Strategaeth Drafnidiaeth

Cynllun Trafnidiaeth Rhandarthol

Tachwedd 2025:

Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Nod y cynllun, a fydd yn llywio buddsoddiad a datblygiad mewn trafnidiaeth hyd at 2030, yw ei gwneud yn haws, yn wyrddach ac yn fwy fforddiadwy i bobl deithio ar draws y rhanbarth.

Mae’n nodi sut y bydd trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio, a rhwydweithiau ffyrdd yn cael eu gwella i gysylltu cymunedau’n well, cefnogi economïau lleol a chreu dyfodol mwy cynaliadwy i Dde Orllewin Cymru.

Datblygwyd y cynllun gan y Pwyllgor Corfforedig (CJC) ar gyfer De Orllewin Cymru, sy’n dod ag awdurdodau lleol y pedair sir a’r awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn y rhanbarth at ei gilydd.

Mae’n dilyn proses ymgynghori helaeth lle rhannodd bron i 900 o drigolion, busnesau a sefydliadau cymunedol eu barn ar y cynllun drafft.

Dangosodd yr ymgynghoriad fod gwasanaethau bws a threnau dibynadwy ac am bris rhesymol ymhlith y prif flaenoriaethau i bobl ar draws y rhanbarth, ynghyd â llwybrau cerdded a beicio mwy diogel, a gwell cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth.

Helpodd yr adborth i lunio’r cynllun terfynol, sydd bellach wedi cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.

Y cam nesaf fydd cynnwys gwaith manwl i fireinio’r rhestr derfynol o gynlluniau a fydd yn derbyn cyllid ac yn dechrau cael eu cyflawni.

Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.

Mae’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn gysylltiedig ag alluogi gwasanaethau bws gwell, o dan fwy o reolaeth gyhoeddus, a rhwydwaith metro rheilffordd newydd gyda nifer o orsafoedd newydd ar draws y rhanbarth.

Ymhlith ei nodau, mae’r cynllun yn anelu at:

  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig
  • Cefnogi datblygiad system metro De Orllewin Cymru sy’n cysylltu gwasanaethau bws a rheilffordd
  • Annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy megis beicio a cherdded
  • Sicrhau bod cymunedau gwledig a threfol yn elwa’n gyfartal ar well mynediad at swyddi, addysg a gwasanaethau

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Pwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru:

“Mae cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i’n Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn garreg filltir fawr i Dde Orllewin Cymru.

“Bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud teithiau bob dydd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cynaliadwy i drigolion, tra hefyd yn cefnogi busnesau a buddsoddiad newydd.

“Gyda phrosiectau mawr fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Phorthladd Rhydd Celtaidd yn trawsnewid ein heconomi, mae gwella sut mae pobl a nwyddau’n symud o amgylch ein rhanbarth yn hanfodol.

“Bydd y cynllun yn ein helpu i adeiladu system drafnidiaeth sy’n cadw i fyny â thwf, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn cysylltu ein cymunedau i gyd — trefol a gwledig fel ei gilydd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y CJC:
“Mae’r cynllun hwn wedi’i lunio gan bobl De Orllewin Cymru.

“Rydym wedi gwrando’n ofalus ar drigolion, grwpiau cymunedol a busnesau drwy gydol yr ymgynghoriad, ac mae eu barn wedi chwarae rhan hanfodol wrth greu cynllun sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol go iawn.

“Bydd y cam nesaf yn cynnwys datblygu cynigion manwl a chyflawni gwelliannau go iawn sy’n gwneud teithio ar draws ein rhanbarth yn fwy dibynadwy, cynhwysol a chynaliadwy i bawb.”

Mae cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol eraill ledled Cymru hefyd wedi cael eu cymeradwyo.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Cymru:
“Mae cymeradwyo’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gam mawr ymlaen tuag at fwy o gydweithredu ar draws ein rhanbarthau yng Nghymru.

“Mae’r cynlluniau hyn yn nodi polisïau ar gyfer gweithredu Llwybr Newydd, ein strategaeth drafnidiaeth, gan awdurdodau trafnidiaeth lleol ym mhob rhanbarth o Gymru.

“Byddwn yn darparu cyllid i helpu i gyflawni’r cynlluniau drwy’n Cronfa Drafnidiaeth Rhanbarthol newydd.

“Bydd hyn yn sicrhau bod y buddsoddiad a wnawn ym maes trafnidiaeth yn cael ei addasu i anghenion pob rhanbarth ac yn cael ei lywio gan y rhai sy’n adnabod y rhanbarth orau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r pedair rhanbarth ar y daith sydd o’n blaenau.”

Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De Orllewin Cymru yn disodli’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd 2015 ac yn llywio sut y caiff polisi cenedlaethol, fel y nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ei gyflawni’n lleol rhwng nawr a 2030.

Ebrill 2025

Mae`r arolwg hwn bellach wedi cau, diolch i chi am gymryd rhan. 

Mae’r Cynllun drafft Trafnidiaeth Ranbarthol wedi’i baratoi gan Gydbwyllgor Corfforaethol (CJC) De-orllewin Cymru, corff sydd newydd ei sefydlu ar gyfer llywodraeth leol yn y rhanbarth. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu rheolaeth strategol a gwelliant y rhwydwaith trafnidiaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, ac Abertawe ar gyfer y cyfnod 2025 - 2030. Ar ôl ei gwblhau, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol newydd yn disodli'r Cydgynllun Trafnidiaeth Leol bresennol, a luniwyd yn 2015.

Nod y drafft Trafnidiaeth Ranbarthol yw gwella a rheoli’r system drafnidiaeth er mwyn:

  • cefnogi twf economaidd
  • annog symudiad moddol oddi wrth ddefnyddio ceir preifat
  • lleihau effeithiau amgylcheddol

Mae’r Cynllun yn nodi ymrwymiadau i:

  • ei gwneud yn haws cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol
  • gwella bysiau a threnau fel eu bod yn fwy deniadol a chyfleus
  • gwella cysylltiadau rhwng gwahanol wasanaethau trafnidiaeth
  • rheoli ein rhwydwaith ffyrdd yn well

Ymgynghoriad Cyhoeddus:

Mae’r Gydbwyllgor Corfforaethol ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y rhwydwaith trafnidiaeth yn Ne Orllewin Cymru, i ddweud eich dweud darllenwch y dogfennau a chwblhewch yr arolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd).

Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 6 Ebrill 2025 am hanner nos.

Mae sesiynau galw heibio wedi'u trefnu yn y lleoliadau isod lle mae croeso i chi fynychu i drafod eich barn neu bryderon gyda Thîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir yr Awdurdod hwn.

  • 3ydd Mawrth 2025, The Old Coal Building, Saundersfoot Harbwr, Saundersfoot, 14:00 – 20:00
  • 5ed Mawrth 2025, Pater Hall, Doc Penfro, 10:00 – 14:00
  • 6ed Mawrth 2025, Neuadd y Ddinas Tyddwi, Tyddewi, 14:00 – 20:00
  • 10ed Mawrth 2025, Neuadd y Sir, Hwlffordd 14:00 – 20:00

Bydd copïau cyfeirio o'r dogfennau a fersiwn papur o'r ffurflen adborth ar gael yn y lleoliadau lleol isod o 21 Chwefror 2025, gwiriwch amseroedd agor lleol.

  • Llyfrgell a Chanolfan Groeso Abergwaun, Neuadd y Dref, Sgwâr y Farchnad, Abergwaun, SA65 9HA
  • Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Aberdaugleddau, Cedar Court Parc Busnes Haven's Head, Aberdaugleddau, SA73 3LS
  • Llyfrgell Gymunedol Arberth, 3 Town Moor Mews, Arberth, SA67 7DF
  • Canolfan Hamdden Crymych, Crymych, SA41 3QH
  • Neuadd Gymunedol Dwyrain Williamston, Dwyrain Williamston, Dinbych-y-pysgod, SA70 8RT

Bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn Haf 2025, yn dilyn y cymeradwyaethau perthnasol.

ID: 12728, adolygwyd 11/11/2025

Gwelliannau I Rhydwaith Teithio Llesol Doc Penfro

Diweddariad Hydref 2025:

Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

Adroddiad Ymgyngohoriad Teithio Llesol Doc Penfro

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi Strategaeth Drafnidiaeth e-bostio’r tîm.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun fydd yn mynd ymlaen. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Y prif themâu (Yr hyn a ddywedoch chi) 

Ymateb y cyngor (Yr hyn a wnaethom ni)

Beicio Dylai beicwyr ddefnyddio’r ffordd, nid palmentydd – Mynegwyd pryderon gan nodi bod palmentydd ar gyfer cerddwyr, a chyfeiriwyd at Reolau’r Ffordd Fawr a materion yn ymwneud â diogelwch. Mae beicio ar balmentydd yn anghyfreithlon oni bai eu bod wedi’u dynodi’n ffurfiol yn llwybrau cyd-ddefnyddio. Lle bo’n briodol, gellir ailddosbarthu troedffyrdd yn gyfreithiol i ganiatáu beicio diogel. Mae hyn yn darparu eglurder a diogelwch i bob defnyddiwr.
Beicio Ni ddefnyddir llwybrau beiciau ddigon / gwastraff arian – Mae yna gred na fydd beicwyr yn defnyddio’r llwybrau newydd, ac y dylid gwario arian ar bethau eraill (e.e. canol y dref, cerbydau casglu gwastraff). Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac y mae wedi’i glustnodi ar gyfer gwelliannau teithio llesol yn unig. Mae arolygon yn dangos bod beicio eisoes yn gyffredin yn lleol, yn enwedig ymhlith plant ysgol. Mae dyletswydd gyfreithiol hefyd ar gynghorau yng Nghymru i wella darpariaethau teithio llesol.
Beicio Pryderon o ran cynnal a chadw – Nid yw’r llwybrau beicio presennol yn cael eu cynnal a’u cadw, a gallai rhai newydd ddirywio. Mae defnyddio llwybrau yn amlach yn helpu i’w cadw’n glir (e.e. llystyfiant). Rydym yn pwyso am gynllunio hirdymor a chyllidebau sy’n cynnwys adeiladu a chynnal a chadw seilwaith. Po fwyaf y cânt eu defnyddio, y mwyaf y cryfheir yr achos dros fuddsoddi yn y dyfodol.
Beicio Pryderon o ran diogelwch – Risgiau o wrthdrawiadau â cherddwyr (yn enwedig yr henoed ac unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn); beicwyr yn teithio’n rhy gyflym; e-feiciau ar balmentydd. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio wedi’u cynllunio i fod yn ddiogel i’w defnyddio wrth deithio 12 mya. Disgwylir i feicwyr deithio mewn ffordd ystyriol. Byddai marciau cliriach yn ei gwneud yn amlwg ble y mae beicio yn cael ei ganiatáu a ble nad yw’n cael ei ganiatáu. Dylid rhoi gwybod i’r heddlu am ddefnydd peryglus neu ddi-hid o e-feiciau, gan nad oes gan y cyngor unrhyw bwerau gorfodi.
Beicio Gwerth ansicr / amheuaeth – Amheuaeth y bydd pobl yn defnyddio’r llwybrau fel y bwriadwyd. Caiff pob llwybr teithio llesol newydd ei fonitro a’i werthuso am hyd at dair blynedd, gydag adroddiadau’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae’r llwybrau yn cael eu hyrwyddo mewn partneriaeth ag ysgolion a chymunedau lleol.
Parcio Darpariaeth parcio – Mae preswylwyr wedi gofyn am ystyried y lleoedd parcio presennol. Byddai’r ddarpariaeth parcio bresennol yn cael ei hadolygu fel rhan o’r cynllun. Nodwyd bod y capasiti parcio ar adegau brig yn 73%, sy’n dangos bod digon o le parcio ar gael drwy gydol y dydd ac na fydd unrhyw effaith negyddol ar fusnesau.
Parcio Diogelwch a llinellau melyn dwbl – Mae tryciau a cheir yn rhwystro gwelededd ar Heol y Pier a Stryd yr Eglwys, gan wneud croesi’n beryglus. Dylai ceisiadau am linellau melyn dwbl gael eu hystyried gan y cynghorydd sir a Diogelwch Ffyrdd. Gellid cyflwyno mwy o hysbysiadau gorfodi parcio, yn dibynnu ar yr angen.
Parcio Colli mannau parcio Gall croesfannau a llwybrau cerdded / beicio newydd gael gwared ar fannau parcio, gwaethygu parcio, a lleihau gwerth eiddo. Efallai ceir gwared ar fannau parcio am resymau sy’n ymwneud â gwelededd a diogelwch. Mae’r manteision i breswylwyr, yn enwedig plant ac unigolion nad ydynt yn gyrru, yn drech na’r golled. Dyluniadau’r camau rhagarweiniol yw’r rhain ac maent yn agored i’w newid ar sail adborth y cyhoedd a Diogelwch Ffyrdd. Ni ragwelir unrhyw effaith negyddol ar fusnesau na gwerth eiddo.
Parcio Pwysau parcio ehangach – Mae mannau parcio yn brin iawn yn Noc Penfro, yn enwedig mewn strydoedd teras. Mae trafnidiaeth gyhoeddus wael yn cynyddu’r ddibyniaeth ar geir. Codwyd y risg o barcio anghyfreithlon. Nod diwygio a masnachfreinio bysiau yw gwella gwasanaethau ledled y sir. Mae’r gwasanaeth Bws Fflecsi eisoes yn gweithredu’n lleol.Mae swyddogion gorfodi parcio’r cyngor yn ymdrin ag unrhyw barcio anghyfreithlon yn unol â hynny.
Bush Street Goleuadau stryd, biniau, a mesurau gostegu traffig – Mae angen goleuadau stryd gwell, mwy o finiau, a rhagor o fesurau gostegu traffig (fel y rhai ger yr ysgol).  Gellir cynnwys goleuadau stryd a biniau yn y dyluniad. Bydd peirianwyr yn cysylltu â’r Adran Draffig i asesu opsiynau gostegu traffig diogel. Mae mesurau eisoes ar waith y tu allan i’r ysgol.
Bush Street Diogelwch cerddwyr – Byddai croesfan i gerddwyr ger yr ysgol yn helpu plant i groesi’n ddiogel. Byddai goleuadau traffig hefyd yn arafu traffig ac yn gwarchod cerddwyr. Gellir cynnwys croesfannau i gerddwyr os ydyw’n ddiogel, ac os bodlonir y meini prawf ar gyfer croesfannau a reolir.
Bush Street Defnyddioldeb parcio a llwybr beiciau – Mae Bush Street eisoes yn dioddef o barcio gwael. Mae’r palmentydd presennol yn ddigon llydan. Ni fydd llwybr cyd-ddefnyddio yn cynyddu cyfraddau beicio, gan fod y rhan fwyaf o breswylwyr yn dibynnu ar geir i deithio i’r gwaith. Nid yw’r droedffordd bresennol yn bodloni’r canllawiau teithio llesol cyfredol ar gyfer beicio. Ni all cyllid ddarparu parcio ychwanegol. Bwriad y llwybr cyd-ddefnyddio yw annog plant, beicwyr newydd / beicwyr llai hyderus, a chynnig mwy o opsiynau teithio gyda’r gobaith y bydd pobl yn teithio heb ddefnyddio cerbydau modur. 
Bush Street Llif traffig a’r effaith ar barcio – Mynegwyd pryderon ynghylch cynnal traffig dwyffordd a’r cyfleusterau parcio presennol pe gwneid newidiadau. Byddai’r lôn gerbydau bresennol yn cael ei lleihau o 7.3 metr i 6.1 metr, yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd, ac yn caniatáu i gerbydau mawr basio’i gilydd ar yr un pryd. Byddai traffig dwyffordd yn parhau, ac ni fyddai unrhyw fannau parcio ar y stryd yn cael eu colli.
Bush Street Rheolau’r Ffordd Fawr a chost y cynllun – Mae’r cynllun yn gostus pan fo Rheolau’r Ffordd Fawr eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr gymryd gofal o amgylch cerddwyr a beicwyr. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn blaenoriaethu cerddwyr, unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn, a beicwyr, ond mae’r llwybr cyd-ddefnyddio yn darparu lle diogel oddi ar y ffordd fawr ar gyfer cerdded, teithio ar olwynion, a beicio. Mae hyn yn ategu, nid yn disodli, gofynion Rheolau’r Ffordd Fawr.
Llwybr cyd-ddefnyddio Parcio a symudedd – Mae angen cyfleusterau parcio, yn enwedig ar gyfer pobl â phroblemau symudedd. Mae ceir yn hanfodol ar gyfer gofalu am yr henoed. Nid oes unrhyw newidiadau i’r trefniadau parcio presennol. Mae ceir yn parhau i fod yn bwysig ar gyfer pobl ag anghenion symudedd, ond mae’r llwybr cyd-ddefnyddio yn darparu dewisiadau amgen diogel. Gallai mwy o deithio llesol ryddhau mannau parcio i’r rhai sydd eu hangen fwyaf. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Hurio beiciau a chyfleusterau beicio – A oes cynllun hurio beiciau ar gyfer oedolion / plant? Nid oes unrhyw wasanaeth hurio beiciau yn Noc Penfro ar hyn o bryd. Mae cynllun e-feiciau yn cael ei gyflwyno ledled y sir a gellir ystyried Doc Penfro os oes digon o al. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Rhannu llwybrau a diogelwch – Pryderon ynghylch beicwyr a cherddwyr yn rhannu llwybrau’n ddiogel, yn enwedig ger drysau tai. Mae rhai yn dweud ei fod yn teimlo’n beryglus ac yn anymarferol. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio yn gofyn am gyd-barch, gyda cherddwyr ac unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn yn cael blaenoriaeth. Gellir ychwanegu arwyddion megis “Rhannu Gofalu”. Mae arolygon yn dangos bod llawer o unigolion (yn enwedig plant ysgol) eisoes yn beicio ar droedffyrdd, felly mae ei wneud yn gyfreithlon a dylunio ar ei gyfer yn gwella diogelwch.
Llwybr cyd-ddefnyddio Diogelwch menywod a theledu cylch cyfyng – Codwyd pryderon ynghylch diogelwch menywod a chais am deledu cylch cyfyng. Cydnabyddir pryderon ynghylch diogelwch menywod, a dylid adrodd am unrhyw ddigwyddiadau i’r heddlu. Ni chynigir teledu cylch cyfyng oherwydd cyfreithiau preifatrwydd / diogelu data.
Llwybr cyd-ddefnyddio Cyflwr llwybrau a’u cynnal a’u cadw – Mae’r llwybrau presennol yn beryglus / heb eu cynnal a’u cadw’n dda; bydd ychwanegu rhagor yn gwaethygu’r broblem. Ceisiadau am docio a chynnal a chadw (e.e. llwybr y Parc Coffa). Mae dynodi llwybr cyd-ddefnyddio yn sicrhau rheolau clir, gyda chyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer cynnal a chadw o dan safonau teithio llesol. Cynhelir gwaith cynnal a chadw yn rheolaidd, a dylid adrodd am unrhyw broblemau i’r cyngor.
Llwybr cyd-ddefnyddio Lled a dyluniad y llwybr – Mae’r llwybrau presennol yn ddigon llydan; byddai lledu palmentydd yn culhau’r ffordd. Codwyd pryderon bod y ffyrdd eisoes yn rhy gul. Pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo, byddai angen lledu rhai o’r llwybrau presennol i fodloni safonau teithio llesol. Mae hyn yn culhau’r gerbytffordd ychydig, a allai ostegu traffig. Ni fyddai unrhyw balmentydd yn cael eu “lledu ddwywaith gymaint”. Byddai newidiadau’n dilyn canllawiau’r Llawlyfr Strydoedd.
Llwybr cyd-ddefnyddio Hygyrchedd a chynhwysiant – Ceisiadau wedi’u gwneud am linellau melyn dwbl. Byddai gwelliannau ar gyfer unigolion ag amhariad ar eu golwg yn cynnwys goleuadau da, cyrbiau isel, a chroesfannau diogel. Byddai unrhyw ddyluniadau terfynol yn cynnwys adborth gan y Swyddog Mynediad i sicrhau bod gofynion / deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu bodloni. Byddai goleuadau a chyrbiau isel wrth groesfannau yn cael eu cynnwys lle byddai’n ddiogel gwneud hynny, yn unol â safonau dylunio.
Llwybr cyd-ddefnyddio Cysylltedd ac arwyddion – Ni ddylai llwybrau orffen yn sydyn na gorfodi beicwyr i deithio ar ffyrdd. Mae angen arwyddion clir sy’n dangos mannau ar gyfer cerddwyr / beicwyr. Mae cysylltedd yn cael ei gynllunio trwy fap y rhwydwaith teithio llesol wedi’i ddiweddaru. Byddai marciau / arwyddion yn dangos pa ochr sydd ar gyfer cerddwyr, olwynwyr, a beicwyr. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Buddion canfyddedig – Mynegwyd pryderon y bydd y cynllun o fudd i gerddwyr yn unig ac nid pob defnyddiwr.  Mae arolygon yn dangos bod llawer o feicwyr eisoes yn defnyddio palmentydd. Mae’r cynllun yn creu lle mwy diogel a phwrpasol iddyn nhw. Mae annog mwy o deithio llesol yn lleihau tagfeydd, sy’n fuddiol i bob defnyddiwr.
Prospect Place Mynediad a diogelwch – Mae pwyntiau mynediad yn arwain yn uniongyrchol at ffordd lwybr byr brysur, gyda cheir yn goryrru, a thro yn y ffordd â thagfeydd.  Mae’r wal wedi’i difrodi oherwydd cerbydau’n goryrru. Mae angen mesurau gostegu, arwyddion, goleuadau, a rheoli beicwyr sy’n ei ddefnyddio fel llwybr i lawr y bryn. Dyluniadau’r cam rhagarweiniol yw’r rhain, a byddant yn cael eu mireinio ar sail yr adborth. Gellid ychwanegu arwyddion at groesfannau cerddwyr posibl i amlygu pwyntiau mynediad pe bai’n ddiogel gwneud hynny. Byddai mesurau gostegu traffig yn cael eu hystyried gyda’r Adran Draffig. Dylai preswylwyr roi gwybod am oryrru i’r heddlu. Byddai goleuadau’n cael eu cynnwys pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo. 
Prospect Place Cysylltedd – Byddai’n well cael cysylltiadau gwell tua’r dwyrain i Benfro. Mae map y rhwydwaith teithio llesol yn cynnwys llwybrau i’r dwyrain o Ddoc Penfro. Mae ymgynghoriad wedi’i gynllunio ar gyfer 2026 i gasglu adborth gan y cyhoedd.
Prospect Place Serthrwydd a hygyrchedd – Mae’r llwybr arfaethedig yn rhy serth; ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn na sgwteri symudedd (ni all batris ymdopi). Mae’r llwybr yn hyfyw ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn enwedig wrth i fwy o unigolion ddefnyddio e-feiciau yn lleol. Byddai unrhyw ddyluniadau terfynol yn cynnwys adborth gan y Swyddog Mynediad i sicrhau bod gofynion / deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu bodloni.
Prospect Place Y llwybr anffurfiol presennol – Mae llwybr eisoes yn bodoli o Prospect Place i’r parc. Nid oes llwybr ffurfiol ag arwyneb. Mae’r fynedfa bresennol yn laswellt serth sy’n mynd yn fwdlyd ac yn llithrig yn enwedig mewn tywydd gwlyb. Byddai’r cynllun yn darparu llwybr diogel, ffurfiol i bob defnyddiwr.
Prospect Place Amgylchedd a threftadaeth – Peidiwch â thorri i mewn i wal Prospect Place na chael gwared ar goed hanesyddol. Defnyddiwch y ffordd / llwybr beiciau presennol. Os bydd mynediad yn gofyn am newidiadau i’r wal, byddai cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei geisio. Os caiff unrhyw goeden ei thynnu, bydd tair coeden arall yn cael eu plannu yn ei lle yn unol â chanllawiau Coed Cadw. Byddai asesiadau o’r effaith amgylcheddol yn cael eu cynnal. 
Prospect Place Gwelededd a diogelwch – Mae ailymuno â’r gerbytffordd hanner ffordd tuag at Prospect Place yn beryglus gan ei bod yn anodd gweld. Byddai arwyddion priodol yn tynnu sylw at bwyntiau mynediad, a gellir ystyried croesfannau i gerddwyr os yw’n ddiogel i’w gosod ac os bodlonir y meini prawf priodol. 
Prospect Place Ceisiadau am barcio – Awgrymiadau i ddymchwel waliau, addasu’r ardal laswelltog ar gyfer parcio ychwanegol, a gwella gwelededd wrth droi.  Mae cyllid y cynllun wedi’i gyfyngu i welliannau sy’n ymwneud â theithio llesol, nid ar gyfer gwaith adeiladu ffyrdd yn gyffredinol na pharcio ychwanegol.
High Street Cost a blaenoriaethau – Y dewis â’r gost isaf sy’n cael ei ffafrio; mae materion eraill yn bwysicach. Bydd uwchgynllun yn cael ei ddatblygu yn seiliedig ar adborth y preswylwyr. Efallai nad yr opsiynau mwyaf diogel yw’r opsiynau rhataf, ond y nod yw cael datrysiad sy’n ddiogel, yn effeithiol, ac yn werth da am arian.
High Street Ymddygiad o ran teithio i’r ysgol – Byddai’n well annog rhieni i beidio â gyrru plant i’r ysgol. Cytunwyd. Mae newid ymddygiad yn allweddol, yn ogystal â seilwaith addas. Gall ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a mentrau ysgol annog teithio llethol a lleihau faint o draffig sy’n mynd ag unigolion i’r ysgol a’u casglu oddi yno.
High Street Tramwyfa a mynediad – Codwyd pryderon ynghylch mynediad i dramwyfeydd / modurdai, a chostau newid cyrbiau isel. Ni fyddai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i unrhyw gyrbiau isel cyfreithiol presennol, ac ni fyddai preswylwyr yn atebol am unrhyw gostau.
High Street  Y nifer sy’n ei ddefnyddio – Ychydig o feicwyr a cherddwyr sydd wedi cael eu gweld; nid oes angen y newidiadau hyn. Cofnododd arolwg 12 awr yn y fan a’r lle 28 o feicwyr a 209 o gerddwyr, gan ddangos defnydd uwch na chyfrifon unigol.
High Street Gwasanaethau brys – A ymgynghorwyd â’r frigâd dân? Byddem yn ymgynghori â’r holl wasanaethau brys pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo. 
High Street Draenio – Mae llifogydd yn digwydd yng nghornel Lloyds a chyferbyn pan fydd glaw trwm. Pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo, byddai arolygon llawn, gan gynnwys y gwaith draenio, yn cael eu cynnal. Dylid hefyd roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch llifogydd i’r Ganolfan Gyswllt neu’ch cynghorydd lleol i ymchwilio iddynt.
High Street Swyddfa’r Post a busnesau lleol – Mynegwyd pryderon y gallai newidiadau niweidio gweithrediadau Swyddfa’r Post. Awgrymwyd y byddai parcio ar ongl yn gwella diogelwch a chroesi. Bydd cynlluniau parcio yn cael eu hadolygu yn ystod y dyluniad terfynol. Byddem yn ymgynghori â rhanddeiliaid, gan gynnwys Swyddfa’r Post, i sicrhau mynediad a pharhad busnes.
High Street Diogelwch croesfannau a chyffyrdd – Mae’r groesfan arfaethedig yng nghornel Lloyds yn rhy agos at y gyffordd; mae parcio ar Stryd y Gogledd yn gwneud troi yn beryglus. Mae croesfan yn cael ei lleoli ar hyd “llwybrau dymunol” cerddwyr i ganol y dref. Mae parcio o fewn 10 metr i gyffordd yn anghyfreithlon o dan reol 243 Rheolau’r Ffordd Fawr. Dylid rhoi gwybod i’r heddlu am achosion o’r fath.
High Street Darpariaeth parcio – Nid oes llawer o lefydd i barcio ar y Stryd Fawr yn barod. A fydd llwybrau cyd-ddefnyddio yn lleihau lleoedd ymhellach? Bydd y ddarpariaeth barcio yn cael ei hadolygu, gyda’r nod o gadw neu gynyddu’r capasiti presennol. Dangosodd arolwg yn y fan a’r lle bod o leiaf 27% o leoedd parcio yn parhau i fod yn wag, sy’n dangos bod digon o gapasiti i ddarparu ar gyfer parcio yn yr ardal.
High Street Lledu troedffyrdd – Mynegwyd pryderon ynghylch ble y byddai ceir yn parcio, sut y byddai bysiau’n pasio, a sut y byddai dosbarthu nwyddau’n cael ei reoli pe bai palmentydd yn cael eu lledu. Byddai lledu’r droedffordd ogleddol yn dal i ganiatáu i led y gerbytffordd gydymffurfio â’r Llawlyfr Strydoedd. Mae gwasanaethau bysiau wedi’u hamserlennu i osgoi gwrthdaro uniongyrchol; gall bysiau llai basio rhai mwy o faint. Bydd problemau dosbarthu (e.e. faniau yn rhwystro’r ffordd) yn cael eu trafod yn uniongyrchol â pherchnogion y siopau. Gall dyluniadau rhagarweiniol addasu croesfannau os yw’n ddiogel gwneud hynny. 
High Street Mynediad i’r stryd dawel a pharcio – Mae ceir ar hyn o bryd yn parcio lle mae’r stryd dawel yn ymuno â’r stryd gefn, a allai achosi problemau o ran diogelwch a mynediad i feicwyr. Byddai’r cynllunwyr yn ymchwilio i hyn pan fydd y dyluniadau terfynol yn cael eu llunio. Mae’n debygol bod y cerbydau hyn yn eiddo i breswylwyr cyfagos, a byddem yn ymgynghori â nhw i fynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â pharcio a diogelwch.
Trinity Road Parcio – Mae Heol y Drindod yn dawel ond mae ceir sydd wedi’u parcio ar y stryd yn ei gwneud yn lletchwith. Codwyd awgrymiadau i breswylwyr gael mannau parcio oddi ar y ffordd. Byddem yn ymgynghori â’r preswylwyr am faterion parcio pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo.
Trinity Road Llwybrau amgen – gallai Stryd Cromwell fod yn well gan ei bod yn fwy llydan. Gellid ystyried dewisiadau eraill os ydynt yn bodloni safonau teithio llesol. 
Traffig System unffordd – Cafwyd awgrymiadau i newid Bush Street a’r Stryd Fawr yn system unffordd i’r cyfeiriad arall er mwyn i gerbydau llifo’n fwy diogel.  Byddai angen adolygu a thrafod hyn â’r tîm Diogelwch Ffyrdd.
Traffig Gostegu traffig – Cefnogaeth i fesurau gostegu traffig ar y Stryd Fawr, ond mynegwyd pryder y byddai traffig yn dargyfeirio i Stryd y Gogledd.  Byddai pob opsiwn yn cael ei ymchwilio iddo gyda’r tîm Diogelwch Ffyrdd, gan gynnwys mesurau posibl ar gyfer Stryd y Gogledd.
Cyffredinol Symudedd a thirwedd – Mae bryniau’n gwneud mynediad yn anodd i’r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Cydnabyddir heriau o ran tirweddau; byddai hygyrchedd yn cael ei ystyried a’i drafod â’r Swyddog Mynediad pan fydd y dyluniadau terfynol yn cael eu llunio.  
Cyffredinol Ymddygiad a chyd-destun gwledig – Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu ar geir; ni fyddai rhai yn defnyddio llwybrau teithio llesol. Gall mannau diogel a rennir annog teithio llesol. Mae prif ganolfan y dref yn wastad, gan wneud mynediad yn haws i’r rhai sy’n dewis newid eu dull o deithio.
Cyffredinol Gwerth am arian – Mae’r cynllun yn ddiangen ac yn ddefnydd gwael o arian.  Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, wedi’i glustnodi ar gyfer teithio llesol. Nod buddsoddi yw gwella buddion cymunedol ac economaidd hirdymor a chaniatáu dylunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 
Cyffredinol Cynnal a chadw a diogelwch – Byddai’n well rhoi blaenoriaeth i atgyweirio ffyrdd, palmentydd, tyllau yn y ffyrdd, a meysydd parcio presennol cyn cyflwyno unrhyw gynlluniau newydd. Mae arwynebau anwastad yn beryglus i gerddwyr / beicwyr. Dylid rhoi gwybod i’r cyngor am broblemau cynnal a chadw. Byddai’r llwybrau cyd-ddefnyddio yn cael eu cynllunio gan ddefnyddio deunyddiau gwydn, sy’n hawdd eu cynnal a’u cadw. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio yn gwella diogelwch i ddefnyddwyr sy’n fregus. Yn aml, mae cynlluniau newydd yn gwella’r arwynebau cyfagos pan gânt eu rhoi ar waith.
Cyffredinol  Arwyddion a goleuadau – Mae gormod o arwyddion yn wastraffus; mae goleuadau’n bwysicach. Byddai cydbwysedd yn cael ei ystyried o ran cyfathrebu clir, gan osgoi gorlwytho gymaint ag y bo modd. Byddai goleuadau’n cael eu cynnwys lle bo angen pe bai’n ddiogel gwneud hynny. 
Cyffredinol  Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus – Mae bysiau eisoes yn darparu gwasanaeth, ond nid oes mynediad mewn rhai ardaloedd. Gallai llwybr cyd-ddefnyddio wella mynediad at wasanaethau bysiau. Mae’r gwasanaeth Bws Fflecsi ar gael i’r rhai nad oes ganddynt fynediad uniongyrchol at wasanaethau.
Cyffredinol  Problemau hygyrchedd – Mae palmentydd a meysydd parcio yn beryglus i unigolion ag amhariad ar eu golwg; mae e-sgwteri a beicwyr di-hid yn achosi ofn a pherygl. Byddai Swyddog Mynediad y cyngor yn cynorthwyo gyda’r gofynion dylunio. Dylid rhoi gwybod i’r heddlu am e-sgwteri anghyfreithlon gan nad oes gan yr awdurdod unrhyw bwerau gorfodi. 
Cyffredinol  Parcio a defnyddio strydoedd – Pryderon ynghylch tagfeydd, llai o fannau parcio, mynediad i fannau gwefru cerbydau trydan, glanhau ceir ar draws llwybrau, polion lampau yn rhwystro drysau, neu gostau adleoli ceblau.  Byddai parcio yn cael ei adolygu yn ystod y gwaith dylunio. Nid oes cynllun ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan cyffredinol. Efallai y bydd grantiau ar gael i unigolion. Nid oes gan y cyngor unrhyw rwymedigaeth i ddarparu cyfleusterau ar gyfer glanhau ceir. Bydd unrhyw newidiadau i bolion / ceblau yn cael eu rheoli fel nad ydynt yn rhwystro defnyddwyr na gyrwyr.
Cyffredinol  Effaith ar fodurwyr – Cwestiynau am fuddion i yrwyr; ofnau o fwy o dagfeydd neu yswiriant uwch.  Mae llwybrau cyd-ddefnyddio yn gwahanu’r dulliau o deithio, gan leihau gwrthdaro a thagfeydd. Mae’n annhebygol y bydd ffyrdd culach yn effeithio ar yswiriant. 
Cyffredinol  Gostegu traffig – Mae twmpathau cyflymder yn niweidio ceir. Nid oes unrhyw dwmpathau cyflymder wedi’u cynllunio.
Cyffredinol  Gorfodi – Ceisiadau am gamau gweithredu yn erbyn defnydd anghyfreithlon o e-sgwteri. Dim ond yr heddlu a all weithredu ar hyn. Anogir preswylwyr i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath. 

