Strategaeth Drafnidiaeth

Gwelliannau Teithio Llesol Dinbych-y-pysgod a Phenalun

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm. 

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Themâu Allweddol (Fe ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Fe ddywedon ni)

Parcio Ni all Dinbych-y-pysgod fforddio colli unrhyw leoedd parcio neu leihau lled y ffyrdd. Nid oes unrhyw fwriad i gulhau’r ffyrdd o gwmpas Dinbych-y-pysgod yn y cynllun arfaethedig hwn. Mae’r gwelliannau ar hyd Marsh Road wedi darparu troedffordd ychwanegol ac wedi ailalinio’r lôn gerbydau. Rydym yn cydnabod y pryderon ynghylch parcio a lled y ffyrdd. Mae ein tîm peirianneg yn ystyried y ffactorau hyn yn ofalus wrth ddatblygu unrhyw brosiect priffyrdd er mwyn sicrhau bod yr holl effeithiau’n cael eu hasesu’n llawn. Ein nod yw cadw’r lefelau parcio presennol a lled y lôn gerbydau. Mewn llawer o achosion, cynyddir cyfleusterau parcio fel rhan o ddatblygiadau gwella. Nod gwaith uwchraddio teithio llesol yw gwella darpariaethau ar gyfer defnyddwyr priffyrdd mwy agored i niwed, gan flaenoriaethu eu diogelwch a hygyrchedd.
Llwybr cyd-ddefnyddio Byddai cyswllt rhwng Marsh Road a’r Clicketts o fudd, yn enwedig i bobl leol. Rwyf rhwng dau feddwl am gysylltu Heywood Lane a’r Clicketts, yn bennaf oherwydd y dyluniad a’r swyddogaeth. Nid wyf yn siŵr ychwaith faint o ddefnydd a fyddai iddo ac a fyddai problemau diogelwch ffyrdd ychwanegol yn codi yn ei sgil. Nod gwelliannau teithio llesol yw rhoi opsiwn i ddefnyddwyr ddewis pa ddull teithio y mae’n well ganddynt ei ddefnyddio ar gyfer eu taith. Datblygir y gwelliannau yn unol â safonau dylunio priffyrdd a chanllawiau teithio llesol i leihau unrhyw wrthdaro posibl.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae llwybr beicio presennol rhif 4 yn mynd trwy Kiln Park, sydd ddim yn ddelfrydol. Mae’r fynedfa i’r llwybr y tu ôl i orsaf betrol Garej Gulf yn aml wedi’i rhwystro’n llwyr gan garafannau sefydlog newydd sy’n aros i gael eu lleoli. Hefyd, mae llawer o blant bach yn chwarae ar sgwteri a byrddau sgrialu yn yr ardal hon yn mwynhau eu gwyliau. Mae llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn defnyddio’r llwybr presennol drwy Kiln Park er mwyn symud defnyddwyr o’r rhwydwaith priffyrdd prysurach (A4139) lle nad oes unrhyw gyfleusterau ar hyn o bryd. Gallwn gysylltu â’r rheolwyr yn Kiln Park o ran cadw mynediad ac osgoi rhwystrau. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae angen digon o groesfannau i alluogi’r rhai â symudedd cyfyngedig i gael mynediad heb fynd i unrhyw gostau ychwanegol nac amharu ar bobl leol. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ddeddfwriaeth teithio llesol. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i ddarparu gwelliannau parhaus i’r seilwaith teithio llesol presennol ac yn y dyfodol. Daw cyllid yn uniongyrchol o’r arian ar gyfer teithio llesol; ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eraill. Ni ragwelir unrhyw gost i drigolion lleol. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Byddai pobl â phroblemau symudedd mewn perygl gan feicwyr. Mae troi llwybrau troed yn llwybrau amlddefnydd yn cynyddu’r peryglon i’r ifanc a hefyd yr henoed. Asesir problemau symudedd yn ystod datblygiad a dyluniad y cynllun. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio fel arfer yn 3m o led neu hyd at 4.5m ar gyfer nifer fwy o gerddwyr/beicwyr.  Disgwylir i bob defnyddiwr ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd ac at ddefnyddwyr eraill.
