Strategaeth Gaffael 2023-27

Amcanion Caffael Cyfrifol

Cymdeithas a Chymunedau

Materion Allweddol

  • Buddion Cymunedol (BC)
  • Gwaith Teg (GT)
  • Yr Economi Sylfaenol (ES)

 

Targedau Gwella

 

Mater Allweddol: Buddion Cymunedol (BC)
  • Targed: Ystyried yr holl gontractau ar gyfer cynnwys Buddion Cymunedol lle y bo’n briodol.
  • Dyddiad: Yn barhaus
Mater Allweddol: Buddion Cymunedol (BC)
  • Targed: Ar gyfer yr holl gontractau dros £1M sy’n cynnwys buddion cymunedol byddwn yn cofnodi’r canlyniadau gan ddefnyddio offer Mesur Buddion Cymunedol.
  • Dyddiad: Mai 2023
Mater Allweddol: Gwaith Teg (GT)
  • Targed: Sicrhau bod cwestiynau priodol mewn perthynas â’r Cod Ymarfer a Chanllawiau Moesegol yn cael eu hymgorffori yn yr holl ymarferion tendro ffurfiol. 
  • Dyddiad: Yn barhaus
Mater Allweddol: Yr Economi Sylfaenol (ES)
  • Targed: Byddwn yn sicrhau bod Cyfrifon Banc Prosiect yn cael eu cynnwys ym mhob contract adeiladu perthnasol.
  • Dyddiad: Yn barhaus

 

Yr Economi

Materion Allweddol

  • Datblygu Cyflenwyr Lleol (DCLl)
  • Yr Economi Gylchol (EG)
  • Yr Economi Sylfaenol (ES)

 

Targedau Gwella

 

Mater Allweddol: Datblygu Cyflenwyr Lleol (DCLl)
  • Targed: Diweddaru ac ailgyhoeddi’r “Canllaw Sut i Dendro”
  • Dyddiad: Hydref 2023
Mater Allweddol: Datblygu Cyflenwyr Lleol (DCLl)
  • Targed: Hysbysebu cyfleoedd tendro ar y Cyfryngau Cymdeithasol
  • Dyddiad: Ebrill 2023
Mater Allweddol: Datblygu Cyflenwyr Lleol (DCLl)
  • Targed: Cyhoeddi ein Blaengynllun Caffael ar ein gwefan.
  • Dyddiad: Tachwedd 2023
Mater Allweddol: Datblygu Cyflenwyr Lleol (DCLl)
  • Targed: Cyhoeddi cyfleoedd contract dros £25k ar y Wefan Gaffael Genedlaethol
  • Dyddiad: Yn barhaus
Mater Allweddol: Datblygu Cyflenwyr Lleol (DCLl)
  • Targed: Cyflwyno Dyfynbrisiau Cyflym i dargedu Cyflenwyr lleol lle y bo’n bosibl ar gyfer ymarferion caffael o dan y trothwy tendro.
  • Dyddiad: Mehefin 2023

Mater Allweddol: Datblygu Cyflenwyr Lleol (DCLl)

  • Targed: Monitro a chofnodi ein gwariant Caffael blynyddol gyda’r holl fusnesau sydd wedi’u lleoli yn Sir Benfro 
  • Dyddiad: Yn flynyddol

 

Yr Amgylchedd

 

Materion Allweddol

  • Yr Economi Gylchol (EG)
  • Newid Hinsawdd (NH)
  • Bioamrywiaeth (B)
  • Dargarboneiddio (D)
  • Aer Glân (AG)

 

Adolygiad o Wariant ar Gaffael Cynaliadwy

 

Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) i gynnal Adolygiad o Wariant ar Gaffael Cynaliadwy ac mae copi o’r Cynllun Gweithredu a ddeilliodd o hynny yn Atodiad A .

