Strategaeth Toiledau Lleol

Pam ein bod ni wedi cynhyrchu strategaeth toiledau?

Mae Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a ddaeth i rym 31 Mai 2018, yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol.

Cafodd ein strategaeth wreiddiol ei chyhoeddi ym mis Mai 2019 yn dilyn asesiad anghenion cynhwysfawr, a chyhoeddwyd adroddiad ar y cynnydd ym mis Tachwedd 2021. Yn unol â'r Ddeddf, mae'r strategaeth bellach wedi'i hadolygu yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

Nod y Ddeddf yw annog ystyriaeth ehangach o opsiynau sydd ar gael ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd gan gynnwys toiledau annibynnol traddodiadol yn ogystal â'r rhai mewn perchnogaeth breifat. Y bwriad yw helpu i fynd i'r afael â'r heriau presennol y mae Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu wrth barhau i gynnal darpariaeth yn ystod cyfnodau o bwysau ariannol sylweddol.

Nid yw'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu na chynnal toiledau cyhoeddus eu hunain ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol asesu'r angen a chymryd safbwynt strategol ar sut y gellir diwallu hyn. Mae'r asesiad o anghenion a wnaed yn 2019 wedi cael ei ystyried ar gyfer y strategaeth hon.

ID: 10276, adolygwyd 22/06/2023