Strategaeth Drafnidiaeth
System Unffordd Prendergast
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gynllun unffordd arfaethedig Prendergast
Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd, cymudwyr a busnesau lleol ar y canlynol:
-
Gweithredu system unffordd drwy Brendergast
-
Darparu Llwybr Defnydd a Rennir 500 metr. Mae Llwybr Defnydd a Rennir yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer symudiadau cerddwyr a beicwyr.
-
Ailddosbarthu cilfannau parcio a mesurau rheoli traffig ar hyd y B4329 (Prendergast), rhwng cyffordd Heol Aberteifi / Heol Hall Park a chylchfan Sgwâr Pen-y-bont
Mae pobl yn parcio ar y brif ffordd trwy Brendergast yn fyrbwyll a di-feddwl, er mwyn galw draw i’r amwynderau lleol. Mae hyn yn golygu bod ceir yn parcio ar hyd blaenau’r siopau, er bod llinellau melyn dwbl a marciau ‘cadwch yn glir’ o flaen yr adran manwerthu. Nid yw parcio fel hyn yn ddoeth ac mae’n achosi i’r llif traffig oedi rhywfaint gan fod y llwybr yn troi, i bob pwrpas, yn ffordd unffrwd oherwydd y cerbydau sydd wedi’u parcio.
Nod y cynnig yw:
-
Blaenoriaethu taith ddiogel plant ysgol a'r gymuned leol
-
Gwella llif y traffig ar hyd y B4329 (Prendergast)
-
Gwella’r problemau parcio ar y ffordd fawr
-
Gwella diogelwch ar hyd y ffordd
-
Lleihau tagfeydd ac oedi traffig
-
Gwneud gwelliannau amlwg i'r rhwydwaith beicio a theithio llesol presennol yn y gymuned
Ymgynghoriad cyhoeddus
Byddwn yn ceisio eich adborth ar y dyluniadau arfaethedig o ran y system unffordd a'r llwybr defnydd a rennir.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar Medi 10fed, rhwng 10:00 – 12:00, 13:00 – 16:00, a 18:30 – 20:00 yn Archifau Prendergast.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn mynychu’r sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud
Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am dair wythnos (21 diwrnod), a bydd yn dod i ben ar Hydref 1af.
Mae'r cynlluniau arfaethedig ar gael i'w gweld, mae copïau caled ar gael hefyd yn Archifdy Sir Benfro a Neuadd y Sir.
System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - trosolwg
System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad A & B
System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad C & D
System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad E & F
System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad G
System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad H
System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad I & J
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01437 764551.
Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau am hanner nos ar 1af Hydref 2024. Diolch am roi o’ch amser i gwblhau'r arolwg hwn.
Porthgain i Bawb
Yn un o fannau poblogaidd Gogledd Sir Benfro i dwristiaid, mae Porthgain wedi wynebu mwy o dagfeydd a phroblemau rheoli traffig yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n dymuno mwynhau’r rhan brydferth hon o’n Sir. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar y trefniadau parcio presennol a rheoli traffig o fewn y pentref a’r ffyrdd mynediad sy’n arwain i Borthgain.
Beth yw diben y prosiect?
Mae Porthgain i Bawb yn ceisio dod o hyd i atebion o ran seilwaith i oresgyn y pwysau ar Porthgain, a’r cyffiniau, o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac i ddod o hyd i atebion o ran mynediad gwell i gyfleusterau ar gyfer pob defnyddiwr. Mae materion parcio a rheoli traffig yn ddwys yn y tymor prysur, sy’n anghynaladwy, yn annymunol ac yn anniogel.
Sut mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni?
Mae tîm yn gweithio ar y cyd, rhwng Pobol Porthgain ac Cyngor Sir Penfro (CSP), Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) , wedi’i ffurfio, a bydd yn ceisio cynnal rhaglen ddau gam i ystyried dichonoldeb ac yna gweithredu er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd, parcio, rheoli traffig a theithio gan ymwelwyr trwy opsiynau cynaliadwy i’r pentref.