Llwybr cyd-ddefnyddio Nid wyf yn cytuno â rhoi llwybr teithio llesol drwy ystâd dai. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn chwarae rhan bwysig o ran darparu llwybr hygyrch i bobl gerdded, teithio ar olwynion a beicio ar gyfer llawer o wahanol ddibenion teithiau. Mae hygyrchedd mewn cymdogaethau lleol yn allweddol, a lle gellir defnyddio llwybrau tawelach, megis ffyrdd preswyl oherwydd llai o draffig a chyflymder; rhoddir ystyriaeth iddynt.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae rhan o’r llwybr beiciau arfaethedig yn cynnwys rhiw y Glebe gerllaw St Johns Hill. Ar sawl achlysur dros y blynyddoedd rwyf wedi gorfod cynorthwyo pobl sy’n defnyddio sgwter symudedd i fynd i fyny’r bryn na allant ymdopi â’r graddiant 13% a mwy i’r lethr. Nid yw hon yn daith gerdded hawdd. Pan fydd beicwyr yn defnyddio’r bryn maen nhw’n teithio o ochr i ochr i wneud y bryn yn llai serth, mae hyn yn ei gwneud hi’n amhosib cerdded i fyny neu i lawr yr allt ar yr un pryd. Er bod graddiant yn cael ei ystyried yn y dyluniad, mae canllawiau teithio llesol yn caniatáu gwyriadau lleol oddi wrth safonau yn seiliedig ar ddaearyddiaeth leol.  Wedi dweud hynny, lle bo modd, mae llwybr arall y gellir ei ystyried y gellir ymchwilio iddo.  Ar hyn o bryd rydym hefyd yn ystyried St John’s Hill trwy Rectory Court i Merlin’s Court, fel dewis arall.
Beicio Dylai llwybrau beicio fod ar brif ffyrdd nid trwy stadau tai ar balmentydd yn union o flaen cartrefi, a dim ond pan fydd digon o le.  Cynllunnir llwybrau cyd-ddefnyddio i ddod o hyd i lwybrau mwy diogel i gerddwyr, olwynwyr a beicwyr i ffwrdd o lif traffig trwm. Gall hyn weithiau gynnwys ffyrdd preswyl, lonydd gwledig a lonydd tawel. Er mwyn beicio drwy ardaloedd gwledig a threfi mae angen cysylltiadau er mwyn pontio rhwng y ddau; dylai teithio llesol fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u lleoliad. Yn aml mae ardaloedd preswyl yn cael eu hystyried fel cyswllt teithio llesol sy’n galluogi defnyddwyr i gael mynediad i’r cyfleuster yn uniongyrchol ac yn hyderus, gan arwain defnyddwyr o garreg eu drws ar lwybr cyfforddus a hawdd ei ddefnyddio.
Cerddwyr Nid oes unrhyw gynigion i gysylltu New Hedges ag ysgolion Dinbych-y-pysgod ar hyd y brif ffordd. Sut ydyn ni i fod i gerdded ein plant i’r ysgol?  Mae angen llwybr troed diogel a digon llydan rhwng New Hedges ac ysgol Heywood Lane. Mewn ychydig flynyddoedd bydd fy mhlant yn mynychu Bro Preseli ar fws ac nid oes llwybr troed diogel iddynt gael mynediad i’r safle bws ar Heol Arberth. Mae’n siomedig nad yw hyn wedi cael ei ystyried, yn enwedig gyda datblygiad tai Bryn Hir ar y gweill. Mae cyswllt troedffordd rhwng New Hedges a Chartref Nyrsio Park House wedi’i godi’n flaenorol ac wedi’i ymgorffori mewn rhan o gais cynllunio cyfredol i ddarparu’r cyswllt hwn.  Byddai’r cynigion presennol yn darparu llwybr tawelach, i ffwrdd o lif traffig, ar hyd Slippery Back a fyddai’n cysylltu â’r Glebe, St John’s Hill ac ymlaen i Heywood Lane. Y tu hwnt i gartref nyrsio Park House, mae troedffordd yn cysylltu â rhiw Serpentine eisoes, pe byddech chi’n dewis cerdded y llwybr hwnnw.  O fewn cais cynllunio Brin Hir mae gofyniad hefyd i ddarparu cyd-ddefnyddio sy’n cysylltu â llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a man croesi ar yr A487 i hwyluso croesi diogel.
