Strategaeth Toiledau Lleol

Y sefyllfa bresennol

Cyfleusterau

Dengys ymchwil a wnaed gan y BBC (yn agor mewn tab newydd) yn 2018 mai Cyngor Sir Penfro oedd yr ail ddarparwr mwyaf o doiledau cyhoeddus traddodiadol yn y DU (o'r rhai a ymatebodd). Roedd yn ail i Gyngor yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, sydd â bron dwbl y boblogaeth ac ardal sy'n fwy na Chymru gyfan. Roedd Cyngor Sir Penfro yn gydradd ail gyda Chyngor Gwynedd.

Trwy gontract gyda Danfo (UK) Ltd, rydyn ni ar hyn o bryd yn darparu 68 o doiledau cyhoeddus traddodiadol (tri o'r rhain ar ran yr Asiantaeth Cefnffyrdd). O'r rhain:

  • Mae 53 ohonynt yn doiledau anabl
  • Mae gan un gyfleuster newid i oedolion ac
  • Mae gan 20 gyfleuster newid babanod.

Mae'r amseroedd agor yn amrywio drwy gydol y blociau toiledau hyn gyda rhai ar gael 24/7, eraill gydag oriau agor dyddiol cyfyngedig (fel arfer oherwydd lleoliad/pryderon am fandaliaeth) a 12 sy’n cau yn ystod cyfnod y gaeaf (oherwydd gostyngiad sylweddol mewn defnydd yn ystod y misoedd hyn).

Am fanylion yr holl gyfleusterau sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Sir Penfro, gweler Atodiad A. Mae map electronig sy'n dangos pob cyfleuster i'w weld yma: Map toiledau cyhoeddus 

Yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu gweithredu gan Gyngor Sir Penfro, mae yna ddarparwyr eraill o doiledau cyhoeddus yn y sir, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau/sefydliadau eraill. Mae rhai busnesau preifat, er nad ydynt yn hysbysebu eu cyfleusterau fel toiledau cyhoeddus, yn caniatáu i'r cyhoedd eu defnyddio heb wneud pryniant.

Heriau

Mae yna heriau o ran cael stoc toiledau mor fawr a, gan fwyaf, mor hen. Mae angen buddsoddiad sylweddol ar rai, ond mae prinder cyllideb ar gael ar gyfer hyn. Er ein bod wedi gwneud darpariaethau ar gyfer pot buddsoddi trwy gyfran o'r incwm a ddaw o godi tâl, mae'r pot hwn yn cael ei ddefnyddio cyn gynted ag y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu, heb unrhyw arian ychwanegol gan CSP wedi'i neilltuo ar gyfer uwchraddio cylchol. Rydyn ni’n chwilio'n barhaus am gyllid allanol i gefnogi gydag amnewid/uwchraddio. Bydd hyn yn cynnig her yn y dyfodol a fydd yn cynyddu wrth i'r adeiladau heneiddio ac rydyn ni’n debygol o weld angen buddsoddiad sylweddol mewn gwaith strwythurol yn y dyfodol.

Yn anffodus, mae toiledau hefyd yn fagnet i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cymryd cyffuriau a fandaliaeth. Mae hyn yn aml yn effeithio ar oriau agor ac yn y gorffennol wedi arwain at gau dros dro a pharhaol lle mae'r difrod wedi bod yn sylweddol ac yn cael ei ailadrodd.

Sut rydyn ni wedi cynnal y ddarpariaeth

Yn wahanol i lawer o gynghorau ledled y DU, rydyn ni wedi llwyddo i gadw nifer fawr o'n cyfleusterau hyd yma drwy gyfuno amrywiaeth o ffynonellau ariannu.