Mae’r Awdurdod hwn wedi ymgysylltu â gweithgor lleol, Pobol Porthgain, i ganfod pa faterion ac amcanion allweddol y maent am eu goresgyn trwy gyfrwng gweithdy ymgysylltu, ac ar wahân, mae APCAP wedi cyflogi ymgynghorydd i lunio ‘uwch gynllun’ ar gyfer y pentref. Yn olaf, mae prosiect ar y cyd sy’n archwilio Mynediad i’r Arfordir yn Sir Benfro yn ehangach, yn ceisio nodi atebion o ran trafnidiaeth gynaliadwy hirdymor i’r ardaloedd arfordirol.
Bydd y rhaglen ddwy flynedd hon yn cynnwys gwaith dichonoldeb ym Mlwyddyn 1, ac yn cynnwys ymchwiliadau tir, arolygon, arolygon traffig, ymgynghoriadau cyhoeddus a llunio rhestr fer o’r opsiynau. Bydd Blwyddyn 2 yn cynnwys dylunio a gweithredu cynlluniau, cyfnodau monitro cychwynnol ac arolygiad terfynol.
Ymgymerir â swyddogaeth dylunio’r cynllun hwn gan adnoddau mewnol o dîm Peirianneg a Dylunio Cyngor Sir Penfro yn yr Adran Briffyrdd. Bydd penodi unrhyw gontractwr a chyflenwr ychwanegol i gynnal arolygon, ymchwiliadau tir a gwaith dylunio yn cydymffurfio â pholisi caffael y Cyngor.
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror 2024 er mwyn i holl aelodau’r cyhoedd gael dweud eu dweud.
Sut y telir am hwn?
Mae Cronfa Llywodraeth Cymru, Y Pethau Pwysig wedi dyfarnu £248,000 i Gyngor Sir Penfro i ymgymryd â’r cynllun dwy flynedd, ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pobol Porthgain. Mae £62,000 pellach mewn arian cyfatebol hefyd wedi’i nodi.
Pryd fydd y prosiect yn dechrau a phryd y caiff ei gwblhau?
Mae’r prosiect eisoes wedi dechrau ac mae gwaith cefndirol yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y tîm: porthgainforall@pembrokeshire.gov.uk
Diweddariad Ionawr 2024:
Ar hyn o bryd mae ein Tîm Strategaeth Trafnidiaeth ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) wedi bod yn gweithio'n agos gyda Phobol Porthgain (Pobol) a'r cynghorydd lleol, Neil Prior, er mwyn datrys problemau parcio, tagfeydd a rheoli traffig a geir yn y pentref. Mae APCAP wedi galw ar gymorth The Urbanists, cwmni dylunio trefol sy'n canolbwyntio ar greu lleoedd, i lunio ‘uwchgynllun’ yn seiliedig ar sylwadau, adborth ac arsylwadau a ddarparwyd gan breswylwyr Porthgain.
Yn ystod gweithdy cyhoeddus, a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023, cafodd trigolion lleol gyfle i weld yr uwchgynllun drafft a lleisio eu barn. Er bod barn a safbwyntiau cymysg roedd pawb yn unfrydol bod cadw cymeriad a hudoliaeth y pentref yn hollbwysig. Bydd y flaenoriaeth hon yn cael ei chynnwys yn ystod y broses ddylunio gan gadw mewn cof y math o ddeunyddiau i'w defnyddio ar gyfer agwedd weledol y pentref.
