dyluniadau terfynol ar gyfer y cynllun cerbydau nwyddau trwm arfaethedig wedi’u cwblhau eto. Byddai unrhyw ofyniad am groesfannau ychwanegol, a’r rhai a allai gynnwys croesfan Pegasws gael eu hystyried.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Mae gwaith gwella yn mynd rhagddo ar ffordd yr A40, sy’n ddrud iawn. Y gwyriad traffig amlycaf i’r de o Arberth ddylai fod, ar gyfer traffig sy’n dod o’r dwyrain ar ffordd yr A40 ac o’r gogledd ar ffordd yr A478, i’w llwybro o Benblewin i Bont Canaston, ac oddi yno i’r de i Cross Hands, yna i Dredemel ar gyfer traffig sy’n teithio i Ddinbych-y-pysgod ac i Gaeriw ar gyfer unrhyw draffig i Benfro / Doc Penfro. Byddai hyn yn osgoi ardaloedd adeiledig Kiln Park Road, Princes Gate, Cold Blow a’r rhan fwyaf o Dredemel. Nodwyd, byddwn yn ystyried hyn i gyd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Bydd y cynllun i wyro cerbydau nwyddau trwm i Princes Gate yn creu mwy o draffig ar ffordd sy’n gynyddol brysur. Bydd ffordd lle mae’r cerbydau mawr hyn ochr yn ochr â beicwyr yn beryglus iawn. Mae’r ffordd hefyd yn cael ei defnyddio gan ffermwyr lleol sydd angen croesi eu gwartheg yn ddiogel. Mae’r ffordd eisoes yn beryglus iawn ar gyfer y gofyniad hwn, felly byddai ychwanegu’r cerbydau hyn yn ei gwneud yn fwy peryglus byth. Mae’r cyflymder y mae cerbydau’n teithio ar y ffordd hon ar hyn o bryd, gan anwybyddu cyfyngiadau cyflymder ac amodau’r ffyrdd, yn frawychus. Nid yw’r ffyrdd hyn yn addas ar gyfer cerbydau trwm.  Mae’r llwybrau arfaethedig eisoes yn cael eu defnyddio gan gerbydau nwyddau trwm sy’n gysylltiedig â Princes Gate a’r chwarel leol. Mae gwaith ychwanegol i’w wneud ar y cynnig o ran llwybro, gwaith lliniaru (unrhyw welliannau y mae eu hangen), dichonoldeb a dyluniadau rhagarweiniol. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Nid yw’r opsiwn ar gyfer Lôn Tanners yn gynnig da. Er bod yr opsiwn arall yn cynnig buddion mawr i ganol tref Arberth, nid yw’n dda ar gyfer cydlyniant Cold Blow a Thredemel, oherwydd byddai rhagor o gerbydau nwyddau trwm yn defnyddio’r llwybr hwn sy’n mynd heibio’r ysgol, ac i mewn i’r gyffordd ar riw Tredemel. Mae angen ehangu’r cynnig hwn i gynnwys mynediad gwell i’r llwybr beiciau ar hyd ymyl ffordd yr A478 fel llwybr diogel ar gyfer y defnyddwyr ffyrdd bregus hyn – byddai hyn yn gynnig mwy buddiol i wella’r rhwydwaith teithio llesol. Nodwyd, byddwn yn ystyried hyn i gyd.
Cyffredinol Mae Arberth yn dref wledig, ac mae’n cael ei throi’n dref ar ffurf maestref i gymudwyr. Mae’r cynigion yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru i annog teithio llesol. Yn ôl data Cyfrifiad 2021, mae’r mwyafrif o’r trigolion naill ai’n gweithio gartref neu’n cymudo i Hwlffordd, Llanusyllt (Saundersfoot) neu Sanclêr. Mae’r dyluniadau yn cyd-fynd â gwelliannau eraill a wnaed mewn nifer o bentrefi a threfi ledled Cymru.
Cyffredinol Mae maes chwarae Ysgol Tredemel ar bwys y ffordd, ac ni fydd mygdarth ceir ychwanegol yn dda i’r plant. Ar ben hyn, mae cyflymder y cerbydau nwyddau trwm sy’n mynd trwy’r pentrefi, a’r sŵn maent yn cynhyrchu, yn beryglus ac yn aflonyddgar. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar allu rhieni i gael mynediad i’r ysgol yn ddiogel, ac yn beryglus i blant sy’n aros i groesi’r ffordd.  Er nad yw’r cynigion wedi’u dylunio eto, bydd angen cynnal arolygon traffig i bennu lefelau presennol y traffig, a lefelau posibl y cerbydau nwyddau trwm a fydd yn mynd trwy’r ardal. Pe bai’r opsiwn llwybro terfynol yn mynd trwy Dredemel, byddai angen ystyried cynnal asesiad o’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar yr ysgol fel rhan o’r penderfyniad hwnnw.
Cyffredinol Bydd y cynnydd mewn traffig trwm yn achosi allyriadau i’r ardal wledig, ac ni fydd y lefelau sŵn uwch yn dderbyniol. Mae Princes Gate, Cold Blow a Thredemel yn ardaloedd gwledig adeiledig, lle mae teuluoedd yn byw sy’n mwynhau gallu cerdded ar hyd y ffordd gyda phlant a chŵn. Pe bai’r cerbydau mawr hyn yn cael eu gwyro i’r ardal hon ni fyddai hyn yn bosibl rhagor. Er nad yw’r cynigion wedi’u dylunio eto, bydd angen cynnal arolygon traffig i bennu lefelau presennol y traffig, a lefelau posibl y cerbydau nwyddau trwm a fydd yn mynd trwy’r ardal. Pe bai’r opsiwn llwybro terfynol yn mynd trwy Dredemel, byddai angen ystyried cynnal asesiad o’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar lefel sŵn yr ardal fel rhan o’r penderfyniad hwnnw.
Cyffredinol Bydd gormod o oleuadau yn amharu ar fywyd gwyllt ac ati. A fydd gwrych newydd yn cael ei blannu fel a welir yn y llun?  Bydd y lefelau o olau yn cael eu hystyried yn ystod y cam dylunio manwl. Bydd asesiad ecolegol hefyd yn cael ei gynnal os bydd y cynllun yn mynd rhagddo. 
Cyffredinol Mae’r llwybr o Townsmoor wedi gordyfu llawer, a fydd costau torri’r llystyfiant yn cael eu ystyried yn y cynllun? Mae’n ofynnol i bob cais am gyllid yn y dyfodol gynnwys y costau ar gyfer gwaith cynnal a chadw fel rhan o’r broses gynnig.
Cyffredinol Mae mannau parcio yn brin iawn yn Arberth yn barod, felly byddai angen sicrhau na fyddai unrhyw fannau parcio yn cael eu dileu wrth osod storfa beiciau. Ni fwriedir gosod storfa beiciau lle mae mannau parcio. 
Cyffredinol Mae’r llwybr o Townmoor i lawr lôn Carding Mill yn gyfleuster gwych. Fodd bynnag, mae bellach wedi gordyfu gan wrychoedd a llystyfiant arall sy’n tyfu o’r naill ochr a’r llall. A oes unrhyw arian ar gael i’w gynnal? Byddwn yn trosglwyddo’r mater hwn i’r tîm perthnasol. Fodd bynnag, mae pob cynnig yn y dyfodol yn cynnwys digon o arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw fel rhan o’r broses cynnig.
Cyffredinol Ble byddai’r cyfleusterau ar gyfer storio beiciau ychwanegol yn cael eu gosod? Nid yw hyn wedi’i benderfynu eto.

