Strategaeth Toiledau Lleol

Sut rydyn nin bwriadu diwallu'r anghenion presennol ac yn y dyfodol

  • Byddwn ni'n ceisio hwyluso'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus ledled y sir ar sail gost niwtral i'r Cyngor 
  • Byddwn ni'n blaenoriaethu ein darpariaeth gan ystyried yr ystyriaethau canlynol:
    •  Argaeledd cyllid
    • Darpariaeth i bobl anabl
    • Lefelau defnydd
    • Effaith ar yr economi
    • Effaith ar dwristiaeth
    • Amlder y camddefnyddio/ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Agosrwydd at ddewisiadau amgen eraill
    • Cyflwr yr eiddo
  • Byddwn ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad ar feysydd blaenoriaeth allweddol i gynorthwyo gwelliannau a moderneiddio, gyda dealltwriaeth bod y pot buddsoddi'n gyfyngedig
  • Byddwn ni'n cefnogi’r gwaith o sicrhau cymaint â phosib o ddarpariaethau eraill ledled y sir, drwy
    • Gydweithio â sefydliadau, cynghorau tref a chymuned a chymunedau lleol i geisio cyllid 
    • Annog a chynorthwyo gyda throsglwyddo ein stoc toiledau lle mae'r cytundeb yw y byddant yn parhau i ddarparu toiled cyhoeddus fel rhan o'r trosglwyddiad
    • Sicrhau bod adeiladau cyhoeddus addas ar gael yn ein meddiant fel toiledau cyhoeddus i gynyddu'r argaeledd
    • Ymgysylltu â sefydliadau a busnesau lleol i'w hannog i agor eu toiledau at ddefnydd y cyhoedd i sicrhau mwy o argaeledd
    • Archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio Ardoll Ymwelwyr posib yn y dyfodol i ariannu’r ddarpariaeth
    • Adolygu ffioedd ac ystyried ffi ychwanegol i ddefnyddio cyfleusterau lle bo hynny'n briodol
  • Byddwn ni'n cefnogi mynediad i bawb drwy:
    • Sicrhau unrhyw flociau toiledau newydd neu lle bo'n bosibl, adnewyddu darpariaeth bresennol ar raddfa fawr, cynyddu nifer y ciwbiclau sy'n neillryw i gynyddu'r ddarpariaeth i bawb
    • Sicrhau bod unrhyw gyfleusterau anabl newydd neu waith adnewyddu ar raddfa fawr yn cydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Anabledd) a bod egwyddorion dylunio cynhwysol a ymgorfforir mewn safonau rheoleiddio a chanllawiau megis Rheoliadau Adeiladu a Safonau Prydeinig, yn cael eu dilyn
    • Sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i gynnwys cyfleusterau Newid o fewn unrhyw ddatblygiadau addas yn y dyfodol.
    • Bydd y gwasanaeth cynllunio yn ystyried sicrhau bod toiledau cyhoeddus hygyrch i bawb yn rhan o geisiadau cynllunio a rheoli adeiladau ar gyfer adeiladau priodol.
    • Bydd cyfleusterau ‘talu heb arian parod’ ar gael fel opsiwn ym mhob toiled sy’n codi tâl.
    • Sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o ble y gallant ddod o hyd i doiled a'u hamseroedd agor drwy
      • wella arwyddion mewn cyfleusterau lle mae oriau agor yn gyfyngedig h.y. cau dros y gaeaf a chau dros nos
      • o gynnwys yr holl doiledau cyhoeddus yn Sir Benfro ar ein map toiledau cyhoeddus (nid y rhai a weithredir gan CSP yn unig)
      • o annog pob toiled cyhoeddus i arddangos y logo toiled cenedlaethol (Atodiad C)
  • Byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd ar unrhyw newidiadau arfaethedig yn y dyfodol er mwyn helpu i nodi rhwystrau ac anghenion a sicrhau bod ein darpariaeth mor hygyrch â phosibl. 
ID: 10280, adolygwyd 22/06/2023