Strategaeth Gorfforaethol 2025-30
Rhagair
Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno strategaeth gorfforaethol y cyngor ar gyfer 2025-2030.
Mae’r strategaeth yn cyd-fynd â rhaglen weinyddu’r cabinet, y cytunwyd arni ym mis Ionawr 2023, ac y mae’n edrych ymlaen dros y pum mlynedd nesaf at yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r cyngor a sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r rhain. Datblygwyd y strategaeth yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae fy nghabinet a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda’n swyddogion i sicrhau newid cadarnhaol a pharhaol i’n sir fendigedig.
Fel cyngor rydym yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys cyd-destun ariannol hynod o anodd a galw cynyddol am wasanaethau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol plant ac oedolion. Yn ogystal, nid ydym yn ddiogel rhag y ffactorau allanol sy’n cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ein gallu i gyflawni. Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r rhain wedi cynnwys costau ynni cynyddol, yr argyfwng costau byw, ac ansicrwydd ac ansefydlogrwydd a grëwyd gan ffactorau byd-eang.
Er gwaethaf yr heriau hyn rwy’n parhau’n gadarnhaol am ein dyfodol a’n gallu i gyflawni’r amcanion a nodir yn y strategaeth. Fel tystiolaeth o hyn, hoffwn dynnu sylw at y cynnydd yr ydym wedi’i wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran gwella gwasanaethau craidd megis addysg a chynllunio, y lefelau uchel parhaus o berfformiad yn ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu, a gwaith gwella parhaus i wneud gwasanaethau cymdeithasol, ym maes gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, yn fwy cynaliadwy.
Bydd cynnydd yn erbyn y strategaeth hon yn cael ei gofnodi yn ein hadroddiad hunanasesu blynyddol a gymeradwyir gan y cyngor bob hydref. Byddwn yn tynnu ar gasgliadau’r hunanasesiad i sicrhau bod y camau a gymerwn yn adlewyrchu ein dysgu sefydliadol, a newidiadau yn yr amgylchedd allanol wrth iddynt ddod i’r amlwg.
Ni allwn gyflawni heb ymrwymiad ac ymroddiad ein staff. Rwy’n falch o’r gwaith y maen nhw’n ei wneud, ac rydym yn parhau i ddibynnu arnynt o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd yn hyderus, trwy ddatgloi pŵer a photensial ein cymunedau, a thrwy ein hymrwymiad cryf i weithio gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid allweddol, y gallwn edrych yn gadarnhaol tuag at ein dyfodol ar y cyd, ac ymhen pum mlynedd, y bydd Sir Benfro yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo nag y mae heddiw.
Cllr Jon Harvey, Arweinydd