Strategaeth Gorfforaethol 2025-30

Ein Lle

Lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw'n dda a ffynnu

 

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae pobl eisiau byw mewn lleoedd sy'n lân ac yn ddiogel.  Sir Benfro yw un o’r lleoedd harddaf yn y wlad i fyw ynddo ac mae dyletswydd arnom i’w hamddiffyn a’i gwella ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.  Mae ein heconomi hefyd yn newid, a chyda hynny mae’n cyflwyno’r cyfle i hybu twf a ffyniant er budd ein trigolion. 

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud i gyflawni hyn?

  • Manteisio ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth a ddarperir gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a gosod Sir Benfro yng nghanol y chwyldro ynni gwyrdd a glas.
  • Ail-lunio trefi Sir Benfro er mwyn creu lleoedd bywiog a ffyniannus drwy gyflawni prosiectau adfywio.
  • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd mewnfuddsoddi, a datblygu ein safleoedd cyflogaeth strategol ar draws y sir er mwyn cefnogi’n prif sectorau.
  • Parhau i sicrhau y darperir ystad ffermydd sirol o ansawdd uchel, sy’n cynnal y gymuned amaethyddol ac yn dod â buddion economaidd i’r sir.
  • Parhau i wella systemau ailgylchu ac ailddefnyddio er mwyn bodloni gofynion sy’n ymwneud â’r strategaethau “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” a “Mwy nag Ailgylchu”.
  • Hyrwyddo a chefnogi mentrau i gyflawni datgarboneiddio, rheoli mesurau ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a mynd i’r afael â’r argyfwng natur, gan gynnwys cyflawni cynllun gweithredu carbon sero net y cyngor a Chynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro.
  • Parhau â’n hymrwymiad o dan Ddatganiad Caeredin i weithio tuag at nodau’r Confensiwn Byd-eang ar Fioamrywiaeth.
  • Parhau i ganolbwyntio ar welliannau i dir cyhoeddus a mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol.
  • Cyflawni cynlluniau ymaddasu arfordirol ac afonol er mwyn lliniaru effaith llifogydd.
  • Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.
  • Gwella ansawdd a chynaliadwyedd stoc tai’r cyngor a sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.
  • Cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd sy'n cefnogi ac yn integreiddio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol Sir Benfro.
  • Datblygu a chyflawni Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd drwy drefniadau partneriaeth cydweithredol.
  • Cefnogi amgylcheddau byw a gweithio diogel drwy ddarparu gwasanaethau diogelu'r cyhoedd yn effeithiol.
  • Cyflawni Cynllun Rheoli Cyrchfannau newydd a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

 

Sut fyddwn ni'n gwybod?

Data meintiol o'n Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy’n ymwneud â’r canlynol:
  • Cyfraddau gwastraff ac ailgylchu
  • Amgylchedd glân (sbwriel, baw cŵn, tipio anghyfreithlon ac ati)
  • Rhestr aros Cartrefi Dewisedig
  • Tai fforddiadwy wedi'u hadeiladu
  • Grantiau cyfleusterau i bobl anabl
Ffynonellau ansoddol
  • Cyflawni prosiectau’r Porthladd Rhydd Celtaidd a’r deilliannau cysylltiedig
  • Cyflawni prosiectau cyfalaf adfywio a’r deilliannau cysylltiedig
  • Mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol a chanllawiau cynllunio atodol
  • Cyflawni cynllun gweithredu sero net y cyngor

 

Cyfraniad tuag at y nodau llesiant cenedlaethol

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
ID: 12913, adolygwyd 11/04/2025