Strategaeth Gorfforaethol 2025-30
Ein Dyfodol
Galluogi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, wrth eu cyfarparu â sgiliau ar gyfer y dyfodol
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae dyfodol Sir Benfro yn perthyn i’n plant a’n pobl ifanc, ac yn dibynnu arnynt. Rydym am greu'r amodau sy'n cefnogi ac yn galluogi'r garfan hon i dyfu, dysgu a gwneud y gorau o'u potensial, yn ogystal â datblygu'r sgiliau a fydd yn hanfodol i gynaliadwyedd Sir Benfro yn y dyfodol.
Beth fyddwn ni'n ei wneud i gyflawni hyn?
- Datblygu un llwybr i gydlynu dull system gyfan o weithio ar draws y gwasanaethau mamolaeth a’r gwasanaethau blynyddoedd cynnar 0 i 7 oed.
- Cryfhau dulliau o ymyrryd yn gynnar a mesurau atal.
- Arwain a chefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Ymgorffori strategaeth y blynyddoedd cynnar yn ein harferion gwaith gydag asiantaethau partner er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd.
- Ail-ddylunio'r broses blaen tŷ yn y Tîm Asesu Gofal Plant.
- Gwella systemau recriwtio a chadw gofalwyr maeth.
- Parhau i greu disgwyliadau uchel wrth wella safonau ar gyfer pob disgybl, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai mwyaf difreintiedig.
- Cwblhau ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy y cytunwyd arni a datblygu'r achos dros ail-drefnu ysgolion.
- Parhau â’n strategaethau llwyddiannus er mwyn gwella arweinyddiaeth mewn ysgolion.
- Defnyddio data a gwybodaeth ysgol yn well er mwyn monitro a gwerthuso ysgolion.
- Parhau i ddatblygu prosesau sy'n cryfhau dulliau o ddarparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac addysg ddewisol yn y cartref.
- Rhoi camau gweithredu ar waith i wella dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant.
- Cefnogi cyfleoedd bywyd pobl ifanc drwy eu helpu i ennill y sgiliau a’r cymwysterau galwedigaethol hanfodol sy’n eu galluogi i symud ymlaen i fyd gwaith a dysgu pellach, ac sy’n debygol o gydweddu â chyfleoedd economaidd yn Sir Benfro yn y dyfodol.
Sut fyddwn ni'n gwybod?
Data meintiol o'n Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy’n ymwneud â’r canlynol:
- Plant sy'n derbyn gofal
- Atgyfeiriadau i’r Tîm Asesu Gofal Plant
- Plant ar y gofrestr amddiffyn plant
- Gofalwyr maeth
- Lefelau cyrhaeddiad disgyblion
- Presenoldeb yn yr ysgol (cynradd ac uwchradd)
- Gwaharddiadau
Ffynonellau ansoddol
- Deilliannau’r rhaglen Dechrau'n Deg
- Deilliannau’r strategaeth tlodi
- Deilliannau’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
- Cydweithrediad â Choleg Sir Benfro
- Deilliannau’r partneriaethau dysgu a sgiliau rhanbarthol
Cyfraniad tuag at y nodau llesiant cenedlaethol
- Cymru lewyrchus
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
ID: 12912, adolygwyd 11/04/2025