Strategaeth Gorfforaethol 2025-30
Datganiad o Weledigaeth
Ein gweledigaeth fel cyngor yw gweithio gyda'n gilydd, gwella bywydau. Mae’r weledigaeth hon yn nodi'n gryno yr hyn y mae'n ei olygu i weithio i Gyngor Sir Penfro, ac yn nodi ein prif ddiben fel sefydliad.
Mae rhaglen weinyddu’r Cabinet yn cyflwyno gweledigaeth tymor hwy ar gyfer y math o le yr ydym am i Sir Benfro fod yn awr ac yn y dyfodol ar gyfer ein cymunedau, ein lleoedd a’n pobl:
- Mae Sir Benfro yn lle gwych i fyw ynddo, gweithio ynddo, ac ymweld ag ef
- Mae ein pobl ifanc a’n dysgwyr yn cael addysg o ansawdd uchel
- Mae pobl sy’n agored i niwed yn cael gofal a chymorth drwy gydol eu hoes
- Mae tai priodol ar gael, sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy
- Mae Sir Benfro yn sir sero net, sy’n arwain y ffordd o ran ynni adnewyddadwy gwyrdd a glas
- Mae llai o deuluoedd ac aelwydydd yn profi tlodi ac anghydraddoldeb
- Mae ein cymunedau yn weithgar ac yn ffynnu
- Rydym yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i genedlaethau'r dyfodol drwy'r pethau yr ydym yn eu gwneud heddiw
Fel sefydliad, mae ein gwaith yn cyd-fynd â’r cynllun llesiant trosfwaol ar gyfer Sir Benfro, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro (BGC) ym mis Mai 2023, ac yn cyfrannu ato. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bartneriaeth strategol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau pwysig o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn y sir.
Mae gan y Bwrdd ddyletswydd ar y cyd i wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol pobl a chymunedau yn Sir Benfro. Fel un o bartneriaid statudol y Bwrdd, mae’r cyngor yn chwarae rhan arweiniol bwysig yng ngwaith y bartneriaeth. Oherwydd hyn, mae’r cyngor hefyd wedi ymrwymo i weledigaeth y Bwrdd ar gyfer Sir Benfro a’r amcanion llesiant y mae wedi’u pennu i ffurfio’r fframwaith ar gyfer ei gynllun llesiant. Gweledigaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw:
- Datgloi pŵer a photensial pobl a chymunedau Sir Benfro fel bod ein pobl yn hapus, yn iach ac yn byw’n dda, bod ein cymunedau’n garedig, yn ddiogel, yn ddyfeisgar ac yn fywiog, bod ein heconomi yn wyrdd ac yn ffynnu, a bo’n hamgylchedd wedi’i warchod ac yn well.
Amcanion llesiant y Bwrdd yw:
- Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a hwyluso’r newid i economi wyrddach a mwy cynaliadwy
- Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant
- Hyrwyddo a chefnogi mentrau er mwyn datgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a mynd i’r afael â’r argyfwng ym myd natur
- Sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel, wedi’u cysylltu, yn ddyfeisgar ac yn amrywiol