 

Diweddarias Gorffennaf 2025:

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn ystod y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 24ain Mehefin 2025. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law yn cadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Y Stryd Fawr
  • Bush Street
  • Trinity Road
  • Prospect Place / Parc Coffa

Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Mae’r awdurdod hwn yn cynnig gwella’r llwybrau teithio llesol presennol yn Noc Penfro a fydd yn cynnwys cyflwyno llwybrau newydd yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol i annog mwy o gerdded, olwyno a beicio o fewn y dref, gyda’r weledigaeth o drosi rhai llwybrau troed yn llwybrau cyd-ddefnyddio. 

Ein nod yw creu amgylchedd diogel i bawb ac annog pobl i deithio heb ddefnyddio eu cerbydau. Un o brif amcanion y prosiect hwn yw gwella’r cysylltedd rhwng rhan isaf y dref a gweddill y gymuned, gan sicrhau mynediad cyfleus at gyfleusterau ac ysgolion lleol.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 24 Mehefin 2025, rhwng 9am a 5pm yn Neuadd Pater.

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn y sesiwn i ateb unrhyw gwestiynau a allai godi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich dweud

Bydd yr arolwg ar-lein ar gael am bum wythnos, gan ddod i ben am ganol nos ar 28 Gorffennaf 2025.

Gwelliannau i`r rhwydwaith teithio llesol: Trinity Road a Pharc y Ganolfan Gymunedol

Gwelliannau i`r rhwydwaith teithio llesol: Doc Penfro

Gwelliannau teithio llesol: Bush St - Y Stryd Fawr - Prospect Place

Bydd copïau caled o'r cynlluniau ar gael o Neuadd y Sir ar 24 Mehefin 2025.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir ei benderfynu’n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol. 

Beth yw diben y cynllun?

Mae’r awdurdod hwn yn cynnig gwella’r llwybrau teithio llesol presennol yn Noc Penfro a fydd yn cynnwys cyflwyno llwybrau newydd yn unol â’r canllawiau teithio llesol i annog rhagor o bobl i feicio yn y dref, gyda’r bwriad i drawsnewid rhai llwybrau troed yn llwybrau cyd-ddefnyddio. Ein nod yw creu amgylchedd diogel i bawb ac annog pobl i deithio heb ddefnyddio eu cerbydau.

Beth mae’r cynllun yn mynd i’w gyflawni?

Mae astudiaeth eisoes wedi’i wneud, ynghyd ag adolygiad o’r rhwydwaith presennol, er mwyn sicrhau bod y llwybrau’n darparu datrysiad cysylltiedig ac integredig ar gyfer cerddwyr, olwynwyr a beicwyr sy’n dymuno cael mynediad i leoliadau allweddol yn y dref, boed y rheini’n lleoliadau at ddibenion gwaith, hamdden neu gymdeithasol.

Ethos y cynllun yw darparu rhwydwaith beicio sy’n cysylltu gogledd y dref â’r ysgol uwchradd a’r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar ran ddwyreiniol y Stryd Fawr a Heol Penfro sydd eisoes yn cael ei gwasanaethu gan lwybr cyd-ddefnyddio ar y rhan hon o’r briffordd. Mae’r cynigion hefyd yn caniatáu cysylltiad i’r bobl hynny sy’n byw yng ngogledd y dref â rhwydwaith beicio diogel sy’n caniatáu mynediad i Ysgol Gymunedol Doc Penfro sydd wedi’i lleoli’n union gerllaw’r parc a’r feddygfa yn Stryd Argyle.

Beth yw prif amcanion y cynllun?

  • Creu llwybr teithio llesol diogel yn y dref
  • Gwella cysylltedd y rhwydwaith presennol
  • Gwella diogelwch y ffyrdd ar gyfer cerddwyr, olwynwyr a beicwyr
  • Annog teithio llesol sy’n cynnwys pawb yn y gymuned ar gyfer pob math o deithiau. gan gynnwys teithiau’n ymwneud â thwristiaeth a hamdden
  • Lleihau faint mae’r trigolion yn dibynnu ar eu ceir, lleihau’r ôl troed carbon, llygredd a thagfeydd
  • Gwella’r amgylchedd ac iechyd a llesiant cymdeithasol y gymuned

Sut bydd y cynllun yn cael ei ariannu?

Bydd yr awdurdod hwn yn cyflwyno adroddiad cynnig o dan y Gronfa Grantiau Cyfalaf Trafnidiaeth Leol i Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-2027. Mae hwn yn cael arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro, hyd at 11%.

A fydd ymgynghoriad ag aelodau o’r cyhoedd?

Bydd, bydd proses ymgynghori ffurfiol â’r cyhoedd yn cael ei chynnal maes o law lle gall aelodau’r cyhoedd roi adborth ar y cynllun. Bydd yr ymgynghoriad hwn ar ffurf sesiwn gweithdy a fydd yn arddangos y cynlluniau arfaethedig lle bydd cynrychiolwyr o Adran Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau a all godi.

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Bydd ein gwefan yn cael ei diweddaru wrth i’r cynnig hwn fynd rhagddo.

Cysylltwch â ni:

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 764551

ID: 12687, adolygwyd 30/10/2025

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau

Beth yw pwrpas y cynllun?

Mae cynllun Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau yn cynnwys gwaith i wella’r orsaf drenau bresennol yn Aberdaugleddau i greu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd. Mae hyn yn gofyn am adleoli’r platfform rheilffordd presennol i ganiatáu ar gyfer darparu cyfnewidfa fysiau newydd, safle tacsis, maes parcio ffurfiol, mannau cyhoeddus, a gwell cysylltiadau teithio llesol. Bydd adleoli’r platfform hefyd yn galluogi gwasanaethau rhyngddinas i Lundain ac oddi yno i ddefnyddio’r orsaf, yn unol ag uchelgais hirdymor y cyngor a Thrafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaethau rheilffordd mwy rheolaidd a gwell cysylltedd i fwy o gyrchfannau.

Beth mae'r cynllun yn mynd i'w gyflawni?

Bydd y gyfnewidfa arfaethedig yn hwyluso integreiddio’r holl ddulliau trafnidiaeth yn well gyda’r nod o wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo trafnidiaeth lesol, gan wella cysylltedd a hygyrchedd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r ardal. Ymhellach, bydd y cyfleusterau o ansawdd uchel a’r gwelliannau i fannau cyhoeddus a gyflwynir fel rhan o’r cynllun hwn yn annog ymwelwyr a thrigolion lleol i fwynhau’r ardal ac ysgogi twf economaidd lleol drwy wneud Aberdaugleddau yn lle bywiog, deniadol a diogel i fod ynddo.

Pam fod angen y cynllun?

Dangosodd cyfrifiad 2021 nad oes gan tua 42% o’r holl gartrefi fynediad i gerbyd neu nad ydynt yn gyrru, sy’n golygu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn symudedd a chysylltedd y sir. Yn benodol, nid yw 15% o'r holl gartrefi yn berchen ar gar neu fan. Bydd y cynllun hwn yn mynd i’r afael â’r angen i wella’r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ac integreiddio a chysylltedd yn Aberdaugleddau a’r cyffiniau er mwyn gwella opsiynau trafnidiaeth i bawb.

Beth yw prif amcanion y cynllun?

  • Darparu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys canolbwynt i fysiau a man codi / gollwng i goetsis sy'n gysylltiedig â'r orsaf
  • Darparu gwell gorsaf reilffordd
  • Gwella amwynderau, cyfleusterau a diogelwch i deithwyr yn yr orsaf
  • Darparu maes parcio newydd gyda chyfleuster gwefru cerbydau trydan / hydrogen a safle tacsis
  • Gwella amgylchedd adeiledig yr orsaf o safbwynt gweledol a thirwedd
  • Gwella hygyrchedd i gyfleusterau trafnidiaeth ac ardaloedd craidd y dref
  • Gwella cysylltedd teithio llesol i'r gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus
  • Creu cysylltiadau mynediad cynaliadwy o fewn a rhwng ardaloedd craidd y dref
  • Diogelu’r rheilffordd at y dyfodol trwy gynyddu defnydd a chefnogi gwell gwasanaeth rheilffordd i Aberdaugleddau (h.y. y gwasanaeth rheilffordd i Lundain)
  • Cysylltu cymunedau lleol
  • Cyfyngu ar swm y difrod amgylcheddol ac allyriadau o ddefnyddio cerbydau preifat, gan greu dull gwyrddach o deithio

Sut bydd y cynllun yn cael ei ariannu?

Mae'r awdurdod hwn wedi cyflwyno adroddiad cynnig o dan y Gronfa Grantiau Cyfalaf Trafnidiaeth Leol i Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026. Mae hyn yn cael arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro o hyd at 11%.

Pryd bydd y gwaith yn dechrau a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i'w gwblhau?

Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Hydref 2025 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Hydref 2026.

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Weld y cynlluniau (yn agor mewn tab newydd)

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i majorschemes@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551

 

ID: 12618, adolygwyd 03/11/2025

Steynton i Hen Heol Bulford – Gwelliannau i’r rhwydwaith teithio llesol 2024

Diweddariad Mehefin 2025:

Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

 

Adroddiad ymgynghoriad teithio llesol Steynton i hen heol Bulford

 

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2025, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun fydd yn mynd ymlaen. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Y prif themâu (Yr hyn a ddywedoch chi) 

Ymateb y cyngor (Yr hyn a wnaethom ni)

Beicio Dydw i ddim yn reidio fy meic i Aberdaugleddau o Hwlffordd gan nad wyf yn teimlo’n ddiogel i reidio, yn enwedig gyda fy mhlant. Byddwn yn reidio i lawer o leoedd pe bai’r seilwaith yn caniatáu i ni wneud hynny. Nod creu llwybr cyd-ddefnyddio yw darparu amgylchedd diogel i bob defnyddiwr, i ffwrdd o ffyrdd prysur. Mae’r fenter hon yn rhan o’n strategaeth ehangach i hyrwyddo teithio llesol o fewn y sir. Mae ein cynllun yn cynnwys gwella’r seilwaith presennol a nodi cyfleoedd ar gyfer llwybrau newydd. Drwy wneud hynny, gallwn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu mwynhau cymudo’n ddiogel, ac annog mwy o bobl i ddewis opsiynau teithio llesol.
Beicio Mae’r llwybr beicio presennol o amgylch Johnston yn denu baw cŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mewn achosion eithafol diweddar, gweithgareddau troseddol. Ni fyddwn yn caniatáu i’m plentyn ei ddefnyddio i deithio o’r cartref i’r ysgol bob dydd. Mae’n hollbwysig ein bod yn creu amgylchedd diogel a glân i bawb, yn enwedig plant.  Pan fydd yr achosion hyn yn codi gallai cynnwys y gymuned a chydweithio ag awdurdodau gorfodi lleol fod yn allweddol wrth fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Parcio Mae’r pellter rhwng Steynton a Tiers Cross / Johnston yn eithaf pell i bobl â symudedd cyfyngedig. Rwy’n dychmygu y byddai’r llwybr cyd-ddefnyddio o fudd i iechyd, hamdden, cymudo a llesiant, ond mae’n bosibl y bydd diffyg lleoedd parcio ar y naill ben a’r llall i’r cyswllt yn gwneud y llwybr hwn yn llai poblogaidd na’r llwybr o Neyland i Hwlffordd. Diben llwybr cyd-ddefnyddio yw annog defnyddwyr i gymudo, boed at ddibenion hamdden neu waith, heb ddibynnu ar gerbyd. Fel y cyfryw, nid yw parcio yn ystyriaeth ar gyfer y llwybr hwn. Fodd bynnag, mae parcio oddi ar y stryd ar gael yn Steynton, ac mae maes parcio am ddim gan Gyngor Sir Penfro gyda lleoedd i bobl anabl ym Mharc Greenhall yn Johnston.
Parcio Mae bysiau a threnau’n hygyrch ac ni fyddai’r llwybr cyd-ddefnyddio hwn yn cael ei ddefnyddio. Er bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn yr ardal, mae llwybr cyd-ddefnyddio yn cynnig dewis amgen hyblyg, di-draffig sy’n ddelfrydol ar gyfer hamdden, ymarfer corff a gweithgareddau cymunedol. Mae hefyd yn darparu ffordd wyrddach a chost-effeithiol o deithio i’r rhai y mae’n well ganddynt gerdded, olwyno neu feicio. Mae canlyniadau arolwg yn dangos y byddai creu llwybr cyd-ddefnyddio yn y lleoliad hwn yn annog cerdded, olwyno a beicio yn amlach.
Llwybr cyd-ddefnyddio Nid yw’r llwybr gwyrdd yn mynd i’r afael â’r materion mynediad o Johnston i Aberdaugleddau. Mae’r lôn dawel (y llwybr gwyrdd) yn darparu llwybr sy’n rhoi blaenoriaeth i strydoedd cefn tawelach, â llai o draffig, gan gynnig profiad mwy hamddenol a hygyrch. Bydd defnyddwyr yn cael eu cyfeirio ar hyd y llwybr hwn tuag at Tiers Cross a llwybr cyd-ddefnyddio presennol Heol Bulford, nes bod Cam 3 (a ddangosir gan y llwybr coch) wedi’i gwblhau, pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo. Unwaith y bydd Cam 3 wedi’i orffen, bydd hyn yn creu cyswllt uniongyrchol o Johnston i Aberdaugleddau ar gyfer defnyddwyr y mae’n well ganddynt beidio â theithio drwy Tiers Cross.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae gan lawer o bobl sydd â phroblemau symudedd geir sydd wedi’u talu amdanynt am fod ganddynt anabledd ac ni fyddent yn defnyddio’r llwybr cyd-ddefnyddio. Er y gall rhai unigolion â phroblemau symudedd ei chael yn haws cymudo drwy ddefnyddio cerbyd, mae’n hanfodol sicrhau bod y llwybr cyd-ddefnyddio yn hygyrch i bob defnyddiwr.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae angen darpariaeth ar gyfer marchogion yn yr ardal hon. Nid oes unrhyw opsiynau diogel oddi ar y ffordd gysylltiedig. Mae’n bwysig cael llwybrau diogel, cysylltiedig oddi ar y ffordd i bawb, gan gynnwys y rhai ar gefn ceffyl. Byddai hyn nid yn unig yn helpu beicwyr i aros yn ddiogel ond hefyd yn gwella hygyrchedd ar gyfer pob math o drafnidiaeth. Gellid edrych ar lwybr aml-ddefnyddiwr ar gyfer cynllun yn y dyfodol, ond yn y cyfamser ewch i’n gwefan https://www.sir-benfro.gov.uk/map-diffiniol lle gallwch weld lleoliadau a lawrlwytho mapiau o lwybrau ceffylau yn y sir. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Nid wyf yn meddwl y bydd yn gwarantu’r swm o arian y mae ei angen. Rwy’n cerdded y llwybrau beicio yn rheolaidd fel un o drigolion Johnston. Nid wyf yn meddwl y bydd y nifer o bobl yr ydych chi’n ei ddisgwyl yn eu defnyddio, ar sail y nifer rwy’n eu gweld. Mae’r nifer wedi gostwng yn sylweddol ers dyfodiad COVID-19 a’r cyfnod clo. Bydd Llywodraeth Cymru yn asesu’r costau fel rhan o’i phroses gwneud penderfyniadau. Fel rhan o’r dystiolaeth a ddarparwyd, bydd data monitro sy’n dangos niferoedd defnyddwyr presennol yn cael eu cynnwys ochr yn ochr â chanlyniadau arolygon. Mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu y byddai adeiladu llwybr cyd-ddefnyddio yn y lleoliad hwn yn annog cerdded, olwyno a beicio’n amlach. Pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen, bydd monitro ychwanegol yn cael ei gynnal i benderfynu a ydyw’r prosiect wedi cyflawni ei amcanion, yn enwedig o ran cynyddu teithio llesol yn yr ardal.
Llwybr cyd-ddefnyddio A fyddai hyn yn cael ei rannu â modurwyr? Na, mae llwybr cyd-ddefnyddio wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan gerddwyr, olwynwyr a beicwyr, ac fel arfer mae wedi’i wahanu’n ffisegol oddi wrth draffig cerbydau modur. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae yna nifer fawr o feicwyr sy’n dal i ddefnyddio’r ffordd wrth ymyl llwybr cyd-ddefnyddio mewn rhan arall o’r sir. Nid dim ond at ddefnydd beicwyr y mae llwybr cyd-ddefnyddio; mae hefyd at ddefnydd cerddwyr ac olwynwyr. Mae croeso i feicwyr hyderus feicio ar y gerbytffordd os ydynt yn dymuno.
Llwybr cyd-ddefnyddio Nid oes unrhyw fannau diddorol na phrydferth i’w gweld wrth gerdded.  Er efallai nad oes unrhyw fannau prydferth nodedig, byddai’r llwybr cyd-ddefnyddio hwn yn darparu llwybr cyfleus i ddefnyddwyr ar gyfer cymudo i’r gwaith neu i gyfleusterau addysgol, gan wasanaethu diben ymarferol y tu hwnt i weithgareddau hamdden yn unig.
Llwybr cyd-ddefnyddio A ellid gosod arwyddion rhybuddio ar gyfer croesfannau beiciau ym mhen gogleddol y llwybr cyd-ddefnyddio? Gellir edrych ar hyn fel rhan o’r dyluniad terfynol pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘lôn dawel’?  Mae’r ddeddfwriaeth / cod y briffordd yn caniatáu i ‘lonydd tawel’ gael eu dynodi gydag arwyddion priodol yn atgoffa gyrwyr y gall fod defnyddwyr ffyrdd eraill sy’n fwy agored i niwed (fel beicwyr, cerddwyr, marchogion a defnyddwyr sgwteri symudedd) ar ffyrdd bach gwledig.  Yn nhermau priffyrdd, mae ‘lôn dawel’ yn cyfeirio at lwybr dynodedig, sy’n aml yn llwybr beicio neu lwybr cerddwyr, sydd wedi’i gynllunio i leihau sŵn a thagfeydd traffig, gan ddarparu amgylchedd mwy dymunol a diogel ar gyfer teithio heb fodur. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Ystyriwch gynnal pwysigrwydd y llwybr wrth iddo groesi ffyrdd ymyl. Mae teithiau ar y llwybr o Steynton i Neyland yn cael eu torri’n gyson gan orfod ildio i ffyrdd ymyl nad oes llawer o ddefnydd ohonynt. Byddai cadw pwysigrwydd y llwybr wrth iddo groesi’r ffyrdd ymyl yn rhoi blaenoriaeth i feicwyr, ac yn gostegu’r traffig sy’n croesi’r llwybr. Nodwyd: a bydd yn cael ei ystyried wrth ddylunio fel y bo’n briodol.
Llwybr cyd-ddefnyddio Byddai’r llwybr cyd-ddefnyddio yn llawer mwy diogel pe bai ar ochr arall y clawdd ar dir fferm sy’n eiddo i’r cyngor. Gellid gwella graddiannau a byddai’n llawer rhatach i’w hadeiladu. Y cynnig ar gyfer y llwybr cyd-ddefnyddio yng Ngham 3 yw gosod y llwybr y tu mewn i’r clawdd, i ffwrdd o’r gerbytffordd.
Traffig Byddwn yn eich annog yn gryf i ystyried terfyn cyflymder is ar ran ‘lôn dawel’ y ffordd, lle mae’n bosibl i feicwyr (o bob oed a gallu) wrthdaro’n uniongyrchol â modurwyr sy’n ei ddefnyddio fel llwybr byr. Mae opsiwn dan y ddeddfwriaeth lonydd tawel i weithredu terfyn cyflymder is fel rhan o’r broses ddynodi.  Nodwyd. Bydd unrhyw newidiadau i’r terfynau cyflymder presennol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Traffig Byddwn yn awgrymu nad yw 20mya ar lôn Studdolph yn briodol, ond mae angen rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ostegu traffig neu rybudd cynnar o amgylch cyffordd lôn Studdolph. Yn benodol, mae cerbydau sy’n troi oddi ar yr A4076 i lôn Studdolph yn tueddu i deithio ar gyflymder oddi ar y gerbytffordd 60mya i’r ffordd C. Nodwyd. Bydd unrhyw newidiadau i’r terfynau cyflymder presennol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Traffig Byddwn yn cynghori’n gryf yn erbyn y syniad o adeiladu unrhyw fath o lwybr cyd-ddefnyddio, llwybr beicio, neu lwybr trafnidiaeth heblaw cerbydau ar hyn o bryd, ac yn yr hinsawdd ariannol a daearwleidyddol sydd ohoni. Dylid defnyddio’r arian at ddiben arall. Gallai buddsoddi mewn seilwaith fel llwybr cyd-ddefnyddio a llwybrau beicio ddod â manteision hirdymor, megis hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, lleihau tagfeydd, a chynnal iechyd y cyhoedd. Os ceir cyllid ar gyfer y cynllun hwn ni allwn ei ddefnyddio at ddiben arall gan fod yr arian wedi’i ddyrannu at ddibenion teithio llesol.
Cyffredinol Os bydd y cynllun yn mynd rhagddo, efallai o fewn yr ysgol gallwn annog opsiynau beicio a cherdded mwy diogel. Mae ein Tîm Diogelwch Ffyrdd yn cynnal sgyrsiau diogelwch mewn ysgolion yn rheolaidd. Nid oes unrhyw reswm pam na ellid gwneud hyn pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen. 
Cyffredinol Mae pob llwybr beicio / cerdded yn ddiwerth heb waith cynnal a chadw rheolaidd, ac mae drain yn arwain at dyllau mewn teiars. Mae angen gosod amserlen cynnal a chadw. Rwyf wedi cysylltu â’r cyngor droeon ynghylch malurion ar y llwybrau beicio, a does dim yn cael ei wneud. A dweud y gwir, bydd yn wastraff arian os na chaiff cyllideb ei gweithredu ar gyfer cynnal a chadw rheolaidd. Diolch i chi am gysylltu â’r cyngor gyda’ch pryderon am gynnal a chadw’r llwybrau beicio / cerdded. Byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei drosglwyddo i’r Tîm Cynnal a Chadw.
Cyffredinol Byddai’r llwybr hwn yn fy mhoeni, gan fy mod yn credu y byddai’r cludiant ysgol am ddim yn dod i ben i’r plant sy’n mynychu ysgol uwchradd y dalgylch. Bwriad y cynllun arfaethedig hwn yw cynyddu nifer y cymudwyr teithio llesol. Ni fwriedir iddo ddisodli unrhyw drefniadau cludiant cyhoeddus i’r ysgol. 
Cyffredinol Beth am lwybr troed / llwybr beicio o Waterston i Gylchfan Sentry Cross i gysylltu â’r llwybrau troed yno i Aberdaugleddau a Neyland? Gellid edrych i mewn i hyn ar gyfer cynllun yn y dyfodol ac yn amodol ar gyllid.

 

Diweddariad Mawrth 2025:

Mae’r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2025. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law i gadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu gweithredu.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  •  Adeiladu llwybr cyd-ddefnyddio ar wahân sy’n ffurfio cysylltiad rhwng Steynton a Johnston, ar hyd yr A4076. Mae hwn yn brosiect rhannol ar y cyd rhwng Cyngor Sir Penfro ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru. 
  • Mae Cam 1 (llinell solet las) yn cynnwys ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio, gwelliannau cyffordd a throedffordd rhwng cyffordd Neyland Road tua’r gogledd ar hyd yr A4076 i gysylltu â Cham 2. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.
  • Mae Cam 2 (llinell soley goch) yn ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd yr A4076 gan ddechrau gyferbyn â’r safle bws yn Eglwys San Pedr ac yn cysylltu tua’r gogledd tuag at yr C3024 (mae Hen Heol Bulford tuag at Tiers Cross yn dargyfeirio). Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro. Bydd defnyddwyr yn cael eu cyfeirio ar hyd y llwybrau tawel tuag at Tiers Cross a llwybr cyd-ddefnyddio presennol Heol Bulford, nes bod Cam 3 wedi’i gwblhau.
  • Cam 3 (llinell doriad coch) y llwybr hwn yn y dyfodol fydd y rhan sy’n weddill o’r llwybr cyd-ddefnyddio, rhwng Cam 2 a chylchfan Sunnycroft (A4076). Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau gyda chyllid i’r dyfodol.

Pam ydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Nid oes llwybr teithio llesol uniongyrchol rhwng Johnston ac Aberdaugleddau, er mai hwn yw un o’r llwybrau cymudo a ddefnyddir fwyaf yn Sir Benfro. Ar hyn o bryd, ni all trigolion feicio/cerdded yn ddiogel rhwng y ddwy ardal. Y strategaeth ehangach (Cam 1 a Cham 3) yw gosod llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd yr A4076 i gysylltu’r ddwy ardal. Byddai hyn wedyn yn cysylltu â’r rhwydwaith presennol rhwng Johnston a Hwlffordd.

Mae pentref Steynton i’r gogledd o Aberdaugleddau ac mae ganddo dai ar ddwy ochr y ffordd fawr. Mae lle ar gyfer troedffordd newydd ar ddwy ochr y pentref. Mae’r droedffordd ar yr ochr orllewinol yn lletach ar y cyfan, ac mae ganddi ymyl glaswelltog a fyddai’n fwy addas ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio. Mae gan yr ochr ddwyreiniol oleddf croes serth, ac mae’n llai addas felly. Mae bylchau yn y droedffordd, ac nid oes llwybr beicio sydd wedi’i wahanu oddi wrth y lôn gerbydau. Byddai gweithredu’r cynllun hwn yn creu llwybrau newydd i lenwi bylchau yn y rhwydwaith teithio llesol.

Nod y cynigion yw:

  • Hwyluso’r teithiau llesol rhwng Aberdaugleddau a Johnston a chynyddu nifer y teithiau
  • Darparu mynediad diogel i ffwrdd o gefnffordd yr A4076
  • Cynyddu gweithgarwch corfforol ac annog ffordd iach o fyw
  • Cefnogi’r ymdrech o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio trwy leihau teithiau mewn cerbydau
  • Rhoi cyfle i’r gymuned leol deithio drwy ddulliau teithio llesol

Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn gofyn am eich adborth ar y dyluniadau arfaethedig.

Studdolph gwelliannau

Camai 1-2 Studdolph gwelliannau i`r rhwydwaith teithio lesol

Llwybr cyd-ddefnyddio Steynton i Studdolph lane

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 14eg Chwefror 2025, rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a 6.30pm a 8pm yn Steynton Neuadd Gymuned.

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud 

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 6 wythnos, ac yn cau ar 28ain Mawrth 2025 am hanner nos.

Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn Neuadd y Sir. Mae copïau drwy’r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â’r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif cyswllt uchod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm drwy anfon neges e-bost i majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 764551

ID: 12221, adolygwyd 30/10/2025

Penwallis Blaenoriaeth Bws

Diweddariad Gorffennaf 2025:

Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

 

Ymgynghoriad ar Gynllun Llwybr Bysiau Penwallis

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori 

Prif Themâu (Fe ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Fe ddywedon ni)

Diogelwch Ffyrdd Gosodwyd y bolardiau i atal traffig nas dymunir o’r stadau cyfagos, oherwydd cyn eu gosod, roedd y ffordd yn cael ei defnyddio’n aml gan fechgyn yn eu harddegau yn gyrru cerbydau ar gyflymder peryglus, gan greu amgylchedd anniogel. Byddai cael gwared ar y strydoedd pengaead hyn yn arwain at strydoedd llawn traffig, a fyddai’n lleihau diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig i blant sy’n chwarae yn y stryd. Mae’n bwysig ystyried diogelwch hirdymor trigolion wrth wneud newidiadau i’r seilwaith. Mae un o’r opsiynau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnig llwybr ar gyfer defnydd bysiau yn unig, a gosod giât sy’n rheoli mynediad. Byddai’r gât hon yn cael ei defnyddio gan fysiau a gwasanaethau brys yn unig, gan sicrhau nad oes ffordd llawn traffig yn cael ei greu yn y cynllun hwn.
Parcio Rwy’n pryderu am y difrod posibl i geir sydd wedi’u parcio ar y stryd. Mae llawer o gerbydau, gan gynnwys fy un i, i wedi’u parcio y tu allan i’n cartrefi, a bydd cael bysiau a cherbydau mawr eraill yn defnyddio’r stryd, a all eisoes fod yn brysur gyda cherbydau preswylwyr, yn golygu y bydd hi’n anodd ei defnyddio. Rydym yn cydnabod eich pryderon ynghylch effaith cerbydau mwy, megis bysiau, yn defnyddio strydoedd y mae trigolion yn parcio arnynt, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n dibynnu ar barcio ar y stryd y tu allan i’w cartrefi. O dan y llwybr blaenoriaeth bysiau arfaethedig, dim ond bysiau fyddai’n cael defnyddio’r lôn ddynodedig, a byddai mynediad yn cael ei reoli drwy rwystr. Byddai’r rhwystr hwn naill ai’n cael ei weithredu gan yrwyr bysiau sy’n defnyddio cerdyn mynediad neu drwy system gofrestru rhifau cerbydau. Pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen, dim ond pedwar bws y dydd fyddai’n defnyddio’r llwybr newydd hwn. Yn ogystal, byddai gan y gwasanaethau brys fynediad at y llwybr pan fo angen. 
Parcio Mae gofalwyr ac aelodau teuluoedd sy’n ymweld â thrigolion bregus ar Fryn Llewellyn a Heol Glyndŵr yn aml yn parcio ar y stryd, a byddai’r cyfyngiadau parcio newydd yn creu anawsterau sylweddol iddynt. Diolch i chi am eich pryder. Rydym yn deall y gallai’r cyfyngiadau parcio newydd greu heriau i ofalwyr ac aelodau teuluoedd sy’n ymweld â phreswylwyr bregus ar Fryn Llewellyn a Heol Glyndŵr. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n sicrhau diogelwch a hygyrchedd yr ardal ac ar yr un pryd yn cydbwyso anghenion y gymuned. Byddwn yn edrych yn fanwl ar ddewisiadau eraill posibl i leddfu’r effaith ar y rhai sydd angen ymweld yn rheolaidd.
Parcio Byddai cael gwared ar leoedd parcio yn gostwng prisiau eiddo. Nodwyd; deallwn fod parcio yn ffactor bwysig yng ngwerth eiddo yn yr ardal. Gall gwell llwybrau bysiau gynyddu hygyrchedd, lleihau amseroedd cymudo a gwneud ardaloedd yn fwy dymunol, a all arwain at alw uwch ac o ganlyniad, at werth eiddo uwch. 
Parcio Pe bai’r faniau ceffylau wedi’u parcio a’r ceir nad ydynt yn cael eu defnyddio yn cael eu symud o Dan y Bryn, ni fyddai angen y cynnig hwn. Yn gyffredinol, ni ddylid cadw faniau ceffylau ar y briffordd. Byddwn yn cysylltu â’n tîm gorfodi parcio ynghylch y mater hwn. Os yw’r cerbydau nas defnyddir heb eu trethu, mae yn erbyn y gyfraith eu cadw ar y briffordd gyhoeddus. Dylid hysbysu’r DVLA am gerbydau heb eu trethu, gan nad oes gan yr awdurdod hwn y pŵer i’w symud.
Parcio Pe bai’n cael ei weithredu, ble fydden ni, fel trigolion lleol, yn parcio? Byddai’r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i ni ildio ein mannau parcio er mwyn ailagor yr ardal. Ni fyddai unrhyw feysydd parcio swyddogol yn cael eu dileu. 
Parcio Mae llinellau melyn dwbl yn cael eu cynnig ar gyfer Bryn Llewellyn, lle mae trigolion yn dibynnu ar barcio ar y stryd ar gyfer cerbydau personol a gwaith, heb unrhyw opsiynau parcio eraill gerllaw. Yn amodol ar y gorchymyn rheoleiddio traffig, mae llinellau melyn dwbl yn cael eu cynnig er mwyn atal ceir rhag parcio yng nghyffiniau’r giât fysiau er mwyn caniatáu mynediad rhwydd heb unrhyw rwystrau. 
Cludiant Cyhoeddus Mae yna nifer o arosfannau bysiau gerllaw sy’n cynnig mynediad hawdd i’r holl drigolion heb darfu ar ein cymuned. Mae anfanteision posibl cyflwyno llwybr bws yn llawer mwy nag unrhyw fanteision canfyddedig. Byddai’n effeithio’n negyddol ar ansawdd ein bywyd ac yn peri risg i ddiogelwch ein plant. Nid yw’r llwybr bws presennol yn gwasanaethu ardal Penwallis yn llawn, gan gyfyngu ar fynediad i drigolion, yn enwedig y rhai â symudedd cyfyngedig. Nod y cynnig hwn yw ymestyn y llwybr bysiau i wasanaethu’r gymuned hon yn well, gan ddarparu mwy o hygyrchedd i unigolion a allai ei chael yn anodd cyrraedd safleoedd bysiau eraill. Dim ond pedair taith ddyddiol y byddai’r llwybr arfaethedig yn ei olygu.
Ar hyn o bryd, mae angen i’r bws droi o amgylch yn Heol Glyndŵr, symudiad sy’n achosi perygl posib o ran diogelwch ffyrdd. Trwy ddileu’r symudiad troi hwn, bydd y cynnig yn cyfrannu at lif traffig mwy diogel ac yn lleihau’r tebygolrwydd o ddamweiniau neu ddigwyddiadau a achosir gan y symudiad hwn.
Cludiant Cyhoeddus Rwyf yn pryderu na fyddai’r giât fysiau’n cael ei chynnal a’i chadw drwy ei hagor i bob cerbyd. Fel rhan o’r broses fidio, bydd angen cynnwys gwaith cynnal a chadw er mwyn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ni fwriedir i’r gât fysiau arfaethedig gael ei defnyddio gan bob cerbyd; bydd yn cael ei dynodi’n benodol at ddefnydd y gwasanaeth bysiau a’r gwasanaethau brys yn unig.
Cludiant Cyhoeddus Mae’n teimlo bod ceisiadau am drafnidiaeth gyhoeddus trigolion eraill yn cael eu hystyried ymhell uwchlaw trigolion Bryn Llywelyn a Heol Caradog, sef y bobl y bydd hyn mewn gwirionedd yn eu heffeithio. Mae’r awdurdod hwn yn ymchwilio i’r cynllun ailgyfeirio mewn ymateb i geisiadau i ymestyn gwasanaeth bws 410 y dref i gynnwys Penwallis a’r ardaloedd cyfagos. Mae’n hanfodol bod gan bob aelod o’r gymuned fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus leol yn eu hardaloedd priodol.
Cludiant Cyhoeddus Byddai’n hawdd hwyluso’r llwybr bws heb dynnu’r bolardiau. Heb gael gwared ar y pyst, ni all y llwybr presennol wasanaethu ardal Penwallis. Ar hyn o bryd, mae angen i’r bws droi o amgylch yn Heol Glyndŵr, symudiad sy’n achosi perygl posib o ran diogelwch ffyrdd. Trwy ddileu’r symudiad troi hwn, bydd y cynnig yn cyfrannu at lif traffig mwy diogel ac yn lleihau’r tebygolrwydd o ddamweiniau neu ddigwyddiadau a achosir gan y symudiad hwn.
Cludiant Cyhoeddus Mae’n annhebygol y bydd angen i mi deithio i/o ardal Penwallis. Fodd bynnag, gan fod llwybr bws 410 hefyd yn cysylltu Abergwaun ag Wdig a Harbwr Abergwaun (rhannau o’r llwybr yr wyf yn eu defnyddio’n achlysurol) efallai y bydd effeithiau dilynol ar amseriad a/neu amlder bysiau ar y rhannau hynny. Os felly, gallai hynny fy annog i wneud mwy o ddefnydd o’r rhan honno o wasanaeth 410. Pe bai’r cynnig yn mynd rhagddo, bydd angen addasu’r amserlen i ddarparu ar gyfer y llwybr newydd a’r safle bws ychwanegol. Fodd bynnag, ni ragwelir y bydd newid sylweddol yn yr amser teithio cyffredinol.
Cludiant Cyhoeddus A ydych yn mynd i orfodi hyn ar stadau eraill lle mae’n rhaid i’r bws droi o amgylch?  Ar hyn o bryd, dim ond ar ardal Penwallis yr ydym yn canolbwyntio. Gellid ystyried ymchwilio ymhellach i wella’r llwybr, yn enwedig lle mae’n rhaid i’r bws droi o amgylch mewn lleoliadau eraill, gyda chyllid yn y dyfodol.
Cludiant Cyhoeddus Pam na all y bws fynd i fyny Dan y Bryn fel y mae ar hyn o bryd, heb unrhyw newidiadau, a gwneud yr un peth i fyny’r Wallis heb fod angen gwario unrhyw arian ychwanegol. Mae gwelliannau’n cael eu hystyried i greu gwasanaeth mwy diogel a hawdd ei ddefnyddio. 
Cludiant Cyhoeddus Rydym wedi llwyddo heb y llwybr bws hwn am yr holl flynyddoedd hyn, beth sydd wedi newid a pham fod ei angen arnom yn awr?  Mae annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, megis bysiau, yn hanfodol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a theg. Drwy leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat, gallwn fynd i’r afael â sawl mater dybryd fel allyriadau carbon, tagfeydd traffig, a’r baich ariannol o fod yn berchen ar gerbyd a’i gynnal a’i gadw. Hefyd, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig nifer o fanteision iechyd, megis lleihau llygredd aer ac annog teithio llesol.Yn achos Abergwaun ac Wdig, mae’r 17.3% (Cyfrifiad 2021) o drigolion heb fynediad at gerbyd preifat yn amlygu pa mor hanfodol yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer darparu symudedd i’r rhai a allai fod wedi’u hynysu fel arall. Mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn sicrhau mwy o hygyrchedd, gan alluogi pobl o bob cefndir, waeth beth fo’u hincwm neu allu corfforol, i symud o gwmpas yn hawdd.
Cludiant Cyhoeddus Rwyf yn amheus y bydd y cynllun hwn yn cynyddu nifer y teithwyr o fwy na llond llaw ar gyfer rhai teithiau, ar y gorau, o ystyried bod y dref mor agos sy’n golygu bod cerdded i mewn i’r dref yn daith mor fyr i lawer, prin yw gwerth y daith bws, ac mae nifer y gwasanaethau cyfleus yn gyfyngedig. Cynhaliwyd ymgynghoriad wyneb yn wyneb ar y bws i gael adborth gan deithwyr, mae 25% o’r ymatebwyr yn credu y bydd yr ailgyfeirio arfaethedig ac ychwanegu safle bws yn effeithio’n gadarnhaol ar eu taith, gan ddangos bod cefnogaeth i wella hygyrchedd a hwylustod i deithwyr. Nod y cynnig hwn yw ymestyn y llwybr bysiau i wasanaethu’r gymuned hon yn well, gan ddarparu mwy o hygyrchedd i unigolion a allai ei chael yn anodd cyrraedd safleoedd bysiau eraill.
Cludiant Cyhoeddus Pam na allech chi ddefnyddio bws llai? Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth bws 410 yn darparu tua 130 o deithiau teithwyr y dydd ar gyfartaledd. Mae disgwyl i ymestyn y llwybr i gynnwys ardal Penwallis ddenu mwy o ddefnyddwyr. Felly, ni fyddai cerbyd llai yn ddigonol ar gyfer y cynnydd yn y galw.
Cludiant Cyhoeddus Rwyf yn gweld bysiau gwag yn Abergwaun.  Yn ôl y broses ymgynghori cyhoeddus, byddai 20% o’r ymatebwyr yn fwy tebygol o ddefnyddio’r bws yn amlach pe bai’r cynnig yn cael ei weithredu. Mae hyn yn dangos y gallai ymestyn y llwybr bws ac ychwanegu arhosfan ychwanegol gynyddu nifer y teithwyr o bosibl, gan wella ymhellach fanteision trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach wyneb yn wyneb ar y bws gan ddangos bod 80% o deithwyr yn defnyddio’r bws yn ddyddiol. Mae hwn yn fewnwelediad pwysig, gan ei fod yn amlygu bod cyfran helaeth o’r gymuned eisoes yn dibynnu ar y gwasanaeth bws yn rheolaidd. Ar gyfer y teithwyr hyn, gallai gwella hygyrchedd a hwylustod drwy estyniadau llwybrau ac arosfannau ychwanegol helpu i wneud eu cymudo dyddiol hyd yn oed yn haws.
Cludiant Cyhoeddus Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyrru cerbyd, felly ni allaf weld sut y gellir cyfiawnhau’r cynnwrf hwn ar gyfer cynnydd bach iawn, os cynnydd o gwbl, yn y defnydd o wasanaethau bysiau. Yn achos Abergwaun ac Wdig, nid oes gan 17.3% o drigolion fynediad at gerbyd preifat (Cyfrifiad 2021). Mae hyn yn amlygu pa mor hanfodol yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer darparu symudedd i’r rhai a allai fod wedi’u hynysu fel arall. Mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn sicrhau mwy o hygyrchedd, gan alluogi pobl o bob cefndir, waeth beth fo’u hincwm neu allu corfforol, i symud o gwmpas yn hawdd.
Tagfeydd Mae’r troad S o Fryn Llewelyn sy’n arwain at Heol Caradog eisoes yn gornel gul a heriol, sy’n gwneud i mi gredu y bydd y tagfeydd a’r problemau o ganlyniad yn sylweddol. Bydd asesiad o sut mae cerbydau yn symud ar hyd y strydoedd yn cael ei gynnal i sicrhau bod digon o le i fws symud heb achosi unrhyw dagfeydd.
Tagfeydd Pam fyddech chi am wneud stryd dawelaf Abergwaun yn un llawn traffig bob awr o’r dydd. Gyda dim ond pedair taith bws ychwanegol y dydd, ni ddylai’r ailgyfeirio gael fawr o effaith ar dagfeydd traffig. 
Tagfeydd Mae preswylwyr, gan gynnwys fi fy hun, yn parcio y tu allan i’n cartrefi, a bydd y tagfeydd ychwanegol gan fysiau a phobl sy’n defnyddio ein stryd fel llwybr byr yn arwain at ddifrod a mwy o elyniaeth. O dan y llwybr blaenoriaeth bysiau arfaethedig, dim ond bysiau fyddai’n cael defnyddio’r lôn ddynodedig, a byddai mynediad yn cael ei reoli drwy rwystr. Byddai’r rhwystr hwn naill ai’n cael ei weithredu gan yrwyr bysiau sy’n defnyddio cerdyn mynediad neu drwy system gofrestru rhifau cerbydau. Pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen, dim ond pedwar bws y dydd fyddai’n defnyddio’r llwybr newydd hwn. Yn ogystal, byddai gan y gwasanaethau brys fynediad at y llwybr pan fo angen. Felly, ni ddylai’r ailgyfeirio gael fawr o effaith ar dagfeydd traffig. 
Cyffredinol Nid yw’r cynnig hwn yn cynnig unrhyw fuddion; yn lle hynny, bydd yn arwain at fwy o draffig, sŵn a llygredd. Mae annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, megis bysiau, yn hanfodol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a theg. Drwy leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat, gallwn fynd i’r afael â sawl mater dybryd fel allyriadau carbon, tagfeydd traffig, a’r baich ariannol o fod yn berchen ar gerbyd a’i gynnal a’i gadw. Hefyd, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig nifer o fanteision iechyd, megis lleihau llygredd aer ac annog teithio llesol.
Cyffredinol Sut y bydd lledu’r ffordd yn gweithio gyda thai ar y ddwy ochr? Ydych chi’n bwriadu symud y palmant yn gyfan gwbl? Nid oes angen dileu unrhyw lwybrau troed cyfagos. 
Cyffredinol Gyda’r cynigion hyn, unwaith eto bydd yn rhaid i drigolion ddioddef ymddygiad di-hid a diangen – sut y mae hyn yn syniad da? Rydym yn cymryd eich bod yn cyfeirio at bobl sy’n defnyddio’r ffordd fel ffordd osgoi traffig. O dan y llwybr blaenoriaeth bysiau arfaethedig, dim ond bysiau fyddai’n cael defnyddio’r lôn ddynodedig, a byddai mynediad yn cael ei reoli drwy rwystr. Byddai’r rhwystr hwn naill ai’n cael ei weithredu gan yrwyr bysiau sy’n defnyddio cerdyn mynediad neu drwy system gofrestru rhifau cerbydau. Yn ogystal, bydd gan y gwasanaethau brys hefyd fynediad at y llwybr pan fo angen. 
Cyffredinol Bydd cyflwyno llwybr bws yn debygol o leihau gwerth eiddo ar hyd Heol Caradog, Bryn Llewellyn, a’r ardaloedd cyfagos. Mae pobl sy’n symud i’r rhan hon o Abergwaun yn aml yn gwneud hynny oherwydd yr amgylchedd tawelach sy’n ystyriol o deuluoedd. Gallai’r newid yn natur y strydoedd hyn gymell prynwyr y dyfodol i beidio â phrynu tai yma a gwneud yr ardal yn llai deniadol, gan arwain at ganlyniadau ariannol i berchnogion tai presennol.  Nodwyd, gall gwell llwybrau bysiau gynyddu hygyrchedd, lleihau amseroedd cymudo a gwneud ardaloedd yn fwy dymunol, a all arwain at alw uwch ac o ganlyniad, at werth eiddo uwch. 
Cyffredinol Mae llawer o dyllau yn y ddwy ffordd ystad hyn. Rydym wedi cyflwyno adroddiadau amdanynt sawl gwaith ac nid oes dim wedi’i wneud.  Nodwyd, bydd hwn yn cael ei drosglwyddo i sylw adran cynnal a chadw’r ardal. 
Cyffredinol Mae gan breswylwyr yn yr eiddo isaf dramwyfeydd y mae angen mynediad iddynt bob amser. A yw hyn yn gyfleus iddynt? Neu a fyddant yn dioddef anghyfleustra am yr hyn y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn syniad chwerthinllyd beth bynnag. Ni fyddai unrhyw ran o’r cynnig yn cau nac yn achosi rhwystr i dramwyfeydd trigolion. 
Cyffredinol Mae plant yn chwarae yn yr awyr agored ar y llain laswellt. Bydd lledu’r ffordd yn sicrhau na all y plant chwarae yn yr awyr agored, a heb ddim arall i’w wneud ar y stryd sut ydych chi’n disgwyl i’r plant chwarae yn yr awyr agored mewn amgylchedd diogel? Nodir eich pryderon am ddiogelwch a llesiant plant sy’n chwarae yn yr awyr agored. Mae’n hollbwysig ein bod yn ystyried effaith unrhyw newidiadau ar y gymuned, yn enwedig pan ddaw’n fater o ddarparu mannau diogel i blant.
Cyffredinol Rydym wedi dioddef difrod i’n heiddo a’n ceir, gyda’r cynnig bydd hyn ond yn gwaethygu. Os bydd hyn yn digwydd eto, byddwn yn cyflwyno hawliad cyfreithiol i’r cyngor.  Rydym yn deall yn llwyr y rhwystredigaeth a’r pryder ynghylch y difrod i’ch eiddo a’ch cerbydau. Mae’n hanfodol bod eich diogelwch a diogelu eich eiddo yn cael eu cymryd o ddifrif. Pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo, a cheir unrhyw ddifrod i’ch cerbydau neu eiddo o ganlyniad i’r bws, byddai gennych hawl i gyflwyno cwyn swyddogol i’r cyngor.
Cyffredinol Pe bai’r cynnig hwn yn mynd rhagddo a fyddai’n arwain at ostyngiad yn ein treth gyngor? Pe bai’r cynllun hwn yn mynd rhagddo yna bydd yn welliant i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ac ni fydd yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar y dreth gyngor. Mae band treth gyngor eich eiddo yn seiliedig ar werth marchnad eich eiddo ar 1 Ebrill 2003. Ni fydd hyn yn newid o ganlyniad i’r mesur blaenoriaeth bysiau hwn sy’n mynd rhagddo. 
Cyffredinol Mae Heol Caradog a’r ardal gyfagos yn gartref i fannau gwyrdd a bywyd gwyllt, a bydd y gwaith adeiladu a’r cynnydd yn y traffig a gynhyrchir gyda’r cynnig hwn yn tarfu ar hyn.  Pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo bydd arolwg ecolegol llawn yn cael ei gynnal, rydym hefyd yn ymgynghori â thîm bioamrywiaeth yr awdurdod hwn a fydd yn rhoi cyngor yn unol â hynny. 
Cyffredinol Mae gan fy nhŷ wal y gallwch chi ond edrych drosti gyda cherbyd uchel (fel bws) felly bydd fy mhreifatrwydd a phreifatrwydd fy nheulu yn cael ei darfu. Nodwyd, rydym yn deall yn llwyr eich pryder am eich preifatrwydd chi a’ch teulu. Mae’n bwysig teimlo’n ddiogel ac yn breifat yn eich cartref eich hun. Dim ond pedair gwaith y dydd y byddai’r bws a ailgyfeiriwyd yn mynd heibio.
Cyffredinol Mae Heol Caradog a Bryn Llewellyn yn gymunedau bach, heddychlon a chlos, a bydd rhedeg bysiau drwyddynt yn newid hynny’n ddiwrthdro i’r rhai ohonom sydd wedi gwneud y cymunedau hyn yn gartrefi i ni. Mae strydoedd pengaead Bryn Llewellyn a Heol Glyndwr yn darparu lleoedd i blant y cymunedau hyn allu chwarae gyda’i gilydd heb orfod ofni traffig. Maent yn fan cyfarfod tawel i’r trigolion hŷn sefyll a siarad yn ogystal â man gwyrdd i drigolion y bythynnod ymddeol edrych allan arno.  Nodir eich pryderon am ddiogelwch a llesiant plant sy’n chwarae yn yr awyr agored. Mae’n hollbwysig ein bod yn ystyried effaith unrhyw newidiadau ar y gymuned, yn enwedig pan ddaw’n fater o ddarparu mannau diogel i blant. Dim ond pedair gwaith y dydd y byddai’r bws a ailgyfeiriwyd yn mynd heibio.
Cyffredinol Mae’n amhosibl i fws sy’n mynd i fyny rhywle mor serth â Bryn Llewellyn ac o amgylch y gornel ar y brig wneud hynny heb daro nifer o gerbydau eraill sawl gwaith yr wythnos.  Byddai geometreg y briffordd gyhoeddus yn cael ei hasesu, a mesurau’n cael eu cymryd i sicrhau bod mynediad ar hyd unrhyw lwybr a enwebwyd yn gyraeddadwy.
Traffig Byddai agor Heol Caradog a Bryn Llewellyn i draffig trwodd yn debygol o ddenu amrywiaeth o gerbydau, gan gynnwys cerbydau fferm a thractorau, fel llwybr byr rhwng Llanychaer a Scleddau. Mae ffermwyr yn aml yn gweithio oriau anghymdeithasol, sy’n golygu y gallai peiriannau trwm a thractorau fod yn defnyddio’r strydoedd hyn yn gynnar neu’n hwyr, gan ychwanegu at aflonyddwch sŵn ac amharu ymhellach ar yr amgylchedd preswyl. Byddai’r cynnydd mewn traffig yn ychwanegu traul ar ffyrdd na chawsant eu hadeiladu ar gyfer defnydd aml gan beiriannau trwm. Mae un o’r opsiynau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnig llwybr ar gyfer defnydd bysiau yn unig, a gosod giât sy’n rheoli mynediad. Byddai’r gât hon yn cael ei defnyddio gan fysiau a gwasanaethau brys yn unig; ni fwriedir iddi gael ei defnyddio gan gerbydau amaethyddol mawr.
Traffig Mae gwahanol fathau o gerbydau yn dosbarthu nwyddau’n llwyddiannus yn yr ardal e.e. faniau archfarchnad, lorïau sbwriel sy’n troi o amgylch yn hawdd iawn.  Efallai y bydd cerbydau eraill yn gallu troi o amgylch yn hawdd, credwn ei bod yn bwysig ystyried diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Gallai caniatáu i fws barhau i symud fel hyn greu peryglon, yn enwedig i gerddwyr a cherbydau llai. Ein gobaith yw dod o hyd i ateb sy’n lliniaru’r risgiau a achosir gan gerbydau mor fawr yn troi, gan sicrhau diogelwch cyffredinol y ffordd i bawb.

 

Diweddariad Rhagfyr 2024:

Mae’r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r holl adborth a dderbyniwyd. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law i gadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol: 

  • Agor y ffordd bengaead bresennol ar Heol Caradog i Dan y Bryn a Heol Glyndwr.
  • Newid llwybr bws rhif 410 i ddilyn Heol Preseli, Penwallis, Heol Caradog, Dan y Bryn er mwyn gwasanaethu’r safle bws ar Heol Glyndwr. 

Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn? 

Nid yw’r llwybr bws presennol o amgylch Penwallis yn effeithlon. Mae cynllun y ffordd yn cynnwys dwy ffordd bengaead sy'n golygu bod angen i fws 410 facio’n ôl a newid cyfeiriad yng nghanol ei lwybr, ger Heol Glyndŵr. Mae hyn yn golygu nad oes digon o amser iddo wasanaethu Penwallis.

Mae'r cynigion yn cynnwys agor y terfynau terfyn presennol ar Heol Caradog i Dan y Bryn a Heol Glyndwr.  Byddai hyn yn gwella gwasanaeth Bws 410. Byddai'r llwybr arfaethedig yn dilyn Heol Preseli, yn troi i'r dde i Benwallis, ac yna i'r chwith i Heol Caradog cyn mynd ar hyd Dan y Bryn er mwyn gwasanaethu'r safle bws ar Heol Glyndwr.  

Nod y cynnig yw:

  • Gwella cysylltedd bysiau o fewn yr ystad
  • Cynyddu hygyrchedd a chyfleusterau ar gyfer pobl â symudedd cyfyngedig
  • Gwella amseroedd siwrneiau bws
  • Cynnig dewis arall gwerthfawr yn lle cerdded a/neu ar gyfer y rhai a fyddai fel arfer yn defnyddio cerbyd neu’n dewis cerbyd hurio preifat
  • Gwella diogelwch ar y ffyrdd
  • Gwella ansawdd cyffredinol yr aer a lleihau’r ôl troed carbon, gan gyfrannu at Gymru iachach drwy annog pobl i adael eu cerbydau gartref 

Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld a mae copïau caled ar gael yn Neuadd y Sir

Opsiwn 1 - Bryn Llewllyn system unffordd - Blaenoriaeth bysiau Penwallis

Opsiwn 2 - Bryn Llewllyn unffordd gyda rheolaeth mynediad - blaenoriaeth bysiau Penwallis

Opsiwn 1 - Heol Caradog unffordd - bysiau Penwallis

Opsiwn 2 - Heol Caradog - gat bysiau - blaenoriaeth bysiau Penwallis

Cynllun llwybrau bws Penwallis llwybr gwrthod

Llwybrpresennol bws Penwallis gwelliannau

Cynllun - newid llwybr bysiau Penwallis

Safle bws Penwallis - blaenoriaeth bysiau

A gellir ei gyrchu, trwy Dweud eich Dweud, Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 4 wythnos gan ddod i ben ar 29 Tachwedd 2024

Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn Neuadd y Sir. Mae copïau drwy’r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â’r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif cyswllt uchod.

Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld ar ein gwefan a mae copïau caled ar gael yn Neuadd y Sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm drwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455. 

Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau ar 29 Tachwedd 2024 am hanner nos. Diolch am roi o’ch amser i gwblhau'r arolwg hwn.

ID: 12128, adolygwyd 18/07/2025

Llandudloch Teithio Llesol a Gwelliannau i Gysylltedd

Diweddariad Mehefin 2025:

Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

 

Adroddiad ymgynghoriad teithio egniol Llandudoch

 

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori 

Y prif themâu (Yr hyn a ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Yr hyn a wnaethon ni)

