Strategaeth Gorfforaethol 2025-30
Tueddiadau Hirdymor
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu amcanion llesiant yn nodi y dylai'r Strategaeth Gorfforaethol gyfeirio at y fersiwn ddiweddaraf o’i Hadroddiad ar Dueddiadau'r Dyfodol (yn agor mewn tab newydd) a'i phecyn tystiolaeth (yn agor mewn tab newydd). Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar bedwar tueddiad graddfa fawr (pobl a phoblogaeth, iechyd a therfynau’r blaned, anghydraddoldebau a thechnoleg) a all effeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys cipolwg ar y tueddiadau sy'n ymwneud â chyllid cyhoeddus a galw a thechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus. Hefyd o ddiddordeb mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (yn agor mewn tab newydd) (a lunnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru) sy'n cynnwys yr asesiad o reolaeth gynaliadwy Cymru ar adnoddau naturiol, gan gynnwys effaith Cymru yn fyd-eang.
Nid yw’r prif ddogfennau wedi cael eu diweddaru ers y Strategaeth Gorfforaethol ddiwethaf. Rydym wedi troi at ffynonellau eraill o safon a adolygwyd gan gymheiriaid megis Tueddiadau Strategol Byd-eang (yn agor mewn tab newydd) y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn diweddaru’r adran hon. Mae'r ffynhonnell hon yn pwysleisio'r potensial i gystadleuaeth a gwrthdaro ar lefel fyd-eang, ynghyd ag anghydraddoldeb cynyddol, i ddadsefydlogi cymdeithasau.
Mae ansicrwydd wastad yn perthyn i unrhyw ragamcaniad neu ragolwg oherwydd eu bod yn seiliedig ar yr amcangyfrifon gorau sydd ar gael ar adeg eu hysgrifennu. Mae peth o'r wybodaeth yn adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol ar gael ar gyfer siroedd ond mae llawer iawn mwy o ansicrwydd yn perthyn i'r ffigurau hyn.
Poblogaeth
- Er y rhagamcanir o hyd y bydd y boblogaeth fyd-eang yn tyfu 1.5 biliwn i gyrraedd 9.6 biliwn erbyn 2050, rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru, yn gyson â llawer o wledydd Gorllewin Ewrop, yn tyfu'n gymharol araf, gyda thwf yn ne’r wlad yn bennaf. Mae mudo’n parhau i fod yn un o'r ffactorau anoddaf i'w ragweld, a heb fudo mae poblogaeth Cymru yn debygol o ostwng.
- Rhagamcanir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 5.8%, o 3.11 miliwn i 3.29 miliwn, sef cynnydd o 5.8% o gymharu â 7.9% ar gyfer Lloegr dros yr un cyfnod.
- Er gwaethaf twf isel yn y boblogaeth, rhagamcanir y bydd nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd sengl, yn cynyddu ledled Cymru (yn achos aelwydydd sengl, cynnydd o 440,000 yn 2020 i oddeutu 525,000 erbyn 2043). Bydd hyn yn hybu twf ar gyfer tai newydd, er bod llawer o ansicrwydd ynghylch niferoedd.
- Er bod amcangyfrifon yn amrywio oherwydd effaith pandemig COVID-19, roedd disgwyl i'r cynnydd yn y disgwyliad oes yng Nghymru barhau, er bod cyfradd y cynnydd wedi arafu dros y degawd diwethaf. Mae’r data diweddaraf ar gyfer disgwyliad oes iach a disgwyliad oes heb anabledd yn dangos bod y ddau wedi gostwng yng Nghymru yn sgil pandemig COVID-19, yn enwedig i fenywod. Mae gan y cyfuniad o'r ddau ffactor hyn y potensial i sbarduno'r galw parhaus am ofal cymdeithasol.
- Rhagamcanir y bydd nifer yr achosion o glefydau cronig yn cynyddu. Disgwylir i nifer yr achosion o ddementia gynyddu o 7% yn 2019 i 9% yn 2040, gan hybu twf yn y galw am ofal cymdeithasol cymhleth.
- Yn 2019, roedd disgwyl i nifer y siaradwyr Cymraeg gynyddu, gyda rhagamcanion o nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn amrywio’n sylweddol. Mae data o Gyfrifiad 2021 yn awgrymu bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn llai nag a ragamcanwyd yn flaenorol.
- Mae'r rhagamcanion poblogaeth diweddaraf ar gyfer Sir Benfro yn seiliedig ar amcangyfrifon 2018. Mae'n amlwg bod y rhain wedi goramcangyfrif poblogaeth breswyl arferol Sir Benfro. Cyhoeddir rhagamcanion wedi'u diweddaru (yn agor mewn tab newydd) ar 28 Ionawr 2025.
