Strategaeth Gorfforaethol 2025-30

Sir Benfro yn ei chyd-destun

Poblogaeth

  • Yn 2023, poblogaeth y sir oedd 125,000, sef 3.95% o gyfanswm poblogaeth Cymru.  Mae’r boblogaeth wedi cynyddu 2% ers 2011, sef cyfradd twf sy’n llai na’r gyfradd gyfartalog ar gyfer siroedd Cymru dros y cyfnod hwn.
  • Rhagwelir y bydd cyfanswm y boblogaeth yn tyfu i oddeutu 128,482 erbyn 2033, ac i 130,196 erbyn 2043 (yn ôl y rhagamcanion diweddaraf ar sail data 2018). Mae’r gyfradd twf hon yn y boblogaeth yn llai na’r gyfradd yng nghynghorau eraill Cymru.
  • Mae 26% o'r boblogaeth dros 65 oed, sef y pedwerydd uchaf yng Nghymru. Dim ond 15.5% o'r boblogaeth sydd rhwng 30 a 44 oed, sef y pumed isaf yng Nghymru. Yn 2021, yr oedran canolrifol oedd 48 oed, i fyny o 42.9 oed yn 2011, ac yn uwch na Chymru yn gyffredinol.
  • Y disgwyliad oes ar enedigaeth ar gyfer dynion ar gyfer 2020-22 yw 78.6 oed, sef y cydradd chweched uchaf yng Nghymru. Ar gyfer menywod, y ffigur cyfatebol yw 83 oed, sydd hefyd y chweched uchaf ymhlith awdurdodau lleol Cymru.
  • Mae tua 2.4% o boblogaeth Sir Benfro ‘ddim yn wyn’. Mae’r ffigur hwn yn codi i 2.9%, os caiff bobl o dras Sipsiwn, Teithwyr a Roma eu cyfrif.
  • O'r 120,200 o drigolion Sir Benfro tair oed a throsodd, mae 17.1% yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn ostyngiad o 2.1% o gymharu â nifer y bobl a oedd yn siarad Cymraeg yn 2011.

 

Lle

  • Mae gan Sir Benfro arwynebedd o 1,618 o gilometrau sgwâr, a hi yw'r pumed sir fwyaf yng Nghymru.  Mae ganddi 76 o bobl fesul cilometr sgwâr, sy’n debyg iawn i Sir Gaerfyrddin a thua dwbl dwysedd poblogaeth Ceredigion.  (Mae'r boblogaeth wedi'i dosbarthu'n llawer mwy cyfartal nag ydyw yn yr awdurdodau lleol cyfagos.)
  • Mae gan y sir lawer o ardaloedd sydd wedi’u dynodi’n ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol, gan gynnwys parc cenedlaethol (yr unig un a ddynodwyd yn barc cenedlaethol oherwydd ei nodweddion arfordirol), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a safleoedd daearegol a geomorffolegol o bwysigrwydd rhanbarthol. Mae nifer fawr o rywogaethau a warchodir, yn fflora a ffawna, morol a daearol, ac eto mae dosbarthiad, helaethrwydd ac amrywiaeth y rhywogaethau yn dirywio. Yn ogystal, mae yna lawer o safleoedd gwarchodedig nad ydynt yn cael eu hystyried o fod mewn statws cadwraeth ffafriol.

 