Mae arolygon perthnasol o'r pentref a'r cyffiniau eisoes wedi eu cynnal. Mae'r rhain yn cynnwys arolygon topograffig sy'n casglu data am nodweddion naturiol a nodweddion gwneud y tir, yn ogystal â'i dirwedd. Er enghraifft, adeiladau parhaol, ffensys, coed a nentydd ynghyd â rhediad y tir a llechweddau. Mae arolygon traffig wedi'u cymryd o 21 Medi 2023 i 3 Hydref 2023 mewn dau leoliad, ffordd yr C3072 rhwng Llanrhian a Phorthgain a ffordd ddiddosbarth yr U3066 i’r de-ddwyrain o Abereiddi, mae’r data a gasglwyd yn dangos yr uchafbwynt traffig cyn ac ar ôl canol dydd ynghyd â chyflymder cyfartalog cerbydau yn y pentref. Mae arolwg Ecolegol wedi dangos na fydd unrhyw effaith sylweddol ar safleoedd neu rywogaethau a warchodir o fewn yr ardal, er hyn, yn ystod datblygiad y prosiect bydd trafodaethau â'r ecolegydd yn parhau ynglŷn ag ôl troed terfynol y prosiect.
Rydym nawr yn cyfuno'r holl wybodaeth hon mewn cyfres o becynnau opsiynau a fydd yn cael eu trafod mewn gweithdy cyhoeddus yn y dyfodol ac â’r cyhoedd yn ehangach yn ystod y cyfnod ymgynghori. Disgwylir i hyn ddigwydd ganol mis Chwefror, a bydd y cyfnod ymgynghori ehangach yn para tua thair wythnos. Bydd gwybodaeth ar gael ar-lein ac mewn lleoliad cyhoeddus penodol yn y pentref lle gellir cael gafael ar gopïau caled. Bydd mwy o fanylion yn dilyn am yr arolwg a’r broses ymgynghori yn gynnar yn 2024.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, mae'n bosibl y caiff opsiwn (opsiynau) terfynol a ffefrir ei nodi a bydd yn bwydo i mewn i'r ‘uwchgynllun’; nid yw'r fersiwn drafft hwn yn derfynol ar hyn o bryd ac ni chaiff ei gwblhau hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol. Mae’n ofynnol i’r opsiwn (opsiynau) a ffefrir gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024, fel y gallwn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.
Mae cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda Chyngor Sir Penfro, APCAP, rhanddeiliaid, aelodau’r bwrdd llywio a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiect yn parhau ar y trywydd cywir, o fewn y gyllideb ac yn parhau i gydymffurfio â gofynion.
Fel bob amser rydym yn gwerthfawrogi pob adborth a gallwch gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost isod:
porthgainforall@pembrokeshire.gov.uk
Diweddariad Chwefror 2024:
Ymgynghoriad cyhoeddus
Byddwn yn gofyn am adborth ar nifer o opsiynau dylunio posibl; y cynlluniau arfaethedig, lefel y parcio a nodir, cynigion tirweddu a'r defnydd o ddeunyddiau amrywiol. Mae Pobol Porthgain ac APCAP wedi nodi bod golwg a theimlad Porthgain yn gyffredinol yn bwysig i drigolion a phobl leol. O'r herwydd, mae'r opsiynau i'w cyflwyno wedi'u datblygu'n sensitif, gyda hyn mewn golwg, er mwyn peidio â newid neu altro cymeriad, edrychiad a theimlad cyffredinol y pentref yn sylweddol. Nid yw'r opsiynau a gyflwynwyd yn derfynol; byddant yn cael eu defnyddio ynghyd ag adborth a ddarperir drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus i nodi'r opsiwn a ffefrir.
Bydd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio 21 Chwefror, rhwng 10am-12pm, 1pm-4pm, a 6.30pm-8pm, yn y Sloop, Porthgain.
Bydd cynrychiolwyr o CSP, APCAP a Phobol Porthgain, yn ogystal â The Urbanists yn bresennol yn y sesiwn i ateb unrhyw gwestiynau a all godi.
Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 16 diwrnod, gan ddod i ben 8 Mawrth am 5pm.
Cofiwch, os hoffech gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, bydd angen i chi greu cyfrif ar ein gwefan “Dweud eich Dweud” os nad ydych wedi cofrestru eisoes. Dilynwch y camau “Cofrestru” i gymryd rhan.
Fel arall, bydd copïau papur o'r dyluniadau (opsiynau) a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, yn cael eu gosod yn y Sloop er hwylustod. Bydd y fersiwn argraffedig a’r arolygon papur yn aros yn eu lle tan 8Mawrth am 5pm, pan fyddan nhw'n cael eu casglu. Mae copïau drwy'r post ar gael ar gais, trwy gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost.
