Strategaeth Gorfforaethol 2025-30

Ein Cyngor

Cyngor sy'n gynaliadwy yn ariannol, sydd wedi'i lywodraethu'n dda, a chanddo weithlu sy'n gallu cefnogi'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu

 

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae'r cyngor yn wynebu heriau ariannol digynsail.  Mae llawer o resymau am hyn, ond y peth pwysig yw sicrhau ein bod yn gweithredu i sicrhau bod y cyngor, a'r gwasanaethau a ddarparwn, yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.  I gefnogi hyn, mae'n hanfodol bod penderfyniadau'r cyngor yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn adlewyrchu dymuniadau ein trigolion.  Mae angen i ni hefyd addasu ein gweithlu er mwyn sicrhau ei fod yn addas i ateb yr heriau hanesyddol hyn, a byddwn yn gweithio gyda’n hundebau llafur cydnabyddedig trwy’r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol i gyflawni hyn.

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud i gyflawni hyn?

  • Pennu cyllideb gytbwys wrth ystyried yr heriau ariannol sy’n wynebu’r cyngor, gan ymgysylltu’n llawn â phob rhanddeiliad, ac yng nghyd-destun Cynllun Ariannol Tymor Canolig cynaliadwy.
  • Cyrraedd ein targedau casglu ar gyfer y dreth gyngor a’r rhent tai, a lleihau ôl-ddyledion o ran y ddau.
  • Sicrhau bod y sefydliad yn mabwysiadu’r gwelliannau o'r Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol yn llawn, gan yr aelodau etholedig a’r swyddogion.
  • Cryfhau goruchwyliaeth ac ymgysylltiad aelodau anweithredol drwy graffu effeithiol.
  • Cryfhau a gwreiddio ein prosesau o ran llunio asesiadau effaith integredig a chynnal ymgyngoriadau.
  • Cyflawni ein Strategaeth Cyfranogiad a sicrhau bod trigolion yn gallu chwarae rhan mewn llunio dyfodol y cyngor a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd neu ddylanwadu arni.
  • Cyflawni ein cynllun Gweithlu’r Dyfodol a mynd i’r afael â heriau sy’n ymwneud â recriwtio a chadw, gan weithio gyda’n partneriaid undeb llafur drwy’r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol.
  • Parhau i gyflawni strategaethau sy’n cefnogi iechyd a llesiant meddwl gweithwyr.
  • Sicrhau bod ein prosesau cynllunio corfforaethol a gwasanaethau yn adlewyrchu ein heriau, ac yn hwyluso gwaith cynllunio, cyflawni a monitro priodol o'n hamcanion dros y tymor canolig.
  • Sicrhau bod risgiau sefydliadol a chyfarwyddiaethol (bygythiadau a chyfleoedd) yn cael eu nodi, eu rheoli a'u lliniaru'n effeithiol.

 

Sut fyddwn ni'n gwybod?

Data meintiol o'n Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy’n ymwneud â’r canlynol
  • Cofnodion absenoldeb yr adran Adnoddau Dynol
  • Cyfraddau casglu’r dreth gyngor / rhenti tai ac ôl-ddyledion
Ffynonellau ansoddol
  • Proses pennu’r gyllideb
  • Cynllun Ariannol Tymor Canolig
  • Datganiad o Gyfrifon
  • Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol
  • Datganiad Llywodraethu Blynyddol
  • Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu
  • Strategaeth Ddigidol
  • Cyflawni’r Strategaeth Gyfranogiad
  • Adroddiad Hunanasesu
  • Data etholiadau yn 2027 (ee seddi sy’n cael eu cystadlu)
ID: 12915, adolygwyd 11/04/2025