Trafnidiaeth a hygyrchedd

  • Mae cyfanswm o 2,600 o gilometrau o ffyrdd yn Sir Benfro, ac mae ychydig yn llai na 2,500 o gilometrau o’r ffyrdd hyn yn cael eu cynnal a’u cadw gan y cyngor.  Mae 47% o’r ffyrdd wedi'u dosbarthu’n ffyrdd dosbarth B ac C, 42% yn is-ffyrdd ac 11% yn ffyrdd dosbarth A (gan gynnwys cefnffyrdd). Mae’r draffordd agosaf 75 o gilometrau i ffwrdd.
  • Mae nifer y milltiroedd y mae cerbydau yn teithio yn Sir Benfro wedi parhau i gynyddu ers yr isafbwynt o 565.9 miliwn yn ystod y pandemig yn 2020. Yn 2023, teithiodd y traffig tua 701.6 miliwn o filltiroedd cerbyd ar hyd ffyrdd Sir Benfro, sef tua 96.2% o'r cyfartaledd a deithiwyd yn y pedair blynedd cyn y pandemig.
  • Mae gan Sir Benfro ddau borthladd sy'n cysylltu’r sir â Gweriniaeth Iwerddon. Teithiodd 265,000 o bobl drwy borthladd Abergwaun yn 2022. Roedd hwn yn ostyngiad o 27.2% ers 2012, ond yn gynnydd o 12.8% ers 2019 (cyn y pandemig). Yn 2022, teithiodd 215,000 o bobl drwy borthladd Penfro, sef gostyngiad o 34.7% ers 2012, a gostyngiad o 34.3% ers 2019 (cyn y pandemig).
  • Yn 2022, Aberdaugleddau oedd porthladd mwyaf Cymru a’r trydydd porthladd mwyaf yn y DU (yn seiliedig ar dunelli). Cafodd 38.9 o dunelli metrig o nwyddau eu trin yno yn 2022, sef 8.5% o gyfanswm y DU. Mae’r tunelli o nwyddau a gludir trwy Aberdaugleddau yn cyfrif am 72.2% o’r holl nwyddau ym mhorthladdoedd Cymru (mwy na dwy ran o dair).
  • Ym mis Tachwedd 2024, mae band eang ffeibr llawn bellach ar gael i 60% o’r cartrefi a’r busnesau yn Sir Benfro, sy’n sefyllfa dda o gymharu ag awdurdodau gwledig eraill. Mae hyn yn gynnydd mawr o gymharu â dim ond 5% yn 2019.

 

Yr economi

  • Yn 2023, roedd 73.6% mewn cyflogaeth yn Sir Benfro. Roedd hyn yn ostyngiad bach o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (73.7%), ac yn llai na’r cyfartaledd ar draws Cymru gyfan (74.1%).
  • Dyma'r pum sector gorau yn Sir Benfro ar sail data Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth 2023 (sy’n canolbwyntio ar weithwyr): Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd (18.6%), masnach cyfanwerthu a manwerthu/ trwsio cerbydau modur a beiciau modur (16.3%), gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol (16.3%), adeiladu (7%), gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn/ nawdd cymdeithasol gorfodol (7%).
  • Mae gan Sir Benfro yr orsaf bŵer fwyaf yng Nghymru, ac un o’r chwe phurfa olew fwyaf yn y DU.  Mae’r cyfleusterau hyn wedi’u lleoli yn y Porthladd Rhydd Celtaidd (ac yn ardal Bargen Ddinesig Bae Abertawe) a thrwy’r rhain mae’r cyngor yn helpu i hwyluso’r newid i ynni sero net a sicrhau mewnfuddsoddiad sylweddol, fel yn achos Canolfan Sero Net Penfro RWE.
  • Yn ôl yr adroddiad twristiaeth diweddaraf gan Croeso Sir Benfro, roedd y diwydiant twristiaeth yn werth £604 miliwn y flwyddyn yn 2023, gyda 6.3 miliwn o ymweliadau. Mae hyn yn cynnal tua 23% o’r swyddi yn yr economi leol ac yn cael ei danategu gan ansawdd yr amgylchedd naturiol.
  • Mae amaethyddiaeth a chymunedau gwledig yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn economi Sir Benfro ac, yn wir, economi Cymru gyfan.  Mae ffigurau o gyfrifiad 2021 yn dangos bod nifer gymharol uchel o’r boblogaeth (y trydydd uchaf yng Nghymru) yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy amaethyddiaeth, ac mae gan yr economi wledig fanteision canlyniadol eang i fusnesau sy’n arbenigo mewn cynnyrch lleol. Trwy ei bortffolio ffermydd sirol, mae’r cyngor yn berchen ar 44 o ffermydd a 4,500 erw sy’n cynnal y gymuned ffermio ac yn cynnig mynediad i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa ym myd amaeth.
  • Ym mis Mawrth 2024, roedd cyfradd Cyfrif Hawlwyr Sir Benfro (sy’n fesur o ddiweithdra) yn 3.4% o’r boblogaeth sy’n weithgar yn economaidd – ychydig yn llai na’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan yn ystod yr un cyfnod.
  • O 2024 ymlaen, roedd y cyflog wythnosol gros canolrifol yn Sir Benfro yn £674.80 ar gyfer gweithwyr amser llawn, sef y trydydd ar ddeg uchaf o blith y 22 o siroedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o gymharu â’r ffigur yn 2020, sef £499.50. Yn 2024, o ran cyflog blynyddol, mae Sir Benfro yn y pymthegfed safle o blith y 22 sir yng Nghymru, gyda chyflog blynyddol canolrifol o £33,401.
  • Yn 2022/23, roedd tua 23.7% o blant yn Sir Benfro yn byw mewn teuluoedd ag incwm cymharol isel, a’r gyfradd hon oedd y chweched uchaf yng Nghymru. Yn 2022-23, Sir Benfro oedd â’r pumed gyfradd uchaf yng Nghymru o ran tlodi plant absoliwt, sef 19.9%. Er bod tlodi, yn enwedig tlodi cymharol, wedi cynyddu yn sgil y pandemig, mae’r sefyllfa yn Sir Benfro, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, yn parhau’n ddigyfnewid i raddau helaeth. Mae cyfraddau tlodi plant yn amrywio’n sylweddol ar draws Sir Benfro.

