Strategaeth Drafnidiaeth
Steynton i Hen Heol Bulford – Gwelliannau i’r rhwydwaith teithio llesol 2024
Diweddariad Mehefin 2025:
Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein bellach wedi'u dadansoddi, mae'r adroddiad i'w weld yn y ddolen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r tîm yn majorschemes@pembrokeshire.gov.uk
Adroddiad ymgynghoriad teithio llesol Steynton i hen heol Bulford
Diweddariad Ebrill 2025:
Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2025, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm.
Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun fydd yn mynd ymlaen. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.
Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:
Diweddariad Mawrth 2025:
Mae’r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2025. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law i gadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu gweithredu.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:
- Adeiladu llwybr cyd-ddefnyddio ar wahân sy’n ffurfio cysylltiad rhwng Steynton a Johnston, ar hyd yr A4076. Mae hwn yn brosiect rhannol ar y cyd rhwng Cyngor Sir Penfro ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.
- Mae Cam 1 (llinell solet las) yn cynnwys ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio, gwelliannau cyffordd a throedffordd rhwng cyffordd Neyland Road tua’r gogledd ar hyd yr A4076 i gysylltu â Cham 2. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.
- Mae Cam 2 (llinell soley goch) yn ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd yr A4076 gan ddechrau gyferbyn â’r safle bws yn Eglwys San Pedr ac yn cysylltu tua’r gogledd tuag at yr C3024 (mae Hen Heol Bulford tuag at Tiers Cross yn dargyfeirio). Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro. Bydd defnyddwyr yn cael eu cyfeirio ar hyd y llwybrau tawel tuag at Tiers Cross a llwybr cyd-ddefnyddio presennol Heol Bulford, nes bod Cam 3 wedi’i gwblhau.
- Cam 3 (llinell doriad coch) y llwybr hwn yn y dyfodol fydd y rhan sy’n weddill o’r llwybr cyd-ddefnyddio, rhwng Cam 2 a chylchfan Sunnycroft (A4076). Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau gyda chyllid i’r dyfodol.
Pam ydym yn cynnig y newidiadau hyn?
Nid oes llwybr teithio llesol uniongyrchol rhwng Johnston ac Aberdaugleddau, er mai hwn yw un o’r llwybrau cymudo a ddefnyddir fwyaf yn Sir Benfro. Ar hyn o bryd, ni all trigolion feicio/cerdded yn ddiogel rhwng y ddwy ardal. Y strategaeth ehangach (Cam 1 a Cham 3) yw gosod llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd yr A4076 i gysylltu’r ddwy ardal. Byddai hyn wedyn yn cysylltu â’r rhwydwaith presennol rhwng Johnston a Hwlffordd.
Mae pentref Steynton i’r gogledd o Aberdaugleddau ac mae ganddo dai ar ddwy ochr y ffordd fawr. Mae lle ar gyfer troedffordd newydd ar ddwy ochr y pentref. Mae’r droedffordd ar yr ochr orllewinol yn lletach ar y cyfan, ac mae ganddi ymyl glaswelltog a fyddai’n fwy addas ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio. Mae gan yr ochr ddwyreiniol oleddf croes serth, ac mae’n llai addas felly. Mae bylchau yn y droedffordd, ac nid oes llwybr beicio sydd wedi’i wahanu oddi wrth y lôn gerbydau. Byddai gweithredu’r cynllun hwn yn creu llwybrau newydd i lenwi bylchau yn y rhwydwaith teithio llesol.
Nod y cynigion yw:
- Hwyluso’r teithiau llesol rhwng Aberdaugleddau a Johnston a chynyddu nifer y teithiau
- Darparu mynediad diogel i ffwrdd o gefnffordd yr A4076
- Cynyddu gweithgarwch corfforol ac annog ffordd iach o fyw
- Cefnogi’r ymdrech o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio trwy leihau teithiau mewn cerbydau
- Rhoi cyfle i’r gymuned leol deithio drwy ddulliau teithio llesol
Ymgynghoriad cyhoeddus
Byddwn yn gofyn am eich adborth ar y dyluniadau arfaethedig.
Camai 1-2 Studdolph gwelliannau i`r rhwydwaith teithio lesol
Llwybr cyd-ddefnyddio Steynton i Studdolph lane
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 14eg Chwefror 2025, rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a 6.30pm a 8pm yn Steynton Neuadd Gymuned.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud
Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 6 wythnos, ac yn cau ar 28ain Mawrth 2025 am hanner nos.
Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn Neuadd y Sir. Mae copïau drwy’r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â’r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif cyswllt uchod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm drwy anfon neges e-bost i majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 764551