Strategaeth Drafnidiaeth

System Unffordd Prendergast

Diweddariad Ebrill 2025:

Yn dilyn y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Hydref 2024, er hwylustod mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u crynhoi yn y tabl isod, ynghyd ag ymatebion y cyngor. Hyderwn fod hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd; fodd bynnag, os oes angen eglurhad pellach arnoch, mae croeso i chi e-bostio’r tîm. 

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng tîm peirianneg yr awdurdod, y cynghorydd lleol, a rhanddeiliaid perthnasol i benderfynu pa elfennau o’r cynllun yn cael eu datblygu yn amodol ar gyllid. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

Mae’r themâu allweddol yr ymdrinnir a hwy fel a ganlyn:

Categori

Themâu allweddol (Fe ddywedoch chi)

Ymateb y Cyngor (Yr hyn a wnaethom)

Mân gylchfan Bydd y gylchfan newydd yn achosi man cyfyng; a all bysiau a cherbydau mwy fynd drwodd? Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i safonau Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd a gall bysiau a cherbydau mwy deithio drwy’r mân gylchfan yn ddiogel. Mae dadansoddiad o symudiadau cerbydau wedi’i gynnal fel rhan o’r dyluniad manwl, sydd bellach wedi’i gwblhau.
Mân gylchfan Mae’r cynllun yn debygol o achosi problemau dosbarthu i fusnesau lleol; ydy’r cyngor wedi meddwl am hyn? Mae symudiadau cerbydau a dosbarthu nwyddau wedi’u hymgorffori yn y dyluniad arfaethedig, sy’n darparu i gynnal y mynediad presennol. Ni ragwelir unrhyw effaith negyddol ar fynediad/busnesau.
Mân gylchfan Bydd y gylchfan yn lleihau’r llif traffig ac yn effeithio ar fusnesau. Bydd y gylchfan yn darparu llif traffig mwy diogel drwy dawelu traffig sy’n symud drwy’r gyffordd; ni fydd yn cael unrhyw effaith ar lif traffig a/neu fynediad i fusnesau.
Mân gylchfan Pam na allwn ni ddefnyddio dulliau rheoli traffig yn lle mân gylchfan? Y dull mwyaf ymarferol o adlinio’r gyffordd hon yw ar ffurf mân gylchfan; bydd hyn yn gwella gwelededd, culhau’r gerbytffordd i ddarparu mannau croesi gwell i drigolion/defnyddwyr lleol ac yn cynnal y llif traffig. Roedd cynllun y gyffordd yn addas pan mai Bryn Prendergast / Heol Aberteifi oedd y prif lwybr allan i Aberteifi. Nid yw hyn yn wir bellach ac mae’r gyffordd yn ansafonol. 
Mân gylchfan A allwn ddefnyddio dulliau gorfodi traffig yn lle’r cynllun hwn? Mae dulliau gorfodi traffig wedi bod ar waith yn Prendergast ond nid yw wedi rheoli arferion parcio anghyfreithlon yn effeithiol yn yr ardal. 
Mân gylchfan Mae’r mynediad i fy eiddo’n uniongyrchol ar y fân gylchfan, a fydd hyn yn broblem? Mae dyluniad y gylchfan wedi’i addasu ac rydym wedi creu lôn benodol i fynd i mewn i’r eiddo hyn er mwyn lleddfu’r pryder hwn, gan gynnal ymgynghoriad uniongyrchol â’r eiddo yr effeithir arnynt.
Parcio Nid oes digon o leoedd parcio o fewn y cynllun. Mae’r cynllun yn darparu lefel ychwanegol o leoedd parcio ar y stryd (+40 o leoedd) nad yw’n bodoli ar hyn o bryd. Mae hyn trwy ffurfioli lleoedd parcio ar hyd y llwybr a dileu parcio anghyfreithlon sy’n digwydd yn yr ardal fusnes. Bydd busnesau’n debygol o elwa o’r trefniant ffurfiol hwn; trwy addasu’r gorchymyn rheoleiddio traffig presennol.
Parcio Nid yw parcio i fusnesau yn ddigonol; mae angen mwy o gilfannau llwytho. Fel rhan o’r cynllun, byddai cilfannau parcio a llwytho yn cael eu cynnwys yn y cynnig. Byddai hyn yn ffurfioli’r lleoedd parcio presennol.
