Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26
Diweddariad ar flaenoriaethau Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai
Blaenoriaeth 1: Cryfhau gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal a chymorth arbenigol i atal digartrefedd
Amlygwyd gwasanaeth cyfryngu / datrys anghydfod fel bwlch yn ein darpariaeth gwasanaeth yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai, gyda pherthnasoedd yn torri i lawr a rhieni yn troi eu plant allan ill dau yn rhesymau cyffredin am fod yn ddigartref. Ers hynny, rydym wedi datblygu gwasanaeth peilot, a ddyfarnwyd i The Wallich, a fydd yn cynnwys cymorth i'r rhai sy'n profi chwalfa deuluol, anghydfod rhwng cymdogion, neu anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid, gyda'r nod o leihau nifer y rhai sy’n dod yn ddigartref.
Dyfarnwyd gwasanaeth allgymorth grymusol ar gyfer digartrefedd ar y stryd i The Wallich yn 2023, gyda’r nod o gael gwasanaeth hyblyg saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys yn gynnar yn y bore, gyda’r nos, a dros y penwythnos, er mwyn diwallu anghenion y rhai sy’n ddigartref ar y stryd. Bydd gwaith partneriaeth gyda’r bwrdd iechyd lleol a chymorth nyrsys cyswllt alcohol a nyrsys imiwneiddio i sicrhau bod y rhai sy’n cysgu allan yn gallu cael gwell mynediad at y gwasanaethau iechyd hanfodol hyn. Mae’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth hwn a’r wybodaeth leol a gesglir yn llywio’r data a gesglir gan yr awdurdod lleol bob mis, ar gyfer datganiadau a wneir i Lywodraeth Cymru a dangosyddion perfformiad mewnol. Dechreuwyd gweithredu’r gwasanaeth hwn ddiwedd 2023.
Amlygodd Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai yr angen am gynnig gwell ar gyfer cymorth cam-drin domestig yn Sir Benfro, fel y dangosir gan y cynnydd o 210.8% mewn ceisiadau digartrefedd oherwydd tor-perthynas dreisgar rhwng 2017/18 a 2022/23. Yn gynnar yn 2023, dyfarnwyd ein gwasanaeth cam-drin domestig i Wasanaeth Cam-drin Domestig Sir Benfro ar gyfer cymorth lle bo’r angen a llety â chymorth, gan gynnwys y lloches. Roedd yr un gwasanaeth hwn yn ymgorffori’r gwasanaethau cam-drin domestig a oedd ar wahân yn flaenorol mewn pecyn cryfach a mwy cynhwysfawr. Partneriaeth Calan/Threshold yw Gwasanaeth Cam-drin Domestig Sir Benfro ac felly bydd ganddo gysylltiadau agos â'r Gwasanaeth Cyngor Annibynnol ar Drais Domestig gan mai dyma ddau o'r pum gwasanaeth yn y bartneriaeth Dal i Godi a enillodd gontract y Gwasanaeth Cyngor Annibynnol ar Drais Domestig ar gyfer Dyfed–Powys. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn darparu ystod ehangach o gymorth, gan gynnwys cymorth trais rhywiol mwy arbenigol, cymorth i bobl LHDTC+, a chymorth i ddioddefwyr / goroeswyr gwrywaidd. Dechreuwyd gweithredu’r gwasanaeth hwn ddiwedd 2023.
Rydym wedi datblygu gwasanaeth cymorth lle bo'r angen i bobl hŷn am 18 mis i ddechrau. Yn flaenorol, roedd cymorth i bobl hŷn yn Sir Benfro wedi’i gyfyngu i’r rhai mewn rhai o’n llety â chymorth a thynnwyd sylw at fwlch ar gyfer y rhai sydd angen cymorth i aros yn eu cartrefi eu hunain. Dyfarnwyd y gwasanaeth hwn i Age Cymru Dyfed a bydd yn darparu cymorth lle bo’r angen sy'n ymwneud â thai i’r rhai sydd â phob math o ddeiliadaeth. Fel rhan o'r gwasanaeth hwn, mae cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer dadansoddiad cynhwysfawr o anghenion cymorth pobl hŷn yn Sir Benfro ac i ddrafftio adroddiad a fydd yn llywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau pobl hŷn yn Sir Benfro yn y dyfodol. Wrth sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai sydd â phob math o ddeiliadaeth, ein nod yw cadw pobl yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac atal ymyriadau mwy costus drwy’r llwybr digartrefedd neu ofal cymdeithasol.
