Strategaeth Toiledau Lleol

Strategaeth Toiledau Lleol Atodiadau

Atodiad A – Rhestr o doiledau cyhoeddus traddodiadol a reolir ac a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro

Abercastell

Cod post: SA62 5HJ
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau agor yr Haf*: O'r wawr tan hwyr
Oriau agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 tachwedd tan ganol Chwefror, ar agor dros gyfnod gwyliau'r Nadolig
Talu i ddefnyddio: Nac oes

 

Abereiddi

Cod Post: SA62 6DT
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf*: O’r wawr tan hwyr
Oriau Agor y Gaeaf*: O’r wawr tan hwyr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Amorth Ddwyrain

Cod post: SA67 8NN
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Summer Opening*: O’r wawr tan hwyr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Amroth Orllewin

Cod post: SA67 8NE
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf*: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Angle, Traeth Angle Orllewin

Cod post: SA71 5BE
Anabl: 
Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: 
Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 
O’r wawr tan hwyr
Oriau Agor y Gaeaf*: 
O’r wawr tan hwyr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Bosherston

Cod post: SA71 5DN
Anabl: 
Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr

Oriau Agor y Gaeaf* 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Aber Llydan, MP i'r Gogledd

Cod post: SA62 3JJ
Anabl: 
Oes
Cyfleusterau newid babanod: 
Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 
24 awr

Oriau Agor y Gaeaf*Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Aber Llydan, MP i'r De

Cod post: SA62 3JR
Anabl: 
Oes
Cyfleusterau newid babanod: 
Oes
Oriau Agor yr Haf: 
07:00 - 21:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 
07:00 - 18:00

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Burton, MP Jolly Sailor 

Cod post: SA73 1NX
Anabl: 
Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: O’r wawr tan hwyr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio Nac oes

 

Caeriw

Cod post: SA70 8SP
Anabl: 
Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio Nac oes

 

Cilgerran, Safle Picnic

Cod post: SA43 2SS
AnablOes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Creswell Quay

Cod post: SA68 0TE
AnablOes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Cwm yr Eglwys

Cod post: SA42 0SN
Anabl
Oes
Cyfleusterau newid babanod: 
Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 
24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 
Ar gau o 1 Tachwedd tan ganol Chwefror, ar agor dros gyfnod gwyliau’r Nadolig

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Dale

Cod post: SA62 3RJ
Anabl
Oes
Cyfleusterau newid babanod: 
Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 
24 awr

Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Felindre Farchog (Cefnffyrdd)

Cod post: SA41 3UU
Anabl
Oes
Cyfleusterau newid babanod: 
Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 
24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 
24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Abergwaun, Cwm

Cod post: SA65 9NB
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Fishguard, Ffordd yr efail

Cod post: SA65 9AR
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 06:00 - 22:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 06:00 - 19:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Abergwaun, West Street

Cod post: SA65 9NL
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 06:00 - 19:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 06:00 - 19:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Freshwater East

Cod post: SA71 5LN
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Wdig, Parrog MP

Cod post: SA64 0DE
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Hwlffordd, Castle Lake MP

Cod post: SA61 2DT
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 19:30
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 19:30

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Hwlffordd MP Aml-lawr (darpariaeth dros dro a ddarperir ar hyn o bryd)

Cod post: SA61 2LJ
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 19:30
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 19:30

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Johnston, Popehill (Cefnffyrdd)

Cod post: SA62 3NX
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Cilgeti, Ganolfan Groeso

Cod post: SA68 0YA
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 06:30 - 19:30
Oriau Agor y Gaeaf*: 06:30 - 19:30

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Treletert

Cod post: SA62 5SB
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Aber Bach

Cod post: SA62 3UG
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Llanstadwell, Hazelbeach

Cod post: SA73 1EG
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Maenclochog

Cod post: SA66 7LE
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Traeth Manorbyr

Cod post: SA70 7SY
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Marloes 

Cod post: SA62 3AZ
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Aberdaugleddau, Market Square

Cod post: SA73 2AE
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Aberdaugleddau, The Rath

Cod post: SA73 2QA
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 30 Medi tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Moylegrove