Parcio A ellir rheoli parcio trwy orfodi traffig fel y mae ar hyn o bryd yn hytrach na chreu cynllun newydd? Byddai defnyddio teledu cylch cyfyng a gwell gorfodaeth yn arbed arian. Mae hyn yn wir, ond ni all y swyddogion gorfodi sifil gael eu defnyddio’n barhaol yn Prendergast. Mae gan y cynllun arfaethedig fanteision ehangach. Nid teledu cylch cyfyng yw’r mecanwaith priodol ar gyfer gorfodi parcio amhriodol. Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Sir Penfro y pŵer i orfodi trwy adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig.
Parcio A ellir cyfyngu lleoedd parcio i breswylwyr yn unig? Os felly, beth am barcio i fusnesau? Nid yw’r cyfyngiadau presennol yn rhoi llawer o gyfle i gyflwyno lleoedd parcio i breswylwyr yn unig. Trwy leihau lled y ffordd i ymdopi â llif traffig i un cyfeiriad, gellid cynyddu cyfleoedd ar gyfer parcio ar y stryd. 
Parcio Mae lleoedd parcio o amgylch man codi/gollwng ger ysgol yn anghynaladwy. Beth all y cyngor ei wneud i ddatrys hyn? Mae gan y ddwy ysgol gynllun teithio ysgol y mae’n ofynnol iddynt ei ddiweddaru. Mae’r awdurdod hwn ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r ddwy ysgol i gynorthwyo i annog mwy o ddisgyblion yn yr ardal i gerdded/feicio i’r ysgol er mwyn lleihau’r defnydd o gerbydau preifat.
Parcio Oni ellir defnyddio’r archifdy i ddarparu lleoedd parcio ychwanegol? Gellir ystyried hyn o ran a oes gan yr archifdy ddigon o le i ganiatáu parcio hyblyg. Pe bai’r cynllun unffordd yn cael ei weithredu, ni fyddai angen darparu mannau parcio ychwanegol yn yr archifdy.
Parcio Mae diogelwch cerddwyr yn bryder oherwydd y llwybrau cerdded cul a nifer y plant ysgol sy’n cerdded yn agos at niferoedd uchel o gerbydau. Mae’r cynllun arfaethedig yn ceisio lledu’r llwybrau troed presennol ar hyd Bryn Prendergast a chreu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr. Bydd hyn yn annog mwy o fyfyrwyr a thrigolion i gerdded/feicio, a fyddai wedyn yn lleihau nifer y cerbydau.
Cerddwyr Os byddwch yn cael gwared ar y groesfan â signalau, sut y bydd hyn yn fwy diogel i gerddwyr a’r rheiny â phroblemau symudedd? Lled y groesfan â signalau yw 7.2m ac mae traffig yn dod o’r ddwy ochr. Byddai’r cynigion yn sicrhau gosod rhwystrau ymwthiol a fyddai’n lleihau’r lled i 3.2m ac yn sicrhau gwelededd llawn i fodurwyr a cherddwyr yn y mannau croesi hyn. Byddai byrddau wedi’u codi yn cael eu defnyddio wrth y croesfannau hyn a fyddai’n lleihau cyflymder cerbydau wrth ddod yn agos. Byddai cyflwyno’r cynllun unffordd hefyd yn golygu mai dim ond i un cyfeiriad y byddai traffig yn dod.
Cerddwyr Mae’r bryn yn rhy serth i feicwyr; a byddant yn gwrthdaro â cherddwyr. Nid yw plant yn talu sylw i ddiogelwch ar y ffyrdd, felly mae beicio ar y palmant yn syniad gwael. Bydd darparu llwybr cyd-ddefnyddio ehangach i ddefnyddwyr feicio arno yn sicrhau bod cyfleusterau digonol a diogel yn cael eu darparu. Disgwylir i ddefnyddwyr pob dull teithio gydymffurfio â Rheolau’r Ffordd Fawr a bod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill. 
Cerddwyr Nid yw’r tanlwybr yn ateb ei ddiben, mae’n rhaid ichi groesi tair lôn brysur o draffig i gael mynediad iddo. Beth ydych chi’n ei wneud i wella hyn? Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wneud gwelliannau pellach i’r tanlwybr.
Cerddwyr  Pam cafodd yr hen lwybrau rhwng yr ysgol a’r archifdy, Queensway ac ysgol Prendergast eu cau? Pam na all y cyngor ailagor y rhain? Mae rheolaeth y man gollwng ar gyfer yr ysgol yn anaddas, a byddai hefyd yn creu materion diogelu ychwanegol. Bydd cadarnhad gan y Swyddog Hawliau Tramwy yn penderfynu a oes angen cadw hawliau tramwy cyhoeddus yn y lleoliad hwn.
Trafnidiaeth gyhoeddus A allwn ni wella’r gwasanaeth bws drwy’r pentref i ddarparu mynediad a dewisiadau teithio ychwanegol? Gallwn edrych ar hwn i weld a oes unrhyw opsiynau yn y dyfodol agos i wella amlder gwasanaeth teithio ar fws. Mae Sir Benfro yn mynd drwy’r broses masnachfreinio bysiau ar hyn o bryd ac o’r herwydd mae’n bosibl y bydd yn gallu ystyried hyn o dan y broses honno.
Trafnidiaeth gyhoeddus Os caiff y cynllun unffordd ei roi ar waith, ni fydd bws tua’r de, sut y bydd hyn yn gweithio? Bydd y llwybr bws yn mynd tua’r gogledd i fyny i Lwynhelyg, yn troi o gwmpas yn Llwynhelyg ac yna’n mynd yn ôl i lawr Teras Stepney i Heol Aberteifi, lle byddai wedyn yn mynd tua’r gogledd. Mae arosfannau eraill o fewn pellter cerdded o 400m ar gael.
Traffig ysgol A yw’r cynllun wedi cael archwiliad diogelwch ffyrdd? A yw’n bodloni’r safonau? Beth am ddiogelwch plant? Byddai Archwiliad Diogelwch yn cael ei weithredu ar ôl cwblhau’r broses ymgynghori a gwneud gwaith ar fanylion pellach y dyluniad.
Traffig ysgol Pam na ellir cyfeirio’r traffig i’r ysgolion drwy’r brif fynedfa oddi ar yr A40 ac nid drwy Prendergast? Anogir traffig i’r ysgol uwchradd ddefnyddio’r brif fynedfa ar yr A40. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r ysgol yn ymwybodol ohono ac mae’r awdurdod hwn yn gweithio gyda’r ysgol ar ei gynllun teithio.
Traffig ysgol Mae tacsis i blant ysgol yn parcio ar y llinellau melyn dwbl trwy Prendergast.  Mae hwn wedi’i drosglwyddo i’r tîm gorfodi parcio i ymchwilio iddo; fodd bynnag, at ddibenion llwytho/dadlwytho a gollwng teithwyr caniateir hyn yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr ar gyfer lleoliad addas.
Traffig – cyffredinol Mae goryrru yn broblem drwy’r pentref, mae angen gwell mesurau arafu. Bydd y system unffordd yn gwneud traffig yn gyflymach. Nid yw cynlluniau unffordd o reidrwydd yn cynyddu cyflymder traffig. Mae’r cynnig yn ceisio culhau’r ffordd gerbydau, a chyda chyfres o fyrddau wedi’u codi drwyddi draw, bydd yn arafu traffig drwy’r ardal. Mae’r terfyn cyflymder wedi’i osod ar 20mya; mae hyn i yrwyr gadw ato yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr.
Traffig – cyffredinol Bydd Heol Hall Park yn mynd yn anniogel oherwydd y cynnydd mewn traffig ac yn ei gwneud yn amhosibl i bobl yrru allan o’r fynedfa i’w cartrefi. Mae’r cynllun unffordd yn debygol o leihau llif y traffig tua’r de ar hyd Teras Stepney ar gyfer y gyrwyr hynny sy’n defnyddio’r llwybr fel ffordd osgoi traffig; bydd traffig sy’n cael ei ddargyfeirio naill ai’n defnyddio ffordd osgoi ddwyreiniol yr A40 a/neu Sydney Rees Way. Nid oes unrhyw gynigion i rwystro unrhyw dramwyfeydd o fewn y cynllun a/neu leihau parcio yn yr ardal hon.
Traffig – cyffredinol Bydd y system unffordd yn ysgogi mwy o draffig i ddefnyddio Queensway er mwyn cludo plant i’r ysgol. Cynigir y cynllun i annog newid moddol gan gynyddu nifer y plant sy’n dewis cerdded/beicio i’r ysgolion, lle bo modd. Bydd gostyngiad mewn traffig ar hyd Queensway yn cael ei adolygu, ynghyd â’r potensial i agor llwybrau i gerddwyr ar hyd Cherry Grove.
Traffig – cyffredinol Mae angen arwyddion newydd ar gyfer goryrru, creu llwybrau newydd. Mae angen cael gwared ar hen arwyddion yn mynd drwy Prendergast yn dweud sut i gyrraedd Aberteifi; mae angen diweddaru’r llwybr llywio â lloeren. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r cyngor yn ymchwilio iddo fel un o ganlyniadau’r prosiect hwn. Byddwn yn cysylltu â’r darparwyr llywio â lloeren priodol drwy’r sianeli priodol ac yn gweithio gyda’n tîm arwyddion ar gyfer newidiadau pellach.