Traffig Mae system draffig bresennol Heol Fawr yn iawn fel ag y mae. Mae’r ffordd yn ddigon llydan i ddau gerbyd sy’n dod o gyfeiriadau gwahanol fynd heibio ei gilydd. Pe bai’r cynigion yn mynd yn eu blaen, byddai’r tagfeydd yn ddinistriol i’r pentref cyfan a byddai tagfeydd yn digwydd yn rheolaidd. Mae system draffig bresennol Heol Fawr yn iawn fel ag y mae. Mae’r ffordd yn ddigon llydan i ddau gerbyd sy’n dod o gyfeiriadau gwahanol fynd heibio ei gilydd. Pe bai’r cynigion yn mynd yn eu blaen, byddai’r tagfeydd yn ddinistriol i’r pentref cyfan a byddai tagfeydd yn digwydd yn rheolaidd.
Traffig Ystyriwch y gwasanaethau hanfodol sy’n dibynnu ar ein ffyrdd – ymatebwyr cyntaf, peiriannau tân, ambiwlansys, yr heddlu, ac yn enwedig bad achub yr RNLI. Mewn argyfwng, pan fydd pob eiliad yn cyfrif, gallai rhwystro cerbydau i symud trwyddo yn effeithiol gostio bywydau. Ni ragwelir unrhyw effaith ar y gwasanaethau brys a/neu ymatebwyr cyntaf sy’n gysylltiedig â’r cynllun arfaethedig.
Traffig Ni roddwyd ystyriaeth i hygyrchedd ar gyfer pobl anabl na phobl â symudedd cyfyngedig. Rhoddir ystyriaeth lawn i bob defnyddiwr yn unol â chanllawiau teithio llesol.
Traffig Nid oes cynllun ar gyfer Stryd y Peilot (y flaenoriaeth i’r trigolion) a fydd yn fwy peryglus fyth os caiff cerddwyr eu dargyfeirio i’r llwybr hwnnw tra bydd y llwybr porffor yn cael ei gwblhau. Dylid rhoi sylw i Stryd y Peilot cyn unrhyw waith arall, ac nid ei ddiystyried fel rhywbeth sydd yn ‘rhy anodd’! Ni chynhyrchwyd unrhyw gynlluniau ar gyfer Stryd y Peilot gan ein bod am gael adborth gan y trigolion ynghylch beth yw’r materion a sut y gellir mynd i’r afael â hwy. 
Parcio Mae gwneud y maes parcio yn un talu ac arddangos yn achosi ymwelwyr i barcio yn y pentref ac o’i gwmpas gan nad ydynt am dalu am parcio. Nid yw’r cynllun wedi cynnig unrhyw daliadau am barcio na diwygiadau i drefniadau presennol y maes parcio.
Parcio Mae’n amlwg iawn o’r dogfennau a’r lluniau mai’r un ffactor mawr sy’n cyfrannu at lif cerbydau / cerddwyr yn y ward yw parcio. A oes cynllun i fynd i’r afael â hyn? Mae gan y pentref gynllun unigryw a hanesyddol. Fel gyda phob pentref o’r math hwn, nid oedd cerbydau’n ffactor pan gafodd ei ddatblygu. Felly, mae hyn yn arwain at unrhyw newidiadau yn gorfod ystyried yn llawn y gofod priffordd sydd ar gael. Yn Llandudoch mae trefniant y gerbytffordd a pharcio ar y stryd wedi’u datblygu dros nifer o flynyddoedd o fonitro. Byddai unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol yn cael eu gwrthwynebu. O’r cynlluniau a ddatblygwyd yn wreiddiol mae’r peirianwyr wedi ystyried sut mae’r trefniadau presennol yn gweithio, o symud trwyddo ar y rhan hon o’r gerbytffordd, cyfleoedd i gerbydau fynd heibio ei gilydd, parcio a gofynion cerddwyr. Felly, mae’r cynllun cychwynnol a ddatblygwyd, yn eu hanfod, yn cadw’r trefniadau presennol, wrth ystyried rhannau o’r briffordd y gellid eu hailbennu i greu cyfleusterau i gerddwyr.  
Cerddwyr Nid yw pawb sy’n mynd i’r traeth yn abl ac yn ffit i gerdded dwy filltir o’r pentref. Nid yw’r cynnig hwn yn un da i bobl anabl o gwbl. Mae’r seilwaith presennol yn Llandudoch yn ansafonol ar gyfer y mwyafrif o gerddwyr a’r rhai ag anghenion symudedd. Byddai’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig yn cynnig dewis amgen diogel ar gyfer teithio llesol. I’r rhai sydd efallai’n dymuno, neu’n methu â cherdded pellteroedd hir, mae opsiwn gwasanaeth bws 408 a gwasanaeth Bws Fflecsi ar gael. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Ni fydd y cynnig yn annog mwy o bobl i gerdded / beicio. Mae canlyniadau’r arolwg yn nodi y byddai 46% o’r cyfranogwyr yn cael eu hannog i gerdded a beicio’n amlach ac yn cytuno bod y cynnig yn gwella hygyrchedd i bobl ag anghenion symudedd. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Beth am greu ‘arwyneb cyd-ddefnyddio’ o waelod Heol Fawr (lle mae’r llwybr pren yn cychwyn) a pharhau ag ef hyd at y man lle’r ydych wedi’i ddangos yn terfynu yn Feidr Fawr? Bydd y cynnig yn creu llwybr cyd-ddefnyddio yn raddol o Landudoch i draeth Poppit pan fydd wedi’i gwblhau. Gellir ymchwilio ymhellach i’r cyfeiriad arall tuag at Aberteifi yn y dyfodol.
Llwybr cyd-ddefnyddio Bydd llwybr cyd-ddefnyddio i gerddwyr a beiciau yn beryglus i’r cerddwyr, a bydd y beiciau’n cymryd drosodd.  Mae angen parch gan bob defnyddiwr o wahanol foddau; rhaid rhannu cyfleusterau a rennir. Gellir gosod arwyddion ychwanegol ‘rhannwch â gofal’ ar hyd y llwybr.
Llwybr cyd-ddefnyddio Bydd yn rhaid i lwybr cyd-ddefnyddio fod yn hygyrch i ddefnyddiwr cadair olwyn, ond yn gyffredinol, efallai na fydd pobl ag amhariad ar eu clyw yn hoffi’r llwybrau cyd-ddefnyddio gan na allant glywed beiciau yn dod heibio. Mae’n ofynnol i holl ddefnyddwyr llwybr cyd-ddefnyddio barchu dulliau eraill a rhyngweithio’n briodol, fel y byddent ar unrhyw briffordd gyhoeddus arall.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae angen i lwybrau cyd-ddefnyddio fod yn llydan i weithredu’n iawn. Mae’r cynllun wedi’i gynhyrchu yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd a’r Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd. Caniateir gwyro oddi wrth y lled safonol o fewn amrywiad lleol, yn dibynnu ar yr amgylchedd lleol.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae cyd-ddefnyddio yn dibynnu ar gwrteisi defnyddwyr eraill. Enghraifft – Mae’r cerddwyr sy’n cerdded o Aberteifi i’r Ganolfan Bywyd Gwyllt / Cilgerran yn rhannu’r llwybr â beicwyr, a gall hyn waethygu pethau, gan ei bod yn ymddangos bod beicwyr wedi arddel y syniad bod eu cyflymder yn rhoi blaenoriaeth iddynt. Mae angen parch gan bob defnyddiwr o wahanol foddau; rhaid rhannu cyfleusterau a rennir. Gellir gosod arwyddion ychwanegol ‘rhannwch â gofal’ ar hyd y llwybr.
Llwybr cyd-ddefnyddio Y cyffyrdd ar gyfer mynd i mewn ac allan o unrhyw lwybr cyd-ddefnyddio yn ôl i’r ffordd brysur i Poppit neu ffordd brysur Heol Fawr. Mae angen i’r rheini fod wedi’u cynllunio’n dda iawn i sicrhau bod unrhyw un sydd â nam ar eu golwg, ag amhariad ar y clyw, yn defnyddio cadair olwyn neu’n bobl ifanc yn cael eu gweld yn iawn yn ogystal â gallu gweld pob ongl yn llawn. Ar hyn o bryd mae pob cyffordd debyg i mewn ac allan o lwybrau troed yn ofnadwy o ran gwelededd a diogelwch ar ffyrdd lle nad yw gyrwyr yn cadw at y terfyn 20 mya.   Mae’r cynllun wedi’i gynhyrchu yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd a’r Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd. Gellir gosod arwyddion ymlaen llaw bod cerddwyr / beicwyr yn y cyffiniau er mwyn rhybuddio modurwyr o symudiadau yn yr ardal.
Llwybr cyd-ddefnyddio Rwy’n croesawu’n fawr ymdrechion Cyngor Sir Penfro yma, sydd wedi bod yn angenrheidiol ers tro, ac yn enwedig nawr bod y sefyllfa draffig yn Llandudoch yn gwaethygu. Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennyf ddweud nad yw’r naill na’r llall o’r llwybrau hyn yn foddhaol ar gyfer ‘cyd-ddefnyddio’, boed yn gerddwyr neu feicwyr. Mae gan y ddau lwybr ddwy swyddogaeth – ar gyfer symud o amgylch gogledd y pentref, ac fel llwybrau i Poppit, Cipin, Cemais ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Cynlluniwyd y llwybrau yn unol â chanllawiau teithio llesol a byddant yn hwyluso teithio llesol a symud i gerddwyr rhwng Llandudoch a thraeth Poppit. Byddant hefyd yn darparu llwybrau mwy diogel, i ffwrdd wrth gerbydau, i bobl leol ac ymwelwyr i symud o gwmpas o fewn yr ardal.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae gan Landudoch boblogaeth sy’n heneiddio sydd unai ddim yn reidio beiciau neu ddim yn gallu reidio beiciau. Mae teithio llesol a’r defnydd o lwybr cyd-ddefnyddio ar gyfer pob oedran a chenedlaethau’r dyfodol. Croesewir hefyd y llwybr cyd-ddefnyddio i’w gael ei ddefnyddio gan ymwelwyr a’r rhai a allai ddymuno marchogaeth ceffyl, ond nad ydynt yn gwneud ar hyn o bryd oherwydd diffyg seilwaith.
Llwybr cyd-ddefnyddio Gyda lleoedd culach ar gyfer cerbydau a cherddwyr, efallai y byddwn yn anfwriadol yn creu sefyllfaoedd peryglus wrth i feicwyr ddod yn bryderus ynghylch llywio drwy’r ardal, a allai arwain at ddamweiniau. Bydd unrhyw gulhau o fewn y gerbytffordd yn unol â chanllawiau teithio llesol. Cânt eu culhau er mwyn osgoi gwrthdaro. Mae hyn hefyd yn arafu traffig ac yn gwella ymwybyddiaeth gyrwyr, gan adael defnyddwyr mwy agored i niwed gael blaenoriaeth uwch.
Llwybr cyd-ddefnyddio A fydd yn rhaid i Cyngor Sir Penfro newid deddfwriaeth i ganiatáu beicio ar lwybrau troed? Nid llwybr troed yw hwn; llwybr cyd-ddefnyddio ydyw. Felly, ni fydd angen newid unrhyw ddeddfwriaeth gan y bydd beicio’n cael ei groesawu. 
Trafnidiaeth gyhoeddus Mae’r Poppit Rocket wedi cael ei atal, mae’r Bws Fflecsi yn ddryslyd, ac mae’n ymddangos mai teithio mewn car yw’r unig opsiwn yng nghefn gwlad Sir Benfro. Mae angen gwelliannau pellach i drafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Benfro. Mae’r broses ddiwygio a masnachfreinio gwasanaethau bws ar y gweill ar hyn o bryd fel rhan o raglenni Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer y dyfodol, a bydd hyn yn ceisio mynd i’r afael â’r bylchau yn y gwasanaeth. Ar hyn o bryd, mae’r bws 408 lleol a’r Bws Fflecsi ar gael yn yr ardal. 
Tagfeydd Byddai hyn yn achosi aflonyddwch wrth i’r gwaith fynd rhagddo gan achosi problemau, yn enwedig i’r rhai sy’n byw yn Poppit ac yn gorfod defnyddio’r ffordd drwy’r pentref bob dydd. Byddai asesiad risg llawn yn cael ei gynnal cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau er mwyn lleihau unrhyw aflonyddwch. Mae’r awdurdod hwn fel arfer yn cadw at weithio y tu allan i amseroedd brig y tymor twristiaeth (h.y. y Pasg, gwyliau ysgol) lle mae tagfeydd ar y rhwydwaith yn nodweddiadol uwch.
Tagfeydd Ar hyn o bryd, mae traffig yn naturiol yn ffurfio llif blaenoriaeth i’r ddau gyfeiriad. Credaf y byddai gorfodi traffig i ‘aros’ mewn mannau penodol yn creu mwy o broblemau wrth iddo gronni’n fwy. Byddai system flaenoriaeth ffurfiol yn cael ei gosod, lle gwelir bod hynny’n angenrheidiol yn unig. Roedd y cynlluniau presennol yn dangos opsiwn i’w ystyried ar lefel dichonoldeb yn unig. Bydd sylwadau yn ymwneud â llif traffig yn cael eu hystyried o fewn unrhyw gynlluniau terfynol.
Tagfeydd Dylai goblygiadau amgylcheddol y cynnydd mewn tagfeydd hefyd fod yn bwyslais mawr yn eich proses o wneud penderfyniadau. Gall cynnydd mewn allyriadau cerbydau oherwydd tagfeydd traffig effeithio’n negyddol ar iechyd ein preswylwyr sy’n haeddu’r rhyddid i fwynhau awyr iach yn eu cartrefi. Byddai asesiad effaith amgylcheddol llawn yn cael ei gynnal cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau. Fodd bynnag, ni ragwelir y bydd y cynllun ei hun yn cynyddu llif traffig yn uniongyrchol yn yr ardal.
Llwybr coch – Llwybr pren, Cam 1 Sut y gellir gwneud y llwybr coch (y llwybr pren) yn ddigon llydan heb ddinistrio llawer o goed cyfagos. Hefyd, bydd angen gwaith peirianyddol mawr i greu’r llwybr gantilifrog a ddisgrifir. Byddai asesiad effaith amgylcheddol llawn yn cael ei gynnal cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau. Mae yna hefyd y gofyniad plannu 3:1 lle mae Coed Cadw yn argymell plannu o leiaf dair coeden am bob un a gwympir, neu fel y nodir yn y drwydded cwympo coed. 
Llwybr coch – Llwybr pren, Cam 1 Byddai’n drist iawn pe bai’r llwybr pren yn cael ei osod a’r deunyddiau ddim yn parhau’n hir iawn. Byddwn yn asesu rhychwant oes deunyddiau sy’n briodol i’r ardal ac yn penderfynu beth fydd yn addas yn ystod cyfnod cynllunio manwl.
Llwybr coch – Llwybr pren, Cam 1 Mae llwybr troed y Graig yn gwasanaethu rhan bwysig iawn yn y gymuned heb amharu gormod ar y dirwedd naturiol.  Rwy’n ofni y byddai cynyddu’r galw ar y llwybr hwn a’r cantilifer tair metr a awgrymir yn newid y dirwedd yn gyfan gwbl ac yn mynd i mewn i Stryd y Peilot mewn man lle mae man cyfyng i draffig. Y ddelfryd fyddai cadw’r Graig fel ag y mae, yn llwybr cul i gerddwyr, a’i gynnal a’i gadw rhag erydiad gymaint â phosib, heb amharu gormod arno. Byddai hyn yn cymryd peth o’r pwysau oddi ar Heol Fawr, gan ddarparu ffordd osgoi i gerddwyr megis plant ysgol, cerddwyr cŵn, cymudwyr a cherddwyr llwybr yr arfordir. Mae erydiad y llwybr presennol gan afon Teifi yn tanseilio sefydlogrwydd yr arglawdd, ac ni fydd mynediad i’r llwybr yn bosibl mwyach heb ymyrraeth. Bydd y llwybr cantilifer arfaethedig yn ‘arnofio’ uwchben yr arglawdd ac yn caniatáu cyn lleied â phosibl o darfu ar batrymau naturiol. Byddai’r llwybr arfaethedig yn sicrhau hyfywedd hirdymor y Graig
Llwybr coch – Llwybr pren, Cam 1 Mae’n bosibl y bydd y ramp uchel yn achosi llifogydd i’r tai. Byddai asesiad risg llawn yn cael ei gynnal cyn unrhyw waith adeiladu er mwyn asesu unrhyw broblemau draenio / llifogydd posibl. 
Llwybr coch – Llwybr pren, Cam 1 Bydd y cynigion yn gwneud y clogwyn yn ansefydlog a byddwn yn colli’r Graig fel llwybr troed am byth, er mai dyma’r unig lwybr diogel o ganol Llandudoch i gerddwyr sy’n mynd i ben gogleddol y pentref neu i gerdded Llwybr Arfordir Cymru. Mae erydiad y llwybr presennol gan afon Teifi yn tanseilio sefydlogrwydd yr arglawdd, ac ni fydd mynediad i’r llwybr yn bosibl mwyach heb ymyrraeth. Bydd y llwybr cantilifer arfaethedig yn ‘arnofio’ uwchben yr arglawdd ac yn caniatáu cyn lleied â phosibl o darfu ar batrymau naturiol. Byddai’r llwybr arfaethedig yn sicrhau hyfywedd hirdymor y Graig. Mae ymchwiliadau daearegol hyd yma wedi cadarnhau bod yr arglawdd yn addas i gario pwysau’r llwybr pren arfaethedig.
Llwybr coch – Llwybr pren, Cam 1 Ym mhen gogleddol llwybr troed y Graig mae 18 metr rhwng waliau ac mae’r rhan fwyaf ohono’n llai nag 1.3 metr o led ac nid yw’n cydymffurfio â chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol. Mae’r darn 18 metr hwn rhwng y waliau yn rhy gul i feiciau a cherddwyr i fynd heibio ei gilydd. (Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, adran 9.6.2: ‘Dylid cael lled dirwystr clir o 2.0 metr (lled dymunol lleiaf) ar lwybrau cerdded, a fydd yn caniatáu i ddau ddefnyddiwr cadair olwyn basio ei gilydd. Lle nad yw hyn yn bosibl oherwydd cyfyngiadau ffisegol, dylid cadw lled o 1.5 metr (isafswm) fel y bydd defnyddiwr cadair olwyn a chydymaith ar droed yn gallu teithio ochr yn ochr.’)  Er bod y cynllun cyffredinol wedi’i ddylunio yn unol â chanllawiau teithio llesol, caniateir gwyro oddi wrth y lled lleiaf mewn ardaloedd lle ceir amrywiad lleol. Er mwyn darparu man cychwyn / diwedd clir i’r llwybr, mae pen gogleddol y Graig wedi’i nodi. Mae’n ansafonol o ran lled ar hyn o bryd, ac mae pobl yn ei ddefnyddio i deithio’r llwybr hwn. O fewn y cynllun arfaethedig efallai y gofynnir i feicwyr ddod oddi ar eu beic a disgwylir i bob defnyddiwr ymddwyn yn briodol a pharchu pob defnyddiwr arall.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Mae mor gul. Os daw beic allan o lwybr y Graig i Stryd y Peilot, hyd yn oed os yw’n cael ei wthio, nid oes digon o le i gerddwr wasgu heibio. Bydd yn rhaid i gerddwyr fynd allan o ffordd y beic a chamu’n ôl i’r ffordd – a pheryglu eu bywydau. Mae angen parch gan bob defnyddiwr o wahanol foddau; rhaid rhannu cyfleusterau a rennir. Gellir gosod arwyddion ychwanegol ‘rhannwch â gofal’ ar hyd y llwybr.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Fel ag y mae, mae’r traffig twristiaeth yn drwm iawn yn ystod misoedd yr haf, felly bydd y tagfeydd tebygol a grëwyd gan y cynllun arfaethedig hwn ond yn creu mwy o dagfeydd. Mae’r gorchmynion rheoleiddio traffig presennol yn cael eu cadw, gydag unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn cael eu datblygu i sicrhau y gall traffig basio ei gilydd o fewn rhannau o’r briffordd lle mae lled y gerbytffordd yn ddigonol.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Bydd hyn yn rhwystro mynediad i flaen llawer o dai ar Heol Fawr.  Nid oes unrhyw gynigion i rwystro unrhyw eiddo ar Heol Fawr.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Yn gyffredinol mae Stryd y Peilot yn gul iawn ac mae angen rhywfaint o dawelu traffig, ac mae’n beryglus i ddefnyddwyr ffordd yn enwedig yn ystod y tymor gwyliau. Mae cerbydau masnachol a fferm mawr yn defnyddio’r ffordd hon. A ellid gosod system flaenoriaeth / goleuadau traffig?  Er na fyddai goleuadau traffig yn gweithio yn yr ardal hon, gallai fod y posibilrwydd o gael system blaenoriaethu a/neu fesurau tawelu traffig pellach. Bydd angen trafod hyn gyda’r adran Diogelwch Traffig ar y Ffyrdd. 
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Mae mynediad cerddwyr trwy ganol y pentref yn cael ei gyfyngu gan ddiffyg seilwaith addas. Yn ogystal, nid yw’r diffyg arwyddion ar gyfer llwybrau amgen o fewn y pentref yn gwneud y rhain yn hawdd i’w canfod.  Nodwyd. Byddai gwelliannau i arwyddion yn rhan o’r cynllun.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Nid oes gan drigolion ar Heol Fawr y fantais o barcio oddi ar y ffordd ac felly mae’n rhaid iddynt aros y tu allan i’w cartrefi i lwytho a dadlwytho. Nid yw’n ymddangos bod y cynnig yn ystyried hyn Rydym yn defnyddio lle o fewn y briffordd i ddarparu gwelliant. Ni fydd effaith ar y parcio ad hoc ar gyfer llwytho / dadlwytho ac ni ellir ei warantu.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Fel un o drigolion Heol Fawr, mae’n ymddangos y byddai lleoliad y llif blaenoriaeth yn union o flaen ein tŷ ni.  Yn gyntaf, ni fyddem yn gallu parhau i barcio ein car yma. Byddai hyn yn golygu un car arall yn chwilio am le i barcio, sy’n brin, ar ochr y ffordd yn y pentref. Byddai hefyd yn achosi problemau gyda mynediad. Ar adegau, ni fyddai gennym unrhyw ddewis ond parcio y tu allan, a byddai hynny’n creu anhrefn gyda’r ‘llif traffig rheoledig’. Nid yw’r cynllun terfynol wedi’i gadarnhau eto a bydd yr holl sylwadau’n cael eu hystyried.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Mae angen yr un lefelau arwyneb o ffordd a llwybr troed ar lwybr y pentref am lawer o resymau, nid llwybrau troed wedi’i codi a mannau ildio. Bydd unrhyw welliannau yn cael eu hasesu gydag estheteg y pentref mewn golwg.
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Pe bai angen i’r gwasanaethau brys aros ar Heol Fawr ni fyddai modd i unrhyw gerbydau eraill basio gan y byddai Heol Fawr, gyda phalmentydd ar y naill ochr a’r llall, ond yn caniatáu tua 2,133.6 milimetr, gyda lled ambiwlans yn 2,080 milimetr. Lle mae culhau presennol, byddem yn ystyried gosod seilwaith mewn modd a allai fod yn darparu lle i gyd-ddefnyddio. 
Llwybr porffor – Y pentref, Cam 2 Mae rhai eiddo yn adeiladau rhestredig ar hyd Heol Fawr, ac ni ellir gosod palmentydd o’u blaen. Ni fydd palmentydd yn cael eu gosod mewn ardaloedd sydd â statws adeilad rhestredig. Byddai unrhyw gynlluniau terfynol yn cymryd hyn i ystyriaeth.
Cyffredinol Bydd hyn yn newid cymeriad y pentref er anfantais iddo. Nid yw’r llwybr cyd-ddefnyddio yn debygol o newid cymeriad y pentref ond, yn hytrach, yn gwella’r seilwaith sydd ar gael i’r rhai sy’n dymuno cerdded a beicio.
Cyffredinol Bydd y bwriad yn gostwng gwerth tai gan y bydd yn lleihau’r lle i barcio, ac fel canlyniad ni fydd pobl eisiau eu prynu.  Mae’r parcio ar y stryd yn cael ei gadw; nid ei dynnu i ffwrdd.
Cyffredinol Y mater pwysicaf yw diffyg llwybr teithio llesol diogel rhwng Llandudoch ac Aberteifi. Dyma’r llwybr a fyddai’n cysylltu â sefydliadau addysgol lleol, gwasanaethau, siopau, hyb iechyd Aberteifi ac ati. Dyma’r llwybr a ddefnyddir hefyd ar gyfer Llwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r galw’n enfawr o’i gymharu â theithiau rhwng Llandudoch a thraeth Poppit (sydd â phoblogaeth leol o ryw 50). Mae hawl tramwy sefydledig eisoes ar hyd yr afon rhwng Llandudoch ac Aberteifi, ond mae hwn dan ddŵr pan ddaw’r llanw i mewn. Yr hyn y mae ei angen yw llwybr pren gydag is-strwythur dur yn debyg i’r un sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd ar hyd rhan o Carlingford Lough Greenway yn Newry, Gogledd Iwerddon. Byddai llwybr pren uchel (uwchlaw lefel penllanw) yn galluogi bywyd gwyllt fel dyfrgwn i gael mynediad i’r draethlin. Mae’r cynigion yn cyflwyno llwybr pren ar hyd y llwybr presennol a fydd yn rhan o lwybr strategol ehangach i draeth Poppit. Mae’r llwybr ar y stryd ar hyd Ffordd Llandudoch i Aberteifi yn llwybr sydd eisoes yn bodoli ac yn addas ar gyfer y beicwyr hynny sy’n teimlo’n hyderus. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i chwilio am gysylltiad ag Aberteifi o fewn y cynllun hwn, ond gellir ei ystyried fel cynllun posibl yn y dyfodol. 
Cyffredinol Sut allwch chi leihau dibyniaeth ar geir mewn pentref cefn gwlad sydd filltiroedd o waith pob dydd pobl, yn daith awr o’r ysbyty agosaf, lle nad oes ambiwlansys ar gael, a hyd at ddwy filltir o’r cigydd, y pobydd, y brif siop agosaf, ac sydd â phoblogaeth sy’n heneiddio? Gallai darparu llwybr cyd-ddefnyddio diogel a sicr annog y defnyddwyr hynny sy’n dymuno gwneud teithiau llai yn y pentref ac o’i gwmpas, neu i draeth Poppit, i deithio gan ddefnyddio’r dull teithio llesol, yn hytrach na cherbyd. Nid yw’r cynllun wedi’i gynllunio i gymryd lle’r cerbyd nac i wahardd y rhai sy’n dymuno teithio pellteroedd hwy mewn cerbyd rhag gwneud hynny. Mae’n ymwneud â darparu opsiynau ar gyfer y teithiau byrrach hynny y gellir eu gwneud drwy gerdded neu ar olwynion.
Cyffredinol Bydd busnesau lleol ar eu colled drwy leihau parcio ar Heol Fawr. Mae’r maes parcio ar y stryd yn cael ei gadw.

 

Diweddariad Tachwedd 2024:

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn ystod y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 21ain Hydref 2024. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law yn cadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynnig Llandudloch Teithio Llesol a Gwelliannau i Gysylltedd

Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio tua 645 metr ar hyd ar hyd y Stryd Fawr, Feidr Fawr a Stryd y Peilot (B4546). Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cerddwyr ynghyd â beicwyr. (Llwybr porffor).
  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio tua 460 metr sy’n cysylltu troedffordd Feidr Fach â llwybr cyd-ddefnyddio newydd a llwybr pren cantilifrog i Stryd y Peilot. (Llwybr coch)

 

Gwelliannau Llandudoch Cam 1: canol y pentref a llwybr pren

Gwelliannau Llandudoch Cam 2: llwybrau amgen

Gwelliannau rhwng Llandudoch a thraeth Poppit

Gwelliannau o Landudoch i Draeth Poppit 2

Llandudloch cynlluniau drafft

 

Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Mae Llandudoch yn un o'r cyrchfannau twristiaeth mwyaf poblogaidd yn Sir Benfro ymhlith pobl leol ac ymwelwyr sy’n ymweld â Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae pentref Llandudoch wedi tyfu o gwmpas ei lwybrau hanesyddol sy’n golygu bod y ffyrdd yn gul, ac yn aml mae lle yn gyfyng i gerddwyr. Mae parcio yn her, gyda'r rhan fwyaf o drigolion yn parcio ar y stryd neu mewn mannau parcio cyfyngedig drwy'r pentref. Gall hyn arwain at bwysau ychwanegol ar lif traffig gan greu mannau cyfyng yn y rhwydwaith ffyrdd. Mae diffyg seilwaith digonol hefyd yn cyfyngu ar allu cerddwyr i symud ledled y pentref.

Nod y cynnig yw:

  • Creu cyswllt teithio llesol diogel rhwng Llandudoch a thraeth Poppit
  • Gwella diogelwch ffyrdd i gerddwyr a beicwyr
  • Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau gan gynnwys twristiaeth a hamdden
  • Lleihau lefelau dibyniaeth ar geir, lleihau ôl troed carbon, llygredd a thagfeydd
  • Gwella amgylchedd, iechyd a lles cymdeithasol y gymuned 

Ymgynghoriad cyhoeddus

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 21 Hydref 2024, rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a 6.30pm a 8pm yn Neuadd Goffa Llandudoch.

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud  

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am bedair wythnos, ac yn cau ar 18 Tachwedd 2024 am hanner nos.

Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn Neuadd y Sir. Bydd gan eich cynghorydd sir lleol gopi o'r cynlluniau hefyd. Gallwch ofyn i gael copi trwy’r post trwy gysylltu â’r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif cyswllt uchod. 

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir ei benderfynu’n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455.

Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau ar 18 Tachwedd 2024 am hanner nos. 

ID: 12130, adolygwyd 06/11/2025

Saundersfoot Gwelliannau Teithio Llesol

Diweddariad Mai 2025: 

Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

Ymgynghorias Teithio Llesol Saundersfoot

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm. O 8 Ebrill ymlaen bydd 8 cilfachau parcio 30 munud am ddim yn cael eu gweithredu ar yr Harbwr.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

 

Categori 

Themâu allweddol (Yr hyn a ddywedoch chi)

Ymateb y cyngor (Yr hyn y gwnaethom ni)

Beicio Ni fyddai neb yn seiclo i fyny Bevelin Hall gan ei bod yn rhy serth. Mae graddiannau ar hyd y llwybr wedi’u hasesu, ac er nad ydynt yn cael eu cynnwys o fewn yr hyn sy’n safonol yn y canllawiau teithio llesol, mae yna le i ddatblygu llwybrau y gellir eu defnyddio fel llwybrau cyd-ddefnyddio beth bynnag. Efallai mai ychydig o feicwyr yn unig sy’n defnyddio’r llwybr hwn, ond mae cyfle i’r gwelliant fod er budd cerddwyr a defnyddwyr eraill.
Beicio Mae’n ymddangos bod y safonau a ddyfynnir ar gyfer y cynllun yn argymell priffordd 5.5 metr o led fel lleiafswm, a hefyd lleiafswm o 2.0 metr ar gyfer llwybrau troed. Mae’r safon dylunio yn nodi na ddylai llwybrau beicio gael eu cynnwys pan fydd lled o’r fath os oes llwybrau amgen neu lwybrau cyfochrog. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio yn unol â chanllawiau teithio llesol, sy’n nodi bod safonau dylunio’n cael eu bodloni a’u cymhwyso, o leiaf, oni bai bod rhesymau penodol dros amrywiad lleol. Lle mae lled y llwybr cyd-ddefnyddio a/neu’r briffordd wedi lleihau, rydym wedi cymryd y camau lliniaru angenrheidiol yn ôl yr angen. Nid yw llwybrau amgen yn addas oherwydd maint y traffig, graddiant, a/neu lwybr dymunol. 
Parcio Mae’r cyrbiau newydd sydd wedi’u gosod yn Harbour Court yn rhy uchel y tu allan i’r arcêd ger y safle bws ac mae unigolion yn parcio yn y mannau parcio ar gyfer pobl anabl. Mae’r cyrbau y tu allan i’r arcêd wedi’u dylunio i alluogi teithwyr bws i adael y bws yn haws ac i alluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn i ddefnyddio’r ramp.  Nid yw’r ardal hon yn cael ei hargymell fel man parcio.
Parcio Bydd colli mannau parcio yn cael effaith ar fusnesau ac yn erlid unigolion i ffwrdd o’r dref. Bydd gwasgaru cerbydau drwy’r dref i ffyrdd preswyl yn achosi problemau parcio i drigolion lleol a phroblemau o ran mynediad i gerbydau argyfwng. O’r adborth a gafwyd, bydd gorchmynion rheoleiddio traffig Teras Cambrian yn cael eu cadw; ni fydd hyn yn arwain at golli mannau parcio. Mae dwy gilfan parcio ar gyfer pobl anabl, man llwytho, a chilfannau parcio arhosiad byr bellach wedi’u cadw.
Parcio Cilfannau parcio ar gyfer pobl anabl – Cafwyd gwared ar gilfannau parcio neu fe’u symudwyd i leoliad gwahanol ar gyfer defnyddwyr anabl. Sut y byddwch yn mynd i’r afael â hyn? Mae cilfannau parcio penodol ar gyfer defnyddwyr anabl wedi’u darparu yn Nheras Cambrian (dau fan parcio). Mae dwy gilfan ychwanegol wedi’u darparu ger y safle bws ar Stryd Milford, ger yr arcêd. Yn ogystal, bydd yr Harbwr yn gosod chwe chilfan barcio ychwanegol ar gyfer pobl anabl ger pen y datblygiad sy’n agos at y Strand.
Parcio Gorfodi – Mae’n ymddangos bod diffyg gorfodi ynghylch y materion presennol (parcio ym man llwytho Tesco/igam-ogam). A ellir monitro i asesu pwy sy’n parcio mewn cilfannau parcio ar gyfer pobl anabl? A ellid gosod llinellau melyn i atal parcio Mae’r gwasanaeth gorfodi yn ymweld â Llanusyllt yn rheolaidd ac yn rhoi dirwyon parcio. Ni fyddai’n briodol ‘monitro’ pwy sy’n parcio mewn cilfannau parcio ar gyfer pobl anabl am resymau sy’n ymwneud â diogelu data. Gellir ystyried llinellau melyn ar gyfer ardaloedd lle mae unigolion yn parcio ar linellau melyn dwbl yn rheolaidd (h.y. ger yr ysgol).
Parcio Mannau llwytho – Mae ar fusnesau angen cyfleusterau llwytho cyfagos ar gyfer nwyddau trwm. Mae cerbydau nwyddau trwm yn parcio ar droedffyrdd Teras Cambrian. Sut fydd y busnesau’n cael eu gwasanaethu o ystyried y diwylliant caffi? Bydd y man llwytho ar Deras Cambrian yn cael ei gadw. Gallai hyn, ynghyd â mannau llwytho eraill, fod yn hyblyg o ran defnydd neu â chyfyngiadau amser i sicrhau bod y cilfannau parcio ar gael ar gyfer parcio am amser byr drwy gydol y dydd, yn amodol ar ymgynghoriad statudol. Ar hyn o bryd mae ardal Hean yn cael ei hystyried mewn astudiaeth bellach ar gyfer gwelliannau i’r gyffordd a’r seilwaith.
Parcio A ellid ystyried cynllun parcio a theithio yn ardal y farchnad ger cylchfan New Hedges? Nid yw hyn yn rhan o gwmpas y cynllun hwn.
Cerddwr Heol Stammers – Nid oes angen cael gwared ar y croesfannau â goleuadau traffig. Mae’r groesfan â’r goleuadau traffig wedi’i thynnu, a gosodwyd croesfan twcan yn nes at Heol Stammers. Gan fod y llwybr cyd-ddefnyddio wedi ei osod, y cerbytffordd wedi’i chulhau i 5 metr o led, a gan fod croesfan sebra ar y gylchfan, nid oes angen y groesfan â goleuadau traffig yn y lleoliad hwn mwyach. Bydd cael gwared arni yn caniatáu mwy o gilfannau parcio yn yr ardal hon.
Cerddwr Y Ridgeway i mewn i’r pentref – Mae’r droedffordd yn gul iawn heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn / cadeiriau gwthio. A ellid gwella hyn? Mae gwelliannau i’r Ridgeway yn cael eu hasesu ar hyn o bryd o fewn cwmpas astudiaeth ar wahân.
Cerddwr Y Strand – A ellir gosod troedffordd yr ochr draw i’r ffordd?  Oherwydd natur gul y Strand, nid oes lle i gynnwys troedffordd ar yr ochr ddeheuol a chadw traffig dwyffordd.
Cerddwr Mae’r groesfan sebra ar ben gogleddol y teras, sydd wedi’i lleoli ar drofa yn y ffordd lle mae’n anodd edrych o gwmpas, yn beryglus. Mae traffig yn dod i lawr y Stryd Fawr yn gyflym, ac oni cheir rhyw fath o fesur i ostegu traffig credaf y byddai mwy o berygl i gerddwyr. Bydd y groesfan sebra uwch yn y lleoliad hwn yn arafu traffig sy’n troi i mewn i Deras Cambrian. Bydd arwyddion ymlaen llaw, ar hyd pob dynesiad, yn rhybuddio gyrwyr am gynllun newydd y gyffordd. Caiff goryrru ei reoleiddio gan yr arwydd, ac yn yr amgylchedd adeiledig mae terfyn cyflymder o 20mya. Nid oes tystiolaeth o ganfyddiad o gyflymder cerbydau, ond dylid cyfeirio unrhyw arsylwadau o oryrru a/neu yrru amhriodol at yr heddlu i’w gorfodi. 
Llwybr cyd-ddefnyddio A allai’r llwybr cyd-ddefnyddio fynd drwy Stryd Milford, y Stryd Fawr, a’r Strand? Byddai’r graddiant ar hyd Stryd Milford a’r Stryd Fawr yn gwneud y llwybr yn llai o atyniad i lawer o ddefnyddwyr. Mae’r llwybr arfaethedig ar hyd y graddiant mwyaf priodol sydd ar gael yn yr ardal, ac ar hyd y llwybr dymunol i lawer o ddefnyddwyr.
Llwybr cyd-ddefnyddio Peidiwch ag anghofio rhedwyr hefyd – rydyn ni’n rhedeg ar hyd y llwybr hwn weithiau, ond mae’n beryglus ar y rhannau sydd heb balmant. Gall rhedwyr ddefnyddio’r llwybr cyd-ddefnyddio ynghyd â cherddwyr, olwynwyr a beicwyr.
Llwybr cyd-ddefnyddio Roedd y llwybr presennol drwy’r twneli, sy’n cysylltu’r maes parcio i’r Strand, yn ddigonol ar gyfer cysylltu Neuadd Coppet â chanol y pentref, felly nid oes angen creu llwybr arall ar draul y rhai sy’n teithio mewn ceir. Yn anffodus, gall y llwybr arfordirol i Bont-yr-ŵr gael ei flocio ac nid oes dewis arall ar gael i gerddwyr a beicwyr. Bydd y llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig ar hyd Heol Frances yn darparu llwybr diogel i gerddwyr, olwynwyr a beicwyr rhwng y ddau leoliad. Bydd y llwybr cyd-ddefnyddio yn y lleoliad hwn y tu ôl i’r clawdd presennol, lle bo’n bosibl, ac ni fydd y gerbytffordd ar hyd y llwybr yn culhau.
Llwybr cyd-ddefnyddio A fydd lleihau’r gerbytffordd i 5 metr mewn rhai mannau yn rhy gul ar gyfer traffig dwyffordd? Mae’r cynllun wedi’i gynhyrchu yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd a’r Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd.
Llwybr cyd-ddefnyddio A ydyw’n ddiogel cael cerddwyr a beicwyr i rannu gofod, yn enwedig ar raddiant goriwaered lle bydd beicwyr yn teithio’n gyflym? A ddylai’r beicwyr ddefnyddio’r gerbytffordd yn yr achos hwn?  Mae gan feicwyr hawl o hyd i ddefnyddio’r gerbytffordd os ydynt yn dewis gwneud hynny. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Pentref Sandyhill – Mae’r llwybrau presennol yn ddigonol ar gyfer y galw. Nodwyd.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae graddiant Rhiw Stammers yn golygu na ddylai cerddwyr / defnyddwyr sgwteri symudedd sy’n defnyddio’r palmant rannu’r rhain â beicwyr. Mae’r graddiant yn golygu bod hyd yn oed beicwyr olwyn rydd sy’n mynd i lawr y bryn yn teithio ar gyflymder tebyg i geir, felly dylent aros ar y ffordd. Mae angen parch gan bob defnyddiwr o wahanol foddau; rhaid rhannu cyfleusterau a rennir. Gellir gosod arwyddion ychwanegol ‘rhannwch â gofal’ ar hyd y llwybr.
Celfi stryd Teras Cambrian – A ellid cael gwared ar y bolardiau yn y gaeaf i greu mannau ychwanegol ar gyfer parcio / llwytho / dadlwytho? Na, defnyddir bolardiau i blismona lle bu parcio annoeth yn flaenorol yn unig.
Celfi stryd Neuadd Coppet – A ellir cadw’r gatiau mochyn? Gellir.
Celfi stryd Teras Cambrian – A ellir rhoi cloeon ar y bolardiau a rhoi mynediad i fusnesau ar gyfer danfoniadau?  Na ellir; byddai hyn yn anodd ei gynnal.
Celfi stryd Teras Cambrian – A fydd y cynwysyddion planhigion yn aros yn yr union leoliad gan eu bod yn rhwystro mynediad i’r seler? Mae’r holl gynlluniau tirweddu yn cael eu hadolygu.
Traffig Cyffredinol The Ridgeway – Mae cyflymder y traffig yn fwy nag 20mya. A ellid rhoi mesurau ar waith i ostegu traffig? Nid oes tystiolaeth o ganfyddiad o gyflymder cerbydau, ond dylid cyfeirio unrhyw arsylwadau o oryrru a/neu yrru amhriodol at yr heddlu i’w gorfodi. 
Traffig Cyffredinol A ellid gosod arwydd ‘Stop’ ar gyffordd Teras Wogan fel bod traffig yn cael ei orfodi i stopio i sicrhau bod y groesfan yn glir a’i bod yn ddiogel i gerbydau fynd ymlaen? Byddai hefyd yn arafu’r beicwyr gan eu bod yn tueddu i fynd drwodd yn gyflym iawn ar hyn o bryd, ac maent yn berygl i gerddwyr ar y teras. Nid arwydd stopio yw’r mesur priodol i arafu traffig yn y lleoliad hwn. 
Traffig Cyffredinol Prin iawn y mae coetsis a bysiau yn gallu mynd ar hyd y tro o’r Stryd Fawr i Deras Cambrian. Pe byddai lled y ffordd yn cael ei leihau yma, a fyddai hyn yn ei gwneud yn amhosibl i’r bysiau mwy o faint ei llywio? Bydd hyn yn cael ei ystyried yn ystod y cam dylunio ac yn amodol ar ofynion tir gan drydydd parti.
Traffig Cyffredinol A fyddai bws / lori yn gallu symud o amgylch y droedffordd newydd ar Heol Sandyhill ger The Warren? Mae ceir yn parcio yn y gilfan ar hyn o bryd Byddai. Cynhaliwyd asesiad o symudiadau cerbydau ym mis Rhagfyr 2024 gan ddefnyddio bws 12 metr a bws 10 metr o hyd, ac mae digon o le ar gyfer y symudiad hwn.
Traffig Cyffredinol Mae’n rhaid i ddanfoniadau i The Hean, a thryciau mwy sy’n dosbarthu i fusnes i lawr y Strand, stopio ar y Teras ac yna bacio’n ôl i’r Strand. Os caiff lled y ffordd ei leihau, a fyddai hyn yn effeithio ar y gallu i ddosbarthu’n ddiogel yma? Ni fydd y gwelliannau arfaethedig yn amharu ar y trefniadau dosbarthu presennol. 
Traffig Cyffredinol Mae’r briffordd ar hyd Heol Sandyhill oddeutu 5.0 metr i 5.5 metr o led nawr, felly prin ei fod yn ddigonol ar hyn o bryd. Byddai tynnu 2 fetr i ffwrdd o’r lled hwnnw yn beryglus a byddai’n amharu ar gerbydau’r cyngor, y gwasanaeth tân, ac unrhyw gyflenwadau gan adeiladwyr ac ati.  Mae’r cynllun wedi’i ddylunio yn unol â chanllawiau teithio llesol, sy’n nodi bod safonau dylunio’n cael eu bodloni a’u cymhwyso, o leiaf, oni bai bod rhesymau penodol dros amrywiad lleol. Lle mae lled y llwybr cyd-ddefnyddio a/neu’r briffordd wedi lleihau, rydym wedi cymryd y camau lliniaru angenrheidiol yn ôl yr angen. Nid yw llwybrau amgen yn addas oherwydd maint y traffig, graddiant, a/neu lwybr dymunol. 
Traffig Unffordd Sut mae’r llwybr cyd-ddefnyddio ar gyfer beicio yn gweithio ar ran unffordd Lôn Sandyhill?   Ni fydd y llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr unffordd. Bydd llif traffig dwyffordd yn cael ei ganiatáu ar hyd y seilwaith hwn. Bydd y rhan unffordd ar Lôn Sandyhill yn berthnasol i’r traffig cerbydol os caiff y cynllun ei symud ymlaen.
Traffig Unffordd Lôn Sain Ffrêd – Beth y mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio mynd i’r afael ag ef? Pam ei gwneud yn unffordd?  Diogelwch ar y gyffordd ar ddiwedd Lôn Sain Ffrêd a Sandyhill. Amlygodd arsylwadau gan drigolion lleol y canfyddir bod gyrwyr yn goryrru yn y gyffordd hon. Roedd trigolion Sandyhill hefyd yn parcio yn ardal y gyffordd. Bydd y cynllun fel y’i cynigir yn atal hyn rhag digwydd
Traffig Unffordd A fydd y ffordd yn rhy gul ar gyfer traffig? Na fydd; mae’r lled isaf posibl wedi’i gadw.
Traffig Unffordd A fydd gwneud Heol Sandyhill yn unffordd yn cynyddu cyflymderau ac yn rhwystro mynediad i unedau gwyliau Bath Cottages a Plantation Cottages? Na fydd; nid yw’r un o’r cynlluniau yn hyrwyddo cynyddu cyflymder.
Traffig Tagfeydd A fydd cynnydd yn y traffig o’r ystad dai newydd? A fydd unrhyw fannau ar gyfer mynd heibio? Bydd, ond rydym yn mynd i’r afael â hyn drwy gysylltiadau teithio llesol fel bod y cynnydd mewn traffig cerbydol yn gyfyngedig. Mae’r datblygiad yn darparu’r llwybr cyd-ddefnyddio yn eu datblygiad nhw.
Traffig Tagfeydd Teras Cambrian – Bydd nifer y croesfannau sebra arfaethedig yn achosi tagfeydd yn ystod misoedd prysur yr haf, gyda cheir yn ildio i gerddwyr. Rydym yn ystyried hyn yn y dyluniad manwl ac yn ei adolygu yn unol â strategaeth drafnidiaeth Cymru.
Cylchfan Bach A ellid gosod ail gylchfan fach ar Heol Sandyhill? Gellir ystyried hyn yn y dyluniad manwl.
Cylchfan Bach Pam ydych chi’n newid y gylchfan sydd eisoes yno?  Rydym yn ad-drefnu’r gylchfan bresennol er mwyn galluogi’r gwelliannau.
Cylchfan Bach Nid yw’r gylchfan fach bresennol ger y fynedfa tuag at yr harbwr yn gweithio i gerbydau, a byddai’n achosi problemau traffig pellach. Rydym yn ad-drefnu’r gylchfan bresennol er mwyn galluogi’r gwelliannau.
Diwylliant Caffi Mae’n ymddangos yn annheg bod busnesau’n elwa o ddiwylliant caffi pan na fydd unigolion eraill yn cael unrhyw fudd o’r newidiadau arfaethedig.  Mae adborth o drafodaethau gyda thrigolion a busnesau wedi nodi nad yw’r elfen diwylliant caffi o reidrwydd yn cael ei chroesawu yn yr ardal ar hyn o bryd.  Ar hyn o bryd rydym wedi ystyried tynnu hwn o’r cais.
Diwylliant Caffi Mae gan y caffis ar Deras Cambrian seddi y tu allan. Dim ond pan fydd y tywydd yn braf ac yn ystod y gwyliau y defnyddir y seddi. A ydyw hyn yn gwarantu’r amhariad sylweddol a cholli mannau parcio / dosbarthu am yr ychydig ddyddiau pan fyddai’n cael ei ddefnyddio?  Mae adborth o drafodaethau gyda thrigolion a busnesau wedi nodi nad yw’r elfen diwylliant caffi o reidrwydd yn cael ei chroesawu yn yr ardal ar hyn o bryd.  Ar hyn o bryd rydym wedi ystyried tynnu hwn o’r cais.
Diwylliant Caffi Mae’r holl draffig trwm sy’n dod i Lanusyllt yn dod i lawr Teras Wogan a’r Stryd Fawr ac yn cwrdd ar gyffordd Teras Cambrian, sy’n golygu y byddai’n rhaid i unrhyw gwsmeriaid bwytai allanol a leolir yma oddef yr allyriadau o gerbydau mawr. Mae adborth o drafodaethau gyda thrigolion a busnesau wedi nodi nad yw’r elfen diwylliant caffi o reidrwydd yn cael ei chroesawu yn yr ardal ar hyn o bryd.  Ar hyn o bryd rydym wedi ystyried tynnu hwn o’r cais.

