Strategaeth Toiledau Lleol

Sut mae'r strategaeth hon yn cysylltu a strategaethau lleol/cenedlaethol eraill

Cenedlaethol

Yn ystod y gwaith o gynhyrchu'r strategaeth hon, rydyn ni wedi rhoi sylw dyladwy i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae darparu cyfleusterau toiled a'r ffordd strategol ymlaen yn helpu i gyflawni pob un o'r saith nod llesiant fel y nodir isod.  Mae'n debyg y bydd cyfraniad rhai o'r nodau'n gyfyngedig:

  • Cymru lewyrchus - ystyried effaith yr economi ac, yn arbennig yn Sir Benfro, bwysigrwydd twristiaeth
  • Cymru wydn – lleihau'r effaith ar yr amgylchedd a sicrhau bod cymaint â phosib o gyfleoedd i hybu bioamrywiaeth
  • Cymru iachach – sicrhau'r gorau o les corfforol a meddyliol
  • Cymru fwy cyfartal – bodloni ein dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
  • Cymru o gymunedau cydlynus – darparu gwasanaethau diogel mewn cymunedau
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu – ein treftadaeth ddiwylliannol a bodloni Safonau'r Gymraeg
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lleihau ein hôl-troed carbon.

Byddwn ni'n gweithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Wrth fynd i'r afael ag anghenion tymor byr, byddwn yn ystyried y gallu i gwrdd ag anghenion hirdymor mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Byddwn ni'n mynd ati i geisio atal darpariaeth rhag cael ei cholli drwy integreiddio â chyrff cyhoeddus eraill a chydweithio âbusnesau a sefydliadau eraill i ddiogelu'r ddarpariaeth. Byddwn ni’n cynnwys y cyhoedd a phartïon eraill sydd â diddordeb mewn penderfyniadau a wneir drwy brosesau ymgynghori.

Lleol

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, fodd bynnag, yn unol â'r fersiwn flaenorol, mae darparu toiledau glân a hygyrch yn helpu i hwyluso lles corfforol a meddyliol. Maen nhw'n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau ac i fyw eu bywydau. Maen nhw'n bwysig ar gyfer twristiaeth yn y sir sy'n cyfrannu at ein heconomi. Mae'r strategaeth yn chwilio am ffyrdd y gellir cynnal darpariaeth ledled y sir yn y tymor hir i gefnogi ein trigolion a'n hymwelwyr.  

Cynllun Rheoli Cyrchfannau Sir Benfro (2020-2025) – mae’n cydnabod bod twristiaeth yn sbardun economaidd allweddol yn Sir Benfro gyda phwyslais ar roi'r hawl sylfaenol i wella enw da a phrofiad yr ymwelydd. Mae'r strategaeth hon yn cydnabod bod darparu toiledau yn bwysig i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Rhaglen Gweinyddu (2022-2027) – mae’n hyrwyddo Sir Benfro fel lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef a bod ein cymunedau'n weithgar ac yn ffynnu. Gall darparu toiledau cyhoeddus digonol helpu i hwyluso hyn.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2020-2024) – mae cefnogi gweithredu'r Strategaeth Toiledau Lleol yn weithred sy’n rhan o Amcan 4: Mynediad at fywyd a gwasanaethau cymunedol, cefnogi darparu gwasanaethau cyngor hygyrch ac annog datblygu cyfleoedd hygyrch o fewn ein cymunedau lleol.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (2018-2028) – mae’n nodi "Lle bynnag y bo'n bosibl, darparu cyfleusterau cyflenwol ar lwybrau sy'n addas i ddefnyddwyr anabl fel seddi a llwybrau bysys, yn ogystal â chyfleusterau penodol fel toiledau a darpariaeth barcio."

 

ID: 10285, adolygwyd 22/06/2023