Cod post: SA43 3BW
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Arberth, MP Town Moor

Cod post: SA67 7AG
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Nanhyfer

Cod post: SA42 0NB
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Niwgwl, MP Canolog

Cod post: SA62 6AS
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Niwgwl , Pebbles MP

Cod post: SA62 6AR
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Trefdraeth, Long Street MP

Cod post: SA42 0TJ
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Trefdraeth Parrog, MP

Cod post: SA42 0RP
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Trefdraeth, Traeth Mawr

Cod post: SA42 0NR
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: O’r wawr tan hwyr
Oriau Agor y Gaeaf*: O’r wawr tan hwyr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Neyland Marina

Cod post: SA73 1PY
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 19:30
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 19:30

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Nolton Haven

Cod post: SA62 3NH
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan ganol Chwefror, ar agor dros gyfnod gwyliau’r Nadolig

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Doc Penfro Llyfrgell

Cod post: SA72 6DW
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 19:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 19:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Penfro, Blackhorse Walk

Cod post: SA71 4HN
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 19:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 19:00

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Penfro, The Commons

Cod post: SA71 4EA
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 19:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 19:00

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Penfro, Town Quay

Cod post: SA71 4NR
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 19:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 19:00

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Penallun

Cod post: SA70 7PS
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:30 - 21:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:30 - 21:00

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Penblewin MP (Cefnffyrdd)

Cod post: SA67 7NY
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Porthgain

Cod post: SA62 5BN
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Pwllgwaelod

Cod post: SA42 0SE
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Saundersfoot, Regency Hall MP

Cod post: SA69 9EN
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 22:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 -22:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Solfach, Solfach Uchaf MP

Cod post: SA62 6UT
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes (merched yn unig)
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Sain Ffred

Cod post: SA62 3AJ
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Tyddewi, Bryn Rd, y tu a'l i Neaudd y Ddinas

Cod post: SA62 6QX
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Tyddewi, Quickwell MP

Cod post: SA62 6PD
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: O’r wawr tan hwyr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Tyddewi, The Grove MP

Cod post: SA62 6NW
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Tyddewi, Porth Mawr

Cod post: SA62 6PS
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Llandudoch, High St

Cod post: SA43 3ED
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Llandudoch, Traeth Poppit

Cod post: SA43 3LR
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: 24 awr

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Llanismel

Cod post: SA62 3TB
Anabl: Nac oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 24 awr
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Dinbych-y-pysgod, Butts Field 

Cod post: SA70 8AG
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 20:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 20:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Dinbych-y-pysgod, Traeth y Castell

Cod post: SA70 8AG
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 20:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 20:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Dinbych-y-pysgod, MP Aml-lawr

Cod post: SA70 7LS
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 21:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 20:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Dinbych-y-pysgod, Traeth y Gogledd

Cod post: SA70 8AP
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 20:00
Oriau Agor y Gaeaf*: Ar gau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Dinbych-y-pysgod, Traeth De MP

Cod post: SA70 7EG
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 20:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 20:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Dinbych-y-pysgod, The Green MP (Salterns)

Cod post: SA70 7NG
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 20:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 20:00

Talu i ddef-nyddio: Oes

 

Dinbych-y-pysgod, Upper Frog Street

Cod post: SA70 7JD
Anabl: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: 07:00 - 20:00
Oriau Agor y Gaeaf*: 07:00 - 20:00

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

Wisemans Bridge

Cod post: SA69 9AT
Disabled: Oes
Cyfleusterau newid babanod: Nac oes
Oriau Agor yr Haf: O’r wawr tan hwyr 
Oriau Agor y Gaeaf*: O’r wawr tan hwyr 

Talu i ddef-nyddio: Nac oes

 

*Amseroedd agor yn gywir adeg cyhoeddi. Am yr amseroedd diweddaraf, gweler Map toiledau cyhoeddus 

Lle nodir amser cau o 1 Tachwedd tan 31 Mawrth uchod, caiff yr amseroedd hyn eu hymestyn os yw dyddiadau gwyliau ysgol Cymru yn disgyn y tu allan i'r dyddiadau hyn h.y. adeg y Pasg a hanner tymor yr Hydref, bydd y cyfleusterau ar agor i gwmpasu hyd y ddau gyfnod o wyliau. 