 

 

Diweddariad Tachwedd 2024:

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn ystod y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law yn cadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.

Ymgynghoriad Cyhoeddus:

Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Stammers Road: Darparu llwybr cyd-ddefnyddio rhwng Harbwr Saundersfoot a Stammers Road. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i hwyluso symudiad cerddwyr a beicwyr.
  • Sandy Hill Road: Darparu llwybr cyd-ddefnyddio i ddarparu cysylltiad uniongyrchol rhwng Saundersfoot a ffordd yr A478
  • Frances Road: Creu llwybr cyd-ddefnyddio yn cysylltu traeth Neuadd Coppet â phentref Saundersfoot

 

Coridor Strategol Penalun i Saundersfoot

Cynllun Teithio Llesol Stammers Road

Cynllun Teithio Llesol Stammers Rd Cambrian Place

Cynllun Teithio Llesol Ffordd Ffrainc Neuadd Coppet

Cynllun Teithio Llesol Sandy Hill Lôn Sant Bride

Gwelliannau i’r Rhwydwaith Teithio Llesol yn Frances Road

Cynllun Teithio Llesol Sandy Hill Road

Cynllun Teithio Llesol Stammers Road Hen Stammers

 Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Mae Cyngor Sir Penfro o’r farn bod cyfle i ddarparu cysylltiadau sydd yn eisiau a chysylltiadau sy’n fwy diogel o fewn y rhwydwaith teithio llesol presennol sy’n darparu cysylltedd i drigolion lleol ac ymwelwyr a fydd yn cyd-fynd yn dda â’r darpariaethau presennol sydd eisoes ar gael. Mae rhai o’r llwybrau presennol, yn enwedig ar hyd Sandy Hill Road, yn anniogel ar gyfer cerdded, beicio a phobl â phroblemau symudedd, ein nod yw creu amgylchedd mwy diogel i bawb ac annog pobl i deithio heb ddefnyddio eu cerbydau. Hoffem greu llwybr strategol sy’n caniatáu i bobl deithio yn Saundersfoot a’i gyffiniau heb ddefnyddio cerbyd; a thrwy hynny leihau tagfeydd, problemau parcio a phwysau traffig. Bydd annog y newid ymddygiad hwn nid yn unig yn arwain at ffordd iachach o fyw, ond bydd hefyd yn ffordd wyrddach a rhatach o deithio.

Nod y cynigion yw:

  • Gwella diogelwch y rhwydwaith teithio llesol
  • Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau, gan gynnwys twristiaeth, hamdden, ysgol a gwaith
  • Creu amgylchedd mwy diogel i feicwyr, cerddwyr a phobl â phroblemau symudedd
  • Gwella hygyrchedd i feicwyr, cerddwyr a phobl â phroblemau symudedd
Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn ceisio eich adborth ar y cynigion o fewn y cynlluniau, naill ai ar hyd y llwybr cyfan neu yn eich ardal benodol, yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar anghenion seilwaith pellach i wella llwybrau beicio/cerdded a gwelliannau o ran hygyrchedd. 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy / sesiwn galw heibio ar 19eg Tachwedd 2024, rhwng 10am a 12pm, rhwng 1pm a 4pm a rhwng 6:30pm–8pm yn The Coal Building, Harbwr Saundersfoot. 

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael i’r rhai nad oeddent yn gallu mynychu’n bersonol, a bydd modd cael mynediad ato yma: Dweud eich Dweud

Bydd yr arolwg ar-lein ar gael am pedwar wythnos a bydd yn dod i ben ar 17eg Rhagfyr 2024. 

Er bod y cyngor sir yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn The Coal Building, Harbwr Saundersfoot a Neuadd y Sir. Bydd modd cael y fersiwn argraffedig a'r arolygon papur tan 17eg Rhagfyr 2024, a byddant yn cael eu casglu wedi hynny. Gallwch ofyn i gael copi trwy’r post trwy gysylltu â’r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif cyswllt uchod. 

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir ei benderfynu’n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455.

Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau ar 17eg Rhagfyr 2024 am hanner nos.

 

 

ID: 12144, adolygwyd 01/05/2025

Gwelliannau Teithio Llesol Arberth

Diweddriad Gorffennaf 2025:

Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

 

Ymgynghoriad Teithio Llesol Arberth

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Prif Themâu (Fe ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Fe ddywedon ni)

Parcio Nid yw’r cynnig yn helpu pobl anabl neu bobl â phroblemau symudedd. Mae angen rhagor o fannau parcio ar y stryd er mwyn imi allu defnyddio fy nghar i siopa.  Gall llwybrau cyd-ddefnyddio helpu pobl anabl i deithio’n annibynnol ar deithiau bob dydd, gweithgareddau hamdden, a chael mynediad i adnoddau cymunedol, gan hybu cynhwysiant cymdeithasol a lleihau unigedd. Mae gan y llwybrau hyn arwyneb da, maent yn ddi-dor, ac wedi’u hamddiffyn rhag traffig moduron. Mae hyn yn eu gwneud yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, gan gynnwys y bobl hynny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, cymhorthion symudedd, neu sydd ag amhariad ar y golwg neu’r clyw. Mae cael digon o fannau parcio ar y stryd yn hanfodol i lawer o bobl, yn enwedig i’r bobl hynny sy’n dibynnu ar eu cerbydau i siopa. Nid yw’r cynnig presennol yn cyflwyno unrhyw fannau parcio ychwanegol yn y dref. Fodd bynnag, pe bai’r cynnig i ddargyfeirio cerbydau nwyddau trwm yn mynd yn ei flaen bydd hwn yn lliniaru’r tagfeydd gan wella hygyrchedd.
Parcio Mae angen mesurau gorfodi parcio ar waith ar gyfer gyrwyr sy’n parcio ar y llinellau melyn dwbl ar waelod St James Street, gan eu bod yn rhwystro cerbydau mawr.  Mae swyddogion gorfodi ar ddyletswydd yn Arberth yn rheolaidd, a chaiff eich pryderon eu hatgyfeirio i’r adran berthnasol i weld a oes angen gwella gorfodi yn yr ardal honno. 
Tagfeydd Bydd y mannau parcio i breswylwyr ar hyd y ffordd yn Nhredemel hefyd yn achosi tagfeydd, ynghyd â’r lefel uchel o draffig ar adegau prysur yn ystod gwyliau.  Gall mannau parcio i breswylwyr achosi mwy o dagfeydd. Yn anffodus, mae hwn yn fater sy’n gyffredin ledled Sir Benfro. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol ynghylch dargyfeirio cerbydau nwyddau trwm yn cynnwys asesiad o reoli traffig.
Tagfeydd Mae nifer gynyddol o dagfeydd yn Arberth, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr. Yn ogystal, mae’r nifer cynyddol o ddatblygiadau tai newydd yn cyfrannu at y cynnydd mewn cerbydau yn y dref. Nid oedd Arberth, tref a gafodd ei hadeiladu gannoedd o flynyddoedd yn ôl, wedi’i chynllunio i ymdopi â nifer y ceir sy’n ei hwynebu heddiw. Mae nifer o gerddwyr yn croesi ar Y Stryd Fawr, gan achosi tagfeydd traffig. Er bod poblogrwydd y dref yn arwydd cadarnhaol o’i hapêl, mae’n cyflwyno heriau sylweddol o ran llif y traffig a chapasiti’r seilwaith, yn enwedig yn ystod cyfnodau brig. Mae’r cyfuniad o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr, a’r datblygiad parhaus o dai, yn rhoi pwysau ychwanegol ar rwydwaith ffyrdd na fwriadwyd erioed i gynnal cymaint o draffig. Mae’n bwysig ein bod yn dechrau archwilio datrysiadau cynaliadwy sy’n cydbwyso anghenion trigolion, busnesau ac ymwelwyr, wrth gadw cymeriad unigryw’r dref.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Byddai’r llwybrau newydd yn gyfleusterau hamdden yn bennaf, yn hytrach na llwybrau cymudo neu lwybrau i blant ysgol. Mae’r tywydd anrhagweladwy a’r ffaith nad yw’r llwybrau yn addas iawn ar gyfer beicio i’r gwaith yn eu gwneud yn anaddas ar gyfer cymudo dyddiol. Mae arolygon wedi’u cynnal yn yr ysgol i hyrwyddo teithio llesol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud dewisiadau cludiant cynaliadwy, boed at ddibenion hamdden neu gymudo. Mae creu amgylchedd diogel a chefnogol yn hollbwysig i annog newid ymddygiad ar gyfer pob defnyddiwr. 
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae’r llwybr troed sy’n dod i mewn i Kiln Park Road yn rhy gul.  Nid yw’r llwybrau troed presennol yn cyrraedd safonau’r Canllawiau Teithio Llesol. Tra byddai’r droedffordd bresennol yn aros, byddai’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig i ffwrdd o’r gerbytffordd ar ochr mewnol y gwrych.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Pe bai llwybr beicio o Princes Gate i Arberth, byddwn i’n cerdded/beicio mwy, ond mae’r ffyrdd yn rhy beryglus i hynny. Mae Arberth eisoes yn dref brysur felly dydw i ddim yn meddwl bod angen inni annog rhagor o feicwyr iddi. Gellid archwilio cynlluniau gwella pellach ar gyfer teithio llesol i annog rhagor o bobl i ddewis dulliau teithio cynaliadwy, megis cerdded, teithio ar olwynion, neu feicio, yn hytrach na gyrru. Byddai’r newid hwn nid yn unig yn hybu ffyrdd iachach o fyw, ond hefyd yn helpu i leihau tagfeydd yn y dref, gan arwain at lai o draffig ac amgylchedd mwy cynaliadwy a hygyrch i bawb.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  A fydd y llwybr aml-ddefnyddwyr hwn yn caniatáu mynediad i bobl yn marchogaeth ceffylau? Bydd, mae llwybr aml-ddefnyddwyr wedi’i gynllunio i ddarparu ar gyfer gwahanol ddulliau o deithio heb fodur, gan gynnwys cerddwyr, teithio ar olwynion, beicwyr a marchogion, gan gynnig lle a rennir ar gyfer teithio llesol. 
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Nid oes llawer o blant yn beicio i’r ysgol, ac mae gan y plant hynny sy’n defnyddio sgwteri ddigon o le eisoes ar y palmant presennol. Mae arolygon wedi’u cynnal yn yr ysgol i hyrwyddo teithio llesol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud dewisiadau cludiant cynaliadwy, mae creu amgylchedd diogel a chefnogol yn allweddol i annog newid ymddygiad ymhlith disgyblion a rhieni. Er y gallai fod gan y llwybr presennol ddigon o le ar gyfer sgwteri a beiciau, byddai ei ddynodi’n llwybr cyd-ddefnyddio swyddogol yn caniatáu beicio yn gyfreithlon. Byddai’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon yn cynnig cyfarwyddyd cliriach i ddefnyddwyr, gan sicrhau bod beicwyr a cherddwyr yn gallu defnyddio’r llwybr mewn ffordd fwy diogel ac effeithlon.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  O ran llwybr aml-ddefnyddwyr Arberth i Hwlffordd, a ydych chi wedi ystyried dynodi rhannau’r llwybr sydd ar y ffordd yn lonydd tawel yn unol â rheol 218 o Reolau’r Ffordd Fawr? Mae rhannau llwybr arfaethedig y llwybr aml-ddefnyddwyr sydd ar ffordd Hwlffordd yn cael eu hasesu ar hyn o bryd i weld a ydynt yn bodloni’r dynodiad ar gyfer lonydd tawel (rheol 218 o Reolau’r Ffordd Fawr). Mae Sustrans yn cynnal yr asesiad hwn ar ran yr awdurdod ar hyn o bryd. 
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Byddai mynd ar drywydd tirfeddianwyr Parc Slebets i ganiatáu i’w ffordd fynediad gael ei defnyddio fel llwybr beicio yn ffordd dda o wahanu traffig beicio o’r A40 rhwng Pont Canaston. (Sylwer bod eisoes ganddynt lwybr troed a ganiateir sy’n mynd ar hyd rhan o’r ffordd fynediad hon.) Fy nghynnig i yw cysylltu’r llwybr ceffylau presennol rhwng Parc Slebets a Melin Blackpool (sy’n drac graean gwastad a llydan) â’r rhodfa hon yng nghyfeirnod grid OS SN 032141 (ger hen eglwys Slebets). Bydd y llwybr beicio newydd yn mynd ar hyd y rhodfa darmac hyd nes iddo adael yr ystad yng nghyfeirnod grid OS SN 016144. Gallai’r llwybr wedyn ddilyn y ffyrdd dosbarth C i Hwlffordd drwy’r Rhos, Creamston gan fynd i mewn i Hwlffordd yn y pen draw ar hyd Heol Uzmaston. Y gost gychwynnol fwyaf fydd y gost neu’r telerau sy’n ymwneud â defnyddio’r rhodfa. Rydym wedi cynnal trafodaethau ag Ystad Slebets ac ar hyn o bryd, nid oes ganddynt ddiddordeb mewn sefydlu llwybr aml-ddefnyddwyr drwy eu hystad. Rydym wedi sicrhau’r defnydd o dir ger Coedwig Canaston sy’n rhan o eiddo Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi cytuno y gall y cynllun ddefnyddio’r llwybrau torri a thrin coed ar gyfer y llwybr aml-ddefnyddwyr.  Bydd rhan fer o’r llwybr yn mynd ar hyd ymyl ffordd yr A40, ac mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i hyn. Yna mae’r llwybr yn ymuno’n ôl â’r ffyrdd dosbarth C trwy’r Rhos a Creamston i Hwlffordd.  
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Nid yw’r palmant gorllewinol ar Kiln Park Road “yn gul, ac yn aml, â gormod o lystyfiant”. Mae’n ardderchog a bu trigolion yn brwydro amdano ers degawdau, ac mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan drigolion a chan bobl sy’n cerdded ’triongl’ Kiln Park Road, Heol yr Orsaf a Heol Jesse wrth wneud ymarfer corff. Ni fydd yr un o’r bobl hyn am rannu’r palmant hwn â beicwyr. Nid yw’r cynnig yn ymwneud â rhannu’r llwybr troed presennol â beicwyr, ond yn hytrach darparu llwybr cyd-ddefnyddio arall sy’n cysylltu â’r orsaf reilffordd a Heol Jesse. Nid oes unrhyw fwriad i gael gwared ar y llwybr troed presennol.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Rwy’n meddwl bod digon o lwybrau beicio o amgylch Arberth a thu hwnt y gellid eu gwella, ond mae’r mwyafrif ohonynt yn iawn yn barod. Fodd bynnag, rydw i o blaid gwella hygyrchedd i bobl ag anghenion symudedd. Rydw i’n amau y bydd llawer o bobl am feicio o Arberth i Hwlffordd ac yn ôl pan fydd modd gwneud hynny’n llawer cyflymach mewn car neu ar fws. Bydd y gwelliannau hyn yn annog ychydig mwy o feicwyr, ond dim digon i gyfiawnhau’r gwaith sy’n cael ei wneud. Efallai nad buddion teithio llesol yw’r opsiwn cyflymaf bob amser, ond mae annog newid i gerdded, teithio ar olwynion a beicio yn un o’r ffyrdd mwyaf costeffeithiol o leihau allyriadau trafnidiaeth, lleihau tagfeydd, a lleihau llygredd aer a sŵn. Byddai’r llwybr aml-ddefnyddwyr hefyd yn darparu rhywfaint o seilwaith ychwanegol y mae mawr ei angen ar gyfer marchogion. Er mwyn asesu effaith y mentrau hyn, byddai gwaith monitro’n cael ei wneud ar ôl eu cwblhau er mwyn casglu data am nifer y defnyddwyr, gan helpu i lywio gwelliannau yn y dyfodol a sicrhau llwyddiant y cynllun.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Byddai gosod y llwybr troed newydd y tu ôl i’r gwrych yn golygu na fyddai trigolion Kiln Park Road yn gallu cael mynediad iddo. Ble byddai disgwyl iddynt ymuno ag ef? Byddai angen pwyntiau mynediad rheolaidd gyferbyn â phob tŷ ar y ffordd, fel y gallent gael mynediad diogel iddo. Byddai lleoliadau’r pwyntiau mynediad i’r llwybr cyd-ddefnyddio yn cael eu pennu’n fanwl wrth ddylunio’r llwybr. Fodd bynnag, mae’n gyffredin cael pwyntiau mynediad ar naill ben y llwybr a’r llall, ac un pwynt mynediad yn y canol i’r mwyafrif o bobl ddefnyddio’r pwynt agosaf. Ni fyddem yn darparu mynedfa benodol i bob eiddo preswyl.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae’r ffyrdd o amgylch Arberth eisoes yn llawn beicwyr, loncwyr ac ati. Mae pobl wedi ymdopi heb y llwybrau hyn, a byddant yn parhau i ymdopi hebddynt. Nod creu llwybr cyd-ddefnyddio a llwybr aml-ddefnyddwyr yw darparu llwybrau diogel i gyrchfannau allweddol, gan sicrhau bod gan bobl opsiynau teithio cyfleus a hygyrch. Mae’r fenter hon yn galluogi unigolion i deithio’n fwy diogel a chynaliadwy, gan gynnig dewis amgen mwy gwyrdd yn lle trafnidiaeth draddodiadol.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae’r llwybrau troed presennol yn ddigonol, nid oes angen eu troi’n llwybrau cyd-ddefnyddio.  Yn gyffredinol, ni chaniateir beicio ar lwybrau troed; byddai ei ddynodi’n llwybr cyd-ddefnyddio yn swyddogol yn caniatáu beicio yn gyfreithlon. Byddai’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon yn cynnig cyfarwyddyd cliriach i ddefnyddwyr, gan sicrhau bod beicwyr a cherddwyr yn gallu defnyddio’r llwybr mewn ffordd fwy diogel ac effeithlon.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Nid oes llawer o feicwyr yn defnyddio Kiln Park Road.  Pe bai llwybr cyd-ddefnyddio diogel ar waith, gallai annog rhagor o bobl i feicio yn yr ardal. Ar hyn o bryd, nid oes darpariaeth ar gyfer beicio oddi ar y lôn gerbydau, ac mae’n bosibl bod hyn yn atal unigolion rhag dewis beicio fel opsiwn ymarferol.
Llwybr aml-ddefnyddwyr  Mae ’troedffordd ysbeidiol’ ar ochr ddwyreiniol Kiln Park Road, ac mae’r rhan fwyaf o’r tir y cyfeirir ato yn y cynnig hwn yn eiddo preifat y perchnogion tai. Er ei fod yn ymddangos yn dir cyhoeddus, mae’r tir y tu mewn i ffiniau cyfreithiol eu heiddo, felly dim ond darn bach iawn o balmant sy’n bodoli gyferbyn â’r safle bws ger y troad i gyfeiriad yr orsaf. Felly, mae’r unig balmant addas ar ochr orllewinol Kiln Park Road.  Nid oes unrhyw fwriad i wneud unrhyw waith ar ochr ddwyreiniol Kiln Park Road. Bwriedir gwneud y gwaith ar yr ochr orllewinol, y tu ôl i’r gwrych.
Cerddwyr Peidiwch â gwneud y ffyrdd o amgylch Arberth yn fwy cul a hyrwyddo gwaith sy’n canolbwyntio ar gerddwyr. Defnyddir ffyrdd ar gyfer busnes a theithio, ac ni ddylid eu hisraddio i ganiatáu prosiectau sy’n cael eu cyfiawnhau drwy “deithio llesol”, cyrraedd targedau “sero net” neu “ddiogelwch”. Nid oes unrhyw fwriad i gulhau’r ffyrdd o amgylch Arberth fel rhan o’r cynnig hwn. Mae’r gwelliannau ar hyd Heol Jesse wedi darparu llwybrau cerdded ychwanegol, ac wedi ailalinio’r lôn gerbydau, heb gulhau’r lôn gerbydau sy’n parhau i gael ei defnyddio.  
Cerddwyr Rwy’n defnyddio’r llwybrau cerdded presennol bob dydd efallai y gellid gwella’r system ddraenio a’r goleuadau. Nodwyd, gellir ymchwilio i’r mater hwn. 
Cerddwyr Mae maes parcio Townsmoor yn beryglus iawn i gerddwyr ar hyn o bryd, yn enwedig ar ddiwrnodau prysur. Mae angen llwybr diogel pwrpasol arno. Gellir ymchwilio i osod llwybr cerddwyr ar gyfer maes parcio Townsmoor. Byddwn yn atgyfeirio’r mater hwn i’r tîm priodol.
Cerddwyr Hoffwn gael rhagor o lwybrau troed cefn gwlad yn ardal Princes Gate/Tafarn-sbeit. Mae’r ffordd eisoes yn rhy beryglus i gerdded arni oherwydd y cerbydau nwyddau trwm / tractorau, ac felly byddai ychwanegu mwy o drafnidiaeth at yr ardal hon yn fwy peryglus fyth. Byddai’n wych cael llwybr troed sy’n cysylltu â’r rhwydwaith llwybrau troed presennol er mwyn galluogi’r bobl hynny sy’n byw rhwng Princes Gate a Thafarn-sbeit i gerdded i Arberth. I ni, mae gallu cyrraedd ein tref leol, sef Arberth, yn llawer mwy buddiol na llwybr beiciau i Hwlffordd. Nodwyd, gellir ymchwilio i hyn fel cynllun ar wahân yn y dyfodol yn amodol ar gyllid. 
Cerddwyr Fel preswylydd oedrannus sydd wedi ymddeol yn Kiln Park Road, rydw i’n bryderus iawn ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd i’r llwybr troed presennol rydw i’n ei ddefnyddio’n rheolaidd. Sut fydda i’n cael mynediad i lwybr y tu ôl i’r gwrych? Mae’r llwybr troed yn angenrheidiol er mwyn cerdded i mewn i’r dref ac i gael mynediad i’r safle bws (ar gyfer bysiau gwasanaeth a bysiau ysgol) a’r orsaf reilffordd. Gall cuddio’r llwybr beiciau/ llwybr troed o’r golwg y tu ôl i’r gwrych fod yn niweidiol i ddiogelwch a hyder y defnyddwyr. Byddai lleoliadau’r pwyntiau mynediad i’r llwybr cyd-ddefnyddio yn cael eu pennu’n fanwl wrth ddylunio’r llwybr. Fodd bynnag, mae’n gyffredin cael pwyntiau mynediad ar naill ben y llwybr a’r llall, ac un pwynt mynediad yn y canol i’r mwyafrif o bobl ddefnyddio’r pwynt agosaf. Mae gwahanu’r llwybr oddi wrth y lôn gerbydau byw yn galluogi beicwyr sy’n llai hyderus i gael lle diogel i feicio. 
Cerddwyr Os bydd y llwybr troed yn cael ei dynnu, bydd angen i blant gerdded ar hyd y ffordd (sy’n rhan o ffordd dargyfeirio cerbydau nwyddau trwm) i ddal eu bws ysgol. Mae hyn yn gwbl anniogel, a dyna oedd un o’r rhesymau pam y gosodwyd y llwybr troed ar hyd y ffordd hon yn y lle cyntaf. Os yw am gael ei osod ar ochr arall y gwrych yn lle, sut bydd cerddwyr yn cael mynediad ato heb gerdded ar hyd y ffordd fawr?  Nid oes unrhyw fwriad i gael gwared ar y llwybr troed presennol, ond i ddarparu llwybr cyd-ddefnyddio ychwanegol ar ochr fewnol y gwrych presennol.  Byddai lleoliadau’r pwyntiau mynediad i’r llwybr cyd-ddefnyddio yn cael eu pennu’n fanwl wrth ddylunio’r llwybr. Fodd bynnag, mae’n gyffredin cael pwyntiau mynediad ar naill ben y llwybr a’r llall, ac un pwynt mynediad yn y canol i’r mwyafrif o bobl ddefnyddio’r pwynt agosaf. Mae gwahanu’r llwybr oddi wrth y lôn gerbydau byw yn galluogi beicwyr sy’n llai hyderus i gael lle diogel i feicio. 
Cerddwyr Os bydd Kiln Park Road yn cael ei lledu, yna bydd rhaid cadw llwybr troed gweladwy iawn. Bydd cerddwyr mewn perygl os ydynt yn cael eu cuddio y tu ôl i wrych. Os bydd y ffordd yn cael ei lledu, yna bydd rhaid cael gwared ar y gwrych. Mae plant a phobl ifanc, a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn defnyddio’r llwybr hwnnw i fynd yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, yr orsaf, y parc ac ati, a rhaid peidio â’u cuddio y tu ôl i wrych, yn enwedig yn y tywyllwch, neu gyda’r nos. Yn aml, mae llwybrau cyd-ddefnyddio wedi’u lleoli y tu ôl i wrychoedd presennol â phwyntiau mynediad sy’n weladwy i ddefnyddwyr y ffordd trwy arwyddion a goleuadau digonol (os oes angen). Mae hyn wedi’i wneud mewn ardaloedd eraill yn Sir Benfro heb unrhyw ddigwyddiadau ac yn unol â chanllawiau teithio llesol a chanllawiau diogelwch ar y ffyrdd.
Cerddwyr A fydd y llwybr troed presennol ar ochr orllewinol Kiln Park Road (ochr ddwyreiniol y grwych), a hefyd y gwrych ei hun, yn cael eu cadw? Y bwriad yw cadw’r llwybr troed presennol, y gwrych presennol a gosod llwybr cyd-ddefnyddio newydd ar ochr fewnol y gwrych presennol.
Cerddwyr Ar hyn o bryd nid oes croesfan sebra er mwyn sicrhau bod plant sy’n cerdded i’r ysgol, neu gerddwyr sy’n cyrraedd o’r orsaf drenau, yn gallu croesi’r ffordd yn ddiogel. Dylid ystyried hyn cyn cynyddu traffig ar Kiln Park Road. Nid yw dyluniadau terfynol wedi’u llunio eto. Pe bai’r cynllun yn mynd rhagddo byddwn yn edrych i weld pa gynlluniau rheoli traffig ychwanegol y mae eu hangen er mwyn sicrhau diogelwch cerddwyr wrth groesi Kiln Park Road.
Heol Jesse (Cwblhawyd)

