Strategaeth Toiledau Lleol
Strategaeth Toiledau Lleol
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynhyrchu Strategaeth Toiledau Lleol i gydymffurfio â Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Trwy’r strategaeth yma, rydym yn bwriadu darparu toiledau hygyrch, glân yn y lleoliadau mwyaf priodol. Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau dyfodol y cyfleusterau presennol yn ogystal ag edrych am ffyrdd i gynyddu nifer y toiledau cyhoeddus sydd ar gael a gwella mynediad i’r holl grwpiau o bobl.
Wrth ddatblygu’r strategaeth, rydym wedi ymgymryd ag asesiad anghenion cynhwysfawr i ddeall yr angen cyfredol ac rydym wedi ystyried hwn ac angen cenedlaethau’r dyfodol yn y cynhyrchiad.
Bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu a bydd adroddiad cynnydd yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi erbyn mis Tachwedd 2021.
Cyhoeddwyd y Strategaeth Toiledau Lleol gyntaf ar gyfer Cyngor Sir Penfro ym mis Mai 2019, ac roedd yn canolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau dyfodol cynifer â phosib o doiledau cyhoeddus presennol, cynyddu'r ddarpariaeth y tu hwnt i flociau toiledau annibynnol traddodiadol yn y sir, a gwella mynediad ar gyfer yr holl ddefnyddwyr.
Roedd sefyllfa ariannol Awdurdodau Lleol yn 2019 yn heriol ac roedd nifer eisoes wedi cau toiledau o fewn eu hardaloedd i gyrraedd targedau o ran arbed cyllidebau. Ni fu gan Awdurdodau Lleol erioed ddyletswydd statudol i ddarparu toiledau, er mai canfyddiad yn aml yw mai cynghorau sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwn. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau i drigolion, ymwelwyr a'r economi, mae'r strategaeth wedi cael ei hadolygu a'i diwygio, gan ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol sydd hyd yn oed yn fwy heriol na phan ysgrifennwyd y strategaeth gyntaf. Mae'r heriau ariannol hyn yn debygol o barhau i'r dyfodol.
Mae gan Sir Benfro boblogaeth o tua 124,000 gyda 26.2% o'r rheiny yn 65 oed neu’n hŷn, ffigwr y rhagwelir y bydd yn codi'n raddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae tua 22% o bobl leol yn anabl*, ac mae hyn yn codi i 53% ar gyfer pobl sy'n 65 oed neu'n hŷn. Fel cyrchfan dwristiaeth fawr gyda thua 5,400,000 o ymwelwyr bob blwyddyn (gan ddod â gwerth tua £420 miliwn i'r sir), mae'r galw ar wasanaethau fel toiledau yn cynyddu'n sylweddol ar adegau tymhorol brig. Er mwyn ateb y galw hwn, mae angen i ni edrych yn strategol ledled ein sir ar sut y gellir darparu a chyrchu'r cyfleusterau hyn nawr ac yn y dyfodol, drwy ffyrdd arloesol o weithio a chydweithio ag eraill.
Nid yw cynhyrchu'r strategaeth hon yn golygu y bydd yr holl ddarpariaeth bresennol a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro yn parhau. Byddwn yn edrych i sefydlu modelau cynaliadwy ar gyfer darparu cyllid ar draws y sir a ddarperir gan amrywiaeth o ffynonellau.
*Cyfrifiad 2011. Pobl o bob oed y mae eu gweithgareddau'n gyfyngedig ychydig neu o lawer. Aros am gyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf.