Strategaeth Gwastraff

Gwelliannau yn y Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu

Ar 19 Mawrth eleni, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Penfro, mewn cyfarfod cyhoeddus a we-ddarlledwyd hefyd ar wefan y Cyngor, y byddai’r Awdurdod yn symud i wasanaeth ailgylchu llawer gwell.
Mae disgwyl i’r newidiadau ddod i rym yn yr hydref y flwyddyn nesaf.
Bydd deiliaid tai’n gallu ailgylchu dewis mwy o blastig yn ogystal â phapur, cardbord, gwydr, caniau, a bwyd.
Bydd casgliadau ailgylchu’n digwydd bob wythnos a bydd aelwydydd yn cael blychau a sachau am ddim i gasglu’r eitemau.
Cymeradwyodd y Cabinet hefyd symud i gasgliadau sachau sbwriel bob tair wythnos, ar y sail y bydd angen i ddeiliaid tai roi llai o eitemau mewn sachau du oherwydd bod mwy o gyfleoedd ailgylchu.
Bydd uchafswm o dair sach ddu’n cael eu casglu fesul aelwyd bob tair wythnos.
Ni fydd tâl yn cael ei godi am unrhyw sachau ychwanegol sy’n cael eu cymryd i’r safleoedd amwynder dinesig lleol.
Ar gais, bydd cynwysyddion ychwanegol yn cael eu darparu os bydd angen, er enghraifft i deuluoedd mwy.
Cymeradwyodd y Cabinet gwasanaeth casglu bob pythefnos hefyd ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol swmpus, gan gynnwys casgliadau disylw os bydd gofyn amdanynt.
Mae astudiaeth ymarferoldeb yn cael ei chynnal ar hyn o bryd i leoli Cyfleuster Swmpu a Throsglwyddo canolog yn Sir Benfro, lle bydd y lorïau’n dadlwytho’r eitemau a ailgylchwyd cyn eu hanfon i’w ailgylchu.

I ddarllen yr adroddiad (eitem 10 ar yr agenda, Adolygiad o Wasanaethau Gwastraff) a chofnodion y Cabinet, a gwylio’r gwe-ddarllediad.

 

ID: 2264, adolygwyd 27/03/2023