Mae lledu llwybrau troed, a gosod llwybrau troed ychwanegol, wedi achosi i ffyrdd gael eu culhau gan eu gwneud yn fwy peryglus. Yn enwedig llwybr troed dynodedig newydd ar hyd gorsaf betrol Eastgate lle mae ceir yn mynd i mewn ac allan yn gyson. Os bwriedir gosod llwybrau troed newydd, neu ledu’r rhai presennol, ni ddylid culhau ffyrdd i wneud hyn, yn enwedig pan fo cerbydau yn ymddangos fel petaent yn mynd yn fwy. Nid yw llawer o’r pentrefi hanesyddol yn Sir Benfro wedi’u cynllunio ar gyfer nifer y cerbydau, na maint y cerbydau, heddiw. Mae’r gwelliannau i’r rhwydwaith teithio llesol yn Arberth yn cefnogi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r hierarchaeth drafnidiaeth sy’n rhoi blaenoriaeth i gerddwyr, olwynwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw’r cynigion yn bwriadu culhau’r lôn gerbydau bresennol o amgylch Arberth, ond yn hytrach yn darparu seilwaith ychwanegol i annog pobl i ddewis eu dull teithio.
Heol Jesse (Cwblhawyd) Mae’r gylchfan yn erchyll, mae’n rhwystro traffig os rhywbeth. Os ydych chi’n teithio o Princes Gate i Benblewin ar hyd Kiln Park Road ac mae tractor â threlar, er enghraifft, neu lori yn gyrru o gwmpas y gylchfan honno mae’n hunllef llwyr. Mae hi bron â bod yn anochel y bydd cerbyd yn rowlio rhyw ddydd oherwydd y tro erchyll o sydyn. Rydw i fy hun wedi gyrru ar draws y gylchfan pan fydd y ffordd yn glir oherwydd mae’n llawer mwy diogel gwneud hynny. Mae’r gylchfan wedi’i gosod i arafu’r traffig sy’n dynesu at Arberth ac, yn arbennig, sy’n agos at yr ysgol.  Mae modd i gerbydau mwy symud drwy’r rhwystrau ar y cyflymder priodol. Mae adran 188 o Reolau’r Ffordd Fawr yn nodi bod yn rhaid i bob cerbyd fynd o amgylch y marciau canolog wrth ddynesu at gylchfannau (neu fân gylchfannau) a mynd o’u hamgylch, oni bai eu bod yn rhy fawr i wneud hynny. 
Heol Jesse (Cwblhawyd) Mae pobl yn dal i barcio ar y ffordd a’r palmant oherwydd diffyg mannau parcio yn yr ysgol. Gellir trafod hyn â’r ysgol, a bydd ein tîm gorfodi parcio yn cael eu hysbysu.
Heol Jesse (Cwblhawyd) Dylai Heol Jesse fod yn ffordd ar gyfer un car yn unig â llinellau melyn dwbl i atal ceir rhag parcio yno! Byddai hyn gymaint yn fwy diogel i blant sy’n cerdded i’r ysgol ac adref. Wedi’i nodi a’i hatgyfeirio i’n hadran traffig. 
Trafnidiaeth gyhoeddus  Dylech ddarparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, rhagor o drenau/bysiau sy’n rhedeg yn hwyrach yn y dydd, datblygu’r llwybrau presennol yn hytrach nag adeiladu rhagor. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft wedi’i baratoi gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru (CBC), corff sydd newydd ei sefydlu ar gyfer llywodraeth leol yn y rhanbarth. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu rheolaeth strategol a’r gwelliant i’r rhwydwaith trafnidiaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y cyfnod 2025 i 2030. Ar y cyd â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio a masnachfreinio bysiau sydd ar y gweill, y nod yw gwella pa mor aml mae’r bysiau yn rhedeg, ehangu’r ardal sy’n cael ei gwasanaethu, a gwella cysylltedd pob dull trafnidiaeth gyhoeddus.
Traffig Yr hyn sydd ei angen arnom yw arwyddion ar gyfer cerddwyr a mesurau i reoli cyflymder, yn enwedig ar Kiln Park Road, lle nad yw traffig yn mynd yn arafach na 30 mya yn aml, ac, yn eithaf rheolaidd, yn teithio mwy na 40 mya. Mae angen rhagor o arwyddion 20 mya a gorfodi. Wedi’i nodi a’i hatgyfeirio i’n hadran traffig. 
Traffig Fel perchennog busnes sy’n contractio offer amaethyddol yn lleol, mae’r gwaith diweddar hwn wedi culhau’r lôn gerbydau ac wedi’i gwneud yn anoddach i gerbydau mawr ei llywio. Mae’r addasiad i’r cwrbyn i’r gorllewin o garej Eastgate yn berygl amlwg i gerbydau modur, a bydd yn achosi damwain. Mae’r rhan o’r lôn gerbydau sydd wedi’i chulhau ger garej Eastgate tua 40 metr o hyd. Mae digon o welededd i gerbydau allu gweld traffig a cherddwyr sy’n dod tuag atynt yn yr ardal hon, ac mae’n cydymffurfio â chanllawiau. Mae’n ddyletswydd ar yrwyr cerbydau o bob maint i gymryd gofal wrth lywio mannau cul o’r lôn gerbydau, ar ba bynnag ffordd yn Sir Benfro.
Traffig Mae’r ffordd drwy Cold Blow yn ffordd 20 mya, mae’r mwyafrif o’r cerbydau’n teithio llawer yn gyflymach na hyn (gan gynnwys bysiau, loriau gwastraff a faniau priffyrdd). Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw fonitro cyflymder yn y pentref. Wedi’i nodi a’i hatgyfeirio i’n hadran traffig. 
Traffig Mae’n dda gweld dechreuad, ond mae angen inni gydgysylltu pob ardal i ddarparu opsiynau teithio heblaw ceir. Nid oes palmentydd ar y ffyrdd hanesyddol yn ein hardal, ac mae angen inni ystyried sut y gallwn ddarparu llwybrau diogel i gerddwyr yn yr ardaloedd hyn. Efallai mai un syniad fyddai ehangu’r system unffordd gan ganiatáu i rai ffyrdd ddod yn ffyrdd unffordd i gerbydau modur a chreu mwy o le ar gyfer arwynebau a rennir. Gallai cynllun Arberth, a’i llu o ffyrdd cysylltu, fod yn addas ar gyfer hyn. Mae Arberth yn un o’r aneddiadau dynodedig yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, ac mae wedi mynd drwy sawl cam allweddol i wella’r seilwaith ar gyfer cerdded, olwynio a beicio.  Mae’r system unffordd yn y dref yn cyflwyno ei phroblemau ei hun, ond trwy annog rhagor o bobl i ddefnyddio dulliau teithio amgen ar gyfer teithiau byr, bydd tagfeydd a llif traffig yn lleihau. Mae cynllun posibl i ddargyfeirio traffig trwodd, a cherbydau nwyddau trwm, nad ydynt yn aros yn Arberth ar hyd llwybrau gwahanol hefyd yn cael ei ystyried.
Traffig A fyddech chi’n ystyried gosod twmpathau cyflymder ar hyd Kiln Park Road i arafu cerbydau nwyddau trwm? Nid yw manylion unrhyw gynllun terfynol wedi’u cwblhau eto. Fodd bynnag, bydd unrhyw fesurau rheoli traffig y mae eu hangen i reoli cyflymder a chynnal diogelwch ffyrdd yn cael eu hystyried yn ystod y cyfnod dylunio. 
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Bydd cynllun i wyro cerbydau nwyddau trwm o ganol y dref yn cael ei groesawu, ond ni fydd yn datrys y problemau traffig. Mae’r problemau yn codi pan fydd cerbydau sy’n agosáu at y system unffordd yn Stryd y Farchnad a Heol Jesse yn methu hidlo’n gywir, gan arwain at dagfeydd yn ystod cyfnodau o gryn draffig twristiaid. Pe bai’r system unffordd yn un gylchfan fawr, i bob pwrpas, lle mae’r holl draffig sy’n dod i mewn yn gorfod ildio i’r dde (fel sydd eisoes yn wir yn Heol Moorfield), yna yn lle’r tagfeydd presennol byddai traffig trwm yn arwain at giwiau i ymuno â system unffordd sy’n llifo’n barhaus, yn hytrach na’r tagfeydd sy’n digwydd ar hyn o bryd, sy’n anfantais i holl ddefnyddwyr y ffordd. Mae nifer o gerbydau yn teithio drwy Arberth heb aros yn y dref. Byddai’r llwybr gwyro cerbydau nwyddau trwm hefyd yn annog traffig trwodd i ddefnyddio’r ffordd amgen, gan leihau nifer y cerbydau sy’n mynd trwy’r dref a thagfeydd. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol ynghylch gwyro cerbydau nwyddau trwm yn cynnwys asesiad o reoli traffig.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Yn ddiweddar, mae Gan Bwyll Cymru wedi dynodi Kiln Park Road fel y ffordd gyflymaf yn Arberth. Dylai fod yn ffordd 20 mya, ond mae wedi dod yn llwybr byr i osgoi tagfeydd. Nid oes bron unrhyw yrwyr yn cadw at 20 mya. Ychydig iawn o yrrwyr sy’n cadw at 30 mya neu 40 mya, ac mae llawer o yrwyr yn gyrru yn gyflymach na hynny. Felly byddai angen camera cyflymder sefydlog, ac mae’n debyg tri man croesi a reolir, gan ei bod yn ffordd hir lle mae llawer o drigolion oedrannus a/neu blant yn byw. Nid yw manylion unrhyw gynllun terfynol wedi’u cwblhau eto. Fodd bynnag, bydd unrhyw fesurau rheoli traffig y mae eu hangen i reoli cyflymder a chynnal diogelwch ffyrdd yn cael eu hystyried yn ystod y cyfnod dylunio. 
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Byddai angen uwchraddio’r llwybrau awgrymedig yn sylweddol i allu darparu ar gyfer y traffig. Mae’r groesffordd groesgam wrth ymyl ’Canaston Bowl’ gynt eisoes wedi profi nifer o ddamweiniau, felly byddai angen gwella hyn. Byddai angen gwelliannau hefyd i’r ffordd o’r Eglwys Lwyd i Dredemel. Ar hyn o bryd mae pont reilffordd nad yw’n addas ar y llwybr porffor. Nodwyd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Mae’r gylchfan fach newydd yng nghornel Kiln Park Road wedi dinistrio cymeriad y dref. Mae’r gylchfan wedi’i gosod i arafu’r traffig sy’n dynesu at Arberth ac, yn arbennig, sy’n agos at yr ysgol. Mae’r seilwaith rheoli traffig yn ddigon pell o ganol y dref fel nad yw’n cael unrhyw effaith ar gymeriad y dref.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Os bydd y ffordd yn cael ei chulhau bydd yn beryglus.  Bydd y ffordd yn cael ei dylunio yn unol â safonau’r Llawlyfr Strydoedd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Nid ydym yn siŵr bod y ffyrdd ar y llwybr yn addas ar gyfer cerbydau nwyddau trwm. Mae’r llwybrau arfaethedig yn rhy gul, ac nid ydynt yn addas.  Nodwyd bod angen gwneud gwaith pellach ar y cynllun, gan gynnwys gwaith i wella llif y traffig a dylunio rhagarweiniol. Bwriad yr ymgynghoriad cyhoeddus oedd casglu barn y cyhoedd i weld a fyddai’r gwyriad cerbydau nwyddau trwm yn cael ei gefnogi mewn egwyddor gan drigolion.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Mae gan Princes Gate a Cold Blow ffyrdd a chroesffyrdd sy’n gul iawn, lle mae tai yn agos at y ffordd, a gallai’r rhain gael eu difrodi gan gerbydau nwyddau trwm. A ellid ystyried y ffyrdd lletach tuag at Canaston a Bluestone? Nodwyd, byddwn yn ystyried hyn i gyd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm  Yn Cold Blow mae dau bwynt ar y ffordd sydd â chylch troi cul iawn, ac mae’n rhaid i gerbydau nwyddau trwm fynd dros lôn y traffig sy’n dod tuag atoch wrth fynd o amgylch tro. Y pwyntiau hyn yw Pont Princes Gate a’r tro / cyffordd yn Cold Blow. Byddai dadansoddiad o symudiadau cerbydau yn cael ei gynnal i asesu symudiad cerbydau trwy ofod penodol, gan sicrhau y gall dyluniadau ddarparu ar gyfer anghenion cerbydau wrth symud, yn enwedig wrth droi. 
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Byddai’r llwybr cerbydau nwyddau trwm arfaethedig yn dod â mwy o gerbydau a cherbydau trymach ar hyd ffyrdd y mae angen i ddefnyddwyr y llwybr cyd-ddefnyddio, neu ddefnyddwyr y llwybrau ceffyl presennol eu croesi mewn sawl lleoliad. Er mwyn gwella diogelwch, mae’n bosibl y gellid gwneud y croesfannau hyn yn fwy diogel trwy osod croesfannau ‘Pegasws’. Nid yw’r dyluniadau terfynol ar gyfer y cynllun cerbydau nwyddau trwm arfaethedig wedi’u cwblhau eto. Byddai unrhyw ofyniad am groesfannau ychwanegol, a’r rhai a allai gynnwys croesfan Pegasws gael eu hystyried.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Mae gwaith gwella yn mynd rhagddo ar ffordd yr A40, sy’n ddrud iawn. Y gwyriad traffig amlycaf i’r de o Arberth ddylai fod, ar gyfer traffig sy’n dod o’r dwyrain ar ffordd yr A40 ac o’r gogledd ar ffordd yr A478, i’w llwybro o Benblewin i Bont Canaston, ac oddi yno i’r de i Cross Hands, yna i Dredemel ar gyfer traffig sy’n teithio i Ddinbych-y-pysgod ac i Gaeriw ar gyfer unrhyw draffig i Benfro / Doc Penfro. Byddai hyn yn osgoi ardaloedd adeiledig Kiln Park Road, Princes Gate, Cold Blow a’r rhan fwyaf o Dredemel. Nodwyd, byddwn yn ystyried hyn i gyd.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Bydd y cynllun i wyro cerbydau nwyddau trwm i Princes Gate yn creu mwy o draffig ar ffordd sy’n gynyddol brysur. Bydd ffordd lle mae’r cerbydau mawr hyn ochr yn ochr â beicwyr yn beryglus iawn. Mae’r ffordd hefyd yn cael ei defnyddio gan ffermwyr lleol sydd angen croesi eu gwartheg yn ddiogel. Mae’r ffordd eisoes yn beryglus iawn ar gyfer y gofyniad hwn, felly byddai ychwanegu’r cerbydau hyn yn ei gwneud yn fwy peryglus byth. Mae’r cyflymder y mae cerbydau’n teithio ar y ffordd hon ar hyn o bryd, gan anwybyddu cyfyngiadau cyflymder ac amodau’r ffyrdd, yn frawychus. Nid yw’r ffyrdd hyn yn addas ar gyfer cerbydau trwm.  Mae’r llwybrau arfaethedig eisoes yn cael eu defnyddio gan gerbydau nwyddau trwm sy’n gysylltiedig â Princes Gate a’r chwarel leol. Mae gwaith ychwanegol i’w wneud ar y cynnig o ran llwybro, gwaith lliniaru (unrhyw welliannau y mae eu hangen), dichonoldeb a dyluniadau rhagarweiniol. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried.
Gwyro cerbydau nwyddau trwm Nid yw’r opsiwn ar gyfer Lôn Tanners yn gynnig da. Er bod yr opsiwn arall yn cynnig buddion mawr i ganol tref Arberth, nid yw’n dda ar gyfer cydlyniant Cold Blow a Thredemel, oherwydd byddai rhagor o gerbydau nwyddau trwm yn defnyddio’r llwybr hwn sy’n mynd heibio’r ysgol, ac i mewn i’r gyffordd ar riw Tredemel. Mae angen ehangu’r cynnig hwn i gynnwys mynediad gwell i’r llwybr beiciau ar hyd ymyl ffordd yr A478 fel llwybr diogel ar gyfer y defnyddwyr ffyrdd bregus hyn – byddai hyn yn gynnig mwy buddiol i wella’r rhwydwaith teithio llesol. Nodwyd, byddwn yn ystyried hyn i gyd.
Cyffredinol Mae Arberth yn dref wledig, ac mae’n cael ei throi’n dref ar ffurf maestref i gymudwyr. Mae’r cynigion yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru i annog teithio llesol. Yn ôl data Cyfrifiad 2021, mae’r mwyafrif o’r trigolion naill ai’n gweithio gartref neu’n cymudo i Hwlffordd, Llanusyllt (Saundersfoot) neu Sanclêr. Mae’r dyluniadau yn cyd-fynd â gwelliannau eraill a wnaed mewn nifer o bentrefi a threfi ledled Cymru.
Cyffredinol Mae maes chwarae Ysgol Tredemel ar bwys y ffordd, ac ni fydd mygdarth ceir ychwanegol yn dda i’r plant. Ar ben hyn, mae cyflymder y cerbydau nwyddau trwm sy’n mynd trwy’r pentrefi, a’r sŵn maent yn cynhyrchu, yn beryglus ac yn aflonyddgar. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar allu rhieni i gael mynediad i’r ysgol yn ddiogel, ac yn beryglus i blant sy’n aros i groesi’r ffordd.  Er nad yw’r cynigion wedi’u dylunio eto, bydd angen cynnal arolygon traffig i bennu lefelau presennol y traffig, a lefelau posibl y cerbydau nwyddau trwm a fydd yn mynd trwy’r ardal. Pe bai’r opsiwn llwybro terfynol yn mynd trwy Dredemel, byddai angen ystyried cynnal asesiad o’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar yr ysgol fel rhan o’r penderfyniad hwnnw.
Cyffredinol Bydd y cynnydd mewn traffig trwm yn achosi allyriadau i’r ardal wledig, ac ni fydd y lefelau sŵn uwch yn dderbyniol. Mae Princes Gate, Cold Blow a Thredemel yn ardaloedd gwledig adeiledig, lle mae teuluoedd yn byw sy’n mwynhau gallu cerdded ar hyd y ffordd gyda phlant a chŵn. Pe bai’r cerbydau mawr hyn yn cael eu gwyro i’r ardal hon ni fyddai hyn yn bosibl rhagor. Er nad yw’r cynigion wedi’u dylunio eto, bydd angen cynnal arolygon traffig i bennu lefelau presennol y traffig, a lefelau posibl y cerbydau nwyddau trwm a fydd yn mynd trwy’r ardal. Pe bai’r opsiwn llwybro terfynol yn mynd trwy Dredemel, byddai angen ystyried cynnal asesiad o’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar lefel sŵn yr ardal fel rhan o’r penderfyniad hwnnw.
Cyffredinol Bydd gormod o oleuadau yn amharu ar fywyd gwyllt ac ati. A fydd gwrych newydd yn cael ei blannu fel a welir yn y llun?  Bydd y lefelau o olau yn cael eu hystyried yn ystod y cam dylunio manwl. Bydd asesiad ecolegol hefyd yn cael ei gynnal os bydd y cynllun yn mynd rhagddo. 
Cyffredinol Mae’r llwybr o Townsmoor wedi gordyfu llawer, a fydd costau torri’r llystyfiant yn cael eu ystyried yn y cynllun? Mae’n ofynnol i bob cais am gyllid yn y dyfodol gynnwys y costau ar gyfer gwaith cynnal a chadw fel rhan o’r broses gynnig.
Cyffredinol Mae mannau parcio yn brin iawn yn Arberth yn barod, felly byddai angen sicrhau na fyddai unrhyw fannau parcio yn cael eu dileu wrth osod storfa beiciau. Ni fwriedir gosod storfa beiciau lle mae mannau parcio. 
Cyffredinol Mae’r llwybr o Townmoor i lawr lôn Carding Mill yn gyfleuster gwych. Fodd bynnag, mae bellach wedi gordyfu gan wrychoedd a llystyfiant arall sy’n tyfu o’r naill ochr a’r llall. A oes unrhyw arian ar gael i’w gynnal? Byddwn yn trosglwyddo’r mater hwn i’r tîm perthnasol. Fodd bynnag, mae pob cynnig yn y dyfodol yn cynnwys digon o arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw fel rhan o’r broses cynnig.
Cyffredinol Ble byddai’r cyfleusterau ar gyfer storio beiciau ychwanegol yn cael eu gosod? Nid yw hyn wedi’i benderfynu eto.

 

 Tachwedd 2024

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

 

Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Gwelliannau i'r rhwydwaith teithio llesol presennol yn y dref. Mae teithio llesol yn ffordd o deithio sy'n cynnwys gweithgarwch corfforol, fel cerdded, beicio a theithio ar olwynion.
  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio 412 metr o hyd ar hyd Kiln Park Road. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer symudiadau cerddwyr a beicwyr.
  • Gweithredu dargyfeiriad ar gyfer cerbydau nwyddau trwm i osgoi canol y dref, fel y gellir cynnal cyflenwadau lleol a bydd tagfeydd yn lleddfu.
  • Creu llwybr aml-ddefnyddwyr 6.5 milltir (10 km) o hyd rhwng Arberth a Hwlffordd. Mae llwybr aml-ddefnyddwyr yn llwybr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mathau lluosog o ddefnyddwyr megis cerddwyr, beicwyr a marchogion.
  • Cael adborth ar y gwaith sydd wedi'i wneud ar Jesse Road i ddarparu gwell mynediad i gerddwyr/beicwyr i'r ysgol gynradd ac oddi yno.

Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Byddai’r llwybr arfaethedig yn helpu i gwblhau’r cyswllt rhwng Arberth a Hwlffordd (sy’n terfynu ar hyn o bryd ym Melin Blackpool) ar hyd llwybr â graddiant cymedrol i’r de o’r A40.  Ar hyn o bryd, mae'n cysylltu â chanol Arberth ar hyd llwybr ceffyl presennol a bydd yn cysylltu â chanol Hwlffordd gyda chysylltiad uniongyrchol â Llwybr Pedwar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (y Llwybr Celtaidd). Yn ogystal, mae gwaith diweddar gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru ar hyd yr A40 wedi creu darpariaeth llwybr cyd-ddefnyddio sy’n cysylltu Llanddewi Felffre â Redstone Cross.

Nod y cynigion yw:

  • Darparu mynediad uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng Arberth a Hwlffordd
  • Gwella diogelwch y rhwydwaith teithio llesol
  • Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau, gan gynnwys twristiaeth, hamdden, ysgol a gwaith
  • Creu amgylchedd mwy diogel i feicwyr a cherddwyr
  • Lleihau tagfeydd yng nghanol y dref

Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn ceisio eich adborth ar y dyluniadau arfaethedig o ran y system unffordd a'r llwybr defnydd a rennir. 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 26 Medi 2024, rhwng 10:00 – 12:00, 13:00 – 16:00, a 18:30 – 20:00 yn Canolfannau Ddysgu Gymunedol . 

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn mynychu’r sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud  

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am chwe wythnos, a bydd yn dod i ben ar 7fed Tachwedd 2024.

Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael Neuadd y Sir. Bydd y fersiwn argraffedig, a'r arolygon papur, yn aros yn eu lle tan 7fed Tachwedd, pan fyddan nhw’n cael eu casglu. Mae copïau drwy'r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â'r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu'r rhif cyswllt uchod (a welir ym mhennyn y llythyr hwn). 

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir hwn ei benderfynu'n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol. 

Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld ar ein gwefan a Neuadd y Sir.

Gwelliannau teithio llesol Arberth - Jesse Rd

Llwybr amlddefnyddwyr Arberth i Hwlffordd

Kiln Park Road Y llwybr cyd ddefnyddio ar llwybr ar gyfer cerbydau nwyddau trwm

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01437 764551. 

Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau am hanner nos ar 7fed Tachwedd 2024. Diolch am roi o’ch amser i gwblhau'r arolwg hwn.

ID: 12039, adolygwyd 18/07/2025

Gwelliannau Teithio Llesol Dinbych-y-pysgod a Phenalun

Diweddariad Mai 2025:

Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

Adroddias Ymgynghorian Teithil Llesol Dinbych-Y-Pysgod a Phenalun

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm. 

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Themâu Allweddol (Fe ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Fe ddywedon ni)

Parcio Ni all Dinbych-y-pysgod fforddio colli unrhyw leoedd parcio neu leihau lled y ffyrdd. Nid oes unrhyw fwriad i gulhau’r ffyrdd o gwmpas Dinbych-y-pysgod yn y cynllun arfaethedig hwn. Mae’r gwelliannau ar hyd Marsh Road wedi darparu troedffordd ychwanegol ac wedi ailalinio’r lôn gerbydau. Rydym yn cydnabod y pryderon ynghylch parcio a lled y ffyrdd. Mae ein tîm peirianneg yn ystyried y ffactorau hyn yn ofalus wrth ddatblygu unrhyw brosiect priffyrdd er mwyn sicrhau bod yr holl effeithiau’n cael eu hasesu’n llawn. Ein nod yw cadw’r lefelau parcio presennol a lled y lôn gerbydau. Mewn llawer o achosion, cynyddir cyfleusterau parcio fel rhan o ddatblygiadau gwella. Nod gwaith uwchraddio teithio llesol yw gwella darpariaethau ar gyfer defnyddwyr priffyrdd mwy agored i niwed, gan flaenoriaethu eu diogelwch a hygyrchedd.
Llwybr cyd-ddefnyddio Byddai cyswllt rhwng Marsh Road a’r Clicketts o fudd, yn enwedig i bobl leol. Rwyf rhwng dau feddwl am gysylltu Heywood Lane a’r Clicketts, yn bennaf oherwydd y dyluniad a’r swyddogaeth. Nid wyf yn siŵr ychwaith faint o ddefnydd a fyddai iddo ac a fyddai problemau diogelwch ffyrdd ychwanegol yn codi yn ei sgil. Nod gwelliannau teithio llesol yw rhoi opsiwn i ddefnyddwyr ddewis pa ddull teithio y mae’n well ganddynt ei ddefnyddio ar gyfer eu taith. Datblygir y gwelliannau yn unol â safonau dylunio priffyrdd a chanllawiau teithio llesol i leihau unrhyw wrthdaro posibl.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae llwybr beicio presennol rhif 4 yn mynd trwy Kiln Park, sydd ddim yn ddelfrydol. Mae’r fynedfa i’r llwybr y tu ôl i orsaf betrol Garej Gulf yn aml wedi’i rhwystro’n llwyr gan garafannau sefydlog newydd sy’n aros i gael eu lleoli. Hefyd, mae llawer o blant bach yn chwarae ar sgwteri a byrddau sgrialu yn yr ardal hon yn mwynhau eu gwyliau. Mae llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn defnyddio’r llwybr presennol drwy Kiln Park er mwyn symud defnyddwyr o’r rhwydwaith priffyrdd prysurach (A4139) lle nad oes unrhyw gyfleusterau ar hyn o bryd. Gallwn gysylltu â’r rheolwyr yn Kiln Park o ran cadw mynediad ac osgoi rhwystrau. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae angen digon o groesfannau i alluogi’r rhai â symudedd cyfyngedig i gael mynediad heb fynd i unrhyw gostau ychwanegol nac amharu ar bobl leol. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ddeddfwriaeth teithio llesol. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i ddarparu gwelliannau parhaus i’r seilwaith teithio llesol presennol ac yn y dyfodol. Daw cyllid yn uniongyrchol o’r arian ar gyfer teithio llesol; ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eraill. Ni ragwelir unrhyw gost i drigolion lleol. 
Llwybr cyd-ddefnyddio Byddai pobl â phroblemau symudedd mewn perygl gan feicwyr. Mae troi llwybrau troed yn llwybrau amlddefnydd yn cynyddu’r peryglon i’r ifanc a hefyd yr henoed. Asesir problemau symudedd yn ystod datblygiad a dyluniad y cynllun. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio fel arfer yn 3m o led neu hyd at 4.5m ar gyfer nifer fwy o gerddwyr/beicwyr.  Disgwylir i bob defnyddiwr ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd ac at ddefnyddwyr eraill.
Llwybr cyd-ddefnyddio Nid wyf yn cytuno â rhoi llwybr teithio llesol drwy ystâd dai. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn chwarae rhan bwysig o ran darparu llwybr hygyrch i bobl gerdded, teithio ar olwynion a beicio ar gyfer llawer o wahanol ddibenion teithiau. Mae hygyrchedd mewn cymdogaethau lleol yn allweddol, a lle gellir defnyddio llwybrau tawelach, megis ffyrdd preswyl oherwydd llai o draffig a chyflymder; rhoddir ystyriaeth iddynt.
Llwybr cyd-ddefnyddio Mae rhan o’r llwybr beiciau arfaethedig yn cynnwys rhiw y Glebe gerllaw St Johns Hill. Ar sawl achlysur dros y blynyddoedd rwyf wedi gorfod cynorthwyo pobl sy’n defnyddio sgwter symudedd i fynd i fyny’r bryn na allant ymdopi â’r graddiant 13% a mwy i’r lethr. Nid yw hon yn daith gerdded hawdd. Pan fydd beicwyr yn defnyddio’r bryn maen nhw’n teithio o ochr i ochr i wneud y bryn yn llai serth, mae hyn yn ei gwneud hi’n amhosib cerdded i fyny neu i lawr yr allt ar yr un pryd. Er bod graddiant yn cael ei ystyried yn y dyluniad, mae canllawiau teithio llesol yn caniatáu gwyriadau lleol oddi wrth safonau yn seiliedig ar ddaearyddiaeth leol.  Wedi dweud hynny, lle bo modd, mae llwybr arall y gellir ei ystyried y gellir ymchwilio iddo.  Ar hyn o bryd rydym hefyd yn ystyried St John’s Hill trwy Rectory Court i Merlin’s Court, fel dewis arall.
Beicio Dylai llwybrau beicio fod ar brif ffyrdd nid trwy stadau tai ar balmentydd yn union o flaen cartrefi, a dim ond pan fydd digon o le.  Cynllunnir llwybrau cyd-ddefnyddio i ddod o hyd i lwybrau mwy diogel i gerddwyr, olwynwyr a beicwyr i ffwrdd o lif traffig trwm. Gall hyn weithiau gynnwys ffyrdd preswyl, lonydd gwledig a lonydd tawel. Er mwyn beicio drwy ardaloedd gwledig a threfi mae angen cysylltiadau er mwyn pontio rhwng y ddau; dylai teithio llesol fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u lleoliad. Yn aml mae ardaloedd preswyl yn cael eu hystyried fel cyswllt teithio llesol sy’n galluogi defnyddwyr i gael mynediad i’r cyfleuster yn uniongyrchol ac yn hyderus, gan arwain defnyddwyr o garreg eu drws ar lwybr cyfforddus a hawdd ei ddefnyddio.
Cerddwyr Nid oes unrhyw gynigion i gysylltu New Hedges ag ysgolion Dinbych-y-pysgod ar hyd y brif ffordd. Sut ydyn ni i fod i gerdded ein plant i’r ysgol?  Mae angen llwybr troed diogel a digon llydan rhwng New Hedges ac ysgol Heywood Lane. Mewn ychydig flynyddoedd bydd fy mhlant yn mynychu Bro Preseli ar fws ac nid oes llwybr troed diogel iddynt gael mynediad i’r safle bws ar Heol Arberth. Mae’n siomedig nad yw hyn wedi cael ei ystyried, yn enwedig gyda datblygiad tai Bryn Hir ar y gweill. Mae cyswllt troedffordd rhwng New Hedges a Chartref Nyrsio Park House wedi’i godi’n flaenorol ac wedi’i ymgorffori mewn rhan o gais cynllunio cyfredol i ddarparu’r cyswllt hwn.  Byddai’r cynigion presennol yn darparu llwybr tawelach, i ffwrdd o lif traffig, ar hyd Slippery Back a fyddai’n cysylltu â’r Glebe, St John’s Hill ac ymlaen i Heywood Lane. Y tu hwnt i gartref nyrsio Park House, mae troedffordd yn cysylltu â rhiw Serpentine eisoes, pe byddech chi’n dewis cerdded y llwybr hwnnw.  O fewn cais cynllunio Brin Hir mae gofyniad hefyd i ddarparu cyd-ddefnyddio sy’n cysylltu â llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a man croesi ar yr A487 i hwyluso croesi diogel.
Cerddwyr Gallai’r newidiadau yn The Croft a Gas Lane fod yn ddefnyddiol, ond mae anghenion The Green yn ymddangos yn isel iawn. Mae angen llwybr i mewn i’r dref ar hyd y Norton gan fod llawer o bobl yn cerdded y ffordd honno yn ôl ac ymlaen i’r feddygfa a’r ysbyty. Nid yw swm y traffig ar hyd y Norton a’r seilwaith presennol yn addas ar gyfer defnyddio’r llwybr hwn ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio. O’r herwydd, gwrthodwyd y llwybr hwn rhag ystyriaeth bellach.
Cerddwyr Mae diffyg palmentydd o amgylch y ganolfan hamdden sy’n boblogaidd iawn. Mae troedffordd presennol ar hyd yr A4139 o flaen y ganolfan hamdden. Mae’r cynigion presennol yn cynnwys darparu llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd y Clicketts, Heywood Lane a Marsh Road i hwyluso teithio llesol.
Trafnidiaeth gyhoeddus Mae trosglwyddo’r llwybr bws o ganol y pentref i’r ffordd osgoi yn gwella diogelwch cerddwyr y pentref (dim llwybrau troed) a llygredd aer. Nodwyd.
Trafnidiaeth gyhoeddus Bydd pobl â phroblemau symudedd yn cael anhawster hygyrchedd mewn cysylltiad ag unrhyw beth yn Ninbych-y-pysgod. Pe bai gwasanaeth bws tref, rwy’n meddwl y byddai hynny’n gwella hygyrchedd yn gyffredinol ac yn cysylltu â’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Mae’r broses o ddiwygio bysiau a masnachfreinio sydd ar ddod ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r anghenion am well gwasanaeth, amlder a chysylltedd yn rhanbarth y de-orllewin. Gellir ystyried bws tref Dinbych-y-pysgod o fewn y cynllun hwn. 
Traffig Bydd gostwng y terfyn cyflymder i 30mya ar gyfer rhan y ffordd osgoi ger gorsaf rheilffordd Penalun yn gwella diogelwch cerddwyr. Wedi’i nodi a’i drosglwyddo i’n tîm traffig. 
Traffig Byddai’r Croft i’r Green yn troi St John’s Hill yn ôl yn system draffig ddwy ffordd nad oedd erioed wedi gweithio o’r blaen ac a gafodd ei newid oherwydd ei fod mor beryglus. Mae gwelliant y llwybr cyd-ddefnyddio yn berthnasol i lif traffig cerdded, olwynio a beicio a fyddai’n ddwyffordd. Nid yw’r cynigion yn ceisio newid y llif traffig cerbydau unffordd.
Traffig Ni ddylai beicwyr sy’n teithio ar gyflymder o 30mya a mwy gymysgu â cherddwyr. Y terfyn cyflymder yw 20mya, nid yw ceir yn cadw ato ac yn sicr ni fydd beicwyr. Disgwylir i feicwyr gadw at reolau’r ffordd fawr ac ymddwyn yn barchus wrth gymysgu â cherbydau eraill. Mae’r un peth yn wir am gerbydau; gyrru’r terfyn cyflymder a chadw at yr 20mya yw’r gyfraith.
Traffig Yn aml does dim digon o le ar balmentydd Dinbych-y-pysgod, a phrin yw’r mesurau ffordd effeithiol i ymdopi â gormod o geir, e.e. cyflymderau o 30mya a mwy yn yr 20mya, ffyrdd dosbarthu fel ffordd Arberth a’r Norton. Mae natur hanesyddol Dinbych-y-pysgod, fel lleoliadau eraill yn Sir Benfro, yn cyfyngu ar y seilwaith presennol a gwelliannau pellach. Mae poblogaeth Dinbych-y-pysgod gydag ymwelwyr yn cynyddu llif traffig yn ystod y tymor gwyliau. Bydd angen mynd i’r afael â hyn drwy ddulliau eraill, megis gwell cyfleusterau bysiau, gwell cysylltiadau rheilffordd, gwell cysylltiadau teithio llesol er mwyn lleihau nifer y cerbydau a lleihau tagfeydd.
Slippery Back Mae’n anodd iawn asesu a ddylid gwario symiau mawr o arian cyhoeddus pan nad oes unrhyw arwydd o lefel yr angen. Ar hyn o bryd, pan fyddaf yn cerdded fy nghi i fyny Slippery Back, anaml y byddaf yn pasio unrhyw un arall. Yn naturiol gyda’r datblygiad tai newydd mae’n debygol y bydd mwy o bobl yn cerdded ar hyd y llwybr. Mae’r llwybr arfaethedig ar hyd Slippery Back yn darparu cysylltiad o New Hedges i Ddinbych-y-pysgod, i ffwrdd o draffig yr A478. Mae’r llwybr yn boblogaidd gyda llawer o drigolion ac ymwelwyr yn yr ardal a gallai ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio i alluogi’r rhai yn yr ardal i deithio ar droed, ar olwynion neu ar feic.
Slippery Back Rwy’n defnyddio Slippery Back i fynd i’r fynwent weithiau ac rwyf bob amser wedi cerdded o amgylch y lonydd gan gynnwys Blind Mans Lane i fynd â fy nghŵn am dro. A fydd hi wir yn bosibl prynu tir preifat i newid y llwybr? Mae trafodaethau â thirfeddianwyr ar y gweill; bydd yr opsiwn dewis llwybr terfynol yn dibynnu ar a yw trafodaeth tir trydydd parti yn llwyddiannus.  O ganlyniad, rydym wedi datblygu opsiynau i’w hystyried.
O’r Glebe i’r Green Bydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith fawr ar lawer o drigolion ar y Glebe gan fod galw mawr am leoedd parcio, nid yn unig i drigolion ond i nofwyr ben bore sy’n ymweld â’r traeth.  Mae plant lleol yn defnyddio’r ffordd fynediad gul i gyrraedd y maes chwarae, a bydd cynyddu’r traffig ar hyd y lôn gul hon yn debygol o arwain at ddamweiniau.  Mae lefelau parcio ar y stryd i’w cadw fel y maent ar hyn o bryd. Roedd yr opsiwn cychwynnol a ddatblygwyd yn ystyried na fyddai lleoliad mynediad pob dreif ar gael ar gyfer parcio ar y stryd oherwydd y byddai’n atal mynediad, felly ystyrir ar hyn o bryd mai ychydig iawn o effaith a gaiff datblygu’r cysylltiad teithio llesol ar hyd y rhan hon o’r briffordd. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i dawelu traffig o fewn y trefniant a ddatblygwyd i fynd i’r afael â chyflymder traffig a gwrthdaro â phlant yn chwarae. 
O’r Glebe i’r Green Bydd y llwybr yn cael gwared ar barcio perchnogion tai ar adeg pan fo parcio yn flaenoriaeth yn y Glebe. Bydd hefyd yn beryglus i blant chwarae y tu allan i’w cartrefi os cyflwynir llwybr beicio mewn stad breswyl. Nid oes unrhyw gynigion i gael gwared ar barcio perchnogion tai, mae’r parcio ar y stryd i’w gadw fel y mae. Byddai mân adlinio’r troedffordd gyferbyn â’r llwybr cyd-ddefnyddio posibl yn unol â gofynion lled safonol teithio llesol, a diwygio’r lôn gerbydau i led sy’n addas ar gyfer stad o dai. Gellid gosod arwyddion addas yn gofyn i feicwyr ddod oddi ar y beic mewn mannau prysur lle mae plant yn chwarae.
O’r Glebe i’r Green Er y gallai’r bwriad y tu ôl i gyflwyno lonydd beicio a llwybrau hygyrch fod i hyrwyddo dewisiadau trafnidiaeth gwyrddach ac iachach, mae ardal benodol y Glebe, yn awgrymu y gallai ymyriad o’r fath amharu ar gydbwysedd bregus gofod cymunedol, diogelwch, a breintiau hanesyddol preswylwyr. Mae angen ymagwedd drylwyr, gyfranogol ar unrhyw newidiadau o’r fath sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid i sicrhau nad yw’r datrysiad yn y pen draw yn fwy niweidiol na buddiol. Mae’r cynigion presennol mewn dyluniad rhagarweiniol, a bydd yr holl sylwadau’n cael eu hystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniad pellach ar y rhan hon o’r llwybr. Gwerthfawrogwn bwysigrwydd cadw cymeriad a swyddogaeth cymunedau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd o arwyddocâd hanesyddol ac anghenion preswylwyr hirsefydlog.Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol drwy gydol y broses i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn sensitif i gyd-destun unigryw’r ardal. Mae cynnal gofod cymunedol, sicrhau diogelwch, a pharchu mynediad ac amwynderau preswylwyr yn flaenoriaethau allweddol yn y broses ddylunio ac ymgynghori.
O’r Glebe i’r Green Mae’r llwybr drwy y Glebe yn ymddangos yn ddiangen a bydd yn disodli’r ddarpariaeth parcio presennol i drigolion heb unrhyw ddewis arall yn cael ei gynnig. Mae’r lôn gerllaw’r dafarn yn hynod o serth ac yn cyfyngu’n fawr ar yr opsiynau i’r rhai ag anghenion symudedd. Mae’r modd o ddarparu’r opsiynau hynny felly yn dod yn ddrud iawn. Llwybr Merlin’s Court yw’r opsiwn gorau amlwg ac mae’n ategu llwybrau meysydd parcio Slippery Back a Thraeth y Gogledd. Efallai y bydd yn gwella mynediad i leoliad gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ond mae’r gwasanaethau gwirioneddol a ddarperir yn drafodaeth lawer mwy. Er bod graddiant yn cael ei ystyried yn y dyluniad, mae canllawiau teithio llesol yn caniatáu gwyriadau lleol oddi wrth safonau yn seiliedig ar ddaearyddiaeth leol.  Wedi dweud hynny, lle bo modd, os oes llwybr arall y gellid ei ystyried, byddwn yn ymchwilio i’r opsiwn hwn.  Ar hyn o bryd rydym hefyd yn ystyried St John’s Hill trwy Rectory Court i Merlin’s Court, fel dewis arall.
O’r Glebe i’r Green Mae llawer o ddeiliaid tai ar hyd y rhan o’r stad yr effeithir arni wedi cael gwneud addasiadau i flaen eu tai er mwyn hwyluso mynedfeydd a cherbydau hygyrch, nid yw’n ymddangos bod y cynigion yn adlewyrchu hyn. Yn y cyfamser, mae’r gwaith adeiladu llwybr teithio i’w weld yn cynnwys lledu un ochr i’r palmant i fodloni gofynion y llwybr, culhau’r ochr arall a thrwy hynny greu bwlch rhwng yr heol a’r hen balmant. Mae’r heol wedi’i hadeiladu a’i gorffen mewn concrit, felly byddai’n her defnyddio deunyddiau boddhaol. Yn olaf, mae’n ymddangos bod y defnydd arfaethedig o’r llethr sy’n mynd i lawr o’r ystâd i St John’s Hill yn cynyddu’r risg o wrthdrawiadau rhwng cerddwyr a beiciau.  Mae lefelau parcio ar y stryd i’w cadw fel y maent ar hyn o bryd, roedd yr opsiwn cychwynnol a ddatblygwyd yn ystyried na fyddai lleoliad mynediad pob dreif ar gael ar gyfer parcio ar y stryd oherwydd y byddai’n atal mynediad. Byddai mân adlinio’r troedffordd gyferbyn â’r llwybr cyd-ddefnyddio posibl yn unol â gofynion lled safonol teithio llesol, a diwygio’r lôn gerbydau i led sy’n addas ar gyfer stad o dai. Nodir y sylwadau ynghylch adeiladu ffyrdd concrit ac mae’r peirianwyr eisoes yn deall ac yn ystyried y ffactorau hyn. Rydym yn deall bod y posibilrwydd o wrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr yn ystyriaeth bwysig, yn enwedig mewn ardaloedd â thirwedd amrywiol.Fel rhan o’r broses ddylunio, mae ein tîm peirianneg yn asesu’r gosodiad a’r risgiau posibl yn ofalus i sicrhau diogelwch yr holl ddefnyddwyr, maent yn gwerthuso dyluniad y llethr yn ofalus i archwilio atebion a all liniaru unrhyw risgiau, megis arwyddion priodol clir.
Amrywiol Rwy’n chwilfrydig ynghylch pa asesiad o ‘angen’ sydd wedi’i wneud yn yr ardal leol? A gynhaliwyd astudiaethau dichonoldeb? Os felly, ble gellir gweld y canlyniadau? Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn elfenneu’r astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol a gynhaliwyd yn 2023, a’r arolygon traffig a gynhaliwyd yn 2024. Bydd canlyniadau arolwg yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan maes o law. 
Amrywiol Mae’r cynnig hwn yn gwbl groes i bolisi’r cyngor o beidio â gwario’n ddiangen oherwydd trafferthion ariannol. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ddeddfwriaeth teithio llesol. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i ddarparu gwelliannau parhaus i’r seilwaith teithio llesol presennol ac yn y dyfodol. Daw’r cyllid yn uniongyrchol o’r Gronfa Teithio Llesol, a reolir gan Lywodraeth Cymru, ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw feysydd eraill (fel tai, addysg na phriffyrdd). 
Amrywiol Nid oes angen gwelliannau hygyrchedd ychwanegol i unigolion ag anableddau ar y llwybrau a awgrymir, gan fod y llwybrau hyn yn aml yn serth ac nid ydynt yn darparu ar gyfer y rhai â chyfyngiadau symudedd.  Nid oes dyluniad manwl wedi’i wneud eto; bydd y dyluniad terfynol yn ystyried a oes angen unrhyw welliannau hygyrchedd ychwanegol. Mae ein swyddog hygyrchedd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau dylunio rhagarweiniol a byddwn yn parhau i ymgynghori ag ef drwy gydol y broses o ddylunio’r cynllun.
Amrywiol Bydd budd i ambell un ag anghenion symudedd, ond nid i bawb. Mae gan bob un ohonynt lethrau serth a gallent fod yn broblem diogelwch hyd yn oed i feicwyr abl eu cyrff, yn enwedig yn ystod tywydd gwlyb a phan fo dail yn gorchuddio arwynebau. Gyda’r sefyllfa ariannol bresennol, mae’r cyngor yn brwydro i gadw heolydd/llwybrau yn glir o ddail. Nid yw hyn yn feirniadaeth ar y gwasanaethau; dyna realiti’r sefyllfa. Heb wybod y costau gweithredu mae’n anodd dweud a wyf yn llwyr gefnogi’r newidiadau arfaethedig. Fodd bynnag, rwy’n hoffi ac yn cefnogi’r cysyniad o gyflwyno llwybrau teithio llesol. Sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio all fod yn anodd. Nodwyd.  Mae pob cynllun wedi’i ddylunio gan gadw canllawiau teithio llesol mewn golwg i fodloni meini prawf. Lle mae’n anodd cyflawni llwybrau teithio llesol lle mae llethrau â graddiannau, mae llwybrau eraill wedi’u hystyried. Lle nad oes dewis arallbynnir gwyriad oddi wrth y safon o fewn amrywiadau lleol.
Amrywiol Nid oes gofyn am yr un ohonynt yn fy marn i. Byddent yn cael eu defnyddio’n bennaf gan ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf, ac rwy’n meddwl y dylai’r ychydig arian a gawn gan Lywodraeth Cymru fod o fudd i bobl leol. Weithiau hoffwn pe baech yn gofyn i breswylwyr beth sydd ei angen arnynt. Mae’r broses ymgynghori cyhoeddus yn ymwneud â chael adborth gan drigolion lleol mewn perthynas â chynlluniau posibl yn y dyfodol. Ni ellir gwario arian a neilltuwyd ar gyfer teithio llesol ar feysydd eraill (fel tai, addysg neu briffyrdd) a phe na baem yn gwneud cais am y cyllid, byddai’n cael ei wario mewn awdurdodau lleol eraill. Mae adborth gan drigolion yn bwysig wrth benderfynu a yw cynlluniau’n symud ymlaen ac a oes angen ystyried dewisiadau eraill wrth ddylunio, llunio llwybrau a/neu leoliad.

 

 

Diweddariad Tachwedd 2024:

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn ystod y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar Hydref 16eg 2024. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law yn cadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynnig Gwelliannau Teithio Llesol Dinbych-y-pysgod a Phenalun 

Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio 1.66km o hyd o bentref Penalun i gwrs golff Dinbych-y-pysgod. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer symudiadau cerddwyr a beicwyr.
  • Creu llwybr amlddefnyddiwr o Lôn Clicketts i Lôn Heywood, Dinbych-y-pysgod. Mae llwybr aml-ddefnyddiwr yn llwybr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mathau lluosog o ddefnyddwyr, megis cerddwyr, beicwyr a marchogion.
  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio 1.08km o hyd o Heol Marsh Road i Lon Clicketts, Dinbych-y-pysgod
  • Creu llwybr cyd-ddefnyddio o Slippery Back i The Croft, Dinbych-y-pysgod
  • Darparu gwelliannau teithio llesol rhwng maes parcio Traeth y Gogledd a The Green trwy Gas Lane a The Glebe.

 

Gwelliannau teithio llesol Penalun

Gwelliannau teithio llesol Lon Clicketts/Lon Heywood

Gwaith Strategol Glebe i Green a Croft i Green

Llwybr aml-ddefnydd Marsh Rd

Coridor Strategol - Penalun i Saundersfoot

 

Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Mae teithio llesol yn ffordd o symud o gwmpas sy'n cynnwys gweithgarwch corfforol, fel cerdded, beicio neu yrru.  Hoffem greu llwybr strategol sy’n golygu bod modd teithio o Benalun drwy Ddinbych-y-pysgod a Llanusyllt i Bentlepoir heb ddefnyddio cerbydau; gan leihau tagfeydd, parcio a phwysau traffig. Bydd annog y newid hwn mewn ymddygiad nid yn unig yn arwain at ffordd iachach o fyw ond bydd hefyd yn ffordd wyrddach a rhatach o deithio.  

Nod y cynnig yw:

  • Darparu man diogel a rennir i bob defnyddiwr allu cymudo o Benalun i Ddinbych-y-pysgod heb ddefnyddio cerbyd
  • Gwella diogelwch y rhwydwaith teithio llesol o fewn yr ardal
  • Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau, gan gynnwys twristiaeth, hamdden, ysgol a gwaith

Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn gofyn am eich adborth ar y cynlluniau arfaethedig ar gyfer y newidiadau hyn, a gofynnwn yn garedig i chi hyrwyddo lansiad y sesiwn ymgysylltu cyhoeddus hwn a'r arolwg ar-lein o fewn eich cymuned/grwpiau lleol ac etholwyr. Bydd ein Tîm Cyfathrebu yn hysbysebu hyn ar holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro a bydd datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi ynghyd â diweddariad ar ein gwefan.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy / sesiwn galw heibio ar Hydref 16eg 2024, rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a rhwng 6.30pm ac 8pm yn De Valence Pavilion.

Bydd gan y sesiynau gynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro, i ateb unrhyw gwestiynau a all godi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael i’r rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol, a gellir ei gyrchu, trwy Dweud eich Dweud 

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 4 wythnos gan ddod i ben ar 13 Tachwedd 2024

Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn De Valence Pavilion. Bydd y fersiwn argraffedig a'r arolygon papur yn parhau yn eu lle tan Tachwedd 13eg 2024, pan fyddant yn cael eu casglu. Mae copïau drwy'r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost uchod neu'r rhif cyswllt.

Mae copïau wedi'u postio ar gael ar gais drwy gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost isod neu rif cyswllt.

Cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 76455 os oes gennych unrhyw gwestiynau

ID: 12040, adolygwyd 01/05/2025

System Unffordd Prendergast

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Hydref 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm. 

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Themâu allweddol (Fe ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Yr hyn a wnaethom)

Mân gylchfan Bydd y gylchfan newydd yn achosi man cyfyng; a all bysiau a cherbydau mwy fynd drwodd? Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i safonau Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd a gall bysiau a cherbydau mwy deithio drwy’r mân gylchfan yn ddiogel. Mae dadansoddiad o symudiadau cerbydau wedi’i gynnal fel rhan o’r dyluniad manwl, sydd bellach wedi’i gwblhau.
Mân gylchfan Mae’r cynllun yn debygol o achosi problemau dosbarthu i fusnesau lleol; ydy’r cyngor wedi meddwl am hyn? Mae symudiadau cerbydau a dosbarthu nwyddau wedi’u hymgorffori yn y dyluniad arfaethedig, sy’n darparu i gynnal y mynediad presennol. Ni ragwelir unrhyw effaith negyddol ar fynediad/busnesau.
Mân gylchfan Bydd y gylchfan yn lleihau’r llif traffig ac yn effeithio ar fusnesau. Bydd y gylchfan yn darparu llif traffig mwy diogel drwy dawelu traffig sy’n symud drwy’r gyffordd; ni fydd yn cael unrhyw effaith ar lif traffig a/neu fynediad i fusnesau.
Mân gylchfan Pam na allwn ni ddefnyddio dulliau rheoli traffig yn lle mân gylchfan? Y dull mwyaf ymarferol o adlinio’r gyffordd hon yw ar ffurf mân gylchfan; bydd hyn yn gwella gwelededd, culhau’r gerbytffordd i ddarparu mannau croesi gwell i drigolion/defnyddwyr lleol ac yn cynnal y llif traffig. Roedd cynllun y gyffordd yn addas pan mai Bryn Prendergast / Heol Aberteifi oedd y prif lwybr allan i Aberteifi. Nid yw hyn yn wir bellach ac mae’r gyffordd yn ansafonol. 
Mân gylchfan A allwn ddefnyddio dulliau gorfodi traffig yn lle’r cynllun hwn? Mae dulliau gorfodi traffig wedi bod ar waith yn Prendergast ond nid yw wedi rheoli arferion parcio anghyfreithlon yn effeithiol yn yr ardal. 
Mân gylchfan Mae’r mynediad i fy eiddo’n uniongyrchol ar y fân gylchfan, a fydd hyn yn broblem? Mae dyluniad y gylchfan wedi’i addasu ac rydym wedi creu lôn benodol i fynd i mewn i’r eiddo hyn er mwyn lleddfu’r pryder hwn, gan gynnal ymgynghoriad uniongyrchol â’r eiddo yr effeithir arnynt.
Parcio Nid oes digon o leoedd parcio o fewn y cynllun. Mae’r cynllun yn darparu lefel ychwanegol o leoedd parcio ar y stryd (+40 o leoedd) nad yw’n bodoli ar hyn o bryd. Mae hyn trwy ffurfioli lleoedd parcio ar hyd y llwybr a dileu parcio anghyfreithlon sy’n digwydd yn yr ardal fusnes. Bydd busnesau’n debygol o elwa o’r trefniant ffurfiol hwn; trwy addasu’r gorchymyn rheoleiddio traffig presennol.
Parcio Nid yw parcio i fusnesau yn ddigonol; mae angen mwy o gilfannau llwytho. Fel rhan o’r cynllun, byddai cilfannau parcio a llwytho yn cael eu cynnwys yn y cynnig. Byddai hyn yn ffurfioli’r lleoedd parcio presennol.
Parcio A ellir rheoli parcio trwy orfodi traffig fel y mae ar hyn o bryd yn hytrach na chreu cynllun newydd? Byddai defnyddio teledu cylch cyfyng a gwell gorfodaeth yn arbed arian. Mae hyn yn wir, ond ni all y swyddogion gorfodi sifil gael eu defnyddio’n barhaol yn Prendergast. Mae gan y cynllun arfaethedig fanteision ehangach. Nid teledu cylch cyfyng yw’r mecanwaith priodol ar gyfer gorfodi parcio amhriodol. Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Sir Penfro y pŵer i orfodi trwy adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig.
Parcio A ellir cyfyngu lleoedd parcio i breswylwyr yn unig? Os felly, beth am barcio i fusnesau? Nid yw’r cyfyngiadau presennol yn rhoi llawer o gyfle i gyflwyno lleoedd parcio i breswylwyr yn unig. Trwy leihau lled y ffordd i ymdopi â llif traffig i un cyfeiriad, gellid cynyddu cyfleoedd ar gyfer parcio ar y stryd. 
Parcio Mae lleoedd parcio o amgylch man codi/gollwng ger ysgol yn anghynaladwy. Beth all y cyngor ei wneud i ddatrys hyn? Mae gan y ddwy ysgol gynllun teithio ysgol y mae’n ofynnol iddynt ei ddiweddaru. Mae’r awdurdod hwn ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r ddwy ysgol i gynorthwyo i annog mwy o ddisgyblion yn yr ardal i gerdded/feicio i’r ysgol er mwyn lleihau’r defnydd o gerbydau preifat.
Parcio Oni ellir defnyddio’r archifdy i ddarparu lleoedd parcio ychwanegol? Gellir ystyried hyn o ran a oes gan yr archifdy ddigon o le i ganiatáu parcio hyblyg. Pe bai’r cynllun unffordd yn cael ei weithredu, ni fyddai angen darparu mannau parcio ychwanegol yn yr archifdy.
Parcio Mae diogelwch cerddwyr yn bryder oherwydd y llwybrau cerdded cul a nifer y plant ysgol sy’n cerdded yn agos at niferoedd uchel o gerbydau. Mae’r cynllun arfaethedig yn ceisio lledu’r llwybrau troed presennol ar hyd Bryn Prendergast a chreu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr. Bydd hyn yn annog mwy o fyfyrwyr a thrigolion i gerdded/feicio, a fyddai wedyn yn lleihau nifer y cerbydau.
Cerddwyr Os byddwch yn cael gwared ar y groesfan â signalau, sut y bydd hyn yn fwy diogel i gerddwyr a’r rheiny â phroblemau symudedd? Lled y groesfan â signalau yw 7.2m ac mae traffig yn dod o’r ddwy ochr. Byddai’r cynigion yn sicrhau gosod rhwystrau ymwthiol a fyddai’n lleihau’r lled i 3.2m ac yn sicrhau gwelededd llawn i fodurwyr a cherddwyr yn y mannau croesi hyn. Byddai byrddau wedi’u codi yn cael eu defnyddio wrth y croesfannau hyn a fyddai’n lleihau cyflymder cerbydau wrth ddod yn agos. Byddai cyflwyno’r cynllun unffordd hefyd yn golygu mai dim ond i un cyfeiriad y byddai traffig yn dod.
Cerddwyr Mae’r bryn yn rhy serth i feicwyr; a byddant yn gwrthdaro â cherddwyr. Nid yw plant yn talu sylw i ddiogelwch ar y ffyrdd, felly mae beicio ar y palmant yn syniad gwael. Bydd darparu llwybr cyd-ddefnyddio ehangach i ddefnyddwyr feicio arno yn sicrhau bod cyfleusterau digonol a diogel yn cael eu darparu. Disgwylir i ddefnyddwyr pob dull teithio gydymffurfio â Rheolau’r Ffordd Fawr a bod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill. 
Cerddwyr Nid yw’r tanlwybr yn ateb ei ddiben, mae’n rhaid ichi groesi tair lôn brysur o draffig i gael mynediad iddo. Beth ydych chi’n ei wneud i wella hyn? Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wneud gwelliannau pellach i’r tanlwybr.
Cerddwyr  Pam cafodd yr hen lwybrau rhwng yr ysgol a’r archifdy, Queensway ac ysgol Prendergast eu cau? Pam na all y cyngor ailagor y rhain? Mae rheolaeth y man gollwng ar gyfer yr ysgol yn anaddas, a byddai hefyd yn creu materion diogelu ychwanegol. Bydd cadarnhad gan y Swyddog Hawliau Tramwy yn penderfynu a oes angen cadw hawliau tramwy cyhoeddus yn y lleoliad hwn.
Trafnidiaeth gyhoeddus A allwn ni wella’r gwasanaeth bws drwy’r pentref i ddarparu mynediad a dewisiadau teithio ychwanegol? Gallwn edrych ar hwn i weld a oes unrhyw opsiynau yn y dyfodol agos i wella amlder gwasanaeth teithio ar fws. Mae Sir Benfro yn mynd drwy’r broses masnachfreinio bysiau ar hyn o bryd ac o’r herwydd mae’n bosibl y bydd yn gallu ystyried hyn o dan y broses honno.
Trafnidiaeth gyhoeddus Os caiff y cynllun unffordd ei roi ar waith, ni fydd bws tua’r de, sut y bydd hyn yn gweithio? Bydd y llwybr bws yn mynd tua’r gogledd i fyny i Lwynhelyg, yn troi o gwmpas yn Llwynhelyg ac yna’n mynd yn ôl i lawr Teras Stepney i Heol Aberteifi, lle byddai wedyn yn mynd tua’r gogledd. Mae arosfannau eraill o fewn pellter cerdded o 400m ar gael.
Traffig ysgol A yw’r cynllun wedi cael archwiliad diogelwch ffyrdd? A yw’n bodloni’r safonau? Beth am ddiogelwch plant? Byddai Archwiliad Diogelwch yn cael ei weithredu ar ôl cwblhau’r broses ymgynghori a gwneud gwaith ar fanylion pellach y dyluniad.
Traffig ysgol Pam na ellir cyfeirio’r traffig i’r ysgolion drwy’r brif fynedfa oddi ar yr A40 ac nid drwy Prendergast? Anogir traffig i’r ysgol uwchradd ddefnyddio’r brif fynedfa ar yr A40. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r ysgol yn ymwybodol ohono ac mae’r awdurdod hwn yn gweithio gyda’r ysgol ar ei gynllun teithio.
Traffig ysgol Mae tacsis i blant ysgol yn parcio ar y llinellau melyn dwbl trwy Prendergast.  Mae hwn wedi’i drosglwyddo i’r tîm gorfodi parcio i ymchwilio iddo; fodd bynnag, at ddibenion llwytho/dadlwytho a gollwng teithwyr caniateir hyn yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr ar gyfer lleoliad addas.
Traffig – cyffredinol Mae goryrru yn broblem drwy’r pentref, mae angen gwell mesurau arafu. Bydd y system unffordd yn gwneud traffig yn gyflymach. Nid yw cynlluniau unffordd o reidrwydd yn cynyddu cyflymder traffig. Mae’r cynnig yn ceisio culhau’r ffordd gerbydau, a chyda chyfres o fyrddau wedi’u codi drwyddi draw, bydd yn arafu traffig drwy’r ardal. Mae’r terfyn cyflymder wedi’i osod ar 20mya; mae hyn i yrwyr gadw ato yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr.
Traffig – cyffredinol Bydd Heol Hall Park yn mynd yn anniogel oherwydd y cynnydd mewn traffig ac yn ei gwneud yn amhosibl i bobl yrru allan o’r fynedfa i’w cartrefi. Mae’r cynllun unffordd yn debygol o leihau llif y traffig tua’r de ar hyd Teras Stepney ar gyfer y gyrwyr hynny sy’n defnyddio’r llwybr fel ffordd osgoi traffig; bydd traffig sy’n cael ei ddargyfeirio naill ai’n defnyddio ffordd osgoi ddwyreiniol yr A40 a/neu Sydney Rees Way. Nid oes unrhyw gynigion i rwystro unrhyw dramwyfeydd o fewn y cynllun a/neu leihau parcio yn yr ardal hon.
Traffig – cyffredinol Bydd y system unffordd yn ysgogi mwy o draffig i ddefnyddio Queensway er mwyn cludo plant i’r ysgol. Cynigir y cynllun i annog newid moddol gan gynyddu nifer y plant sy’n dewis cerdded/beicio i’r ysgolion, lle bo modd. Bydd gostyngiad mewn traffig ar hyd Queensway yn cael ei adolygu, ynghyd â’r potensial i agor llwybrau i gerddwyr ar hyd Cherry Grove.
Traffig – cyffredinol Mae angen arwyddion newydd ar gyfer goryrru, creu llwybrau newydd. Mae angen cael gwared ar hen arwyddion yn mynd drwy Prendergast yn dweud sut i gyrraedd Aberteifi; mae angen diweddaru’r llwybr llywio â lloeren. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r cyngor yn ymchwilio iddo fel un o ganlyniadau’r prosiect hwn. Byddwn yn cysylltu â’r darparwyr llywio â lloeren priodol drwy’r sianeli priodol ac yn gweithio gyda’n tîm arwyddion ar gyfer newidiadau pellach.
Traffig – cyffredinol Mae pryderon am gynnydd mewn traffig drwy Teras Stepney oherwydd system unffordd. Mae’n debygol y byddai llai o draffig o weithredu system unffordd, o ystyried y byddai traffig yn debygol o wyro i lwybrau eraill. Gallai hyn fod yn ganlyniad tymor byr nes bod y system unffordd yn ymgorffori a bod defnyddwyr yn dod yn ymwybodol o’r cynllun newydd.
Traffig – unffordd Bydd y system unffordd yn golygu na all yr eglwys gynnal gorymdeithiau angladdol a chael mynediad i fynwent yr eglwys, trwy Back Lane. Nid yw’n briodol i’r hers fynd yn ei blaen yn ddigwmni a’r cerddwyr i ddefnyddio llwybr arall. A fydd angen cau’r ffordd bob tro? Bydd gofyn i’r holl draffig ddilyn y system unffordd. Ni fydd unrhyw ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer angladdau, gan nad yw’n ofyniad.
Traffig – unffordd Nid yw’n glir lle mae’r system unffordd yn dod i ben ac nid yw’n darparu man troi ar gyfer cerbydau. Sut y byddwch yn mynd i’r afael â hyn? Bydd yr awdurdod hwn yn ymchwilio i hyn ac yn asesu’r angen am arwyddion neu le ychwanegol i droi o fewn y cynllun.
Traffig – unffordd Bydd anhrefn a mwy o oedi oherwydd bod traffig ychwanegol yn cael ei orfodi i ddefnyddio Sydney Rees Way, cylchfan Morrisons a Theras Stepney. Nid oes disgwyl i draffig ar Sydney Rees Way gynyddu a pheri mwy o oedi. 
Traffig – unffordd Sut bydd hyn yn effeithio ar amseroedd teithio ar gyfer pob ymateb i argyfwng? Nid oes amser teithio ychwanegol ar gyfer ymatebion i argyfwng o ystyried y gofyniad i glirio’r ffordd ar gyfer cerbydau golau glas. Byddai’r system unffordd, a lleoedd parcio ychwanegol, yn lleihau parcio ac yn clirio rhwystrau ar y ffyrdd. 
Traffig – unffordd Bydd yn rhaid i’r rhai sy’n byw ym mhen gogleddol Heol Aberteifi (y B4329) ddefnyddio’r A40 i gael mynediad i’r dref nawr, gan ychwanegu at amseroedd teithio. Nid yw’r A40 (ffordd osgoi ddwyreiniol) yn cael ei defnyddio ddigon a gall ymdopi â chryn dipyn o lif traffig ychwanegol. Nid oes unrhyw gynnydd disgwyliedig mewn amser teithio i’r mwyafrif o ddefnyddwyr.
Traffig – tagfeydd Y goleuadau traffig yn Lidl a Morrisons sy’n aml yn gyfrifol am dagfeydd ar ffordd Prendergast; a ellir adolygu’r rhain? Mae’r awdurdod hwn wedi edrych ar y mater hwn a bydd yn parhau i fonitro a chwilio am atebion yn y dyfodol fel y bo’n briodol. Ni fyddai’r system unffordd arfaethedig yn effeithio ar y problemau capasiti presennol gan y byddai’n lleihau’r traffig i gylchfan Pen-y-bont o un cyfeiriad a fydd yn ei dro yn gwella llif y traffig ac yn lleihau gwrthdaro oherwydd oedi.
Traffig – tagfeydd A oes modd cael llwybr o Prendergast i gefnffordd yr A40? Ar hyn o bryd mae llwybr Heol Aberteifi neu Deras Stepney (trwy Ffordd Abergwaun) eisoes yn ei le.
Traffig – tagfeydd Mae traffig yn gysylltiedig â hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno; mae angen mynd i’r afael â hyn. Mae’r cyngor yn gweithio gyda’r ddwy ysgol i gynyddu cerdded/beicio lle bo hynny’n bosibl ac annog plant i deithio’n llesol yng ngoleuni’r cynllun hwn. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r ysgolion ar reoli traffig yn ystod y cyfnod casglu/gollwng o’r ysgol i gynnwys ’hybiau’ parcio mewn gwahanol leoliadau o amgylch y dref.

