Strategaeth Gaffael 2023-27
Cyflawni’r Strategaeth
Er mwyn cyflawni’r Strategaeth hon yn llwyddiannus, cydnabyddir bod angen cyflawni nifer o ffactorau/camau gweithredu mewnol. Yn 2022 cynhaliwyd adolygiad allanol o Gaffael yn y Cyngor ac mae’r Gwasanaeth yn mynd i’r afael ag argymhellion yr adolygiad hwnnw hefyd.
Targedau i Roi’r Strategaeth ar Waith
- Cyfleu’r Strategaeth Gaffael newydd i’r holl Swyddogion: Dyddiad Dechrau - Ebrill 2023
- Cynnal seminar i’r Aelodau i gyfleu’r Strategaeth Gaffael newydd a’i goblygiadau: Dyddiad Dechrau - Mehefin 2023
- Cwblhau’r holl argymhellion o’r adolygiad allanol o Gaffael yn 2022: Dyddiad Dechrau - Medi 2023
- Cwblhau’r holl argymhellion Archwilio Mewnol ar gyfer caffael a wnaed yn 2022: Dyddiad Dechrau - Rhagfyr 2023
- Adolygu’r Rheolau Gweithdrefn Contractau i sicrhau eu bod yn gydnaws â’r Bil Caffael a’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus sydd ar ddod: Dyddiad Dechrau - Rhagfyr 2023
Os hoffech gopi PDF o'r strategaeth hon, anfonwch e-bost procurement@pembrokeshire.gov.uk.
ID: 10655, adolygwyd 17/10/2023