Anghydraddoldebau a chyfleoedd cyfartal
- Yn fyd-eang, hyd at bandemig COVID-19, roedd tlodi eithafol (pobl yn byw ar lai nag $1.90 y dydd ar sail prisiau 2011) wedi gostwng o gymharu â'r tri degawd blaenorol. Fodd bynnag, ers 2020 mae tlodi eithafol wedi cynyddu. Wrth i wledydd tlotach ddod yn gyfoethocach, mae anghydraddoldeb ar y raddfa fyd-eang hefyd yn lleihau.
- Nid yw lefelau sgiliau, fel y'u mesurwyd gan yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn caniatáu cymariaethau hirdymor. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod lefelau sgiliau yng Nghymru yn cynyddu; mae cyfeiliornadau wrth samplu yn golygu nad oes sicrwydd am y duedd yn Sir Benfro.
- Er gwaetha’r ffaith yr oedd cyfraddau diweithdra (hyd at y pandemig) yn tueddu i ostwng ledled Cymru, mae’r gyfradd tlodi mewn aelwydydd lle mae pob oedolyn mewn gwaith wedi parhau i gynyddu, gan ddangos nad yw bod mewn cyflogaeth, ar ei ben ei hun, yn ddigon i godi rhywun allan o dlodi yng Nghymru. Mewn termau cymharol, mae cyfraddau tlodi plant yn Sir Benfro wedi cynyddu ac maent bellach ymhlith yr uchaf, neu’n cyfateb i'r uchaf yng Nghymru. Mae hyn hefyd yng nghyd-destun cyfradd gynyddol o dlodi incwm cymharol, dros y blynyddoedd diwethaf, yn achos plant sy'n byw mewn cartrefi lle mae pob oedolyn mewn gwaith.
- Ym mis Ebrill 2024, roedd yr enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion a oedd yn gweithio’n llawnamser yng Nghymru yn £674.50. Roedd hyn yn 92.6% o’r cyfartaledd ar gyfer y DU (£728.3). Roedd y cyflog wythnosol gros canolrifol yng Nghymru yr wythfed uchaf o blith 12 “rhanbarth” y DU (h.y. y tair gwlad: Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a naw rhanbarth Lloegr).
Iechyd a therfynau’r blaned
- Erbyn 2050 yng Nghymru rhagwelir y bydd tymereddau cyfartalog yr haf yn cynyddu 1.34 ⁰C. Disgwylir i wlybaniaeth yn y gaeaf godi 5% yn yr un cyfnod tra bydd gwlybaniaeth yn yr haf yn gostwng 16%, a disgwylir y bydd lefelau’r môr yn cynyddu ledled y wlad.
- Gall newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol waethygu anghydraddoldebau iechyd a llesiant. Mae perygl hefyd y gall ymatebion i’r newid yn yr hinsawdd roi baich anghymesur ar bobl a chymunedau sydd eisoes yn agored i niwed. Er enghraifft, rhagamcanir y bydd y risgiau o farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres yn treblu erbyn y 2050au yn absenoldeb ymaddasu ychwanegol. Ar hyn o bryd mae grwpiau difreintiedig yn fwy tebygol o fyw mewn adeiladau nad ydynt wedi'u haddasu'n ddigon da i amodau tymheredd uchel.
- Mae amcangyfrifon yn dangos bod angen i allyriadau ostwng 7.6% bob blwyddyn rhwng 2020 a 2030 neu fe gollir y cyfle i gyfyngu cynhesu i 1.5⁰C. Fodd bynnag, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang wedi tyfu bob blwyddyn ers yr argyfwng ariannol yn 2009, ar gyfradd o 1.5% y flwyddyn. Yn y cyd-destun byd-eang hwn, mae Cymru wedi datgarboneiddio ychydig yn arafach na'r DU, ond bu gostyngiad o oddeutu 40% yma ers 2008. Y cyfraniad unigol mwyaf tuag at y gostyngiad hwn yw lleihau allyriadau carbon yn y sector cyflenwi ynni.
- Mae toreth o dystiolaeth sy’n awgrymu bod dirywiad mewn rhywogaethau ar draws grwpiau ym mhob rhan o’r byd, ac mae’r duedd hon yn digwydd ledled Cymru. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd un ymhob wyth rhywogaeth ar y blaned yn diflannu cyn pen 20 mlynedd.