Aethpwyd at Feysydd Gwasanaeth i adolygu eu dulliau gweithredol a’u defnydd o ddeunyddiau. Cafodd defnydd o blastigau untro, neu ddefnydd o symiau mawr o decstilau neu ddeunyddiau eraill, ei herio, i ganfod ble y gallai prosiectau eraill esblygu. Ym mhob isadran y cafwyd trafodaethau ynddynt, canfuwyd camau cyflym posibl ymlaen ar gyfer ystyriaeth fras i ddatblygu eu graddfa a’u hyfywedd. 

Mae’r egwyddorion a gymhwyswyd yn ystod yr adolygiad yn dilyn y rhai ar gyfer economi gylchol a’r dulliau hierarchaeth gwastraff i arbed (prynu llai), ailddefnyddio (nid deunyddiau untro), prynu cynnwys wedi’i ailgylchu neu gynnwys wedi’i ailddefnyddio mewn nwyddau wedi’u hailbwrpasu neu eu dylunio o’r newydd, ailgylchu (casglu a gwerthu) ac yn y blaen. Wrth ystyried sut i brynu’n dda ar gyfer nodau llesiant, mae’n hanfodol cymhwyso llwybrau meddwl newydd, ar y dechrau un, wrth ddylunio’r broses gaffael ac wrth ddylunio cynnyrch.

Rydym yn cydnabod bod cyflawni caffael cynaliadwy ar draws sefydliad mawr, gwasgarog a chymhleth yn cymryd amser. Bydd angen i lawer o’r argymhellion yn yr adroddiad hwn gael eu hymgorffori mewn polisi, eu profi a’u rhoi ar waith. Mae’r dull hwn yn galw am dracio llinellau amser ail-gaffael mewn modd amserol a phrosesau rheoli contractau cadarn.

Caiff prosiectau sydd o gymorth i gaffael mwy o nwyddau â chynnwys wedi’i ailgylchu neu wedi’i ailddefnyddio eu nodi mewn system goleuadau traffig yn seiliedig ar y canlynol:

 

  • Camau cyflym ymlaen sydd o fewn rheolaeth y Cyngor (Gwyrdd).
  • Camau gweithredu y mae angen gwneud mwy o waith arnynt gyda chyflenwyr, neu y mae angen hyfforddiant neu gyfnod treialu byr ar eu cyfer (Ambr).
  • Y rhai lle mae angen achos busnes neu werthusiad manwl pellach o’r effaith ar allyriadau carbon neu gostau neu asesiad oes gyfan ar gyfer newid cynnyrch (e.e. eitem blastig o’i chymharu â deunydd pren neu wydr newydd) neu y mae dwy flynedd neu fwy ar ôl nes byddant yn cael eu hail-gaffael  (Coch).

Mae’r system goleuadau traffig yn adlewyrchu’r amser ychwanegol sy’n ofynnol ar gyfer newidiadau mwy cymhleth i herio a phrofi syniadau’n drylwyr yn y gadwyn gyflenwi neu ar draws gwasanaethau’r Cyngor, ac i ddarparu sicrwydd yn erbyn canlyniadau anfwriadol. Wrth wneud hynny, mae nifer o arbedion lleihau carbon ac arbedion posibl o ran costau wedi cael eu hadnabod hefyd sydd nid yn unig o fudd i Amcanion Llesiant y Cyngor ond sydd hefyd yn cefnogi ein targed Carbon Sero.  

 

Targedau Gwella

 

Yr Economi Gylchol (EG)/Newid Hinsawdd (NH)/Dargarboneiddio (D)
  • Cwblhau’r holl gamau gweithredu Gwyrdd a nodir yn adroddiad WRAP - O fis Medi 2023
  • Cwblhau’r holl gamau gweithredu Ambr a nodir yn adroddiad WRAP - O fis Ionawr 2024
  • Cwblhau’r holl gamau gweithredu Coch a nodir yn adroddiad WRAP - O fis Mai 2024
 
Bioamrywiaeth (B)
  • Cynnal adolygiad o Ffosffadau a ddefnyddir gan yr Awdurdod - Yn barhaus
  • Adolygu’r defnydd o chwynladdwyr a ddefnyddir gan yr Awdurdod - Yn barhaus
ID: 10654, adolygwyd 17/10/2023