Strategaeth Gorfforaethol 2025-30

Y Llinyn Aur

Ni fydd y Strategaeth Gorfforaethol yn effeithiol oni bai ei bod yn adlewyrchu blaenoriaethau'r Cabinet mewn modd cydlynol, ac oni bai bod amcanion strategol sefydliadol wedi’u hymgorffori yn yr hyn y mae timau ar draws y cyngor yn ei wneud o ddydd i ddydd.  Fel rheol, defnyddir y term ‘llinyn aur’ i ddisgrifio’r ffordd y mae cynlluniau hierarchaidd a chyflawni ar draws pob lefel o’r sefydliad yn cyd-fynd â’i gilydd ac fe’i disgrifir yn fanylach yn ein Fframwaith Rheoli Perfformiad.

Ar lefel ehangach, mae'r cyngor yn ymwneud ag ystod eang o drefniadau cynllunio rhanbarthol sy'n ymdrin â nifer o themâu neu flaenoriaethau polisi.  Mae'r rhain yn dod yn fwy cyffredin wrth i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth ddod yn bwysicach. 

Mae angen i'n Strategaeth Gorfforaethol adlewyrchu'r ddwy elfen hyn.

 

Y Fframwaith Rheoli Perfformiad

Mae Fframwaith Rheoli Perfformiad y cyngor yn ymdrin â strategaethau a chynlluniau pwysig, yn ogystal â threfniadau monitro ac adrodd, y manylir arnynt isod. 

Cynllunio

  •  Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro 2023 – 2028
    • Mae'r cynllun hwn wedi'i seilio ar bedwar amcan llesiant sy'n nodi sut y bydd partneriaid o sefydliadau allweddol yn Sir Benfro ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn gwella llesiant yn y sir drwy gydweithio drwy'r hyn a elwir yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).  Mae’r cyngor yn bartner statudol i’r Bwrdd.  Ar hyn o bryd mae'r cynllun llesiant yn mynd trwy'r camau cymeradwyo terfynol, a disgwylir y bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2023. Rhaid i'n Strategaeth Gorfforaethol ystyried pedwar amcan llesiant y Bwrdd a nodir yn ei gynllun llesiant.
  • Rhaglen Weinyddu 2022-2027
    • Mae'r ddogfen hon yn gosod cyfeiriad gwleidyddol y cyngor hyd at yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2027.  Cytunwyd arni yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Ionawr 2023.
  • Strategaeth Gorfforaethol 2025 – 2030 
    • Y ddogfen hon.  Drwy'r amcanion llesiant a nodir yn y strategaeth, neu o fewn adrannau penodol, bydd y ddogfen hon yn sefydlu cysylltiadau â chynlluniau tymor canolig allweddol eraill – megis y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (y cytunir arno fel rhan o'r gyllideb), yn ogystal â dogfennau pwysig eraill, fel Cynllun Gweithlu, Cynllun Rheoli Asedau, a Strategaeth Gaffael y cyngor.
  • Cynlluniau Gwasanaeth Tymor Canolig (cyfnod o bedair blynedd, a adolygir yn flynyddol)
    • Caiff y rhain eu llunio gan y gwasanaethau unigol i ysgogi gwelliant ac i gynllunio a pharatoi ar gyfer senarios y dyfodol yn unol â’r blaenoriaethau yn y strategaeth hon.  Nid yw cynlluniau’n cael eu cyhoeddi fel mater o drefn, ond gall pwyllgor trosolwg a chraffu priodol graffu arnynt.  Caiff cynlluniau eu cymeradwyo gan yr Uwch-dîm Arwain, a’u monitro.  Mae Cynlluniau Gwasanaeth Tymor Canolig yn cysylltu â'r broses o gynllunio'r gyllideb ac maent yn rhan annatod o nodi sut y gellir cyflawni blaenoriaethau'r cyngor wrth fantoli’r gyllideb dros y tymor canolig.
  • Cynlluniau uned (pan gânt eu llunio)
    • Gellir llunio cynlluniau uned, neu gynlluniau dîm, i gefnogi Cynlluniau Gwasanaeth Tymor Canolig, yn enwedig ar gyfer penaethiaid gwasanaethau sydd â meysydd gwasanaeth eang. 
  • Cynlluniau perfformiad a llesiant unigol (blynyddol, a adolygir yn aml)
    • Dyma'r mecanwaith ar gyfer arfarnu perfformiad unigol.  Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gymryd rhan mewn arfarniadau, gan gynnwys uwch-swyddogion.  

