Strategaeth Gaffael 2023-27

Gwerth Cymdeithasol

Mae “Gwerth Cymdeithasol” yn derm eang ac mae wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd camau gweithredu a gymerir gan sefydliadau. 

Mae a wnelo gwerth cymdeithasol â gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o gontractau’r sector cyhoeddus y tu hwnt i ddarparu’r gwasanaethau sy’n uniongyrchol ofynnol a heb unrhyw gost ychwanegol.

Cydnabyddir bod caffael gan y sector cyhoeddus yn un o’r ysgogwyr sydd â’r gallu i gyflawni deilliannau gwerth cymdeithasol ar gyfer llesiant Cymru.

Mae angen ystyried Gwerth Cymdeithasol yng Nghymru yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (DLlCD) ac mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen iddo sicrhau hefyd bod ein dull yn cyd-fynd â’r Bil Caffael a’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus sydd ar ddod ac y y disgwylir iddynt ddod yn gyfraith tuag at ddiwedd 2023.

 

Themâu, Deilliannau a Mesurau (TOMS)

I helpu sefydliadau i fesur gwerth cymdeithasol mewn ymarferion caffael mae TOMS Cymru wedi cael eu datblygu gan CLlLC a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. 

Mae rhai awdurdodau lleol wedi dechrau treialu’r defnydd o TOMS i fesur gwerth cymdeithasol. Fodd bynnag, hyd yma nid yw Sir Benfro wedi cyfranogi ac mae angen i ni ddeall effaith cwblhau dogfennaeth o’r fath fel rhan o ymarfer caffael ar ein cyflenwyr. Ceir goblygiadau o ran amser a chostau a allai atal cynigwyr rhag ymgeisio ar adeg pan fo’n anodd denu’r farchnad. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos cwmnïau lleol sy’n MBChau neu’n ficro MBChau.  

Ceir goblygiadau o ran adnoddau i’r Cyngor ei hun hefyd mewn perthynas â rhoi’r dull yma ar waith, yn fewnol o ran rheoli contractau a’r angen i sicrhau bod rhwymedigaethau gwerth cymdeithasol yn cael eu cyflawni, ac yn allanol o ran sicrhau bod ein cyflenwyr yn deall y ffordd newydd hon o gaffael. 

Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd ar ddull Cymru cyfan lle mae gwerth cymdeithasol yn y cwestiwn a darparu adnoddau’n effeithiol ar gyfer yr ymrwymiad hwn. 

ID: 10652, adolygwyd 17/10/2023