Traffig – cyffredinol Mae pryderon am gynnydd mewn traffig drwy Teras Stepney oherwydd system unffordd. Mae’n debygol y byddai llai o draffig o weithredu system unffordd, o ystyried y byddai traffig yn debygol o wyro i lwybrau eraill. Gallai hyn fod yn ganlyniad tymor byr nes bod y system unffordd yn ymgorffori a bod defnyddwyr yn dod yn ymwybodol o’r cynllun newydd.
Traffig – unffordd Bydd y system unffordd yn golygu na all yr eglwys gynnal gorymdeithiau angladdol a chael mynediad i fynwent yr eglwys, trwy Back Lane. Nid yw’n briodol i’r hers fynd yn ei blaen yn ddigwmni a’r cerddwyr i ddefnyddio llwybr arall. A fydd angen cau’r ffordd bob tro? Bydd gofyn i’r holl draffig ddilyn y system unffordd. Ni fydd unrhyw ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer angladdau, gan nad yw’n ofyniad.
Traffig – unffordd Nid yw’n glir lle mae’r system unffordd yn dod i ben ac nid yw’n darparu man troi ar gyfer cerbydau. Sut y byddwch yn mynd i’r afael â hyn? Bydd yr awdurdod hwn yn ymchwilio i hyn ac yn asesu’r angen am arwyddion neu le ychwanegol i droi o fewn y cynllun.
Traffig – unffordd Bydd anhrefn a mwy o oedi oherwydd bod traffig ychwanegol yn cael ei orfodi i ddefnyddio Sydney Rees Way, cylchfan Morrisons a Theras Stepney. Nid oes disgwyl i draffig ar Sydney Rees Way gynyddu a pheri mwy o oedi. 
Traffig – unffordd Sut bydd hyn yn effeithio ar amseroedd teithio ar gyfer pob ymateb i argyfwng? Nid oes amser teithio ychwanegol ar gyfer ymatebion i argyfwng o ystyried y gofyniad i glirio’r ffordd ar gyfer cerbydau golau glas. Byddai’r system unffordd, a lleoedd parcio ychwanegol, yn lleihau parcio ac yn clirio rhwystrau ar y ffyrdd. 
Traffig – unffordd Bydd yn rhaid i’r rhai sy’n byw ym mhen gogleddol Heol Aberteifi (y B4329) ddefnyddio’r A40 i gael mynediad i’r dref nawr, gan ychwanegu at amseroedd teithio. Nid yw’r A40 (ffordd osgoi ddwyreiniol) yn cael ei defnyddio ddigon a gall ymdopi â chryn dipyn o lif traffig ychwanegol. Nid oes unrhyw gynnydd disgwyliedig mewn amser teithio i’r mwyafrif o ddefnyddwyr.
Traffig – tagfeydd Y goleuadau traffig yn Lidl a Morrisons sy’n aml yn gyfrifol am dagfeydd ar ffordd Prendergast; a ellir adolygu’r rhain? Mae’r awdurdod hwn wedi edrych ar y mater hwn a bydd yn parhau i fonitro a chwilio am atebion yn y dyfodol fel y bo’n briodol. Ni fyddai’r system unffordd arfaethedig yn effeithio ar y problemau capasiti presennol gan y byddai’n lleihau’r traffig i gylchfan Pen-y-bont o un cyfeiriad a fydd yn ei dro yn gwella llif y traffig ac yn lleihau gwrthdaro oherwydd oedi.
Traffig – tagfeydd A oes modd cael llwybr o Prendergast i gefnffordd yr A40? Ar hyn o bryd mae llwybr Heol Aberteifi neu Deras Stepney (trwy Ffordd Abergwaun) eisoes yn ei le.
Traffig – tagfeydd Mae traffig yn gysylltiedig â hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno; mae angen mynd i’r afael â hyn. Mae’r cyngor yn gweithio gyda’r ddwy ysgol i gynyddu cerdded/beicio lle bo hynny’n bosibl ac annog plant i deithio’n llesol yng ngoleuni’r cynllun hwn. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r ysgolion ar reoli traffig yn ystod y cyfnod casglu/gollwng o’r ysgol i gynnwys ’hybiau’ parcio mewn gwahanol leoliadau o amgylch y dref.