 

Atodiad B – Map o doiledau cyhoeddus traddodiadol a reolir ac a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro

Map toiledau cyhoeddus

 

Atodiad C – Logo Toiled Cenedlaethol

Logo Cenedlaethol

logo cenedlaethol

Dyma'r logo cenedlaethol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i nodi toiledau cyhoeddus. Byddwn yn sicrhau bod ein holl ddarpariaeth bresennol yn arddangos y logo hwn a byddwn yn gofyn i doiledau cyhoeddus a weithredir gan eraill ac unrhyw fusnes/sefydliad sy'n fodlon agor eu toiledau at ddefnydd cyffredinol hefyd arddangos y logo hwn er mwyn annog cydnabyddiaeth genedlaethol.

ID: 10313, adolygwyd 22/06/2023

Pam ein bod ni wedi cynhyrchu strategaeth toiledau?

Mae Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a ddaeth i rym 31 Mai 2018, yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol.

Cafodd ein strategaeth wreiddiol ei chyhoeddi ym mis Mai 2019 yn dilyn asesiad anghenion cynhwysfawr, a chyhoeddwyd adroddiad ar y cynnydd ym mis Tachwedd 2021. Yn unol â'r Ddeddf, mae'r strategaeth bellach wedi'i hadolygu yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

Nod y Ddeddf yw annog ystyriaeth ehangach o opsiynau sydd ar gael ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd gan gynnwys toiledau annibynnol traddodiadol yn ogystal â'r rhai mewn perchnogaeth breifat. Y bwriad yw helpu i fynd i'r afael â'r heriau presennol y mae Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu wrth barhau i gynnal darpariaeth yn ystod cyfnodau o bwysau ariannol sylweddol.

Nid yw'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu na chynnal toiledau cyhoeddus eu hunain ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol asesu'r angen a chymryd safbwynt strategol ar sut y gellir diwallu hyn. Mae'r asesiad o anghenion a wnaed yn 2019 wedi cael ei ystyried ar gyfer y strategaeth hon.

ID: 10276, adolygwyd 22/06/2023

Y sefyllfa bresennol

Cyfleusterau

Dengys ymchwil a wnaed gan y BBC (yn agor mewn tab newydd) yn 2018 mai Cyngor Sir Penfro oedd yr ail ddarparwr mwyaf o doiledau cyhoeddus traddodiadol yn y DU (o'r rhai a ymatebodd). Roedd yn ail i Gyngor yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, sydd â bron dwbl y boblogaeth ac ardal sy'n fwy na Chymru gyfan. Roedd Cyngor Sir Penfro yn gydradd ail gyda Chyngor Gwynedd.

Trwy gontract gyda Danfo (UK) Ltd, rydyn ni ar hyn o bryd yn darparu 68 o doiledau cyhoeddus traddodiadol (tri o'r rhain ar ran yr Asiantaeth Cefnffyrdd). O'r rhain:

  • Mae 53 ohonynt yn doiledau anabl
  • Mae gan un gyfleuster newid i oedolion ac
  • Mae gan 20 gyfleuster newid babanod.

Mae'r amseroedd agor yn amrywio drwy gydol y blociau toiledau hyn gyda rhai ar gael 24/7, eraill gydag oriau agor dyddiol cyfyngedig (fel arfer oherwydd lleoliad/pryderon am fandaliaeth) a 12 sy’n cau yn ystod cyfnod y gaeaf (oherwydd gostyngiad sylweddol mewn defnydd yn ystod y misoedd hyn).

Am fanylion yr holl gyfleusterau sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Sir Penfro, gweler Atodiad A. Mae map electronig sy'n dangos pob cyfleuster i'w weld yma: Map toiledau cyhoeddus 

Yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu gweithredu gan Gyngor Sir Penfro, mae yna ddarparwyr eraill o doiledau cyhoeddus yn y sir, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau/sefydliadau eraill. Mae rhai busnesau preifat, er nad ydynt yn hysbysebu eu cyfleusterau fel toiledau cyhoeddus, yn caniatáu i'r cyhoedd eu defnyddio heb wneud pryniant.

