Strategaeth Gwastraff
Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig
Ein Cynlluniau ar gyfer Gwastraff
Mae cynlluniau gwastraff Cyngor Sir Penfro yn dilyn deddfau Ewropeaidd sy'n gosod targedau ar gyfer Cymru a gwladwriaethau eraill sy'n aelodau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Tuag at Ddyfodol Diwastraff (yn agor mewn tab newydd), y Strategaeth Wastraff newydd i Gymru, sy'n rhan o gyfres o ddogfennau sy'n egluro'r modd y bydd Cymru yn cydymffurfio â chyfraith Ewrop. Tuag at Ddyfodol Diwastraff yw'r strategaeth wastraff gyffredinol i Gymru ac mae'n nodi egwyddorion, polisïau a thargedau ar lefel uchel. Mae'r "cynlluniau sector" yn cynnig cynlluniau cyflenwi mwy manwl.
Mae gwastraff Cyngor Sir Penfro yn dod o dan Gynllun y Sector Trefol (yn agor mewn tab newydd) sy'n gosod yr agenda ar gyfer rheoli gwastraff trefol yr awdurdodau lleol. Mae gwastraff nad yw'n wastraff trefol yn dod o dan gynlluniau sectorau eraill.
Mae'r targedau canlynol sy'n effeithio ar wastraff Cyngor Sir Penfro wedi eu pennu yng Nghynllun y Sector Trefol:
*Gwastraff Trefol a gesglir gan awdurdodau lleol |
09/10 |
12/13 |
15/16 |
19/20 |
24/25 |
Lefelau lleiaf paratoi ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu/compostio (neu Dreuliad Anerobig) ar gyfer gwastraff trefol. |
40% |
52% |
58% |
64% |
70% |
**Lwfansau GTP (Gwastraff Trefol Pydradwy) |
29,481 |
19,497 |
17,008 |
13,689 |
13,698[1] |
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau deddfu newydd gan wneud targedau yn statudol (Ystyr statudol yw wedi ei orfodi gan y gyfraith) ar gyfer canran gwastraff awdurdod lleol y mae'n rhaid ei ailgylchu, ei baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio neu ei gompostio. Gallai methu â chyflawni'r targedau hyn olygu dirwyon o £200 y dunnell ar gyfer pob tunnell o wastraff y mae Sir Benfro yn methu gyda hi. Yn ogystal, mae methu ag ailgyfeirio GTP (Gwastraff Trefol Pydradwy) rhag tirlenwi yn dod â chosb ychwanegol o £200 y dunnell tros y lwfans.
*Gwastraff trefol yw’r gwastraff y mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol am ei gasglu a’i gwared. Gan mwyaf mae’n wastraff a gynhyrchwyd gan aelwydydd, gwastraff a gynhyrchwyd gan eiddo masnachol ac a gasglwyd gan y Cyngor, ac ysbwriel ac ysgubion stryd.
**BMW - Gwastraff Trefol Pydradwy - math o wastraff, yn tarddu’n nodweddiadol o ffynonellau planhigion neu anifeiliaid, all gael ei ddadelfennu gan greaduriaid byw eraill.
[1] Ni roddwyd lwfansau tu hwnt i 19/20. Rydym wedi cymryd y bydd y lwfans y parhau fel y mae.