 

 Tachwedd 2024

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

 

Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Gwelliannau i'r rhwydwaith teithio llesol presennol yn y dref. Mae teithio llesol yn ffordd o deithio sy'n cynnwys gweithgarwch corfforol, fel cerdded, beicio a theithio ar olwynion.
  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio 412 metr o hyd ar hyd Kiln Park Road. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer symudiadau cerddwyr a beicwyr.
  • Gweithredu dargyfeiriad ar gyfer cerbydau nwyddau trwm i osgoi canol y dref, fel y gellir cynnal cyflenwadau lleol a bydd tagfeydd yn lleddfu.
  • Creu llwybr aml-ddefnyddwyr 6.5 milltir (10 km) o hyd rhwng Arberth a Hwlffordd. Mae llwybr aml-ddefnyddwyr yn llwybr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mathau lluosog o ddefnyddwyr megis cerddwyr, beicwyr a marchogion.
  • Cael adborth ar y gwaith sydd wedi'i wneud ar Jesse Road i ddarparu gwell mynediad i gerddwyr/beicwyr i'r ysgol gynradd ac oddi yno.

Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Byddai’r llwybr arfaethedig yn helpu i gwblhau’r cyswllt rhwng Arberth a Hwlffordd (sy’n terfynu ar hyn o bryd ym Melin Blackpool) ar hyd llwybr â graddiant cymedrol i’r de o’r A40.  Ar hyn o bryd, mae'n cysylltu â chanol Arberth ar hyd llwybr ceffyl presennol a bydd yn cysylltu â chanol Hwlffordd gyda chysylltiad uniongyrchol â Llwybr Pedwar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (y Llwybr Celtaidd). Yn ogystal, mae gwaith diweddar gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru ar hyd yr A40 wedi creu darpariaeth llwybr cyd-ddefnyddio sy’n cysylltu Llanddewi Felffre â Redstone Cross.

Nod y cynigion yw:

  • Darparu mynediad uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng Arberth a Hwlffordd
  • Gwella diogelwch y rhwydwaith teithio llesol
  • Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau, gan gynnwys twristiaeth, hamdden, ysgol a gwaith
  • Creu amgylchedd mwy diogel i feicwyr a cherddwyr
  • Lleihau tagfeydd yng nghanol y dref

Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn ceisio eich adborth ar y dyluniadau arfaethedig o ran y system unffordd a'r llwybr defnydd a rennir. 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 26 Medi 2024, rhwng 10:00 – 12:00, 13:00 – 16:00, a 18:30 – 20:00 yn Canolfannau Ddysgu Gymunedol . 

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn mynychu’r sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud  

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am chwe wythnos, a bydd yn dod i ben ar 7fed Tachwedd 2024.

Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael Neuadd y Sir. Bydd y fersiwn argraffedig, a'r arolygon papur, yn aros yn eu lle tan 7fed Tachwedd, pan fyddan nhw’n cael eu casglu. Mae copïau drwy'r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â'r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu'r rhif cyswllt uchod (a welir ym mhennyn y llythyr hwn). 

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir hwn ei benderfynu'n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol. 

Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld ar ein gwefan a Neuadd y Sir.

Gwelliannau teithio llesol Arberth - Jesse Rd

Llwybr amlddefnyddwyr Arberth i Hwlffordd

Kiln Park Road Y llwybr cyd ddefnyddio ar llwybr ar gyfer cerbydau nwyddau trwm

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01437 764551. 

Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau am hanner nos ar 7fed Tachwedd 2024. Diolch am roi o’ch amser i gwblhau'r arolwg hwn.

ID: 12039, adolygwyd 23/04/2025