Yn dilyn ymlaen o'r cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn(au) terfynol a ffefrir yn cael ei nodi a’i bwydo mewn i’r ‘uwchgynllun’; nid yw'r fersiwn drafft hwn yn derfynol ar hyn o bryd ac ni chaiff ei gwblhau hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol. Mae angen cwblhau’r opsiwn(au) a ffefrir erbyn mis Mawrth 2024 er mwyn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru.
Gellir gweld a lawrlwytho’r cynlluniau hefyd ar wefan The Urbanist's (yn agor mewn tab newydd).
Diweddariad Mehefin 2024:
Mae dyluniadau terfynol wedi'u cadarnhau ac mae'r prosiect bellach yn anelu at gam cyflwyno'r cais cynllunio.
Dolenni defnyddiol:
Cyllid Sylweddol
Cyllid Sylweddol ar gyfer Priffyrdd a Chludiant
Mae ein Tîm Trafnidiaeth wedi ymrwymo i wneud teithio o amgylch Sir Benfro yn hygyrch, yn ddiogel ac yn hawdd i bob defnyddiwr er mwyn cael budd gwirioneddol o'r hyn sydd gan ein sir hardd i'w chynnig. P'un a yw teithio'n cynnwys cymudo i'r gwaith, siopa, twristiaeth, neu ymweld â ffrindiau a theulu, rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth o ansawdd da sy'n gweithio i bawb. Dyma pam mae eich adborth yn bwysig i ni fel y gallwn gynllunio a chyflawni mewn ffordd gynaliadwy.
Sut mae cynlluniau trafnidiaeth mawr yn cael eu hariannu?
Mae Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am nifer o gynlluniau gwella trafnidiaeth ledled y Sir. Dyrennir cyllid gan Senedd Cymru i helpu i gyflawni'r amcanion trafnidiaeth a nodir ac i fodloni blaenoriaethau a nodwyd yn lleol, gallai hyn gynnwys cynlluniau cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed a gwelliannau trafnidiaeth ac amgylcheddol.
Mae’n rhaid i bob prosiect trafnidiaeth mawr fynd drwy broses WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) lle caiff opsiynau eu trafod a’u hasesu ar sail eu cwmpas, eu budd, eu cost a’u hamser. Yn dilyn hyn, mae achos busnes yn cael ei lunio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru sy’n pwyso a mesur holl agweddau’r cynnig gan sicrhau bod y costau’n unol â buddion y prosiect. Fel arfer mae angen buddsoddiad o 10% gan Gyngor Sir Penfro mewn arian cyfatebol ar bob prosiect; mewn rhai achosion prin, gall y prosiect cyfan gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Sut alla i ddarganfod mwy?
Cyhoeddir ein cynlluniau parhaus isod:
Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd
Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau
Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Doc Penfro
Cam 6 ULEV a Parc Y Shwt
Cynlluniau Teithio Llesol Saundersfoot
Aberdaugleddau – Llwybr a Rennir Steynton i Studdolph
Dinbych-y-pysgod – The Croft i Orsaf Reilffordd Dinbych-y-pysgod
Cysylltwch â ni
Gallwch anfon e-bost at y tîm cynlluniau mawr ar majorschemes@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Strategaeth Drafnidiaeth
Cyngor Sir Penfro yw’r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer yr holl ffyrdd lleol (ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd) o fewn ei ardal weinyddol. Rydym hefyd yn gyfrifol am gefnogi gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gymunedol nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein bywydau bob dydd, a gall ei hargaeledd a’i hygyrchedd ddylanwadu ar ble rydym yn byw, gweithio, cymdeithasu, a’r gallu i estyn allan ac ymwneud â ffrindiau, teulu a’r gymuned ehangach. Yma yng Nghyngor Sir Penfro, ein nod yw sicrhau bod mynediad cynaliadwy, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, ar gael i bawb.
Beth yw strategaeth trafnidiaeth?