Cerddwyr Gallai’r newidiadau yn The Croft a Gas Lane fod yn ddefnyddiol, ond mae anghenion The Green yn ymddangos yn isel iawn. Mae angen llwybr i mewn i’r dref ar hyd y Norton gan fod llawer o bobl yn cerdded y ffordd honno yn ôl ac ymlaen i’r feddygfa a’r ysbyty. Nid yw swm y traffig ar hyd y Norton a’r seilwaith presennol yn addas ar gyfer defnyddio’r llwybr hwn ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio. O’r herwydd, gwrthodwyd y llwybr hwn rhag ystyriaeth bellach.
Cerddwyr Mae diffyg palmentydd o amgylch y ganolfan hamdden sy’n boblogaidd iawn. Mae troedffordd presennol ar hyd yr A4139 o flaen y ganolfan hamdden. Mae’r cynigion presennol yn cynnwys darparu llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd y Clicketts, Heywood Lane a Marsh Road i hwyluso teithio llesol.
Trafnidiaeth gyhoeddus Mae trosglwyddo’r llwybr bws o ganol y pentref i’r ffordd osgoi yn gwella diogelwch cerddwyr y pentref (dim llwybrau troed) a llygredd aer. Nodwyd.
Trafnidiaeth gyhoeddus Bydd pobl â phroblemau symudedd yn cael anhawster hygyrchedd mewn cysylltiad ag unrhyw beth yn Ninbych-y-pysgod. Pe bai gwasanaeth bws tref, rwy’n meddwl y byddai hynny’n gwella hygyrchedd yn gyffredinol ac yn cysylltu â’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Mae’r broses o ddiwygio bysiau a masnachfreinio sydd ar ddod ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r anghenion am well gwasanaeth, amlder a chysylltedd yn rhanbarth y de-orllewin. Gellir ystyried bws tref Dinbych-y-pysgod o fewn y cynllun hwn. 
Traffig Bydd gostwng y terfyn cyflymder i 30mya ar gyfer rhan y ffordd osgoi ger gorsaf rheilffordd Penalun yn gwella diogelwch cerddwyr. Wedi’i nodi a’i drosglwyddo i’n tîm traffig. 
Traffig Byddai’r Croft i’r Green yn troi St John’s Hill yn ôl yn system draffig ddwy ffordd nad oedd erioed wedi gweithio o’r blaen ac a gafodd ei newid oherwydd ei fod mor beryglus. Mae gwelliant y llwybr cyd-ddefnyddio yn berthnasol i lif traffig cerdded, olwynio a beicio a fyddai’n ddwyffordd. Nid yw’r cynigion yn ceisio newid y llif traffig cerbydau unffordd.
Traffig Ni ddylai beicwyr sy’n teithio ar gyflymder o 30mya a mwy gymysgu â cherddwyr. Y terfyn cyflymder yw 20mya, nid yw ceir yn cadw ato ac yn sicr ni fydd beicwyr. Disgwylir i feicwyr gadw at reolau’r ffordd fawr ac ymddwyn yn barchus wrth gymysgu â cherbydau eraill. Mae’r un peth yn wir am gerbydau; gyrru’r terfyn cyflymder a chadw at yr 20mya yw’r gyfraith.
Traffig Yn aml does dim digon o le ar balmentydd Dinbych-y-pysgod, a phrin yw’r mesurau ffordd effeithiol i ymdopi â gormod o geir, e.e. cyflymderau o 30mya a mwy yn yr 20mya, ffyrdd dosbarthu fel ffordd Arberth a’r Norton. Mae natur hanesyddol Dinbych-y-pysgod, fel lleoliadau eraill yn Sir Benfro, yn cyfyngu ar y seilwaith presennol a gwelliannau pellach. Mae poblogaeth Dinbych-y-pysgod gydag ymwelwyr yn cynyddu llif traffig yn ystod y tymor gwyliau. Bydd angen mynd i’r afael â hyn drwy ddulliau eraill, megis gwell cyfleusterau bysiau, gwell cysylltiadau rheilffordd, gwell cysylltiadau teithio llesol er mwyn lleihau nifer y cerbydau a lleihau tagfeydd.