- Mae adroddiad Sefyllfa Natur (Cymru) 2023 (yn agor mewn tab newydd) yn nodi bod 18% o rywogaethau Cymru mewn perygl o ddiflannu.
- Mae toreth o dystiolaeth sy’n awgrymu bod dirywiad mewn rhywogaethau ar draws grwpiau ym mhob rhan o'r byd, ac mae'r duedd hon yn digwydd ledled Cymru. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd un ymhob wyth rhywogaeth ar y blaned yn diflannu o fewn 20 mlynedd.
- Mae tystiolaeth bod allyriadau o systemau cynhyrchu bwyd byd-eang yn sbarduno colled bioamrywiaeth ac yn lleihau cydnerthedd ecosystemau. Er enghraifft, mae llygredd nitrogen yn arwain at golli rhywogaethau sensitif. Un o ffynonellau’r llygredd hwn yw amonia sy'n tarddu o ffynonellau amaethyddol yn bennaf.
- Mae’r newid yn yr hinsawdd yn debygol o effeithio'n negyddol ar weithgareddau cynhyrchu bwyd yn fyd-eang, gyda bron i hanner y rhagamcanion yn nodi y bydd cynnyrch cnydau’n lleihau fwy na 10% y tu hwnt i 2050. Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, rydym yn dibynnu ar fewnforion bwyd o wledydd eraill, ac mae'r rhain yn aml yn dod o wledydd sy'n agored i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar brosesau cynhyrchu bwyd.
- Mae Fforwm Economaidd y Byd (yn agor mewn tab newydd) bellach yn rhagweld bod pump o’r 10 prif risg i’r economi fyd-eang dros y 10 mlynedd nesaf yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a difrod i systemau naturiol.
Datblygiad technolegol
- Yn union fel ag a ddigwyddodd yn y gorffennol, disgwylir i ddatblygiadau technolegol barhau i baratoi'r ffordd o ran diffinio sut y bydd cymdeithasau ac economïau modern yn rhyngweithio ac yn datblygu yn y dyfodol.
- Mae canran y bobl hynny nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd wedi gostwng dros amser yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod gagendor digidol yn parhau rhwng y bobl hynny sydd â mynediad at dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu a'r bobl hynny nad oes ganddynt fynediad ati. Er enghraifft, mae tystiolaeth bod cyfran y bobl dros 75 oed yn parhau i fod yn llai tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd na phobl o grwpiau oedran iau.
- Yn sgil y pandemig, roedd tuedd tuag at weithio mewn ffordd fwy hyblyg a gweithio gartref er bod y data diweddaraf yn awgrymu bod y duedd hon wedi cyrraedd uchafbwynt ac mai cynnydd bach iawn a fu yn nifer y cyfleoedd swyddi hyblyg a hysbysebir. Mae'r gallu i weithio gartref – neu'n agosach at adref – yn ddibynnol iawn ar y diwydiant a’r swydd, ac mae'r bobl hynny sydd â swyddi â chyflog isel yn aml ag opsiynau cyfyngedig iawn o ran gweithio'n hyblyg.
Cyllid cyhoeddus
- Ysgrifennwyd Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol yn ystod y pandemig, ac o chwe dimensiwn yr adroddiad, cyllid cyhoeddus yw’r dimensiwn lle cafodd amseriad y gwaith yr effaith fwyaf ar gywirdeb. Mae’r pecyn tystiolaeth yn cyfeirio at Adroddiad Economaidd a Chyllidol y Prif Economegydd (yn agor mewn tab newydd) fel ffynhonnell wybodaeth i gyfeirio ati yn y dyfodol a chyfeirir at rai penawdau allweddol o rifyn 2024 isod.
- Mae economi Cymru wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn economi ehangach y DU. Mae llawer o’r tueddiadau cyffredinol sy’n effeithio ar y DU yn debygol o gael eu hadlewyrchu neu ddylanwadu’n drwm ar amodau economaidd Cymru.
- Mae twf economaidd Cymru fesul person hyd at 2022 wedi bod yn debyg i wledydd eraill y DU a rhanbarthau Lloegr, ond mae’n parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU, yn debyg i ogledd-ddwyrain Lloegr.
- Mae twf economaidd cymharol isel y DU dros y blynyddoedd diwethaf yn rhannol oherwydd twf cynhyrchiant arafach o gymharu â’r cyfnod cyn yr argyfwng ariannol byd-eang. Effeithiwyd yn yr un modd ar Gymru, gyda lefelau cynhyrchiant is yn cyfrannu at ei hallbwn economaidd is y pen. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwella crynodrefi, gwella sgiliau’r gweithlu, a chynyddu buddsoddiad yn debygol o wella cynhyrchiant yng Nghymru a’r DU.