 

Gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion

  • Ym mis Hydref 2024, roedd 96 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant, ac roedd 282 o blant yn derbyn gofal.  Cynyddodd nifer y plant sy’n derbyn gofal 66% yn ystod y pum mlynedd rhwng mis Mawrth 2019 a mis Mawrth 2024, ac mae’r ganran wedi parhau i gynyddu drwy gydol 2024-25. Mae nifer y bobl ifanc sydd mewn lleoliadau preswyl ac yn derbyn gofal wedi cynyddu i 54 o bobl ifanc (gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches).
  • Ym mis Hydref 2024, roedd tua 727 o oedolion yn derbyn gwasanaeth gofal cartref. Mae’r ffigur hwn wedi amrywio dros amser, sef 940 ym mis Mawrth 2021, gan ostwng i’r lefel isaf, sef 616, ym mis Chwefror 2023, a chynyddu’n raddol wedyn o fis Ionawr 2024 ymlaen. Mae hyn yn rhannol oherwydd y bu cynnydd yn y defnydd o Daliadau Uniongyrchol a gyfeirir gan berson unigol, a’r ffaith bod nifer yr oriau gofal a ddarperir gan Daliadau Uniongyrchol bellach yn fwy na nifer yr oriau a ddarperir drwy ofal cartref.
  • Rydym wedi cynyddu ein gallu i ddarparu gofal preswyl yn uniongyrchol, ac erbyn hyn rydym yn darparu 36 o’r 775 o welyau ar draws pob math o leoliadau ar gyfer oedolion (ee lleoliadau preswyl, lleoliadau gofal seibiant) ar draws Sir Benfro.  Yn 2024 gwnaethom agor cyfleuster gofal preswyl â phedwar gwely ar gyfer plant ac rydym yn bwriadu darparu rhagor o gyfleusterau.
  • Mae’r sector gofal cymdeithasol yn gyflogwr sylweddol yn y sir.  Yn 2023, roedd tua 1,886 o bobl yn Sir Benfro yn gweithio mewn rolau gofal cartref a gofal dydd, neu rolau cymorth. Yn ogystal â hyn, roedd tua 1,020 o bobl yn gweithio ym maes gofal preswyl (gan gynnwys lleoliadau anabledd dysgu ac iechyd meddwl).

 

Tai a digartrefedd

  • Roedd 8,903 o eiddo ar rent cymdeithasol yn Sir Benfro ar 31 Mawrth 2024, a darparwyd 5,785 o’r rheini gan y cyngor ei hun.  Mae'r cyngor wedi dechrau adeiladu tai cyngor newydd, gan gynnwys 33 o gartrefi newydd yn Johnston a gafodd eu cwblhau ym mis Gorffennaf 2024.
  • Mae galw sylweddol am dai cymdeithasol.  Ym mis Hydref 2024, roedd 4,515 o bobl ar restr aros ar gyfer tai Cartrefi Dewisedig@Sir Benfro. O'r bobl hynny, roedd y mwyafrif ohonynt yn aros am eiddo ag un ystafell wely (2,743) neu â dwy ystafell wely (1,064).
  • Ar hyn o bryd mae yna argyfwng tai yn Sir Benfro sydd wedi arwain at gynnydd sydyn mewn digartrefedd. Mae nifer y bobl ddigartref sy'n gweithio gyda'r tîm cynghori wedi bod yn gostwng yn araf ers diwedd 2023, ond mae'n dal yn uchel o gymharu â lefelau hanesyddol, gan gynnwys y defnydd o letyau dros dro fel lletyau gwely a brecwast.

