Strategaeth Drafnidiaeth
Porthgain i Bawb
Diweddariad Medi 2024
Mae'r Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cymeradwyo caniatâd cynllunio, gellir gweld copi o'r hysbysiad penderfynu ar eu gwefan. Y camau nesaf fydd dechrau blaengynllun gwaith, gan gynnwys cysylltu â chontractwyr a phennu amseriadau. Byddwn hefyd yn cysylltu â Pobol ac yn darparu diweddariadau rheolaidd; gall trigolion dderbyn unrhyw ohebiaeth bellach drwy eu cyswllt Pobol Porthgain.
Diweddariad Mehefin 2024:
Mae dyluniadau terfynol wedi'u cadarnhau ac mae'r prosiect bellach yn anelu at gam cyflwyno'r cais cynllunio.
Diweddariad Chwefror 2024:
Ymgynghoriad cyhoeddus
Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Cafwyd adborth ar nifer o opsiynau dylunio posibl, gan gynnwys: cynlluniau arfaethedig, lefel y parcio a nodir, cynigion tirlunio a defnyddio gwahanol ddeunyddiau. Nododd Pobol Porthgain a'r APCAP fod teimlad ac edrychiad cyffredinol Porthgain yn bwysig i’r trigolion ac y dylid eu cadw. O'r herwydd a gyda hyn mewn golwg, gwnaed yr opsiynau a ddatblygwyd mor sensitif, a chydag hyn mewn golwg, er mwyn peidio â newid nag addasu cymeriad cyffredinol y pentref yn sylweddol.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 21 Chwefror rhwng 10:00 a 20:00 yn Y Sloop, Porthgain. Roedd preswylwyr ac ymwelwyr yn gallu rhoi adborth ar y lluniadau, a llenwi copi papur o arolwg yr ymgynghoriad neu ar-lein trwy Dweud eich Dweud (a arhosodd ar agor tan 8 Mawrth am 5pm).
Yn dilyn ymlaen o'r cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael eu nodi a byddant yn bwydo i mewn i'r 'Uwchgynllun'; nid yw'r fersiwn ddrafft hon yn un derfynol ac ni fydd yn cael ei chwblhau nes y cawn yr adborth gan y gymuned leol. Mae'n ofynnol cwblhau'r opsiwn/opsiynau a ffefrir erbyn mis Mawrth 2024 er mwyn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynlluniau hefyd ar gael i'w gweld a'u lawrlwytho ar wefan The Urbanists (yn agor mewn tab newydd).
Diweddariad Ionawr 2024:
Ar hyn o bryd mae ein Tîm Strategaeth Trafnidiaeth ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) wedi bod yn gweithio'n agos gyda Phobol Porthgain (Pobol) a'r cynghorydd lleol, Neil Prior, er mwyn datrys problemau parcio, tagfeydd a rheoli traffig a geir yn y pentref. Mae APCAP wedi galw ar gymorth The Urbanists, cwmni dylunio trefol sy'n canolbwyntio ar greu lleoedd, i lunio ‘uwchgynllun’ yn seiliedig ar sylwadau, adborth ac arsylwadau a ddarparwyd gan breswylwyr Porthgain.
Yn ystod gweithdy cyhoeddus, a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023, cafodd trigolion lleol gyfle i weld yr uwchgynllun drafft a lleisio eu barn. Er bod barn a safbwyntiau cymysg roedd pawb yn unfrydol bod cadw cymeriad a hudoliaeth y pentref yn hollbwysig. Bydd y flaenoriaeth hon yn cael ei chynnwys yn ystod y broses ddylunio gan gadw mewn cof y math o ddeunyddiau i'w defnyddio ar gyfer agwedd weledol y pentref.
Mae arolygon perthnasol o'r pentref a'r cyffiniau eisoes wedi eu cynnal. Mae'r rhain yn cynnwys arolygon topograffig sy'n casglu data am nodweddion naturiol a nodweddion gwneud y tir, yn ogystal â'i dirwedd. Er enghraifft, adeiladau parhaol, ffensys, coed a nentydd ynghyd â rhediad y tir a llechweddau. Mae arolygon traffig wedi'u cymryd o 21 Medi 2023 i 3 Hydref 2023 mewn dau leoliad, ffordd yr C3072 rhwng Llanrhian a Phorthgain a ffordd ddiddosbarth yr U3066 i’r de-ddwyrain o Abereiddi, mae’r data a gasglwyd yn dangos yr uchafbwynt traffig cyn ac ar ôl canol dydd ynghyd â chyflymder cyfartalog cerbydau yn y pentref. Mae arolwg Ecolegol wedi dangos na fydd unrhyw effaith sylweddol ar safleoedd neu rywogaethau a warchodir o fewn yr ardal, er hyn, yn ystod datblygiad y prosiect bydd trafodaethau â'r ecolegydd yn parhau ynglŷn ag ôl troed terfynol y prosiect.