- Mae dehongli ffynonellau’r farchnad lafur yn heriol gan fod data’n seiliedig ar samplau bach. Er bod cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gostwng hyd at 2020, ers hynny mae’r gostyngiad hwn yn debygol o fod wedi dod i ben ac mae’n debygol y bu cyfraddau cynyddol o anweithgarwch economaidd hirdymor cysylltiedig â salwch.
- Cynyddodd Cyllideb Hydref 2024 Llywodraeth y DU drethi a benthyca i alluogi cynnydd mewn gwariant ar gyllidebau adnoddau (‘o-ddydd-i-ddydd’) a chyfalaf o gymharu â’r hyn a ddisgwyliwyd yn gynharach yn y flwyddyn. O ganlyniad, mae hyn wedi arwain at gynnydd yn setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth y DU, o gymharu ag eleni a’r hyn a ddisgwyliwyd yn gynharach eleni.
- Er gwaethaf y cynnydd yng ngwariant y llywodraeth ar wasanaethau cyhoeddus y flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf, mae’r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus y tu hwnt yn edrych yn heriol. O ran cynlluniau gwariant presennol Llywodraeth y DU, disgwylir i gynnydd mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus dros y tymor canolig fod yn llawer is.
- Mae Dadansoddiad Ariannol Cymru, corff ymchwil o fewn Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd wedi edrych ar y goblygiadau i Gymru o Gyllideb Hydref 2024 Llywodraeth y DU. Nodwyd ganddo fod y setliad o £1.7 biliwn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn llawer gwell na’r disgwyl ac yn cynnwys:
- £744 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, sy’n adfer gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-2025 i’r hyn a ddisgwylid ar adeg adolygiad o wariant 2021.
- £695 miliwn pellach ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd yn 2025-2026, yn ogystal â £235 miliwn ar gyfer gwariant cyfalaf.
- Er gwaethaf hyn, mae heriau a pheth ansicrwydd yn parhau, yn enwedig o ran yr effaith ar y sector cyhoeddus o’r cynnydd mewn cyfraddau treth Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogwyr, a’r costau uwch a ragwelir o fodloni bargeinion cyflog y sector cyhoeddus. Ymhellach, y disgwyliad presennol yw bod rowndiau o setliadau cyllid y DU yn y dyfodol yn debygol o fod yn llai hael, wrth i Gyllideb Hydref 2024 Llywodraeth y DU gael ei hystyried yng nghyd-destun ‘blaendal’ i adfer gwasanaethau cyhoeddus.
Galw a thechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus
- Y prif sbardun sy'n creu mwy o alw yw’r newid yn y boblogaeth: mae nifer y bobl dros oedran pensiwn yn cynyddu'n gyflymach na nifer y bobl o oedran gweithio. Ledled y DU rhagamcanir y bydd gwariant ar iechyd yn tyfu o 7.3% i 8.3% o Gynnyrch Domestig Gros erbyn 2064/65.
- Mae’n debygol y bydd twf mewn deallusrwydd artiffisial ar draws amrywiaeth o gymwysiadau. Mae swyddi sgiliau isel mewn llawer mwy o berygl o gael eu disodli gan dechnolegau deallusrwydd artiffisial neu fwy o awtomeiddio. Ceir hefyd risg y gallai gwybodaeth ragfarnllyd gael ei chynnwys mewn systemau dysgu peirianyddol, gan godi goblygiadau moesegol.
- Yn y dyfodol mae'n debygol y bydd twf sylweddol yn swm y data a gynhyrchir ochr yn ochr â gwerth economaidd data. Mae datblygiadau technegol ym maes cyfrifiadura hefyd yn bosibl, gan greu cyfrifiaduron llawer mwy pwerus a chaniatáu cyfrifiadau cyflymach a mwy cymhleth.
- Bydd mynediad cyfartal i dechnoleg gwybodaeth a'r rhyngrwyd yn dod yn fwyfwy pwysig, a bydd y bobl hynny nad oes ganddynt fynediad yn cael eu rhoi dan anfantais gynyddol.
- Mae nifer y bobl sy'n defnyddio'r ffôn i gysylltu â'r cyngor wedi gostwng ychydig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ochr yn ochr â hyn, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sy’n cysylltu â’r cyngor wyneb yn wyneb, yn ogystal â gostyngiad yn y defnydd o arian papur a darnau arian i dalu am wasanaethau.