Heriau

Mae yna heriau o ran cael stoc toiledau mor fawr a, gan fwyaf, mor hen. Mae angen buddsoddiad sylweddol ar rai, ond mae prinder cyllideb ar gael ar gyfer hyn. Er ein bod wedi gwneud darpariaethau ar gyfer pot buddsoddi trwy gyfran o'r incwm a ddaw o godi tâl, mae'r pot hwn yn cael ei ddefnyddio cyn gynted ag y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu, heb unrhyw arian ychwanegol gan CSP wedi'i neilltuo ar gyfer uwchraddio cylchol. Rydyn ni’n chwilio'n barhaus am gyllid allanol i gefnogi gydag amnewid/uwchraddio. Bydd hyn yn cynnig her yn y dyfodol a fydd yn cynyddu wrth i'r adeiladau heneiddio ac rydyn ni’n debygol o weld angen buddsoddiad sylweddol mewn gwaith strwythurol yn y dyfodol.

Yn anffodus, mae toiledau hefyd yn fagnet i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cymryd cyffuriau a fandaliaeth. Mae hyn yn aml yn effeithio ar oriau agor ac yn y gorffennol wedi arwain at gau dros dro a pharhaol lle mae'r difrod wedi bod yn sylweddol ac yn cael ei ailadrodd.

Sut rydyn ni wedi cynnal y ddarpariaeth

Yn wahanol i lawer o gynghorau ledled y DU, rydyn ni wedi llwyddo i gadw nifer fawr o'n cyfleusterau hyd yma drwy gyfuno amrywiaeth o ffynonellau ariannu.

Codi tâl i ddefnyddio

Rydyn ni ar hyn o bryd yn codi 40c ar 12 o’r safleoedd sydd â’r nifer fwyaf o ymwelwyr. Dim ond dau o’r cyfleusterau hyn sy’n cynhyrchu digon o incwm ar hyn o bryd i dalu am y gost o’u darparu; mae’r 10 arall yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at y costau rhedeg. Mae pob safle yn gallu derbyn arian parod neu ddulliau ‘heb arian parod’. Mae codi tâl i ddefnyddio ond yn effeithiol lle mae'r incwm a gynhyrchir yn fwy na'r costau cyfalaf a refeniw sy'n gysylltiedig â gosod, cynnal a chadw a chostau rheoli’r unedau, felly ni fyddai'n ymarferol i ni godi tâl i ddefnyddio ein holl doiledau cyhoeddus. Caiff hyn ei adolygu'n barhaus. Cynyddwyd y pris o 20c ym mis Ebrill 2019. Mae'r cynnydd hwn wedi caniatáu i ganran o incwm gael ei defnyddio i ddatblygu pot buddsoddi ar gyfer uwchraddio/gwelliannau.

Wedi'i ariannu gan neu ei drosglwyddo i Gynghorau Tref/Cymuned

Mae 10 cyfleuster yn cael eu rheoli a'u cynnal ar hyn o bryd drwy gontract CSP ond mae'r costau sy'n gysylltiedig â hyn naill ai'n cael eu cynnwys yn llawn neu'n rhannol gan eu cynghorau Tref/Cymuned cysylltiedig. Heb y cymorth ariannol hwn, byddai'r cyfleusterau hyn ar gau. Mae cynghorau Tref/Cymuned wedi dewis codi'r arian o'u praeseptau yn hytrach na cholli'r ddarpariaeth yn eu bro. 

Yn ogystal, mae pum toiled wedi cael eu trosglwyddo i gynghorau Tref/Cymuned er mwyn iddynt eu rheoli eu hunain, gyda chyfleusterau ychwanegol yn mynd drwy'r broses o drosglwyddo ar hyn o bryd. Mae'r trefniant hwn yn golygu y gellir cadw'r cyfleusterau ar agor ac mae'n caniatáu rheolaeth dros gyfundrefnau glanhau ac amseroedd agor sy'n gweddu orau i alw lleol. 