Mae strategaeth trafnidiaeth yn arwydd o gyfeiriad trafnidiaeth yn y dyfodol ac yn darparu’r cyd-destun o fewn penderfyniadau sy’n dal i gael eu gwneud. Mae strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus dda yn cynnwys dealltwriaeth o anghenion teithio a dyheadau defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr; mae’n nodi cyfleoedd a heriau; mae’n cynnwys amcanion cadarn, ac yn creu map ffordd clir ar gyfer sut y gellir cyflawni’r weledigaeth. Mae Cyngor Sir Penfro, ar y cyd ag Ardal Ranbarthol De-orllewin Cymru, ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a fydd yn diwallu anghenion trigolion ac ymwelwyr â’n hardal. Disgwylir y bydd Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cefnogi’r nodau a’r amcanion a amlinellir yn y Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 (yn agor mewn tab newydd)
Mae trafnidiaeth yn cwmpasu'r holl seilwaith a ddefnyddir i alluogi symud rhwng lleoedd. Mae hyn yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau beicio, ffyrdd, rheilffyrdd, byrddau gwybodaeth digidol, arwyddion a gwasanaethau trafnidiaeth (megis rheilffyrdd, bws, tacsis, hedfan a chludiant morol). Mae'r system ehangach yn cwmpasu darparwyr trafnidiaeth masnachol a'r trydydd sector a'r system gyfan y mae angen ei hystyried o fewn strategaeth trafnidiaeth.
Beth yw'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol?
Cynllunio trafnidiaeth yw'r broses o edrych ar y sefyllfa bresennol o gludiant yn y rhanbarth, dylunio ar gyfer anghenion cludiant yn y dyfodol, a chyfuno hynny i gyd ag elfennau cyllidebau, nodau a pholisïau. Y Cydgynllun Trafnidiaeth Lleol blaenorol ar gyfer De-orllewin Cymru (2015-2020) (yn agor mewn tab newydd) oedd y polisi statudol a bennodd y strategaeth a'r rhaglen ar gyfer seilwaith trafnidiaeth a thrafnidiaeth yn Sir Benfro. Roedd y cynllun yn darparu polisi cyson ar draws y pedwar cyngor yn ne-orllewin Cymru: Cyngor Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro. Mae'r cynllun hwn yn y broses o gael ei ailysgrifennu, fel y nodir uchod.
Beth yw strategaeth trafnidiaeth weithredol?
Gwella diogelwch a chysur pobl sy'n cerdded ac yn reidio beiciau trwy ddarparu seilwaith trafnidiaeth gweithredol addas i'r diben a chyflymder priodol ar y ffyrdd. Hwyluso symudedd annibynnol plant a phobl ifanc drwy wella opsiynau cerdded a beicio diogel ar gyfer teithio i'r ysgol ac oddi yno. Mae'r blaenoriaethau'n cynnwys dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio, drwy gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwell cysylltedd corfforol a digidol, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio gartref a gweithio o bell a theithio mwy egnïol i leihau'r angen i bobl ddefnyddio eu ceir yn ddyddiol. Mae llai o gerbydau ar y ffordd yn gwneud y rhwydwaith yn dawelach, yn fwy diogel ac yn fwy deniadol i bobl gerdded, olwyn a beicio.
Cronfa Man Waith
Mae’r Gronfa Mân Waith yn cynnig cyfle i gynghorau tref/cymuned/dinas a chynghorwyr lleol gyflwyno cynlluniau ar gyfer cynlluniau priffyrdd sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ac sy'n llai o ran maint ond sydd angen eu blaenoriaethu fel y gellir cwblhau’r gwaith mewn modd amserol. Sefydlwyd y Gronfa Mân Waith yn 2016, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £150,000. Mae pob un o'r cynlluniau sydd wedi'u cwblhau hyd yma wedi mynd rhagddynt o ganlyniad i gais gan aelodau lleol a chynghorau tref/cymuned/dinas, ac maent wedi'u datblygu ar y cyd â Thîm Seilwaith Priffyrdd Cyngor Sir Penfro.
