Strategaeth Gorfforaethol 2025-30
Datganiadau Cenhadaeth Rhaglen Weinyddu'r Cyngor
Lle a'r rhanbarth
- 1a – Helaethu mantais gymharol Sir Benfro ym maes ynni i sbarduno chwyldro o ran buddsoddi mewn ynni gwyrdd gan hefyd gefnogi a datblygu elfennau sylfaenol eraill yr economi leol, amaethyddiaeth a thwristiaeth.
- 1b – Sicrhau bod Sir Benfro'n parhau i fod yn lle gwych i ymweld ag ef, ac i fyw a gweithio ynddo, gyda chanolfannau trefol bywiog, cysylltedd digidol sydd ar flaen y gad yn y wlad ac arlwy hamdden o safon fyd-eang.
Newid hinsawdd
- 2a – Cyrraedd ein targed i fod yn gyngor carbon sero net erbyn 2030, a gweithio tuag at ddatgarboneiddio'r system drafnidiaeth dros y tymor hwy.
- 2b – Mabwysiadu ymagwedd arloesol tuag at ddiogelu a hyrwyddo ein hamgylchedd a'n gallu i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd.
Addysg
- 3 – Byddwn yn gwneud Sir Benfro yn lle gwych i ddysgu, byw a thyfu ynddo.
Gofal cymdeithasol
- 4 – Cynorthwyo pobl â gofal a chymorth priodol i fyw yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain, gan ganolbwyntio ar fesurau atal a sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel.
Tai
- 5 – Byddwn yn arloesol wrth ymdrin â'r heriau tai yr ydym yn eu hwynebu drwy sicrhau bod gan bobl Sir Benfro fynediad at gartref addas sydd o safon uchel, yn fforddiadwy ac yn gwella’u hansawdd bywyd.
Cynllunio
- 6 – Byddwn yn llunio ac yn gwella amgylchedd Sir Benfro, ac yn cyflawni rôl hanfodol o ran darparu tai, cynnal a denu busnesau, taro cydbwysedd o ran effeithiau datblygiadau ar gymunedau a chyfrannu at ymateb y cyngor i'r argyfwng hinsawdd a natur.
Gwasanaethau trigolion
- 7 – Byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau ar ddarparu ‘hanfodion gwych’ – gwasanaethau craidd fel priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu'r cyhoedd a hamdden a diwylliant – sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd cymunedau, gan sicrhau bod trigolion yn byw mewn cymdogaethau sy’n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llesol.
Cyllid
- 8 – Byddwn yn gweithio mewn ffordd arloesol a darbodus i gyflawni'r Rhaglen Weinyddu o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael, a chyfyngiadau o ran amser ac ansawdd.
Gwella corfforaethol
- 9a – Byddwn yn cynnig arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu cryf i hwyluso’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau Sir Benfro, yn y tymor byr a'r tymor hir, yn enwedig o ran llywodraethu; canolbwyntio ar gwsmeriaid; pobl a diwylliant y sefydliad; a digidol, data a thechnoleg.
- 9b – Byddwn yn tanategu’r rhain drwy barhau i ddatblygu ein prosesau cyfathrebu, meithrin perthnasoedd gwych â rhanddeiliaid, a darparu arweinyddiaeth gadarn – yn wleidyddol ac o ran rheoli.
Cymunedau
- 10 – Byddwn yn cefnogi cymunedau Sir Benfro, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy i helpu i greu cymunedau byw, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol.
Matrics perthnasoedd rhwng datganiadau cenhadaeth y Rhaglen Weinyddu a’r amcanion llesiant
Ein Dyfodol – Galluogi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, wrth eu cyfarparu â sgiliau ar gyfer y dyfodol
- Addysg - 3
- Gofal cymdeithasol - 4
Ein Lle – Lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw'n dda a ffynnu
- Lle a'r rhanbarth - 1a, 1b
- Newid hinsawdd - 2a, 2b
- Tai - 5
- Cynllunio - 6
- Gwasanaethau trigolion - 7
Ein Cymunedau – Gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithgar, dyfeisgar a chysylltiedig
- Gofal cymdeithasol - 4
- Cymunedau - 10
Ein Cyngor – Cyngor sy'n gynaliadwy yn ariannol, sydd wedi'i lywodraethu'n dda, a chanddo weithlu sy'n gallu cefnogi'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu
- Cyllid - 8
- Gwella corfforaethol - 9a, 9b
ID: 12916, adolygwyd 11/04/2025