Arian trwy incwm parcio

Ym mis Mawrth 2020, cytunodd y Cabinet i gefnogi ariannu’r ddarpariaeth drwy ffioedd parcio. Dim ond ar gyfer ariannu toiledau cyhoeddus y gellir defnyddio'r ffioedd hyn lle mae'r toiledau hynny wedi'u lleoli mewn meysydd parcio neu’n agos iddynt. Os yw disgwyliadau incwm yn cael eu cwrdd, bydd y model cynaliadwy hwn yn sicrhau 20 o gyfleusterau i'r dyfodol. Mae'r cyllid hefyd yn cwmpasu ychydig o waith gwella sy'n disgyn y tu allan i'r contract presennol.

Ariennir gan CSP

Mae'r holl gyfleusterau eraill (32 i gyd) yn cael eu hariannu'n llawn gan gyllidebau refeniw CSP sydd o dan bwysau difrifol. Mae'r gost net i CSP tua £600,000 (mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar lefelau incwm).

Oherwydd y sefyllfa ariannol mae’r Cyngor yn ei hwynebu ar hyn o bryd ac i’r dyfodol, penderfynodd y Cabinet ym mis Chwefror 2023 i chwilio am gyllid amgen ar gyfer unrhyw doiled a ariennir yn llawn gan CSP; er enghraifft, gallai hyn fod drwy Gynghorau Tref/Cymuned neu randdeiliaid eraill fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cytunwyd, os na nodir cyllid amgen, ac os nad oes unrhyw amgylchiadau unigryw eraill i’w hystyried, yna bydd cyfleusterau yn cael eu cau (lle gallwn yn gyfreithiol). Cytunwyd hefyd i ddefnyddio’r Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi i ariannu cost y contract o’r toiledau hyn yn 2023-24 tra bod trefniant parhaol yn cael ei wneud. Bydd unrhyw doiled a gaiff ei gau oherwydd yr uchod ond sy’n bennaf yn gwasanaethu’r economi ymwelwyr, yn cael ei gadw dros dro nes y daw unrhyw benderfyniad yn y dyfodol ar gyflwyno Ardoll Ymwelwyr, y gellid ei ddefnyddio ar gyfer darparu toiledau yn y dyfodol.



ID: 10277, adolygwyd 22/06/2023

Cynnydd hyd yma

Ers cyhoeddi'r strategaeth wreiddiol, rydyn ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd cadarnhaol yn lleol ac yn genedlaethol sy'n effeithio ar y ddarpariaeth yn lleol.

Cenedlaethol

  1. Cafodd Cyfraddau Annomestig Cenedlaethol eu tynnu o bob toiled cyhoeddus annibynnol ym mis Ebrill 2020. Mae hyn yn golygu bod cyfleusterau bellach yn rhatach i'w rheoli ac yn fwy hylaw yn ariannol i sefydliadau eraill ystyried darparu*
  2. Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu Dogfen M, Ionawr 2023 – mae’r gwelliant yn cwmpasu’r ddarpariaeth o leoedd newid mewn toiledau o fewn adeiladau priodol o ran maint cyhoeddus.

Cynnydd yn lleol

  1. Mae trosglwyddiadau asedau ar y gweill mewn sawl cyfleuster yn y sir; bydd pob un yn parhau i ddarparu toiledau cyhoeddus 
  2. Trosglwyddwyd tri chyfleuster yn ôl i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n parhau i'w darparu
  3. Sicrhawyd 20 o gyfleusterau trwy ffioedd parcio CSP
  4. Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i ailddatblygu'r cyfleuster ar draeth Whitesands er mwyn gwella cynwysoldeb drwy ddarparu ein Toiled/Lle Newid ac ystafell deuluol cyntaf ar ochr traeth.
  5. Mae sawl cyfleuster wedi'u paentio i wella ymddangosiad 
  6. Mae sawl prosiect ar raddfa fechan ar y gweill i wella profiad ymwelwyr o’r cyfleusterau 
  7. Ceir cyfleuster newydd ac ailddatblygiad yn Abergwaun er mwyn gwella'r ddarpariaeth yn yr ardal hon, gan gynnwys cyfleusterau i'r anabl a newid babanod
  8. Mae prosiectau ar y gweill yn Hwlffordd i gynnwys toiledau cyhoeddus newydd yn y Gyfnewidfa Drafnidiaeth a datblygiad Cei'r Gorllewin. Bydd y ddau yn cynnwys Toiled/Lleoedd Newid 

Nid yw pob cam o'r strategaeth wreiddiol wedi ei chwblhau oherwydd effeithiau Covid-19. Mae'r camau gweithredu sy'n dal yn berthnasol felly wedi cario ymlaen yn Adran 5 isod.  