Slippery Back Mae’n anodd iawn asesu a ddylid gwario symiau mawr o arian cyhoeddus pan nad oes unrhyw arwydd o lefel yr angen. Ar hyn o bryd, pan fyddaf yn cerdded fy nghi i fyny Slippery Back, anaml y byddaf yn pasio unrhyw un arall. Yn naturiol gyda’r datblygiad tai newydd mae’n debygol y bydd mwy o bobl yn cerdded ar hyd y llwybr. Mae’r llwybr arfaethedig ar hyd Slippery Back yn darparu cysylltiad o New Hedges i Ddinbych-y-pysgod, i ffwrdd o draffig yr A478. Mae’r llwybr yn boblogaidd gyda llawer o drigolion ac ymwelwyr yn yr ardal a gallai ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio i alluogi’r rhai yn yr ardal i deithio ar droed, ar olwynion neu ar feic.
Slippery Back Rwy’n defnyddio Slippery Back i fynd i’r fynwent weithiau ac rwyf bob amser wedi cerdded o amgylch y lonydd gan gynnwys Blind Mans Lane i fynd â fy nghŵn am dro. A fydd hi wir yn bosibl prynu tir preifat i newid y llwybr? Mae trafodaethau â thirfeddianwyr ar y gweill; bydd yr opsiwn dewis llwybr terfynol yn dibynnu ar a yw trafodaeth tir trydydd parti yn llwyddiannus.  O ganlyniad, rydym wedi datblygu opsiynau i’w hystyried.
O’r Glebe i’r Green Bydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith fawr ar lawer o drigolion ar y Glebe gan fod galw mawr am leoedd parcio, nid yn unig i drigolion ond i nofwyr ben bore sy’n ymweld â’r traeth.  Mae plant lleol yn defnyddio’r ffordd fynediad gul i gyrraedd y maes chwarae, a bydd cynyddu’r traffig ar hyd y lôn gul hon yn debygol o arwain at ddamweiniau.  Mae lefelau parcio ar y stryd i’w cadw fel y maent ar hyn o bryd. Roedd yr opsiwn cychwynnol a ddatblygwyd yn ystyried na fyddai lleoliad mynediad pob dreif ar gael ar gyfer parcio ar y stryd oherwydd y byddai’n atal mynediad, felly ystyrir ar hyn o bryd mai ychydig iawn o effaith a gaiff datblygu’r cysylltiad teithio llesol ar hyd y rhan hon o’r briffordd. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i dawelu traffig o fewn y trefniant a ddatblygwyd i fynd i’r afael â chyflymder traffig a gwrthdaro â phlant yn chwarae. 
O’r Glebe i’r Green Bydd y llwybr yn cael gwared ar barcio perchnogion tai ar adeg pan fo parcio yn flaenoriaeth yn y Glebe. Bydd hefyd yn beryglus i blant chwarae y tu allan i’w cartrefi os cyflwynir llwybr beicio mewn stad breswyl. Nid oes unrhyw gynigion i gael gwared ar barcio perchnogion tai, mae’r parcio ar y stryd i’w gadw fel y mae. Byddai mân adlinio’r troedffordd gyferbyn â’r llwybr cyd-ddefnyddio posibl yn unol â gofynion lled safonol teithio llesol, a diwygio’r lôn gerbydau i led sy’n addas ar gyfer stad o dai. Gellid gosod arwyddion addas yn gofyn i feicwyr ddod oddi ar y beic mewn mannau prysur lle mae plant yn chwarae.
O’r Glebe i’r Green Er y gallai’r bwriad y tu ôl i gyflwyno lonydd beicio a llwybrau hygyrch fod i hyrwyddo dewisiadau trafnidiaeth gwyrddach ac iachach, mae ardal benodol y Glebe, yn awgrymu y gallai ymyriad o’r fath amharu ar gydbwysedd bregus gofod cymunedol, diogelwch, a breintiau hanesyddol preswylwyr. Mae angen ymagwedd drylwyr, gyfranogol ar unrhyw newidiadau o’r fath sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid i sicrhau nad yw’r datrysiad yn y pen draw yn fwy niweidiol na buddiol. Mae’r cynigion presennol mewn dyluniad rhagarweiniol, a bydd yr holl sylwadau’n cael eu hystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniad pellach ar y rhan hon o’r llwybr. Gwerthfawrogwn bwysigrwydd cadw cymeriad a swyddogaeth cymunedau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd o arwyddocâd hanesyddol ac anghenion preswylwyr hirsefydlog.Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol drwy gydol y broses i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn sensitif i gyd-destun unigryw’r ardal. Mae cynnal gofod cymunedol, sicrhau diogelwch, a pharchu mynediad ac amwynderau preswylwyr yn flaenoriaethau allweddol yn y broses ddylunio ac ymgynghori.
O’r Glebe i’r Green Mae’r llwybr drwy y Glebe yn ymddangos yn ddiangen a bydd yn disodli’r ddarpariaeth parcio presennol i drigolion heb unrhyw ddewis arall yn cael ei gynnig. Mae’r lôn gerllaw’r dafarn yn hynod o serth ac yn cyfyngu’n fawr ar yr opsiynau i’r rhai ag anghenion symudedd. Mae’r modd o ddarparu’r opsiynau hynny felly yn dod yn ddrud iawn. Llwybr Merlin’s Court yw’r opsiwn gorau amlwg ac mae’n ategu llwybrau meysydd parcio Slippery Back a Thraeth y Gogledd. Efallai y bydd yn gwella mynediad i leoliad gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ond mae’r gwasanaethau gwirioneddol a ddarperir yn drafodaeth lawer mwy. Er bod graddiant yn cael ei ystyried yn y dyluniad, mae canllawiau teithio llesol yn caniatáu gwyriadau lleol oddi wrth safonau yn seiliedig ar ddaearyddiaeth leol.  Wedi dweud hynny, lle bo modd, os oes llwybr arall y gellid ei ystyried, byddwn yn ymchwilio i’r opsiwn hwn.  Ar hyn o bryd rydym hefyd yn ystyried St John’s Hill trwy Rectory Court i Merlin’s Court, fel dewis arall.
O’r Glebe i’r Green Mae llawer o ddeiliaid tai ar hyd y rhan o’r stad yr effeithir arni wedi cael gwneud addasiadau i flaen eu tai er mwyn hwyluso mynedfeydd a cherbydau hygyrch, nid yw’n ymddangos bod y cynigion yn adlewyrchu hyn. Yn y cyfamser, mae’r gwaith adeiladu llwybr teithio i’w weld yn cynnwys lledu un ochr i’r palmant i fodloni gofynion y llwybr, culhau’r ochr arall a thrwy hynny greu bwlch rhwng yr heol a’r hen balmant. Mae’r heol wedi’i hadeiladu a’i gorffen mewn concrit, felly byddai’n her defnyddio deunyddiau boddhaol. Yn olaf, mae’n ymddangos bod y defnydd arfaethedig o’r llethr sy’n mynd i lawr o’r ystâd i St John’s Hill yn cynyddu’r risg o wrthdrawiadau rhwng cerddwyr a beiciau.  Mae lefelau parcio ar y stryd i’w cadw fel y maent ar hyn o bryd, roedd yr opsiwn cychwynnol a ddatblygwyd yn ystyried na fyddai lleoliad mynediad pob dreif ar gael ar gyfer parcio ar y stryd oherwydd y byddai’n atal mynediad. Byddai mân adlinio’r troedffordd gyferbyn â’r llwybr cyd-ddefnyddio posibl yn unol â gofynion lled safonol teithio llesol, a diwygio’r lôn gerbydau i led sy’n addas ar gyfer stad o dai. Nodir y sylwadau ynghylch adeiladu ffyrdd concrit ac mae’r peirianwyr eisoes yn deall ac yn ystyried y ffactorau hyn. Rydym yn deall bod y posibilrwydd o wrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr yn ystyriaeth bwysig, yn enwedig mewn ardaloedd â thirwedd amrywiol.Fel rhan o’r broses ddylunio, mae ein tîm peirianneg yn asesu’r gosodiad a’r risgiau posibl yn ofalus i sicrhau diogelwch yr holl ddefnyddwyr, maent yn gwerthuso dyluniad y llethr yn ofalus i archwilio atebion a all liniaru unrhyw risgiau, megis arwyddion priodol clir.
