Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26

Datblygiadau y tu allan i Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai

Cynllun pontio ailgartrefu cyflym

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi creu cynlluniau pontio ailgartrefu cyflym er mwyn gweithredu’r dull newydd hwn o ymdrin â digartrefedd yng Nghymru. Crëwyd y cynllun pontio yn Sir Benfro mewn cydweithrediad ag asiantaethau perthnasol lluosog, megis Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Penfro, partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau cymorth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Crëwyd y cynllun pontio ailgartrefu cyflym i gyd-fynd â Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a’i blaenoriaethau, er mwyn creu ymagwedd gynhwysfawr a chyson at ddigartrefedd yn Sir Benfro.

 

Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid

Mae’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid wedi’i greu gyda’r nod o ymyrryd cyn gynted â phosibl er mwyn darparu cymorth i bobl ifanc, mewn ymdrech ar y cyd i atal digartrefedd a thlodi.

Fel rhan o gyflwyno’r fframwaith hwn, mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn Sir Benfro, mewn cydweithrediad â’r timau tai a’r Grant Cymorth Tai, wedi datblygu system helaeth i nodi dangosyddion cynnar digartrefedd ymysg pobl ifanc, gan edrych ar faterion fel gwaharddiadau o’r ysgol.

Mae angen gwaith partneriaeth cryf i ddatblygu hyn ymhellach, megis cofnodi pobl ifanc sy’n ddigartref sy’n rhan o gartref, ond nid yn brif ymgeisydd, gan nad ydynt wedi’u cofnodi’n ddigartref ar hyn o bryd.

 

Cynyddu'r cyflenwad tai

Bu oedi sylweddol yn ein rhaglen ddatblygu a oedd y tu hwnt i’n rheolaeth, fel effaith y pandemig a’r cwmni adeiladu yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Ar ôl yr oedi hwn, rydym wedi cwblhau Cam 1 a Cham 2 o safle Old School Lane yn Johnston. Gwnaethpwyd dyraniadau i’r eiddo hyn ddiwedd 2023, gyda thenantiaid yn symud i mewn yn gynnar yn 2024. Mae’r gwaith o gwblhau Tudor Place yn Tiers Cross wedi’i gwblhau, a disgwylir i’r broses gofrestru ddigwydd ddechrau haf 2024.

Yn ogystal â'n rhaglen ddatblygu ein hunain, mae datblygiadau ein partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan gynnwys partneriaid newydd yn ymuno â ni. 

Rydym yn parhau i gynyddu’r cyflenwad tai drwy ein caffaeliadau a Chynllun Lesio Llywodraeth Cymru. 

 

Adolygu’r polisi dyraniadau

Cafodd polisi dyraniadau presennol Cartrefi Dewisedig Sir Benfro ei ddrafftio yn 2014 ac nid yw bellach yn adlewyrchu'r pwysau yr ydym yn eu hwynebu ym maes tai, gyda chynnydd yn nifer y rhai digartref a'r nifer ar y gofrestr tai cymdeithasol. O ganlyniad i’r pandemig a’r argyfwng costau byw, a diffyg hygyrchedd y sector rhentu preifat, rydym yn gweld mwy o bobl yn troi at dai cymdeithasol a fyddai fel arfer yn cael llety yn y sector preifat.  Mae’r polisi dyraniadau wedi’i adolygu a’i ddiweddaru er mwyn caniatáu ar gyfer dyraniadau mwy deinamig a hyblyg mewn tai cymdeithasol, gyda’r nod o leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein cofrestr.

Y newid mwyaf a gynigir yw ‘cau’ y gofrestr i’r rhai o’r tu allan i’r sir. Ar hyn o bryd, gall unrhyw un ymuno â'r gofrestr tai cymdeithasol a chael eiddo. Gyda’r newidiadau newydd, rhaid i ymgeiswyr brofi eu bod wedi bod yn byw yn Sir Benfro am o leiaf pum mlynedd, neu bum mlynedd yn barhaus yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Bydd hyn yn dod â ni yn unol â'n partneriaid rhanbarthol ac yn sicrhau bod yr adnodd prin o dai cymdeithasol yn cael ei neilltuo ar gyfer y rhai yn Sir Benfro sydd â'r angen mwyaf am dai.

ID: 12752, adolygwyd 04/03/2025