*Mae cyfyngiadau contract wedi arwain at arbedion ddim yn cael eu trosglwyddo'n llawn i CSP ar hyn o bryd. 

ID: 10278, adolygwyd 22/06/2023

Sut rydyn nin bwriadu diwallu'r anghenion presennol ac yn y dyfodol

  • Byddwn ni'n ceisio hwyluso'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus ledled y sir ar sail gost niwtral i'r Cyngor 
  • Byddwn ni'n blaenoriaethu ein darpariaeth gan ystyried yr ystyriaethau canlynol:
    •  Argaeledd cyllid
    • Darpariaeth i bobl anabl
    • Lefelau defnydd
    • Effaith ar yr economi
    • Effaith ar dwristiaeth
    • Amlder y camddefnyddio/ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Agosrwydd at ddewisiadau amgen eraill
    • Cyflwr yr eiddo
  • Byddwn ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad ar feysydd blaenoriaeth allweddol i gynorthwyo gwelliannau a moderneiddio, gyda dealltwriaeth bod y pot buddsoddi'n gyfyngedig
  • Byddwn ni'n cefnogi’r gwaith o sicrhau cymaint â phosib o ddarpariaethau eraill ledled y sir, drwy
    • Gydweithio â sefydliadau, cynghorau tref a chymuned a chymunedau lleol i geisio cyllid 
    • Annog a chynorthwyo gyda throsglwyddo ein stoc toiledau lle mae'r cytundeb yw y byddant yn parhau i ddarparu toiled cyhoeddus fel rhan o'r trosglwyddiad
    • Sicrhau bod adeiladau cyhoeddus addas ar gael yn ein meddiant fel toiledau cyhoeddus i gynyddu'r argaeledd
    • Ymgysylltu â sefydliadau a busnesau lleol i'w hannog i agor eu toiledau at ddefnydd y cyhoedd i sicrhau mwy o argaeledd
    • Archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio Ardoll Ymwelwyr posib yn y dyfodol i ariannu’r ddarpariaeth
    • Adolygu ffioedd ac ystyried ffi ychwanegol i ddefnyddio cyfleusterau lle bo hynny'n briodol
  • Byddwn ni'n cefnogi mynediad i bawb drwy:
    • Sicrhau unrhyw flociau toiledau newydd neu lle bo'n bosibl, adnewyddu darpariaeth bresennol ar raddfa fawr, cynyddu nifer y ciwbiclau sy'n neillryw i gynyddu'r ddarpariaeth i bawb
    • Sicrhau bod unrhyw gyfleusterau anabl newydd neu waith adnewyddu ar raddfa fawr yn cydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Anabledd) a bod egwyddorion dylunio cynhwysol a ymgorfforir mewn safonau rheoleiddio a chanllawiau megis Rheoliadau Adeiladu a Safonau Prydeinig, yn cael eu dilyn
    • Sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i gynnwys cyfleusterau Newid o fewn unrhyw ddatblygiadau addas yn y dyfodol.
    • Bydd y gwasanaeth cynllunio yn ystyried sicrhau bod toiledau cyhoeddus hygyrch i bawb yn rhan o geisiadau cynllunio a rheoli adeiladau ar gyfer adeiladau priodol.
    • Bydd cyfleusterau ‘talu heb arian parod’ ar gael fel opsiwn ym mhob toiled sy’n codi tâl.
    • Sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o ble y gallant ddod o hyd i doiled a'u hamseroedd agor drwy
      • wella arwyddion mewn cyfleusterau lle mae oriau agor yn gyfyngedig h.y. cau dros y gaeaf a chau dros nos
      • o gynnwys yr holl doiledau cyhoeddus yn Sir Benfro ar ein map toiledau cyhoeddus (nid y rhai a weithredir gan CSP yn unig)
      • o annog pob toiled cyhoeddus i arddangos y logo toiled cenedlaethol (Atodiad C)
  • Byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd ar unrhyw newidiadau arfaethedig yn y dyfodol er mwyn helpu i nodi rhwystrau ac anghenion a sicrhau bod ein darpariaeth mor hygyrch â phosibl. 
ID: 10280, adolygwyd 22/06/2023