 

Ysgolion

  • Mae gan Sir Benfro 60 o ysgolion, gan gynnwys un ysgol arbennig.  Mae yna 19 ysgol, sy’n ysgolion ffrwd Gymraeg/dwyieithog neu’n ysgolion dwy ffrwd, ac ysgol arall sy'n gyfrwng Saesneg gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg.
  • Ym mis Ionawr 2024, roedd 16,564 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn yn mynychu ysgolion Sir Benfro, o gymharu â 18,822 yn 1996. Rydym yn rhagweld y bydd gostyngiad pellach o oddeutu 12% yn nifer y disgyblion dros y 10 i 15 mlynedd nesaf. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod llawer o oedolion ifanc brodorol Sir Benfro wedi allfudo i gael addysg bellach/uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.
  • Mae gennym rai o'r ysgolion lleiaf yng Nghymru, ac mae 15 o’r ysgolion yn Sir Benfro â llai na 90 o ddisgyblion.
  • Mae 14% o’r disgyblion pump oed a throsodd yn rhugl yn y Gymraeg (fel yr aseswyd gan eu rhieni), sydd ychydig yn uwch na’r canolrif ar gyfer y 22 cyngor yng Nghymru, ac yn agos at gyfartaledd Cymru o 15%.
  • Mae 8.8% o’r disgyblion pump oed a throsodd o leiafrifoedd ethnig, sy'n is na chyfartaledd Cymru o 15%, ond tua'r cyfartaledd ar gyfer y 22 o gynghorau yng Nghymru.

 

Y cyngor a'i weithlu

  • Mae gan Gyngor Sir Penfro 60 o aelodau etholedig, sy'n cynrychioli un o 59 o wardiau o fewn y sir (cynrychiolir 58 o wardiau gan un aelod, ac mae gan un o’r wardiau ddau aelod). Mae nifer fawr o aelodau etholedig nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol. Mae 14 o’r cynghorwyr yn fenywod, sy’n gynnydd o gymharu â’r saith o gynghorwyr a oedd yn fenywod cyn etholiadau Mai 2022.
  • Mae yna 77 o gynghorau cymuned yn gwasanaethu Sir Benfro gyfan heblaw Ynys Bŷr. Y praesept cyfartalog canolrifol yn 2024-25 oedd £11,233.20, ond mae gan tua chwarter o’r cynghorau braeseptau o £27,300 neu fwy. Mae tua 600 o gynghorwyr cymuned yn Sir Benfro. Cafodd tua 90% o’r rhain eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau Mai 2022 neu maent wedi’u cyfethol.
  • Ym mis Chwefror 2024, roedd tua 6,100 o bobl yn gweithio i'r cyngor (heb gynnwys gweithwyr achlysurol) ar draws 6,519 o swyddi. Mae gan rai gweithwyr fwy nag un swydd.
  • Mae tua 70% o'r gweithwyr yn fenywod. Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 2023/24 yn 3.4% – mae hyn yn golygu bod menywod yn ennill 97c am bob £1 y mae dynion yn ei hennill wrth gymharu canolrif y cyflogau fesul awr.  Ar gyfer 2024-25, roedd canolrif y cyflogau cyfwerth ag amser llawn yn y cyngor yn £23,893 (mae’r wybodaeth hon wedi’i chyhoeddi yn ein datganiad polisi cyflog).
  • Oedran canolrifol gweithlu’r cyngor yw 49 oed, ac mae’r proffil demograffig yn llai amrywiol nag ydyw yn Sir Benfro yn gyffredinol.  Mae 2% o'r gweithlu o gefndir gwyn o’r tu allan i'r DU, a dim ond 2% o'r gweithlu sy'n nodi eu bod yn anabl, sy’n is o lawer na’r ffigur disgwyliedig.
  • Mae gan y cyngor hanes hir o weithio gyda’i undebau llafur cydnabyddedig ar draws y gweithlu, gan gynnwys ysgolion.  Mae meysydd cydweithio yn cynnwys hyfforddiant a ddarperir trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, megis ymwybyddiaeth o’r menopos, er enghraifft, a chreu rhwydwaith o hyrwyddwyr iechyd meddwl ar draws y gweithlu.  Bydd y berthynas hon yn parhau i gryfhau wrth i’r cyngor fodloni ei ofynion cyfreithiol yn dilyn cyflwyno’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn ddiweddar.
ID: 12906, adolygwyd 11/04/2025