Amrywiol Rwy’n chwilfrydig ynghylch pa asesiad o ‘angen’ sydd wedi’i wneud yn yr ardal leol? A gynhaliwyd astudiaethau dichonoldeb? Os felly, ble gellir gweld y canlyniadau? Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn elfenneu’r astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol a gynhaliwyd yn 2023, a’r arolygon traffig a gynhaliwyd yn 2024. Bydd canlyniadau arolwg yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan maes o law. 
Amrywiol Mae’r cynnig hwn yn gwbl groes i bolisi’r cyngor o beidio â gwario’n ddiangen oherwydd trafferthion ariannol. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ddeddfwriaeth teithio llesol. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i ddarparu gwelliannau parhaus i’r seilwaith teithio llesol presennol ac yn y dyfodol. Daw’r cyllid yn uniongyrchol o’r Gronfa Teithio Llesol, a reolir gan Lywodraeth Cymru, ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw feysydd eraill (fel tai, addysg na phriffyrdd). 
Amrywiol Nid oes angen gwelliannau hygyrchedd ychwanegol i unigolion ag anableddau ar y llwybrau a awgrymir, gan fod y llwybrau hyn yn aml yn serth ac nid ydynt yn darparu ar gyfer y rhai â chyfyngiadau symudedd.  Nid oes dyluniad manwl wedi’i wneud eto; bydd y dyluniad terfynol yn ystyried a oes angen unrhyw welliannau hygyrchedd ychwanegol. Mae ein swyddog hygyrchedd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau dylunio rhagarweiniol a byddwn yn parhau i ymgynghori ag ef drwy gydol y broses o ddylunio’r cynllun.
Amrywiol Bydd budd i ambell un ag anghenion symudedd, ond nid i bawb. Mae gan bob un ohonynt lethrau serth a gallent fod yn broblem diogelwch hyd yn oed i feicwyr abl eu cyrff, yn enwedig yn ystod tywydd gwlyb a phan fo dail yn gorchuddio arwynebau. Gyda’r sefyllfa ariannol bresennol, mae’r cyngor yn brwydro i gadw heolydd/llwybrau yn glir o ddail. Nid yw hyn yn feirniadaeth ar y gwasanaethau; dyna realiti’r sefyllfa. Heb wybod y costau gweithredu mae’n anodd dweud a wyf yn llwyr gefnogi’r newidiadau arfaethedig. Fodd bynnag, rwy’n hoffi ac yn cefnogi’r cysyniad o gyflwyno llwybrau teithio llesol. Sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio all fod yn anodd. Nodwyd.  Mae pob cynllun wedi’i ddylunio gan gadw canllawiau teithio llesol mewn golwg i fodloni meini prawf. Lle mae’n anodd cyflawni llwybrau teithio llesol lle mae llethrau â graddiannau, mae llwybrau eraill wedi’u hystyried. Lle nad oes dewis arallbynnir gwyriad oddi wrth y safon o fewn amrywiadau lleol.
Amrywiol Nid oes gofyn am yr un ohonynt yn fy marn i. Byddent yn cael eu defnyddio’n bennaf gan ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf, ac rwy’n meddwl y dylai’r ychydig arian a gawn gan Lywodraeth Cymru fod o fudd i bobl leol. Weithiau hoffwn pe baech yn gofyn i breswylwyr beth sydd ei angen arnynt. Mae’r broses ymgynghori cyhoeddus yn ymwneud â chael adborth gan drigolion lleol mewn perthynas â chynlluniau posibl yn y dyfodol. Ni ellir gwario arian a neilltuwyd ar gyfer teithio llesol ar feysydd eraill (fel tai, addysg neu briffyrdd) a phe na baem yn gwneud cais am y cyllid, byddai’n cael ei wario mewn awdurdodau lleol eraill. Mae adborth gan drigolion yn bwysig wrth benderfynu a yw cynlluniau’n symud ymlaen ac a oes angen ystyried dewisiadau eraill wrth ddylunio, llunio llwybrau a/neu leoliad.