Proses adolygu

Byddwn ni'n paratoi adroddiad dros dro o gynnydd ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r strategaeth a chyhoeddi hyn o fewn chwe mis – erbyn 30 Tachwedd 2025.

Byddwn ni'n adolygu'r strategaeth ar ôl pob etholiad Llywodraeth Leol ac yn cyhoeddi'r adolygiad hwn o fewn blwyddyn i'r etholiad - yr adolygiad nesaf i ddod i law erbyn mis Mai 2028.

ID: 10281, adolygwyd 22/06/2023

Sut mae'r strategaeth hon yn cysylltu a strategaethau lleol/cenedlaethol eraill

Cenedlaethol

Yn ystod y gwaith o gynhyrchu'r strategaeth hon, rydyn ni wedi rhoi sylw dyladwy i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae darparu cyfleusterau toiled a'r ffordd strategol ymlaen yn helpu i gyflawni pob un o'r saith nod llesiant fel y nodir isod.  Mae'n debyg y bydd cyfraniad rhai o'r nodau'n gyfyngedig:

  • Cymru lewyrchus - ystyried effaith yr economi ac, yn arbennig yn Sir Benfro, bwysigrwydd twristiaeth
  • Cymru wydn – lleihau'r effaith ar yr amgylchedd a sicrhau bod cymaint â phosib o gyfleoedd i hybu bioamrywiaeth
  • Cymru iachach – sicrhau'r gorau o les corfforol a meddyliol
  • Cymru fwy cyfartal – bodloni ein dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
  • Cymru o gymunedau cydlynus – darparu gwasanaethau diogel mewn cymunedau
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu – ein treftadaeth ddiwylliannol a bodloni Safonau'r Gymraeg
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lleihau ein hôl-troed carbon.

Byddwn ni'n gweithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Wrth fynd i'r afael ag anghenion tymor byr, byddwn yn ystyried y gallu i gwrdd ag anghenion hirdymor mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Byddwn ni'n mynd ati i geisio atal darpariaeth rhag cael ei cholli drwy integreiddio â chyrff cyhoeddus eraill a chydweithio âbusnesau a sefydliadau eraill i ddiogelu'r ddarpariaeth. Byddwn ni’n cynnwys y cyhoedd a phartïon eraill sydd â diddordeb mewn penderfyniadau a wneir drwy brosesau ymgynghori.

Lleol

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, fodd bynnag, yn unol â'r fersiwn flaenorol, mae darparu toiledau glân a hygyrch yn helpu i hwyluso lles corfforol a meddyliol. Maen nhw'n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau ac i fyw eu bywydau. Maen nhw'n bwysig ar gyfer twristiaeth yn y sir sy'n cyfrannu at ein heconomi. Mae'r strategaeth yn chwilio am ffyrdd y gellir cynnal darpariaeth ledled y sir yn y tymor hir i gefnogi ein trigolion a'n hymwelwyr.  

Cynllun Rheoli Cyrchfannau Sir Benfro (2020-2025) – mae’n cydnabod bod twristiaeth yn sbardun economaidd allweddol yn Sir Benfro gyda phwyslais ar roi'r hawl sylfaenol i wella enw da a phrofiad yr ymwelydd. Mae'r strategaeth hon yn cydnabod bod darparu toiledau yn bwysig i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Rhaglen Gweinyddu (2022-2027) – mae’n hyrwyddo Sir Benfro fel lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef a bod ein cymunedau'n weithgar ac yn ffynnu. Gall darparu toiledau cyhoeddus digonol helpu i hwyluso hyn.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2020-2024) – mae cefnogi gweithredu'r Strategaeth Toiledau Lleol yn weithred sy’n rhan o Amcan 4: Mynediad at fywyd a gwasanaethau cymunedol, cefnogi darparu gwasanaethau cyngor hygyrch ac annog datblygu cyfleoedd hygyrch o fewn ein cymunedau lleol.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (2018-2028) – mae’n nodi "Lle bynnag y bo'n bosibl, darparu cyfleusterau cyflenwol ar lwybrau sy'n addas i ddefnyddwyr anabl fel seddi a llwybrau bysys, yn ogystal â chyfleusterau penodol fel toiledau a darpariaeth barcio."