Mawrth 2025

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun unffordd arfaethedig wedi ennyn llawer o adborth, yn enwedig ynghylch pryderon parcio yn Prendergast. Mae dadansoddiad yr arolwg yn dangos, er nad yw’r mwyafrif o bosibl yn cefnogi’r cynnig presennol, bod adborth clir yn dangos bod trigolion lleol yn awyddus i weld gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd, yn enwedig o ran materion parcio. Mae’r Tîm Peirianneg yn cydweithio â’r Adran Strategaeth Trafnidiaeth i greu cynllun newydd sy’n mynd i’r afael â’r materion parhaus hyn.

Mae’r gylchfan fach ar gyffordd Heol Aberteifi/Teras Stepney yn Prendergast yn symud ymlaen yn unol â’r caniatâd angenrheidiol. Gan mai cynllun priffyrdd yw hwn, mae hwn yn rhan o awdurdod dirprwyedig y cyngor i wneud gwelliannau fel rhan o ddiogelwch ffyrdd. Nid yw’r trefniant presennol yn bodloni defnydd y gymdogaeth mwyach ac roedd yn addas pan mai hon oedd y brif ffordd i Aberteifi. Bydd y gylchfan fach yn gwella llif traffig a gwelededd yn y gyffordd hon. Disgwylir i’r gwaith ddechrau ym mis Ebrill 2025.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon maes o law.

Hydref 2024

Mae arolwg Cynllun Unffordd Prendergast bellach ar gau. Diolch am gymryd rhan.

Byddwn nawr yn asesu'r data a'r adborth a ddarperir. Bydd diweddariadau pellach ar y canlyniad yn cael eu darparu mewn ychydig wythnosau. 

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gynllun unffordd arfaethedig Prendergast

Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd, cymudwyr a busnesau lleol ar y canlynol:

  • Gweithredu system unffordd drwy Brendergast

  • Darparu Llwybr Defnydd a Rennir 500 metr. Mae Llwybr Defnydd a Rennir yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer symudiadau cerddwyr a beicwyr. 

  • Ailddosbarthu cilfannau parcio a mesurau rheoli traffig ar hyd y B4329 (Prendergast), rhwng cyffordd Heol Aberteifi / Heol Hall Park a chylchfan Sgwâr Pen-y-bont

Mae pobl yn parcio ar y brif ffordd trwy Brendergast yn fyrbwyll a di-feddwl, er mwyn galw draw i’r amwynderau lleol. Mae hyn yn golygu bod ceir yn parcio ar hyd blaenau’r siopau, er bod llinellau melyn dwbl a marciau ‘cadwch yn glir’ o flaen yr adran manwerthu. Nid yw parcio fel hyn yn ddoeth ac mae’n achosi i’r llif traffig oedi rhywfaint gan fod y llwybr yn troi, i bob pwrpas, yn ffordd unffrwd oherwydd y cerbydau sydd wedi’u parcio. 

Nod y cynnig yw:

  • Blaenoriaethu taith ddiogel plant ysgol a'r gymuned leol

  • Gwella llif y traffig ar hyd y B4329 (Prendergast)

  • Gwella’r problemau parcio ar y ffordd fawr

  • Gwella diogelwch ar hyd y ffordd

  • Lleihau tagfeydd ac oedi traffig

  • Gwneud gwelliannau amlwg i'r rhwydwaith beicio a theithio llesol presennol yn y gymuned

 

Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn ceisio eich adborth ar y dyluniadau arfaethedig o ran y system unffordd a'r llwybr defnydd a rennir. 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar Medi 10fed, rhwng 10:00 – 12:00, 13:00 – 16:00, a 18:30 – 20:00 yn Archifau Prendergast. 

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn mynychu’r sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud  

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am dair wythnos (21 diwrnod), a bydd yn dod i ben ar Hydref 1af.

System Unffordd Prendergast: Pam mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig y cynllun hwn?

Cynllun un ffordd Prendergast: Yr hyn yr ydym yn ei gynnig: allbynnau posibl y cynllun

System Unffordd Prendergast: beth mae`r data yn ei ddweud?

Mae'r cynlluniau arfaethedig ar gael i'w gweld, mae copïau caled ar gael hefyd yn Archifdy Sir Benfro a Neuadd y Sir.

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - trosolwg

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad A & B

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad C & D

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad E & F

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad G

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad H

 System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad I & J

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01437 764551.

 

 

 

ID: 11988, revised 10/04/2025

Porthgain i bawb

Diweddariad Hydref 2025:

Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o gyhoeddi bod y gwaith adeiladu ar gyfer y prosiect hwn bellach wedi’i gwblhau i raddau helaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod telerau ac amodau’r grant yn dal i fod yn berthnasol. Bydd angen cynnal gwaith monitro yn y dyfodol i gadarnhau bod y prosiect wedi cyrraedd y canlyniadau disgwyliedig. Fel rhan o’r monitro hwn, gellir cynnal gwaith adfer i sicrhau bod y prosiect yn parhau i berfformio yn y dyfodol.

Noder nad yw cyfeiriad e-bost Porthgain for All yn cael ei ddefnyddio mwyach, felly os oes angen i chi gysylltu â’r tîm anfonwch neges e-bost i Strategaeth Drafnidiaeth. 

 

Diweddariad ail-wynebu 14 Ebrill 2025:

Ar y 14 Ebrill am 23:00 bydd contractwyr yn gosod wyneb olaf y ffordd ar Heol Llanrhian. Oherwydd natur yr ardal a'r peiriannau sydd eu hangen, ni fydd yn addas cau'r ffordd yn llawn. Mae'r contractwyr yn amcangyfrif y bydd yn cymryd tua 90 munud i gwblhau'r wyneb, ac mae'n rhaid ei wneud mewn un proses di-dor. Felly, bydd rhywfaint o aflonyddwch ac oedi i amseroedd aros wrth fynd i mewn ac allan o'r pentref.

Mae'r contractwyr wedi sicrhau y gallant symud eu hoffer i ganiatáu i gerbydau brys basio. Fodd bynnag, mae'n hanfodol nodi, os bydd unrhyw un o'r offer neu'r cerbydau yn croesi dros yr wyneb newydd tra ei fod yn dal i gael ei osod, gallai effeithio'n negyddol ar ansawdd y deunyddiau. Gall hyn arwain at yr angen i ail-wneud y gwaith, gan arwain at gostau ac oedi ychwanegol.

Rydym yn ymddiheuro yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi ac yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth yr holl drigolion ac ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Diolch am eich cydweithrediad.

 

Diweddariad Ebrill 2025:

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y safle ar 27 Ionawr 2025. Mae’r gwaith rhoi wyneb newydd a gwelliannau draenio i’r prif faes parcio bellach wedi’u cwblhau. Mae gwaith ar ffordd Llanrhian yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a disgwylir ei gwblhau yn ystod yr wythnos yn dechrau 14 Ebrill 2025, os bydd y tywydd yn caniatáu.

 

Diweddariad Ionawr 2025:

Yn dilyn trafodaethau gyda Pobol Porthgain a’r cynghorydd sir lleol, cytunwyd y bydd yr awdurdod hwn, ar hyn o bryd, yn bwrw ymlaen â’r elfennau canlynol o’r cynllun arfaethedig:

  • Rhoi arwyneb newydd ar y prif faes parcio gyda geodecstil a graean
  • Gwella’r draeniad presennol o fewn y prif faes parcio
  • Darparu lle parcio ar ymyl y ffordd ar hyd Ffordd Llanrhian
  • Creu troedffordd i gerddwyr ochr yn ochr â’r cyfleusterau parcio newydd ar ymyl y ffordd ar Ffordd Llanrhian wedi’i ffurfio o gymysgedd o had glaswelltau. Bydd hyn yn cysylltu â’r hawl tramwy cyhoeddus yn y man picnic presennol gan ganiatáu symudiad diogel i gerddwyr i ganol y pentref, heb gerdded ar hyd y gerbytffordd fyw

Mae contractwr wedi’i benodi, gyda gwaith i’w wneud yn y pentref yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 27 Ionawr 2025, a’r bwriad yw ei gwblhau ymhen rhwng chwech ac wyth wythnos. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar y tywydd neu unrhyw amgylchiadau annisgwyl sy’n codi ar y safle. Nid oes unrhyw waith wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos hanner tymor rhwng 24 a 28 Chwefror 2025.

Gellir gweld yr holl gynlluniau a dogfennau sy’n ymwneud â’r cais cynllunio a gymeradwywyd ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chynnydd y prosiect hwn, anfon e-bost at y tîm Strategaeth Trafnidiaeth.

 

Diweddariad Medi 2024:

Mae'r Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cymeradwyo caniatâd cynllunio, gellir gweld copi o'r hysbysiad penderfynu ar eu gwefan. Y camau nesaf fydd dechrau blaengynllun gwaith, gan gynnwys cysylltu â chontractwyr a phennu amseriadau. Byddwn hefyd yn cysylltu â Pobol ac yn darparu diweddariadau rheolaidd; gall trigolion dderbyn unrhyw ohebiaeth bellach drwy eu cyswllt Pobol Porthgain.

 

Diweddariad Mehefin 2024:

Mae dyluniadau terfynol wedi'u cadarnhau ac mae'r prosiect bellach yn anelu at gam cyflwyno'r cais cynllunio.

 

Diweddariad Chwefror 2024:

Ymgynghoriad cyhoeddus

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Cafwyd adborth ar nifer o opsiynau dylunio posibl, gan gynnwys: cynlluniau arfaethedig, lefel y parcio a nodir, cynigion tirlunio a defnyddio gwahanol ddeunyddiau. Nododd Pobol Porthgain a'r APCAP fod teimlad ac edrychiad cyffredinol Porthgain yn bwysig i’r trigolion ac y dylid eu cadw. O'r herwydd a gyda hyn mewn golwg, gwnaed yr opsiynau a ddatblygwyd mor sensitif, a chydag hyn mewn golwg, er mwyn peidio â newid nag addasu cymeriad cyffredinol y pentref yn sylweddol.  

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 21 Chwefror rhwng 10:00 a 20:00 yn Y Sloop, Porthgain. Roedd preswylwyr ac ymwelwyr yn gallu rhoi adborth ar y lluniadau, a llenwi copi papur o arolwg yr ymgynghoriad neu ar-lein trwy Dweud eich Dweud (a arhosodd ar agor tan 8 Mawrth am 5pm). 

Yn dilyn ymlaen o'r cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael eu nodi a byddant yn bwydo i mewn i'r 'Uwchgynllun'; nid yw'r fersiwn ddrafft hon yn un derfynol ac ni fydd yn cael ei chwblhau nes y cawn yr adborth gan y gymuned leol. Mae'n ofynnol cwblhau'r opsiwn/opsiynau a ffefrir erbyn mis Mawrth 2024 er mwyn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru.

 

Diweddariad Ionawr 2024:

Ar hyn o bryd mae ein Tîm Strategaeth Trafnidiaeth ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) wedi bod yn gweithio'n agos gyda Phobol Porthgain (Pobol) a'r cynghorydd lleol, Neil Prior, er mwyn datrys problemau parcio, tagfeydd a rheoli traffig a geir yn y pentref.  Mae APCAP wedi galw ar gymorth The Urbanists, cwmni dylunio trefol sy'n canolbwyntio ar greu lleoedd, i lunio ‘uwchgynllun’ yn seiliedig ar sylwadau, adborth ac arsylwadau a ddarparwyd gan breswylwyr Porthgain.

Yn ystod gweithdy cyhoeddus, a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023, cafodd trigolion lleol gyfle i weld yr uwchgynllun drafft a lleisio eu barn. Er bod barn a safbwyntiau cymysg roedd pawb yn unfrydol bod cadw cymeriad a hudoliaeth y pentref yn hollbwysig. Bydd y flaenoriaeth hon yn cael ei chynnwys yn ystod y broses ddylunio gan gadw mewn cof y math o ddeunyddiau i'w defnyddio ar gyfer agwedd weledol y pentref.

Mae arolygon perthnasol o'r pentref a'r cyffiniau eisoes wedi eu cynnal. Mae'r rhain yn cynnwys arolygon topograffig sy'n casglu data am nodweddion naturiol a nodweddion gwneud y tir, yn ogystal â'i dirwedd. Er enghraifft, adeiladau parhaol, ffensys, coed a nentydd ynghyd â rhediad y tir a llechweddau. Mae arolygon traffig wedi'u cymryd o 21 Medi 2023 i 3 Hydref 2023 mewn dau leoliad, ffordd yr C3072 rhwng Llanrhian a Phorthgain a ffordd ddiddosbarth yr U3066 i’r de-ddwyrain o Abereiddi, mae’r data a gasglwyd yn dangos yr uchafbwynt traffig cyn ac ar ôl canol dydd ynghyd â chyflymder cyfartalog cerbydau yn y pentref. Mae arolwg Ecolegol wedi dangos na fydd unrhyw effaith sylweddol ar safleoedd neu rywogaethau a warchodir o fewn yr ardal, er hyn, yn ystod datblygiad y prosiect bydd trafodaethau â'r ecolegydd yn parhau ynglŷn ag ôl troed terfynol y prosiect. 

Rydym nawr yn cyfuno'r holl wybodaeth hon mewn cyfres o becynnau opsiynau a fydd yn cael eu trafod mewn gweithdy cyhoeddus yn y dyfodol ac â’r cyhoedd yn ehangach yn ystod y cyfnod ymgynghori.  Disgwylir i hyn ddigwydd ganol mis Chwefror, a bydd y cyfnod ymgynghori ehangach yn para tua thair wythnos. Bydd gwybodaeth ar gael ar-lein ac mewn lleoliad cyhoeddus penodol yn y pentref lle gellir cael gafael ar gopïau caled. Bydd mwy o fanylion yn dilyn am yr arolwg a’r broses ymgynghori yn gynnar yn 2024.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, mae'n bosibl y caiff opsiwn (opsiynau) terfynol a ffefrir ei nodi a bydd yn bwydo i mewn i'r ‘uwchgynllun’; nid yw'r fersiwn drafft hwn yn derfynol ar hyn o bryd ac ni chaiff ei gwblhau hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol. Mae’n ofynnol i’r opsiwn (opsiynau) a ffefrir gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024, fel y gallwn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.

Mae cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda Chyngor Sir Penfro, APCAP, rhanddeiliaid, aelodau’r bwrdd llywio a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiect yn parhau ar y trywydd cywir, o fewn y gyllideb ac yn parhau i gydymffurfio â gofynion.

Fel bob amser rydym yn gwerthfawrogi pob adborth a gallwch gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost isod:

majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

 

Porthgain i bawb

Yn un o fannau poblogaidd Gogledd Sir Benfro i dwristiaid, mae Porthgain wedi wynebu mwy o dagfeydd a phroblemau rheoli traffig yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n dymuno mwynhau’r rhan brydferth hon o’n Sir. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar y trefniadau parcio presennol a rheoli traffig o fewn y pentref a’r ffyrdd mynediad sy’n arwain i Borthgain.

Beth yw diben y prosiect?

Mae Porthgain i Bawb yn ceisio dod o hyd i atebion o ran seilwaith i oresgyn y pwysau ar Porthgain, a’r cyffiniau, o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac i ddod o hyd i atebion o ran mynediad gwell i gyfleusterau ar gyfer pob defnyddiwr. Mae materion parcio a rheoli traffig yn ddwys yn y tymor prysur, sy’n anghynaladwy, yn annymunol ac yn anniogel.

Sut mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni?

Mae tîm yn gweithio ar y cyd, rhwng Pobol Porthgain ac Cyngor Sir Penfro (CSP), Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) , wedi’i ffurfio, a bydd yn ceisio cynnal rhaglen ddau gam i ystyried dichonoldeb ac yna gweithredu er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd, parcio, rheoli traffig a theithio gan ymwelwyr trwy opsiynau cynaliadwy i’r pentref.

Mae’r Awdurdod hwn wedi ymgysylltu â gweithgor lleol, Pobol Porthgain, i ganfod pa faterion ac amcanion allweddol y maent am eu goresgyn trwy gyfrwng gweithdy ymgysylltu, ac ar wahân, mae APCAP wedi cyflogi ymgynghorydd i lunio ‘uwch gynllun’ ar gyfer y pentref. Yn olaf, mae prosiect ar y cyd sy’n archwilio Mynediad i’r Arfordir yn Sir Benfro yn ehangach, yn ceisio nodi atebion o ran trafnidiaeth gynaliadwy hirdymor i’r ardaloedd arfordirol. 

Bydd y rhaglen ddwy flynedd hon yn cynnwys gwaith dichonoldeb ym Mlwyddyn 1, ac yn cynnwys ymchwiliadau tir, arolygon, arolygon traffig, ymgynghoriadau cyhoeddus a llunio rhestr fer o’r opsiynau. Bydd Blwyddyn 2 yn cynnwys dylunio a gweithredu cynlluniau, cyfnodau monitro cychwynnol ac arolygiad terfynol. 

Ymgymerir â swyddogaeth dylunio’r cynllun hwn gan adnoddau mewnol o dîm Peirianneg a Dylunio Cyngor Sir Penfro yn yr Adran Briffyrdd. Bydd penodi unrhyw gontractwr a chyflenwr ychwanegol i gynnal arolygon, ymchwiliadau tir a gwaith dylunio yn cydymffurfio â pholisi caffael y Cyngor. 

Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror 2024 er mwyn i holl aelodau’r cyhoedd gael dweud eu dweud. 

Sut y telir am hwn?

Mae Cronfa Llywodraeth Cymru, Y Pethau Pwysig wedi dyfarnu £248,000 i Gyngor Sir Penfro i ymgymryd â’r cynllun dwy flynedd, ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pobol Porthgain. Mae £62,000 pellach mewn arian cyfatebol hefyd wedi’i nodi.

Pryd fydd y prosiect yn dechrau a phryd y caiff ei gwblhau?

Mae’r prosiect eisoes wedi dechrau ac mae gwaith cefndirol yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfon e-bost at y tîm Strategaeth Trafnidiaeth.

Dolenni defnyddiol:

Cyngor Sir Penfro Newyddion

ID: 11010, adolygwyd 28/10/2025

Cyllid Sylweddol

Cyllid Sylweddol ar gyfer Priffyrdd a Chludiant

Mae ein Tîm Trafnidiaeth wedi ymrwymo i wneud teithio o amgylch Sir Benfro yn hygyrch, yn ddiogel ac yn hawdd i bob defnyddiwr er mwyn cael budd gwirioneddol o'r hyn sydd gan ein sir hardd i'w chynnig. P'un a yw teithio'n cynnwys cymudo i'r gwaith, siopa, twristiaeth, neu ymweld â ffrindiau a theulu, rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth o ansawdd da sy'n gweithio i bawb. Dyma pam mae eich adborth yn bwysig i ni fel y gallwn gynllunio a chyflawni mewn ffordd gynaliadwy.

Sut mae cynlluniau trafnidiaeth mawr yn cael eu hariannu?

Mae Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am nifer o gynlluniau gwella trafnidiaeth ar draws y sir. Dyrennir cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i gyflawni’r amcanion trafnidiaeth a amlinellwyd ac i fodloni blaenoriaethau a nodwyd yn lleol. Gallai hyn gynnwys cynlluniau i gynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed a gwelliannau i drafnidiaeth a’r amgylchedd. Fel arfer mae angen buddsoddiad o 10% mewn arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro ar gyfer pob prosiect. Mewn rhai achosion prin, gall y prosiect cyfan gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Sut mae cynlluniau'n cael eu dewis i'w hariannu?

Enwebir cynlluniau gan gynghorwyr sir lleol gan grwpiau trigolion lleol neu fe fydd swyddogion trafnidiaeth yn nodi lle gellir gwneud gwelliannau. Yna asesir cynlluniau ar fatrics blaenoriaeth dan y meini prawf canlynol: amgylcheddol, economaidd, budd cymdeithasol, cyllidol a’r gallu i gyflawni. Ystyrir hefyd y buddion o ran mynediad at gyfleusterau, defnydd tir, yr effaith ar gerdded, teithio ar olwynion a beicio, yr effaith ar ddefnyddwyr ffyrdd a'r gallu i gyflawni'n gyffredinol.

Pe bai'r cynllun yn sgorio'n uchel yn y meysydd hyn byddai'n rhaid i'r awdurdod hwn fynd drwy broses Arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) lle caiff opsiynau eu trafod a'u hasesu ar sail eu hehangder, eu buddion, eu costau a'u hamser. Yn dilyn hyn, mae achos busnes yn cael ei lunio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru sy’n pwyso a mesur holl agweddau’r cynnig gan sicrhau bod y costau yn unol â buddion y prosiect.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau grant am gyllid grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol 2025-2026 oedd 20 Rhagfyr 2024. Y gobaith yw y bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd mis Mawrth 2025 i alluogi’r gwaith i ddechrau ar gynlluniau a mentrau llwyddiannus ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd.

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Mae ein cynlluniau sy’n mynd rhagddynt wedi’u cyhoeddi isod:

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau

Cynlluniau Teithio Llesol Saundersfoot

Aberdaugleddau – Llwybr a Rennir Steynton i Studdolph

Dinbych-y-pysgod – The Croft i Orsaf Reilffordd Dinbych-y-pysgod

Porthgain i Baeb

Cysylltwch â ni

Gallwch anfon e-bost at y tîm cynlluniau mawr ar majorschemes@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

 

 

 

ID: 10839, adolygwyd 21/01/2025

Strategaeth Drafnidiaeth

Cyngor Sir Penfro yw’r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer yr holl ffyrdd lleol (ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd) o fewn ei ardal weinyddol. Rydym hefyd yn gyfrifol am gefnogi gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gymunedol nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein bywydau bob dydd, a gall ei hargaeledd a’i hygyrchedd ddylanwadu ar ble rydym yn byw, gweithio, cymdeithasu, a’r gallu i estyn allan ac ymwneud â ffrindiau, teulu a’r gymuned ehangach. Yma yng Nghyngor Sir Penfro, ein nod yw sicrhau bod mynediad cynaliadwy, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, ar gael i bawb. 

Beth yw strategaeth trafnidiaeth?

Mae strategaeth trafnidiaeth yn arwydd o gyfeiriad trafnidiaeth yn y dyfodol ac yn darparu’r cyd-destun o fewn penderfyniadau sy’n dal i gael eu gwneud. Mae strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus dda yn cynnwys dealltwriaeth o anghenion teithio a dyheadau defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr; mae’n nodi cyfleoedd a heriau; mae’n cynnwys amcanion cadarn, ac yn creu map ffordd clir ar gyfer sut y gellir cyflawni’r weledigaeth.  Mae Cyngor Sir Penfro, ar y cyd ag Ardal Ranbarthol De-orllewin Cymru, ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a fydd yn diwallu anghenion trigolion ac ymwelwyr â’n hardal. Disgwylir y bydd Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cefnogi’r nodau a’r amcanion a amlinellir yn y Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 (yn agor mewn tab newydd)

Mae trafnidiaeth yn cwmpasu'r holl seilwaith a ddefnyddir i alluogi symud rhwng lleoedd. Mae hyn yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau beicio, ffyrdd, rheilffyrdd, byrddau gwybodaeth digidol, arwyddion a gwasanaethau trafnidiaeth (megis rheilffyrdd, bws, tacsis, hedfan a chludiant morol). Mae'r system ehangach yn cwmpasu darparwyr trafnidiaeth masnachol a'r trydydd sector a'r system gyfan y mae angen ei hystyried o fewn strategaeth trafnidiaeth.

Beth yw'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol?

Cynllunio trafnidiaeth yw'r broses o edrych ar y sefyllfa bresennol o gludiant yn y rhanbarth, dylunio ar gyfer anghenion cludiant yn y dyfodol, a chyfuno hynny i gyd ag elfennau cyllidebau, nodau a pholisïau. Y Cydgynllun Trafnidiaeth Lleol blaenorol ar gyfer De-orllewin Cymru (2015-2020) (yn agor mewn tab newydd) oedd y polisi statudol a bennodd y strategaeth a'r rhaglen ar gyfer seilwaith trafnidiaeth a thrafnidiaeth yn Sir Benfro. Roedd y cynllun yn darparu polisi cyson ar draws y pedwar cyngor yn ne-orllewin Cymru: Cyngor Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro. Mae'r cynllun hwn yn y broses o gael ei ailysgrifennu, fel y nodir uchod.

Beth yw strategaeth trafnidiaeth weithredol?

Gwella diogelwch a chysur pobl sy'n cerdded ac yn reidio beiciau trwy ddarparu seilwaith trafnidiaeth gweithredol addas i'r diben a chyflymder priodol ar y ffyrdd. Hwyluso symudedd annibynnol plant a phobl ifanc drwy wella opsiynau cerdded a beicio diogel ar gyfer teithio i'r ysgol ac oddi yno. Mae'r blaenoriaethau'n cynnwys dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio, drwy gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwell cysylltedd corfforol a digidol, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio gartref a gweithio o bell a theithio mwy egnïol i leihau'r angen i bobl ddefnyddio eu ceir yn ddyddiol. Mae llai o gerbydau ar y ffordd yn gwneud y rhwydwaith yn dawelach, yn fwy diogel ac yn fwy deniadol i bobl gerdded, olwyn a beicio.

 

ID: 10169, adolygwyd 15/08/2025

Cronfa Man Waith

Mae’r Gronfa Mân Waith yn cynnig cyfle i gynghorau tref/cymuned/dinas a chynghorwyr lleol gyflwyno cynlluniau ar gyfer cynlluniau priffyrdd sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ac sy'n llai o ran maint ond sydd angen eu blaenoriaethu fel y gellir cwblhau’r gwaith mewn modd amserol.  Sefydlwyd y Gronfa Mân Waith yn 2016, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £150,000. Mae pob un o'r cynlluniau sydd wedi'u cwblhau hyd yma wedi mynd rhagddynt o ganlyniad i gais gan aelodau lleol a chynghorau tref/cymuned/dinas, ac maent wedi'u datblygu ar y cyd â Thîm Seilwaith Priffyrdd Cyngor Sir Penfro.

Mae'r cynllun wedi profi'n boblogaidd ac wedi galluogi'r Cyngor i fynd i'r afael â chynlluniau llai, ond pwysig, ar gyfer ardaloedd lleol a all ddarparu canlyniadau gwirioneddol ar lawr gwlad.

Sut mae'n gweithio

Unwaith y caiff cynllun ei gyflwyno, bydd peiriannydd priffyrdd yn cynnal asesiad yn seiliedig ar fatrics methodolegol sy'n ystyried diogelwch y ffordd, llesiant, buddion i ddefnyddwyr, goblygiadau o ran yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, hygyrchedd, gwerth am arian, a'r gallu i’w gyflawni.  Caiff y rhain wedyn eu rhoi mewn tabl er mwyn creu sgôr gyffredinol; bydd y sgôr hon wedyn yn pennu safle'r cynllun ar y rhestr flaenoriaeth. Os ystyrir bod y gost adeiladu yn uwch na'r gyllideb (h.y. yn uwch na chyfanswm y gyllideb flynyddol gyfan), bydd yn dod yn gynllun a enwir a gaiff ei ddwyn ymlaen i'w ystyried ar gyfer ffrydiau ariannu eraill (megis ceisiadau grant Llywodraeth Cymru) neu ei gadw ar y rhestr ar gyfer gwaith yn y dyfodol (h.y. wedi'i dorri'n gamau, gellir ei ychwanegu at ddatblygiadau cynllunio).  Caiff gwaith blaenoriaethu'r cynllun ei ddiweddaru'n chwarterol er mwyn sicrhau bod y rhestr flaenoriaeth yn gyfredol wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Defnyddiwch ein dogfen ganllaw isod i ganfod beth yw'r gofynion ar gyfer cyflwyno cais i'r Gronfa Mân Waith, pa dystiolaeth ategol sydd ei hangen, a sut i symud eich cais yn ei blaen.

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau presennol neu os oes gennych syniad am gynllun, ond eich bod yn ansicr o'r manylion, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at minorworksfund@pembrokeshire.gov.uk a bydd un o'n tîm yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion ymhellach. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl am y cynllun a byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu p'un a yw eich cynllun yn hyfyw, a ph'un a yw'n addas i'ch ardal ac ar gyfer datrys y broblem drafnidiaeth dan sylw.

Os ydych eisoes yn gwybod beth yr ydych am ei wneud, a bod gennych dystiolaeth ategol a chynlluniau clir a'ch bod wedi ymgynghori â thrigolion lleol yn eich cymuned, llenwch ein ffurflen gais ar gyfer y Gronfa Mân Waith.

Canllawiau Cronfa Mân Waith

Wneud cais 

ID: 10155, adolygwyd 24/07/2025