 

 

Diweddariad Tachwedd 2024:

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn ystod y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar Hydref 16eg 2024. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law yn cadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynnig Gwelliannau Teithio Llesol Dinbych-y-pysgod a Phenalun 

Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio 1.66km o hyd o bentref Penalun i gwrs golff Dinbych-y-pysgod. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer symudiadau cerddwyr a beicwyr.
  • Creu llwybr amlddefnyddiwr o Lôn Clicketts i Lôn Heywood, Dinbych-y-pysgod. Mae llwybr aml-ddefnyddiwr yn llwybr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mathau lluosog o ddefnyddwyr, megis cerddwyr, beicwyr a marchogion.
  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio 1.08km o hyd o Heol Marsh Road i Lon Clicketts, Dinbych-y-pysgod
  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio o Slippery Back i The Croft, Dinbych-y-pysgod
  • Darparu gwelliannau teithio llesol rhwng maes parcio Traeth y Gogledd a The Green trwy Gas Lane a The Glebe.

 

Gwelliannau teithio llesol Penalun

Gwelliannau teithio llesol Lon Clicketts/Lon Heywood

Gwaith Strategol Glebe i Green a Croft i Green

Llwybr aml-ddefnydd Marsh Rd

Coridor Strategol - Penalun i Saundersfoot

 

Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Mae teithio llesol yn ffordd o symud o gwmpas sy'n cynnwys gweithgarwch corfforol, fel cerdded, beicio neu yrru.  Hoffem greu llwybr strategol sy’n golygu bod modd teithio o Benalun drwy Ddinbych-y-pysgod a Llanusyllt i Bentlepoir heb ddefnyddio cerbydau; gan leihau tagfeydd, parcio a phwysau traffig. Bydd annog y newid hwn mewn ymddygiad nid yn unig yn arwain at ffordd iachach o fyw ond bydd hefyd yn ffordd wyrddach a rhatach o deithio.  

Nod y cynnig yw:

  • Darparu man diogel a rennir i bob defnyddiwr allu cymudo o Benalun i Ddinbych-y-pysgod heb ddefnyddio cerbyd
  • Gwella diogelwch y rhwydwaith teithio llesol o fewn yr ardal
  • Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau, gan gynnwys twristiaeth, hamdden, ysgol a gwaith

Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn gofyn am eich adborth ar y cynlluniau arfaethedig ar gyfer y newidiadau hyn, a gofynnwn yn garedig i chi hyrwyddo lansiad y sesiwn ymgysylltu cyhoeddus hwn a'r arolwg ar-lein o fewn eich cymuned/grwpiau lleol ac etholwyr. Bydd ein Tîm Cyfathrebu yn hysbysebu hyn ar holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro a bydd datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi ynghyd â diweddariad ar ein gwefan.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy / sesiwn galw heibio ar Hydref 16eg 2024, rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a rhwng 6.30pm ac 8pm yn De Valence Pavilion.

Bydd gan y sesiynau gynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro, i ateb unrhyw gwestiynau a all godi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael i’r rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol, a gellir ei gyrchu, trwy Dweud eich Dweud 

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 4 wythnos gan ddod i ben ar 13 Tachwedd 2024

Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn De Valence Pavilion. Bydd y fersiwn argraffedig a'r arolygon papur yn parhau yn eu lle tan Tachwedd 13eg 2024, pan fyddant yn cael eu casglu. Mae copïau drwy'r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost uchod neu'r rhif cyswllt.

Mae copïau wedi'u postio ar gael ar gais drwy gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost isod neu rif cyswllt.

Cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 76455 os oes gennych unrhyw gwestiynau

ID: 12040, adolygwyd 25/04/2025