Strategaeth Gorfforaethol 2025-30

Ein Cymunedau

Gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithgar, dyfeisgar a chysylltiedig

 

Pam mae hyn yn bwysig?

Rydym am gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.  Byddwn yn parhau i feithrin partneriaethau cryf ar draws y cyngor, y gwasanaeth iechyd a'r trydydd sector i alluogi hyn. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod gan gymunedau y gallu a'r rhwydweithiau sydd eu hangen arnynt i gynnal eu hunain cymaint â phosibl. Ein rôl ni yw galluogi a hwyluso hy. 

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud i gyflawni hyn?

  • Parhau i integreiddio gwaith Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Benfro er mwyn sicrhau goruchwyliaeth a chymorth ar gyfer cyflawni cynaliadwyedd
  • Ailgynllunio'r broses blaen y tŷ i’w gwneud yn rhwyddach i gael mynediad i ofal cymdeithasol i oedolion drwy ad-drefnu gwasanaethau
  • Gweithredu prosesau sy'n nodi cyfleoedd eraill i wneud gwasanaethau’n fwy effeithlon drwy ddefnyddio methodoleg Vanguard
  • Parhau i foderneiddio cyfleoedd dydd ac adeiladu ar ein dull o ymdrin â mentrau cymdeithasol
  • Parhau i gryfhau ac ymwreiddio ein dulliau o ddiogelu oedolion
  • Adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau ailalluogi a gofal cartref mewnol a sicrhau eu bod yn addas i’r diben
  • Sicrhau bod sgiliau’r gweithlu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn addas ar gyfer y dyfodol
  • Galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi trwy ddarparu cymhorthion ac addasiadau
  • Cryfhau cymunedau drwy amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys hybiau cymunedol a chysylltwyr cymunedol sydd wedi'u targedu i atal ac ymyrryd yn gynnar
  • Ymwreiddio strategaethau i atal a lliniaru digartrefedd
  • Datblygu a chynhyrchu strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg erbyn 2026, gyda chyfranogiad yr holl randdeiliaid allweddol
  • Arddangos arweinyddiaeth ar lefel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy arwain ar gyflawni’r flaenoriaeth o Gryfhau Cymunedau yng Nghynllun Llesiant y Bwrdd
  • Parhau i gyflawni prosiectau diwylliannol sy’n cryfhau cysylltiadau ag iaith, llesiant a lle (cynefin)
  • Cefnogi a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gyntaf, gan gynnwys gweithredu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026

 

Sut fyddwn ni'n gwybod?

Data meintiol o'n Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy’n ymwneud â’r canlynol:
  • Asesiadau o anghenion
  • Asesiadau gofalwyr
  • Atgyfeiriadau diogelu
  • Darpariaeth gofal cartref
  • Darpariaeth gofal preswyl
  • Cyfraddau digartrefedd
  • Pobl sy’n cysgu allan
  • Cyfraddau gwirfoddoli
  • Siaradwyr Cymraeg
Ffynonellau ansoddol
  • Cyflawni prosiect Cryfhau Cymunedau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Eisteddfod 2026
  • Cyflawni’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
  • Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cyfraniad tuag at y nodau llesiant cenedlaethol

  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
ID: 12914, adolygwyd 11/04/2025