Yn 2023, rhoddwyd cynllun peilot ar waith ar gyfer gwasanaeth clirio annibendod, gyda’r nod o lywio ein dull gweithredu mewn perthynas â chelcio. Roedd cyfyngiadau meini prawf cymhwystra’r Grant Cymorth Tai yn golygu, er bod y peilot hwn wedi rhoi darlun i ni o raddfa’r broblem gelcio, ei bod yn anodd darparu lefel y cymorth i’r rhai ar ben mwyaf eithafol y raddfa. Fel rhan o'r peilot hwn, datblygwyd adroddiad gwerthuso a fydd yn llywio unrhyw wasanaethau yn y dyfodol. Er bod meini prawf y Grant Cymorth Tai wedi'u llacio ychydig yn ddiweddar, mae gwasanaeth celcio priodol yn parhau i fod yn fwlch yn ein darpariaeth gwasanaeth. Bydd angen mewnbwn amlasiantaeth gan sefydliadau megis gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau tai, gwasanaeth iechyd yr amgylchedd, a'r gwasanaeth tân i ddylunio unrhyw wasanaeth o'r fath.
Mae ein gwasanaeth ieuenctid a ariennir gan y Grant Cymorth Tai yn parhau i gyflwyno rhaglen sgiliau tenantiaeth er mwyn cefnogi cynaliadwyedd tenantiaeth i bobl rhwng 16 a 25 oed ac mae hefyd yn darparu ymyrraeth gynnar a chymorth atal trwy weithdai mewn ysgolion a cholegau ledled Sir Benfro. Yn 2024, mae nifer y lleoedd yn ein llety â chymorth ar gyfer pobl ifanc wedi cynyddu o chwech i saith, a chomisiynwyd eiddo arall ar y cyd â’r gymdeithas dai ateb. Bydd pedwar o'r lleoedd hyn ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ar ôl i hyn gael ei amlygu fel bwlch.
Blaenoriaeth 2: Sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael mynediad i’r cartref iawn ar yr amser iawn, fel rhan o’n dull ailgartrefu cyflym
Mae darparwr gwasanaeth newydd, NACRO, wedi cymryd y gwaith o ddarparu cymorth yn ein llety brys yn Silverdale Lodge. Fel rhan o ddarpariaeth y gwasanaeth hwn, mae gweithiwr allgymorth bellach ar gael i ddarparu cymorth i'r rhai mewn llety dros dro arall fel y podiau a'r lleoliadau gwely a brecwast. O ganlyniad i hyn, rydym yn medru mapio’n fwy cywir anghenion cymorth y rhai mewn llety dros dro ac yn darparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir. Gyda’r holl wasanaethau cymorth yn cysylltu â’r Porth, rydym hefyd yn sicrhau bod gennym ddarlun cyflawn o lefel y cymorth sydd ei hangen ar y rhai yn ein llety dros dro er mwyn sicrhau bod tenantiaethau’n cael eu cynnal mewn unrhyw ddyraniad llety parhaol newydd.
Amlygwyd cynyddu mynediad i'r sector rhentu preifat fel blaenoriaeth oherwydd anfforddiadwyedd ac anhygyrchedd y sector rhentu preifat yn Sir Benfro. Roedd hyn o ganlyniad i rewi cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol ar ddechrau’r pandemig a gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a arweiniodd at lawer o landlordiaid preifat yn gadael y farchnad. Mae argaeledd tai yn Sir Benfro wedi crebachu heb allu dibynnu ar yr elfen hon o’r sector. Rydym wedi lansio Cynllun Lesio Cymru, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru lle gall landlordiaid preifat yn y bôn fenthyca eu heiddo i’r awdurdod lleol am gyfnod penodol o amser. Mae’r awdurdod lleol yn cymryd drosodd yr holl waith sy’n ymwneud â’r eiddo ac unrhyw ddyraniadau a wneir iddo ac mae’r landlord preifat yn cael incwm gwarantedig am gyfnod y cynllun ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd fforwm landlordiaid lle gallai landlordiaid lleol rwydweithio.
Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy gyda datblygiadau yn Old School Lane yn Johnston a Tudor Place yn Tiers Cross. Ar ôl oedi sylweddol am resymau y tu hwnt i'n rheolaeth, cwblhawyd camau 1 a 2 o safle datblygu newydd Old School Lane. Mae dyraniadau wedi'u gwneud ac yn gynnar yn 2024 dechreuodd pobl symud i mewn i’r safle. Disgwylir i Tudor Place gael ei gwblhau ddechrau haf 2024.
Mae polisi dyraniadau Cartrefi Dewisedig Sir Benfro wedi’i adolygu a’i ddiweddaru. Rhoddwyd y polisi presennol ar waith ddeng mlynedd yn ôl ac nid yw’n adlewyrchu’r pwysau presennol sy’n ein hwynebu. Ers y pandemig, rydym wedi gweld niferoedd digynsail ar y gofrestr tai cymdeithasol a chynnydd sylweddol yn nifer y rhai sydd wedi dod yn ddigartref. Nod y newidiadau arfaethedig yw lleddfu rhywfaint ar y pwysau ar y sector tai a chynyddu symudiad yn y gofrestr, gan ganiatáu ar gyfer dull mwy hyblyg a deinamig o ddyrannu tai cymdeithasol. Mae'r polisi dyraniadau newydd wedi'i gymeradwyo gan y cabinet a'i gytuno gyda'n partneriaid ymhlith landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Bydd gwaith yn cael ei wneud drwy gydol 2024 er mwyn gweithredu’r polisi newydd yn llawn yn 2025.