Monitro/adrodd

  • Cerdyn sgôr corfforaethol
    • Ystod o fesurau perfformiad yw hwn, y cytunir arnynt gan y Cabinet a'r Uwch-dîm Arwain, ac sydd wedi’u cynllunio i ddarparu dealltwriaeth eang o iechyd y sefydliad.  Caiff y rhain eu monitro bob chwarter gan y Cabinet a'r Uwch-dîm Arwain, a chan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol o bryd i'w gilydd.  
  • Hunanasesiad blynyddol
    • O dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae dyletswydd ar y cyngor i adrodd yn flynyddol ar berfformiad drwy broses hunanasesu. I bob pwrpas, mae hyn yn golygu adrodd ar yr hyn a gyflawnwyd dros y 12 mis blaenorol (o ran yr amcanion llesiant a llywodraethu), a nodi camau gweithredu i wella ar gyfer y flwyddyn ganlynol. 
  • Asesiad o berfformiad y panel
    • O dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, mae’n ofynnol i'r cyngor benodi panel allanol o gymheiriaid i gynnal adolygiad, unwaith ymhob cylch etholiadol, er mwyn canfod i ba raddau y mae'r cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau perfformiad.  Cynllunnir i’r asesiad cyntaf gael ei gynnal ym mis Hydref 2025.
  • Y pwyllgorau trosolwg a chraffu
    • Mae gan bum pwyllgor trosolwg a chraffu'r cyngor rôl o fewn eu cylchoedd gwaith i oruchwylio cynlluniau a strategaethau perthnasol a phrosesau adrodd ar berfformiad a monitro perfformiad perthnasol.
  • Datganiad Llywodraethu Blynyddol
    • Mae'r cyngor yn gyfrifol am gynnal adolygiad o effeithiolrwydd ei fframwaith llywodraethu, gan gynnwys y system rheolaeth fewnol, yn flynyddol. Canlyniad yr adolygiad hwn yw Datganiad Llywodraethu Blynyddol a gyflwynir i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w adolygu, ac i'r cyngor llawn i'w gymeradwyo.

 

Y cyd-destun cynllunio ehangach – gweithio rhanbarthol a chydweithredol

Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn rhan o gyd-destun cyfres ehangach o gynlluniau sy'n arbennig o berthnasol ar gyfer llunio lleoedd, a meysydd polisi fel datblygu economaidd, trafnidiaeth a defnydd tir lle mae angen inni gydweithio gydag awdurdodau lleol eraill.  Ardal De-orllewin Cymru yw'r ardal arferol ar gyfer cyflawni hyn.  Mae’r cynllun Cymru gyfan Dyfodol Cymru – Cynllun Cenedlaethol 2040 (yn agor mewn tab newydd) (sydd ar frig yr hierarchaeth o gynlluniau a ddefnyddir ar gyfer cynllunio defnydd tir) yn cynnwys diagram strategol rhanbarthol sy’n nodi’r cyfleoedd allweddol ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn bodoli i symleiddio a gwella gwaith cynllunio a chydweithio rhanbarthol ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.  Mae Cyngor Sir Penfro yn aelod ohono. Mae wedi cytuno ar ei Gynllun Corfforaethol (yn agor mewn tab newydd) yn ddiweddar.

 

Mae’n ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru lunio ystod o gynlluniau eraill fel yr amlinellir isod:

  1. Cyflawni'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Ranbarthol ar y cyd a thrwy hynny, wella llesiant economaidd (wedi'i ddatgarboneiddio) De-orllewin Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae’r cynlluniau y cyfeirir atynt yng Nghynllun drafft Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) eisoes wedi’u cymeradwyo:
  2. Llunio Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru sy’n seiliedig ar gydweithio ac sy’n hwyluso’r gwaith o ddarparu system drafnidiaeth sy’n dda i’n cenedlaethau o bobl a chymunedau yn y dyfodol, yn dda i’n hamgylchedd, ac yn dda i’n heconomi a’n lleoedd.  Mae'r cynllun hwn yn disodli’r cynlluniau trafnidiaeth lleol.  Unwaith y cytunir arno, bydd y cynllun rhanbarthol yn cael ei adolygu'n flynyddol gydag adolygiad mwy sylfaenol tua 2028.
  3. Llunio Cynllun Datblygu Strategol cadarn, cyflawnadwy, cydgysylltiedig ac wedi’i deilwra i’r ardal leol ar gyfer De-orllewin Cymru sy’n seiliedig ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chydweithio â hwy, ac sy’n nodi’n glir raddfa a lleoliad twf yn y dyfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Unwaith y cytunir arno, bydd y cynllun hwn yn eistedd rhwng fframweithiau cynllunio cenedlaethol Cymru gyfan a chynlluniau datblygu lleol y cyngor sir/ parc cenedlaethol.  Bydd y broses o'i gymeradwyo yn adlewyrchu proses y cynlluniau datblygu lleol, a rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei fabwysiadu erbyn 2030.

 

Yn ogystal â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, mae cyrff rhanbarthol eraill yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn cydweithio â’r awdurdodau cyfagos.  Gall y cyrff hyn ddefnyddio ardaloedd rhanbarthol sydd ychydig yn wahanol.

A hithau’n gwasanaethu’r un ardal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn goruchwylio'r broses barhaus o integreiddio’r maes iechyd a’r maes gofal cymdeithasol. Mae ei Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth (yn agor mewn tab newydd) yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y cynllun hwn.  Mae ei hadroddiad ar Sefydlogrwydd Marchnad Gorllewin Cymru yn sail i'n gweithredoedd i gryfhau'r sector gofal annibynnol.

Gan wasanaethu Sir Benfro, Sir Gâr ac Abertawe, mae Partneriaeth (yn agor mewn tab newydd) yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth gwella ysgolion cyson, a hwnnw’n canolbwyntio ar strategaethau her a chymorth sy'n gwella’r dysgu a’r addysgu.

Mae Bwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru yn ceisio gwella ansawdd dŵr yn nhri dalgylch afonol Ardal Cadwraeth Arbennig Gorllewin Cymru—afonydd Cleddau, Teifi a Thywi.

Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro yn cael ei chynnal gan y cyngor ac mae’n un o 25 o bartneriaethau o’r fath yn genedlaethol sy’n gweithio i gynllunio, cyflawni a chofnodi camau gweithredu i wella bioamrywiaeth, hybu adferiad byd natur a sicrhau cydnerthedd ecosystemau.

ID: 12909, adolygwyd 11/04/2025