Mae'r cynllun wedi profi'n boblogaidd ac wedi galluogi'r Cyngor i fynd i'r afael â chynlluniau llai, ond pwysig, ar gyfer ardaloedd lleol a all ddarparu canlyniadau gwirioneddol ar lawr gwlad.
Cynlluniau byw cyfredol:
Cyffordd y Cwcwll – C3083
- Troedffordd
- Cost y prosiect: £28,000
- Adeiladu disgwyliedig: Ionawr 2024
- Hyd: I'w gadarnhau
Church Road, Y Garn – C3067
- Troedffordd
- Cost y prosiect: £79,000
- Adeiladu disgwyliedig: Yn sylweddol gyflawn
- Hyd: 8 wythnos
Hill Mountain, Cam 1 – C3007
- Troedffordd
- Cost y prosiect: £72,000
- Adeiladu disgwyliedig: Gwanwyn 2024
- Hyd: I'w gadarnhau
Hill Mountain – Houghton – C3007
- Troedffordd
- Cost y prosiect: £62,000
- Adeiladu disgwyliedig: Gwanwyn 2024
- Hyd: I'w gadarnhau
Hill Mountain – Burton – C3007
- Troedffordd
- Cost y prosiect: £50,000
- Adeiladu disgwyliedig: Hydref 2023
- Hyd: I'w gadarnhau
Sut mae'n gweithio
Unwaith y caiff cynllun ei gyflwyno, bydd peiriannydd priffyrdd yn cynnal asesiad yn seiliedig ar fatrics methodolegol sy'n ystyried diogelwch y ffordd, llesiant, buddion i ddefnyddwyr, goblygiadau o ran yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, hygyrchedd, gwerth am arian, a'r gallu i’w gyflawni. Caiff y rhain wedyn eu rhoi mewn tabl er mwyn creu sgôr gyffredinol; bydd y sgôr hon wedyn yn pennu safle'r cynllun ar y rhestr flaenoriaeth. Os ystyrir bod y gost adeiladu yn uwch na'r gyllideb (h.y. yn uwch na chyfanswm y gyllideb flynyddol gyfan), bydd yn dod yn gynllun a enwir a gaiff ei ddwyn ymlaen i'w ystyried ar gyfer ffrydiau ariannu eraill (megis ceisiadau grant Llywodraeth Cymru) neu ei gadw ar y rhestr ar gyfer gwaith yn y dyfodol (h.y. wedi'i dorri'n gamau, gellir ei ychwanegu at ddatblygiadau cynllunio). Caiff gwaith blaenoriaethu'r cynllun ei ddiweddaru'n chwarterol er mwyn sicrhau bod y rhestr flaenoriaeth yn gyfredol wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Defnyddiwch ein dogfen ganllaw isod i ganfod beth yw'r gofynion ar gyfer cyflwyno cais i'r Gronfa Mân Waith, pa dystiolaeth ategol sydd ei hangen, a sut i symud eich cais yn ei blaen.
Os oes gennych syniad am gynllun, ond eich bod yn ansicr o'r manylion, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at minorworksfund@pembrokeshire.gov.uk a bydd un o'n tîm yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion ymhellach. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl am y cynllun a byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu p'un a yw eich cynllun yn hyfyw, a ph'un a yw'n addas i'ch ardal ac ar gyfer datrys y broblem drafnidiaeth dan sylw.
Os ydych eisoes yn gwybod beth yr ydych am ei wneud, a bod gennych dystiolaeth ategol a chynlluniau clir a'ch bod wedi ymgynghori â thrigolion lleol yn eich cymuned, llenwch ein ffurflen gais ar gyfer y Gronfa Mân Waith.
Gronfa Gwaith Cymunedol
Diweddariad: Nid yw'r Gronfa Gwaith Cymunedol yn gweithredu mwyach oherwydd pwysau cyllidebol. Pe hoffech gyflwyno cynllun, ewch drwy ein proses Cronfa Mân Waith drwy ddefnyddio'r ddolen isod.