Rydym nawr yn cyfuno'r holl wybodaeth hon mewn cyfres o becynnau opsiynau a fydd yn cael eu trafod mewn gweithdy cyhoeddus yn y dyfodol ac â’r cyhoedd yn ehangach yn ystod y cyfnod ymgynghori. Disgwylir i hyn ddigwydd ganol mis Chwefror, a bydd y cyfnod ymgynghori ehangach yn para tua thair wythnos. Bydd gwybodaeth ar gael ar-lein ac mewn lleoliad cyhoeddus penodol yn y pentref lle gellir cael gafael ar gopïau caled. Bydd mwy o fanylion yn dilyn am yr arolwg a’r broses ymgynghori yn gynnar yn 2024.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, mae'n bosibl y caiff opsiwn (opsiynau) terfynol a ffefrir ei nodi a bydd yn bwydo i mewn i'r ‘uwchgynllun’; nid yw'r fersiwn drafft hwn yn derfynol ar hyn o bryd ac ni chaiff ei gwblhau hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol. Mae’n ofynnol i’r opsiwn (opsiynau) a ffefrir gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024, fel y gallwn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.
Mae cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda Chyngor Sir Penfro, APCAP, rhanddeiliaid, aelodau’r bwrdd llywio a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiect yn parhau ar y trywydd cywir, o fewn y gyllideb ac yn parhau i gydymffurfio â gofynion.
Fel bob amser rydym yn gwerthfawrogi pob adborth a gallwch gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost isod:
porthgainforall@pembrokeshire.gov.uk
Porthgain i Barb
Yn un o fannau poblogaidd Gogledd Sir Benfro i dwristiaid, mae Porthgain wedi wynebu mwy o dagfeydd a phroblemau rheoli traffig yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n dymuno mwynhau’r rhan brydferth hon o’n Sir. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar y trefniadau parcio presennol a rheoli traffig o fewn y pentref a’r ffyrdd mynediad sy’n arwain i Borthgain.
Beth yw diben y prosiect?
Mae Porthgain i Bawb yn ceisio dod o hyd i atebion o ran seilwaith i oresgyn y pwysau ar Porthgain, a’r cyffiniau, o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac i ddod o hyd i atebion o ran mynediad gwell i gyfleusterau ar gyfer pob defnyddiwr. Mae materion parcio a rheoli traffig yn ddwys yn y tymor prysur, sy’n anghynaladwy, yn annymunol ac yn anniogel.
Sut mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni?
Mae tîm yn gweithio ar y cyd, rhwng Pobol Porthgain ac Cyngor Sir Penfro (CSP), Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) , wedi’i ffurfio, a bydd yn ceisio cynnal rhaglen ddau gam i ystyried dichonoldeb ac yna gweithredu er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd, parcio, rheoli traffig a theithio gan ymwelwyr trwy opsiynau cynaliadwy i’r pentref.
Mae’r Awdurdod hwn wedi ymgysylltu â gweithgor lleol, Pobol Porthgain, i ganfod pa faterion ac amcanion allweddol y maent am eu goresgyn trwy gyfrwng gweithdy ymgysylltu, ac ar wahân, mae APCAP wedi cyflogi ymgynghorydd i lunio ‘uwch gynllun’ ar gyfer y pentref. Yn olaf, mae prosiect ar y cyd sy’n archwilio Mynediad i’r Arfordir yn Sir Benfro yn ehangach, yn ceisio nodi atebion o ran trafnidiaeth gynaliadwy hirdymor i’r ardaloedd arfordirol.
Bydd y rhaglen ddwy flynedd hon yn cynnwys gwaith dichonoldeb ym Mlwyddyn 1, ac yn cynnwys ymchwiliadau tir, arolygon, arolygon traffig, ymgynghoriadau cyhoeddus a llunio rhestr fer o’r opsiynau. Bydd Blwyddyn 2 yn cynnwys dylunio a gweithredu cynlluniau, cyfnodau monitro cychwynnol ac arolygiad terfynol.
Ymgymerir â swyddogaeth dylunio’r cynllun hwn gan adnoddau mewnol o dîm Peirianneg a Dylunio Cyngor Sir Penfro yn yr Adran Briffyrdd. Bydd penodi unrhyw gontractwr a chyflenwr ychwanegol i gynnal arolygon, ymchwiliadau tir a gwaith dylunio yn cydymffurfio â pholisi caffael y Cyngor.
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror 2024 er mwyn i holl aelodau’r cyhoedd gael dweud eu dweud.
Sut y telir am hwn?
Mae Cronfa Llywodraeth Cymru, Y Pethau Pwysig wedi dyfarnu £248,000 i Gyngor Sir Penfro i ymgymryd â’r cynllun dwy flynedd, ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pobol Porthgain. Mae £62,000 pellach mewn arian cyfatebol hefyd wedi’i nodi.
Pryd fydd y prosiect yn dechrau a phryd y caiff ei gwblhau?
Mae’r prosiect eisoes wedi dechrau ac mae gwaith cefndirol yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y tîm: porthgainforall@pembrokeshire.gov.uk