Strategaeth Gorfforaethol 2025-30

Ein Hamcanion Llesiant ar Gyfer 2025-2030

Dyma ein hamcanion llesiant ar gyfer 2025-2030:

  • Ein Dyfodol – galluogi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, wrth eu cyfarparu â sgiliau ar gyfer y dyfodol
  • Ein Lle – lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw'n dda a ffynnu
  • Ein Cymunedau – gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithgar, dyfeisgar a chysylltiedig
  • Ein Cyngor – cyngor sy'n gynaliadwy yn ariannol, sydd wedi'i lywodraethu'n dda, a chanddo weithlu sy'n gallu cefnogi'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu

Mae’r tri cyntaf yn edrych tuag allan, gan ganolbwyntio ar sut y bydd y cyngor yn gwella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro ac ar y cyfraniad y byddwn yn ei wneud tuag at nodau llesiant cenedlaethol Cymru.

Mae'r pedwerydd yn canolbwyntio'n fewnol ar yr hyn y mae angen i'r cyngor ei wella a'i gryfhau. Bydd yr amcan llesiant hwn yn sylfaenol i gyflawni’n holl waith yn effeithiol, ac yn ei hwyluso, a bydd yn rhaid ei gyflawni er mwyn cyflawni’r tri amcan llesiant arall. Mae’n cefnogi’r gwaith o gyflawni pob un o'r saith nod llesiant cenedlaethol ond nid ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â hwy.  

Mae’r adrannau canlynol yn amlinellu’r amcanion llesiant yn fwy manwl.  Yn benodol, mae’n nodi’r prif flaenoriaethau sy’n sylfaenol i bob un o’n hamcanion llesiant ac yn dangos sut mae’r amcanion hyn yn adlewyrchu’r blaenoriaethau gwleidyddol a nodir yn Rhaglen Weinyddu bresennol y Cabinet ac yn cyd-fynd â hwy.

ID: 12911, adolygwyd 11/04/2025