Mawrth 2025

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun unffordd arfaethedig wedi ennyn llawer o adborth, yn enwedig ynghylch pryderon parcio yn Prendergast. Mae dadansoddiad yr arolwg yn dangos, er nad yw’r mwyafrif o bosibl yn cefnogi’r cynnig presennol, bod adborth clir yn dangos bod trigolion lleol yn awyddus i weld gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd, yn enwedig o ran materion parcio. Mae’r Tîm Peirianneg yn cydweithio â’r Adran Strategaeth Trafnidiaeth i greu cynllun newydd sy’n mynd i’r afael â’r materion parhaus hyn.

Mae’r gylchfan fach ar gyffordd Heol Aberteifi/Teras Stepney yn Prendergast yn symud ymlaen yn unol â’r caniatâd angenrheidiol. Gan mai cynllun priffyrdd yw hwn, mae hwn yn rhan o awdurdod dirprwyedig y cyngor i wneud gwelliannau fel rhan o ddiogelwch ffyrdd. Nid yw’r trefniant presennol yn bodloni defnydd y gymdogaeth mwyach ac roedd yn addas pan mai hon oedd y brif ffordd i Aberteifi. Bydd y gylchfan fach yn gwella llif traffig a gwelededd yn y gyffordd hon. Disgwylir i’r gwaith ddechrau ym mis Ebrill 2025.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon maes o law.

Hydref 2024

Mae arolwg Cynllun Unffordd Prendergast bellach ar gau. Diolch am gymryd rhan.

Byddwn nawr yn asesu'r data a'r adborth a ddarperir. Bydd diweddariadau pellach ar y canlyniad yn cael eu darparu mewn ychydig wythnosau. 

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gynllun unffordd arfaethedig Prendergast

Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd, cymudwyr a busnesau lleol ar y canlynol:

  • Gweithredu system unffordd drwy Brendergast

  • Darparu Llwybr Defnydd a Rennir 500 metr. Mae Llwybr Defnydd a Rennir yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer symudiadau cerddwyr a beicwyr. 

  • Ailddosbarthu cilfannau parcio a mesurau rheoli traffig ar hyd y B4329 (Prendergast), rhwng cyffordd Heol Aberteifi / Heol Hall Park a chylchfan Sgwâr Pen-y-bont

Mae pobl yn parcio ar y brif ffordd trwy Brendergast yn fyrbwyll a di-feddwl, er mwyn galw draw i’r amwynderau lleol. Mae hyn yn golygu bod ceir yn parcio ar hyd blaenau’r siopau, er bod llinellau melyn dwbl a marciau ‘cadwch yn glir’ o flaen yr adran manwerthu. Nid yw parcio fel hyn yn ddoeth ac mae’n achosi i’r llif traffig oedi rhywfaint gan fod y llwybr yn troi, i bob pwrpas, yn ffordd unffrwd oherwydd y cerbydau sydd wedi’u parcio. 

Nod y cynnig yw:

  • Blaenoriaethu taith ddiogel plant ysgol a'r gymuned leol

  • Gwella llif y traffig ar hyd y B4329 (Prendergast)

  • Gwella’r problemau parcio ar y ffordd fawr

  • Gwella diogelwch ar hyd y ffordd

  • Lleihau tagfeydd ac oedi traffig

  • Gwneud gwelliannau amlwg i'r rhwydwaith beicio a theithio llesol presennol yn y gymuned

 

Ymgynghoriad cyhoeddus

Byddwn yn ceisio eich adborth ar y dyluniadau arfaethedig o ran y system unffordd a'r llwybr defnydd a rennir. 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar Medi 10fed, rhwng 10:00 – 12:00, 13:00 – 16:00, a 18:30 – 20:00 yn Archifau Prendergast. 

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn mynychu’r sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: Dweud eich Dweud  

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am dair wythnos (21 diwrnod), a bydd yn dod i ben ar Hydref 1af.

System Unffordd Prendergast: Pam mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig y cynllun hwn?

Cynllun un ffordd Prendergast: Yr hyn yr ydym yn ei gynnig: allbynnau posibl y cynllun

System Unffordd Prendergast: beth mae`r data yn ei ddweud?

Mae'r cynlluniau arfaethedig ar gael i'w gweld, mae copïau caled ar gael hefyd yn Archifdy Sir Benfro a Neuadd y Sir.

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - trosolwg

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad A & B

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad C & D

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad E & F

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad G

System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad H

 System Unffordd a Chyfleuster Llwybr Cyd-ddefnyddio Datblygiad Prendergast - mewnosodiad I & J

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01437 764551.

 

 

 

ID: 11988, revised 10/04/2025