 

ID: 10285, adolygwyd 22/06/2023

Strategaeth Toiledau Lleol

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynhyrchu Strategaeth Toiledau Lleol i gydymffurfio â Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Trwy’r strategaeth yma, rydym yn bwriadu darparu toiledau hygyrch, glân yn y lleoliadau mwyaf priodol. Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau dyfodol y cyfleusterau presennol yn ogystal ag edrych am ffyrdd i gynyddu nifer y toiledau cyhoeddus sydd ar gael a gwella mynediad i’r holl grwpiau o bobl.

Wrth ddatblygu’r strategaeth, rydym wedi ymgymryd ag asesiad anghenion cynhwysfawr i ddeall yr angen cyfredol ac rydym wedi ystyried hwn ac angen cenedlaethau’r dyfodol yn y cynhyrchiad. 

Bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu a bydd adroddiad cynnydd yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi erbyn mis Tachwedd 2021.

Cyhoeddwyd y Strategaeth Toiledau Lleol gyntaf ar gyfer Cyngor Sir Penfro ym mis Mai 2019, ac roedd yn canolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau dyfodol cynifer â phosib o doiledau cyhoeddus presennol, cynyddu'r ddarpariaeth y tu hwnt i flociau toiledau annibynnol traddodiadol yn y sir, a gwella mynediad ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. 

Roedd sefyllfa ariannol Awdurdodau Lleol yn 2019 yn heriol ac roedd nifer eisoes wedi cau toiledau o fewn eu hardaloedd i gyrraedd targedau o ran arbed cyllidebau. Ni fu gan Awdurdodau Lleol erioed ddyletswydd statudol i ddarparu toiledau, er mai canfyddiad yn aml yw mai cynghorau sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwn. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau i drigolion, ymwelwyr a'r economi, mae'r strategaeth wedi cael ei hadolygu a'i diwygio, gan ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol sydd hyd yn oed yn fwy heriol na phan ysgrifennwyd y strategaeth gyntaf. Mae'r heriau ariannol hyn yn debygol o barhau i'r dyfodol. 

Mae gan Sir Benfro boblogaeth o tua 124,000 gyda 26.2% o'r rheiny yn 65 oed neu’n hŷn, ffigwr y rhagwelir y bydd yn codi'n raddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae tua 22% o bobl leol yn anabl*, ac mae hyn yn codi i 53% ar gyfer pobl sy'n 65 oed neu'n hŷn. Fel cyrchfan dwristiaeth fawr gyda thua 5,400,000 o ymwelwyr bob blwyddyn (gan ddod â gwerth tua £420 miliwn i'r sir), mae'r galw ar wasanaethau fel toiledau yn cynyddu'n sylweddol ar adegau tymhorol brig. Er mwyn ateb y galw hwn, mae angen i ni edrych yn strategol ledled ein sir ar sut y gellir darparu a chyrchu'r cyfleusterau hyn nawr ac yn y dyfodol, drwy ffyrdd arloesol o weithio a chydweithio ag eraill.

Nid yw cynhyrchu'r strategaeth hon yn golygu y bydd yr holl ddarpariaeth bresennol a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro yn parhau. Byddwn yn edrych i sefydlu modelau cynaliadwy ar gyfer darparu cyllid ar draws y sir a ddarperir gan amrywiaeth o ffynonellau.


*Cyfrifiad 2011.  Pobl o bob oed y mae eu gweithgareddau'n gyfyngedig ychydig neu o lawer. Aros am gyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf.

ID: 5268, adolygwyd 22/06/2023