Codi tâl i ddefnyddio

Rydyn ni ar hyn o bryd yn codi 40c ar 12 o’r safleoedd sydd â’r nifer fwyaf o ymwelwyr. Dim ond dau o’r cyfleusterau hyn sy’n cynhyrchu digon o incwm ar hyn o bryd i dalu am y gost o’u darparu; mae’r 10 arall yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at y costau rhedeg. Mae pob safle yn gallu derbyn arian parod neu ddulliau ‘heb arian parod’. Mae codi tâl i ddefnyddio ond yn effeithiol lle mae'r incwm a gynhyrchir yn fwy na'r costau cyfalaf a refeniw sy'n gysylltiedig â gosod, cynnal a chadw a chostau rheoli’r unedau, felly ni fyddai'n ymarferol i ni godi tâl i ddefnyddio ein holl doiledau cyhoeddus. Caiff hyn ei adolygu'n barhaus. Cynyddwyd y pris o 20c ym mis Ebrill 2019. Mae'r cynnydd hwn wedi caniatáu i ganran o incwm gael ei defnyddio i ddatblygu pot buddsoddi ar gyfer uwchraddio/gwelliannau.

Wedi'i ariannu gan neu ei drosglwyddo i Gynghorau Tref/Cymuned

Mae 10 cyfleuster yn cael eu rheoli a'u cynnal ar hyn o bryd drwy gontract CSP ond mae'r costau sy'n gysylltiedig â hyn naill ai'n cael eu cynnwys yn llawn neu'n rhannol gan eu cynghorau Tref/Cymuned cysylltiedig. Heb y cymorth ariannol hwn, byddai'r cyfleusterau hyn ar gau. Mae cynghorau Tref/Cymuned wedi dewis codi'r arian o'u praeseptau yn hytrach na cholli'r ddarpariaeth yn eu bro. 

Yn ogystal, mae pum toiled wedi cael eu trosglwyddo i gynghorau Tref/Cymuned er mwyn iddynt eu rheoli eu hunain, gyda chyfleusterau ychwanegol yn mynd drwy'r broses o drosglwyddo ar hyn o bryd. Mae'r trefniant hwn yn golygu y gellir cadw'r cyfleusterau ar agor ac mae'n caniatáu rheolaeth dros gyfundrefnau glanhau ac amseroedd agor sy'n gweddu orau i alw lleol. 

Arian trwy incwm parcio

Ym mis Mawrth 2020, cytunodd y Cabinet i gefnogi ariannu’r ddarpariaeth drwy ffioedd parcio. Dim ond ar gyfer ariannu toiledau cyhoeddus y gellir defnyddio'r ffioedd hyn lle mae'r toiledau hynny wedi'u lleoli mewn meysydd parcio neu’n agos iddynt. Os yw disgwyliadau incwm yn cael eu cwrdd, bydd y model cynaliadwy hwn yn sicrhau 20 o gyfleusterau i'r dyfodol. Mae'r cyllid hefyd yn cwmpasu ychydig o waith gwella sy'n disgyn y tu allan i'r contract presennol.

Ariennir gan CSP

Mae'r holl gyfleusterau eraill (32 i gyd) yn cael eu hariannu'n llawn gan gyllidebau refeniw CSP sydd o dan bwysau difrifol. Mae'r gost net i CSP tua £600,000 (mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar lefelau incwm).

Oherwydd y sefyllfa ariannol mae’r Cyngor yn ei hwynebu ar hyn o bryd ac i’r dyfodol, penderfynodd y Cabinet ym mis Chwefror 2023 i chwilio am gyllid amgen ar gyfer unrhyw doiled a ariennir yn llawn gan CSP; er enghraifft, gallai hyn fod drwy Gynghorau Tref/Cymuned neu randdeiliaid eraill fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cytunwyd, os na nodir cyllid amgen, ac os nad oes unrhyw amgylchiadau unigryw eraill i’w hystyried, yna bydd cyfleusterau yn cael eu cau (lle gallwn yn gyfreithiol). Cytunwyd hefyd i ddefnyddio’r Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi i ariannu cost y contract o’r toiledau hyn yn 2023-24 tra bod trefniant parhaol yn cael ei wneud. Bydd unrhyw doiled a gaiff ei gau oherwydd yr uchod ond sy’n bennaf yn gwasanaethu’r economi ymwelwyr, yn cael ei gadw dros dro nes y daw unrhyw benderfyniad yn y dyfodol ar gyflwyno Ardoll Ymwelwyr, y gellid ei ddefnyddio ar gyfer darparu toiledau yn y dyfodol.



ID: 10277, adolygwyd 22/06/2023