Er y bu'n anodd lleihau nifer y rhai mewn lleoliadau gwely a brecwast oherwydd y prinder dybryd o dai, y nod gyda'r polisi dyraniadau newydd yw gwneud dyraniadau mwy deinamig a hyblyg.
Blaenoriaeth 3: Cryfhau gwasanaethau cymorth tai ymhellach
Mae adolygiadau strategol wedi’u cwblhau o’n gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gwasanaethau pobl hŷn ac mae adolygiadau strategol ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer ein gwasanaethau iechyd meddwl i sicrhau bod meini prawf cymhwystra ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn cael eu bodloni. Bydd defnydd effeithlon o’r Grant Cymorth Tai yn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr amser cywir a bydd yn atal ymyriadau mwy costus yn ddiweddarach yn y dyfodol.
Rydym wedi symud oddi wrth wasanaethau cymorth tymor byr, a ariennir gan grant, i wasanaethau mwy hirdymor sy’n seiliedig ar gontractau gydag ymrwymiad ariannu tymor hwy, gan ganiatáu ar gyfer gwell cynllunio a gwell recriwtio a chadw staff.
Rydym wedi canfod a chynnig hyfforddiant i staff a ariennir gan y Grant Cymorth Tai, gan gynnwys ar gyfer datrys anghydfod a chelcio.
Er i’r gwaith gael ei oedi yn ystod y pandemig, rydym yn bwriadu ailgychwyn hyn yn 2024.
Blaenoriaeth 4: Cydweithio i ddarparu cymorth cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag ymyriadau arbenigol effeithiol lle bo angen
Sefydlwyd Grŵp Gweithredol Digartrefedd a Chymorth Tai i sicrhau goruchwyliaeth amlasiantaeth ar gyfer gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a chynllun pontio ailgartrefu cyflym, gyda mewnbwn gan Dai Cyngor Sir Penfro, partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau a gomisiynir gan y Grant Cymorth Tai, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, timau digartrefedd ymysg pobl ifanc, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Gwnaed diwygiadau i'r dogfennau a ddefnyddir gan swyddogion tai er mwyn nodi anghenion cymorth yn y man a’r lle i gwsmeriaid digartref, gan ganiatáu ar gyfer atgyfeiriadau haws i Borth y Grant Cymorth Tai ac i atgyfeiriadau priodol gael eu gwneud ar yr adeg gywir. Mae lle pellach i ymgorffori unrhyw anghenion cymorth yn y ffurflen gais ar gyfer Cartrefi Dewisedig Sir Benfro yn dilyn adolygiad o'r polisi dyraniadau. Bydd gwneud hynny yn nodi'r rhai y mae angen cymorth arnynt yn gynnar, cyn ymgysylltu â gwasanaethau digartrefedd. Bydd gwaith ar y ffurflen gais newydd yn cael ei wneud drwy gydol 2024, gyda’r nod o gwblhau gweithredu’r polisi newydd erbyn 2025.
Bydd y gwasanaeth datrys anghydfod yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Grant Cymorth Tai a’r Grant Cymorth Rhianta, a fydd yn sicrhau ei fod ar gael i’r rhai 14 oed a hŷn, lle mae’r Grant Cymorth Tai yn cyfyngu cymorth i’r rhai 16 oed a hŷn. Bydd y cydweithio hwn yn caniatáu i'r cymorth gael ei ddarparu i ystod ehangach o ddefnyddwyr gwasanaeth gyda'r nod o atal digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Fel rhan o’r Papur Gwyn ar Ddigartrefedd, mae pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth rhwng yr holl wasanaethau cyhoeddus a’r syniad nad rhywbeth sy’n ymwneud â thai yn unig yw digartrefedd. Mae argymhellion yn y Papur Gwyn, pe baent yn cael eu gweithredu, yn cynnwys dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus eraill i nodi risg digartrefedd ac atgyfeirio at wasanaethau tai, gyda dyletswydd ehangach i gydweithredu. Nod y Papur Gwyn yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn perthynas ag atal digartrefedd. Yn Sir Benfro, mae mwy o waith i’w wneud mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn datblygu protocol rhyddhau fel nad oes neb yn cael ei ryddhau heb lety addas. Mae rhywfaint o waith wedi'i wneud gyda’r Tîm Tai Integredig, sef gwasanaeth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai, i geisio cael gweithiwr o’r gwasanaeth yn yr ysbyty. Bydd hyn yn rhan o’r adolygiad strategol a sut y gallwn wella / cryfhau’r cynnig.
Cydweithrediad rhwng timau y Grant Cymorth Tai a thai a’r Gwasanaeth Ieuenctid i gael system well wedi’i hysgogi gan ddata o ddynodwyr cynnar ar gyfer digartrefedd ymysg pobl ifanc.